Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gwynfor Owen. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
y Cynghorydd Gareth Tudor Jones a Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr
Arfon) fuddiant personol yn eitem 7 ar
y rhaglen. Roedd yr aelodau o’r farn
eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd y Cynghorydd Beth Lawton fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2025 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ychwanegu enw’r Cynghorydd Dawn Lynne Jones i’r rhestr o ymddiheuriadau. |
|
|
STRATEGAETH YSGOLION I graffu ar y Strategaeth Ysgolion 2026 – 2036 ddrafft. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y ddogfen ddrafft gerbron yn
cwmpasu gweledigaeth yr adran addysg ar ran yr ysgolion dros y blynyddoedd
nesaf. Nodwyd bod y strategaeth flaenorol bellach wedi dyddio ac yn dod i ben
yn 2025, a bod angen ei diweddaru oherwydd newidiadau sylweddol dros y cyfnod.
Eglurwyd bod y ddogfen yn ceisio adlewyrchu’r ffaith bod yr heriau sy’n
wynebu’r sir wedi newid ac yn dwysáu, gan nodi bod y strategaeth yn cyfeirio at
effeithiau toriadau, heriau recriwtio a bygythiad newidiadau demograffig
pellgyrhaeddol ar draws y sir. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
-
Bod awdit wedi’i gynnal i geisio cael ysgolion
cost-gyfeillgar. -
Bod data wedi’i gasglu ynghylch y mater hwn ac y
bydd yn cael ei rannu gydag ysgolion o fewn y mis er mwyn galluogi ysgolion i
ymateb a chyfarch yr heriau, ac i uchafu’r mater a’i roi ar flaen y rhestr
flaenoriaethau. -
Bod yr adran yn cydnabod bod profiadau plant o
gefndiroedd difreintiedig yn waeth o lawer os nad ydynt yn cael eu cefnogi
drwy’r ysgolion. -
Bod lle i roi pennawd penodol o ran plant sy’n
agored i dlodi, a sylw i sut y dylid cyfarch anghenion plant o gefndiroedd
difreintiedig, i ba raddau mae’r trefniadau presennol yn cyfarch hyn a sut y
byddai newid y trefniadau yn gwella’r sefyllfa. -
Bod llawer o grantiau yn cael eu rhoi i ysgolion i
gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig, ond o dan y trefniadau presennol
mae’n ofynnol i benaethiaid a chyrff llywodraethol ddefnyddio arian ychwanegol
ar ffurf grant i gefnogi pawb, nid o reidrwydd targedu unigolion, gan fod y
sefyllfa’n anodd ar y cyfan. Mynegwyd
balchder gweld y mater o ddiogelu yn cael ei gyfarch o fewn y strategaeth.
Mynegwyd barn y dylai diogelu fod yn uwch o fewn y strategaeth na phennawd
pedwar, o ystyried pwysigrwydd diogelu. Holwyd sut mae adroddiad ‘Cyfiawnder
trwy ein Dewrder’ wedi siapio’r strategaeth. Mewn ymateb, cytunwyd bod diogelu
yn fater hynod bwysig. Nodwyd nad oedd y rhestr yn adlewyrchu unrhyw drefn
blaenoriaeth. Cydnabuwyd bod lle i newid trefn y strategaeth er mwyn rhoi
diogelu ar frig y rhestr. Cadarnhawyd bod y drafft hwn o’r Strategaeth Ysgolion wedi ei lunio cyn cyhoeddi’r adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’. O ran y dysgu o’r Adolygiad Ymarfer Plant, pwysleisiwyd yr angen i’r awdurdod a’r tîm diogelu a llesiant roi fwy o gefnogaeth i’r ysgolion. Pwysleisiwyd ymhellach yr her sy’n bodoli i’r adran gefnogi 94 o ysgolion o bob maint. Nodwyd bod nifer o ysgolion yn disgyn i gategorïau llai o ran maint, sy’n arwain at lai o adnoddau a chyllideb. Pwysleisiwyd bod angen mwy o adnoddau ar gyfer gwella’r gefnogaeth i’r ysgolion. Nodwyd bod modd, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, edrych ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
• ystyried cynnal ymarferiad i ganfod pam nad
yw cymaint o blant yn manteisio ar ginio ysgol am ddim. • ystyried a oes ffyrdd o roi gwybodaeth i
lywodraethwyr ynglŷn â sut i holi mewn cyfarfodydd cyrff llywodraethol
ysgolion yn effeithiol. • sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i
osgoi dad-gofrestru yn ein hysgolion. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Cwestiynwyd
a oes bwriad datblygu lleoliadau llai neu ddarpariaeth fwy pwrpasol ar gyfer
dysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn trefniadau prif lif oherwydd
niwroamrywiaeth, iechyd meddwl neu gorbryder.
Cwestiynwyd a oes modd cyfuno unrhyw unedau o’r fath gyda safleoedd ysgolion
llai sy’n wynebu heriau o ran niferoedd. Mewn ymateb, nodwyd:- -
Bod cynhwysiant yn egwyddor graidd, ac nad oedd y
weledigaeth yn golygu symud dysgwyr i unedau ar wahân fel ateb awtomatig. -
Mai’r man cychwyn oedd cryfhau capasiti ysgolion
prif lif a addasu’r ddarpariaeth, gyda lefelau staffio priodol a hyfforddiant
er mwyn gallu darparu cefnogaeth effeithiol. -
Bod angen mwy o adnoddau er mwyn addasu ysgolion
prif lif i’w gwneud yn addas ar gyfer plant o bob gallu. -
Bod hi’n dod yn anoddach cefnogi plant o bob angen
o fewn ysgolion prif lif am amryw o resymau, megis anghenion sy’n fwyfwy dwys. -
Bod costau cludiant a phrofiad y plentyn o ran
cymysgu gydag eraill yn ffactorau pwysig wrth ystyried darpariaeth ar wahân. Cwestiynwyd
pam nad oedd cyfeiriad amlwg at yr adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ o
fewn y ddogfen gerbron, gan nodi mai dyma’r cyfarfod craffu addysg ac economi
cyntaf ers cyhoeddi’r adroddiad ac y gallai’r diffyg cyfeiriad beri pryder i’r
cyhoedd. Mewn ymateb, nodwyd:- -
Bod ymateb i’r adroddiad yn cymryd dros 80 y cant o
amser yr adran ar hyn o bryd, gyda ffocws dros sawl tîm i ymateb i’r adroddiad. -
Bod pethau eraill y mae’r adran yn eu gwneud ar yr
un pryd gyda’r un lefel o adnoddau, ei gwneud yn gynyddol heriol i’w cyflawni. -
Bod adnoddau ychwanegol wedi’u sicrhau ar gyfer
ymateb i’r adroddiad a bod trefniadau adrodd i’r Bwrdd Rhaglen, gyda chraffu
pellach ar waith y Bwrdd Rhaglen i ddigwydd yn fuan. -
Bod angen sicrhau bod y gwaith ymateb yn fwy
gweladwy o fewn adroddiadau ffurfiol. -
Bod cyfle i’r Pwyllgor drafod yr ymateb i’r
adroddiad yn llawn yn gynnar yn Ionawr 2026. Cwestiynwyd
ynghylch y cynnydd mewn addysg yn y cartref ers y pandemig, gan fynegi pryder
am ddiogelu ac am sut y gellid sicrhau bod plant yn derbyn addysg addas.
Chodwyd y posibilrwydd y gallai’r duedd barhau i gynyddu. Mewn ymateb, nodwyd:- -
Bod y cynnydd yn lefelau dadgofrestru yn duedd
genedlaethol a bod sefyllfa Gwynedd yn debyg i’r canolrif yn genedlaethol. - Bod newid yn y contract ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ECONOMI Adroddiad
i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Economi. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi, ers ym mis Mehefin,
bod y gwasanaethau yn parhau i wneud cynnydd da tuag at dargedau a phrosiectau
blaenoriaeth y Cyngor o fewn ei bortffolio. Nodwyd bod nifer o’r prosiectau ar
y trywydd iawn i gyflawni canlyniadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd
bod gwaith ar y cyd wedi bod yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau
lleol cyfagos i baratoi adroddiad ar gyfer ymgynghori i gyflwyno ac i sefydlu
ardoll twristiaeth o fis Mawrth 2026 ymlaen. Nodwyd y bwriad i gynnal
trafodaeth fanylach gyda’r Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror ar ôl asesu effaith
unrhyw gynnig ar economi a chymunedau Gwynedd. Nodwyd bod lefelau boddhad
cwsmeriaid gyda gwasanaethau llyfrgelloedd ac archifau yn parhau’n uchel, a
nodwyd bod grantiau hyd at £300,000 wedi’u cynnig i 69 o sefydliadau ledled
Gwynedd i hyrwyddo diwylliant a digwyddiadau. Nodwyd bod gwasanaethau adfywio a
chefnogaeth gymunedol wedi sicrhau buddsoddiad o £9.8m ar gyfer prosiectau
amrywiol ar draws y sir, a nodwyd bod £370,000 wedi’i ddyrannu drwy gynllun
peilot cronfeydd cynghorau tref a chymuned o dan amserlen dynn gan y
Llywodraeth. Nodwyd bod 55 o gynghorau wedi ymateb i’r cynllun, a nodwyd
gobaith y byddai’r gronfa ar gael eto yn 2026-27 gyda mwy o rybudd i gynghorau
allu ymateb. Nodwyd
bod Wythnos Busnes Gwynedd ym mis Hydref wedi rhoi cyfle i wrando ar faterion
sy’n bwysig i fusnesau yn ystod cyfnod economaidd heriol ac i ddathlu
llwyddiannau busnesau mawr a bach. Nodwyd bod £900,000 wedi’i ddyrannu mewn
grantiau i fusnesau, a nodwyd y byddai’r rownd nesaf yn cael ei chyhoeddi yr
wythnos ganlynol. Nodwyd bod gwaith cefnogi cyflogaeth wedi cynorthwyo 48 o
bobl yng Ngwynedd i oresgyn rhwystrau i waith. Nodwyd bod Llywodraeth y Deyrnas
Unedig (DU) wedi cyhoeddi bod cais Parth Deallusrwydd Artiffisial Gogledd Cymru
wedi bod yn llwyddiannus a bod safle Trawsfynydd wedi’i enwi fel rhan o’r cais.
Yn ddibynnol ar sicrhau caniatâd cynllunio, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig yr
un buddion i’r safle â’r safleoedd porthladd rhydd ym Môn. Nodwyd bod y
datblygiad hwn yn rhoi hwb i ddatblygu’r parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd.
Nodwyd y gobaith i gyflwyno manylion yr achos busnes i’r Pwyllgor yn y flwyddyn
newydd. Nodwyd
bod cynnydd da wedi’i wneud gyda datblygiadau Parc Padarn a bod canolfan groeso
wedi’i chwblhau, ond bod gostyngiad yn nifer y defnyddwyr Byw’n Iach yn peri
pryder. Nodwyd bod Bwrdd Byw’n Iach yn ymateb yn rhagweithiol drwy addasu’r
cyfleusterau a’r cynnig. Nodwyd bod lleihad yn nifer y plant sy’n cael gwersi
nofio trwy’r ysgol yn parhau i gyfrannu at ostyngiad cyffredinol, a nodwyd bod
gwaith ar y cyd gyda Byw’n Iach a’r Adran Addysg yn parhau i annog ysgolion a
phlant i fynychu, gan nodi bod cynnydd bychan wedi’i weld yn ystod y misoedd
diweddar. Diolchwyd i staff morwrol a’r harbyrau am weithio’n galed drwy
stormydd y gaeaf er mwyn sicrhau bod arfordiroedd a phorthladdoedd y sir yn
ddiogel. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
|
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CYLLID Adroddiad
i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet Cyllid yr adroddiad, gan dynnu sylw at y dangosyddion coch ac ambr.
Nodwyd bod un mesur o fewn y Gwasanaeth Incwm yn parhau yn y categori coch, sef
balans gwerth dyledion amrywiol dros chwe mis oed ar ddiwedd Hydref 2025, a
nodwyd bod y ffigwr ychydig o dan £3.2m. Ymhelaethwyd bod hyn yn gynnydd o
£1.377m ers diwedd y mis blaenorol a bod £1.2m o’r cynnydd hwnnw yn deillio o
ddyledion gan y Bwrdd Iechyd ac awdurdod lleol arall. Nodwyd bod dyled yr
awdurdod lleol arall wedi deillio o gamgymeriad gweinyddol o fewn y Cyngor pan
roddwyd rhif archeb anghywir ar anfoneb. Cadarnhawyd bod y mater hwn wedi’i
ddatrys a bod y ddyled wedi’i thalu. Nodwyd
bod dyled y Bwrdd Iechyd yn parhau yn her a bod y gwasanaeth oedolion mewn
trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd gyda’r gobaith y byddai’r ddyled yn gostwng.
Tynnwyd sylw at fesurydd perfformiad ‘Cyfradd casglu Treth Cyngor y flwyddyn
gyfredol’ y gwasanaeth casglu trethi a oedd yn adrodd yn ambr gan nodi bod y
gwasanaeth wedi wynebu problemau sylweddol oherwydd niferoedd staff ar salwch
tymor hir. Ymhelaethwyd bod y sefyllfa’n gwella a bod y gwasanaeth yn ymddangos
fel pe bai wedi troi cornel ac yn dod yn ôl ar y trywydd iawn. Mynegwyd pryder
bod cyfraddau casglu treth gyngor ac annomestig yn is yng Ngwynedd nag yn
hanesyddol ac o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, ond nodwyd amheuaeth
a oedd y ffordd yr oedd yr ystadegau’n cael eu hadrodd yn adlewyrchu’r darlun
llawn. Nodwyd, o’r wybodaeth fewnol, bod cyfradd casglu sylfaenol y dreth
gyngor yn weddol normal, ond nodwyd bod y diffygion yn ymwneud yn bennaf â
chasglu’r premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Pwysleisiwyd bod hyn yn gallu altro’r ffigurau ar y cyfan. Nodwyd y bwriad i
edrych ar y mater dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf er mwyn rhoi darlun mwy
cytbwys o’r sefyllfa. Nodwyd,
o ran y Cynllun Digidol, bod y gwaith yn symud ymlaen yn dda, ond nodwyd pryder
penodol ynghylch y risgiau yn ymwneud â chostau trwyddedu meddalwedd, yn
enwedig o ystyried y defnydd cynyddol disgwyliedig o ddeallusrwydd artiffisial.
Nodwyd disgwyliad ehangach o fewn y sector technoleg gwybodaeth y gallai
prisiau godi ar ôl i ddefnydd sefydlogi, a nodwyd bod hyn yn fater y byddai’r
gwasanaeth yn cadw llygad barcud arno yn y dyfodol. Nododd
y Pennaeth Cyllid ei fod yn fodlon gyda pherfformiad cyffredinol yr adran, er
bod ychydig o heriau i’w gweld mewn rhai gwasanaethau. Pwysleisiwyd bod
cynlluniau ar waith i ymdrin â’r heriau hynny gyda’r gobaith y byddai
canlyniadau gwell yn dilyn yn fuan. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Holwyd
ynghylch dyled y Bwrdd Iechyd. Cwestiynwyd a oedd y broblem yn deillio o
wrthdaro ynghylch anfonebu neu gytundebau dyled, neu a oedd yn adlewyrchu
prosesau gwael neu oedi talu. Mewn ymateb, nodwyd:- -
Bod y broblem wedi bodoli ers blynyddoedd. - Bod elfen o oedi yn gysylltiedig â systemau, ond hefyd bod mwyafrif y dyledion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |