Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd
Linda Ann Wyn Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y
Cynghorydd Cai Larsen yn eitem 9 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn eistedd ar
Fwrdd Cymdeithas Tai Adra b)
Y
Cynghorydd Dewi Roberts, yn eitem 10 ar y rhaglen oherwydd bod ei wraig yn
gweithio gyda Dementia yn ardal Dwyfor. Nid oeddynt yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 o Dachwedd 2019 fel rhai cywir. |
|
Y FFRAMWAITH MAETHU CENEDLAETHOL PDF 67 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd diweddariad ar y Fframwaith
Maethu Cenedlaethol oedd yn cynnwys gwybodaeth lawn a swmpus ar ofynion y
Fframwaith ynghyd a’r bwriad o ddatblygu’r Fframwaith yn genedlaethol a
rhanbarthol. Cyfeiriwyd at y prif ffrydiau gwaith sydd yn gysylltiedig â
rhaglen waith y Fframwaith ynghyd a’r blaenoriaethau rhanbarthol. Yn ychwanegol
i’r blaenoriaethu rhanbarthol adroddwyd bod y Gwasanaeth yng Ngwynedd yn
adolygu ei strwythur mewn ymateb i ofynion y Gwasanaeth ar geisio cael gwell
cydbwysedd wrth asesu a chefnogi gofalwyr maeth carennydd a gofalwyr maeth
cyffredinol. Anogwyd yr Aelodau i fynychu dyddiau gweithgareddau i rieni maeth sydd
wedi eu trefnu ar y cyd rhwng y Cyngor a’r Bartneriaeth Rhieni Maeth er mwyn
craffu’r berthynas a cheisio gwell dealltwriaeth o’r gwaith. Diolchwyd am y wybodaeth a llongyfarchwyd
y staff ar eu gwaith caled o fewn maes pwysig iawn Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:- ·
Pryder
diffyg cefnogaeth gan Llywodraeth Cymru i ariannu’r angen ·
Bod
rhagweld yr angen am 180 o ofalwyr maeth cyffredinol newydd dros y 3 blynedd
nesaf yn uchelgeisiol ·
Angen
marchnata yn well – rhai awdurdodau yn fwy arloesol nac eraill ·
Pryder
y bydd y sector breifat yn cael mwy o ddylanwad ·
Angen
sicrhau bod plant sydd yn siarad Cymraeg yn cael eu lleoli gyda theuluoedd Cymraeg ·
Bod yr
adroddiad yn rhy gyffredinol –angen mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Ngwynedd ·
Pryder
os bydd dau dîm yn cael ei sefydlu y byddai rhai materion yn disgyn ‘rhwng dwy
stôl’ ·
Pryder
bod pobl yn tynnu allan o’r broses oherwydd bod y broses yn rhy gymhleth ac
anodd - awgrym i holi’r Maethwyr sydd yn tynnu allan am resymau Mewn ymateb i gwestiwn am y gwaith
ychwanegol sydd wedi ei greu drwy ddyfodiad y rhaglen waith cenedlaethol,
nodwyd bod cydweithio cadarnhaol rhanbarthol eisoes yn bodoli ar draws y
rhanbarthau ac nad oedd gymaint o symudiad / addasiadau oherwydd hyn. Mewn ymateb i sylw pam bod pobl yn tynnu
allan o’r broses, amlygwyd bod y rhesymau yn amrywio ond y mwyafrif oherwydd
newid mewn amgylchiadau personol yn hytrach nag anfodlonrwydd gyda'r
Gwasanaeth. Mynegwyd bod rhaid sicrhau proses gadarn gyda rheolau a chanllawiau
diogel; y gofynion a’r meini prawf yn uchel oherwydd natur y maes. Ategwyd bod ail frandio’r Gwasanaeth ar
draws Cymru i ddenu pobl i mewn i’r Gwasanaeth yn un o brif ffrydiau gwaith y
Fframwaith. Nodwyd bod cais i’r Llywodraeth am arian ychwanegol i frandio a
recriwtio yng Ngwynedd wedi ei gyflwyno. Yn draddodiadol, nid oedd marchnata yn
rhan o ofynion swydd o fewn model maethu Gwynedd ond erbyn hyn, y Gwasanaeth yn
hyderus y byddai sefydlu swydd benodol ar gyfer marchnata a recriwtio yn
welliant sylweddol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen am 180 o ofalwyr maeth cyffredinol ychwanegol, newydd dros y 3 blynedd nesaf, amlygwyd bod y ffigwr yma un rhanbarthol a bod Gwynedd yn rhagweld yr angen am 30 o ofalwyr dros y tair blynedd nesaf. Er derbyn bod hyn yn uchelgeisiol, pwysleisiwyd yr angen i sicrhau rhaglen waith i Wynedd ar yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
GWASANAETH MABWYSIADU GOGLEDD CYMRU PDF 82 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd diweddariad ar Wasanaeth
Mabwysiadu Gogledd Cymru. Atgoffwyd yr Aelodau o’r gwaith a wnaed gan yr
Awdurdodau Lleol yn y Gogledd i weithio mewn partneriaeth a chreu gwasanaeth
rhanbarthol drwy gyfuno adnoddau a bod yn effeithlon wrth leoli plant. Daeth y
Gwasanaeth yn weithredol yn Ebrill 2010 a phum mlynedd yn ddiweddarach
sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Cyfeiriwyd at Adroddiad
Blynyddol (2018 – 2019) y Gwasanaeth Mabwysiadau Cenedlaethol oedd wedi ei
atodi gyda’r adroddiad Eglurwyd mai Cyngor Sir Fwrdeistrefol Wrecsam
yw’r Awdurdod Lletya ar gyfer y Gwasanaeth a bod y staff, ers 2010 wedi eu
secondio i’r Gwasanaeth ond yn parhau i weithio o fewn eu hawdurdodau
gwreiddiol. Amlygwyd bod perfformiad holl ranbarthau Cymru yn cael eu casglu
gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac ar gyfer Gogledd Cymru roedd pedwar
prif gyrhaeddiad wedi ei adnabod ar gyfer 2018 - 2019; ·
Penodi
Swyddog Cydlynu Cyswllt sy’n cynnig ymateb cyson a chefnogaeth i fabwysiadwyr a
rhieni biolegol o ran cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol. ·
Gweithio
gyda’r arbenigwr Richard Rose, i weithredu’r Fframwaith Hanes Bywyd. ·
Ehangu’r
Cynllun Cyfaill i Fabwysiadwyr. ·
Buddsoddi
mewn cynyddu sgiliau’r Swyddog Hyfforddi Yn dilyn
adolygiad o’r Gwasanaeth yn 2017-2019 adnabuwyd nad oedd capasiti digonol ar
lefel gweithredol a strategol i reoli a datblygu’r gwasanaeth ac felly aed ati
i ail fodelu’r strwythur drwy symud tuag at Wasanaeth sydd yn cael ei reoli yn
llawn gan Gyngor Wrecsam. Nodwyd y byddai holl staff presennol yn trosglwyddo i
gyflogaeth Cyngor Wrecsam yn 2020 ond yn parhau i weithio o’u hawdurdodau lleol
presennol. Adroddwyd bod cyllid ychwanegol ar gael yn genedlaethol ar gyfer
datblygu gwasanaethau cefnogi mabwysiadu ynghyd a chyllid gan y Loteri Genedlaethol
ar gyfer Gwasanaeth TESSA. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:- ·
Bod
llawer o ffrydiau gwaith y Gwasanaeth yn ddibynnol ar grantiau neu arian
ychwanegol - hyn yn creu pryder o orfod dibynnu ar grantiau. Angen ystyried cynlluniau
ariannu wrth gefn. ·
Risg y
gellid cynlluniau gael eu tynnu yn ôl oherwydd diffyg cyllideb ·
A
ddylai Cyngor Gwynedd ystyried opsiwn prynu tŷ ar gyfer cadw plant o’r un
teulu gyda'i gilydd? ·
Bod
angen marchnata'r Gwasanaeth yn well ynghyd a gwella dulliau cyfathrebu Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyllidebau
parhaol, nododd yr Aelod Cabinet ei ddymuniad o sicrhau bod trafodaethau agored
yn cael eu cynnal pan fydd unrhyw gynllun, sydd yn cael ei ariannu drwy grant
sydd yn llwyddiannus ac effeithiol, yn parhau. Mewn ymateb i sylw bod y data a gyflwynwyd
gyda’r adroddiad yn amlygu bod Gwynedd yn ymddangos yn isel iawn mewn niferoedd
ymholiadau, mabwysiadwyr ar gael, plant a leolwyd yn 2018 a’r nifer sydd yn
aros am leoliad, nodwyd nad oedd rhesymau penodol am y lefelau isel. Derbyniwyd
bod angen sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir a bod angen marchnata’r
gwasanaeth yn well a chwalu’r darlun hanesyddol o ofynion mabwysiadwyr. Ategwyd
bod modd trafod a chydweithio drwy unrhyw sefyllfa. Mewn ymateb i gwestiwn os yw plant sydd yn cael eu maethu yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadau gan y teulu, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATBLYGIAD Y TIM YMDDYGIAD RHYWIOL NIWEIDIOL A PHROBLEMUS PDF 115 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o ddatblygiad a disgwyliadau allweddol y Tîm
Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a Phroblemus a gafodd ei sefydlu ar gyfer Gwynedd
yn Medi 2019. Pwrpas sefydlu tîm integredig amlasiantaethol oedd darparu
cefnogaeth i gydlynu achosion o ymddygiad rhywiol niweidiol a phroblemus mewn
ymateb i ofynion Fframwaith ac Archwiliad Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Nodwyd
yn yr Archwiliad, er bod gwaith da yn cael ei wneud, mai ychydig iawn o
ymyrraeth gynnar oedd ar gael. Tynnwyd sylw
at y rhesymeg dros sefydlu’r tîm ynghyd a’r modd y mae’r tîm yn cael ei ariannu
drwy Gronfa Gofal Integredig. Amlygwyd bod tîm Gwynedd (sydd bellach yn cael ei
alw yn Dîm Emrallt) yn cynnwys pedwar aelod ac wedi ei leoli gyda’r Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid lle mae’n elwa o’r strwythurau partneriaethol ar
rwydweithiau traws sector sydd eisoes wedi eu sefydlu. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:- ·
Pryder bod y broblem yn cynyddu ·
Bod angen annog
/ galw ar rieni i gymryd cyfrifoldeb ·
Bod angen sicrhau ymyrraeth gynnar ·
Pryder bod y prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa
Gofal Integredig - angen sicrhau bod y prosiect yn cael arian parhaol ·
Annog
pob Cynghorydd a Llywodraethwr i ddefnyddio / ymgyfarwyddo eu hunain gyda
'Myconcern' (adnodd defnyddiol i gofnodi pryderon diogelu ar gyfer ysgolion) ·
Annog pobl i godi ffôn a thrafod / amlygu pryderon –
angen atgyfnerthu’r neges ·
Angen sicrhau bod negeseuon yn cael eu rhannu gyda
Swyddogion Lles yr ysgolion a’r Heddlu Mewn ymateb
i sylw ynglŷn â sicrhau bod y prosiect yn cael ei ariannu yn barhaol
amlygwyd nad oedd arwydd bod arian parhaol ar gyfer y prosiect yma. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad |
|
ARIAN TRAWSNEWID CYMRU IACHACH (PLANT) PDF 72 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Ystyried adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd
gweithredu Rhaglen Trawsnewid Cymru Iachach (Plant) yng Ngwynedd. Atgoffwyd yr
Aelodau mai Cynllun Hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yw Cymru Iachach a gyhoeddwyd yn 2018 mewn ymateb i Adolygiad
Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn gysylltiedig â’r Cynllun Cymru
Iachach ceir cynllun gweithredu sydd wedi ei drefnu ar ffurf rhaglen drawsnewid
genedlaethol ac wedi ei gefnogi gan Gronfa Drawsnewid. Ategwyd bod Bwrdd
Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru wedi ymateb i Cymru Iachach gan sicrhau
adnoddau o’r gronfa trawsnewid ar gyfer 4 maes gwaith. Amlygwyd mai un o’r meysydd
hynny oedd Trawsnewid Ymyrraeth Gynnar Integredig a Chymorth Dwys i Blant a
Phobl Ifanc - rhoddwyd diweddariad ar brif ffrydiau gwaith y rhaglen. -
Peilota
Model “Amddiffyn Plant yn Effeithiol” - peilot yn weithredol yng Ngwynedd yn
unig i geisio sicrhau bod ymarfer
amddiffyn plant yn effeithiol. Rhanbarthau eraill y gogledd yn awyddus gweld os
bydd yn brosiect yn llwyddo -
Tîm
Aml-ddisgyblaethol Cymorth Dwys - sefydlu tîm ar draws Gwynedd a Môn i sicrhau
cefnogaeth i ganran fechan o deuluoedd
fyddai’n elwa o ymyrraeth ddwys oherwydd anghenion cymhleth -
Hwb
Cymorth Cynnar – parhau i ddatblygu’r Hwb sydd eisoes wedi tynnu ynghyd Tîm
Derbyn Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’r
Tîm o Amgylch y Teulu. Byddai’r hwb yn defnyddio un drefn derbyn, asesu a
chyfeirio ac yn adwy ar gyfer gwybodaeth, cymorth cynnar, gwasanaethau ataliol,
gofal a diogelu. -
Llesiant
Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - ffrwd gwaith yn cael ei arwain
gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Cyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio a oedd
wedi ei drefnu ar gyfer mis Ionawr wedi
ei ohirio. Adroddwyd bod y Ffrydiau Gwaith sydd yn cael eu cefnogi gan Reolwr
Prosiect dynodedig yn adrodd i Grŵp Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc Gogledd
Cymru. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:- ·
Bod
gohirio cyfarfod o’r Grŵp Llywio Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant
a Phobl Ifanc yn annerbyniol o ystyried bod y maes yn un pwysig ·
Pryder
bod rhaid i wasanaethau’r Cyngor lenwi’r bwlch os nad yw’r Bwrdd Iechyd yn
darparu gwasanaethau ·
Bod
angen sicrhau bod y model amddiffyn plant yn effeithiol yn parhau ar ôl y cyfnod peilot. Mewn ymateb i bryder bod cyfarfod cyntaf
Grŵp Llywio Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc wedi
ei ohirio, nodwyd bod y sefyllfa yn un heriol o ran cael gwasanaeth cywir ar
gyfer plant ac mai bwriad y Grŵp Llywio yw cynnal trafodaethau agored
gyda’r Bwrdd Iechyd i wella’r ddarpariaeth. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r model
amddiffyn plant yn effeithiol nodwyd y byddai’r gwaith yn parhau gan mai
trefniadau mewnol gan y Gwasanaeth sydd yn ei arwain, Ategwyd y bydd Gwynedd yn lansio model ymarfer da ac
y byddai’r ymarfer yn cael ei raeadru
i’r gwasanaeth i gyd yn y flwyddyn nesaf. Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu gwaith PENDERFYNWYD
derbyn diweddariad ymhen 12 mis |
|
CYNLLUN GWEITHREDU TAI 2020-2025 PDF 91 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Cynllun Gweithredu Tai 2020 i 2025 gan yr aelod Cabinet a’r pennaeth
Adran Tai ac Eiddo. Diben yr adroddiad hwn oedd diweddaru’r Pwyllgor Craffu
Gofal o’r gwaith sydd ar droed i ddatblygu datrysiadau penodol i’r heriau tai
sy’n wynebu trigolion Gwynedd er mwyn ymgynghori â’r Pwyllgor cyn i’r rhaglen
wariant arfaethedig gael ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Cabinet yn
ddiweddarach ym mis Mawrth eleni. Eglurwyd yn yr adroddiad y prif heriau tai
yng Ngwynedd, yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y cynllun tai 2020-2025, a’r
rhestr hir o gynlluniau sydd angen eu blaenoriaethu. Pwysleisiwyd mai cam
cynnar yn y broses yw hon a’u bod yma i wrando ar fewnbwn a blaenoriaethau
aelodau’r Pwyllgor er mwyn cychwyn troi strategaeth tai’r Cyngor mewn i gynllun
gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Trafodwyd yr
arian sydd ar gael i gyflawni’r cynlluniau yma gan dynnu sylw penodol at y
ffynhonnell incwm o dreth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag. Nodwyd, mewn
ymateb i gwestiwn gan yr aelodau, bod y ffigwr yn yr adroddiad o’r incwm a
ddisgwylir gael o’r dreth yma yn un rhesymol. Amcangyfrifwyd y bydd £2.7m y
flwyddyn yn cael ei gasglu o’r dreth yma ond nodwyd yn y flwyddyn gyntaf fe gasglwyd
£2.9m. Trafodwyd yr her o bobl yn defnyddio ffyrdd i osgoi talu’r dreth yma,
megis drwy gofrestru’r tŷ fel busnes, gan nodi bod yna drafodaethau wrth
law gyda’r Llywodraeth ynglŷn â sicrhau nad yw pobl yn osgoi talu’r hyn
sy’n ofynnol arnynt. Esboniwyd hefyd bod gan y Cyngor y gallu i gael
benthyciadau ar raddfa ratach na chymdeithasau tai os yw’r Cyngor yn penderfynu
bod angen mwy o arian i gefnogi’r cynllun tai.
Pwysleisiwyd, mewn ymateb i gwestiwn am berthynas y Cyngor gyda
chymdeithasau tai, mai’r bwriad a’r nod ydi cydweithio gyda’r cymdeithasau tai
yn hytrach na chystadlu gyda nhw. Eglurwyd bod cydweithio gyda’r cymdeithasau
tai yn gyfle i gyfuno adnoddau, sgiliau a chryfderau mewn meysydd gwahanol, yn
enwedig gan fod y Cyngor wedi trosglwyddo ei arbenigedd mewn tasgau fel casglu
rhent i Adra. Mewn ymateb
i’r aelodau am yr uchelgais, derbyniwyd bod lot o rwystrau, gan gynnwys
rhwystrau ariannol, ond pwysleisiwyd eu bod yn uchelgeisiol ac eisiau cyflawni
gymaint o’r cynlluniau a phosib. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr aelodau am beth
oedd yr Adran Tai ac Eiddo yn ystyried fel y blaenoriaethau fe nodwyd pennaeth
yr adran y canlynol: dod a thai gwag nol mewn i ddefnydd oherwydd ei fod yn
cyflawni mwy nag un amcan, cynyddu’r opsiynau tai i bobl leol, cynlluniau sy’n
ymwneud â gofal a thai cefnogaeth, a chynlluniau sy’n delio gyda materion
digartrefedd. Ymhelaethodd
yr aelod Cabinet a’r pennaeth Adran Tai ac Eiddo ar gynnwys yr adroddiad, gan
hefyd ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau. Datganwyd eu bod yn
ddiolchgar i’r Pwyllgor am eu gwaith, eu bod yn gwerthfawrogi’r berthynas dda,
a’u bod yn awyddus i’r Pwyllgor gynyddu ei rôl yn y dyfodol. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol: · Cymeradwywyd pob un ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad dementia er gwybodaeth
ac i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr dementia gan roi trosolwg i aelodau o’r hyn
sydd ar waith yng Ngwynedd i sicrhau cefnogaeth a gwasanaethau i unigolion sydd
yn byw gyda dementia. Yn 2015 roedd gan 1,927 o bobl 65 oed a throsodd dementia
yng Ngwynedd. Erbyn 2035 rhagwelir y bydd 2,923 o bobl Gwynedd efo dementia.
Nodwyd yn yr adroddiad ei fod yn anodd cael data cywir ynghylch gwir nifer yr
unigolion sydd yn byw gyda dementia neu amhariad ar y cof yng Ngwynedd gan fod
nifer fawr sydd yn dod i’n sylw ddim wedi derbyn asesiad na diagnosis
swyddogol. Datganwyd yn yr adroddiad mai’r weledigaeth yw darparu gwybodaeth,
cyngor a chymorth amserol i unigolion â dementia yng Ngwynedd. Nodwyd bod ystod
o gefnogaeth ar gael i unigolion sydd â diagnosis o ddementia sydd yn amrywio o
wybodaeth a chefnogaeth gymunedol yn ystod arwyddion cynnar o’r clefyd,
gwasanaethau prif lif megis gwasanaethau gofal cartref a gofal dydd i ofal
arbenigol dwys ar gyfer cyfnodau olaf y salwch. Nodwyd bod y Cyngor yn awyddus
i sicrhau fod pobl gyda dementia yn derbyn y gofal mwyaf addas mor lleol ag
sy’n bosib. Datganwyd yr adroddiad y bydd Cyngor Gwynedd
yn parhau i ymrwymo i gyflawni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru ar Gyfer
Dementia trwy gydweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, a’n partneriaid yn y
trydydd sector a’r Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod y gwasanaethau yn ddibynnol ar
arian dros dro i gefnogi nifer fawr o’r datblygiadau yn y ddarpariaeth gofal i
unigolion a dementia. Nodwyd fel rhan o broses bidio blwyddyn ddiwethaf, bod yr
adran wedi cyflwyno cais ar gyfer pontio bwlch Cynllun Dementia Go a’r her yw
sicrhau arian hir dymor i sicrhau cynaladwyedd a datblygiad pellach y gwasanaeth
hwn. Ymhelaethodd yr aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr
aelodau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol: ·
Diolchwyd
i’r aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad. Nodwyd ei fod yn anodd craffu
popeth o fewn yr adroddiad o fewn un sesiwn a nodwyd y gellid adnabod maes
penodol o dan y teitl dementia er mwyn ei graffu mewn dyfnder os oes angen. ·
Cydymdeimlwyd
gyda’r bobl sy’n byw efo dementia neu sy’n gofalu am bobl efo dementia a
chydnabuwyd ei fod yn broblem sy’n effeithio mwyfwy o bobl o fewn ein
cymunedau. Nodwyd bod nifer o deuluoedd yn wynebu sefyllfa anodd o fethu gofalu
am berson sy’n byw efo dementia ac yn gorfod dibynnu ar wasanaeth gofal. · Codwyd pryder am ffioedd cartrefi preswyl a nyrsio, yn enwedig y ffioedd ychwanegol o fewn y gwasanaeth y mae disgwyl i bobl dalu, gan nodi bod y ffioedd yn gyffredinol tu hwnt i allu rhai pobl eu fforddio. Cydnabuwyd bod hwn yn fater sy’n gysylltiedig â'r adroddiad dementia a’i fod yn fater gynyddol broblemus. Nodwyd ei fod yn adlewyrchiad o’r sefyllfa gyffredinol ar draws y sector gofal. Cadarnhawyd bod y cyngor yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn edrych ar ffioedd cynaliadwy, ond ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |