Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid / Hybrid Meeting

Cyswllt: Gwen Alaw Roberts  E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Amlygwyd mai’r hwn yw’r cyfarfod olaf o’r Cabinet cyn toriad yr haf, a chymerwyd y cyfle i ddiolch i holl staff ac Aelodau’r Cyngor am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn. Cadarnhawyd bod llawer wedi’i gyflawni gan y Cyngor yn ystod y 6 mis prysur diwethaf, gydag amryw o gynlluniau cyffrous ar y gweill at ail hanner y flwyddyn.

 

Tynnwyd sylw at Bencampwriaeth Bêl- droed Ewro dan 19 sy’n cael ei chynnal yng Ngwynedd ar y funud. Ymfalchïwyd bod y Sir wedi gallu croesawu timau o ar draws Ewrop i chwarae yma, a chanmolwyd ymdrech tîm Cymru yn y gystadleuaeth.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant gan y Cynghorwyr June Jones a Dewi Jones mewn perthynas ag Eitem 13. Bu i’r ddau Aelod adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 9 MEHEFIN pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2026 fel rhai cywir. 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHAGLEN CEFNOGI POBL 2025/26 pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Dywedwyd mai’r adroddiad gerbron yw’r adroddiad blynyddol cyntaf i adrodd ar gynnydd y rhaglen Cefnogi Pobl.

 

Eglurwyd mai nod y rhaglen yw cynorthwyo trigolion y Sir wrth iddynt geisio ymdopi â heriau’r argyfwng costau byw, gan gynnig cefnogaeth, gwybodaeth a mynediad at wasanaeth sy’n sicrhau tegwch i bawb. Soniwyd am yr effaith y caiff yr argyfwng costau byw ar lesiant trigolion, ac felly bod angen amlwg am gymorth ymarferol yn y maes hwn. Aethpwyd ymlaen i esbonio bod yr adroddiad yn dangos y gefnogaeth a gaiff ei gynnig i drigolion, a straeon gan dderbynwyr y gefnogaeth am yr effaith cadarnhaol mae’r gefnogaeth wedi’i gael ar eu bywydau. 

Diolchwyd i staff y Cyngor, ei bartneriaid, sefydliadau lleol a chymunedau am eu gwaith i gefnogi pobl Gwynedd. 

 

Nodwyd mai ychwanegiad i waith dydd i ddydd y Cyngor yw’r gwaith hwn, gan amlygu bod yr adroddiad yn adrodd ar yr ymyraethau ychwanegol sydd wedi eu rhoi mewn lle gan y Cyngor er mwyn blaenoriaethu’r maes hwn. Manylwyd ar y trefniadau sydd mewn lle, ar y cyd gyda phartneriaid lleol, i sicrhau fod hybiau o fewn cymunedau i alluogi mynediad at wybodaeth a chefnogaeth i drigolion yn lleol. Soniwyd y bu hyrwyddwyr lles yn bresennol o fewn yr hybiau hyn i gynnig cefnogaeth i drigolion yn ogystal. Soniwyd am yr hyfforddiant ynglŷn â magu ffordd o weithio sy’n empathetig yn seiliedig ar fod yn wybodus o drawma, ac sy’n rhoi’r person yn ganolog. Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod y gwaith hwn yn cael effaith cadarnhaol ar bobl Gwynedd, gan dynnu sylw at yr astudiaethau achos o brofiadau defnyddwyr y gwasanaethau, a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.

Cadarnhawyd y bydd cofrestru awtomatig ar gyfer tariffau cymdeithasol yn parhau i gael ei hyrwyddo, gan sicrhau fod y bobl hynny sy’n gymwys i’w derbyn yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Ychwanegwyd y caiff ymgyrchoedd eu cynnal i sicrhau fod gan bobl fynediad at wybodaeth a gweithgareddau sydd ar gael ar draws y Sir ar adegau penodol. Nodwyd bod y rhwydwaith hybiau yn parhau i ddatblygu ac esblygu, a bwriadwyd parhau i gyd weithio â gwasanaethau i geisio rhedeg yr hyfforddiant Trawma Wybodus ac ymwybyddiaeth hawliau plant ar draws y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Cyfeiriwyd at ffocws y rhaglen o geisio rhoi’r person yn ganolog, gan sôn bod Stori ‘Dewi’ a gaiff ei gynnwys yn yr Adroddiad yn enghraifft o hyn ar waith. Nodwyd bod sgwrs anffurfiol, a ddatblygwyd o gais gwreiddiol ‘Dewi’, wedi arwain ato’n gallu derbyn cymorth ychwanegol.

Amlygwyd bod y cynnydd yn nefnydd deallusrwydd artiffisial yn effeithio nifer o wasanaethau, a holwyd am ddyfodol gwasanaethau codi’r ffôn er enghraifft, wrth fynd ymlaen. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at brosiect peilot “Gafael Llaw” gan nodi i’r gwaith hwn amlygu effaith cadarnhaol cynnal sgyrsiau anffurfiol ar allu unigolion i dderbyn cefnogaeth bellach na gofynion eu cais gwreiddiol, i ddiwallu eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Catrin Thomas, Cyfarwyddwr Corfforaethol

7.

DIWEDDARU CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2022/23 - 2029/30 CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 323 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo yr addasiadau i’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 – 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r addasiadau i’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 - 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2).

 

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y Cynllun Hinsawdd a Natur wedi’i fabwysiadu ers 4 blynedd bellach, ac felly ei bod yn amserol i’w adolygu.

Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain yn y maes hwn yng Nghymru ac yn ehangach, gan adnabod mai’r Cyngor hwn oedd un o’r cynghorau cyntaf i ddatgan argyfwng newid hinsawdd, a sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur yn dilyn hynny. Ymfalchïwyd yn y ffaith bod swyddogion wedi bod yn gweithio ar leihau ôl-troed carbon y Cyngor ers dros ddegawd bellach, a chanmolwyd safon y staff sy’n gweithio yn y maes hwn o fewn y Cyngor. 

Adnabuwyd mai’r cam nesaf o ran y Cynllun yw cyd-weithio â thrigolion, a soniwyd bod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd y llynedd wedi amlygu’r angen i wneud hynny’n ogystal. Esboniwyd bod grwpiau wedi trafod y Cynllun mewn cynadleddau, a bu i’r trafodaethau hynny fwydo i mewn i’r adolygiad hwn. 

Atgoffwyd y Cabinet y bydd ceisiadau am gyllid ar gyfer y prosiectau a gaiff eu hadnabod yn y Cynllun yn dod ger eu bron maes o law.

 

Croesawyd cyn is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor i’r Cabinet. Nodwyd y bu i’r Cynllun gael ei ail graffu gan y Pwyllgor ym mis Ionawr eleni, gan esbonio i’r Pwyllgor graffu’r newidiadau y bwriadwyd eu gwneud i’r Cynllun, yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a’r ffynonellau cyllido sydd wedi eu hadnabod. Datganwyd bod y Pwyllgor wedi croesawu’r bwriad i ail-edrych ar y targed i’r Cyngor fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030. Manylwyd ar y neges a godwyd yn y Pwyllgor Craffu, sef yr angen i fod yn fwy uchelgeisiol.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi ymateb i’r holl argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Craffu, a bod y mwyafrif ohonynt wedi eu hymgorffori i’r Cynllun yn ogystal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol i’r Cyngor barhau i fod yn uchelgeisiol yn y maes hwn, yn enwedig o weld y gwres eithafol sy’n taro’r wlad ar y funud. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r targed Net 0 cenedlaethol a chyllidebau carbon cysylltiedig, holwyd a oes unrhyw ddiweddariad ynglŷn â hyn. Datgelwyd gan yr Aelod Cabinet perthnasol mai disgwyl am arweiniad gan y Llywodraeth mae’r Adran ar hyn o bryd, gan nodi y byddai’n barod i gydweithio â swyddogion o fewn y Llywodraeth er mwyn ceisio troi uchelgeisiau’r Cyngor hwn yn realiti.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am gamau nesaf y Cynllun hwn, bwriadwyd rhannu’r Cynllun ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y we, gan geisio sicrhau ei fod mor hygyrch â phosib. Canmolwyd y lluniau a gaiff eu defnyddio drwy gydol y ddogfen.

Gofynnwyd am ddiweddariad o ran y cynlluniau i symud tuag at fflyd o gerbydau trydan. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn nwylo’r Cyngor, gan adnabod hefyd y caiff cefnogaeth ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

8.

STRATEGAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU A DEFNYDD O ARIAN EPR pdf eicon PDF 534 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

 

Mabwysiadu Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd 2025–2030 fel y ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad, gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ym maes gwastraff ac ailgylchu dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cymeradwyo’r egwyddor o ddefnyddio Cyllid Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) fel y prif ffynhonnell ariannu i gefnogi a galluogi gweithredu blaenoriaethau’r Strategaeth, gan gynnwys cynlluniau i gynyddu ailgylchu, gwella gwasanaethau, cynnal seilwaith presennol a buddsoddi mewn isadeiledd y dyfodol.

 

Cymeradwyo’r cyfeiriad strategol ar gyfer defnyddio cyllid EPR i:

 · reoli risgiau ariannol uniongyrchol y gwasanaeth drwy greu darpariaeth ariannol “rhag ofn”, megis delio gyda gorwariant ar ddarparu gwasanaethau lle nad oes dull amgen o’i gyfarch, lleihau’r risg o ddirwyon am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu a pharatoi ar gyfer costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS).

· darparu sail ariannol gadarn ar gyfer gweithredu’r cynlluniau a nodir yn y Strategaeth, gan gynnwys y camau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a’r buddsoddiadau tymor byr sydd eu hangen ar gyfer uwchraddio.

· sefydlu Cronfa Cydariannu i gefnogi datblygu sylweddol yn safleoedd y dyfodol yng Nghaernarfon a Harlech.

 

Nodi y bydd penderfyniadau pellach yn ofynnol ar rai elfennau gweithredol unigol o’r Strategaeth a’r defnydd o’r cyllid EPR , ond bod mabwysiadu’r Strategaeth a chymeradwyo cyfeiriad defnydd EPR yn darparu’r fframwaith polisi a’r sail ariannol i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith.

 

Nodi y bydd angen i’r Cyngor ystyried pob ffynhonnell ariannol posib wrth fynd ati i osod cyllideb refeniw 2027/28 a’r blynyddoedd dilynol ac na ellir diystyru y posibilrwydd o orfod ail ymweld â’r penderfyniadau uchod pe byddai angen dargyfeirio elfen o’r cyllid EPR ar gyfer gallu gosod cyllideb hafal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd:

Mabwysiadu Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd 2025–2030 fel y ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad, gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ym maes gwastraff ac ailgylchu dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cymeradwyo’r egwyddor o ddefnyddio Cyllid Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) fel y prif ffynhonnell ariannu i gefnogi a galluogi gweithredu blaenoriaethau’r Strategaeth, gan gynnwys cynlluniau i gynyddu ailgylchu, gwella gwasanaethau, cynnal seilwaith presennol a buddsoddi mewn isadeiledd y dyfodol.

 

Cymeradwyo’r cyfeiriad strategol ar gyfer defnyddio cyllid EPR i:

 · reoli risgiau ariannol uniongyrchol y gwasanaeth drwy greu darpariaeth ariannol “rhag ofn”, megis delio gyda gorwariant ar ddarparu gwasanaethau lle nad oes dull amgen o’i gyfarch, lleihau’r risg o ddirwyon am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu a pharatoi ar gyfer costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS).

· darparu sail ariannol gadarn ar gyfer gweithredu’r cynlluniau a nodir yn y Strategaeth, gan gynnwys y camau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a’r buddsoddiadau tymor byr sydd eu hangen ar gyfer uwchraddio.

· sefydlu Cronfa Cydariannu i gefnogi datblygu sylweddol yn safleoedd y dyfodol yng Nghaernarfon a Harlech.

 

Nodi y bydd penderfyniadau pellach yn ofynnol ar rai elfennau gweithredol unigol o’r Strategaeth a’r defnydd o’r cyllid EPR, ond bod mabwysiadu’r Strategaeth a chymeradwyo cyfeiriad defnydd EPR yn darparu’r fframwaith polisi a’r sail ariannol i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith.

 

Nodi y bydd angen i’r Cyngor ystyried pob ffynhonnell ariannol posib wrth fynd ati i osod cyllideb refeniw 2027/28 a’r blynyddoedd dilynol ac na ellir diystyru y posibilrwydd o orfod ail ymweld â’r penderfyniadau uchod pe byddai angen dargyfeirio elfen o’r cyllid EPR ar gyfer gallu gosod cyllideb hafal.

 

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd mai hon yw’r Strategaeth Wastraff gyntaf i’r Cyngor ei datblygu, ac ychwanegwyd ei bod yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer ymdriniaeth y Cyngor â’r pwnc gwastraff.

Cyfeiriwyd at darged Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o wastraff y Sir, a nodwyd gan yr Aelod Cabinet y byddai’n hoff o weld y Sir yn ailgylchu 100% o’i wastraff yn ogystal â cheisio lleihau faint o wastraff a gynhyrchir yma. Er nad oes posib i’r Cyngor reoli faint o wastraff a gynhyrchir yn y Sir, datganwyd bod angen gwneud dipyn mwy nac ailgylchu’n unig. Awgrymwyd yr angen i gryfhau ein heconomi gylchol, gweld gwastraff fel adnodd a chanolbwyntio ar yr elfen ailddefnyddio yn ogystal.

 

Cyflwynwyd rhai o’r rhesymau hynny y tu ôl i geisio cyflwyno Strategaeth o’r fath yn y Sir, gan nodi fod y gwasanaeth yn wynebu amryw o heriau. Cyfeiriwyd at y targed statudol i ailgylchu 70% o wastraff y Sir, gan egluro nad yw Gwynedd yn cyrraedd y targed hwn ar hyn o bryd. Aethpwyd ymlaen i sôn am y risg o dderbyn dirwy ariannol sylweddol pe na fyddai’r Cyngor yn cyrraedd y targed hwn, ac ychwanegwyd bod risg o gostau yn ymwneud â charbon ar y gorwel yn ogystal. Esboniwyd yr ymgeisia’r Strategaeth i foderneiddio’r gwasanaeth ac aethpwyd ymlaen i egluro ei weledigaeth ehangach. Adnabuwyd chwe phrif flaenoriaeth y Strategaeth sef;

·       Cyfathrebu ac Ymgysylltu,

·       Lleihau, Ailddefnyddio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Roland Thomas, Pennaeth Adran Cynorthwyol

9.

ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB (GORFFENNAF 2026) pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. 

 

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd mai’r adroddiad gerbron yw’r pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Datganwyd bod yr adroddiad yn codi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau o ran y gwaith hwn, yn ogystal ag adrodd ar yr hyn sy’n parhau i fod angen ei gyflawni gan y Bwrdd Ymateb.

 

Nodwyd nad oedd yr Athro Sally Holland yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn i gyflwyno ei hadroddiad, felly bod bwriad i ail gyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Cabinet fis Medi er mwyn i Gadeirydd y Bwrdd allu cyflwyno’r adroddiad. Cadarnhawyd y bwriad i gynnal trafodaeth fanylach ar yr eitem fis Medi o ganlyniad.

 

Cydnabuwyd dewrder y dioddefwyr a’r goroeswyr, gan ategu eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc hwn.

Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2025/26 pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd pwysigrwydd y Panel hwn, a chydnabuwyd bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i’r Cyngor. Mynegwyd balchder am y gweithredu sy’n cymryd lle yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder, er mwyn cryfhau trefniadau’r Cyngor yn y maes hwn.

Wrth gyfeirio at ymgais y Cyngor i fod yn agored a thryloyw o ran ei ymateb, eglurwyd bod yr eitem hon wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu Gofal, a bod bwriad i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn maes o law yn ogystal.

 

Pryderwyd am y cynnydd yn niferoedd y cyfeiriadau plant ac oedolion a gaiff eu derbyn, ac effaith hyn ar wasanaethau a staff yr adrannau perthnasol. Aethpwyd ymlaen i nodi bod nifer y staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant VAWDASV wedi cynyddu, a bod y ffigwr o ysgolion sydd wedi cyflwyno hyfforddiant diogelu i’w staff bellach yn 100%.

 

Diolchwyd i holl staff y Cyngor sydd wedi ymgymryd â’r gwaith hwn, gan atgoffa fod diogelu yn fater i bob adran.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y data sydd ar flaen yr Adroddiad yn dal i gael ei wirio, a nodwyd bod posib i rai o’r ffigyrau hyn gael eu diweddaru erbyn i’r Adroddiad gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn maes o law.

Croesawyd Is Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor i’r Cabinet. Cadarnhawyd bodlonrwydd y Pwyllgor gyda’r cynnydd yng ngwaith y Panel.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

  • Cyfeiriwyd at y cynnydd yn y niferoedd o gyfeiriadau i wasanaethau plant yn 2025/26, a holwyd a yw ymwybyddiaeth uwch a lefelau hyfforddiant uwch ymysg staff yn ffactor wrth edrych ar y cynnydd hwn. Croesawyd yr ymwybyddiaeth uwch ymysg staff. Ategwyd y pryder am nifer y cyfeiriadau, ond ar y llaw arall nodwyd yr angen i sicrhau bod pobl yn cyfeirio’n briodol, yn ddi-oed a heb rwystr.
  • Mewn ymateb i gwestiwn am sefyllfa hyfforddiant i Lywodraethwyr, cyfeiriwyd at y data sydd wedi’i nodi yn yr Adroddiad ynglŷn â’r sesiynau hyfforddiant Diogelu i Gadeiryddion a Llywodraethwyr Diogelu dynodedig. Gwnaethpwyd sylw am rôl hollbwysig Llywodraethwyr yn y gyfundrefn, ac felly ei bod yn allweddol iddynt fod yn ymwybodol o’r holl drefniadau diogelu a’r cyfrifoldeb sydd arnynt. Amlygwyd bod swyddog ychwanegol bellach yn gweithio o fewn y tîm sy’n cefnogi Llywodraethwyr o fewn yr adran Addysg.
  • Wrth drafod a yw’r cynnydd hwn mewn cyfeiriadau yn gyffredin ar draws y wlad, eglurwyd bod y Sir yn derbyn ychydig yn llai o gyfeiriadau ar gyfartaledd na siroedd eraill. Er hyn, amlygwyd bod bob sir yng Nghymru yn gweld cynnydd mewn cyfeiriadau a thybiwyd bod cwestiynau cymdeithasegol cenedlaethol ynglŷn â’r hyn sydd y tu ôl i’r cynnydd hwn a sut i fynd i’r afael ag o. Tynnwyd sylw at y ffaith fod Gwynedd yn dilyn tuedd genedlaethol y blynyddoedd diwethaf, gan nodi fod cynnydd yn y nifer o blant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ogystal â’r nifer cyfeiriadau.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

11.

ADOLYGIAD POLISI DIOGELU (2026) pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn mabwysiadu Polisi Diogelu Diwygiedig 2026 ac yn cymeradwyo y camau ymwybyddiaeth a nodir yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Fod y Cabinet yn mabwysiadu Polisi Diogelu Diwygiedig 2026 ac yn cymeradwyo y camau ymwybyddiaeth a nodir yn yr adroddiad.

 

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod y Polisi hwn yn cael ei adolygu bob dwy flynedd er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn cyfarch y ddeddfwriaeth a’r canllawiau diweddaraf.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd barn ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Gofal wrth iddynt graffu ar yr eitem, gan nodi bod eu hargymhellion wedi’u cynnwys yn y ddogfen. 

 

Croesawyd Is Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y pwyllgor i’r Cabinet. Cyflwynwyd yr argymhellion sef symud y rhestr diffiniadau i flaen y ddogfen, ac ystyried cynnwys cymal o fewn y Polisi sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r arwyddion bod plentyn yn cael ei gam feithrin neu fwlio ar lein.

 

Cydnabuwyd bod cryn newid wedi ei wneud i’r polisi ers yr adolygiad diwethaf, gan bwysleisio yr adlewyrcha hyn y dysgu sydd wedi’i wneud yn y maes hwn.

 

Nodwyd nad oes asesiad ardrawiad cydraddoldeb wedi ei gwblhau yma gan mai diwygio’r polisi yn unig sy’n cael ei wneud ar y pwynt hwn. Ymhelaethwyd gan ddweud y bydd angen i asesiad gael ei wneud pan fydd yn dod gerbron y Cabinet mewn dwy flynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sicrwydd am effeithiolrwydd y polisi hwn, datganwyd y bydd y wybodaeth yn mynd gerbron Pwyllgor Craffu, y Tîm Arweinyddiaeth, a’r Cabinet yn rheolaidd. Cyfeiriwyd yn ogystal at Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr, a bod bwriad i gomisiynu awdit ychwanegol i asesu dealltwriaeth staff o’r Polisi Diogelu a sut y dylid ei weithredu. Gobeithiwyd y bydd y gwaith yn rhoi sicrwydd o ymwybyddiaeth y gweithlu.

Pwysleisiwyd bod diogelu yn fater i bob adran ar draws y Cyngor, ac adnabuwyd bod eitem diogelu bellach ar agenda bob cyfarfod o’r Tîm Rheoli Corfforaethol a thimau rheoli adrannol.

Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

12.

DYRANNU GWARGED INCWM O'R PREMIWM AIL GARTREFI A THAI GWAG AR GYFER 2025-26 pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod.

 

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod cyfanswm gwarged o £917,770 ar gyfer 2025/26 ar gael i’w ddyrannu. Esboniwyd bod hyn yn gyfuniad o £3,700 o’r Premiwm hyd at ac yn cynnwys 2024-25 sydd heb ei ymrwymo eto, a £914,070 o Bremiwm 2025-26 a gasglwyd uwchlaw’r ymrwymiadau.

Er tryloywder, amlygwyd bod disgwyl i’r Cyngor gyhoeddi sut caiff yr incwm ychwanegol a godwyd ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r problemau a gaiff eu hachosi gan eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi, neu i fynd i'r afael â phroblemau tai lleol eraill. Rhestrwyd y cynigion newydd sydd i’w hariannu, sef Storio a chludo eiddo aelwydydd mewn llety argyfwng / llety dros dro, a Swydd Rheolwr Prosiect i'r Cynllun Gweithredu Tai.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Esboniwyd mai pwrpas y premiwm yw ceisio sicrhau nad oes neb yn ddigartref yng Ngwynedd, ac aethpwyd ymlaen i roi cyd-destun ehangach ynglŷn â’r cynigion newydd a’u henwir yn yr adroddiad. Crybwyllwyd y bydd swm sylweddol un tro i gyd fynd ag un o’r cynigion yn ogystal, ond y bydd hyn yn sicrhau arbedion tymor hir i’r Cyngor.

 

Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid

13.

CRONFA TWF LLEOL: CYNLLUNIAU 2026/27 GWYNEDD pdf eicon PDF 251 KB

Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig.

Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae’r atodiad i’r adroddiad sydd dan sylw yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am nifer o prosiectau. Mae hyn yn berthnasol i nifer o sefydliadau.

 

Cyflwynwyd gan: Cyng Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno i ymrwymo’r £6,317,640 o’r arian ddarparwyd i Gyngor Gwynedd ei ddyrannu i brosiectau yn 2026/27, i’r 10 cynllun a restrir yn yr adroddiad.

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i gadarnhau manylion y cynlluniau a’r cyfraniad ariannol, penderfynu ar ddarparu llythyr cynnig ac unrhyw ddogfennaeth arall ar gyfer cytuno ariannu’r prosiectau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R Medwyn Hughes.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Cytuno i ymrwymo’r £6,317,640 o’r arian ddarparwyd i Gyngor Gwynedd ei ddyrannu i brosiectau yn 2026/27, i’r 10 cynllun a restrir yn yr adroddiad.

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i gadarnhau manylion y cynlluniau a’r cyfraniad ariannol, penderfynu ar ddarparu llythyr cynnig ac unrhyw ddogfennaeth arall ar gyfer cytuno ariannu’r prosiectau.

 

 

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod dyfodiad y Gronfa Twf Lleol (LGF) wedi ei gyflwyno i’r Cabinet yn gynharach eleni, a datganwyd bod blwyddyn gyntaf y Gronfa bellach wedi cychwyn gyda chynnig o arian gan Lywodraeth Cymru i Ogledd Cymru wedi ei dderbyn.

Datganwyd y caiff 2026/27 ei hystyried fel blwyddyn bontio i drefniadau newydd y Gronfa Twf Lleol. Amlygwyd y bydd yr un trefniadau llywodraethu a gweinyddu â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer 2026/27.

Eglurwyd y bydd cyfrifoldeb am yr LFG yn trosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru o 2027/28 ymlaen.

 

Nodwyd bod cyllideb o £6,317,640 ar gael i Gyngor Gwynedd ar gyfer 2026/27, i’w ymrwymo i brosiectau. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi bod 73% o’r arian yn gyfalaf, a bod gofyn cynllunio ar y sail fod yr arian yn cael ei wario cyn 31 Mawrth 2027.

 

Esboniwyd bod y rhaglenni wedi eu dethol ar sail themâu’r Strategaeth Economaidd; Mentergarwch, Pobl, a Lle. Aethpwyd ymlaen i restru’r cynlluniau sydd wedi eu hadnabod, a gaiff eu nodi yn Atodiad 1. Ymfalchïwyd yn y ffaith bod oddeutu 50 o brosiectau wedi eu cefnogi ar draws y Sir.

 

Adnabuwyd blaenoriaethau’r Gronfa, sef

• Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol,

• Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i mewn i waith,

• Gwella seilwaith rhanbarthol.

Aethpwyd ymlaen i nodi bod y meini prawf i adnabod y 10 prosiect blaenoriaeth wedi’i bennu ar sail y blaenoriaethau hyn. Rhestrwyd yr ystyriaethau allweddol ar gyfer dod a phecyn ynghyd, gan dynnu sylw at yr angen i allu gweithredu o fewn cyfyngiadau amser yr LFG.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Mynegwyd balchder o allu trafod mater cadarnhaol a llongyfarchwyd yr Adran am ddod o hyd i brosiectau cyffrous, sydd am wneud gwahaniaeth.

·       Mynegwyd rhwystredigaeth wrth gyfeirio at y gwahaniaeth rhwng yr hyn mae’r Cyngor yn ei dderbyn mewn grantiau rŵan, o’i gymharu â’r hyn oedd yn cael ei dderbyn cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Tynnwyd sylw at her y rhwystrau sydd rhaid eu gorchfygu er mwyn derbyn yr arian hwn, ynghyd â’r nifer o newidiadau yn rheolau’r grantiau hyn, a’r amserlen dynn i wario’r arian.

·       Ategwyd y rhwystredigaeth ynglŷn â’r cyfyngiadau o ran amserlen gwario’r arian, gan esbonio bod nifer o brosiectau da’n colli allan ar yr arian o ganlyniad. Gresynwyd at y ffaith fod mwyafrif o’r arian yn gyfalaf yn ogystal.

Credwyd bod yr Adran wedi llwyddo i gyrraedd blaenoriaethau’r Gronfa.

Awdur: Sioned Williams, Pennaeth Adran Economi a Chymuned

14.

CYDBWYLLGOR CENEDLAETHOL GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL CYMRU A MAETHU CYMRU - LLEIHAU CWORWM Y CYFARFOD pdf eicon PDF 172 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno i leihau cworwm cyfarfodydd Cydbwyllgor Cenedlaethol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru o 60% i 40%, ar yr amod bod o leiaf dri rhanbarth yn cael eu cynrychioli.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytuno i leihau cworwm cyfarfodydd Cydbwyllgor Cenedlaethol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru o 60% i 40%, ar yr amod bod o leiaf dri rhanbarth yn cael eu cynrychioli.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod angen 60% o aelodau’r Cydbwyllgor yn bresennol ar y funud, er mwyn cael cworwm i gynnal cyfarfod. Datganwyd bod dau gyfarfod wedi eu canslo o ganlyniad i ddiffyg cworwm, ers sefydlu’r Cydbwyllgor yn 2024.

 

Cadarnhawyd na fydd y newid hwn yn effeithio ar swyddogaethau na rôl y Cydbwyllgor, a’i fod yn newid ymarferol yn unig er mwyn ceisio atal gorfod canslo cyfarfodydd oherwydd diffyg cworwm.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham fod cyn lleied o aelodau yn bresennol yn y cyfarfodydd, esboniwyd nad yw’r ateb yn hollol eglur ac nad oes modd cynnig ateb pendant am hynny. Ymhelaethwyd gan gynnig bod cynnal cyfarfodydd ar lefel genedlaethol yn achosi rhwystr wrth geisio sicrhau presenoldeb. Mynegwyd rhwystredigaeth gan yr Aelod Cabinet bod y cyfarfodydd hyn yn cael eu canslo.

·       Nodwyd nad oedd sicrwydd am y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad o nodi 40% fel cworwm newydd, yn hytrach na 50% er enghraifft.

·       Gofynnwyd a oes unrhyw risgiau o ran effaith ar benderfyniadau wrth leihau’r cworwm i lai na hanner yr aelodaeth. Cydnabuwyd fod 40% yn eithaf isel, ond tynnwyd sylw at yr amod sy’n sicrhau fod o leiaf tri rhanbarth allan o 5 yn cael eu cynrychioli.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:00pm a daeth i ben am 3:35pm.

 

 

Awdur: Sharron Williams Carter, Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd