Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Courtney Leigh Jones E-bost: courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Gofal ar gyfer 2026/27. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Gofal ar gyfer 2026/27. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Sian Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Gofal ar gyfer 2026/27. Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Sian Williams yn Gadeirydd y
Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2026/27. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr: Elin Walker Jones, Geraint Wyn Parry, Jina Gwyrfai, Gareth
Coj Parry, Anwen J. Davies, Beca Roberts, Berwyn Parry-Jones, Gwynfor
Owen. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim I’w
nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 13/01/26, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2026 fel rhai cywir. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DIOGELU Pwrpas yr eitem yw cyflwyno’r adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Panel. Amlygwyd ganddo
bwysigrwydd gwaith y Panel a chydnabuwyd y bu’r flwyddyn ddiwethaf yn heriol o
safbwynt diogelu. Nodwyd pwysigrwydd bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau
craffu digonol o holl weithdrefnau’r Cyngor yn ogystal. Cyfeiriwyd at yr ystadegau a gaiff eu nodi ar dudalen gyntaf yr
Adroddiad, ac ymfalchïwyd yn y cynnydd yn nifer o’r staff sydd wedi cwblhau’r
hyfforddiant diogelu a’r ganran o ysgolion sydd wedi cyflwyno hyfforddiant
diogelu i’r holl staff. Adnabuwyd yn ogystal bod cynnydd sylweddol i’w weld yn
nifer y cyfeiriadau i wasanaethau plant. Soniwyd am ymgais staff y gwasanaeth i
gyrraedd targedau yn amserol gan roi sylw i bob achos, ond bod y cynnydd
cenedlaethol o’r math hwn yn rhoi straen ar adnoddau. Amlygwyd bod mwy o staff wedi cymhwyso i allu cynnal asesiadau DoLS
(Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid) erbyn hyn, a holwyd tybed pryd
fydd modd gweld lleihad yn y niferoedd sy’n disgwyl am asesiadau o ganlyniad.
Mewn ymateb, cadarnhawyd bod arian ychwanegol wedi ei dderbyn y llynedd er mwyn
mynd i’r afael â’r rhestr aros am asesiad DoLS. Soniwyd bod y Cyngor wedi
llwyddo i recriwtio swyddogion cymwys, er y trafferthion a gafwyd wrth geisio
gwneud hynny, ac felly bod y ffigyrau yn dechrau lleihau o ganlyniad.
Ymhelaethwyd ar hyn gan grybwyll dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys yn erbyn
achos adnabyddus yn y maes gofal. Er bod y canllawiau ynghylch y penderfyniad
hwn eto i gael eu datblygu, mynegwyd balchder am y penderfyniad gan ragweld y
bydd yn newid arfer yn ogystal â’r disgwyliadau sydd ar y gwasanaethau
cymdeithasol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oes aelod allanol yn rhan o aelodaeth y
Panel, a gofynnwyd a yw’r aelodaeth yn ddigon cadarn o ganlyniad. Pwysleisiwyd
bod ystyriaeth wedi ei roi i hyn ac i gylch gorchwyl y Panel, ond amlygwyd mai
Panel strategol mewnol ydyw er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud ei waith yn
gywir. Er nad oes aelodau allanol yn rhan o’r Panel hwn, mae dod a’r adroddiad
gerbron y Pwyllgor Craffu yn rhoi cyfle i’r aelodau herio a chynnig barn ar
waith y Panel. Cynigiwyd y dylai’r Cyngor allu bodloni ei hun ei fod yn gallu
craffu’n fewnol ar ei waith. Cyfeiriwyd at rôl y Bwrdd Ymateb a Chadeirydd
Annibynnol y Bwrdd wrth graffu ar waith y Cyngor yn ogystal. Cydnabuwyd na all
y Bwrdd hwn barhau am byth, ond nodwyd bod pobl o gyrff allanol yn edrych ar
waith y Cyngor yn aml. Er mai Panel mewnol ydyw, cefnogwyd edrych yn fanylach
ar rôl posib i aelodau allanol fel rhan o’r Panel hwn. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â faint o’r rheiny ar y rhestr aros DoLS sy’n aros am asesiad cyntaf a faint sy’n aros am ail asesiad, nodwyd bod y gwasanaeth wedi bod yn blaenoriaethu o ran risg o ganlyniad i bwysau’r rhestr aros. Wrth drafod y pwysau sydd ar staff yn y maes hwn, manylwyd bod trosiant staff a demograffeg Gwynedd yn heriol. Tynnwyd sylw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
ADOLYGIAD POLISI DIOGELU Pwrpas yr eitem yw cyflwyno adolygiad o Bolisi Diogelu Corfforaethol i’r Pwyllgor Craffu, er mwyn rhoi cyfle i aelodau ystyried y cynnwys a darparu sylwadau cyn mabwysiadu’r polisi. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Panel
Diogelu Strategol. Eglurwyd y caiff y Polisi hwn ei adolygu bob
dwy flynedd, a’i fod felly yn gyfle i’w ddiweddaru yn sgil derbyn adborth.
Amlygwyd y bydd y Polisi hefyd yn mynd gerbron y Cabinet a’r Cyngor Llawn maes
o law, sy’n cynnig mwy o gyfleoedd i gael craffu ar y Polisi. Croesawyd yr adolygiad hwn, a gofynnwyd a
fydd y Polisi yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Cadarnhawyd y caiff ei roi
ar y wefan ac aethpwyd ymlaen i egluro bod Grŵp Tasg a Gorffen wedi ei
adolygu, a bod bwriad i’w hyrwyddo yn ogystal. Ychwanegwyd y bydd cytundebau
caffael y Cyngor, sydd wedi eu diweddaru’n ddiweddar, hefyd yn cynnwys
cyfeiriad at y Polisi Diogelu hwn. Ategwyd bod rôl hyrwyddo diogelu bellach yn
weithredol o fewn y Cyngor, a bod gwaith hyrwyddo diogelu eang yn digwydd o
fewn y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â monitro
cydymffurfiaeth â’r Polisi, pwysleisiwyd yr awydd i sicrhau ymwybyddiaeth y
gweithlu o’r Polisi hwn a’r camau i’w cymryd pe byddai unrhyw bryder diogelu
ganddynt. Datgelwyd y bydd Archwilio Mewnol y Cyngor yn mynd ati i drafod â’r
gweithlu ynglŷn â’u dealltwriaeth o’r Polisi a’r drefn ddiogelu briodol y
dylid ei dilyn. Esboniwyd y caiff cyfrifoldebau unigolion eu hamlygu ynddo, a
chaiff ei bwysleisio bod diogelu yn fater allweddol ym mhob adran. Nodwyd bod
diogelu yn flaenoriaeth gorfforaethol a’i fod yn hanfodol iddo gael ei
ymgorffori i holl systemau’r Cyngor. Cynigiwyd y dylid symud y rhestr Diffiniadau a gaiff ei gynnwys yn 2.1 a 2.2 o’r adroddiad
i dudalen gyntaf y ddogfen, fel eu bod yn glir i bawb. Cytunwyd y dylid
mireinio’r Polisi i gynnwys yr argymhelliad hwn. Nid oes gan bob aelod o weithlu’r Cyngor fynediad at liniadur er mwyn
cwblhau hyfforddiant, felly cyfeiriwyd at y gwaith sy’n mynd rhagddo er mwyn
sicrhau bod yr hyfforddiant diogelu yn cyrraedd pob rhan o’r gweithlu mewn modd
gwahanol. Yn sgil yr heriau sy’n deillio
o’r cynnydd mewn cam-feithrin a bwlio ar lein, trafodwyd y dylid ystyried
cynnwys cymal o fewn y Polisi sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r arwyddion
bod plentyn yn cael ei gam-feithrin neu fwlio ar lein. PENDERFYNIAD
|
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
dros Blant a Chefnogi Teuluoedd. Adroddwyd gan yr Aelod Cabinet ei bod yn
fodlon gyda gwaith yr Adran yn gyffredinol. Cadarnhawyd bod cynnydd cadarnhaol
yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r ddau brif brosiect yr Adran, sef y Cynllun
Awtistiaeth a’r Cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn
cartrefi grŵp bychan. Crybwyllwyd effaith cadarnhaol y Cynllun
Awtistiaeth a chyfeiriwyd at rai o’r risgiau sy’n wynebu’r Cynllun, yn benodol,
cyllid y Cynllun a’r rhestr aros. Soniwyd am ddatblygiad y ddarpariaeth
breswyl, gyda chynnydd wedi ei wneud drwy ddod a chartrefi yn weithredol a
chartrefi eraill ar fin dod yn weithredol, yn ddibynnol ar gofrestriad gan
Arolygiaeth Gofal Cymru. Nodwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y
galw ar y gwasanaethau hyn, a’r pwysau ychwanegol sydd ar staff o ganlyniad.
Mynegwyd balchder bod arian ychwanegol wedi ei ddenu drwy fidiau, a fydd yn
galluogi’r Adran i gryfhau’r gweithlu a’r gwasanaethau a gaiff eu darparu, a
chynnig cefnogaeth well i’r plant. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Adran yn
cyd-weithio â’r Adran Addysg er mwyn ymateb i argymhellion yr adroddiad
Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac adnabuwyd bod cyllid ychwanegol wedi’i
glustnodi i gynorthwyo â’r gwaith hwn. Cynhaliwyd arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth
Gofal Cymru ac Estyn ym mis Tachwedd y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar
ddiogelu. Eglurwyd bod gwaith cadarnhaol wedi ei gyflawni ond bod rhai meysydd
angen sylw; nodwyd bod gwaith bellach yn mynd rhagddo i ymateb i’r canfyddiadau
hyn. Cwestiynwyd a oes rheswm y tu ôl i’r cynnydd
yn nifer y cyfeiriadau. Mewn ymateb, amlygwyd bod hynny yn heriol i’w ateb
oherwydd caiff y cyfeiriadau hyn eu gwneud o amryw o lefydd gwahanol, megis yr
Heddlu, ac asiantaethau Addysg neu Iechyd. Esboniwyd bod y cynnydd hwn er
gwaethaf ymdrechion ymyrraeth gynamserol, lle
bu hynny’n bosib. Crybwyllwyd yr her o ddiffyg cyfeirio amserol gan
asiantaethau eraill a olygai bod cyfleoedd ataliol yn cael eu colli, ac felly
bod nifer o’r plant hynny sy’n cyrraedd yr Adran yn mynd i ofal. Soniwyd am y ffaith bod yr Adran wedi methu a
dod o hyd i leoliad i gynnig darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn
cartrefi grŵp bychan yn ne’r Sir, a holwyd a oes bwriad i ddal i chwilio
am leoliad addas yn yr un ardal. Cadarnhawyd bod angen darpariaeth o’r fath ym
Meirionnydd, ond ar y funud, does dim lleoliad addas wedi dod i law. Ehangwyd
ar hyn gan nodi ei bod wedi profi’n heriol i ddod o hyd i leoliad addas sy’n
cyd-fynd â gofynion AGC yn yr ardal. Ychwanegwyd mai canran fechan o’r plant sy’n
mynd i ofal preswyl sydd o’r ardal hynny, ond ar adegau mae cael pellter rhwng
cyfeiriad cartref yn fuddiol. Bwriadwyd parhau i chwilio am leoliad addas, gan
gynnig y dylid symud y chwilio i ogledd Meirionnydd. Nodwyd mai amserlenni
grant sy’n rhwystr rhag adeiladu tŷ addas, gan fod rhaid i arian grant
gael ei wario o fewn amserlen benodol. Adnabuwyd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD OEDOLION, IECHYD A LLESIANT Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
dros Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygwyd bod yr Adran yn gweithio ar Gynllun
Cyngor Gwynedd 2023-2028, a bod yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r 6 prif
brosiect hyn. Soniwyd bod yr adroddiad hefyd yn trafod gwaith dydd i ddydd yr
Adran, a’r sefyllfa gyllidol. Ymfalchïwyd ym mhrif lwyddiannau’r adran, gan
restru rhai ohonynt: ·
Cynnydd mewn darpariaeth gofal o fewn y Sir ·
Dau dŷ newydd ar gyfer unigolion gyda ADY wedi agor yn Harlech a
Penrhyndeudraeth, gyda gwaith yn symud ymlaen ym Mhenyberth. ·
Defnydd cynyddol o dechnoleg a theleofal i alluogi pobl fwy yn
annibynnol. ·
Cynnydd yn y nifer o asesiadau cymdeithasol a lleihad yn y rhestr
therapi galwedigaethol. ·
Dementia Actif yn llwyddiannus iawn, gyda gofalwyr hefyd yn cymryd rhan.
·
Cyfradd llenwi gwelyau mewn cartrefi mewnol wedi cynyddu’n ôl i 87%. ·
Rhestr aros Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) yn lleihau gyda
swyddogion newydd wedi cymhwyso. ·
Rhagolygon diffyg cyllidebol gwreiddiol wedi gwella erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol, ond bod pwysau ar wasanaethau’r Adran yn parhau. Symudwyd ymlaen i drafod rhai o’r pryderon, gan gyfeirio’n benodol at y
galw uchel sydd am ofal cartref, gyda heriau recriwtio yn parhau. Nodwyd yr
awydd am waith i wella’r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl, gan gydnabod eu
cyfraniadau gwerthfawr. Adnabuwyd bod diffyg cyllideb yr Adran yn £1.4miliwn am y flwyddyn, a
bod toriadau gwerth £1.5miliwn wedi eu cynnwys yn y gyllideb. Adroddwyd bod y
pwysau ar y gwasanaethau darparu yn gyfrifol am £1m o’r pwysau adrannol, sy’n
bennaf ar orwariant staff a defnydd o staff asiantaeth o fewn gofal preswyl.
Pwysleisiwyd bod rhaid i’r Adran ddarparu ar gyfer y bobl sydd angen y
gwasanaethau, ac felly nad arian sy’n gyrru’r gwasanaethau hyn. Pryderwyd am y
rhestrau aros o safbwynt ariannol, a’r cynnydd yn yr angen. Cyfeiriwyd at yr
ansicrwydd sydd o ran yr arian RIF sy’n allweddol i’r modd y caiff y
gwasanaethau hyn eu hariannu, a soniwyd am y risg o ran yr arbedion sydd eto
i’w cyflawni yn ogystal. Croesawyd llwyddiannau’r Adran gan gadarnhau
bod ymwybyddiaeth o’r tan gyllido sy’n eu wynebu. Eglurwyd nad oes posib dweud
a fydd yr arian ychwanegol a dderbyniwyd eleni yn gwella sefyllfa’r Adran,
oherwydd nad oes modd rhagweld pa bwysau ychwanegol neu achosion cymhleth sydd
am gyrraedd yr Adran. Manylwyd bod oddeutu £6miliwn o arian RIF yn
dod i Wynedd, gan nodi bod yr arian hwn ar gyfer Oedolion a Phlant yn ogystal. Er bod gofal cartref yn cael ei ail strwythuro, sylwyd bod y ffigyrau yn dal i gynyddu. Mewn ymateb i hyn, eglurwyd bod cymhlethdod achosion yn cynyddu, ac er y bydd y tai gofal ychwanegol yn cynorthwyo â hyn, bydd angen amser i allu gweld y newid. Adroddwyd bod yr Adran yn delio â newidiadau parhaus, a bod gwaith adolygu yn mynd rhagddo er mwyn edrych ar yr opsiynau wrth fynd ymlaen. Cynigiwyd y byddai modd blaen graffu’r maes hwn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi. Ychwanegwyd ei fod yn faes lle mae problemau yn ddynamig ac yn symud ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD TAI AC EIDDO Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
dros Dai ac Eiddo. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cynnwys adrodd
ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r addewidion o fewn Cynllun y Cyngor
2023-28, yn ogystal â gwaith dydd i ddydd yr Adran. Datganwyd bod y pwnc
‘ymdrin ag argyfwng costau ynni a thlodi tanwydd’ wedi ei dynnu o Gynllun y
Cyngor, a hynny oherwydd bod y tîm ynni bellach wedi ei sefydlu a bod gwaith yn
mynd rhagddo i roi cyngor a chefnogaeth i drigolion. Ymfalchïwyd bod y garreg filltir o adeiladau
500 o dai cymdeithasol wedi ei chyrraedd, ond er hyn, pryderwyd bod
gwrthwynebiad wedi bod i godi tai cymdeithasol mewn ardal benodol o fewn y sir,
gyda rhai aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio yn mynd yn groes i argymhellion
swyddogion. Adroddwyd bod hyn yn achosi oedi a chostau di-angen, ac yn ei
gwneud yn heriol i ddiwallu’r angen am dai cymdeithasol. Amlygwyd bod y cynnydd yn yr allyriadau
carbon o adeiladau’r Cyngor yn bryder. Nodwyd bod rhai o’r offer a ddefnyddiwyd
yn flaenorol i adrodd ar hyn yn ddiffygiol, ac felly bod tan-adrodd wedi bod yn
y gorffennol. Aethpwyd ymlaen i adnabod mai’r brif risg i’r
Adran yw’r ffaith nad oes modd sicrhau bod neb yn ddigartref yng Ngwynedd.
Ychwanegwyd bod yr Adran yn gweithio’n galed i geisio mynd i’r afael â’r
broblem. Yn ogystal, mynegwyd balchder bod yr Adran
wedi llwyddo i gadw o fewn ei chyllideb eto y llynedd. Cwestiynwyd pam bod ceisiadau i ddatblygu tai
cymdeithasol yn cael eu gwrthod, gan bwysleisio bod galw mawr am dai un neu
ddwy lofft. Pryderwyd yn ogystal am y nifer o adeiladau’r Cyngor sydd allan o
ddefnydd a holwyd pe bai modd defnyddio’r adeiladau hyn er mwyn creu fflatiau
er enghraifft. Canmolwyd gwaith yr Adran ond datganwyd pryder pellach am y
nifer uchel o bobl sy’n ddigartref yn y sir, a’r ffigwr o dai gwag yng
Ngwynedd. Wrth gyfeirio at y pryder am geisiadau
cynllunio yn cael eu gwrthod, nodwyd bod y targed o 500 o dai cymdeithasol wedi
ei gyrraedd serch hyn. Cynigiwyd efallai y caiff y ceisiadau hyn eu gwrthod
oherwydd y camsyniad o ddiffyg angen mewn ardaloedd penodol. Cadarnhawyd bod swyddogion yn edrych yn gyson
ar eiddo gwag y Cyngor, gan waredu eiddo di angen a chwilio am safleoedd mwy
addas ar gyfer nifer o’r cynlluniau sydd ar waith. Adnabuwyd nad yw’r niferoedd
sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol yn disgyn, er yr holl waith sy’n cael
ei wneud, a hynny oherwydd y galw yn uchel iawn. Datgelwyd bod y cynllun tai gwag yn llwyddiannus, gan ychwanegu fod 145 o dai wedi dod yn ôl i ddefnydd a dros 200 o bobl wedi elwa o hynny. Adroddwyd bod mwy o swyddogion tai gwag wedi eu recriwtio, felly bod cynnydd pellach yn debygol o ganlyniad. Adnabuwyd amryw o eiddo gwag sydd o dan berchnogaeth y Cyngor ar draws y sir, ac er nad ydynt oll yn addas i’w datblygu, cadarnhawyd bod cynlluniau ar y gweill i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |