Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Angela Russell a Linda Anne Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Rheinallt Puw ar gyfer Eitem 6. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar gyfer Eitem 8. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 176 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 13eg o Fehefin, 2024, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2024 fel rhai cywir.

 

5.

GWASANAETH GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 228 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan:

1.    Nodi pryder am y rhestrau aros am ofal cartref mewn rhai ardaloedd y Sir.

2.    Ofyn am ddata am y rhestrau aros ar draws y Sir er mwyn gallu cymharu ardaloedd yn rhwyddach.

3.    Ofyn i’r Aelod Cabinet ddiweddaru’r Pwyllgor ar waith y Prosiect Gofal Cartref gan gynnwys gwybodaeth am leihau costau a gwella ansawdd data.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion.

 

Eglurwyd bod cyfres o newidiadau ar y gweill o fewn y maes gofal cartref ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod rhai materion angen sylw ers peth amser ond cadarnhawyd eu bod yn cael eu gweithredu erbyn hyn. Esboniwyd bod yr addasiadau hyn yn cael eu cyflwyno rŵan yn unol ag adolygiad Ffordd Gwynedd. Nodwyd bod swyddogion yn edrych ar y gwasanaethau o bersbectif dinesydd er mwyn asesu os yw gwasanaethau yn effeithiol neu beidio.

 

Datganwyd bod cytundeb a fabwysiadwyd gyda darparwyr allanol, sydd wedi ei fabwysiadu ers Tachwedd 2022, yn gweithredu dull newydd o weithio. Nodwyd bod pob darparwr yn cydweithio yn effeithiol gyda’r gweithwyr cymdeithasol a’r cymunedau ehangach er mwyn cynnig gofal cartref o’r radd flaenaf i ddefnyddwyr. Cymharwyd hyn gyda’r model gweithio blaenorol ble nad oedd cymaint o gydweithio ac roedd gofyn i ddarparwyr gofal cartref weithio ar ffurf undonog er mwyn darparu gofal yr un amser o’r dydd heb wir ystyried addasiadau i amserlen y defnyddiwr. Pwysleisiwyd bod y model presennol yn caniatáu i weithwyr fagu perthynas gyda defnyddwyr a bod modd llwyddo i ddatrys unrhw broblem neu angen sydd angen ei gyfarch yn haws, gyda chymorth partneriaid.

 

Er hyn, cydnabuwyd bod addasu patrymau gwaith rhwng y ddau fodel uchod yn heriol a chadarnhawyd bod yr adran yn parhau i fod yn y cyfnod trosglwyddo hynny ar hyn o bryd. Sicrhawyd bod gweithwyr o’r farn bod eu telerau gwaith wedi newid er gwell yn y blynyddoedd diwethaf  a nodwyd bod dechrau gweithredu’r model newydd o weithio wedi arwain at gydweithrediad gwell mewn hybiau cymunedol yn rhoi gwerth cymunedol ychwanegol o’r cytundebau. Rhannwyd enghreifftiau o sut mae telerau gwaith wedi gallu cael eu haddasu megis newid mewn dyddiau gwyliau a chostau teithio ac addasiadau i batrymau shifft. Cydnabuwyd bod rhai gweithwyr  o’r farn eu bod ar eu pen eu hunain ac nad ydynt yn teimlo yn rhan o benderfyniadau perthnasol ac felly sicrhawyd bod yr Adran yn parhau i ganfod ffyrdd newydd o gyflwyno syniadau a chyfathrebu gyda gweithwyr er mwyn sicrhau mewnbwn.

 

Cadarnhawyd bod pob cytundeb allanol bellach gyda’r trydydd sector neu deuluoedd trydydd sector bychan. Pwysleisiwyd nad oes arian yn cael ei wario y tu hwnt i ardal leol y Sir.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar addasiadau i systemau TGCh, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant bod angen addasu 4 o systemau’r gwasanaethau gofal cartref oherwydd y newid i fodel gweithio. Eglurwyd bod systemau presennol y gwasanaeth yn dilyn yr hen fodel gweithio ac mae angen eu haddasu er mwyn sicrhau bod trefniadau cynllunio gofal, trefnu oriau staff a chofnodi symudedd defnyddwyr yn cael eu llunio yn dilyn y model newydd o weithio. Nodwyd bod y gwaith o edrych i mewn i addasu’r systemau hyn yn dechrau’n fuan gan Athro o Brifysgol Abertawe a disgwylir i’r canfyddiadau gael eu cyhoeddi erbyn mis Mawrth 2025.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TRAFNIDIAETH I RAI SYDD GYDA DEMENETIA I FYNYCHU GOFAL DYDD pdf eicon PDF 247 KB

I ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod  y drafodaeth.

2.    Datgan pryder nad yw’r ddarpariaeth yn gyson ar draws y Sir a phwysleisio pwysigrwydd rhoi egwyl i ofalwyr di-dâl.

3.    Gofynnwyd am adroddiad pellach am yr adolygiad Polisi Trafnidiaeth ac adolygiad Gofal Dydd er mwyn i’r Aelodau roi mewnbwn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Adroddwyd bod yr holl weithwyr o fewn y maes hwn yn cydymffurfio â gofynion statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Atgoffwyd bod disgwyliad i weithwyr adnabod deilliannau unigolion yn ogystal a’r dull orau o ddarparu gofal  chefnogaeth iddynt. Nodwyd yr ystyrir adnoddau personol unigolion, cefnogaeth teuluol, lefel annibyniaeth, rhwydweithiau cefnogol lleol ac ystyriaethau ariannol.

 

Eglurwyd y ddarpariaeth gofal dydd mwyaf cyffredin gan fanylu bod tair darpariaeth o fewn Gwynedd. Nodwyd bod y rhain wedi eu lleoli yn Llys Cadfan (Tywyn), Plas Hedd (Bangor) a Phlas y Don (Pwllheli). Ymhelaethwyd mai Plas Hedd sy’n darparu gofal dydd i’r nifer uchaf o unigolion sy’n byw gyda dementia a gydag anghenion dydd, gyda 5 unigolyn yn mynychu ar gyfer gwasanaeth arbenigol deuddydd yr wythnos. Cadarnhawyd bod 10 unigolyn yn derbyn gwasanaeth ym Mhlas Hedd gyda dau aelod o staff yn gofalu amdanynt. Adroddwyd bod 4 unigolyn yn derbyn gwasanaeth gofal dydd ym Mhlas y Don a 3 unigolyn yn Llys Cadfan. Cydnabuwyd bod llai o unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth yn yr ardaloedd hyn ond teimlwyd nad oedd hyn oherwydd rhesymau trafnidiaeth. Tynnwyd sylw bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn cartrefi preswyl eraill ym meddiant y Cyngor ond nodwyd bod y rhain yn cael eu cynnal ar sail achlysurol.

 

Cadarnhawyd mai’r teuluoedd sydd yn cludo’r unigolion hyn i’r ddarpariaeth gofal dydd oherwydd bod cyflyrau yn rhy ddwys er mwyn gallu defnyddio tacsi yn annibynnol, ond nodwyd bod rhai achosion ble mae tacsi yn cael eu defnyddio.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r staff wedi derbyn cwyn am ddiffyg trafnidiaeth ac nid oes newidiadau amlwg mewn niferoedd mynychu oherwydd materion trafnidiaeth.

 

Nodwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r gwasanaethau Iechyd yn gyson iawn. Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth Iechyd yn cynnal gwasanaethau gofal dydd arbenigol ym Mhen Llŷn yn bennaf ac yn ne Meirionnydd ar rai prydiau. Ymhelaethwyd bod 10-15 o unigolion yn mynychu darpariaeth gofal dydd (hyd at 33 unigolion yr wythnos am wasanaeth sydd yn cael ei gynnal dau ddiwrnod yr wythnos) ac maent yn annog pob unigolyn i wneud trefniadau cludiant eu hunain. Eglurwyd eu bod yn gwneud hyn oherwydd mai’r safle mwyaf addas ar gyfer y ddarpariaeth o fewn yr ardaloedd yw Bryn Beryl ac ystyrir trafnidiaeth ysbyty i fod yn annibynadwy. Pwysleisiwyd bod y gwasanaeth Iechyd yn annog teulu i ddarparu cludiant neu ddibynnu ar gludiant cymdeithasol megis O Ddrws I Ddrws neu Cymro. Adroddwyd bod staff Hafod Hedd (Bryn Beryl) yn gweld cynnydd yn niferoedd unigolion sydd yn mynychu ac nid ydynt yn ymwybodol am unrhyw nad sydd yn mynychu oherwydd trafferthion trafnidiaeth.

 

Adroddwyd ar wasanaethau eraill sydd ar gael i unigolion sydd yn byw â dementia, sydd hefyd yn cynnig seibiant i ofalwyr di-dâl. Nodwyd bod gwasanaeth Dementia Actif yn gefnogaeth ataliol sy’n cefnogi nifer o unigolion a’u teuluoedd. Esboniwyd bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y WEITHDREFN CWYNION, YMHOLIADAU A DIOLCHADAU'R ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD AC ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT AR GYFER 2023-24 pdf eicon PDF 790 KB

Paratoi Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Gofal er mwyn craffu a monitro’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod  y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Cynorthwyol Diogelu ac Ansawdd (Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd), Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod cyfrifoldeb statudol ar y Cyngor i adrodd ar sut y mae’n ymchwilio ac yn ymateb i gwynion yn unol â’r Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014. Esboniwyd bod y trefniadau hyn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn wahanol i’r system gwynion cyffredinol sy’n cael ei weithredu o fewn y Cyngor.

 

Cadarnhawyd bod yr Adroddiad yn rhannu gwybodaeth am yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ogystal a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd mewn ymgais i sicrhau bod yr un trefniadau mewn lle ar gyfer y ddwy adran.

 

Eglurwyd bod criteria penodol yn cael ei ddefnyddio er mwyn nodi pa ddigwyddiadau sy’n briodol ymateb iddynt. Nodwyd bod y rhain fel rheol yn wasanaethau sydd wedi cael ei ddarparu hyd at 12 mis cyn i’r cwyn gael ei gyflwyno, yn hytrach na materion hanesyddol.

 

Ymhelaethwyd bod trefn Cam 1 yn fodd o geisio datrys y cwynion drwy  dderbyn ymateb y rheolwr tîm a chynnal sgyrsiau uniongyrchol gyda’r achwynwyr. Cadarnhawyd os nad yw hyn yn datrys y sefyllfa, mae gan achwynwyr hawliau i ofyn am archwiliad fel rhan o drefniadau Cam 2. Pwysleisiwyd bod y rhain yn cael eu cynnal gan archwilwyr sydd yn annibynnol o’r Cyngor ond sydd yn unigolion sydd ar restr gydnabyddedig. Eglurwyd bod modd i achwynwyr gychwyn y broses ar Cam 2 heb fynd drwy Gam 1 gan nodi mai dyma yw’r tueddiad erbyn hyn, yn enwedig gydag achosion Plant a Theuluoedd. Nodwyd os nad oes modd i’r mater gael ei ddatrys yn dilyn archwiliad, bod modd ei uchafu i’r Ombwdsman. Er hyn, pwysleisiwyd nad oes yr un mater wedi mynd ymlaen i’r cam hwn.

 

Esboniwyd bod yr archwilydd annibynnol yn gymwysiedig, profiadol ac yn llwyddo i ddelio gyda cymhlethdod achosion. Nodwyd bod prinder archwilwyr sydd yn siarad Cymraeg a bod  hyn yn her i’r gwasanaeth ac yn creu oedi mewn ymchwiliadau gan bod angen sicrhau bod rhywun sydd yn gallu siarad Cymraeg ar gael i edrych drwy gwybodaeth a chyfweld unigolion. Manylwyd bod her yn codi wrth ganfod archwilwyr annibynnol sy’n siarad Cymraeg gan bod nifer ohonynt wedi bod yn gweithio yn lleol i’r ardal neu i Wynedd ei hun gan arwain at leihad yn y nifer o bobl sydd ar gael i gynnal ymchwiliadau.

 

Adroddwyd bod Swyddogion Cwynion ac Uwch Swyddogion Cwynion ar gael er mwyn hwyluso’r prosesau hyn. Pwysleisiwyd eu bod yn gweinyddu’r prosesau yn wrthrychol, er bod y gwasanaeth wedi ei leoli o fewn gwasanaethau cymdeithasol. Nodwyd bod y gwaith hwn yn gallu bod yn heriol oherwydd rhwystredigaeth ac anfodlonrwydd yr achwynwyr gyda’r gwasanaeth maent eisiau gwneud cwyn amdano.

 

Cyfeiriwyd at amserlenni gan nodi bod gan swyddogion 10 diwrnod i ymateb i gŵyn Cam  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

POLISI CODI TÂL AM OFAL pdf eicon PDF 292 KB

I dderbyn sylwadau’r pwyllgor ar y newidiadau arfaethedig cyn mynd allan i ymgynghori a chyflwyno i'r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cytuno i’r egwyddor o ymchwil pellach i addasu’r polisi codi tâl am ofal.

2.    Gofynnwyd am adroddiad manylach yn cynnwys union ffioedd i’w codi a’r fframwaith codi tâl

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a Rheolwr Prosiect, Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol.

 

Nodwyd mai bwriad yr adroddiad oedd rhoi cyfle i’r Aelodau blaen graffu addasiad i’r polisi cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyno Adroddiad pellach i’r Cabinet am benderfyniad ffurfiol. Atgoffwyd bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario ar hyn o bryd ac yn bwriadu gwneud addasiadau i’r polisi hyn er mwyn cychwyn mynd i’r afael a’r heriau ariannol presennol.

 

Eglurwyd y gobeithir cael sylwadau’r Pwyllgor ar dair elfen o’r Polisi Codi Tâl am Ofal. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys:

·       Addasu’r polisi i ychwanegu gwasanaethau penodol sydd wedi bod am ddim yn hanesyddol megis Gofal Dydd, Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Cefnogol Dementia.

·       Addasu’r geiriad  sy’n diffinio gofalwyr di-dâl a gwneud y cymal ar ofalwyr di-dâl yn fwy eglur. Pwysleisiwyd nad yw’r Cyngor wedi bod yn codi ffi am ofal uniongyrchol i ofalwyr di-dâl ac argymhellwyd bod y polisi yn parhau i adlewyrchu hynny. Nodwyd yr angen i barhau i gefnogi gofalwyr di-dâl oherwydd ei bod yn lleihau’r baich ar wasanaethau cymdeithasol. Cydnabuwyd bod angen amlygu beth sydd ar gael am ddim i ofalwyr di-dâl ac argymhellwyd i beidio codi tal am unrhyw gefnogaeth sydd yn enw’r gofalydd. Ystyriwyd y dylid codi tâl am unrhyw wasanaeth ble mae elfen o ofal uniongyrchol neu anuniongyrchol i’r unigolyn sy’n derbyn cymorth, yn ddibynnol ar asesiad ariannol.

·       Gweithredu ar ffioedd sydd eisoes o fewn y polisi ond lle nad ydi’r Cyngor wedi bod yn eu codi’n hanesyddol. Rhannwyd enghraifft o daliadau gohiriedig a ddefnyddir ble mae unigolyn yn mynd i gartref preswyl neu nyrsio ond nad ydynt yn gwerthu eu cartref. Eglurwyd bod costau gofal y person yn mynd yn erbyn eu heiddo ac y bydd y Cyngor yn ad-ennill y ffioedd gofal sydd wedi cronni pan fydd eu cartref yn cael ei werthu. Pwysleisiwyd bod y polisi yn caniatáu’r Cyngor i  weithredu’r ffioedd hyn yn ogystal â ffioedd am weinyddu’r taliad a gwaith cyfreithiol.  Cadarnhawyd nad yw’r cyngor yn codi llog ar y ffioedd disgwyliedig.

 

Nodwyd bod gan bob unigolyn yr hawl i gael asesiad am ofal. Manylwyd os yw’r asesiadau yn dangos nad oes ganddynt y modd i dalu, bydd y ffioedd yn cael eu heithrio. Eglurwyd bod uchafswm o £100 yr wythnos am ffioedd gofal wedi cael ei osod am ffioedd gofal i unigolion a phwysleisiwyd na fydd angen i neb dalu mwy na hynny am eu gofal.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Nodwyd ei fod yn anodd gwneud penderfyniadau pendant ar y mater hwn heb dderbyn data manwl am y newidiadau y bwriedir ei wneud i’r polisi.

 

Ystyriwyd a yw’r uchafswm o £100 yn debygol o gynyddu i ddefnyddwyr. Mewn ymateb i’r sylwadau cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod ffioedd yn ofynnol am wasanaethau gofal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu i’r dyfodol. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.