Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol
Bangor) gyda’r Athro Paul
Spencer yn dirprwyo. ·
Yana
Williams (Coleg Cambria) ·
Dylan
Williams (Cyngor Sir Ynys Môn) ·
Dafydd
Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo ·
Helen
White (Cyngor Sir Ddinbych) ·
Neal
Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo ·
Dewi Morgan (Cyngor
Gwynedd) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard
(Cyngor Sir Ynys Môn) ar gyfer Eitem
5, gan ei fod yn aelod
o Fwrdd ‘Menter Môn’ yn rhinwedd ei rôl
fel Arweinydd y Cyngor, a
bod prosiect Hwb hydrogen Caergybi yn cael ei
drafod o fewn yr adroddiad. Nodwyd nad oedd yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys
Môn) ar gyfer Eitem 12 parthed trafodaeth ar Achos Cyfiawnhad Busnes: Safleoedd
ac Adeiladau Gogledd Môn. Ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ac ni fu
iddo bleidleisio ar y penderfyniadau hyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2026 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 13 Mawrth 2026 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 4 Hedd
Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio PENDERFYNIAD 1. Nodi
Adroddiad perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
diweddaru. 2. Cymeradwyo
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU, ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd
chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion
Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. TRAFODAETH Adroddwyd
ar nifer o uchafbwyntiau a gyflawnwyd o fewn y chwarter hwn, megis
cymeradwyaeth tair o Achosion Busnes Amlinellol, Achos Busnes Llawn ar gyfer
prosiect EGNI, yn ogystal â sawl Cais am Newid. Ymfalchïwyd bod digwyddiad
cychwynnol wedi ei gynnal ar gyfer prosiect Defaid Llaeth Cymru yn ogystal â
chyfarfod y panel buddsoddi cyntaf y Gronfa Ynni Glân ble cymeradwywyd
prosiectau cyntaf ar gyfer y gronfa honno. Mynegwyd
balchder bod 161 o swyddi wedi cael eu creu hyd yma gan egluro bod 63 o’r rhain
yn sywddi newydd a 58 ohonynt yn swyddi adeiladwaith. Nodwyd bod y niferoedd
hyn ychydig yn uwch na’r hyn a ragdybiwyd. Eglurwyd bod yr Aelodau wedi debryn
gwybodaeth ychwanegol am ddata swyddi y tu hwnt i ddogfennaeth y cyfarfod hwn,
gan egluro bydd y wybodaeth yma yn cael ei rannu yn gyhoeddus pan bydd
niferoedd swyddi yn cynyddu. Cydnabuwyd nad oes modd eu rhannu yn gyhoeddus ar
hyn o bryd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw unigolyn yn gallu cael eu hadnabod
o’r wybodaeth. Cadarnhawyd
bod y buddsoddiad i’r Cynllun Twf bellach yn £30,652,413.01 gan nodi bod y
cyfanswm buddsoddi bellach dros £34.2miliwn, ac adroddwyd bod hyn yn cyfarch
targedau buddsoddi ar gyfer y flwyddyn. Ymhelaethwyd bod y prosiectau bellach
wedi diogelu dros £7miliwn o gyllideb refeniw. Eglurwyd
bod 7 prosiect bellach yn weithredol, gan gydnabod bod hyn yn llai na’r nifer o
brosiectau a ddisgwyliwyd i fod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn. Nodwyd
bod oedi wedi bod ar rhai prosiectau megis Parc Bryn Cegin. Ymhelaethwyd bod
rhai cynlluniau wedi oedi oherwydd rheoliadau gwleidyddol Cyfnod Cyn Etholiad:
Etholiad Senedd Cymru, gan obeithio bydd y prosiectau hynny yn weithredol cyn
gynted â phosib. Rhannwyd
bod 10 prosiect wedi cael eu cymeradwyo ond nad ydynt yn weithredol ar hyn o
bryd. Sicrhawyd y disgwylir i’r mwyafrif o’r prosiectau hynny fod yn weithredol
o fewn chwe mis. Nodwyd
hefyd bod Achosion Busnes Amlinellol yn cael eu datblygu ar gyfer 8 prosiect
Cyfeiriwyd at un prosiect sydd yn parhau i adrodd yn goch ar hyn o bryd, ac o
dan adolygiad o’r herwydd, sef Hwb Hydrogen Caergybi. Mynegwyd balchder bod yr
Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei ddatblygu ac yn cael ei asesu ar y cyd
gyda chynghorwyr allanol. Manylwyd
ar Gofrestr Risg y Portffolio gan gadarnhau bod y risgiau gweddilliol ar gyfer
‘fforddiadwyedd’ a ‘newid gwleidyddol’ wedi cael eu cynyddu yn ddiweddar yn
dilyn y rhyfel yn y dwyrain canol yn ogystal â’r angen i gychwyn cydweithio
gydag aelodau newydd o’r Senedd yn dilyn yr etholiad. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Trafodwyd risgiau Fforddiadwyedd presennol yn dilyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF AR GYFER 2025/26 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Bennaeth Cynorthwyol Cyllid PENDERFYNIAD · Nodi sefyllfa alldro’r Cynllun Twf
ar gyfer 2025/26 gan nodi, oherwydd tanwariant, peidio â defnyddio £60,990 o’r
gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi, a defnyddio swm llai o £867,731 o grant
Cynllun Twf Gogledd Cymru, i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn. · Nodi sefyllfa cronfeydd y Cynllun
Twf. · Nodi adolygiad cyfalaf diwedd
flwyddyn y Cynllun Twf ar 31 Mawrth 2026. · Nodi sefyllfa alldro y Parth
Buddsoddi ar gyfer 2025/26. · Nodi sefyllfa alldro y
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2025/26. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Hysbysu’r Is-bwyllgor Lles Economaidd am sefyllfa ariannol y Cynllun Twf
(gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chynllun Ynni Ardal Leol), y Parth
Buddsoddi a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer refeniw a chyfalaf yn
2025/26. TRAFODAETH Tywyswyd
yr aelodau drwy sefyllfa refeniw a chyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf, Parth
Buddsoddi a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol
2025/26. Sefyllfa
Alldro Net Terfynol Adroddwyd
bod tanwariant o £543,000 o fewn y sefyllfa alldro net terfynol, gyda’r prif
danwariant yn deillio o bennawd ‘gweithwyr’. Ymhelaethwyd bod oddeutu £90,000
o’r tanwariant hwn yn deillio o staff sydd yn gweithio cyfran o’u hamser ar y
Cyd-bwyllgor Corfforedig, £39,000 yn ymwneud a staff sy’n gweithio ar y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a £156,000 yn ymwneud â staff a ariannwyd gan
brosiectau’r Cynllun Twf. Cadarnhawyd bod swyddi gwag wedi arwain at danwariant
o oddeutu £255,000. Nodwyd
hefyd bod tanwariant yn erbyn pennawd ‘rolau llywodraeth ychwanegol’ oherwydd,
er bod penodiadau wedi cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn, eglurwyd eu bod yn
cael eu hariannu o’r Gronfa Adnoddau ac felly bu i gyllideb y gronfa honno gael
ei haddasu i gyfateb â’r tanwariant. Cyfeiriwyd hefyd at danwariant o £181,000
ar y gwariant cefnogol i brosiectau. Amlygwyd
mai prif ffrydiau incwm ar gyfer y flwyddyn oedd: cyfraniadau partneriaid,
grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, grant ynni Llywodraeth Cymru, y Gronfa
Ffyniant Gyffredin, y gronfa Wrth Gefn a’r Gronfa Adnoddau. Atgoffwyd mai
cyfraniadau partneriaid yw’r unig ffynhonnell ariannu barhaol ar gyfer y
Cyd-bwyllgor Corfforedig a'u bod yn gyfanswm o 20% o’r gyllideb lawn. Adroddwyd
bod y cyfraniadau gan bartneriaid wedi eu cymeradwyo fel rhan o’r Cytundeb
Cyflawni ac Ariannu gan yr holl bartneriaid perthnasol. Cyfeiriwyd
at ffynonellau ariannu tymor byr megis y Grant Cynllun Twf. Eglurwyd bod hanner
yr arian a dderbyniwyd fel rhan o’r grant hwnnw wedi cael ei ddynodi i wariant refeniw,
gan nodi ei fod eisoes wedi cael ei ddefnyddio ym mhum mlynedd gyntaf y rhaglen
- gyda 10 mlynedd yn weddill. Pwysleisiwyd pwysigrwydd amrywiaeth ffynonellau
ariannu i’r dyfodol. Ystyriwyd
defnyddio’r tanwariant hwn er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar ddiwedd y
flwyddyn. Nodwyd byddai modd gwneud hyn drwy leihau cyfraniad o’r grant Cynllun
Twf o £1,350,000 i oddeutu £868,000 ac i beidio defnyddio £61,000 o’r gronfa
Wrth Gefn. Eglurwyd byddai’r ffynonellau hyn yn cael eu defnyddio i ariannu
gwariant o fewn y blynyddoedd dilynol ac yn lleihau’r risg o’r angen i gynyddu
cyfraniadau partneriaid yn y dyfodol agos. Cronfeydd Adroddwyd ar y symudiad o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - CRONFA CHWYDDIANT COSTAU Hedd
Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cytuno i sefydlu
Cronfa Chwyddiant Costau ar gyfer 2026/27 a darparu £3.96m o gyllid y Cynllun
Twf i’r gronfa wrth gefn i’w gychwyn. Cymeradwyo’r meini
prawf ar gyfer y Gronfa Chwyddiant Costau a’r matrics penderfyniadau a
dirprwyedig. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Portffolio. PENDERFYNIAD Cytuno i sefydlu Cronfa Chwyddiant Costau ar gyfer 2026/27 a darparu
£3.96m o gyllid y Cynllun Twf i’r gronfa wrth gefn i’w gychwyn. Cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer y Gronfa Chwyddiant Costau a’r matrics
penderfyniadau a dirprwyedig. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cynnig sefydlu Cronfa Chwyddiant Costau i
gefnogi prosiectau cymeradwy (cymeradwyaeth Achos Cyfiawnhad Busnes) neu Achos
Busnes Llawn) gyda chostau uwch na ellir eu lliniaru, er mwyn sicrhau bod
prosiectau’n cael eu cyflawni yn ystod 2026/27. Byddai £3.96 cychwynnol yn cael
ei ddyrannu i’r Gronfa Chwyddiant Costau (i’w adolygu ymhen chwe mis) gan adael
£28m o gyllid heb ei ddyrannu ar gael i brosiectau’r Rhestr Wrth Gefn. TRAFODAETH Eglurwyd mai diben yr adroddiad yw sefydlu
Cronfa Chwyddiant Costau er mwyn cynorthwyo datblygiad prosiectau drwy gydol y
flwyddyn ariannol, yn dilyn heriau fforddiadwyedd fel
y nodwyd yn gynharach o fewn y cyfarfod hwn. Ystyriwyd byddai sefydlu’r gronfa
hon yn sicrhau bod modd parhau gyda graddfa ddatblygol prosiectau a sicrhau
momentwm i’r dyfodol wrth i fwy o Achosion Busnes gael eu cymeradwyo. Nodwyd
bod sefydlu’r gronfa hon yn deillio o brofiadau a gafwyd pan fu oediad ym
mhrosiectau yn dilyn y rhyfel yn Wcráin, ac i atal yr oediad hynny yn y
dyfodol. Cynigiwyd dyrannu £3.96miliwn o gyllideb sydd
heb ei ddyrannu o’r Gronfa Wrth Gefn, i sefydlu’r gronfa, gan sicrhau y byddai
hyn yn cael ei adolygu ymhen chwe mis. Pwysleisiwyd byddai £28miliwn yn parhau
i fod ar gael ar gyfer y Rhestr Wrth Gefn. Cadarnhawyd byddai meini prawf penodol yn
cael ei ddefnyddio er mwyn canfod os yw prosiectau yn gymwys am gyllideb.
Nodwyd bod y gronfa yn targedu prosiectau sydd eisoes wedi datblygu’n rhannol,
gyda chyfnodau caffael wedi ei gwblhau a bod cyflenwr wedi cael ei adnabod.
Ymhelaethwyd y disgwylir bod trafodaethau gyda chyflenwyr er mwyn lleihau
costau yn angenrheidiol ble’n bosib er mwyn bod yn
gymwys ar gyfer arian o’r gronfa. Pwysleisiwyd bod angen i unrhyw ddyraniad o’r
gronfa i brosiect arwain yn uniongyrchol at lwyddiant y prosiect hwnnw i fod yn
weithredol. Adroddwyd byddai cyfraniad y Cynllun Twf tuag
at y cyllid ychwanegol yn cael ei gapio ar gyfradd ganrannol yr ymyrraeth
bresennol, pan fo’r Cynllun Twf yn ariannwr lleiafrifol ar y prosiect. Yn
wahanol, mewn achosion ble mai’r Cynllun Twf yw’r prif ariannwr ar gyfer y
prosiect, bydd cyfraniad y Cynllun Twf tuag at gyllid ychwanegol o’r gronfa hon
yn cael ei gyfyngu i 50% o’r cyllid ychwanegol sydd ei angen. Pwysleisiwyd bod
y cyfyngiadau hyn wedi bod yn werthfawr iawn yn y gorffennol er mwyn sicrhau
bod costau prosiectau yn cael eu rhannu gyda noddwyr prosiect ac yn fodd
llwyddiannus o sicrhau bod prosiectau yn datblygu’n effeithiol. Eglurwyd y byddai gweithdrefnau mewn lle i
ddirprwyo penderfyniadau ar wariant y gronfa i swyddogion, mewn cydweithrediad
gyda’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a swyddogion statudol. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:- Pryderwyd byddai’r defnydd o’r gronfa hon yn arwain at ymestyn prosiectau ble fyddai posibilrwydd y byddent yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM: PROSIECTAU RHAGLEN ARLOESI CYCHWYNNOL Iain Taylor (Rheolwr Rhaglen Parth Buddsoddi) i gyflwyno’r adroddiad. Mae Atodiadau 1-3 yn eithriedig,
er sylw Aelodau’r Cyd-bwyllgor yn unig, yn unol â Paragraff 14 o Atodiad 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu
fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen
Parth Buddsoddi PENDERFYNIAD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor Lles
Economaidd ar gyfer y tri phrosiect cyntaf o fewn Rhaglen Arloesi Parth Sir y
Fflint a Wrecsam. Mae’r prosiectau hyn yn cyd-fynd a’r prosiectau arloesi
newydd a gefnogir gan y Parth Buddsoddi, sydd ar y gweill ar hyn o bryd gydag
AMRC a BIC Innovation, i greu Rhaglen Arloesi Parth
Buddsoddi ac archwilio dichonoldeb Sefydliad Gweithgynhyrchu Cenedlaethol Cymru
yng ngogledd-ddwyrain Cymru. TRAFODAETH Eglurwyd bod tri prosiect wedi cael eu
datblygu ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam
a phrosiectau er mwyn cysylltu cwmnïau
masnachol gyda ffynonellau ymchwil ac arloesol er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw
adnabod eu heriau, ehangu cysylltiadau ac i annog tyfiant arloesol o’u cwmnïau. Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn yn cynnwys
prosiect Prifysgol Wrecsam, sydd wedi bod dan ofal y Bartneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol a Bwrdd Arloesi Gogledd Cymru. Eglurwyd ei fod yn brosiect arloesol
i alluogi’r brifysgol i ddarparu cymorth ac ymchwil i gwmnïau, heb gronni
costau. Cyfeiriwyd at brosiect gan Brifysgol Bangor
sydd yn annog cwmnïau i gyfarch eu heriau data a chysylltedd. Nodwyd bydd y
prosiect hwn yn arwain ar y dulliau gorau o wella cysylltedd ar draws y
rhanbarth. Eglurwyd bod y prosiect hwn yn caniatáu’r amser i gwmnïau gynnal
cyfarfodydd gyda’r brifysgol er mwyn deall unrhyw drafferthion presennol a
chydweithio i’r dyfodol i’w datrys. Adroddwyd mai’r trydydd prosiect yw prosiect Diwydiant Sero Net Cymru, sydd yn cefnogi busnesau gyda gweithdrefnau i sicrhau lleihad i allyriadau carbon a chynlluniau i fod yn sero net carbon. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus. Penderfyniad: Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd
a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon. Cofnod: Cynigodd y Cadeirydd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Er bod diddordeb y cyhoedd
mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael
ei orbwyso ar hyn o bryd gan
yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol
o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r
gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus. Pleidleisiwyd ar
y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal
ei phleidlais ar yr eitem hon. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
DYFODOL VENUE CYMRU - CAIS AM NEWID AC ACHOS BUSNES AMLINELLOL WEDI'I DDIWEDDARU, MAWRTH 2026 Elliw Hughes, Rheolwr
Rhaglen y Cynllun Twf, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r
cais am newid a’r Achos Busnes Amlinellol wedi’i ddiweddaru ar gyfer Venue
Cymru, gan roi chwe mis ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fynd i’r
afael â’r materion sy’n weddill, a chyflwyno Achos Busnes Llawn er ystyriaeth
gan yr Is-bwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio a Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf. PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r
cais am newid a’r Achos Busnes Amlinellol wedi’i ddiweddaru ar gyfer Venue
Cymru, gan roi chwe mis ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fynd i’r
afael â’r materion sy’n weddill, a chyflwyno Achos Busnes Llawn er ystyriaeth
gan yr Is-bwyllgor. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae ceisiadau am newidiadau i brosiectau gan Arianwyr Prosiectau yn faterion
i’r Is-bwyllgor eu penderfynu. Bydd cymeradwyo’r Cais am Newid yn galluogi i brosiect Dyfodol Venue Cymru fwrw ymlaen gydag amserlen realistig, y mae
modd ei chyflawni, sy’n cyd-fynd â’r cyllid sydd wedi’i gadarnhau, cyfyngiadau
gweithredol a’r cyngor cyflawni arfer gorau, tra’n diogelu’r buddion hirdymor. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
HWB ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES AR GYFER DATBLYGIAD LLAETH CYNALIADWY - DIWEDDARIAD Elliw Hughes, Rheolwr
Rhaglen y Cynllun Twf, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf. PENDERFYNWYD 1. Nodi’r cynnydd a’r materion sy’n weddill ers
cymeradwyaeth yr Achos Cyfiawnhad Busnes ym Mawrth 2026. 2.
Ail-gadarnhau cymeradwyaeth o’r Achos Cyfiawnhad Busnes
ar gyfer yr Elfen Datblygiad Llaeth Cynaliadwy o brosiect Hwb Economi Wledig
Glynllifon yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r
broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Grŵp Llandrillo Menai yn ymdrin â’r
materion a nodir yn yr adroddiad a’n sicrhau’r holl gymeradwyaethau mewnol
angenrheidiol ar gyfer y prosiect. 3.
Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad
â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i
gytuno a chadarnhau’r materion sy’n weddill yn yr adroddiad cyn i’r cyllid gael
ei ryddhau. Os bydd yna ddisgwyliad i ail gaffael y prosiect yna bydd yr Achos
Cyfiawnhad Busnes yn cael ei ail gyflwyno i’w ystyried. 4.
Nodi bod cytundeb ariannu eisoes wedi’i wneud gyda
Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon yn
dilyn cymeradwyaeth Achos Cyfiawnhad Busnes Llaeth Defaid Cymru, ac y bydd y
cytundeb hwn yn cynnwys y broses o gyflawni’r elfen hon o’r prosiect ehangach
os bydd yr Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn. 5.
Nodi y bydd un cymeradwyaeth Achos Busnes arall i
gyflawni’r elfennau sy’n weddill o brosiect RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer
Elfen Datblygiad Llaeth Cynaliadwy Prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
CAIS I YMESTYN Y CYFNOD DILYSRWYDD AR GYFER TRI PHROSIECT RHAGLEN TIR AC EIDDO David
Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio, yn absenoldeb Rheolwr Rhaglen Tir ac
Eiddo PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r cais i ymestyn y Cyfnod Dilysrwydd i
gwblhau’r Cytundebau Cyllid Grant o dri mis ar gyfer y prosiectau Tir ac Eiddo
a ganlyn:
Nodi, os nad yw’r Cytundebau
Cyllid Grant perthnasol wedi’u cwblhau erbyn y dyddiadau adolygu diwygiedig, y
bydd angen i’r achos busnes perthnasol gael ei ail gyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w
ystyried a’i gymeradwyo ymhellach. Cadarnhau
bod y Cyfarwyddwr Portffolio yn cael ei awdurdodi i gymryd yr holl gamau
gweithredol angenrheidiol i fwrw ymlaen a chwblhau’r Cytundebau Cyllid Grant o
fewn y Cyfnodau Dilysrwydd estynedig, yn amodol ar y gofynion cyfreithiol,
ariannol, caffael a llywodraethu arferol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i ymestyn
y dyddiad adolygu ar gyfer y Cytundeb Cyllid Grant o dri mis oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. TRAFODAETH Trafodwyd yr
Adroddiad. |