Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan y Cyng. Dewi Roberts ar gyfer eitem 4 gan ei fod
yn aelod o Fwrdd Llywodraethol Ysgol Abersoch, ond nid oedd yn fuddiant a oedd
yn rhagfarnu. Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan y Cyng. Cemlyn Williams a Garem Jackson ar
gyfer eitem 11 gan eu bod yn Gyfarwyddwyr Cwmni Cynnal, roedd yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu ac y bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU PDF 306 KB YSGOL
ABERSOCH Cyflwynwyd gan: Cyng. Bethan Lawton Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i beidio addasu y penderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021 a
cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol
Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1
Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. Cofnod: YSGOL ABERSOCH Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Bethan Lawton – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi. PENDERFYNIAD Penderfynwyd i beidio
addasu y penderfyniad
a wnaethpwyd ar 28 Medi
2021 a cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd
statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i
ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran
53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion
y Cod Trefniadaeth Ysgolion
11/2018. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y mater wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Craffu gan
nad oeddent yn teimlo fod y Cabinet wedi rhoi sylw digonol i bump agwedd
benodol pan yn ystyried y mater yn ffurfiol wedi y cyfnod gwrthwynebu statudol. Eglurwyd fod y
Pwyllgor Craffu wedi trafod yr eitem yn ystod eu cyfarfod ar y 21ain o Hydref,
ble cafwyd trafodaeth a cyfle i graffu ymhellach. Mynegwyd fod nifer o’r
agweddau wedi eu hateb yn ystod y cyfarfod a penderfynodd y Pwyllgor i
gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’r ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb
digonol i’r ail reswm dros alw i mewn sef nad oedd yr adroddiad yn cymryd
ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y pentref. Pwysleisiwyd fod yr aelodau Craffu yn
bryderus nad oedd ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith posib datblygiadau
arfaethedig ar y ffigyrau tafluniad ar gyfer Ysgol Abersoch cyn gwneud unrhyw
benderfyniad. Gofynnwyd i’r Cabinet ail ystyried eu penderfyniad yn sgil eu
pryderon. Ychwanegodd yr
Aelod Lleol fod y drafodaeth dros Ysgol Abersoch wedi bod yn broses hir iawn ac
fod angen i’r aelodau Cabinet roi sylw penodol i’r materion Tai sydd ar y gwell
yn y pentref. Eglurwyd fod sôn am ddatblygiadau tai yn y ward a tu hwnt ac o
ganlyniad i hyn fod angen darpariaeth addysg i blant a theuluoedd fydd yn symud
i’r ardal. Tynnwyd sylw fod Ysgol Llanbedrog dros ei gapasiti.
Mynegwyd fod y datblygiadau yma a’r Gwesty newydd yn newyddion da i’r ardal ond
pwysleisiwyd nad oes dim sôn am y datblygiadau hyn yn yr adroddiadau a mynegwyd
fod ymdeimlad yn lleol fod yr adroddiadau o’i ganlyniad yn gamarweiniol â ddim
yn cyd-fynd a Deddf Llesiant. Efynnwyd ar yr
aelodau i beidio cau’r Ysgol am y rhesymau a nodwyd heddiw ac yn y gorffennol
ac i beidio cau yn ganol tymor yr ysgol, ac i flaenoriaethu addysg plant yr
ardal. Ymatebodd yr Aelod
Cabinet i’r adroddiad gan nodi cefndir yr eitem. Eglurodd yn ôl ym mis Mehefin
fod y Cyngor wedi cyhoeddi y rhybudd statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31
Rhagfyr 2021 a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Nodwyd fod y
Cabinet yn dilyn ystyried y gwrthwynebiadau wedi cadarnhau y penderfyniad i
gau’r Ysgol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad a gyflwynwyd wedi ymdrin a sylwadau
am effaith datblygiadau posib yn yr
ardal ac fod y Cabinet wedi eu hystyried cyn dod i benderfyniad. Nododd ei fod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MEDI A 12 HYDREF 2021 PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Medi a 12 Hydref 2021 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD RHEOLAETH CARTREFI MODUR PDF 194 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a cymeradwywyd y canlynol: I.
Awdurdodi’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned i gynnal prosiect peilot
ar gyfer defnydd o hyd at 6 o safleoedd parcio’r Cyngor (neu ran o’r safleoedd)
sydd o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, er darparu cyfleusterau i
gartrefi modur aros dros nos ac i gynnwys dynodi y lleoliadau, ond yn
ddarostyngedig i sicrhau cyllid cyfalaf a’r caniatâdau angenrheidiol. II.
Bod adroddiad pellach ar ganlyniadau y peilot yn
cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen tair blynedd. III.
Ystyried a gweithredu ar fesurau gorfodaeth i
fynd law yn llaw gyda’r uchod. IV.
Cyflwyno’r gwaith ymchwil i Llywodraeth Cymru a
gofyn iddynt Adolygu’r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith. PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr
adroddiad a cymeradwywyd y canlynol:
I.
Awdurdodi’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned i gynnal prosiect
peilot ar gyfer defnydd o hyd at 6 o safleoedd parcio’r Cyngor (neu ran o’r
safleoedd) sydd o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, er darparu
cyfleusterau i gartrefi modur aros dros nos ac i gynnwys dynodi y lleoliadau,
ond yn ddarostyngedig i sicrhau cyllid cyfalaf a’r caniatâdau angenrheidiol.
II.
Bod adroddiad pellach ar ganlyniadau y
peilot yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen tair blynedd. III.
Ystyried a gweithredu ar fesurau
gorfodaeth i fynd law yn llaw gyda’r uchod. IV.
Cyflwyno’r gwaith ymchwil i Llywodraeth
Cymru a gofyn iddynt Adolygu’r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ymchwili i gartrefi modur yng
Ngwynedd. Darllenwyd y penderfyniad. Eglurodd y
Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd fod y gwaith ymchwil yma wedi ei greu ar
y cyd rhwng yr adran Amgylchedd ac Economi a Chymuned. Nodwyd mai pwrpas yr
adroddiad yw i egluro beth oedd y sefyllfa cartrefi modur yng Ngwynedd ac os
oes angen rheolaeth well arnynt ac os oes unrhyw wersi i’w dysgu o leoliadau
eraill ym Mhrydain ac Ewrop. Tynnwyd sylw fod y ddeddfwriaeth o ran Cynllunio a
Trwyddedu yn mynd yn ôl i’r 1960au a holwyd bellach os yn addas i bwrpas. Mynegwyd
fod tri holiadur wedi ei ddefnyddio - un gyda perchnogion meysydd Carafanau a
Gwersylla yng Ngwynedd, un a perchnogion cartrefi modur ac un gyda trigolion
Gwynedd. Amlygwyd fod trosolwg o’r canfyddiadau gan amlygu fod y sector yn un
sydd yn datblygu yn sylweddol ac fod anghenion defnyddwyr cartrefi modur yn
wahanol i ddefnyddwyr carafanau a gwersylla traddodiadol. Nodwyd fod defnyddwyr
yn ffafrio lleoliadau o fewn pellter cerdded i lefydd o ddiddordeb a canol
trefi ac yn dueddol i deithio drwy’r flwyddyn. Amlygwyd
fod enghreifftiau yn yr Alban a Lloegr ble mae cynghorau wedi treialu meysydd
parcio yn lefydd aros dros nos gyda cyfleusterau angenrheidiol ac eglurwyd ei
fod yn dueddiad sydd i’w gweld yn Ewrop yn ogystal. Mynegwyd fod perchnogion
wedi nodi yn yr holiadur y buasent yn eu defnyddio ac nodwyd cefnogaeth i’r
treialu gan y cyhoedd yn ogystal.. Nodwyd fod
yr adroddiad yn amlygu yr angen am reolaeth gwell o’r sector ond fod angen
cefnogaeth i dreialu’r cyfleusterau dros nos ond eu bod yn mynd law yn llawer
gyda mwy o orfodaeth. Eglurwyd mai gofyn am ganiatâd i dreialu cyfleuster o’r
fath mewn hyd at 6 lleoliad o fewn ardal cynllunio Awdurdod Gwynedd. Mynegwyd y
bydd angen buddsoddiad i greu’r cyfleusterau pwrpasol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd fod cartrefi modur yn broblem fawr ar draws y sir a diolchwyd am y
gwaith sylweddol sydd wedi mynd i mewn i greu’r adroddiad. Dangoswyd cefnogaeth
i’r cynllun gan nodi fod angen symud yn sydyn. ¾ Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cydweithio gwych rhwng y ddwy adran, ac ychwanegwyd fod angen bod yn ganolog i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gareth Jones |
|
FFRAMWAITH PWYLLGORAU PDF 333 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y
Cabinet i’r dyfodol gyda’r dyddiad cychwyn i’w bennu gan yr Arweinydd mewn
ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Swyddog Monitro, ac o
ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol gael eu codi. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Penderfynwyd mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer
cyfarfodydd y Cabinet i’r dyfodol gyda’r dyddiad cychwyn i’w bennu gan
yr Arweinydd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth a’r Swyddog Monitro, ac o ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol gael eu codi. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y fframwaith yn gosod arweiniad ar y ffordd ymlaen i
gyfarfodydd i’r dyfodol. Amlygwyd fod mynychu cyfarfodydd o bell yn cynnig
llawer o fanteision megis amrywiaeth mewn democratiaeth, costau ac amser
teithio i Gynghorwyr a Swyddogion. Pwysleisiwyd fod cyfnod y pandemig wedi amlygu sut mae mynediad o bell wedi gweithio
yn dda. Mynegwyd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 yn nodi’r angen
i gyhoeddi yn ffurfiol y trefniadau ar gyfer Pwyllgorau i’r dyfodol. Eglurwyd
fod gan y Cabinet hawl i fabwysiadu ei threfniadau ei hunain ac y fod y Cyngor
Llawn yn penderfynu ar y pwyllgorau eraill ar draws y Cyngor. Nodwyd fod y
fframwaith wedi ei lunio ar sail diddordeb y cyhoedd i’r eitemau sydd i’w gweld
mewn amrywiol bwyllgorau ac fod cynnal y Cabinet mewn trefn hybrid yn gyson
gyda’r drefn hwn. Awdur: Iwan Evans a Geraint Owen |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS TAI AC EIDDO PDF 544 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Craig ab Iago. PENDERFYNWYD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod newyddion da a drwg. Amlygwyd fod 3 cynllun penodol yn crisialu’r
gwaith positif mae’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai
bellach yn weithredol ac yn gweithio i sicrhau tai i bobl i leol yn eu
cymunedau. Nodwyd fod cynlluniau arloesol ar draws y sir ac fod sawl grawn wedi
ei dderbyn i ymateb i gynlluniau fel digartrefedd. Mynegwyd fod cynlluniau
ar y gwell i adeiladu tai o fewn y sir ac fod trafodaethau yn cael eu cynnal
gyda chyrff ar draws Gwynedd i adeiladau tai ar diroedd y Cyngor. Tynnwyd sylw
ar gynllun Siop Un Stop fydd ar gael i gynorthwyo unigolion i sicrhau eu bod yn
cael y gefnogaeth ac yn ymwybodol o unrhyw gyfleodd sydd ar gael. Nodwyd fod y
cynllun gosod tai cymdeithasol i bobl leol a gychwynnwyd flwyddyn yn ôl yn
cymryd camau mawr ymlaen ac yn parhau i ddatblygu er fod nifer o broblemau wedi
codi ar hyd y daith. Er hyn amlygwyd fod yr adran wedi llwyddo i gartrefu nifer
uchel o bobl yn eu cymunedau. Eglurwyd er fod y
cynlluniau yn uchelgeisiol fod y pandemig wedi arafu
nifer o gynlluniau o fewn y Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod camau yn
ei le i daclo digartrefedd a oedd yn argyfwng cyn y pandemig
ond fod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y deunaw mis diwethaf. Mynegwyd fod y pandeimg wedi cael effaith ar adnoddau sydd ar gael ynghyd
ar capasiti i ymateb. Ond, gyda’r drefn herio
perfformiad newydd nodwyd fod modd ymateb yn gyflym i heriau ac i daclo
problemau yn syth. Ar y cyfan mynegwyd fod
ar adran yn llwyddo ac fod derbyn pedair Gwobr Genedlaethol yn profi y
llwyddiant yma. Eglurwyd y bydd yr Aelod Cabinet yn mynd i bob ardal adfywio yn
ystod y misoedd nesaf i esbonio i Gynghorwyr beth mae’r adran yn gobeithio ei
wneud ymhob ardal. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Tynnwyd sylw at ddigartrefedd cudd sydd i’w
gweld ar gynnydd ar draws y sir. Croesawyd cynlluniau yn Cynllun Gweithredu Tai
gan amlygu ei fod yn weithredol ers cwta 7 mis. Holwyd os oes modd cael
gwybodaeth fesul ward. Nodwyd fod trafodaeth am ddigartrefedd cudd yn hynod
bwysig gan fod llwyddiant cynllun i gael unigolion oddi ar y stryd wedi lleihau
y tai sydd ar gael i daclo cynyddu mewn digartrefedd cudd. ¾ Eglurwyd
fod digartrefedd ar ei lefel uchaf erioed ar mae hyn i’w gweld ar draws Cymru.
Eglurwyd fod y Cyngor yn edrych i brynu 6 safle ac yn parhau i geisio prynu tai
fel bod modd cynnig lleoliadau gosod yn lleol i unigolion. ¾ Eglurwyd fod arian ar gyfer digartrefedd yn dod o Gronfa Caledi’r Cyngor ond nodwyd fod y Gweinidog wedi pwysleisio na fydd arian ar gael y flwyddyn ariannol nesaf. Eglurwyd os yn parhau y bydd angen arian i’w ariannu ac angen sicrhad fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Carys Fon Williams |
|
STRATEGAETH DDIGIDOL ADDYSG PDF 454 KB Atodiad 1-3
- Ynghlwm Atodiad 4 -
Eithriedig (wedi’i ddosbarthu i Aelodau Cabinet) Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Willias a Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: I.
Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol Addysg yn ei
chyfanrwydd.
II.
Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner costau
adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r
Cyngor, gyda disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall . III.
Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn cefnogaeth
dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill 2022 ymlaen. IV.
Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn cynnig cefnogaeth
dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen cyflwyno dyfeisiadau i’r
ysgolion. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams. PENDERFYNIAD
I.
Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol
Addysg yn ei chyfanrwydd.
II.
Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner
costau adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r Cyngor, gyda
disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall . III.
Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn
cefnogaeth dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill
2022 ymlaen. IV.
Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn
cynnig cefnogaeth dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen
cyflwyno dyfeisiadau i’r ysgolion. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan amlygu pleser o gyflwyno’r strategaeth arloesol yma. Pwysleisiwyd
fod hwn wedi bod yn gynllun trawsadrannol rhwng yr adran Addysg a Technoleg
Gwybodaeth a nodwyd gwerthfawrogiad i’r cyd-weithio agos sydd wedi bod yn
creu’r Strategaeth. Mynegwyd mai bwriad y Strategaeth yw i ddefnyddio y
ddarpariaeth ddigidol orau i gefnogi disgyblion a staff ysgolion i sicrhau
cyfleon cyson ar draws y sir. Eglurwyd fod y bwriad hwn yn amlygu’r uchelgais
sydd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i wella addysg gan ddyrchafu’r defnydd i
bob cam o’r cwricwlwm. Ychwanegodd y
Pennaeth Addysg fod y cyfnod y pandemig wedi amlygu’r
angen sydd i sicrhau fod disgyblion yn gallu defnyddio technoleg yn hyderus.
Pwysleisiwyd fod y gwaith ar y strategaeth wedi cychwyn cyn y cyfnod clo ond
fod y cyfnod y pandemig wedi gwthio y cynllun yn ei
blaen. Tywysydd y Swyddog
Addysg Ardal Dwyfor / Meirion drwy’r adroddiad gan nodi fod sgiliau ddigidol
bellach ar yr un lefel a llythrennedd a rhifedd ac felly fod angen sicrhau fod
gan ddisgyblion y sgiliau digidol sydd ei angen. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru
wedi rhoi arian i wella’r ddarpariaeth ac wedi rhoi cyfrifoldeb i’r awdurdodau
lleol i arwain ac y gwaith i sicrhau cyd-weithio rhwng yr ysgolion. Eglurwyd yn
bresennol fod nifer o ddyfeisiadau wedi dyddio ac ysgolion yn defnyddio
amrywiaeth o systemau gwahanol. Nodwyd y bydd y strategaeth yn sicrhau cysondeb
ar draws ysgolion. Pwysleisiwyd fod y cyfnod clo wedi amlygu diffyg dyfeisiadau
addas ac eu bod yn syfrdanol y nifer o aelwydydd nad oedd ganddynt ddyfeisiadau
addas. Nodwyd fod bron i 2000 o ddyfeisiadau wedi er rhannu yn ystod y cyfnod
ond fod yr angen wedi bod i rannu mwy oherwydd fod nifer o deuluoedd yn rhannu
dyfais yn hytrach nac un i bob disgybl. Mynegwyd fod y strategaeth yn sicrhau
dyfais i bob disgybl ac athro, ac y byddant wedi ei dewis yn unol a anghenion
oedran y disgybl ac wedi ei gosod yn Gymraeg ar draws y sir. Tynnwyd sylw at gostau adnewyddu gan fod rhai miloedd o ddyfeisiadau ar y ffordd i’r ysgolion gyda hyd bywyd o oddeutu 5 mlynedd. Eglurwyd y bydd angen £3.9miliwn i’w hadnewyddu. Pwysleisiwyd y bydd angen i’r dyfeisiadau gael ei cynnal a cadw yn effeithiol er mwyn sicrhau na fydd un disgybl yn colli addysg. Amlygwyd y drefn bresennol ar hyn o bryd i gefnogi ysgolion gan nodi yn y tymor byr y bydd y gefnogaeth yn cael ei dynnu mewn i wasanaeth technoleg gwybodaeth y Cyngor tra fydd yr adran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny) ynogystal â Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972- Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol
gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad
yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau
cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cwmni a’r Cynghorau. Mae hefyd yn cynnwys
cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd ynglŷn a sefydlu y ffordd ymlaen. Mae’r
gallu i dderbyn a thrafod cyngor or’r fath yn cael ei warchod gan y fraint
gyfreithiol . Byddai cyhoeddi hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o
sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei bod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu
fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny) yno gystal â Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972-
Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei
gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn
â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd
bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod
angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol
ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn
niweidiol i fuddiannau’r cwmni a’r Cynghorau. Mae hefyd yn cynnwys cyngor
cyfreithiol a dderbyniwyd ynglŷn a sefydlu y ffordd ymlaen. Mae’r gallu i
dderbyn a thrafod cyngor or fath yn cael ei warchod gan y fraint gyfreithiol .
Byddai cyhoeddi hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn
cyfansawdd gorau. |
|
STRATEGAETH TG YSGOLION A CHWMNI CYNNAL Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
I.
Cymeradwywyd y ffordd arfaethedig ymlaen mewn perthynas â dyfodol Cwmni
Cynnal.
II.
Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth yr Adran Gyllid mewn ymgynghoriad â
Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi cytundebau o'r fath fel
sydd eu hangen yn rhesymol i hwyluso'r weithdrefn. III.
Gofynnwyd am adroddiad dilynol i'r
Cabinet i gymeradwyo materion dosbarthu a throsglwyddo y cytunwyd
arnynt. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD
I.
Cymeradwywyd
y ffordd arfaethedig ymlaen mewn perthynas â dyfodol Cwmni
Cynnal.
II.
Dirprwywyd
yr hawl i Bennaeth yr Adran Gyllid mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol,
i negodi cytundebau o'r fath fel sydd eu hangen yn rhesymol i hwyluso'r
weithdrefn.
III.
Gofynnwyd am adroddiad dilynol i'r
Cabinet i gymeradwyo materion dosbarthu a throsglwyddo y cytunwyd
arnynt. TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. Awdur: Iwan Evans and Dafydd Edwards |