Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Huw Rowlands a Gareth A Roberts; Y Cynghorydd Siân Williams (Aelod Lleol - cais 5.2)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Menna Baines (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C26/0052/25/LL ar y rhaglen, oherwydd ei bod yn adnabod chwaer yr ymgeisydd, oedd hefyd yn rhan o’r busnes, yn dda iawn.

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddi fynychu’r cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Fawrth 2026 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

CAIS RHIF C26/0052/25/LL 14 Llys Castan Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FH pdf eicon PDF 252 KB

Ail gyflwyniad o gais i newid defnydd yr uned swyddfa B1 bresennol  i ddefnydd cymysg sy'n cynnwys uned cleifion allanol feddygol (dosbarth defnydd D1) a gofod swyddfa (B1).

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: CANIATÁU yn groes i’r argymhelliad

 

AMODAU:

 

  1. 5 mlynedd
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. Pan ddaw’r defnydd a ganiateir drwy hyn i ben, rhaid adfer y defnydd yn ôl i ddefnydd B1,B2 neu B8

 

Cofnod:

Ail gyflwyniad o gais i newid defnydd uned swyddfa B1 bresennol  i ddefnydd cymysg sy'n cynnwys uned gleifion allanol feddygol (dosbarth defnydd D1) a gofod swyddfa (B1).

 

         Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr

 

a)               Amlygodd y Swyddog Cynllunio bod y cais yn ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd yn mis Tachwedd 2025 ar gyfer newid defnydd o swyddfa i ddefnydd cymysg Swyddfa ac Uned Cleifion Allanol Feddygol o fewn uned wag yn Llys Castan, Parc Menai, Bangor. Amlygwyd mai newidiadau mewnol i’r llawr gwaelod yn unig fyddai’r bwriad gyda chynllun safle ar gyfer 13 lle parcio wrth ymyl yr uned, a 13 llecyn ychwanegol cyfagos, fyddai’n rhoi cyfanswm o 26 lle parcio ar gyfer yr uned.

 

Saif yr uned o fewn Parc Menai a ddynodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) fel Prif Safle Busnes y Ganolfan Isranbarthol; sy’n cael ei warchod ar gyfer defnyddiau cyflogaeth benodol.  Eglurwyd mai dim ond mewn achosion eithriadol y ceir defnyddiau amgen, a bod polisïau’r cynllun yn hyrwyddo datblygiadau canol tref er mwyn gwella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi.

 

Nodwyd, yn arferol byddai’r cais yn cael ei benderfynu o dan hawliau dirprwyedig, ond derbyniwyd gohebiaeth gan ddau aelod lleol  i Fangor yn galw’r cais i bwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at Polisi CYF 5 sy’n nodi mai mewn achosion arbennig yn unig y gellid caniatáu cynigion i ryddhau tir yn Nefnydd Dosbarth B1, B2 neu B8 ar safleoedd cyflogaeth bresennol sydd wedi eu gwarchod yn unol a Pholisi CYF1 ar gyfer defnyddiau amgen. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd nid oedd achos arbennig wedi ei brofi. Yn ogystal, nid oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi’i argyhoeddi nad oedd safleoedd amgen addas o fewn y ffin datblygu ar gyfer y defnydd arfaethedig.

 

Nodwyd bod yr asiant wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ynghylch eiddo nad oedd ar gael ar adeg cwblhau’r asesiad dilyniannol, ynghyd â chadarnhad o’r rhesymau pam nad oeddynt yn addas. Roedd hefyd wedi amlygu sefyllfaoedd lle nad yw’n briodol ystyried eiddo sydd yn methu diwallu anghenion masnachol y datblygwr, ac o ganlyniad, mai dim ond safleoedd sydd ar gael i’w rhentu sy’n berthnasol yn yr achos yma. Er bod yr asiant yn parhau i farnu nad oedd unrhyw eiddo addas arall ar gael, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau o’r farn bod y cynnig yn groes i Bolisi CYF5 o’r CDLl.

 

Amlygwyd bod polisïau PS15 a MAN 1 o'r CDLl yn gwrthsefyll datblygiadau fyddai’n tynnu oddi ar fywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a’r ardaloedd manwerthu, gwneud y mwyaf i ailddefnyddio adeiladau addas mewn canol trefi, a gwrthsefyll ymestyn datblygiadau manwerthu a hamdden y tu allan o ganol trefi, oni bai eu bod yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth o'r angen am ddarpariaeth ychwanegol, a bodloni'r dull dilyniannol sydd wedi ei nodi mewn polisi cynllunio cenedlaethol. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau o’r farn y gallai’r bwriad arwain at danseilio prysurdeb, swyddogaeth a hyfywedd canol Dinas Bangor ac felly ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda polisi PS 15 a MAN  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS RHIF C24/0705/35/LL Cartref Preswyl Plas Newydd, Stryd Fawr, Criccieth, Gwynedd, LL52 0RR pdf eicon PDF 260 KB

Dymchwel adeilad presennol ac ail ddatblygu'r safle ar gyfer 9 fflat (C3) byw'n annibynnol gyda gwasanaeth gofal ychwanegol i rai dros 55 100% fforddiadwy

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd i wrthod y cais:

 

  1. Ni ystyrir fod dyluniad y bwriad, yn nhermau gosodiad, graddfa a’r mas yn ychwanegu at wella cymeriad ac ymddangosiad ei gyd-destun safle nac yn integreiddio’n llawn oddi mewn i gyd-destun y stryd wedd gyfagos na’i leoliad amlwg yn y rhan yma o Cricieth. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a rhan 2.6 o Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sydd yn nodi na ddylai dylunio sy’n amhriodol yn ei gyd-destun, neu nad yw’n manteisio ar gyfleoedd i wella cymeriad, ansawdd a swyddogaeth ardal, gael ei dderbyn oherwydd bydd yn cael effaith niweidiol ar gymunedau sy’n bodoli’n barod.

 

  1. Oherwydd graddfa, mas, lleoliad a rhai nodweddion i’w cynnwys ar y datblygiad arfaethedig, mi fyddai'n arwain at amharu ac effaith gormesol ar eiddo a'u cwrtil cyfochrog. Ystyrir felly y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion eiddo lleol, yn groes i faen prawf 7 o Bolisi PCYFF  2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017. 

 

Cofnod:

Dymchwel adeilad presennol ac ail ddatblygu safle ar gyfer 9 fflat (C3) byw'n annibynnol gyda gwasanaeth gofal ychwanegol i rai dros 55 100% fforddiadwy

 

Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr

 

a)               Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel adeilad presennol gwag (ond a fu yn y gorffennol mewn defnydd cartref gofal/nyrsio), ac ail ddatblygu'r safle trwy godi adeilad newydd fyddai’n darparu 9 fflat fforddiadwy defnydd C3 byw'n annibynnol gyda gwasanaeth gofal ychwanegol i rai dros 55 oed.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn golygu codi adeilad 4 llawr, fyddai ychydig yn uwch ac wedi ei osod yn ôl o fewn y safle o’i gymharu gyda’r adeilad presennol.  Byddai’r llawr daear yn cynnwys prif fynediad a chyntedd ynghyd ag ardaloedd cymunedol i drigolion a staff ar ffurf ardal byw wedi ei rannu, decin neu deras allanol i’r cefn, swyddfa, toiled a chegin ynghyd ac un uned byw. Byddai gweddill yr unedau byw i’w rhannu dros y tri llawr uwchben ac ar ffurf unedau un ystafell wely. Byddai pob uned yn darparu ardal fyw/cegin agored ac ystafell ymolchi.

 

Lleolir y safle o fewn ffin datblygu tref Cricieth gyda ffordd dosbarth 1 yr A497 yn gyfochrog gyda blaen y safle a Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn ymylu’n uniongyrchol i’r cefn. Ategwyd bod safle’r cais yn ffurfio rhan o strydwedd trawiadol yr olwg wrth ddod i mewn i dref Cricieth o’r gorllewin.

 

Adroddwyd bod y bwriad wedi ei gyflwyno fel unedau byw ar wahân, C3 gyda gofal ychwanegol i rai dros 55 oed, a’r holl unedau yn rhai fforddiadwy. Derbyniwyd bod y prisiadau ar gyfer yr unedau yn addas i’r lleoliad ac ar gyfer y math yma o ddatblygiad gyda lefel disgownt o 30% yn dderbyniol. Nodwyd bod arwynebedd llawr y fflatiau yn unol â chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â maint unedau fforddiadwy. Nid yw’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn cyfiawnhau’r angen am yr unedau yn gwbl glir, ond yn gyffredinol cydnabyddir bod angen ar gyfer unedau fforddiadwy un llofft yng Ngwynedd; byddai’r bwriad yn darparu ar gyfer yr angen hynny yn ddarostyngedig i amod i sicrhau eu deiliadaeth fel unedau fforddiadwy ac ar gyfer pobl dros 55 oed.

 

Mynegwyd bod polisi ISA 2 o’r CDLl yn anelu i warchod cyfleusterau cymunedol presennol ac yn gwrthsefyll colled neu newid defnydd. Amlygwyd bod datganiad wedi ei dderbyn gan yr asiant yn cadarnhau bod defnydd blaenorol yr eiddo fel cartref wedi ei ddadgomisiynu ac na fyddai’r adeilad yn addas ar gyfer y defnydd yma mwyach. Nodwyd bod y datganiad hefyd yn dadlau bod y bwriad yn darparu cyfleuster addas i’r gymuned sy’n hwyluso pobl hŷn i fyw yn eu cymuned gyda gofal addas; i’r perwyl hyn, oherwydd goblygiadau hyfywedd ar gyfer parhau â gwella’r cartref presennol, ystyriwyd fod y bwriad yn cyd-fynd gydag amcanion polisi ISA 2.

 

Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng swyddogion yr Awdurdod Cynllunio a’r asiant yn amlygu pryder am ddyluniad y cynnig.  Nodwyd yn benodol na fyddai’r adeilad arfaethedig yn gweddu’n dda gyda’r ardal gyfagos gan y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.