Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Rob Triggs, Menna Baines ac Arwyn Herald Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 23ain o Fai fel rhai cywir. |
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR PDF 164 KB I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn cynnwys yr adroddiad Nodyn: Ychwanegu i’r daflen penderfyniad: ·
Bod angen cynnal sesiwn gwybodaeth ar y maes digartrefedd i
aelodau’r Pwyllgor ddeall y maes yn well ac i ddeall y rhesymau pam fod costau
yn y maes mor uchel ·
Dymuniad
y Pwyllgor i dderbyn hyfforddiant Ffordd Gwynedd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd
bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. Tynnwyd sylw at gais a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i gynnal sesiwn
gwybodaeth ar y maes digartrefedd. Roedd yr aelod angen sicrwydd na fyddai’r
mater yn cael ei ‘golli’ ac yn awgrymu,
yntau cynnwys y mater yn y flaen raglen os nad yn y cofnod penderfyniadau. Amlygwyd bod cais wedi ei wneud i Aelodau’r Pwyllgor dderbyn sesiwn
hyfforddiant ar egwyddorion Ffordd Gwynedd PENDERFYNWYD Derbyn cynnwys yr adroddiad Nodyn: ·
Bod
angen cynnal sesiwn gwybodaeth ar y maes digartrefedd i aelodau’r Pwyllgor
ddeall y maes yn well ac i ddeall y rhesymau pam fod costau yn y maes mor uchel ·
Dymuniad y Pwyllgor i dderbyn
hyfforddiant Ffordd Gwynedd |
|
DATGANIAD O GYFRIFON 2023/24 PDF 62 KB I ystyried y Datganiad o Gyfrifon Statudol (drafft amodol ar archwiliad) er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad Cymeradwyo: ·
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2023/24 ·
Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a
ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru Diolch i’r staff
am gwblhau’r cyfrifon yn gywir ac amserol Cofnod: Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod y cyfrifon
wedi eu cwblhau a’u rhyddhau i’w harchwilio gan Archwilio Cymru, ein
harchwilwyr allanol, ers canol Mehefin. Nodwyd bod estyniad eto
eleni yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o
gwblhau’r archwiliad a chymeradwyo’r cyfrifon ym Mhwyllgor Tachwedd 28ain 2024. Atgoffwyd yr
Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2023/24 wedi ei gyflwyno
i’r Pwyllgor ar y 23ain o Fai ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r
Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar
ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol
gymhleth. Adroddwyd ar
gynnwys yr adroddiad gan egluro bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2023/24, yn
cael eu cwblhau 1. Cyngor
Gwynedd 2. Cronfa
Bensiwn Gwynedd 3. GwE
(cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 4. Bwrdd
Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor o sylweddol ei faint ac felly Datganiadau
Llawn wedi eu paratoi) 5. Harbyrau
Gwynedd a 6. Cydbwyllgor
Corfforedig y Gogledd Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi
gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y
Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr
Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau: ·
Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £57
miliwn yn ystod y flwyddyn i gymharu gyda £37 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. ·
Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys
Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb ·
Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn
ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod
balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2024, sef yr un
lefel â Mawrth 2023 a Mawrth 2022. Bod Reserfau yn amlygu lleihad yn y
cronfeydd £104 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023 i £102 miliwn erbyn diwedd Mawrth
2024 ·
Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad ym
malansau ysgolion - £17 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2024 i gymharu â £12 miliwn
erbyn diwedd Mawrth 2023 a £9 miliwn erbyn diwedd 2024 sydd yn amlygu darlun yn
agosach at lefel y balansau cyn Covid. Eglurwyd bod hyn yn ddarlun cyffredinol
sydd yn cael ei weld yng Nghymru gan fod y balansau ysgolion wedi bod yn uchel
yn dilyn nifer o grantiau yn sgil Covid. · Yng nghyd-destun y fantolen a’r newid i ffigyrau pensiwn, nodwyd bod y flwyddyn 2022 / 23 yn un lle gwelwyd am y tro cyntaf sefyllfa o ased pensiwn yn hytrach nag ymrwymiad, sefyllfa oedd yn ddigynsail, oherwydd amodau y farchnad a chwyddiant uchel. Eglurwyd bod prisiad yr actiwari yn defnyddio bondiau corfforaethol, a gan fod cynnyrch y bondiau hyn wedi bod yn uchel, roedd wedi arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel oedd yn rhoi gwerth sylweddol is ar yr ymrwymiadau pensiwn. Ategwyd nad oedd y sefyllfa yn unigryw i Wynedd ond yn golygu bod cryn drafodaeth o ran ei driniaeth yn y cyfrifon y llynedd, ac felly roedd rhaid cael arweiniad gan CIPFA a Thim Technegol Archwilio Cymru. Nodwyd eleni, bod mwy o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2023/24 PDF 208 KB I ystyried a chymeradwyo’r Datganiad at bwrpasau ei arwyddo gan Arweinydd
y Cyngor a’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac argymell fod
Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo Nodyn: ·
Angen ail ystyried sgôr
tebygolrwydd Cyfreithlondeb ·
Angen ystyried adolygu’r cwestiynau ac addasu’r ddogfen i fod
yn eglur i drigolion Gwynedd - er yn cydymffurfio â chanllawiau CIPFA, awgrym i
ystyried cyfuno gyda’r asesiad o drefniadau llywodraethu sydd wedi ei gynnwys
yn Hunanasesiad Cyngor Gwynedd i osgoi dyblygu gwaith Cofnod: Cyflwynwyd y Datganiad
gan y Pennaeth Cyllid. Eglurodd
bod y datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon, yn ddogfen statudol ac
angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio
(Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol sicrhau bod
datganiad o reolaeth fewnol yn ei le. Adroddwyd mai’r Prif Weithredwr ac
Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen cymeradwyaeth gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Rhoddwyd
ychydig o gefndir i’r datganiad sydd yn seiliedig ar Fframwaith CIPFA / SOLACE
sydd yn adnabod 7 egwyddor graidd ar gyfer llywodraethu da sydd wedyn yn cael
eu rhannu ymhellach i is-egwyddorion. Amlygwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau
Llywodraethu yn ystyried yr egwyddorion a’r is-egwyddorion hyn gan lunio
Cofrestr Risg Llywodraethu sydd yn rhan o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor.
Adnabuwyd risgiau mewn 24 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r
rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny. Adroddwyd bod trefniadau rheoli risg yn rhoi ystyriaeth i ddau factor
wrth sgorio maint y risg sef effaith y digwyddiad petai’r risg yn cael ei wireddu
a thebygolrwydd y risg o gael ei wireddu. Tynnwyd sylw at y newidiadau ers
datganiad 2022/23 gan amlygu addasiadau
sgôr risg ym maes Cyllid ac Iechyd,
Diogelwch a Llesiant ac adroddwyd bod y Grŵp Asesu wedi dod i gasgliad bod
1 maes gyda risgiau uchel iawn, 4 maes risgiau uchel, 10 maes risgiau canolig a
9 maes risgiau isel. Diolchwyd am yr adroddiad. Cyfeiriwyd
at bob risg yn ei dro gan roi cyfle i’r Aelodau holi ynglŷn â’r maes
hwnnw. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: Cyllid
- bod sgôr risg 2022/23 wedi bod
yn rhy isel. Yn croesawu’r addasiad ac
yn fodlon gyda’r asesiad – teg fyddai cadw sgôr risg yn 20. Cyllid -
bod angen addasu'r adroddiad Saesneg i adlewyrchu ‘risg uchel iawn’ yn hytrach
na ‘medium risk’ Cyfreithlondeb
- tebygolrwydd 1 yn gamarweiniol Iechyd -
awgrym y dylai risg fod yn uwch na 15? A yw staff wedi eu hyfforddi yn llawn? Cyffredinol
- bod y penawdau yn rai ‘sgolastig’ gan awgrymu bod rhai yn fwy pwysig na’i
gilydd. A ddylid rhoi ffocws ar y materion sydd yn ganolog bwysig yn hytrach
nag ar y ‘meddal ddiwydiannol’? Cyffredinol
- bod angen penawdau sydd yn cyfeirio at y casgliad. E.e., materion Cyllid yn glir
ac esboniadwy ond gydag elfennau megis Tai a / neu Heneiddio, bod angen cefndir
neu grynodeb o feysydd o fewn y maes. Angen ystyried adolygu’r cwestiynau ac addasu’r
ddogfen i fod yn eglur i drigolion Gwynedd.
Mewn ymateb i’r sylw ym maes risg Iechyd, nododd y Pennaeth Cyllid bod y sgôr yn un
cyffredinol ac wedi ei sgorio gan arbenigwyr Iechyd a Diogelwch o fewn
cyd-destun trefniadau'r Cyngor i weithredu yn ddiogel. Ategodd bod rhaglen
waith yn ei lle gyda chamau gweithredu i leihau’r sgôr tebygolrwydd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha mor aml roedd y risgiau yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2023/24 PDF 201 KB I ystyried
yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth
trysorlys y Cyngor 2023/24, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor
Llawn 3ydd Mawrth 2024. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a
llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r
gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw
fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda
nhw. Adroddwyd bod £3.5m o log wedi ei dderbyn ar
fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r £3.2m a oedd yn y gyllideb. Nodwyd, ar
ddechrau'r flwyddyn ariannol roedd y Gyfradd Banc wedi ei osod ar 4.25%, ond
cynyddodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr (MPC) y Gyfradd Banc i 5.25% ym
mis Awst 2023 a gynhaliwyd y Gyfradd Banc ar 5.25% hyd at fis Mawrth 2024. Ar y 31 Mawrth 2024 roedd y Cyngor mewn sefyllfa
gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd lefel uchel o fuddsoddiadau a
chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys £56 miliwn o arian y Bwrdd Uchelgais
a £31 miliwn y Gronfa Bensiwn. Ategwyd bod y gweithgaredd benthyca wedi bod yn
ddistaw iawn yn y flwyddyn gyda dim ond ad-daliadau benthyg wedi digwydd. Adroddwyd,
yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda
Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i
pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion sydd yn gyson
gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd
bellach. Nodwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau tymor canolig/
tymor hir sydd yn dod a lefel incwm da iawn, a gyda lefelau arian y Cyngor yn
iach, yr Uned Buddsoddi yn edrych ar fuddsoddiad pellach i’r cronfeydd yma yn y
dyfodol agos. Yng
nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl
weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth
rheolaeth trysorlys y Cyngor - hyn yn
newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y
dangosyddion lle amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd yn cydymffurfio â’r
disgwyl heblaw un (Datguddiad Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma
wedi ei osod yn amodau llog isel Mawrth 2023 ac felly’n rhesymol bod y symiau
ychydig yn uwch na’r disgwyl. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerthu neu
waredu buddsoddiad cyn y dyddiad aeddfedu (pooled investments) ac er ar yr
wyneb yn amlygu colled o £70k, ond eto’n
talu llog da o 5.8%, nododd y Rheolwr Buddsoddi bod y buddsoddiadau hyn yn
fuddsoddiadau tymor canolig / tymor hir gydag incwm llog sylweddol ac yn
perfformio yn bositif iawn ar ddiwedd eu tymor. Er nad oedd elw wedi ei dderbyn
hyd yma, roedd y sefyllfa yn cael ei fonitro yn barhaus a chyngor rheolaidd yn
cael ei gyflwyno gan Arlingclose. PENDERFYNIAD: Derbyn
yr adroddiad er gwybodaeth |
|
ARCHWILIO CYMRU - Diweddariad Chwarter 1 PDF 96 KB I ystyried
yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad Nodyn:
Gwaith
Archwilio Perfformiad ‘Prosiect Lleol – Gwastraff ac Ailgylchu’ – angen
pwyso i gadarnhau’r amserlen Cofnod: Croesawyd
Alan Hughes ac Yvonne Thomas o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod i
gyflwyno’r adroddiad Cyflwynwyd
diweddariad chwarterol (hyd at 30 Mehefin 2024) o raglen waith ac amserlen
Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio
perfformiad lleol gan amlygu y byddai’r Adroddiad Blynyddol i’w gyhoeddi ym mis
Tachwedd 2024. Cyfeiriwyd at yr Adolygiad Thematig - Gofal Heb ei Drefnu a’r Adolygiad Thematig
- Cynaliadwyedd Ariannol gan amlygu bwriad i gyflwyno’r casgliadau i’r Pwyllgor
yn fuan. Cyfeiriwyd at astudiaethau cenedlaethol llywodraeth leol sydd wedi eu
cynllunio ynghyd ag adroddiadau cenedlaethol ac allbynnau eraill a gyhoeddwyd
gan Archwilio Cymru ers Mehefin 2023. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Gwaith Archwilio
Perfformiad 2023/24 - Prosiect Lleol - Gwastraff ac Ailgylchu, cadarnhawyd bod
yr amserlen yn parhau mewn statws ‘i’w gadarnhau’ ond bod trafodaethau yn cael eu cynnal i
geisio ffordd ymlaen. Ategwyd mai prosiect lleol i’r Cyngor oedd yma ac y
byddai Archwilio Cymru yn adolygu trefniadau’r Cyngor i wella ei wasanaeth
rheoli gwastraff a chyrraedd targedau ailgylchu statudol. Mewn ymateb i
sylwadau’r Swyddog, nododd yr Aelod bod y maes wedi cael llawer o sylw gan y
pwyllgor a bod angen pwyso ar gwblhau’r adolygiad. Derbyn yr adroddiad a nodwyd bod cynnwys y rhaglen waith yn ddiddorol Nodyn: Gwaith Archwilio Perfformiad ‘Prosiect Lleol – Gwastraff ac Ailgylchu’ –
angen pwyso i gadarnhau’r amserlen |
|
ARCHWILIO CYMRU - Cyngor Gwynedd Cynllun Archwilio Manwl 2024 PDF 100 KB I ystyried
yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn Crynodeb 2023 Derbyn y Cynllun Manwl Cofnod: Cyngor Gwynedd - Crynodeb Archwilio Blynyddol 2023 Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddogion Archwilio Cymru
yn crynhoi canfyddiadau a’r casgliadau ar gyfer y gwaith a gwblhawyd ers Ebrill
2023 yng Nghyngor Gwynedd. Ategwyd bod y crynodeb yn rhan o ddyletswyddau
Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyfeiriwyd at waith yr Archwilwyr o archwilio
datganiadau ariannol y Cyngor yn flynyddol ac adroddwyd, eto eleni, bod yr
Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi barn gywir a theg ddiamod ar ddatganiadau
ariannol y Cyngor, ar 22ain o Ionawr 2024. Nodwyd bod y cyfrifon yn
cydymffurfio ag arferion priodol ac mai gweithio i lefel o ‘berthnasedd’ roedd
Archwilio Cymru. Diolchwyd am yr adroddiad Cynllun Archwilio Manwl 2024 Cyngor Gwynedd Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddogion Archwilio Cymru oedd yn manylu ar
y gwaith y mae Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i’r afael a’r risgiau
archwilio i Gyngor Gwynedd 2024/25. Nodwyd y bydd archwiliad o’r datganiadau
ariannol yn cael eu cwblhau ynghyd a
gwaith archwilio perfformiad i asesu sicrwydd a risg. Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau ariannol nodwyd y cyfrifir
perthnasedd gan ddefnyddio gros 2023-24 sef £570.3 miliwn a chyfeiriwyd at y
risg sylweddol a’r risgiau archwilio. Ategwyd bod y risg sylweddol o wrthwneud
rheolaethau gan reolwyr yn un oedd yn cael ei gynnwys yng nghynllun manwl pob
Awdurdod. Nodwyd hefyd bod y risg archwilio o rwymedigaeth net cronfa bensiwn a
phrisio tir ac adeiladau hefyd yn risgiau generig. Amlygwyd y byddai gwaith ardystio ar hawliadau grant Cyngor Gwynedd, a
fydd yn cynnwys Budd-daliadau Tai, Pensiynau Athrawon ac Ardrethi Annomestig
hefyd yn cael eu cynnal. Tynnwyd sylw at y ffioedd, gan nodi na fydd Archwilio Mewnol yn gwneud
dim elw o’r gwaith a chyfeiriwyd at enwau a manylion cyswllt aelodau’r tîm fydd
yn archwilio Gwynedd. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfeiriad at ‘sawl achos LGPS cyfreithiol a all effeithio ar brisiad y
Gronfa Bensiwn’ ac os oedd achos newydd ar wahân i Achos Mc Cloud wedi dod i’r
amlwg, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid mai Achos Mc Cloud yw’r achos hanesyddol
ac nad oedd achos arall mewn bodolaeth ar y funud. Ategodd bod Adran Pensiynau
Cyngor Gwynedd wedi bod yn gwneud llawer o waith gydag argymhellion Achos
McCloud. Mewn ymateb i gwestiwn pan nad y ffioedd yn cynnwys TAW o ystyried bod
gofyn i bob busnes dalu TAW, nododd y Pennaeth Cyllid er bod y Cyngor yn talu’r TAW mae ganddo’r
hawl gyfreithiol i ad-adhawlio’r dreth ac felly gan mai’r ffi cyn TAW sy’n
taro’r gwariant refeniw mae’n fwy ystyrlon i ddangos hynny yn y ddogfen. PENDERFYNWYD: · Derbyn Crynodeb 2023 · Derbyn y Cynllun
Manwl |
|
ADRODDIAD AROLYGIAD GWASANAETH CYFIAWNDER IEUENCTID GWYNEDD AC YNYS MÔN PDF 126 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad ar
ganfyddiad ac argymhellion yr archwiliad a gynhaliwyd ar y Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
yr adroddiad ar ganlyniad ac argymhellion yr arolwg ·
Llongyfarch
y Gwasanaeth ar ganlyniadau’r arolygiad Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a Rheolwr Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ac
argymhellion Arolygiad o’r Gwasanaeth a gynhaliwyd Tachwedd 2023. Adroddwyd bod y Bwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Gwynedd
ac Ynys Môn yn hynod falch gyda’r graddiad cyffredinol 'Da' oedd wedi ei
gyhoeddi yn dilyn yr Arolygiad a diolchwyd i bartneriaid y ddau Awdurdod Lleol,
y rhwydwaith Cyfiawnder Troseddol Lleol, a'r Sector Gwirfoddol am eu cefnogaeth
yn ystod y gwaith paratoi ac yn ystod wythnos yr Arolygiad. Nodwyd y bu i'r arolygiaeth
adnabod sawl maes o ymarfer da gan gynnwys trefniadau partneriaethol cryf sy'n
llywio ac yn darparu adnoddau ar gyfer gweithio'n effeithiol â phlant a
theuluoedd; grŵp o staff sy'n cael eu cefnogi a'u goruchwylio yn dda, a
thystiolaeth bod plant a rhieni yn rhan weithredol o'r gwaith o gynllunio a
chyflwyno cefnogaeth. Cyfeiriwyd at y meysydd sydd i’w gwella, y cynllun gwella sydd wedi ei
lunio mewn ymateb i saith argymhelliad yr arolygiad ynghyd a’r camau nesaf.
Nodwyd bod y Cynllun Gwella ar y cyd gydag aelodau’r Bwrdd Rheoli, y Grŵp
Rheoli Gweithredol a staff y Gwasanaeth yn dilyn cyfarfod ddiwedd mis Ionawr i adolygu’r
adroddiad drafft a chychwyn ar y broses o lunio ymateb fel bod y berchnogaeth i
weithredu’r Cynllun Gwella yn cael ei dderbyn drwy’r Gwasanaeth a’r
partneriaid. Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y staff ar ganlyniadau
calonogol a chadarnhaol yr arolygiad – yn bleser darllen yr adroddiad. Yr
arolygiad yn amlygu canlyniad da, gofalgar gyda staff ymroddedig. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwy fydd yn monitro cynnydd y Cynllun
Gwella nodwyd bod y Cynllun Gwella wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Rheoli ym mis
Ebrill 2024 ac y bydd yn cael ei adolygu yn rheolaidd mewn cyfarfodydd o’r
Bwrdd Rheoli. Er yn canmol bod y sgôr am y gwaith cynllunio (maes 3: Datrysiadau tu
allan i’r Llys) ar yr elfen bod y ‘gwaith cynllunio yn canolbwyntio ar gefnogi
ymataliadeth y plentyn’ yn 100%,
amlygwyd pryder bod y gwaith ‘cynllunio yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw’r
plentyn yn ddiogel’ yn derbyn sgôr o 58%. Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y 58%
yn adlewyrchu canran nad oedd y prosesau yn peri risg ac os mai risg o waith
gweinyddol oedd yma ynteu risg o waith gofal, nodwyd bod yr elfen yn mynegi bod
gwaith digonol yn cael ei wneud i gadw’r plentyn yn saff ond bod angen i’r
staff wella cofnodion y cynllun diogelu sydd ynghlwm ag achos y plentyn.
Ategwyd bod y mater wedi ei gyfarch yn y cynllun gweithredu. Awgrymwyd bod angen, yn y maes Gwybodaeth a Chyfleusterau - Amrywiaeth Staff a’r Plant, gynnwys manylion am y canran o’r staff sydd yn siarad Cymraeg a chanran plant sydd yn gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg. Mewn ymateb, nodwyd bod oddeutu 95% o staff y gwasanaeth yn siarad Cymraeg a bod 60% o blant yn derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg. Ategwyd nad oedd y System Cyfiawnder Troseddol yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL AC HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2023/24 PDF 216 KB I ystyried cynnwys y
ddogfen drafft ar gyfer 2023/24 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a’r
Hunanasesiad Drafft 2023/24 Nodyn: Angen ystyried trefniadau
ymgynghori priodol i’r dyfodol i sicrhau mewnbwn trigolion Gwynedd yn y broses Angen cynnwys y Pwyllgor yn
gynharach yn y broses – awgrym i gynnal gweithdy gyda’r Aelodau fel bod y
Pwyllgor yn cael mewnbwn a gwell cyfle i gynnig argymhellion Wrth gyflwyno data – angen
sicrahu eglurhad llawn e.e, osogi categorïau ieithyddol mewn ysgolion uwchradd Cynyddu Cyflenwad o Dai i Bobl Leol - angen amlygu’r
effaith ac nid y nifer yn unig Prosiectau
Gwynedd Yfory ·
Moderneiddio Adeiladau ac
Amgylchedd Dysgu - ychwanegu bod arogliad RAC wedi ei gynnal ·
Hyrwyddo Llesiant Plant a Phobl
Ifanc - ychwanegu bod cynlluniau / ymgyrchoedd yn eu lle gan yr Adran Addysg i
wella presenoldeb disgyblion ·
Ymestyn Cyfleoedd Chwarae a
Chymdeithasu – ychwaegu cefnogaeth arainnol ychwanegol gan y Cyngor i
Ganolfannau Bwy’n Iach – hyn wedi bod yn benderfyniad positif Cofnod: Croesawyd y Cyng. Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor), Cyng. Nia
Jeffreys (Dirprwy Arweinydd y Cyngor) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi
Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd
drafft o Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24
ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gan ofyn iddynt gynnig sylwadau ac argymhellion
ar gynnwys yr adroddiad. Adroddwyd bod yr Hunanasesiad yn ofyn statudol o dan
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sydd hefyd yn nodi bod angen
cynnwys y Pwyllgor yn y broses hunanasesu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor eisoes yn
casglu llawer o dystiolaeth ac yn cyhoeddi dogfennau sy’n cynnwys y math o
wybodaeth sy’n ddisgwyliedig i’w gynnwys o fewn yr hunanasesiad - dogfennau
megis (ond ddim yn gyfyngedig i) adroddiadau blynyddol Perfformiad,
Cydraddoldeb, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Datganiad Cyfrifon
Blynyddol. Nodwyd hefyd bod cyswllt agos rhwng y ddogfen yma a’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol (gweler eitem 7) ac o ganlyniad, gwaned ymdrech i gadw’r
ddogfen hunan asesiad yn gymharol gryno gan gyfeirio tuag at nifer o’r
dogfennau lle ceir gwybodaeth bellach er mwyn ceisio osgoi dyblygu. Diolchwyd
am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol: · Bod
angen cynnwys y Pwyllgor yn gynharach yn
y broses - awgrym cynnal gweithdy i’r dyfodol fel bod yr Aelodau yn cael cyfle
ac amser i drafod yr adroddiad a chynnig mewnbwn ac argymhellion · Bod
fformat yr adroddiad yn glir a hawdd i’w ddeall – yn drefnus a thaclus · Yr
adroddiad yn rhoi darlun gonest o’r sefyllfa · Bod
yr asesiad yn fanwl iawn, yn anodd ei adolygu heb ddealltwriaeth lawn o feysydd · Bod
angen sicrhau bod trigolion yn derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau - angen
sicrahu cyfathrebu da · Geiriau
megis ‘lluniwyd strategaeth – angen gweld mwy o weithrediad · Teithio
llesol - amlwg mwy o adnoddau i ardaloedd trefol / poblogaeth uchel, ond angen
gweld mwy o ymdrech i faterion teithio llesol gwledig ar draws y Sir ·
Wrth gyflwyno data - angen
sicrhau eglurhad llawn e.e, osgoi categorïau ieithyddol mewn ysgolion uwchradd ·
Cynyddu Cyflenwad o Dai i Bobl
Leol - angen amlygu’r effaith ac nid y nifer yn unig ·
Prosiectau Gwynedd Yfory -
Moderneiddio Adeiladau ac
Amgylchedd Dysgu - ychwanegu bod arogliad RAC wedi ei gynnal -
Hyrwyddo Llesiant Plant a Phobl
Ifanc - ychwanegu bod cynlluniau / ymgyrchoedd yn eu lle gan yr Adran Addysg i
wella presenoldeb disgyblion -
Ymestyn Cyfleoedd Chwarae a
Chymdeithasu - ychwanegu cefnogaeth ariannol ychwanegol gan y Cyngor i
Ganolfannau Bwy’n Iach - hyn wedi bod yn benderfyniad positif Mewn ymateb i gwestiwn os oedd ymgynghoriad gyda phobl leol, busnesau
lleol, staff ac undebau llafur wedi ei gynnal, nodwyd nad oedd ymgynghoriad
penodol ar berfformiad wedi ei gynnal ond bod adborth a gwybodaeth o
ymgynghoriadau niferus eraill ar draws y Cyngor wedi eu hystyried. Ategwyd bod
ymgynghoriad perfformiad wedi ei gynnal ym mis Mai 2023 ac mai ychydig iawn o
adborth a dderbyniwyd y pryd hynny (yr adborth yn bwydo mewn i gyfnod
Hunanasesiad 2022/23). Adroddodd yr Arweinydd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR PDF 145 KB I ystyried
y rhaglen waith Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn y
Rhaglen waith ar gyfer Medi 2024 - Medi 2025 Nodyn: Ystyried
pryd fyddai’n addas adolygu Rhaglen Waith Hunanasesiad y Pwyllgor Cofnod: Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer
cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Chwefror 2025. PENDERFYNIAD: Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Medi 2024 - Medi 2025 Nodyn: Ystyried pryd fyddai’n
addas adolygu Rhaglen Waith Hunanasesiad y Pwyllgor |