Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Meryl Roberts, Angela Russell a Richard Glyn Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 175 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

Dwy sedd wag gan Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor. Pennaeth Cyllid, Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth a Iaith a Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau i drafod a cheisio ysgogi diddordeb.

motivate interest

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol ac ymatebion i gais am ddiweddariadau:

 

Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac Hunanasesiad (drafft) Cyngor Gwynedd - angen cynnwys y Pwyllgor yn gynharach yn y broses - awgrym i gynnal gweithdy gyda’r Aelodau fel eu bod yn cael mewnbwn a gwell cyflë i gynnig argymhellion - nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio adnabod yr ymarfer gorau - angen ystyried rôl y Pwyllgor yma ac os priodol fyddai cynnig mewnbwn a chraffu'r hunanasesiad yn diweddarach? Ategwyd bod posib cyflwyno fersiwn drafft o’r hunanasesiad mewn gweithdy gyda’r Aelodau

 

Hyfforddiant Ffordd Gwynedd - dymuniad y Pwyllgor i dderbyn hyfforddiant Ffordd Gwynedd - nodwyd bod hyfforddiant Ffordd Gwynedd wedi cael ei adolygu a’i addasu yn ddiweddar a bod dyddiad i’r Cabinet dderbyn hyfforddiant wedi ei glustnodi gan yr Adran Dysgu A Datblygu. Yn dilyn hyn, bydd sesiwn cyffelyb yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i dderbyn hyfforddiant.

 

Mewn ymateb i bryder bod dwy sedd wag gan yr Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor, nodwyd bod hysbyseb parhaus ar y wefan ond dim ymateb wedi ei dderbyn. Gwnaed sylw pellach, petai’r broblem yn parhau, dylid ystyried adolygu nifer Aelodau ar y Pwyllgor - 18 aelod i weld yn uchel o gymharu â Siroedd eraill.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

Dwy sedd wag gan Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor. Pennaeth Cyllid, Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith a Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau i drafod a cheisio ysgogi diddordeb.

 

5.

ARBEDION A THORIADAU 2025/26 pdf eicon PDF 135 KB

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod ar Chwefror 11eg 2025

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion

·       Bod yr arbedion a gynigwyd yn rhesymol a chyraeddadwy

·       Bod y risgiau a’r goblygiadau’r penderfyniad yn glir

·       Bod yr adroddiad yn ddigonol i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion

·       Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo’r Cynllun Arbedion 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25

·       Croesawu  gwahoddiad i’r gweithdai rhannu gwybodaeth

 

Nodyn:

I ystyried adolygu’r ymgynghoriad cyhoeddus i’r dyfodol i geisio barn trigolion am lefel treth

Annog mwy o ymdrech i resymoli gwasanethau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried priodoldeb y broses o adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn dod i benderfyniad yn eu cyfarfod 11-02-25. Adroddwyd nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu rinweddau’r cynigion unigol sy’n cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach sicrhau fod y Cabinet yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt, fel bod y penderfyniad sydd yn cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn cyflawni arbedion yn ddi-ffael ers blynyddoedd bellach a’r her o gyflawni’r arbedion hynny heb niweidio gwasanaethau trigolion y Sir yn anoddach. Eglurwyd bod y Cyngor bellach yn ymwybodol o lefel Grant Cynnal Refeniw (GCR) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 (cynnydd o 3.2%), ac y bydd yn sylweddol is na hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol. Nododd bod gwaith manwl wedi ei wneud gyda holl Adrannau’r Cyngor i adnabod cynlluniau arbedon a thoriadau.

 

Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor hefyd yn wynebu sefyllfa lle mae adrannau yn gorwario, a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau; yn amhosib erbyn hyn i rai gwasanaethau megis gofal plant, gofal oedolion, gwastraff a phriffyrdd weithredu o fewn eu cyllideb bresennol. Bydd hyn yn arwain at orwariant eleni o oddeutu £8m a rhan helaeth o’r bwlch hwn yn deillio o ddiffyg cyllideb i gwrdd â galw uwch am wasanaethau ac yn y rhan fwyaf o achosion nid yw’n opsiwn peidio darparu'r gwasanaethau hynny. O ganlyniad bydd angen defnyddio arian wrth gefn ar gyfer ymdopi â’r sefyllfa. 

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol mewn costau staffio yn sgil newid polisi San Steffan i gynyddu cyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr. Fel cyflogwr i 6,000 o staff, bydd hyn yn ychwanegu hyd at £4.5M at gostau staffio. Er mai’r Cyngor fydd yn cyfarch y gost bydd  Llywodraeth Cymru, (o ganlyniad i ddarpariaeth ôl-ddilynol cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan i fod yn cyfarch costau ychwanegol i gyfraniadau cyflogwr Yswiriant Gwladol y sector gyhoeddus yn Lloegr), yn cyfrannu oddeutu £3.5m efallai.

 

O ganlyniad i ddarparu cyllideb uwch ar gyfer yr Adrannau sydd methu ymdopi â’u cyllideb bresennol a chyfanswm Grant Cynnal Refeniw isel gan y Llywodraeth, bydd bwlch ariannol 2025/26 oddeutu £8.77m.

 

I ganfod arbedion, cyflwynwyd 39 o gynigion gan Adrannau’r Cyngor (gwerth £1.89). Cynhaliwyd paneli toriadau gyda phob Adran lle heriwyd y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyd-destun staff, swyddogaeth, gwariant ac incwm. Amlygwyd yn y cyfarfodydd hyn mai ychydig iawn oedd modd peidio eu gweithredu yn eu cyfanrwydd. Aseswyd pob cynnig gan y Prif Weithredwr neu gan un o'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u gosodwyd mewn pedwar categori i gynorthwyo’r Aelodau flaenoriaethu cynlluniau arbedion 2025/26 gydag ymwybyddiaeth o beth fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol.  Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cyhoeddus gan esbonio sefyllfa ariannol y Cyngor a’r tebygolrwydd y bydd gorfodaeth i weithredu toriadau fel rhan o’r ymdrech i gyfarch y bwlch  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB 2025/26 pdf eicon PDF 208 KB

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2024/25 i’r Cyngor Llawn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·       Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·       Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25

·       Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb

 

Nodyn:

Sefyllfa gorwariant yn bryderus - angen sicrhau llai o ddefnydd o’r gronfa wrth gefn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 3.1% gyfer 2025/26, sy’n cyfateb i gynnydd gwerth £7.5m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2025/2g gyda’r angen i gynyddu gwariant o £24.,2m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Yn ogystal â chyfarch y galw ar wasanaethau yn ogystal â chwyddiant uchel bydd rhaid ystyried cyfuniad o gynnydd Treth Cyngor a rhaglen newydd o arbedion a thoriadau. Gydag argymhelliad o gynnydd o 8.66% yn y Dreth Cyngor bydd angen mwy o arbedion a thoriadau i osod cyllideb gytbwys gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 11/02/25) yn argymell i’r Cyngor Llawn (06/03/25) i sefydlu cyllideb o £355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190 a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sydd yn gynnydd o 8.66% ar dreth anheddau unigol)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

·         Chwyddiant Cyflogau o £8.6m - y gyllideb yn neilltuo cynnydd cytundeb tâl 2025/26 o 3.5% ar gyfer yr holl weithlu ac athrawon

·         Addasiad i’r trothwy a chyfradd yswiriant gwladol a delir gan y cyflogwr.

·         Cyllideb o £4.6m wedi ei osod ar y sail y bydd y gost yn cael ei ariannu’n rhannol gan y Llywodraeth, sef gwerth £3.5 miliwn

·         Cynnydd mewn Ardollau i gyrff perthnasol - £506K

·         Demograffi - lleihad mewn nifer disgyblion yn yr ysgolion - £643k

·         Pwysau ar Wasanaethau - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £7.7m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

·         Ystyriaethau pellach - £2.2m ( addasiadau i wahanol gyllidebau ar draws y Cyngor sy’n cynnwys effaith lleihad mewn derbyniadau llog o £2.3m mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau a llif arian y Cyngor

 

Cyfeiriwyd at Rhagolygon Gorwariant 2024/25 yr Adran Oedolion, Iechyd a  Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd gan nodi’r bwriad o gyllido'r gorwariant drwy gronfeydd wrth gefn (gwerth £8,294m)

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, cyfeiriwyd at gynlluniau arbedion a thoriadau  newydd i leihau’r bwlch ariannu o £519k fydd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet 11-02-25 (er mai £100k gellid ei dynnu o gyllideb 2025/26. 

 

Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor ac o ganlyniad bydd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH GYFALAF 2025/26 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 258 KB

I dderbyn yr adroddiad, nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol, a chefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i’r Cyngor llawn am gymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad a cefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

·       Bod angen cynnwys amserlen i’r camau gweithredu

·       Bod angen adroddiad yn nodi dilyniant ar yr hyn sydd yn cael ei gyflawni

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor gan ategu bod yr Aelodau wedi derbyn cyflwyniad diweddar gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose yn egluro’r manylder tu ôl i’r strategaeth mewn modd dealladwy a chynhwysfawr.

 

Cyfeiriwyd at y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £53.7miliwn yn 25/26 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau Cyngor Gwynedd yw’r cronfeydd.  Daw gweddill o’r arian trwy fenthyciad fydd yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £191.7 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 25/26, sef y lefel y dylai benthyg tymor hir y Cyngor aros odditano.

 

Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd y flwyddyn ariannol; bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei ragweld ar gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf.

 

Cyfeiriwyd at y Meincnod Ymrwymiadau sydd bellach yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor yn chwarterol erbyn hyn. Bydd y Cyngor yn disgwyl i’w fenthyciadau fod yn uwch na’i feincnod ymrwymiad hyd ar 2025 oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o reserfau.

 

Yng nghyd-destun Strategaeth Buddsoddi, nodwyd mai polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod symiau yn cael eu cadw drwy’r adeg i sicrhau hylifedd.

 

Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder ymrwymiadau tymor hir y Cyngor e.e., unioni diffyg y Gronfa Bensiwn, ac effaith o’r costau ariannu i’r llif arian lle gwelir bod y ganran yn isel ac yn eithaf cyson gyda blynyddoedd blaenorol. Cadarnhawyd hefyd bod y wybodaeth a sgiliau perthnasol gan y swyddogion ac mai Arlingclose sydd yn darparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol

·         Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar y 6ed o Fawrth 2025

 

8.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 387 KB

Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad a cefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

·       Bod angen cynnwys amserlen i’r camau gweithredu

·       Bod angen adroddiad yn nodi dilyniant ar yr hyn sydd yn cael ei gyflawni

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan Arweinydd Archwilio Mewnol yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Hydref 2024 hyd 27 Ionawr 2025. Amlygwyd bod 9 o archwiliadau Cynllun Gweithredu 2024/25 wedi eu cwblhau gyda phump ohonynt yn dangos lefel sicrwydd digonol a  phedwar yn dangos lefel sicrwydd cyfyngedig. Ategwyd bod 17 cynllun ar y gweill.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         RHEOLI PROSIECT TRAFNIDIAETH YSGOLION

·         - angen sicrhau bod gwiriadau DBS yn cael eu cynnal.

·         POLISI CANU’R GLOCH

-       Pryder bod gostyngiad yn y nifer staff sydd yn ymwybodol o Polisi Canu’r Gloch Angen sicrhau bod y polisi yn gryf a chadarn

-       Angen adfer hyder gweithwyr yn y polisi ac ystyried materion sydd o bryder i staff

Mewn ymateb nodwyd bod awydd i wella’r polisi a bod Hyfforddiant Ffordd Gwynedd yn adlewyrchu hynny - diwylliant ac ymddiriedaeth staff yn hanfodol i drefn Ffordd Gwynedd o weithio. Canlyniadau Arolwg Llais Staff i’w cyhoeddi yn fuan gyda negeseuon pwysig yn sicr o ddeillio o’r arolwg

·         MEYSYDD PARCIO

-       Dim digon o staff gorfodaeth. Sut ellir cefnogi’r sefyllfa?

·         GRANT ATAL DIGARTREFEDD 2022/23

-       Pwysig bod hawliadau grant yn cael eu cyflwyno yn amserol

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y grant yn un sylweddol, nodwyd bod dwy dystysgrif i’w cwblhau a bod hyn o ganlyniad i newidiadau staffio. Nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gan fod risg yma o beidio cadw at delerau’r grant

·         CYNNAL Y GOFRESTR AROS TAI

-       Adroddiad cadarnhaol

·         CYFFREDINOL

-       Bod diffyg adnoddau yn cael effaith ar wasanaethau

-       Bod angen parhau i gadw llygad ar y cynlluniau

-       Yn derbyn yr argymhellion, ond angen diweddariad cynnydd / gwelliannau

-       Bod angen dilyniant i’r wybodaeth sydd yn cael ei gyflwyno, yn enwedig i’r cynlluniau hynny sydd gyda lefel sicrwydd cyfyngedig

-       Angen gosod amserlen  ar  gyfer y cynlluniau risg uchel

-       Bod rhai camau gweithredu yn wan, angen i Archwilio Mewnol ymateb os nad yw’r camau yn ddigonol i osgoi risgiau pellach

Mewn ymateb, nodwyd mai perchnogaeth Adrannau yw’r camau gweithredu ac mai gwaith Archwilio Mewnol yw amlygu’r risgiau a thystiolaethu bod trefniadau mewn lle i dderbyn sicrwydd.

 

Diolchwyd i Bleddyn Rhys ac Eva Williams am arwain y gwasanaeth dros gyfnod salwch y Rheolwr Archwilio

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

·         Bod angen cynnwys amserlen i’r camau gweithredu

·         Bod angen adroddiad yn nodi dilyniant ar yr hyn sydd yn cael ei gyflawni

 

 

9.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2024/25 pdf eicon PDF 226 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad hwn fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2024/25, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25 Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 54%, allan o’r 37 archwiliad unigol sydd yn y cynllun, bod 20 wedi ei ryddhau yn derfynol neu wedi cau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r 13 ymchwiliad sydd wedi eu canslo ar gyfer 2024/25 ac os byddant yn cael eu hail broffilio ar gyfer 2025/26, nodwyd y bydd adolygiad o archwiliadau 2025/26 yn cael ei weithredu ac os oes risg uchel i’r archwiliadau a ganslwyd yna bydd y meysydd hynny sydd a’r risg mwyaf yn cael eu blaenoriaethu.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

 

10.

ADRODDIAD ARCHWILIAD ARBENNIG - GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 192 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn a nodi’r cynnydd i ganfyddiadau arolwg Archwilio Mewnol a’r drefniadau Gofal Cartref y Cyngor

·       Croesawu'r Rhaglen Waith drylwyr sydd mewn lle i wella’r ddarpariaeth

·       Bod angen diweddariad pellach ymhen 12 mis ar gynnydd a llwyddiant y rhaglen waith

 

Cofnod:

Yn dilyn, darganfyddiadau archwiliad arbennig gan Archwilio Mewnol  a gomisiynwyd gan y Prif Weithredwr i ofal cartref Cyngor Gwynedd, cafwyd diweddariad gan Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar y rhaglen waith manwl sydd wedi ei llunio i flaenoriaethu a chryfhau’r ddarpariaeth, ac i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd trefniadau’r Cyngor yn y maes gofal cartref. Nodwyd bod y rhaglen waith yn cynnwys 63 o Is-brosiectau o fewn ffrydiau gwaith y Grŵp Prosiect Gofal Cartref (sydd wedi ei sefydlu dan arweiniad y Pennaeth i gyfarch y gwaith a mynd i’r afael â’r materion sydd angen sylw i roi hyder fod y model o ddarparu gofal cartref yn gweithio yn effeithiol). Ategwyd bod tri prif ffrwd i’r rhaglen waith oedd yn cynnwys darpariaethau mewnol (15), systemau a phrosesau (22) a gwreiddio’r model newydd (26). Cyflwynwyd i’r Pwyllgor yr is- brosiectau hynny oedd yn ymwneud ag Archwiliad SAC yn unig sef rhestr aros, gwariant / cyllido a monitro contractau a rhoddwyd adroddiad cynnydd ar y prosiectau hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor yn gofyn am sicrwydd bod y Pwyllgor Craffu Gofal wedi edrych ar elfennau’r maes gofal cartref, y model newydd yn gyffredinol a’i effaith ar drigolion, nodwyd bod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu yn Medi 2024 i gefnogi awydd aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal i bwyso a mesur effeithiolrwydd y ddarpariaeth gofal cartref ar draws y Sir yn enwedig o ran cynnal a gwella gwasanaethau i drigolion.

 

Mewn ymateb i’r archwiliad mewnol, nodwyd bod sicrwydd ac eglurder o fynd i’r afael â’r materion a godwyd gyda gwahoddiad agored i archwilio mewnol fynychu cyfarfodydd o’r Grŵp Prosiect.

 

Yng nghyd-destun yr oriau bloc, nodwyd bod yr oriau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd ar y cyd gyda’r Adran Cyllid a bod y gofrestr risg bellach wedi ei symleiddio i adlewyrchu blaenoriaethau ac ymdrech. Ymddengys bod y rhestrau aros yn amlygu tuedd / patrwm o leihad sydd yn rhoi argraff bod y model newydd yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

 

Adroddwyd bod Archwiliad Arolygaeth Gofal Cymru yn cadw golwg dros ansawdd a safonau’r Gwasanaeth, ac Archwilio Cymru yn cyhoeddi eu darganfyddiadau o drefniadau Gofal Cartref 06-02-25 - bydd argymhellion yr archwiliadau hyn hefyd yn amlygu materion i’w gwella fydd angen eu cydlynu gyda’r rhaglen waith.

 

Mynegodd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y maes gofal cartref yn un cyfnewidiol a heriol gyda’r mater yn cael sylw a buddsoddiad sylweddol i wella. Ategwyd bod yr Adran yn cymryd y mater o ddifrif a blaenoriaethau i wella wedi eu gosod.

 

Cymerodd y Prif Weithredwr y cyfle i ategu bod yr ymdrech i geisio trefn wedi deillio o ymateb i bryder yn nhrefn monitro gwariant gofal cartref a comisiynwyd Archwilio Mewnol i edrych ar y sefyllfa. O ganlyniad, nododd bod rhaglen waith wedi ei llunio a newidiadau ar waith i geisio gwella’r ddarpariaeth, gan dderbyn bod rhai o’r trefniadau wedi bod yn wan. Bellach gydag argymhellion clir Archwilio Mewnol, y broblem wedi ei hadnabod a gwellhad i’r sefyllfa wedi ei gynnig - yr oriau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 106 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn a nodi bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y cynigion gwella yn cael eu gweithredu

·       Croesawu trefniadau newydd i adrodd ar gynnydd adroddiadau archwilio allanol pob 6 mis i’r Pwyllgor

·       Croesawu penderfyniad bod ymatebion i’r adroddiadau yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd Herio a Chefnogi Perfformiad yr Adran berthnasol

 

Cofnod:

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr eitem yn un i’w ystyried fel rôl llywodraethu ac nid fel rôl craffu gyda chais i’r Pwyllgor fod yn fodlon bod trefniadau priodol yn ei lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o archwiliadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu.

 

Nodwyd bod y gwaith o ymateb i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd o’r argymhellion. Bydd yr archwiliadau hynny sydd wedi eu cwblhau yn cael eu dileu ac nid yn derbyn sylw pellach gan y Pwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at drefniadau ymateb gan nodi bod ffurflen ymatebol gan y sefydliad (sydd yn cynnwys camau gweithredu ac amserlen), yn cael eu cwblhau a bod hyn wedi symleiddio’r broses. O ganlyniad, ac o ystyried y nifer sylweddol o archwiliadau sydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor, bod bwriad adrodd ar gynnydd adroddiadau archwilio allanol pob chwe mis i’r Pwyllgor. Yn ychwanegol, bydd ymatebion i’r adroddiadau yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd Herio a Chefnogi Perfformiad yr Adran berthnasol gyda’r bwriad o roi sicrwydd ychwanegol i’r Pwyllgor bod trefniadau priodol mewn lle.

 

Ategodd Archwilio Cymru bod y trefniadau wedi eu haddasu gyda’r ffurflenni ymateb, amserlen a dyddiad cau yn cael eu rhannu gyda’r swyddog cyfrifol fydd yn ymateb i argymhellion yr archwiliad. Ategwyd eu bod yn croesawu’r trefniant o herio’r cynnydd mewn cyfarfodydd herio perfformiad.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y trefniadau newydd yn dilyn patrwm Cynghorau eraill, nodwyd, yn gyffredinol, bod ymatebion yn cael eu trafod tua dwywaith y flwyddyn gydag argymhellion archwiliadau yn cael eu trafod ochr yn ochr â’r ymateb. Ategwyd bod hyn yn golygu bod y rhaglen yn rhwydd i’w dilyn gyda dyddiad ymateb a dyddiad cwblhau wedi eu gosod - cerrig milltir sy’n allweddol i'r broses. Croesawyd bod cyfleoedd yn cael eu cymryd i finiogi’r trefniadau presennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn a nodi bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y cynigion gwella yn cael eu gweithredu

·         Croesawu trefniadau newydd i adrodd ar gynnydd adroddiadau archwilio allanol pob 6 mis i’r Pwyllgor

·         Croesawu penderfyniad bod ymatebion i’r adroddiadau yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd Herio a Chefnogi Perfformiad yr Adran berthnasol

 

12.

RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT pdf eicon PDF 94 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn y Rheolau Gweithdrefn ar y newidiadau i Reolau Gweithdrefn Contractau sydd yn digwydd yn sgil Deddf Caffael 2023

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro i ddiweddaru’r Pwyllgor ar  newidiadau i Reolau Gweithdrefn Contractau sydd yn digwydd yn sgil y Ddeddf Caffael 2023. Eglurwyd, ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r Llywodraeth (DU) wedi adnabod hyn fel cyfle i adolygu deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â chaffael yn y sector

gyhoeddus. Pasiwyd Deddf Caffael 2023 gyda bwriad i’r Ddeddf ddod i rym Hydref 2024 ond bellach yn dod i rym Chwefror 2025. Ategwyd bod Llywodraeth Cymru wedi pasio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 sy’n rhoi mwy o

gyfrifoldebau a dyletswyddau ar sefydliadau sector gyhoeddus yng Nghymru sydd hefyd gysylltiedig â chaffael.

 

Nodwyd mai  prif amcan y gwaith yw newid Cyfansoddiad y Cyngor a threfniadau canolog i gyfarch newidiadau’r Ddeddf. Adroddwyd bod cydweithredu rhanbarthol wedi digwydd i gyfarch y newidiadau a bod  Adran Caffael y Cyngor wedi bod yn paratoi ar gyfer y newid - byddai peidio adolygu a diwygio'r Rheolau yn codi risg sylweddol i’r Cyngor; buasai’r Cyngor yn agored i her gyfreithiol am fethu â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, a hefyd yn debygol o gael beirniadaeth gan archwilwyr a rheoleiddwyr. Amlygwyd bod y gwaith yn gyfle i sicrhau bod y Rheolau Gweithdrefn Contract yn ddigon hyblyg i ganiatáu i swyddogion gynnal ymarfer caffael yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol. Yn ogystal, bydd y ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau bod rheolaeth i unrhyw ymarfer caffael ac yn sicrhau gwerth am arian i’r Cyngor. Gwaith pellach fydd newid cyfansoddiad y Cyngor a threfniadau canolog i gyfarch y Ddeddf

 

 Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn y Rheolau Gweithdrefn ar y newidiadau i Reolau Gweithdrefn Contractau sydd yn digwydd yn sgil Deddf Caffael 2023

 

 

13.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 112 KB

I ystyried y rhaglen waith

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Mai 2025 – Chwefror 2026

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Chwefror 2026

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Mai 2025 – Chwefror 2026

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 a daeth i ben am 13:10

 

                                                                                             

 

________________________

 

CADEIRYDD