Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Iwan Huws a Llio Elenid Owen, a hefyd Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 338 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN DIGIDOL - 2023-28 pdf eicon PDF 103 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

 

Croesawyd yr Aelod Cabinet Cyllid, Y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth i’r cyfarfod.

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn cyflwyno’r Cynllun Digidol yn ei ffurf drafft i bwrpas blaen-graffu, ac i dderbyn sylwadau ac adborth ar gynnwys arfaethedig y rhaglen waith.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Digidol a manylodd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth ymhellach ar gynnwys y cynllun.  Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd mai un o argymhellion adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan yn ddiweddar, yn sgil edrych ar y sefyllfa dlodi yn ardal Arfon yn benodol, oedd y dylai Cyngor Gwynedd sicrhau bod yr holl ffurflenni cais am grantiau a lwfansau y mae ganddo bwerau gweinyddol drostynt fod ar gael yn ddigidol.  Nodwyd ei bod yn amlwg o’r gwaith ymchwil hwn, a hefyd o siarad â phobl sy’n wynebu tlodi a’r gwahanol gyrff sy’n eu cefnogi, bod hyn yn broblem, a holwyd a oedd yna gynlluniau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.  Mewn ymateb, cadarnhawyd bod cynnig mwy o ddarpariaeth ddigidol yn rhan o’r Cynllun, ond nad oedd bwriad i wneud i ffwrdd â’r opsiwn o ddefnyddio ffurflenni papur chwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhawyd y byddai’r ffurflenni yn rhai digidol ar-lein, yn hytrach nag yn ddogfennau i’w llawrlwytho.

 

Gan dderbyn y byddai costau cychwynnol sefydlu’r trefniadau newydd yn uchel, holwyd a oedd yr Adran yn ffyddiog y byddai’r systemau newydd yn arbed arian dros amser.  Holwyd hefyd a oedd yr Adran yn fodlon bod pob agwedd o’r digideiddio yn hanfodol, ac nad oedd yna elfennau wedi’u cynnwys am resymau cosmetig.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Na chynhwyswyd unrhyw beth cosmetig ac y canolbwyntiwyd ar y pethau sy’n hanfodol ac a fydd yn gwella’r Cyngor wedi iddynt gael eu gwreiddio. 

·         Y byddai yna waith sylweddol yn digwydd dros y 6 wythnos nesaf i adnabod, nid yn unig y costau, ond y cyfleoedd i wneud arbedion hefyd.

 

Cyfeiriwyd at lythyr a anfonwyd allan gan y Cyngor yn ddiweddar oedd yn cynnig i bobl ymateb drwy fynd ar y wefan, ffonio neu decstio, a mynegwyd pryder bod yr ychydig bobl hynny sydd heb gyfrifiadur na ffôn yn cael eu gadael ar ôl.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y swyddogion angen gwybod am yr enghreifftiau hynny, ond nad oedd y dechnoleg ddigidol yn cael ei chyflwyno ar draul y sianelau eraill, a’r bwriad oedd peidio gadael neb ar ôl.

·         Ei bod yn bwysig cydnabod bod yna bobl sydd angen y sgwrs wyneb yn wyneb o hyd, ac er bod y Cyngor yn dymuno i gymaint â phosib’ o bobl ddefnyddio’r dulliau digidol, nid oedd wedi cau’r elfen bapur, na’r elfen wyneb yn wyneb, i ffwrdd yn llwyr.

 

Awgrymwyd bod technoleg ddigidol yn cynyddu’r pellter rhwng y ddau berson sy’n cyfathrebu â’i gilydd.  Roedd peryg’ o golli golwg ar bethau cig a gwaed wrth i’r datblygiadau yma fynd rhagddynt, ac roedd modd i ddiffyg cydymdeimlad a diffyg dealltwriaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU YSGOLION UWCHRADD CATEGORI 3 GWYNEDD pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno adroddiad yr Ymchwiliad Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(i)     Cymeradwyo adroddiad Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd.

(ii)    Derbyn diweddariad gan yr Aelod Cabinet ar weithrediad fesul argymhelliad yng nghyfarfod 21 Mawrth, 2024.

(iii)  Derbyn bod yr hyn a gyflawnwyd gan yr ymchwiliad yn ateb y gofyn o ran y rhybudd o gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rhys Tudur i’r Cyngor llawn ar 4 Mai, 2023.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, y Pennaeth Addysg, y Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau Corfforaethol, y Pennaeth Cynorthwyol: Uwchradd a’r Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Paul Rowlinson, adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd a gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor craffu ystyried y cynnwys, gwneud sylwadau a gofyn unrhyw gwestiynau perthnasol, gan gynnig unrhyw welliannau a chymeradwyo’r adroddiad.

 

Awgrymodd Cadeirydd yr Ymchwiliad na ddylid trafod yr adran ar GwE mewn manylder, gan y deellid bod GwE yn anghytuno gyda rhai o’r materion a nodwyd, ond pwysleisiwyd bod Argymhelliad 17 yn gofyn am drafodaeth bellach yn unig rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE.

 

Diolchodd Cadeirydd yr Ymchwiliad i’r Tîm Ymchwilio, ac yn enwedig y Swyddog Arweiniol, am eu gwaith, ac i staff, disgyblion a llywodraethwyr y 3 ysgol am roi o’u hamser i gyflwyno’r dystiolaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Ymchwiliad am eu gwaith.  Yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau, cynnig sylwadau, neu gynnig gwelliannau i’r adroddiad.

 

Diolchwyd yn arbennig i ddisgyblion yr ysgolion am eu parodrwydd i siarad yn hynod agored gydag aelodau’r Ymchwiliad. 

 

Pwysleisiwyd bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i sefydliadau sy’n helpu plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg yn gymdeithasol, megis Ffermwyr Ifanc a’r Urdd, a’u cyflwyno mewn modd positif yn yr ysgolion.  Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi colli ei glybiau ieuenctid a bod angen gweld pa gyfleoedd cymdeithasol sydd ar gael i annog y defnydd o’r Gymraeg.

 

Awgrymwyd bod y ffigurau yn Atodiad 5 yn ymddangos yn anhygoel o dda, a holwyd o ble y cafwyd y data.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y data yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod gan yr ysgolion.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach ar yr un mater, cadarnhawyd nad oedd aelodau’r Ymchwiliad wedi herio’r ffigurau mewn unrhyw fanylder, a’u bod wedi derbyn y data a gyflwynwyd gan yr ysgolion.

 

Mynegwyd pryder nad oedd y 3 ysgol a ddewiswyd yn rhoi darlun o’r sefyllfa yn holl ysgolion Gwynedd, gan fod y 3 ohonynt mewn cymunedau cynhennid Gymreig ar y cyfan, ac awgrymwyd bod yna ysgolion eraill yng Ngwynedd fyddai wedi adlewyrchu sefyllfa wahanol iawn.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â gallu rhieni i wrthod addysg Gymraeg i’w plant, a thrwy hynny amddifadu eu plant o’r cyfle i gael gyrfa dda a byw yn yr ardal yn y dyfodol.  Nodwyd hefyd y daeth yn amlwg yn ystod yr Ymchwiliad bod yr ysgolion dan bwysau mawr i gynnig darpariaeth Saesneg, gan fod rhieni yn bygwth symud eu plant i Ysgol Friars neu Ysgol Tywyn (sy’n ysgolion categori 3T) fel arall.  Credid bod angen edrych yn fanylach ar y dylanwad yma ac effaith yr opsiwn o fynd i Ysgol Friars neu Ysgol Tywyn ar ysgolion eraill Gwynedd.  Mynegwyd tristwch nad oedd gan rai rhieni a disgyblion hyder yn ein hiaith, ac awgrymwyd ei bod yn hen bryd i’r Awdurdod Addysg, yr ysgolion a’r penaethiaid wneud safiad cryf iawn a gwrthod i rieni symud eu plant i’r ysgolion categori 3T, a mynnu bod y Gymraeg yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH ADDYSG GWYNEDD TUAG AT 2032 pdf eicon PDF 440 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol: Cynradd yn ychwanegol i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg, ar gais aelodau’r pwyllgor, a gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno sylwadau ar y weledigaeth ac amcanion yr Adran Addysg a nodir yn y Strategaeth Addysg ddrafft tuag at 2023 a thu hwnt, gan hefyd gyflwyno sylwadau ar yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a Llesiant.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

O ran y sylw yn yr adroddiad bod y ddogfen yn un fyw y byddai modd ymweld â hi yn gyson dros gyfnod y Strategaeth, holwyd pa mor hwylus, a beth fyddai’r amserlen ar gyfer cyflwyno unrhyw newidiadau, oherwydd petai’n fater o flynyddoedd, neu’n fater o fisoedd hyd yn oed, ni ellid ei galw’n ddogfen fyw mewn gwirionedd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu yn fewnol yn rheolaidd.

·         Gan fod addysg yn faes lle mae polisïau’n gallu newid yn eithaf cyflym mewn gwahanol feysydd, byddai’r Adran yn ymateb yn gadarnhaol i unrhyw newid drwy fod y ddogfen yn esblygu a newid yn ôl yr angen.

 

Nodwyd nad oedd llawer o sôn am anghenion dysgu ychwanegol yn yr adroddiad, ac eithrio cyfeiriad at y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, a mynegwyd pryder ynglŷn â 3 mater penodol, sef:-

 

·         Strategaeth addysg Gwynedd ar ADY yn y prif lif am y 10 mlynedd nesaf.

·         Gorlenwi yn y ddwy ysgol ADY yng Ngwynedd. 

·         Y nifer o blant yn y prif lif sy’n methu ymdopi â system addysg prif lif.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y Strategaeth Addysg yn strategaeth addysg lefel uchel ar gyfer holl blant y sir a bod y sylw ynglŷn â phlant addysg arbennig sydd ag anghenion ychwanegol a chynhwysiad ymhlyg yn Amcan 3 – iechyd a lles dysgwyr, sy’n cyfeirio at yr holl ddysgwyr.

·         Bod y Strategaeth hefyd yn cyfeirio at y ddyletswydd sydd gan yr Awdurdod i adolygu’r stoc ysgolion yng nghyd-destun ysgolion arbennig, petai angen gwneud hynny.

·         O dan y strategaeth lefel uchel, bod gan yr Awdurdod Strategaeth Moderneiddio Ysgolion ar gyfer Band C fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru maes o law.

·         Bod yna nifer o bolisïau a strategaethau yn yr haenau o dan y strategaeth lefel uchel, ac yno y byddai’r manylder.

 

Mynegwyd y farn nad oedd y Strategaeth, o bosib’, yn ystyried gwaith yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Categori 3 Gwynedd (eitem 6 uchod), gan y bu i aelodau’r Ymchwiliad bwysleisio’r trafferthion sy’n codi yn sgil y pwyslais ar ddwyieithrwydd.  Nodwyd mai ail amcan y Strategaeth oedd ‘Ehangu a chryfhau ein darpariaeth Gymraeg a dwyieithog’, ond na allai ‘dwyieithog’ olygu unrhyw beth heblaw darpariaeth Saesneg yn y cyd-destun hwn, gan fod y Gymraeg eisoes wedi’i chyfarch o fewn yr amcan.  Gan hynny, argymhellwyd y dylid ail-edrych ar y Strategaeth Addysg yng ngoleuni adroddiad yr Ymchwiliad craffu, ac yn benodol o ran sut yr ymdrinnir â dwyieithrwydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod hyn yn enghraifft wych o sut mae’r Strategaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

PRESENOLDEB AC YMDDYGIAD DISGYBLION YSGOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 404 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad a’r Rheolwr Cynhwysiad Adran Addysg i’r cyfarfod yn ychwanegol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn darparu gwybodaeth am lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ar draws ysgolion Gwynedd, gan gynnwys amlinelliad o’r prif resymau dros absenoldebau a gwaharddiadau.  Gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor ystyried os oes angen craffu unrhyw agwedd arall o bresenoldeb a gwaharddiadau, ynghyd ag effaith y ddarpariaeth sydd yn cael ei chynnig i annog gwelliant mewn presenoldeb ac ymddygiad disgyblion Gwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, manylodd y Rheolwr Cynhwysiad ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Holwyd beth oedd yn esbonio’r ffaith bod y problemau ymddygiad a phresenoldeb yn dilyn y pandemig Covid-19 yn parhau, gan y byddai rhywun wedi disgwyl i’r plant ail-ymgyfarwyddo â mynd i’r ysgol wrth i amser fynd yn ei flaen, ac i’r ffigurau ostwng.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod nifer o’r gwaharddiadau yn ymwneud â thrais yn erbyn cyfoedion ac aelodau o staff yr ysgol. 

·         Bod cynnydd sylweddol hefyd mewn defnydd cyffuriau, gyda nifer o blant bellach yn cario cyffuriau i mewn i’r ysgol i’w gwerthu, neu ar gyfer eu defnydd eu hunain.  Nodwyd bod achos ar y funud ble mae gan y Gwasanaeth bryder mawr am un disgybl ym Mlwyddyn 6.

·         Bod pawb wedi disgwyl i’r flwyddyn gyntaf yn dilyn y pandemig fod yn heriol, ond yn anffodus, roedd pethau wedi gwaethygu ers hynny.

 

Holwyd a oedd plant anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan hyn, ac os felly, i ba raddau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y data yn cael ei gasglu’n fisol, gyda swyddog yn cofnodi pob gwaharddiad gan nodi ydyn nhw’n blant ag anghenion ychwanegol, oes ganddyn nhw gynllun datblygu unigol ac ydyn nhw’n blant sy’n cael cinio ysgol am ddim.

·         Nad oedd yna batrwm pendant bod plant yn y categorïau yma, ac roedd rhai o’r plant hefyd yn dod o gefndiroedd na fyddem wedi disgwyl iddynt amlygu’n broblemus o fewn yr ysgolion.

 

Holwyd a oedd yna dystiolaeth bod ymdrechion i wella presenoldeb, drwy lythyru rhieni a gwneud bygythiadau, ac ati, yn arwain at ddisgyblion yn tynnu allan o’r system yn gyfan gwbl.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod nifer y plant sy’n cael eu dadgofrestru wedi cynyddu, a bod hynny, ynddo’i hun, yn bryder i’r Gwasanaeth.

·         Bod gan y Gwasanaeth swyddogion lles sy’n cefnogi teuluoedd.

·         Bod yr Awdurdod yn dirwyo neu’n erlyn rhieni fel y cam olaf yn unig gan na ddymunid arwain at fwy o gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref.

·         Bod gan y Gwasanaeth dîm penodol o fewn yr Adran sy’n edrych ar addysgu o’r cartref ac yn gwirio lleoliadau a chynnydd a safon yr addysg mae’r plant yn derbyn.

 

Nodwyd bod ffigwr gwaharddiadau parhaol Gwynedd yn 2022/23, sef 48, yn frawychus a holwyd beth yn union y bwriadai’r Awdurdod ei wneud yn wahanol i’r gorffennol, ynghyd â beth y bwriedid ei roi mewn lle o’r newydd i sicrhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BLAEN-RAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2023/24 pdf eicon PDF 488 KB

Mabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(i)     Derbyn cais yr Adran Addysg i raglennu eitem ychwanegol ac ail amserlennu rhai eitemau sydd i’w craffu yn ystod 2023/24.

(ii)    Craffu’r eitem Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig yng nghyfarfod Mawrth 2024.

(iii)   Mabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd - blaen raglen y pwyllgor ar gyfer 2023/24.

 

Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried cais gan yr Adran Addysg i raglennu eitem ychwanegol ac ail amserlennu rhai eitemau sydd i’w craffu yn 2023/24, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig wedi’i nodi fel eitem bosib’ i’w rhaglennu yn ystod y flwyddyn, a galwyd am graffu’r eitem yng nghyfarfod Mawrth 2024 yn wyneb rhai o’r sylwadau oedd wedi codi yn ystod y drafodaeth ar y Strategaeth Addysg (eitem 7 uchod).  Mewn ymateb, nodwyd y byddai’n amserol i graffu’r eitem ym mis Mawrth fel bod modd bwydo sylwadau’r craffwyr i mewn i unrhyw raglen fuddsoddi cyfalaf yn y maes yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

(i)        Derbyn cais yr Adran Addysg i raglennu eitem ychwanegol ac ail amserlennu rhai eitemau sydd i’w craffu yn ystod 2023/24.

(ii)       Craffu’r eitem Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig yng nghyfarfod Mawrth 2024.

(iii)      Mabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2023/24.