Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 A 15 MEDI 2020 PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 8 a 15 Medi 2020 fel rhai cywir. |
|
YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH PDF 503 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â
gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y
cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle
amgen, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023, gan adrodd yn ôl i Gabinet
yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion
adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr
i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi
2023, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cynllun Strategol y Cyngor yn amlygu fod angen i ddisgyblion Gwynedd dderbyn
addysg o’r radd flaenaf ac o fewn y lleoliadau gorau posib. Amlygwyd fod Ysgol Treferthyr bellach yn adeilad anaddas ac y buasai yn
aneconomaidd i barhau yn yr un adeilad. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd fod y
penderfyniad yn gofyn i adleoli’r ysgol mewn safle amgen. Nododd y Pennaeth Adran ei bod yn gyffroes i
gyflwyno’r argymhelliad i fuddsoddi yng Nghricieth a bod y Cyngor, drwy’r cynllun hwn, yn
manteisio ar arian Band B o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Llywodraeth. Derbyniwyd cefndir yr adroddiad gan y
Swyddog Addysg dros Dwyfor a Meirionydd gan dynnu sylw ar y mater fod Ysgol
Llanystumdwy bellach wedi tynnu allan o’r trafodaethau. Mynegwyd fod trafodaeth
wedi ei gynnal ar leoliad addas i’r ysgol a thynnwyd sylw at y safle sydd yn
cael ei ffafrio. Amlygwyd fod gofyn i gynyddu capasiti’r
ysgol i 150 ac mae hynny yn dilyn gwersi a ddysgwyd yn dilyn agor ysgolion
newydd sef fod nifer y plant yn dueddol o godi ym mlynyddoedd cyntaf ysgol
newydd. O ran y gyllideb, nodwyd fod y cais
gwreiddiol am £4.97m ond rhagwelir y bydd y cais yn codi i £5.4m gan fod angen
am ofod ychwanegol ar gyfer yr Uned ABC ac anhwylder iaith a fydd yn cynyddu
cyllideb y prosiect. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun yn un cyffroes sydd a’i
fod yn newyddion cadarnhaol i’r dyfodol. ¾ Amlygwyd ychydig o heriau o ran y lleoliad i fywyd gwyllt a
phwysleisiwyd yr angen i weithredu i gadw’r bywyd gwyllt yno. Pwysleisiwyd yn
ogystal y nifer isel o blant sy’n byw o fewn ardal yr ysgol newydd a holwyd am
sut y bydd y plant yn teithio i’r ysgol. Mynegwyd y bydd yr adran yn comisiynu
gwaith pellach i edrych i mewn i lwybrau amgen i’r ysgol. ¾
Holwyd
o ran yr hen safle os bydd yn cael ei gynnig i’r gymuned. Mynegwyd y bydd
edrych i weld os bydd gan y Cyngor ddefnydd i’r tir cyn ei gynnig i’r gymuned. g
it to the community.
Awdur: Garem Jackson |
|
COD GWIRFODDOL AR GYFER RHEOLAETH O ARWYDDION AR OSOD YM MANGOR PDF 105 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau
canlyniad y gwaith monitro a llwyddiant y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth
arwyddion ar osod ym Mangor, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar y 16 o Hydref
2018. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith. PENDERFYNIAD Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau
canlyniad y gwaith monitro a llwyddiant y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth
arwyddion ar osod ym Mangor, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar y 16 o Hydref
2018. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod yn anodd credu fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers
cyhoeddi’r Cod Gwirfoddol mewn ardaloedd ym Mangor. Mynegwyd fod yr adroddiad
yn dilyn cyfnod monitro. Mynegwyd fod y
cynllun wedi bod yn llwyddiant a bod yr adran yn parhau i ymateb i rai cwmnïau. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i’r adran am eu gwaith a diolchwyd i gwmnïau Bangor am
weithredu yn unol â’r Cod Gwirfoddol. Holwyd yn yr hir dymor gyda chwmnïau
newydd yn cael ei greu sut mae’r adran yn ymateb i’r cwmnïau rhain. Nodwyd fel
arfer unwaith mae’r adran yn ymwybodol o’r cwmni newydd maent yn codi
ymwybyddiaeth o’r cod ac yn cydweithio gyda’r cwmnïau yma. ¾
Diolchwyd
i’r cwmnïau am fod mor barod i gyd-weithio a phwysleisiwyd fod hyn yn dangos be all ddigwydd os sgwrs yn
cael ei gynnal a chwmnïau Awdur: Gareth Jones |
|
COVID-19 - PARATOADAU AR GYFER AIL DON PDF 166 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Penderfyniad: Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi
ar gyfer ail don posibl Covid-19. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dilwyn Williams PENDERFYNIAD Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi ar gyfer
ail don posibl Covid-19. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
sefyllfa Covid yn un sydd yn newid yn sydyn. Nodwyd fod yr adroddiad wedi dyddio ers iddo
gael ei greu bron i bythefnos yn ôl gyda nifer achosion yng Ngwynedd dros yr
wythnos diwethaf bellach wedi codi i 114. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi darlun
o beth fydd y Cyngor yn ac wedi ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer yr ail don.
Amlygwyd fod y Llywodraeth wedi creu'r senario gwaethaf rhesymol sydd wedi bod
yn sail cynllunio i’r gwaethaf a all ddigwydd. O ran trefniadau Gwynedd mynegwyd fod yr
adrannau wedi nodi fod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y don gyntaf bellach wedi
ymgorffori yng ngwaith yn yr adrannau. Mynegwyd fod staff yn parhau i weithio
o’i cartrefi sydd yn lleihau risg o fewn y Cyngor. Amlygwyd fod llai o
drafferthion o ran offer gwarchod personol gan fod cyflenwad digonol gan y
Cyngor. Pwysleisiwyd un pryder yw’r potensial o weld cyfuniad o haint yn gafael
yn ddrwg a all olygu mwy o alw ar wasanaethau a staff adref o’r gwaith yn sâl.
Nodwyd fod yr adran Oedolion wedi creu cynllun parhad gwasanaeth a fydd yn cael
ei drafod yr adroddiad nesaf. Ychwanegwyd fod trefniadau i adfer Tîm Covid os angen yn codi.
Nodwyd fod Tîm Profi, Olrhain a Diogelu wedi
bod yn hynod weithgar ond fod niferoedd wedi bod yn isel dros fis Awst.
Ychwanegwyd fod y niferoedd yn codi yn raddol. Mynegwyd o ran Grŵp Atal a
Gwyliadwriaeth eu bod bellach yn cyfarfod bron yn ddyddiol i gadw golwg ar y
sefyllfa. Ategwyd fod y Grŵp hwn yn gyfuniad o’r Cyngor a phartneriaid fel
y Brifysgol sydd yn trafod ardaloedd penodol. Nodwyd fod y grŵp hwn bod yn
ganolog i drafodaeth a Llywodraeth Cymru am achosion Bangor ynghyd a’r
penderfyniad o greu Ardal gwarchod Iechyd newydd yn dilyn nifer uchel o
achosion. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd pryderon lleol am y rheoliadau ym Mangor o ran mannau gwyrdd i
drigolion gael mynediad iddynt, yn ogystal holwyd os oedd y drefn Olrhain a
Diogelu yn un peth i fyfyrwyr. Mynegwyd fod niferoedd wedi codi o
ganlyniad i nifer uchel o fyfyrwyr gyda’r haint gan
ychwanegu fod y Cyngor yn gweithio yn agos gyda’r Brifysgol, ychwanegwyd fod y
drefn Profi, Olrhain a Diogelu'r un peth i fyfyrwyr ac i drigolion. ¾ Mynegwyd angen i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth
ariannol i fusnesau Bangor. Pwysleisiwyd yn ogystal yr angen i bawb gadw at y
rheoliadau er mwyn dod yn ôl i’r normal newydd yn gynt. ¾ Nodwyd fod paratoadau ar gyfer y gaeaf yn anodd gan fod staff wedi bod yn gweithio yn galed dros y misoedd diwethaf. Ychwanegwyd fod y cyfnod wedi amlygu fod staff yn fodlon mynd y filltir ychwanegol. Diolchwyd i staff am eu holl waith. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dilwyn Williams |
|
CYNLLUN GWEITHLU GWASANAETHAU GOFAL OEDOLION PDF 246 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Penderfyniad: ¾ Cymeradwyo
i ddyrannu hyd at £375,000 o adnodd un-tro (wedi’i ddadansoddi yn y tabl o dan
rhan 4 o’r adroddiad) i gyllideb 2020/21 yr Adran Oedolion, ynghyd â £390,000
pellach o adnodd un-tro i gyllideb 2021/22, gydag union swm y dyraniadau i’w
adolygu ar ddiwedd y ddwy flynedd ariannol berthnasol. ¾ I
gefnogi’r bwriad i wario’r gyllideb ychwanegol uchod ar gost cyflogi gweithlu y
tu hwnt i lefelau cyllidebau staffio arferol, er mwyn ymateb i gynnydd anochel
mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol i ddiogelu pobl Gwynedd, a llenwi
bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid19. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig PENDERFYNIAD ·
Cymeradwyo i ddyrannu hyd at £375,000 o adnodd un-tro (wedi’i
ddadansoddi yn y tabl o dan rhan 4 o’r adroddiad) i gyllideb 2020/21 yr Adran
Oedolion, ynghyd â £390,000 pellach o adnodd un-tro i gyllideb 2021/22, gydag
union swm y dyraniadau i’w adolygu ar ddiwedd y ddwy flynedd ariannol
berthnasol. ·
I gefnogi’r bwriad i wario’r gyllideb ychwanegol uchod ar gost cyflogi
gweithlu y tu hwnt i lefelau cyllidebau staffio arferol, er mwyn ymateb i
gynnydd anochel mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol i ddiogelu pobl
Gwynedd, a llenwi bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid19. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais
ar gyfer arian un tro o £375,000 am 2020/21 ac £390,000 ar gyfer 2021/22.
Mynegwyd fod yr adroddiad blaenorol wedi rhoi cefndir i’r angen am yr arian a
bod pawb yn ymwybodol o’r heriau sylweddol a fydd yn wynebu’r adran Oedolion.
Nodwyd fod yr adroddiad yn ymgais i edrych ar y sefyllfa waethaf posib. Ategwyd
yr angen i edrych ar hyn cyn cyfnod y gaeaf gan y bydd y sefyllfa yn amharu ar lesiant staff gyda staff heb gael
cyfle i gymryd gwyliau, bydd aelodau o staff yn sâl ac y bydd cynnydd yn y
galw. Ychwanegodd
Arweinydd Rhaglen Tîm Trawsffurfio Cymunedol Iechyd a Gofal fod yr adran wedi
paratoi Cynllun Gweithlu a oedd ddarn o waith a oedd yn edrych ar feysydd megis
beth sydd wedi digwydd, lefelau salwch
staff a'r galw am wasanaeth. Nodwyd fod y darn o waith wedi defnyddio'r modelu
gwaith cenedlaethol gorau posib i geisio rhagamcanu niferoedd covid a rhoi syniad i weld be all daro'r adran yn ystod yr
ail don. Amlygwyd fod yr adran wedi ymdopi yn rhyfeddol efo staff yn fodlon
mynd y filltir ychwanegol a pŵl o weithlu dros dro wedi ei sefydlu. Nodwyd
bellach fod yr adran mewn lle ychydig yn wahanol gyda staff bellach yn blino a heb gael cyfle i
gymryd gwyliau ynghyd a dechrau edrych i ail agor rhai gwasanaethau. Ategwyd yn
ogystal fod arwyddion fod cynnydd am fod yn y galw am ofal wrth i bobl adref yr
ysbyty gyda sgil effeithiau Covid. Mynegwyd fod yr
adran wedi rhagamcanu faint staff a all fod o’r gwaith yn sâl a bod yr adran
wedi cynllunio yn rhesymol ar sail absenoldebau rhwng 1 a 2%. Golygai hyn fod
bydd angen adnabod tua £60,000 er mwyn medru ôl-lenwi absenoldebau oherwydd
salwch. Nodwyd oherwydd bod staff heb fod yn cymryd eu gwyliau fod faint o
wyliau sydd heb eu cymryd cyfwerth a 18 person yn gweithio 20 awr yr wythnos
tad ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly y bydd angen adnabod £135,000 o arian er
mwyn ôl-lenwi’r staff i gymryd eu gwyliau. Yn ogystal â hyn nodwyd y bydd cynnydd yn y galw a bod gan y Cyngor gynllun pendant ar gyfer ymateb i gynnydd yn y galw gydag agor gwelyau ychwanegol ac i agor canolfannau gofal yn Glan Llyn a Phlas Menai. Nodwyd er mwyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Meilys Smith |
|
TROSOLWG ARBEDION 2020/21: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 346 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ¾ Derbyniwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol. ¾
Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn
Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu. ¾
Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at
lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth
ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r
argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio
perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. ¾
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod
sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd
modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr
argyfwng. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD ·
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol. ·
Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i
ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu. ·
Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen
arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu
iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na
fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr
argyfwng. ·
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i
gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail
afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor
symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn crynhoi
sefyllfa arbedion y Cyngor. Mynegwyd ers 2015/16 fod y Cyngor wedi cymeradwyo
£36m o arbedion. Nodwyd eleni fod adrannau wedi canolbwyntio ar ymateb i’r
argyfwng ac mae effaith Covid19 wedi cyfrannu ar lithriad yn y rhaglen
arbedion. Yn ogystal nodwyd fod blaenoriaeth wedi bod i ddiogelu iechyd a
bywydau pobl Gwynedd wedi golygu na fu modd parhau a threfniadau herio
perfformiad nac arbedion dros y cyfnod. Mynegwyd fod gwireddu arbedion yn mynd yn
anodd gydag arwyddion pellach fod trafferthion cyflawni arbedion mewn rhai
meysydd. Tynnwyd sylw at atodiad 1 sydd yn dangos fod 98% o arbedion 2015/16 i
2018/19 bellach wedi ei gwireddu. Amlygwyd y cynlluniau sydd a’r risg mwyaf a
oedd yn cynnwys cynllun Dechrau i’r Diwedd gan yr Adran Blant a Chefnogi
Teuluoedd. Nodwyd fod 76% o arbedion 2019/20 bellach
wedi ei gwireddu a nodwyd y prif risgiau cyflawni ar gynlluniau yn yr Adran
Oedolion, Amgylchedd ynghyd a’r Adran Blant. Wrth edrych ar eleni, mynegwyd fod
16% wedi ei gwireddu ar 34% ar drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod rhai cynlluniau gan yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo yn cydnabod nad oes modd i rai cynlluniau
gael ei gwireddu a bod cynlluniau amgen yn cael ei cynnig. Mynegwyd fod gwireddu dros £30m o arbedion
ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Ychwanegwyd fod yr adran eisoes wedi
rhagweld problem gyda gwireddu arbedion fod darpariaeth gorfforaethol i’r
pwrpas yng nghyllid 2020/21 i leddfu’r sefyllfa. Mynegwyd fod angen bellach ail
afael yn y drefn o gyflawni arbedion er gwaethaf yr argyfwng. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd nad oedd yn sioc i neb fod yr adran oedolion ddim am gyflawni
arbedion eleni. Mynegwyd fod arwyddion toriadau dros ddeg mlynedd bellach yn
cael ei gweld yn glir. ¾ Nodwyd fod cynlluniau amgen i’w gweld i arbediad yr adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol ond fod yr adran yn asesu’r ffordd ymlaen. Mynegwyd fod yr
arbediad yr un peth ond fod y swm am fod yn wahanol. ¾ Mynegwyd ei bod yn anodd coelio fod toriadau yn cael ei gwneud yng nghanol pandemig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 86 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ¾ Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ¾
Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn
gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen
arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu
iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na
fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr
argyfwng. ¾
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod
sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd
modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr
argyfwng. ¾
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y
darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu
gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb, ¾
Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei
gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran
Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r
bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun
ymateb. ¾
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2). ·
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾ (£250k)
yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen
gyfalaf. - tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i
falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn
wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19. ¾ Fod
derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm
cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r
adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD ·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb
Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth. ·
Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol,
colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi
blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb
i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio
perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. ·
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i
gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail
afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor
symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. ·
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal
Oedolion, mae’r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell
dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb, ·
Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr
i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd
mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron
y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb. ·
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd
wedi’u hegluro yn Atodiad 2). o
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾
(£250k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa
ariannu’r rhaglen gyfalaf. ¾
tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her
ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19. ·
Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a
cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei
ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn amlygu ar adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw y Cyngor a
rhagolygon ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod y ffigyrau’r adolygiad
diwedd Awst yn amlygu effaith ariannol Covid ar y
ffigyrau sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y
rhaglen arbedion. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu
cronfa caledi i ddigolledu costau a cholledion incwm Awdurdodau Lleol. Mynegwyd
yng Ngwynedd fod ceisiadau dros £4.5miliwn wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
i ddigolledu Cyngor am y cyfnod hyd at ddiwedd Awst, gyda £3.6miliwn eisoes
wedi ei dderbyn. Nodwyd o ran colled incwm, roedd cais am chwarter cyntaf y
flwyddyn bron yn £3.7miliwn gyda £3.3 eisoes wedi ei dderbyn. Pwysleisiwyd fod pwysau ar adrannau yn amlwg eleni a bod problemau gwireddu arbedion fwy fwy amlwg eleni ac yn ffactor sydd yn cyfannu at y gorwariant a adroddir yn y meysydd megis Plant, Oedolion a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd y prif faterion yn rhai adrannau fel yr ardrawiad mae Covid19 wedi cael ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN CYFALAF 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 60 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Penderfyniad: ¾
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
(sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf. ¾
Cymeradwywyd i ariannu addasiadau a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau gwerth cyfanswm o £3,646,000 o 2019/20, ·
lleihad o £558,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau, ·
dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, ·
cynnydd o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw, ·
dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a ·
cynnydd o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD ¾ Derbyniwyd yr adroddiad
ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf. ¾ Cymeradwywyd i ariannu
addasiadau a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o
£3,646,000 o 2019/20, ·
lleihad o £558,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, ·
dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, ·
cynnydd o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, ·
dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a ·
cynnydd o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif
ddiben yr adroddiad yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ac i gymeradwyo’r ffynonellau
ariannu perthnasol. Ategwyd fod effaith Covid i’w
gweld ar y rhaglen cyfalaf gyda dim ond 13% o’r gyllideb wedi ei wario hyd
ddiwedd Awst. Pwysleisiwyd fod y Cyngor a chynlluniau
pendant mewn lle i fuddsoddi tua £44m eleni gyda £17m wedi ei ariannu drwy
ddenu grantiau penodol. Mynegwyd fod £9.4miliwn yn cael ei ragweld i lithio
eleni i’r flwyddyn ganlynon ond na fydd unrhyw golled ariannol. Nodwyd y
grantiau ychwanegol y llwyddwyd i’r ddenu a oedd yn cynnwys £2.3m mewn Grant
Digartrefedd Gwedd II, £2.2m Grant Ysgolion Ganrif 21 a £1.3m Grantiau o’r
Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Teithio Llesol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Tynnwyd sylw at y Grant Ysgolion gan fynegi fod yr arian hwn at
adnewyddu un o ysgolion uwchradd y sir. Pwysleisiwyd pwysigrwydd prosiectau o’r
math yma i sicrhau cefnogaeth i bobl ifanc. ¾ Amlygwyd fod £100m o arian cyfalaf dros y 3 blynedd ariannol 2020/21 –
2022/23 yn sylweddol ac mae prosiectau yn llithro i’w disgwyl eleni. Nodwyd
balchder fod cymaint o fuddsoddiad o fewn y sir. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
STRATEGAETH CYLLIDEB 2021-22 PDF 47 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol
yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22,
bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn amlinellu trefnu llunio cyllideb 2021/22 yng nghyd-destun
anghyffredin eleni. Mynegwyd fod yr adran ar hyn o bryd yn adnabod anghenion
gwario 2021/22 fel arfer ac y bydd bidiau am adnoddau ychwanegol yn dod ger
bron y Cabinet cyn bo hir. Ers rhyddhau’r’ rhaglen mynegwyd ei bod wedi
dod yn glir y bydd y Llywodraeth ddim yn cyhoeddi ‘Cyllideb’ hydrefol ond y
bydd y Trysorlys yn cynnal Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr un flwyddyn. Nodwyd
fod y Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi setliad drafft awdurdodau lleol yn
Rhagfyr, ar setliad terfynol ym mis Mawrth. Ategwyd fod yr amserlen hon yn
heriol i awdurdodau lleol ac y bydd cyfnod estynedig o ansicrwydd ariannol. Er
hyn, mynegwyd y bydd y Cyngor yn cychwyn o sylfaen gyllidol gymharol gadarn. Amlinellwyd y rhestr ‘dwsin dieflig’ o
faterion ariannol ansicr mae’r Cyngor yn ei wynebu a oedd yn cynnwys effaith Covid, ardrawiad Brexit a
thueddiad chwyddiant prisiau. Mynegwyd fod y cynllunio ariannol am fod yn hynod
heriol gan ymhelaethu y gall y bwlch cyllideb fod hyd at £8m, er hyn y dylai
sylfaen gadarn Gwynedd ganiatáu i ni ‘bontio’ yn y tymor byr. Argymhellwyd y bydd y Cyngor yn awyddus i
osgoi ystyriaeth ddiangen o restrau arbedon a thoriadau yn ystod ail don o’r pandemig ac os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb
2021/22 am y tro. Argymhellwyd i’r Cyngor ystyried defnyddio cyllidebau a
chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau ac i gynyddu’r Dreth Cyngor
3.5%. Nodwyd yn y tymor hir y bydd angen
ailgyflenwi’r cronfeydd wrth gefn fel eu bod ar gael i’r dyfodol. Mynegwyd pan
fydd llai o ansicrwydd bydd modd sefydlu cynlluniau i’r tymor canolig. Amlygwyd
amserlenni adroddiadau i’r Cabinet gan nodi y bydd cyfres o seminarau
ymgynghori ag aelodau am gael eu cynnal ym mis Ionawr yn rhithiol. Amlinellwyd
yr amserlen i osod y gyllideb. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd ei bod yn gyfnod ansicr i gyllidebu ar gyfer y dyfodol. ¾ Amlygwyd pwysigrwydd seminarau Ionawr i’r aelodau, gan ei fod yn gyfle i
aelodau roi eu barn ar y gyllideb. ¾ Nodwyd fod y Cyngor mewn sefyllfa cymharol gryf, oherwydd ei sylfaen
gadarn, i brynu amser. ¾ Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu gwaith. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 12 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972- Gwybodaeth
ynglŷn â’g unigolyn penodol Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolyn
penodol sydd â hawl i breifatrwydd yn ystod trefn benodi. Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma ar y pwynt yma. O ganlyniad mae’r
budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: Penderfynwyd cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Mharagraff 12 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn a unigolion
penodol. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am
unigolyn penodol sydd â hawl i breifatrwydd yn ystod trefn benodi.
Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am
yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma ar y pwynt yma. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
PENODI UWCH GRWNER GWEITHREDOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Penderfyniad: 1)
Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn
ddarostyngedig i gadarnhad y Prif Grwner â’r
Arglwydd Ganghellor i bennu amodau ac i benodi Kate Sutherland, Crwner Cynorthwyol presennol
Ardal Gogledd Orllewin Cymru i weithredu fel Uwch Grwner Gweithredol hyd nes y bydd yr awdurdod wedi cyfarch y
cwestiwn o uno ardaloedd ac y bydd Uwch Grwner parhaol wedi ei benodi/phenodi. 2)
Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
gynnal adolygiad yn ystyried priodoldeb
uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill gan gynnwys
cychwyn trafodaethau gyda Chynghorau Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw
fudd-ddeiliaid perthnasol eraill, y Prif Grwner a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder,
gan bwysleisio pwysigrwydd cael Uwch Grwner sydd yn gallu cynnal gwasanaeth
drwy gyfrwng y Gymraeg a disgwyl adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau a’r ffordd
ymlaen. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD 1.
Awdurdodi’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn ddarostyngedig i gadarnhad y Prif Grwner
â’r Arglwydd Ganghellor i bennu amodau
ac i benodi Kate Sutherland, Crwner
Cynorthwyol presennol Ardal Gogledd Orllewin Cymru i weithredu fel Uwch Grwner
Gweithredol hyd nes y bydd yr awdurdod
wedi cyfarch y cwestiwn o uno ardaloedd ac y bydd Uwch Grwner parhaol wedi ei
benodi/phenodi. 2.
Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gynnal adolygiad yn ystyried priodoldeb uno ardal Crwner Gogledd
Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill gan gynnwys cychwyn trafodaethau gyda
Chynghorau Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw fudd-ddeiliaid perthnasol eraill, y
Prif Grwner a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan bwysleisio pwysigrwydd cael Uwch
Grwner sydd yn gallu cynnal gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a disgwyl
adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau a’r ffordd ymlaen. TRAFODAETH Trafodwyd
yr adroddiad. Awdur: Iwan Evans |