Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Ail
benodi David Wareing fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am
dymor pellach o bedair blynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r
cynnig, sef bod y Cyngor hwn:
a) yn credu bod y system fudd-daliadau
gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng
Ngwynedd;
b) yn nodi'r cysyniad o Incwm
Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn
seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a
delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu
cyfoeth, neu statws priodasol;
c) yn credu bod angen profi
UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis
adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli
cymuned trwy:
i) rhoi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth
roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;
ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu
am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;
iii) cael gwared ar effeithiau negyddol
sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;
iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y
teulu, y gweithle a'r gymdeithas.
ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith
Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;
e) yn credu na ddylid mesur
llwyddiant peilot UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar
waith â thâl, ond hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn
ei wneud, sut maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd
o'u cwmpas;
f) yn credu bod Gwynedd mewn
sefyllfa ddelfrydol i dreialu UBI;
g) yn gofyn i’r Cabinet
ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i
gydweithio gyda chyrff megis UBI Lab Cymru;
h) yn penderfynu anfon
copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y
Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob plaid
wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl ASau Gwynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Mabwysiadu
Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn
ystod 2021/22.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Cymeradwyo
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar
gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro
yn syth i uchafswm o tua £70,000.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r
Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2021/22.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o £275,669,610 ar gyfer
2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £80,876,470 o incwm
o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.
(b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn
2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
2. Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 18 Tachwedd 2020, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):-
(a) 51,885.56 yw’r swm a
gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei
sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor –
Sylfaen drethiannol Cymuned –
Aberdaron |
542.74
|
|
Llanddeiniolen |
1,832.32 |
Aberdyfi |
980.22 |
Llandderfel |
496.58 |
|
Abergwyngregyn |
117.00 |
Llanegryn |
157.54 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,148.25 |
Llanelltyd |
288.90 |
|
Arthog |
617.37 |
Llanengan |
2,105.34 |
|
Y Bala |
771.50 |
Llanfair |
311.58 |
|
Bangor |
3,844.96 |
Llanfihangel y
Pennant |
223.75 |
|
Beddgelert |
296.64 |
Llanfrothen |
224.08 |
|
Betws Garmon |
130.44 |
Llangelynnin |
407.39 |
|
Bethesda |
1,696.45 |
Llangywer |
137.01 |
|
Bontnewydd |
433.07 |
Llanllechid |
336.00 |
|
Botwnnog |
448.54 |
Llanllyfni |
1,407.84 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
426.50 |
Llannor |
905.46 |
|
Bryncrug |
325.38 |
Llanrug |
1,127.82 |
|
Buan |
224.84 |
Llanuwchllyn |
304.53 |
|
Caernarfon |
3,596.36 |
Llanwnda |
789.27 |
|
Clynnog Fawr |
446.26 |
Llanycil |
198.76 |
|
Corris |
296.99 |
Llanystumdwy |
864.34 |
|
Criccieth |
931.77 |
Maentwrog |
283.93 |
|
Dolbenmaen |
603.77 |
Mawddwy |
346.60 |
|
Dolgellau |
1,233.10 |
Nefyn |
1,458.93 |
|
Dyffryn Ardudwy |
831.65 |
Pennal |
215.54 |
|
Y Felinheli |
1,136.66 |
Penrhyndeudraeth |
779.36 |
|
Ffestiniog |
1,713.50 |
Pentir |
1,260.20 |
|
Y Ganllwyd |
86.79 |
Pistyll |
259.32 |
|
Harlech |
769.40 |
Porthmadog |
2,016.47 |
|
Llanaelhaearn |
449.24 |
Pwllheli |
1,729.10 |
|
Llanbedr |
336.30 |
Talsarnau |
325.03 |
|
Llanbedrog |
720.36 |
Trawsfynydd |
499.20 |
|
Llanberis |
768.82 |
Tudweiliog |
457.21 |
|
Llandwrog |
1,027.80 |
Tywyn |
1,624.58 |
|
Llandygai |
1,000.88 |
|
Waunfawr |
558.03 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn
yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol ag
Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
|
|
|
|
|
(a)
|
£409,390,260 |
Sef cyfanswm y symiau
y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
||
(b)
|
£131,672,530 |
Sef cyfanswm y symiau y
mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
||
(c)
|
£277,717,730 |
Sef y swm sy’n cyfateb
i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd
gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar
gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
||
(ch) |
£194,297,483 |
Sef cyfanswm y symiau
y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa
ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai
amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a
ganiateir. |
||
(d)
|
£1,532.26 |
Sef y swm yn
3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir
yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf,
sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a
threth gyfartalog cynghorau cymuned). |
||
(dd) |
£2,543,780 |
Sef cyfanswm yr holl eitemau
arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau
cymuned). |
||
(e)
|
£1,483.23 |
Sef y swm yn 3(d)
uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a)
uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei
Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal
lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor
Gwynedd yn unig). |
||
(f) Ar gyfer rhannau o ardal
y Cyngor –
Aberdaron |
1,510.87 |
|
Llanddeiniolen |
1,500.59 |
Aberdyfi |
1,521.33 |
Llandderfel |
1,501.35 |
|
Abergwyngregyn |
1,508.87 |
Llanegryn |
1,518.14 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,535.48 |
Llanelltyd |
1,509.19 |
|
Arthog |
1,504.29 |
Llanengan |
1,509.35 |
|
Y Bala |
1,518.23 |
Llanfair |
1,534.58 |
|
Bangor |
1,584.18 |
Llanfihangel y Pennant |
1,534.74 |
|
Beddgelert |
1,518.63 |
Llanfrothen |
1,524.73 |
|
Betws Garmon |
1,503.16 |
Llangelynnin |
1,507.29 |
|
Bethesda |
1,557.61 |
Llangywer |
1,514.25 |
|
Bontnewydd |
1,525.95 |
Llanllechid |
1,529.21 |
|
Botwnnog |
1,497.72 |
Llanllyfni |
1,518.75 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,511.37 |
Llannor |
1,503.29 |
|
Bryncrug |
1,522.75 |
Llanrug |
1,536.43 |
|
Buan |
1,499.91 |
Llanuwchllyn |
1,529.20 |
|
Caernarfon |
1,538.42 |
Llanwnda |
1,519.77 |
|
Clynnog Fawr |
1,523.57 |
Llanycil |
1,503.35 |
|
Corris |
1,514.65 |
Llanystumdwy |
1,504.06 |
|
Criccieth |
1,528.31 |
Maentwrog |
1,504.54 |
|
Dolbenmaen |
1,513.04 |
Mawddwy |
1,510.64 |
|
Dolgellau |
1,540.00 |
Nefyn |
1,536.18 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,543.35 |
Pennal |
1,512.74 |
|
Y Felinheli |
1,518.42 |
Penrhyndeudraeth |
1,536.48 |
|
Ffestiniog |
1,617.46 |
Pentir |
1,526.87 |
|
Y Ganllwyd |
1,517.80 |
Pistyll |
1,529.50 |
|
Harlech |
1,574.21 |
Porthmadog |
1,514.27 |
|
Llanaelhaearn |
1,538.88 |
Pwllheli |
1,530.08 |
|
Llanbedr |
1,527.83 |
Talsarnau |
1,550.92 |
|
Llanbedrog |
1,514.46 |
Trawsfynydd |
1,523.29 |
|
Llanberis |
1,524.85 |
Tudweiliog |
1,500.73 |
|
Llandwrog |
1,547.44 |
Tywyn |
1,538.83 |
|
Llandygai |
1,509.57 |
|
Waunfawr |
1,504.73 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig
sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd
atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y
swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf,
fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y
rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o ardal
y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1 (gweler
Atodiad 1 i Atodiad 11 i Eitem 11 ar raglen y Cyngor), sef y symiau a geir
trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn
Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio
arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai
a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r
Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau
o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.
4. Nodi ar gyfer y flwyddyn
2021/22 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn
mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob
un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
203.70 |
237.65 |
271.60 |
305.55 |
373.45 |
441.35 |
509.25 |
611.10 |
712.95 |
5. Wedi pennu’r cyfanswm ym
mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r
Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 (gweler Atodiad 2 i Atodiad 11 i Eitem 11 ar raglen y Cyngor) ar
gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2021/22 ar gyfer pob categori o dai annedd a
ddangosir yn yr Atodiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
Ar
gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:
·
Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth
A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100%
ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992.
Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/03/2021
Effective from: 04/03/2021
Penderfyniad:
1. Derbyn yr wybodaeth.
2. Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu
gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/03/2021
Effective from: 02/03/2021
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/03/2021
Effective from: 02/03/2021
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/03/2021
Effective from: 02/03/2021
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
Caniatáu y cais
Amodau:
Nodyn
– Dŵr Cymru
CANLYNIAD Y BLEIDLAIS
O
blaid |
13 |
Yn
erbyn |
0 |
Atal |
0 |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid
isod i Amod 2 a 3 ar ganiatâd cynllunio C99M/0105/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli
o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais:
Daw'r gwaith o echdynnu
gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2058. Erbyn y dyddiad
hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu
wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y
dyddiad hwnnw. Bydd gwaith adfer y safle
wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2060.
Oni bai bod angen
hynny gan amod cynllunio neu gytundeb ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio
lleol, bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol â manylion Lluniadau'r cais
yn unig, Cyfeirnod ’19-404-D-002, 19-404-D-002’ a gwybodaeth ategol sydd wedi'i
chofrestru â'r awdurdod ar 27 Tachwedd 2020, Strategaeth Adfer ac Ôl-ofal a
gofrestrwyd ar 29 Rhagfyr 2020, a'r Datganiad Achos Cynllunio a gofrestrwyd ar
21 Ionawr 2021 ac unrhyw fanylion eraill o'r fath a gaiff eu cymeradwyo'n
ysgrifenedig wedi hynny gan yr awdurdod cynllunio mwynau.
Bydd y datblygiad
yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol
C99M/0105/03/MW i reoli sŵn, llwch a gwarchod yr amgylchedd dŵr. Fodd
bynnag, diweddarwyd yr atodlen amodau gyda chytundeb yr ymgeisydd, fel a ganlyn
yn unol â'r
cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynwyd
Nodyn i'r ymgeisydd yn ei
gynghori y dylai'r llwybrau cyhoeddus barhau yn agored ac i gysylltu â Hawliau
Tramwy Gwynedd pe cyfyd unrhyw broblemau.
Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth
Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu
â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol
penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.
CANLYNIAD Y BLEIDLAIS
O
blaid |
12 |
Yn
erbyn |
0 |
Atal |
1 |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
Nodiadau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
Gohirio er mwyn
ail-ymgynghori ac ail-asesu cynlluniau diwygiedig
CANLYNIAD Y BLEIDLAIS
O
blaid |
13 |
Yn
erbyn |
0 |
Atal |
0 |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
Caniatáu
Amodau:
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/02/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/02/2021
Effective from: 25/02/2021
Penderfyniad:
Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/02/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/02/2021
Effective from: 25/02/2021
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/02/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/02/2021
Effective from: 25/02/2021
Penderfyniad:
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/02/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/02/2021
Effective from: 23/02/2021
Penderfyniad:
Caniatáu i Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r drwydded a diwygio Atodiad 3 o’r drwydded honno
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/02/2021 - Pwyllgor Safonau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/02/2021
Effective from: 22/02/2021
Penderfyniad:
Cyflwyno’r sylwadau a ganlyn mewn ymateb i’r
ymgynghoriad, a dirprwyo hawl i’r Swyddog
Monitro goladu a chyfleu yr ymateb ar ran y Cyngor:-
·
Bod y pwyllgor yn croesawu’r
ddogfen yn gyffredinol, ac o’r farn ei bod yn ddarllenadwy ac yn hynod
ddefnyddiol o ran esbonio’r cod. Credir
hefyd bod y defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd
dda o amlygu rhannau o’r ddogfen a’i gwneud yn berthnasol i bobl.
·
Byddai’n fuddiol petai’r enghreifftiau o
dorri’r Cod Ymddygiad a restrir yn y ddogfen hefyd yn nodi beth oedd canlyniad
hynny, er mwyn rhoi darlun mwy eglur.
·
Byddai’r fuddiol petai’r ddogfen yn cynnwys
esiamplau o sut mae’r prawf budd cyhoeddus wedi weithio’n ymarferol, h.y. pa
fathau o gwynion sydd wedi croesi’r rhiniog, a pha fathau o gwynion sydd wedi
methu.
·
Y dylai’r ddogfen fod yn niwtral o ran rhyw.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/02/2021 - Pwyllgor Safonau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/02/2021
Effective from: 22/02/2021
Penderfyniad:
(a) Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad
y pwyllgor o’i berfformiad yn 2019/20, gan nodi bod amgylchiadau y tu allan i
reolaeth y Pwyllgor Safonau wedi golygu na fu’n bosib’ gweithredu sawl cam y
tro hwn:-
(b) Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2021/22:-
Mehefin, 2021
Adroddiad Blynyddol
Honiadau yn erbyn Aelodau
Llyfr Achosion yr Ombwdsmon
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Hyfforddiant yn gyffredinol
Tachwedd, 2021
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch
Cofrestr Datgan Buddiant
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon
Honiadau yn erbyn Aelodau
Gwrthdrawiadau Buddiannau a phartneriaid y tu allan
i Lywodraeth Leol
Paratoi ar gyfer Etholiad Mai 2022 o safbwynt y Cod
Ymddygiad
Chwefror, 2022
Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu
Honiadau yn erbyn Aelodau