Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gwynfor Owen.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Tudor Jones a Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen. Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Cynghorydd Beth Lawton fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 233 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2025 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ychwanegu enw’r Cynghorydd Dawn Lynne Jones i’r rhestr o ymddiheuriadau.

5.

STRATEGAETH YSGOLION pdf eicon PDF 183 KB

I graffu ar y Strategaeth Ysgolion 2026 – 2036 ddrafft.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Croesawu’r strategaeth a derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor Craffu yn argymell i’r Aelod Cabinet Addysg fod angen cynnwys gwybodaeth bellach am ddiogelu, tlodi, tegwch cymdeithasol, ysgolion ffydd, mynediad i lais rhieni, cynhwysiad, y Gymraeg, lles staff a llywodraethiant yn y Strategaeth Ysgolion.
  3. Bod gwybodaeth am y Gwasanaeth Cefnogaeth Ysgolion yn cael ei dosbarthu i’r aelodau.
  4. Gofyn i’r Adran Addysg sicrhau bod diogelu yn cael ei integreiddio i gynllunio’r adran.
  5. Bod y Cabinet yn ymwybodol o bwysigrwydd lles staff i ddenu a chadw staff ac yn gwneud yr hyn sy’n bosibl i hyrwyddo lles ac amodau ffafriol.
  6. Gofyn i’r Adran Addysg roi ystyriaeth lawn i argymhellion newydd Llywodraeth Cymru ynglŷn â llywodraethiant pan ddaw’r rhain i law.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y ddogfen ddrafft gerbron yn cwmpasu gweledigaeth yr adran addysg ar ran yr ysgolion dros y blynyddoedd nesaf. Nodwyd bod y strategaeth flaenorol bellach wedi dyddio ac yn dod i ben yn 2025, a bod angen ei diweddaru oherwydd newidiadau sylweddol dros y cyfnod. Eglurwyd bod y ddogfen yn ceisio adlewyrchu’r ffaith bod yr heriau sy’n wynebu’r sir wedi newid ac yn dwysáu, gan nodi bod y strategaeth yn cyfeirio at effeithiau toriadau, heriau recriwtio a bygythiad newidiadau demograffig pellgyrhaeddol ar draws y sir.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-


Diolchwyd am y cyflwyniad. Holwyd am fwy o fanylion ynghylch sut mae heriau plant sy’n agored i dlodi yn mynd i gael ystyriaeth o fewn y strategaeth, gan bwysleisio pwysigrwydd bod y cohort hwn yn cael llais o fewn y strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod awdit wedi’i gynnal i geisio cael ysgolion cost-gyfeillgar.

-        Bod data wedi’i gasglu ynghylch y mater hwn ac y bydd yn cael ei rannu gydag ysgolion o fewn y mis er mwyn galluogi ysgolion i ymateb a chyfarch yr heriau, ac i uchafu’r mater a’i roi ar flaen y rhestr flaenoriaethau.

-        Bod yr adran yn cydnabod bod profiadau plant o gefndiroedd difreintiedig yn waeth o lawer os nad ydynt yn cael eu cefnogi drwy’r ysgolion.

-        Bod lle i roi pennawd penodol o ran plant sy’n agored i dlodi, a sylw i sut y dylid cyfarch anghenion plant o gefndiroedd difreintiedig, i ba raddau mae’r trefniadau presennol yn cyfarch hyn a sut y byddai newid y trefniadau yn gwella’r sefyllfa.

-        Bod llawer o grantiau yn cael eu rhoi i ysgolion i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig, ond o dan y trefniadau presennol mae’n ofynnol i benaethiaid a chyrff llywodraethol ddefnyddio arian ychwanegol ar ffurf grant i gefnogi pawb, nid o reidrwydd targedu unigolion, gan fod y sefyllfa’n anodd ar y cyfan.

Mynegwyd balchder gweld y mater o ddiogelu yn cael ei gyfarch o fewn y strategaeth. Mynegwyd barn y dylai diogelu fod yn uwch o fewn y strategaeth na phennawd pedwar, o ystyried pwysigrwydd diogelu. Holwyd sut mae adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ wedi siapio’r strategaeth. Mewn ymateb, cytunwyd bod diogelu yn fater hynod bwysig. Nodwyd nad oedd y rhestr yn adlewyrchu unrhyw drefn blaenoriaeth. Cydnabuwyd bod lle i newid trefn y strategaeth er mwyn rhoi diogelu ar frig y rhestr.

Cadarnhawyd bod y drafft hwn o’r Strategaeth Ysgolion wedi ei lunio cyn cyhoeddi’r adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’. O ran y dysgu o’r Adolygiad Ymarfer Plant, pwysleisiwyd yr angen i’r awdurdod a’r tîm diogelu a llesiant roi fwy o gefnogaeth i’r ysgolion. Pwysleisiwyd ymhellach yr her sy’n bodoli i’r adran gefnogi 94 o ysgolion o bob maint. Nodwyd bod nifer o ysgolion yn disgyn i gategorïau llai o ran maint, sy’n arwain at lai o adnoddau a chyllideb. Pwysleisiwyd bod angen mwy o adnoddau ar gyfer gwella’r gefnogaeth i’r ysgolion. Nodwyd bod modd, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, edrych  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG pdf eicon PDF 172 KB

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cwestiynau ar ddysgu o adra, dad-gofrestru, defnydd o unedau, cinio ysgol, trefniadau monitro, clybiau ieuenctid a diogelu.
  2. Nodi pwysigrwydd rhoi proffil uchel i ddiogelu mewn dogfennaeth er pwrpas rhoi cysur i’r cyhoedd, a bod y mater yn cael ei flaenoriaethu gan yr awdurdod.
  3. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg i:

    ystyried cynnal ymarferiad i ganfod pam nad yw cymaint o blant yn manteisio ar ginio ysgol am ddim.

    ystyried a oes ffyrdd o roi gwybodaeth i lywodraethwyr ynglŷn â sut i holi mewn cyfarfodydd cyrff llywodraethol ysgolion yn effeithiol.

    sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i osgoi dad-gofrestru yn ein hysgolion.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-


Holwyd ynghylch data’r Gyfundrefn Drochi, yn benodol faint sy’n dechrau’r cwrs 10 wythnos ond nad ydynt yn ei gwblhau. Gofynnwyd am ddata ynghylch faint sy’n tynnu’n ôl o’r broses a faint o geisiadau sy’n cael eu gwrthod, gan nodi y byddai hynny’n rhoi darlun mwy cyflawn na’r wybodaeth bresennol sy’n canolbwyntio ar lefel y sgiliau ar ddiwedd y cwrs. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r data yn cael ei ddarparu ac nad oedd tystiolaeth ar hyn o bryd fod tynnu’n ôl yn broblem fawr, ond cydnabuwyd y gallai amgylchiadau unigol amrywio.

Cwestiynwyd a oes bwriad datblygu lleoliadau llai neu ddarpariaeth fwy pwrpasol ar gyfer dysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn trefniadau prif lif oherwydd niwroamrywiaeth, iechyd meddwl neu gorbryder. Cwestiynwyd a oes modd cyfuno unrhyw unedau o’r fath gyda safleoedd ysgolion llai sy’n wynebu heriau o ran niferoedd. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod cynhwysiant yn egwyddor graidd, ac nad oedd y weledigaeth yn golygu symud dysgwyr i unedau ar wahân fel ateb awtomatig.

-        Mai’r man cychwyn oedd cryfhau capasiti ysgolion prif lif a addasu’r ddarpariaeth, gyda lefelau staffio priodol a hyfforddiant er mwyn gallu darparu cefnogaeth effeithiol.

-        Bod angen mwy o adnoddau er mwyn addasu ysgolion prif lif i’w gwneud yn addas ar gyfer plant o bob gallu.

-        Bod hi’n dod yn anoddach cefnogi plant o bob angen o fewn ysgolion prif lif am amryw o resymau, megis anghenion sy’n fwyfwy dwys.

-        Bod costau cludiant a phrofiad y plentyn o ran cymysgu gydag eraill yn ffactorau pwysig wrth ystyried darpariaeth ar wahân.

Cwestiynwyd pam nad oedd cyfeiriad amlwg at yr adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ o fewn y ddogfen gerbron, gan nodi mai dyma’r cyfarfod craffu addysg ac economi cyntaf ers cyhoeddi’r adroddiad ac y gallai’r diffyg cyfeiriad beri pryder i’r cyhoedd. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod ymateb i’r adroddiad yn cymryd dros 80 y cant o amser yr adran ar hyn o bryd, gyda ffocws dros sawl tîm i ymateb i’r adroddiad.

-        Bod pethau eraill y mae’r adran yn eu gwneud ar yr un pryd gyda’r un lefel o adnoddau, ei gwneud yn gynyddol heriol i’w cyflawni.

-        Bod adnoddau ychwanegol wedi’u sicrhau ar gyfer ymateb i’r adroddiad a bod trefniadau adrodd i’r Bwrdd Rhaglen, gyda chraffu pellach ar waith y Bwrdd Rhaglen i ddigwydd yn fuan.

-        Bod angen sicrhau bod y gwaith ymateb yn fwy gweladwy o fewn adroddiadau ffurfiol.

-        Bod cyfle i’r Pwyllgor drafod yr ymateb i’r adroddiad yn llawn yn gynnar yn Ionawr 2026.

Cwestiynwyd ynghylch y cynnydd mewn addysg yn y cartref ers y pandemig, gan fynegi pryder am ddiogelu ac am sut y gellid sicrhau bod plant yn derbyn addysg addas. Chodwyd y posibilrwydd y gallai’r duedd barhau i gynyddu. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y cynnydd yn lefelau dadgofrestru yn duedd genedlaethol a bod sefyllfa Gwynedd yn debyg i’r canolrif yn genedlaethol.

-        Bod newid yn y contract  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ECONOMI pdf eicon PDF 201 KB

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Economi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned roi grŵp at ei gilydd yn fuan yn y flwyddyn newydd i ystyried yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi, ers ym mis Mehefin, bod y gwasanaethau yn parhau i wneud cynnydd da tuag at dargedau a phrosiectau blaenoriaeth y Cyngor o fewn ei bortffolio. Nodwyd bod nifer o’r prosiectau ar y trywydd iawn i gyflawni canlyniadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Nodwyd bod gwaith ar y cyd wedi bod yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol cyfagos i baratoi adroddiad ar gyfer ymgynghori i gyflwyno ac i sefydlu ardoll twristiaeth o fis Mawrth 2026 ymlaen. Nodwyd y bwriad i gynnal trafodaeth fanylach gyda’r Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror ar ôl asesu effaith unrhyw gynnig ar economi a chymunedau Gwynedd. Nodwyd bod lefelau boddhad cwsmeriaid gyda gwasanaethau llyfrgelloedd ac archifau yn parhau’n uchel, a nodwyd bod grantiau hyd at £300,000 wedi’u cynnig i 69 o sefydliadau ledled Gwynedd i hyrwyddo diwylliant a digwyddiadau. Nodwyd bod gwasanaethau adfywio a chefnogaeth gymunedol wedi sicrhau buddsoddiad o £9.8m ar gyfer prosiectau amrywiol ar draws y sir, a nodwyd bod £370,000 wedi’i ddyrannu drwy gynllun peilot cronfeydd cynghorau tref a chymuned o dan amserlen dynn gan y Llywodraeth. Nodwyd bod 55 o gynghorau wedi ymateb i’r cynllun, a nodwyd gobaith y byddai’r gronfa ar gael eto yn 2026-27 gyda mwy o rybudd i gynghorau allu ymateb.

Nodwyd bod Wythnos Busnes Gwynedd ym mis Hydref wedi rhoi cyfle i wrando ar faterion sy’n bwysig i fusnesau yn ystod cyfnod economaidd heriol ac i ddathlu llwyddiannau busnesau mawr a bach. Nodwyd bod £900,000 wedi’i ddyrannu mewn grantiau i fusnesau, a nodwyd y byddai’r rownd nesaf yn cael ei chyhoeddi yr wythnos ganlynol. Nodwyd bod gwaith cefnogi cyflogaeth wedi cynorthwyo 48 o bobl yng Ngwynedd i oresgyn rhwystrau i waith. Nodwyd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) wedi cyhoeddi bod cais Parth Deallusrwydd Artiffisial Gogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus a bod safle Trawsfynydd wedi’i enwi fel rhan o’r cais. Yn ddibynnol ar sicrhau caniatâd cynllunio, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig yr un buddion i’r safle â’r safleoedd porthladd rhydd ym Môn. Nodwyd bod y datblygiad hwn yn rhoi hwb i ddatblygu’r parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd. Nodwyd y gobaith i gyflwyno manylion yr achos busnes i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

Nodwyd bod cynnydd da wedi’i wneud gyda datblygiadau Parc Padarn a bod canolfan groeso wedi’i chwblhau, ond bod gostyngiad yn nifer y defnyddwyr Byw’n Iach yn peri pryder. Nodwyd bod Bwrdd Byw’n Iach yn ymateb yn rhagweithiol drwy addasu’r cyfleusterau a’r cynnig. Nodwyd bod lleihad yn nifer y plant sy’n cael gwersi nofio trwy’r ysgol yn parhau i gyfrannu at ostyngiad cyffredinol, a nodwyd bod gwaith ar y cyd gyda Byw’n Iach a’r Adran Addysg yn parhau i annog ysgolion a phlant i fynychu, gan nodi bod cynnydd bychan wedi’i weld yn ystod y misoedd diweddar. Diolchwyd i staff morwrol a’r harbyrau am weithio’n galed drwy stormydd y gaeaf er mwyn sicrhau bod arfordiroedd a phorthladdoedd y sir yn ddiogel.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-


Holwyd ynghylch realaeth y rhagolygon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CYLLID pdf eicon PDF 166 KB

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid yr adroddiad, gan dynnu sylw at y dangosyddion coch ac ambr. Nodwyd bod un mesur o fewn y Gwasanaeth Incwm yn parhau yn y categori coch, sef balans gwerth dyledion amrywiol dros chwe mis oed ar ddiwedd Hydref 2025, a nodwyd bod y ffigwr ychydig o dan £3.2m. Ymhelaethwyd bod hyn yn gynnydd o £1.377m ers diwedd y mis blaenorol a bod £1.2m o’r cynnydd hwnnw yn deillio o ddyledion gan y Bwrdd Iechyd ac awdurdod lleol arall. Nodwyd bod dyled yr awdurdod lleol arall wedi deillio o gamgymeriad gweinyddol o fewn y Cyngor pan roddwyd rhif archeb anghywir ar anfoneb. Cadarnhawyd bod y mater hwn wedi’i ddatrys a bod y ddyled wedi’i thalu.

Nodwyd bod dyled y Bwrdd Iechyd yn parhau yn her a bod y gwasanaeth oedolion mewn trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd gyda’r gobaith y byddai’r ddyled yn gostwng. Tynnwyd sylw at fesurydd perfformiad ‘Cyfradd casglu Treth Cyngor y flwyddyn gyfredol’ y gwasanaeth casglu trethi a oedd yn adrodd yn ambr gan nodi bod y gwasanaeth wedi wynebu problemau sylweddol oherwydd niferoedd staff ar salwch tymor hir. Ymhelaethwyd bod y sefyllfa’n gwella a bod y gwasanaeth yn ymddangos fel pe bai wedi troi cornel ac yn dod yn ôl ar y trywydd iawn. Mynegwyd pryder bod cyfraddau casglu treth gyngor ac annomestig yn is yng Ngwynedd nag yn hanesyddol ac o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, ond nodwyd amheuaeth a oedd y ffordd yr oedd yr ystadegau’n cael eu hadrodd yn adlewyrchu’r darlun llawn. Nodwyd, o’r wybodaeth fewnol, bod cyfradd casglu sylfaenol y dreth gyngor yn weddol normal, ond nodwyd bod y diffygion yn ymwneud yn bennaf â chasglu’r premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Pwysleisiwyd bod hyn yn gallu altro’r ffigurau ar y cyfan. Nodwyd y bwriad i edrych ar y mater dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf er mwyn rhoi darlun mwy cytbwys o’r sefyllfa.

Nodwyd, o ran y Cynllun Digidol, bod y gwaith yn symud ymlaen yn dda, ond nodwyd pryder penodol ynghylch y risgiau yn ymwneud â chostau trwyddedu meddalwedd, yn enwedig o ystyried y defnydd cynyddol disgwyliedig o ddeallusrwydd artiffisial. Nodwyd disgwyliad ehangach o fewn y sector technoleg gwybodaeth y gallai prisiau godi ar ôl i ddefnydd sefydlogi, a nodwyd bod hyn yn fater y byddai’r gwasanaeth yn cadw llygad barcud arno yn y dyfodol.

Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn fodlon gyda pherfformiad cyffredinol yr adran, er bod ychydig o heriau i’w gweld mewn rhai gwasanaethau. Pwysleisiwyd bod cynlluniau ar waith i ymdrin â’r heriau hynny gyda’r gobaith y byddai canlyniadau gwell yn dilyn yn fuan.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Holwyd ynghylch dyled y Bwrdd Iechyd. Cwestiynwyd a oedd y broblem yn deillio o wrthdaro ynghylch anfonebu neu gytundebau dyled, neu a oedd yn adlewyrchu prosesau gwael neu oedi talu. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y broblem wedi bodoli ers blynyddoedd.

-        Bod elfen o oedi yn gysylltiedig â systemau, ond hefyd bod mwyafrif y dyledion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.