Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Courtney Leigh Jones
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Geraint Wyn Parry
a Linda Morgan. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Eryl – Jones Williams ar gyfer eitem 6. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Jina
Gwyrfai ar gyfer eitem 8. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni
adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar y 12 o Mehefin 2025, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12
Mehefin 2025, fel rhai cywir. |
|
|
Paratoi Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn
Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu er mwyn craffu
a monitro’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan
ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad b)
Sefydlu gweithgor i edrych yn fwy manwl i mewn
i’r cwynion, ymholiadau a’r diolchiadau er mwyn eu hystyried ymhellach Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Menna Trenholme,
Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd. Atgoffwyd fod yr adroddiad yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn
Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau
Llywodraeth Cymru. Nodwyd ei fod yn gyfle i adolygu sut mae’r adran yn delio a
phryderon trigolion Gwynedd. Amlinellwyd pwysigrwydd yr adroddiad i fesur
perfformiad yr adrannau a sut gellir dysgu o bob achos er mwyn gwella
gwasanaethau dros bobl Gwynedd. Nodwyd mai 42 ymholiad anffurfiol a 23 cwyn ffurfiol a
gafwyd gan yr Adran Oedolion. Cafodd yr Adran Plant 28 ymholiad anffurfiol a 25
cwyn ffurfiol. Cadarnhawyd bod rhan helaeth o’r ymholiadau wedi eu datrys yn
brydlon a chadarnhawyd nad oedd unrhyw
ymchwiliad gan yr Ombwdsman yn 2024-25. Cadarnhawyd bod yr adran oedolion wedi derbyn 106 o
ddiolchiadau a’r adran plant wedi derbyn 95. Amlinellwyd y prif themâu a
ddysgwyd yn yr adroddiad a phwysleisiwyd pwysigrwydd cyfathrebu clir, cefnogi
staff wrth ddelio ac achwynwyr mewn sefyllfaoedd anodd a pharhau i fynd ar
afael ar y pwysau ar ofal cartref. Nodwyd bod cynnydd amlwg yn nefnydd yr iaith Gymraeg yn yr
Adran Oedolion. Amlinellwyd bwriadau’r adran wrth edrych ymlaen at 2025/26 a
oedd yn cynnwys: -
rhannu gwersi yn rheolaidd gyda’r tîm rheoli -
parhau i gadeirio’r grŵp rhanbarthol
swyddogion gofal cwsmer Gogledd Cymru -
annog rhannu canmoliaeth ochr yn ochr â chwynion -
hybu cwblhau hyfforddiant e-ddysgu -
ehangu’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyda phosteri
mewn cartrefi preswyl ac adeiladau cyhoeddus. Pwysleisiwyd mai pobl Gwynedd a nid nifer y cwynion sy’n
holl bwysig i’r ddwy adran. Nodwyd fod cwynion yn gyfle i’r adran ddysgu,
gwella a chryfhau ymrwymiad yr adran i ddarparu gwasanaethau o safon. Wrth agor y drafodaeth i’r aelodau amlygwyd bod ymholiadau
i’r ddwy adran wedi cynyddu yn sylweddol, er hyn nodwyd fod nifer y cwynion
wedi aros yn gyson. Pwysleisiodd yr adran fod dipyn o ymdrech wedi ei wneud i
staff fod yn ymwybodol o’r drefn gwynion ac
i geisio cael datrysiadau cyn i’r ymholiad droi yn gŵyn. Gofynnwyd am y cynnydd mewn nifer o geisiadau rhyddid
gwybodaeth a beth oedd y prif reswm oedd
wedi achosi’r cynnydd yma. Ymatebwyd drwy nodi fod nifer o resymau dros y
cynnydd mewn ceisiadau megis sylw cyhoeddus yn y wasg, ceisiadau gan yr heddlu
am wybodaeth gefndirol, rhai ar gyfer gwaith ymchwil a mynegwyd bod rhai yn
geisiadau sy’n gallu dod yn flynyddol. Eglurwyd gyda’r cynnydd yn y niferoedd
fod llawer o amser swyddogion yn mynd i chwilio a rhannu’r wybodaeth. Mynegwyd balchder o glywed fod yr adroddiad am bobl yn
hytrach na niferoedd a bod yr enghreifftiau yn dod a’r adroddiad yn fyw. Er hyn
gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y cwynion. Ymatebwyd drwy nodi fod modd rhannu
mwy o wybodaeth ond dim ond yn y fforwm cywir gan fod materion yma o
sensitifrwydd uchel. Cytunwyd i greu gweithgor i edrych ar gwynion mewn mwy o
fanylder gan o bosib edrych ar themâu penodol er mwyn cadw at gyfrinachedd. Amlygwyd fod rhai o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
PROSIECT RHYDDHAU O'R YSBYTY Cyng. Dilwyn Morgan i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad cynnydd mewn 18
mis. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion a
Llesiant, Cynghorydd Dilwyn Morgan, Pennaeth Adran Oedolion, Pennaeth Oedolion
Iechyd a Llesiant, Mari Wynne Jones. Adroddwyd bod y prosiect yn cwmpasu gwaith pwysig y
rhwydwaith aml-asiantaeth wrth gefnogi trigolion i ddychwelyd adref o’r ysbyty.
Amlinellwyd y trefniadau presennol y Timau Adnoddau Cymunedol wrth iddynt
gefnogi oedolion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Eglurwyd bod y Timau
yn cefnogi oedolion gydag anghenion corfforol, gwaeledd, cyflyrau cysylltiedig
â henaint a dementia. Rhannwyd manylion ar y llwybrau gofal sydd ar gael i
gleifion yng nghyd-destun egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant. Pwysleisiwyd bod adnoddau personol a chryfderau unigolion yn
greiddiol i asesiadau a chynlluniau anghenion gofal a chefnogaeth, er mwyn
sicrhau bod yr unigolion yn derbyn gofal pwrpasol. Cadarnhawyd bod yr egwyddorion yn seiliedig ar y Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodwyd y defnyddir y
fframwaith cyfreithiol i adnabod deilliannau personol person ac i asesu ei
anghenion gofal a chefnogaeth. Pwysleisiwyd pwysigrwydd annog pobl i ddychwelyd
adref o’r ysbyty er eu lles hwy, gan nod ei fod yn destun pryder fod “10 diwrnod ychwanegol yn yr ysbyty yn arwain
at gyfwerth a 10 mlynedd o heneiddio yng nghyhyrau pobl dros 80 oed”. Pwysleisiwyd
mai nod y prosiect yw sicrhau gofal gorau posib wrth gefnogi pobl i fod adref
yn eu cymunedau, er mwyn hybu annibyniaeth yr unigolyn a lleddfu’r pwysau ar
ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol sydd eisoes dan bwysau. Ymhelaethwyd bod y prosiect yn gweithredu mewn ymateb i
adroddiad cyhoeddwyd gan Senedd Cymru, a oedd yn ymchwiliad i rôl awdurdodau
lleol wrth gefnogi pobl i adael yr ysbyty yn amserol. Eglurwyd bod llawer o
gydweithio rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn ceisio gwella’r daith i
unigolion wrth iddynt ymadael a’r ysbyty. Nodwyd bod y Gymdeithas Cyfarwyddwyr
Cymdeithasol wedi llunio papur yn fframio’r cyd-destun cenedlaethol yng Nghymru
a phwysigrwydd cydweithio rhwng yr asiantaethau gwahanol. Amlygwyd bod y GIG
yng Nghymru yn defnyddio codau penodol i bennu llwybr unigolion sydd yn cael eu
rhyddhau o’r ysbyty, sydd yn seiliedig ar egwyddorion Rhyddhau i Adfer ac yna
Asesu (D2RA). Manylwyd ar y pedair ffrwd, Manylodd y Rheolwr Prosiect, ei fod yn Gynllun Peilot a fydd
yn rhedeg am gyfnod gan obeithio y bydd y datblygiadau yn cael eu ehangu ar
draws y sir. Rhoddwyd trosolwg o amcanion y prosiect yng nghyd-destun adroddiad
Llechen Lan a Ffordd Gwynedd o weithio. Eglurwyd bydd y galw am ofal a
chefnogaeth yn cynyddu wrth i boblogaeth hŷn gynyddu Cadarnhawyd bydd y
gwaith sydd yn deillio o’r prosiect yn sicrhau bod adnodd addas i fynd i’r
afael a’r heriau cynyddol hirdymor. Yn ystod y drafodaeth, croesawyd yr adroddiad a diolchwyd am y gwaith i gefnogi trigolion Gwynedd. Er hyn, mynegwyd siom bod y prosiect yn gyfyngedig i gleifion yn dychwelyd o Ysbyty Gwynedd. Bu i Aelodau ddatgan eu rhwystredigaeth nad yw’r prosiect yn cwmpasu cleifion o Wynedd sydd yn dychwelyd o ysbytai eraill ar draws Cymru a Lloegr. Pwysleisiwyd bod Gwynedd yn sir ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CYDWEITHIO EFO'R GYMUNED Cyng. Dilwyn Morgan
i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a) Derbyn
yr adroddiad. b) Annog
gweithredu’r cynllun mewn mannau eraill o’r sir. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant a’r Pennaeth Adran. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn un hynod ddiddorol, sydd yn
elfen arall o’r darlun mawr. Eglurwyd fod y gwaith sydd yn y cynllun hwn yn
cynorthwyo i gadw pobl allan o’r ysbytai ac o wasanaethau yn ardal Dyffryn
Nantlle. Eglurwyd nad yw’n gynllun cwbl unigryw ond yn gam pellach i’w hybiau
cymunedol sydd i’w gweld ar draws y sir. Ymhelaethodd y swyddog ei fod yn gynllun syml, sydd yn dod a
phobl at ei gilydd ac i gyd-weithio gyda’r gymuned i ymateb i’r heriau o
ddarparu gwasanaethau ataliol ar lefel leol. Mynegwyd ei bod yn helpu trigolion
ardal Dyffryn Nantlle i gael y gefnogaeth maen nhw ei angen yn rhwydd a heb
orfod cnocio ar nifer o ddrysau gwahanol asiantaethau. Ychwanegwyd mai’r nod yw
rhoi grym i’r rhai sy’n gweithio a byw yn yr ardal i gynorthwyo unigolion yn eu
cymuned. Pwysleisiwyd mai un partner o nifer o fewn y cynllun yw’r Cyngor, ond
fod y Cyngor a’r rôl o hwyluso’r gwaith i roi'r sgyrsiau sydd eu hangen eu lle. Mynegwyd fod 3 prif beth wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r
bartneriaeth hon. Y cyntaf oedd comisiynu gwaith ymchwil gan fudiad National
Development Team for Inclusion
i drafod a mudiadau yn yr ardal i weld beth oedd y sefyllfa o ran cefnogi pobl
ac i weld os oedd awydd yno i ddatblygu rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn
cefnogi pobl o fewn eu cymunedau. Yr ail oedd bod aelodau’r Tîm Arweinyddiaeth wedi gosod her
o ystyried beth all y Cyngor ei wneud o ran cynorthwyo pobl i gael y gefnogaeth
oeddent eu hangen heb orfod mynd at bob asiantaeth neu adran Cyngor ar wahân.
Arweiniodd hyn at weithdy aml-adran i drafod y mater a arweiniodd at yr holl
adrannau yn neilltuo amser staff a oedd yn gweithio yn Nyffryn Nantlle i ddod
at ei gilydd i drafod ymhellach. Y trydydd oedd creu Lles Nantlle er mwyn tynnu gwahanol
fudiadau i mewn megis y feddygfa, Cynefin, Adra a mudiadau lleol megis yr
Orsaf. Drwy ddod at ei gilydd roedd modd creu gweledigaeth, dod i adnabod ei
gilydd ond yn fwy na dim deall gwaith ei gilydd er mwyn cyd-weithio i ymateb
i’r galw. Pwysleisiwyd nad oeddent yn dod at ei gilydd i siarad ond yn hytrach
i ddeall beth oedd yn digwydd yn yr ardal. Erbyn heddiw mae Cydlynydd wedi ei
phenodi am gyfnod o 6 mis a fydd yn gweithio yn yr Orsaf ym Mhen y Groes. Bydd
modd galw mewn i’r Lolfa am sgwrs â swyddogion ble fydd modd defnyddio eu
cysylltiadau i ymateb i’w anghenion. Pwysleisiwyd fod ymrwymiad clir gan y sefydliadau i fod yn rhan o’r cynllun hwn sydd yn datblygu ac yn esblygu drwy ddysgu yn barhaus. Eglurwyd ei fod yn fwy ‘na darparu gwasanaethau unigol ond yn hytrach creu amgylchedd cyd-weithio sy’n arwain at arloesi i lenwi blychau gofal. Mynegwyd fod y model hwn yn ysbrydoli mewn ffordd bositif a fydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Cyng. Paul Rowlinson i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Cyng. Paul
Rowlinson. Cyfeiriwyd at yr argyfwng tai sy’n wynebu Gwynedd, gan nodi bod y nifer
sylweddol o dai gwag yn ychwanegu at y problemau presennol. Nodwyd bod rheoli
tai gwag yn un o brif flaenoriaethau Cynllun y Cyngor a’r Cynllun Gweithredu
tai. Nodwyd fod y Premiwm Treth Cyngor wedi ei godi ar dai yng Ngwynedd sydd
wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, er mwyn annog perchnogion i adfer yr eiddo a
dod a’r tai nol i ddefnydd. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cynnig nifer o
gynlluniau sy’n rhoi cymorth i bobl adnewyddu tai gwag i ddod a nhw i safon byw
diogel. Cadarnhawyd bod 123 o dai yng Ngwynedd wedi elwa o’r Grant Tai Gwag.
Nodwyd bod hyn yn cael effaith cadarnhaol ar yr economi yn lleol trwy’r defnydd
o gontractwyr lleol. Cadarnhawyd bod prynwyr tro cyntaf yn aml yn derbyn eithriad ar y
Premiwm Tai Gwag am flwyddyn, i hwyluso’r broses o adfer yr eiddo. Er hyn,
nododd Aelod bryder am y Premiwm Tai Gwag a chyfnod yr eithriad talu am
flwyddyn. Mynegwyd bod Gwynedd yn ardal unigryw lle mae ardaloedd yn amrywio yn
helaeth ar draws y sir. Nodwyd y dylid cydymdeimlo a’r rhai sydd yn etifeddu
tŷ fel rhan o stad anwylyd, a sylwi bod straen gwerthu’r eiddo yn gallu
peri gofid yn ystod amser anodd. Tynnwyd sylw at anawsterau trigolion wrth
geisio gwerthu eiddo mewn rhai ardaloedd, yn sgil y cynnydd o brisiau tai, ac
felly nodwyd y dylid ystyried hyn wrth osod a gweithredu ar y polisïau. Mewn ymateb i ymholiad ar y nifer o ail dai sydd wedi eu hadnewyddu i
fod yn gartrefi, cadarnhawyd fod y grant wedi ariannu adnewyddu amryw o dai a
oedd eisoes yn ail dai i safon byw dderbyniol, sydd wedi darparu cartrefi i
bobl leol yn y sir. Nodwyd bod yr adran eisoes wedi cyflawni’r targed o ddod a
282 o dai gwag yn ôl i ddefnydd yng Ngwynedd, gyda 299 o dai wedi dod yn ôl i
ddefnydd yn sgil cefnogaeth gan y Cyngor trwy’r Grant Tai Gwag. Er hyn, nodwyd
bod 1,306 o dai yn parhau i fod yn wag yng Ngwynedd hyd heddiw, sy’n
adlewyrchiad o’r gwaith parhaus sydd gan yr adran yng Ngwynedd. Mewn ymateb i ymholiad ar y nifer o dai gwag hir dymor sydd yn parhau i
fod yn wag ers blynyddoedd, eglurwyd bod y perchenogion yn cael gohebiaeth gan
yr adran er mwyn eu hannog i ddod a’r eiddo yn ôl i ddefnydd byw. Cadarnhawyd
bod yr adran yn targedu ardaloedd lle mae’r tai wedi bod yn wag am beth amser
gan ddefnyddio ffigyrau o’r adran dreth. Nodwyd bod hyn yn rhan elfennol o’r
gwaith trawsadrannol sydd yn mynd rhagddo gan yr Uned Gorfodaeth, o fewn y
Cynllun Gweithredu Tai, sy’n gweithredu ar adeiladau gwag sy’n achosi problemau
dyrys yn y sir. Mynegwyd pryder bod rhai tai gwag yn sefyll yn wag yng Ngwynedd am amser maith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2025/26 Cyflwyno rhaglen waith ddrafft
y Pwyllgor ar gyfer 2025/26 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwsiadu’r blaenraglen
Pwyllgor Craffu Gofal 2025/26 a nodi dymuniad i graffu ymateb y Cyngor i’r
Adolygiad Ymarfer Plant, sy’n cael ei arwain gan Jan Pickles, pan yn amserol. Cofnod: Cytunwyd i fabwysiadu’r blaen raglen a nodi dymuniad i
graffu ymateb y Cyngor i’r Adolygiad Ymarfer Plant, sy’n cael ei arwain gan Jan Pickles, pan yn amserol. |