Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Menna Baines, Freya Bentham, Linda Ann Jones, Sion Jones, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Jason Parry, Rheinallt Puw, Peter Read, Mike Stevens, Ioan Thomas a Cemlyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 138 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2019 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Strategaeth Tai, am y rhesymau a nodir isod:-

 

·         Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd oherwydd ei fod yn berchen ar dŷ gwag oedd yn cael ei adnewyddu ar gyfer ei osod.

·         Y Cynghorwyr Berwyn Parry Jones a Cai Larsen oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu Eurig Wyn, cyn-gynghorydd a chyn Aelod Seneddol Ewrop, a fu farw’n ddiweddar, a thalwyd teyrnged iddo gan yr Arweinydd.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Iestyn Tyne, aelod o Dîm Cyfieithu’r Cyngor, ar gipio’r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd eleni, a phawb arall o Wynedd a fu’n fuddugol yn yr Eisteddfod.

·         Manon Steffan Ross ar ennill gwobr “Llyfr y Flwyddyn”.

 

Dymunwyd yn dda i Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol) yn dilyn ei benodiad diweddar i swydd gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd a rhoddodd y Prif Weithredwr air o ddiolch iddo am ei flynyddoedd o wasanaeth i’r Cyngor hwn a chyn-gyngor Dosbarth Dwyfor.

 

Nodwyd y cafwyd cadarnhad gan Recordiau Byd Guinness fod Ffordd Pen Llech yn Harlech, oedd â graddiant o 37.45% yn y man mwyaf serth, wedi cael ei chydnabod fel y stryd fwyaf serth yn y byd.  Eglurwyd bod y stryd, oedd yn cysylltu gwaelod y dref gyda'r castell, wedi cymryd y teitl oddi wrth Stryd Baldwin yn Dunedin, Seland Newydd, oedd â graddiant o 35% yn y man mwyaf serth.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Mae’r arferiad parhaol gan y gwahanol gyrff cyhoeddus a’r wasg a’r cyfryngau o gyfeirio at ‘North Wales’ a ‘South Wales’ a ‘Mid Wales’, ayyb, yn creu rhwygiadau ymysg ein cenedl, a hyn ar amser pan mae angen undod cenedlaethol.  Gofynnaf i’r Arweinydd a fyddai’n fodlon cysylltu â’r Senedd yng Nghaerdydd i ofyn iddynt ymyrryd mewn pob modd posibl er dylanwadu i newid yr arferiad hwn sy’n rhwygo’r genedl hon?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wy’n siŵr os ydw i’n deall y cwestiwn, na pha ddylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru ar enwau ein rhanbarthau, ond mae’n wir dweud bod yna Ranbarth Gogledd Cymru.  Mae’n wir dweud hefyd bod yna Ranbarth y Canolbarth ac mae’n wir dweud bod yna Ranbarth Dinas Caerdydd a Rhanbarth Dinas Abertawe.  Rwy’n cytuno’n llwyr fod angen i ni fod yn hyderus fel cenedl, ac yn unol fel cenedl, ond mae pryderu ynglŷn â’r math yma o sylw yn dangos ein diffyg hyder ni.  Gadewch i ni barhau i enwi ein rhanbarthau fel y gwelwn ni’n dda.  Wn i ddim oes gan y cwestiynydd unrhyw awgrym be ddylem ni fod yn galw’r llefydd yma?”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Rwy’n siŵr y byddai’r Arweinydd yn cytuno â mi bod yr undeb yn cael ei ddarnio?”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Mae nifer fawr o ddigwyddiadau yn cymryd lle ym mhentref Llanberis, bron bob wythnos.  Er bod hyn yn gallu bod yn beth da iawn i economi’r ardal, weithiau mae’r niferoedd o ddigwyddiadau yn ormodol ac yn cael effaith negyddol ar yr ardal, y trigolion a’r ymwelwyr.

 

Hoffwn gael gwybod os yw’r Cyngor yn ymwybodol faint o bobl sydd yn cystadlu yn y digwyddiadau ar y diwrnod yn ardal Llanberis a faint o rasys (rhedeg, beicio a nofio) sy’n cael eu cynnal ac a yw Cyngor Gwynedd yn caniatáu’r digwyddiadau yma i gyd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, y Cynghorydd Gareth Thomas

 

“Gan nad oes raid cael caniatâd Cyngor Gwynedd ar gyfer cynnal pob math o ddigwyddiad, nid yw hi’n bosib’ i’r awdurdod fod yn ymwybodol o’r nifer o rasys a digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal yn Llanberis, na faint sy’n cymryd rhan.  Dim ond digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal ar dir y Cyngor, neu ddigwyddiadau sy’n gofyn am drwydded adloniant neu alcohol, sydd angen caniatâd y Cyngor.  Felly mae yn broblemus.  Mae yna nifer o ddigwyddiadau sy’n defnyddio tir y Cyngor ac mi fyddwn i’n barod iawn i gael sgwrs gyda’r cynghorydd i drafod y math yma o beth.  Rydw i’n ymwybodol o’r pwysau mae hyn yn rhoi ar gymuned Llanberis ac rwyf wedi gofyn i’r swyddogion o’r Adran Economi a Chymuned gydweithio gyda swyddogion perthnasol ar draws gwasanaethau’r Cyngor a phartneriaid allweddol, megis Parc Cenedlaethol Eryri, i gefnogi’r cynghorydd a’r gymuned i weld sut y gallwn gael gwell rheolaeth ar y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH TAI pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Tai  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Tai adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Dai 2019-2024, gan gadarnhau’r cyfeiriad a’r blaenoriaethau yn y maes tai.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nid yw’r adroddiad yn nodi pa gyfran o’r dreth ychwanegol a gasglwyd drwy’r premiwm ar ail gartrefi a chartrefi hir dymor gwag sy’n cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y maes tai.

·         Mae amharodrwydd yr Adran Gynllunio i ganiatáu i bobl ifanc adeiladu tai yn eu pentrefi eu hunain yn llesteirio gweledigaeth y Cyngor o gefnogi holl bobl Gwynedd i ffynnu ac i fyw bywyd cyflawn yn eu cymunedau.

·         Da o beth fyddai i’r Cyngor gychwyn adeiladu tai cymdeithasol unwaith eto.

·         Croesawir y ffaith bod yr Aelod Cabinet wedi cymryd sylw o’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal ac wedi’u hymgorffori yn y Strategaeth.

·         Mae’r cyfeiriad yn y Strategaeth at gynllun adeiladu yn gydnabyddiaeth o’r penderfyniad gwarthus a wnaed i drosglwyddo 3,500 o dai cyngor i gwmni preifat am ddim.

·         Gofynnir i’r Aelod Cabinet ail-ystyried yr agweddau a ganlyn sydd ar goll o’r Strategaeth, a’u cwmpasu yn y ddogfen:-

Ø  Er bod cydnabyddiaeth bod disgwyl y bydd cynnydd o 60% yn y nifer o bobl dros 80 yn byw yng Ngwynedd mewn 20 mlynedd, nid oes sôn am y bobl sy’n dod yma i fyw o bob cwr o’r Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.

Ø  Nid oes sôn bod yr iaith Gymraeg yn gymhwyster ar gyfer tŷ mewn rhai ardaloedd.

Ø  Nid oes son am gynnig morgeisi i bobl leol brynu tai, er bod hynny o fewn hawliau’r Cyngor, ac y byddai’n ddoeth buddsoddi yng nghymunedau’r sir, yn hytrach na buddsoddi mewn cwmnïau arfau.

·         Gan fod y grantiau sydd ar gael i bobl uwchraddio systemau gwresogi mewn tai hŷn yn destun prawf modd, nid yw pobl mewn gwaith yn cymhwyso, a dylid dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r bobl hyn, sydd fymryn uwchlaw’r trothwy, yn cael eu hanwybyddu.

·         Bod pawb o’r aelodau yn gweld pobl eu wardiau yn brwydro i gael tai ac yn byw mewn tai anaddas, a bod y Strategaeth yn chwa o awyr iach drwy’r Cyngor sy’n dangos y pethau positif y gellir eu gwneud i wella sefyllfa trigolion Gwynedd.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, nodwyd:-

 

·         Yn unol â’r Strategaeth Ariannol a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth, bod 100% o’r cynnyrch treth ar ail gartrefi / cartrefi hir dymor gwag (sef tua £2.7m net ar ôl y gost o’i gasglu) yn mynd at brosiectau tai.

·         Bod angen newid yr hen ffordd o feddwl ac o weithredu a dod o hyd i ddatrysiadau i’r materion cynllunio er mwyn hwyluso cartrefu pobl ifanc.

·         Y trosglwyddwyd y stoc tai i gwmni preifat yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar y pryd.

·         Er bod y polisi gosod newydd yn galluogi i’r Cyngor roi mwy o bwys ar gyswllt lleol, ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail iaith yng Nghymru ar hyn o bryd.

·         O  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2018/19 pdf eicon PDF 56 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2018/19 fel darlun clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2018/19.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, nodwyd:-

 

·         Heb arian ychwanegol, na fyddai’n bosib’ caniatáu 80% o amser digyswllt i benaethiaid ysgolion ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn y cynradd (prosiect Trawsnewid y Gyfundrefn Ysgolion – tudalen 77 o’r adroddiad), a bod yr egwyddor hwn, ynghyd ag egwyddorion eraill y prosiect, wedi codi o’r proffesiwn ei hun.  Er na fyddai’n ymarferol bosib’ gwireddu’r egwyddorion hyn, byddent yn fesur ar gyfer edrych ar sefyllfaoedd wrth iddynt godi yn yr ysgolion ar draws y sir. 

·         Bod y prosiect Lleihau’r Bwlch Cyflog Rhwng Merched a Dynion / Merched Mewn Arweinyddiaeth (tudalen 82 o’r adroddiad) yn benllanw dyhead i geisio denu mwy o ferched i swyddi uwch.  Roedd y Cyngor yn dal i fyw gyda phenodiadau’r gorffennol ar hyn o bryd, ond mawr obeithid y byddai’r sefyllfa wedi newid ymhen 5-10 mlynedd.  Fel rhan o’r prosiect, roedd rheolwyr sy’n ferched yn cael eu cyfweld er mwyn canfod beth yw’r rhwystrau iddynt gyrraedd swyddi uwch o fewn y Cyngor.

 

Nododd aelod fod angen i’r Cyngor siarad mwy gyda’r staff rheng flaen pan fo mater yn codi mewn pwyllgor craffu, neu gwynion yn cael eu derbyn.  Hefyd, dylai’r Cyngor sefydlu llwybr gyrfaoedd ar gyfer ei staff, yn enwedig gofalwyr, oherwydd yr anawsterau recriwtio gofalwyr ar draws y sir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad yn adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2018/19, a’i fabwysiadu.

 

10.

ADDASIAD I BOLISI TAL Y CYNGOR 2019/20 pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i osod cyflog swydd newydd Pennaeth Tai ac Eiddo ar raddfa HS2 - £68,458 - £76,063, a thrwy hynny addasu’r Polisi Tâl ar gyfer 2019/20 i adlewyrchu’r ychwanegiad hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i osod cyflog swydd newydd Pennaeth Tai ac Eiddo ar raddfa HS2 - £68,458 - £76,063, a thrwy hynny addasu’r Polisi Tâl ar gyfer 2019/20 i adlewyrchu’r ychwanegiad hwn.

 

11.

GOSOD CYFLOG SWYDD CYFARWYDDWR RHAGLEN BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn gofyn i’r Cyngor, fel yr Awdurdod Cyfrifol am faterion cyflogaeth a chyllidol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gymeradwyo penderfyniad y Bwrdd i osod lefel cyflog ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Rhaglen ar raddfa o £96,304 i £106,304.

 

Rhoddodd yr Arweinydd, oedd hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, air o esboniad ynglŷn â beth fyddai rôl y Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd pryderon gan aelodau unigol ar sail:-

 

·         Perygl y byddai ardal y Gogledd Ddwyrain yn elwa mwy o’r Cynllun Twf na’r Gogledd Orllewin.

·         Gofynion ieithyddol y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen.

·         Anfoesoldeb cynnig cyflog o dros £100,000 i ddeilydd y swydd, pan fo teuluoedd yng Ngwynedd yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

·         Amheuaeth a fyddai’r Cynllun Twf yn llwyddo i ddenu buddsoddiad o £1b i Ogledd Cymru, fel sy’n cael ei honni.

 

Mewn ymateb i’r pryderon hyn, nodwyd fel a ganlyn:-

 

·         Nad penderfyniad y Cyngor hwn oedd penodi i’r swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, eithr penderfyniad trawsbleidiol y Bwrdd Uchelgais Economaidd, sef Arweinyddion y 6 Cyngor, mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr o’r sector breifat a’r colegau.

·         Bod Cyfansoddiad y Bwrdd Uchelgais yn nodi bod rhaid cael consensws ar draws y 6 Cyngor i bob penderfyniad.  Gan na chafwyd cytundeb ar y mater ieithyddol, y cyfaddawd y cytunwyd arno oedd bod y Gymraeg yn ‘ddymunol’ ar gyfer y swydd, a hefyd yn sgil ychwanegol petai dau ymgeisydd yn gyfartal ar ôl cyfweliad.

·         Bod Cyngor Gwynedd yn Awdurdod Lletyol i’r Bwrdd Uchelgais gan iddo ennill ei blwyf fel cyngor sy’n gwneud pethau’n iawn.  Os am weithredu’n briodol yn yr achos hwn, roedd yn ofynnol iddo roi cymeradwyaeth ffurfiol i lefel cyflog swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen gan ei fod uwchlaw £100,000.

·         Bod pob un o’r Arweinyddion yn ymwybodol o’r cwestiwn ynglŷn â chyflogau uchel, ond gan y byddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen yn gyfrifol am ddenu buddsoddiad ychwanegol o £1b gan y sector breifat (at y £280m fyddai’n dod o’r ddwy Lywodraeth), roedd yn gwbl hanfodol cael y person cywir i arwain y gwaith pwysig hwn o ledaenu twf ar draws y Gogledd.

·         Bod unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r hyn mae’r Bwrdd Uchelgais yn ei wneud yn faterion i’w trafod eto.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (45)

 

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Dylan Bullard, Stephen Churchman, Annwen Daniels, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Peter Antony Garlick, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, R.Medwyn Hughes, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Charles W.Jones, Elin Walker Jones, Gareth Jones, Huw Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Cai Larsen, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, Dafydd Meurig, Dafydd Owen, Dewi Owen, Edgar Owen, W.Roy Owen, Nigel Pickavance, Dewi Wyn Roberts, Elfed P.Roberts, John Pughe Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Hefin Underwood, Catrin Wager, Eirwyn Williams, Elfed Williams a Gruffydd Williams.

 

Yn erbyn (11)

 

Y Cynghorwyr , Anwen Davies, Alwyn Gruffydd, Louise Hughes,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2018/19 pdf eicon PDF 43 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor am 2018/19.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, diolchodd Dr Einir Young i’r Swyddog Monitro a’i dîm am eu harweiniad a’u gwaith cyson a pharhaus gyda’r Cyngor Sir a’r Cynghorau Cymuned.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Cwestiynwyd yr angen am yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus o ystyried bod y rhiniog ar gyfer ymchwilio i gwynion Cod Ymddygiad mor uchel bellach.  Nid mater bach oedd cyflwyno cŵyn a dylid anfon neges glir i’r Ombwdsmon bod angen gostwng y rhiniog.

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod nifer y cwynion yn isel iawn o ystyried nifer y cynghorwyr tref, cymuned a sir ar draws Gwynedd, a bod hynny oherwydd bod yna batrwm cyffredin o barchu’r Cod Ymddygiad.  Er hynny, nodwyd bod y Cod yn cael ei fabwysiadu gan bob Cyngor ac yn cael ei dderbyn gan bob aelod fel datganiad o ymrwymiad i safon uchel o ymddygiad yn llygaid y cyhoedd.  Felly, roedd rôl gan bob un oedd yn ymwneud â’r gyfundrefn i arddel a hyrwyddo y safonau yma ac i herio ymddygiad amhriodol, boed yr Ombwdsmon yn ymwneud â’r mater ai peidio.  Dyna’r neges fyddai’n cael ei harddel mewn hyfforddiant.

 

Diolchwyd i’r Dr Einir Young am ei chyflwyniad.

 

13.

PENODI AELOD ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 61 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog Monitro adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Panel Ymgynghorol i benodi Mr Hywel Eifion Jones yn aelod annibynnol ar Bwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd i wasanaethu am gyfnod o 6 mlynedd.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Hywel Eifion Jones yn aelod annibynnol ar Bwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd i wasanaethu am gyfnod o 6 blynedd.

 

14.

PORTFFOLIOS CABINET pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar addasiadau i’r Cyfansoddiad yn sgil gweithrediad yr Arweinydd i ail-drefnu Portffolios Aelodau’r Cabinet, yn unol â Rhan 5 o’r Cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

15.

ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Linda Morgan o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd gwaeledd, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, er mwyn ei galluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Linda Morgan o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd yr amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei galluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

16.

ADOLYGIAD O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor, gan ofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r dyraniad seddau yn Atodiad A i’r adroddiad a dirprwyo’r hawl iddo wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

 

PENDERFYNWYD

(A)      Mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn yr atodiad i’r cofnodion hyn.

(B)      Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

 

17.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

18.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Galwn ar y Cyngor hwn i alw am annibyniaeth i Gymru gan anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed ac ein bod yn dyheu i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein dyfodol yng Nghymru, ac nid yn Llundain.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(A)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Galwn ar y Cyngor hwn i alw am annibyniaeth i Gymru gan anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed ac ein bod yn dyheu i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein dyfodol yng Nghymru, ac nid yn Llundain.”

 

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan aelodau unigol ar sail:-

 

·         Eu dymuniad i gyfrannu at adeiladu Cymru well, Cymru newydd a Chymru rydd.

·         Eu gweledigaeth am Gymru ffyniannus, decach a mwy democrataidd; gwlad lle fyddai cyfiawnder cymdeithasol ar frig yr agenda ymhob agwedd o fywyd cyhoeddus a gwlad lle gwneid penderfyniadau am Gymru gan bobl Cymru.

·         Nad oedd Cymru’n rhy fach nac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol, a bod rhai o wledydd mwyaf llewyrchus, mwyaf cyfartal a hapusaf y byd yn wledydd bychain.

·         Mai synnwyr cyffredin oedd dweud y dylai’r holl benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac y byddai’n haws delio â phroblemau Cymru petai’r llywodraeth yn un i Gymru a bod yr holl sylw ar anghenion Cymru yn unig.

·         Bod dyletswydd arnom i ymgyrchu am annibyniaeth er mwyn ein pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol.

·         Gan fod Cymru ar lwybr llithrig iawn i adael y Gymuned Ewropeaidd, bod brys gwirioneddol i gael rhagor o bwerau i Gymru, grymoedd dros adnoddau naturiol Cymru fel cynhyrchu ynni ac adnoddau dŵr, rhagor o bwerau economaidd, datganoli darlledu, yr heddlu a’r gyfundrefn gyfiawnder.

·         Gan fod y Deyrnas Gyfunol yn newid yn sylfaenol, gyda’r Alban yn paratoi ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth, ac ail-lunio Iwerddon yn bosibilrwydd real, ei bod yn hollbwysig nad oedd Cymru yn cael ei gadael ar ôl.

·         Nad oedd yr ateb i’r heriau economaidd oedd yn wynebu Cymru i’w cael yn Llundain, nac ar lefel Prydain, a’i bod yn amlwg nad oedd gwerthoedd Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n San Steffan na pholisïau llywodraeth honno yn cael eu gosod er budd pobl Cymru.

·         Na ellid ddibynnu ar bobl eraill i wyrdroi sefyllfa drychinebus ein cenedl, a bod raid i bawb weithio gyda'i gilydd i greu cenedl well.

·         Bod 50 o wledydd wedi gadael yr Ymerodraeth Brydeinig dros y 50 mlynedd ddiwethaf a phob un wedi cael yr un dadleuon yn erbyn annibyniaeth ag oedd yn cael eu rhoi yn achos Cymru.

·         Y dymunid gweld cymdeithas deg, gytbwys, fyddai’n gweithio i gefnogi’r bregus – cymdeithas heb hiliaeth a lle byddai pob unigolyn yn cael y cyfle i fyw i’w lawn botensial, waeth beth fyddai ei dras, ei iaith, ei grefydd neu gyfoeth.

·         Gyda 40 allan o tua 650 o seddau’n unig, nid oedd gan Gymru gyfle i lywio’r drafodaeth yn San Steffan nac i wrthwynebu, er enghraifft, y dreth ystafell wely, y cymal trais rhywiol, carchariad mewnfudwyr am dymor di-ben draw na chredyd cynhwysol.

·         Nad oedd bod yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol erioed wedi gweithio i Gymru a bod Cymru’n dlotach na gweddill Prydain, gyda 29% o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18.

19.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i’r Gwasanaeth Tai ddarparu gwybodaeth Rhestrau Aros am dai rhent cymdeithasol at ddibenion asesu angen perthnasol ar sail pob ardal, yn hytrach na’r niferoedd a gyflwynir o dros Wynedd i gyd ar gyfer pob ardal.”  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(B)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i’r Gwasanaeth Tai ddarparu gwybodaeth Rhestrau Aros am dai rhent cymdeithasol at ddibenion asesu angen perthnasol ar sail pob ardal, yn hytrach na’r niferoedd a gyflwynir o dros Wynedd i gyd ar gyfer pob ardal.”

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.

 

20.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

21.

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Sion Jones pdf eicon PDF 918 KB

Cyflwyno, er gwybodaethllythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o cynnig y Cynghorydd Sion Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2019 ynglŷn â gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth

(A)      Llythyr gan y Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sion Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2019 ynglŷn â gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti.

 

 

22.

Ymatebion i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Catrin Wager pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwyno, er gwybodaethllythyrau gan Lywodraethau Cymru a’r DU mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Catrin Wager i gyfarfod 7 Mawrth, 2019 ynglŷn â’r cynnig ar newid hinsawdd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth

(B)  Llythyrau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Catrin Wager i gyfarfod 7 Mawrth, 2019 ynglŷn â’r cynnig ar newid hinsawdd.