Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Hywel a John Pughe Roberts

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Elwyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0959/15/AC) a 5.2 (C23/0463/18/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Peter Thomas (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem  5.7 (C21/08912/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

6.

Cais Rhif C23/0959/15/AC Tir Stâd Glyn Rhonwy, Llanberis, Gwynedd, LL55 4EL pdf eicon PDF 282 KB

Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C21/0934/15/AC ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol

Aelodau Lleol: Cynghorwyr Kim Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn Jones, Sasha Williams, Iwan Huws a Berwyn Parry Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.            5 mlynedd

2.            Cwblhau'r datblygiad yn unol gyda’r amodau sy’n ynghlwm i ganiatâd C16/0886/15/LL ac unrhyw fanylion a gytunir trwy’r ceisiadau rhyddhau amod.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C21/0934/15/AC ar gyfer gosod llinell gyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys diweddariad i'r hanes cynllunio perthnasol.

 

Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu bod cais i ddiwygio’r amod yn ymwneud a chyfnod cychwyn y datblygiad wedi ei ganiatáu ym mis Ionawr, 2022 o dan gyfeirnod C21/0934/15/AC er mwyn rhoi dwy flynedd ychwanegol, hynny yw, hyd at 10/1/2024.

 

Eglurwyd bod egwyddor y datblygiad o osod llinell danddaearol er mwyn cysylltu gorsaf gynhyrchu storio bwmp Glyn Rhonwy ac is-orsaf Pentir eisoes wedi ei sefydlu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd cynllunio C16/0886/15/LL gyda’r cais gerbron yn golygu ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad o 2 flynedd ychwanegol drwy ddiwygio amod 1 o gais C21/0934/15/AC. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau i’r cynllun a bod y broses o ryddhau amodau sy’n gysylltiedig gyda’r caniatâd cynllunio gwreiddiol yn parhau. Er hynny, amlygwyd pwysigrwydd ystyried os yw amgylchiadau neu sefyllfa polisi cynllunio lleol a chenedlaethol wedi newid ers caniatáu’r cais yn wreiddiol. Dim ond os oes tystiolaeth o newid sylweddol mewn sefyllfa y gellid ystyried y bwriad yn wahanol yng nghyd-destun y polisïau perthnasol lleol sy’n ymwneud a derbynioldeb egwyddor y cais diweddaraf hwn - Polisi ISA 1 ‘Darpariaeth Isadeiledd’ a PS 7 ‘Technoleg Adnewyddadwy’. Datgan polisi ISA 1 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Adroddwyd bod llwybr y llinell arfaethedig yn rhedeg drwy Ardal Tirwedd Arbennig ‘Ymylon Gogledd-orllewin Eryri’, Tirwedd Hanesyddol Eithriadol ‘Dinorwig’ ac yn ymylu Ardal Treftadaeth y Byd ‘Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru’; y bwriad o osod y llinell dan ddaear yn cyd-fynd ac arweiniad polisi PS 7.

 

Ategwyd bod yr egwyddor o greu gorsaf gynhyrchu storfa bwmp yn chwarel Glyn Rhonwy wedi ei dderbyn a’i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol Orchymyn, yn rhoi Caniatâd Datblygiad (Development Consent Order) yn 2017. Rhoddwyd caniatâd am ddiwygiad ansylweddol i'r Gorchymyn i roi Caniatâd Datblygiad er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu gan Weinidogion Cymru. Er yn arferol y gellid ystyried y byddai’r gwaith o greu cyswllt grid yn ddatblygiad cysylltiol, yma yng Nghymru ni ellir ei ganiatáu fel rhan o'r broses ac felly rhaid cyflwyno cais ffurfiol ar wahân am ganiatâd trwy'r Ddeddf Cynllunio. Ystyriwyd fod yr egwyddor yn dderbyniol a bod yr elfen yma yn gam angenrheidiol dilynol i'r caniatâd cynllunio sydd eisoes wedi ei wneud trwy sicrhau cyswllt rhwng safle cynhyrchu’r trydan a'r safle sydd yn ei ddosbarthu.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl derbyniwyd y byddai’r gwaith o'r math yma, yn arbennig o ystyried y byddai’n cael ei gynnal ar ochrau ffyrdd cyhoeddus prysur, yn debygol o greu effaith ar fwynderau lleol ac ar fwynderau trigolion sy’n byw yn agos i'r llwybr a’r rhai sy’n cael eu heffeithio yn unionyrchol os bydd yn croesi rhan o diroedd preifat. Bydd hefyd yn debygol o effeithio yn achlysurol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C23/0463/18/LL Plas Coch, Penisarwaun, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3PW pdf eicon PDF 210 KB

Cais ôl weithredol i drosi adeilad allanol i lety gwyliau

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd

-       angen trafod mesurau lliniaru’r i leihau effaith y datblygiad ar fwynderau preswyl o safbwynt aflonyddwch a phreifatrwydd

 

Cofnod:

Cais ôl weithredol i drosi adeilad allanol i lety gwyliau.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle bore 05-02-2024

 

a)         Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais llawn ôl weithredol i drosi adeilad allanol i lety gwyliau oedd dan sylw. Gan fod y bwriad wedi cael ei gwblhau eisoes heb ganiatâd cynllunio cais ôl weithredol oedd wedi ei gyflwyno. Eglurwyd bod yr uned wedi bod yn adeilad allanol a oedd yn cael ei ddefnyddio fel defnydd atodol i eiddo Plas Coch; bellach mae’r adeilad allanol wedi cael ei adnewyddu a’i drosi i un uned gwyliau modern. Gohiriwyd penderfyniad ar y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 15-01-24 fel bod modd i’r Aelodau ymweld â’r safle.

 

Amlygwyd bod egwyddor y bwriad yn cael ei asesu yn erbyn polisi TWR 2 “Llety gwyliau o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gyda’r  polisi yn caniatáu cynigion sydd yn ymwneud a darparu llety gwyliau hunan wasanaeth cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio a chyfres o feini prawf.

 

Wrth ystyried y meini prawf, nodwyd bod yr adeilad yn bodoli yn barod ac nad oedd yn adeilad newydd - wedi ei leoli o fewn cwrtil yr eiddo presennol ac yn gwneud defnydd da o adeilad oedd wedi ei ddefnyddio yn atodol i’r eiddo preswyl. Ystyriwyd bod y raddfa yn briodol gan nad yw’n creu llety gwyliau rhy fawr ac oherwydd bod yr uned yn cael ei ddefnyddio fel adeilad allanol eisoes, nid yw’n arwain at golled yn y stoc tai parhaol. Ategwyd bod yr uned wedi ei leoli mewn man gwledig ger tai unigol sydd wedi eu gwasgaru, ac yn ei sgil ni fyddai yn peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl yr ardal gan ei fod yn lleoliad tai preswyl gwasgaredig.

 

Amlygwyd y dylai unrhyw gais i drosi adeilad presennol gynnwys arolwg strwythurol llawn gan berson cymwysedig sydd yn nodi bod yr adeilad yn strwythurol addas i gael ei drosi heb gynnal gwaith ailadeiladu, addasu ac estyniadau sylweddol. Nodwyd nad oedd adroddiad strwythurol wedi ei gynnwys gyda’r cais gan fod yr eiddo wedi cael ei drosi yn barod - nid oedd gwerth i adroddiad strwythurol gan fod y newidiadau eisoes wedi eu cwblhau ar y safle.

 

Cyfeiriwyd at baragraff 3.2.1 NCT 23: Datblygiad Economaidd, sydd yn nodi bod ailddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig sy’n bodoli eisoes gyda rôl bwysig i’w chwarae mewn diwallu anghenion ardaloedd gwledig ar gyfer datblygiadau masnachol a diwydiannol, twristiaeth, chwaraeon a hamdden. Pwysleisir ar yr angen i’r adeilad dan sylw fod yn addas ar gyfer y defnydd.

 

Wrth ystyried gormodedd ac ymateb i’r maen prawf – “Nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal.”, amlygwyd bod angen sicrhau bod Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol o ran y weledigaeth ar gyfer y bwriad ac er mwyn sicrhau bod marchnad ar gyfer y math yma o ddefnydd (paragraff 6.3.67 o’r CDLl). Nodwyd bod Cynllun Busnes wedi’i gyflwyno gyda’r cais cynllunio yn tanlinellu’r bwriad a sut mae’r datblygiad yn ychwanegu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0574/26/AC Hen Gapel, Caeathro, Gwynedd, LL55 2ST pdf eicon PDF 199 KB

Cais i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C18/0993/26/LL (sy'n ymestyn caniatâd C09A/0412/26/LL ar gyfer codi 12 tŷ annedd a gwaith cysylltiedig) er ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau gwaith am bum mlynedd arall.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Menna Trenholme

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynllunio ganiatáu’r cais

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau.

3.         Llechi ar y to.

4.         Amodau priffyrdd – mynedfa, ffordd stad, lle troi, cyrbiau, troedffordd, uchder wal/gwrych/ffens

5.         Manylion ffensio ac arallgyfeirio gorlif

6.         Cynllun system rheoli dŵr wyneb

7.         Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol – i gynnwys cynllun goleuo a gwelliannau bioamrywiaeth

8.         Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu.

9.         Dylai'r ymgeisydd mabwysiadu a chydymffurfio a chynllun rhif TR-01-V1 yn y ddogfen Adroddiad Rhagarweiniol Cyfyngiadau Coed (03.06.13) a gyflwynwyd gyda chais rhif CO9A/0412/26/LL, gan hefyd apwyntio arbenigwr coed a sicrhau fod y rhwystrau yn cael eu codi.

10.       Rhaid i'r holl waith ar y coed cael ei gario allan yn unol â Safonau Prydeinig 5837:2012 .

11.       Tirlunio.

12.       Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar gyfer y tai fforddiadwy.

13.       Cytuno gorffeniad allanol.

14.       Rhaid i ffenestr talcen deheuol annedd Rain 5 ar gynllun rhif BP/CB/12 a gyflwynwyd fel rhan o gais rhif C09A/0412/26/LL fod o wydr afloyw ac yn gaeedig yn barhaol.

15.       Rhaid defnyddio enwau Cymraeg ar y datblygiad a ganiateir drwy hyn i gynnwys enw'r tai a'r strydoedd.

16.       Rhaid defnyddio’r tai a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.

17.      Amod cytuno Cynllun Tai Fforddiadwy

18.      Amod Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Cais i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C18/0993/26/LL (sy'n ymestyn caniatâd   C09A/0412/26/LL ar gyfer codi 12 tŷ annedd a gwaith cysylltiedig) er ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau gwaith am bum mlynedd arall.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau ynglŷn â threfniant Tai Fforddiadwy, defnydd preswyl, materion Bioamrywiaeth a sylwadau pellach gan yr Uned Iaith oedd yn ymateb i’r datganiad ieithyddol diwygiedig.

 

a)         Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio C18/0993/26/LL er mwyn ymestyn oes y caniatâd cynllunio am 5 mlynedd arall. Lleoli'r safle ar lecyn o dir o fewn ffin ddatblygu Pentref Lleol Caeathro fel y’i diffinnir yn y CDLl ac ategwyd nad oedd unrhyw newidiadau i’r cynllun gwreiddiol.

 

Eglurwyd bod datblygiad o’r safle wedi cael ei rwystro yn y gorffennol oherwydd pryderon Dŵr Cymru ynghylch gallu’r system garthffosiaeth i ddygymod a’r dŵr aflan a ddaw o’r safle. Erbyn hyn, mae’r pryderon wedi eu datrys. Amlygwyd bod y bwriad yn cynnwys pum math o dŷ sy’n amrywio o dai par dwy lofft i dai sengl pedair llofft, ac yn cyfarfod gyda’r angen cydnabyddedig am dai o fewn yr ardal leol; bydd pedwar o’r 12 annedd yn rhai fforddiadwy (Cytundeb 106 eisoes mewn lle i reoli meddiannaeth rhain).

 

Nodwyd pwysigrwydd ystyried os yw amgylchiadau neu’r sefyllfa polisi cynllunio lleol a chenedlaethol wedi newid ers caniatáu’r cais  gwreiddiol. Dim ond os oes tystiolaeth o newid sylweddol mewn sefyllfa y gellid ystyried y bwriad yn wahanol yng nghyd-destun polisïau perthnasol.

 

Aseswyd cais C09A/0412/26/LL (y caniatâd gwreiddiol) yn erbyn y polisïau a gynhwysir yn y Cynllun Datblygu Unedol, sef y Cynllun Datblygu mewn grym ar yr adeg hynny ac yn ddiweddarach aseswyd cais C18/0993/26/LL oedd yn ymestyn y caniatâd gwreiddiol yn erbyn y polisïau o fewn y CDLl. Gan fod y CDLl yn parhau i fod mewn grym, nid oedd newid yn y sefyllfa polisi cynllunio lleol ers yr adeg aseswyd y cais blaenorol.

 

Eglurwyd bod safle’r cais yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Caeathro fel y’i cynhwysir yn y CDLl a’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi PCYFF 1 sy’n anelu at leoli datblygiadau newydd oddi fewn i’r ffiniau datblygu. Mynegwyd mai Polisïau TAI 4 a TAI 15 oedd y polisïau perthnasol o safbwynt datblygu tai o fewn ffiniau Pentref Lleol fel Caeathro gyda rhain yn caniatáu tai marchnad agored gyda chanran o dai fforddiadwy cyn belled fod maint, graddfa, math a dyluniad y datblygiad yn gytbwys gyda chymeriad yr anheddle.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle mewn man gweddol amlwg yng nghanol y pentref gerllaw ffordd brysur. Byddai’r rhan fwyaf o’r tai yn amlwg o fannau cyhoeddus gerllaw, ond ni fyddent yn amlwg o bell gan y byddent i’w gweld yng nghyd–destun datblygiadau tai presennol o fewn y pentref. Nid yw dyluniad, edrychiadau, deunyddiau, cynllun na ffurf y tai wedi newid ers caniatáu cais blaenorol yn 2014. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C23/0844/16/AM Parth 7 Parc Bryn Cegin, Llandygai, Gwynedd pdf eicon PDF 186 KB

Datblygu 4 uned fasnachol (amrywiol o ran maint) yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr gyda maes parcio.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl

2.         Deunyddiau i gyd i’w cytuno

3.         Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

4.         Cynllun tirlunio

5.         Amod Dŵr Cymru

6.         Amodau Priffyrdd

7.         Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

8.         Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.         Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

10.       Enw Cymraeg i’r datblygiad a sicrhau arwyddion Cymraeg o fewn y safle.

 

            Nodiadau

1.         Dŵr Cymru

2.         Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Datblygu 4 uned fasnachol (amrywiol o ran maint) yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr gyda maes parcio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu bod Datganiad Iaith Gymraeg bellach wedi ei gyflwyno ynghyd a chynlluniau ychwanegol yn dangos trefniant safle ac edrychiadau dangosol ar gyfer adeilad newydd ar Lain 3 o’r safle  - y cynlluniau yn gyson gyda graddfa, dyluniad a naws ddiwydiannol cyffredinol y lleoliad.

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu pedwar adeilad masnachol o amrywiol feintiau  ar un o'r lleiniau gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai.

 

Gyda’r cais yn un amlinellol atgoffwyd yr aelodau mai manylion ynghylch mynediad i’r safle a’r trefniant mewnol sydd wedi eu cyflwyno – bydd rhaid cytuno ar y materion a gadwyd yn ôl cyn y gellid gweithredu’r caniatâd cynllunio Edrychiad, Tirweddu a Graddfa. Ategwyd bod bwriad cael caniatâd hyblyg ar gyfer defnyddiau o fewn Dosbarthiadau Defnydd B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol cyffredinol) neu B8 (Gwasanaethau Storio neu Ddosbarthu – y cais yn un o dri cais cyfredol am ddatblygiadau ar y safle:

·         C23/0844/16/AM - Cais amlinellol i ddatblygu 4 uned fasnachol (amrywiol o ran maint) yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr gyda maes parcio (y cais yma).

·         C23/0849/16/LL – Cais llawn i godi unedau diwydiannol newydd (ar ran deheuol safle’r cais hwn) – eitem 5.5

·         C23/0850/16/LL -  Cais llawn i godi unedau diwydiannol newydd (ar ran gogledd ddwyreiniol safle’r cais hwn – eitem 5.6

 

Eglurwyd bod y safle wedi’i leoli ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin, oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel y’i diffinnir yn y CDLl ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen. Cyfeiriwyd at  Polisi PCYFF 1 y CDLl sy’n annog gwrthod datblygiadau y tu allan i ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill. Yn yr achos hwn, wrth ystyried ei ddynodiad fel Safle Busnes yn y CDLl, mae cyfiawnhad priodol dros ganiatáu'r datblygiad yma.

 

Yng nghyd-destun Datblygu Economaidd, gwarchodir Parc Bryn Cegin fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8 gan bolisi CYF 1 y CDLl ac felly mae'r cynnig yn gyson gyda'r polisi hwnnw. Yn ystod y broses ymgynghori cadarnhaodd yr Adran Economi a Chymuned bod prinder unedau o’r fath yn yr ardal ac y byddai’r datblygiad yn cwrdd gyda galw cydnabyddedig. Ategwyd bod Polisi Strategol PS 13 y CDLl yn anelu at hwyluso twf economaidd trwy gefnogi sawl agwedd o'r economi lleol gan gynnwys cefnogi ffyniant economaidd trwy hwyluso twf ar raddfa briodol. Amlygwyd bod hwn yn gynllun i alluogi cyflogwyr i sefydlu busnes yn lleol mewn safle sydd o bwys strategol. Ystyriwyd bod y cynnig ar gyfer defnyddiau addas ar raddfa briodol ar gyfer y lleoliad o fewn safle diwydiannol o'r fath ac felly yn cwrdd gyda gofynion polisi PS 13 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun mynediad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C23/0849/16/LL Parth 7 Parc Bryn Cegin, Llandygai, Gwynedd pdf eicon PDF 183 KB

Codi unedau diwydiannol newydd

Aelod Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser cychwyn

2.         Rhaid datblygu’n unol a’r cynlluniau

3.         Deunyddiau i gyd i’w cytuno

4.         Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

5.         Cynllun tirlunio

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

9.         Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

10.       Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

           

Nodiadau

1.         Dŵr Cymru

2.         Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Codi unedau diwydiannol newydd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu bod Datganiad Iaith Gymraeg bellach wedi ei gyflwynohyn yn mynd tu hwnt i’r gofyn statudol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad newydd i gynnwys pedair uned fusnes ar un o'r lleiniau gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai gyda bwriad datblygu’r safle at ddefnyddiau o fewn dosbarth defnydd B2 (Diwydiannol cyffredinol) sydd yn unol â’r caniatâd ar gyfer y stad yn ei gyfanrwydd.

 

Bydd mynediad i'r safle yn cael ei ddarparu trwy'r fynedfa gerbydol bresennol sy'n darparu mynediad o'r ffordd fewnol sy'n gwasanaethu safle ehangach Parc Bryn Cegin a bwriedir darparu lleiniau caled ar gyfer parcio a throi o flaen pob uned.  

 

Eglurwyd bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y'i diffinnir gan y CDLl ond mae’n rhan o safle sydd wedi ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol. Ategwyd bod Polisi PCYFF 1 y CDLl yn annog gwrthod datblygiadau y tu allan i ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill. Yn yr achos hwn, wrth ystyried ei ddynodiad fel Safle Busnes yn y CDLl, mae cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad o'r fath yn y lleoliad hwn.

 

Nodwyd, yng nghyd-destun mynediad y byddai’r datblygiad yn defnyddio rhwydwaith ffyrdd a ddyluniwyd ar gyfer y stad ddiwydiannol ac felly’r isadeiledd presennol wedi ei ddylunio i ymdopi gyda lefelau trafnidiaeth debyg i’r hyn a ragwelwyd. Byddai modd rheoli’r safle drwy amodau.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynhigir yn briodol ar gyfer y safle, yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir fel man cychwyn ar gyfer datblygiadau busnes a diwydiannol ar y safle. Wedi ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio materol ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais gan nodi mai braf oedd gweld datblygiad yn Parc Bryn Cegin wedi ugain mlynedd segur.

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.             Amser cychwyn

2.             Rhaid datblygu’n unol a’r cynlluniau

3.             Deunyddiau i gyd i’w cytuno

4.             Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

5.             Cynllun tirlunio

6.             Amod Dŵr Cymru

7.             Amodau Priffyrdd

8.             Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

9.             Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

10.           Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

   

Nodiadau:

1. Dŵr Cymru

2. Uned Draenio Tir

 

11.

Cais Rhif C23/0850/16/LL Parth 7 Parc Bryn Cegin, Llandygai, Gwynedd pdf eicon PDF 183 KB

Codi unedau diwydiannol newydd

Aelod Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser cychwyn

2.         Rhaid datblygu’n unol a’r cynlluniau

3.         Deunyddiau i gyd i’w cytuno

4.         Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

5.         Cynllun tirlunio

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

9.         Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

10.       Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul Gwyliau Banc.

           

            Nodiadau

1.    Dŵr Cymru

2.    Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Codi unedau diwydiannol newydd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu bod Datganiad Iaith Gymraeg bellach wedi ei gyflwyno - hyn yn mynd tu hwnt i’r gofyn statudol

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad newydd i gynnwys  pedair uned fusnes ar un o'r lleiniau gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai gyda bwriad datblygu’r safle at ddefnyddiau o fewn dosbarth defnydd B2 (Diwydiannol cyffredinol) sydd yn unol â’r caniatâd ar gyfer y stad yn ei gyfanrwydd.

 

Bydd mynediad i'r safle yn cael ei ddarparu trwy'r fynedfa gerbydol bresennol sy'n darparu mynediad o'r ffordd fewnol sy'n gwasanaethu safle ehangach Parc Bryn Cegin a bwriedir darparu lleiniau caled ar gyfer parcio a throi o flaen pob uned. 

 

Eglurwyd bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y'i diffinnir gan y CDLl ond yn rhan o safle sydd wedi ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol. Ategwyd bod Polisi PCYFF 1 y CDLl yn annog gwrthod datblygiadau y tu allan i ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill. Yn yr achos hwn, wrth ystyried ei ddynodiad fel Safle Busnes yn y CDLl, mae cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad o'r fath yn y lleoliad hwn.

 

Nodwyd, yng nghyd-destun mynediad y byddai’r datblygiad yn defnyddio rhwydwaith ffyrdd a ddyluniwyd ar gyfer y stad ddiwydiannol ac felly’r isadeiledd presennol wedi ei ddylunio i ymdopi gyda lefelau trafnidiaeth debyg i’r hyn a ragwelwyd. Byddai modd rheoli’r safle drwy amodau.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynhigir yn briodol ar gyfer y safle, yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir fel man cychwyn ar gyfer datblygiadau busnes a diwydiannol ar y safle. Wedi ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio materol ni ystyriwd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser cychwyn

2.         Rhaid datblygu’n unol a’r cynlluniau

3.         Deunyddiau i gyd i’w cytuno

4.         Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

5.         Cynllun tirlunio

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

9.         Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

10.       Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul Gwyliau Banc.

           

Nodiadau:

1.         Dŵr Cymru

2.         Uned Draenio Tir

 

 

12.

Cais Rhif C23/0891/22/LL CPD Talysarn Celts, Talysarn, LL54 6BY pdf eicon PDF 265 KB

Creu cae pêl-droed newydd a chodi sied storio.

Aelod Lleol: Cynghorydd Peter Thomas

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.                5 mlynedd.

2.                Unol a chynlluniau a dogfennau.

3.                Dim cistiau nac offer arall i'w cadw yn yr awyr agored.

4.                Dim goleuo ar safle heb gytundeb.

5.                Tirlunio 

6.                Cynnal tirlunio.

7.                Arwyddion Cymraeg / dwyieithog

8.                Darparu llecynnau parcio anabl

9.                Darparu’r llecynnau parcio ychwanegol cyn defnyddio’r cae newydd

10.              Amod gwaith ymchwil tir llygredig

11.              Yn unol gyda’r cynllun rheoli sŵn

12.              Amod gwaith ymchwil archaeoleg

 

Cofnod:

Creu cae pêl droed newydd a chodi sied storio.

 

a)         Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cae pêl droed newydd a chodi sied storio ychwanegol ger y cae pêl droed presennol. Byddai'r cae pêl droed o faint fymryn yn llai na chae maint llawn ac nid oes bwriad gosod llif oleuadau.

 

Cyflwynwyd cynllun safle diwygiedig, oedd yn amlygu llefydd parcio presennol ynghyd a sustem draeniau tir.

 

Lleolir y safle y tu allan i ffin datblygu Talysarn, ond ar gyrion y pentref tu mewn i Ardal Tirwedd Arbennig, Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig a Safle Bywyd Gwyllt a’r safle sy’n cael ei wasanaethu gan fynedfa a ffordd mynediad presennol i ffordd sirol dosbarth 3 a di-ddosbarth gerllaw.

 

Eglurwyd bod Polisi ISA 2 Cyfleusterau Cymunedol yn berthnasol i’r cais hwn ac yn anelu i warchod cyfleusterau cymunedol presennol gan annog datblygu cyfleusterau newydd lle bo hynny’n briodol. Er nad yw’r cais yn cynnig cyfleusterau newydd (o ran defnydd tir), byddai’n ehangu ac yn gwella’r cyfleusterau presennol yn sylweddol ac yn debygol o fod yn fendithiol i’r ysgol ynghyd a’r gymuned ehangach. Ategwyd bod y safle yn hawdd ei gyrraedd ar droed, beic a chludiant cyhoeddus ac fe ystyriwyd fod graddfa a math y cynnig yn briodol o gymharu â maint, cymeriad a swyddogaeth yr anheddle. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn cydymffurfio gyda pholisi ISA 2.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol, cyffredinol  a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ger cae pêl droed presennol gyda gweithgareddau cysylltiol yn bodoli ar y safle  eisoes. Er hynny, ystyriwyd bod defnydd presennol o’r safle’r cais yn achlysurol ac yn anffurfiol ac nid yw’n cynnwys gemau pêl droed llawn. Er bod y safle yn cefnu ar ardal breswyl, ni ystyriwd y byddai’r bwriad yn cael effaith gwahanol na’r hyn sy’n bodoli eisoes. Cysylltir y safle gyda sawl llwybr cerdded mwynderol sy’n cael ei defnyddio yn rheolaidd gan y cyhoedd ac ystyriwyd y byddai defnydd y safle yn ei gyfanrwydd yn dwysau o ganlyniad i ddatblygu’r safle.

 

Derbyniwyd sylwadau Gwarchod y Cyhoedd yn argymell i’r ymgeisydd gyflwyno Cynllun Rheoli Sŵn sy'n ymdrin â materion megis oriau a dyddiau defnydd, cyswllt cymunedol, gweithdrefnau cwyno a'r ymateb gofynnol/amserlenni ac atal defnydd anawdurdodedig. Yn ychwanegol, awgrymwyd bod amod i reoli’r oriau datblygu ac amod i reoli’r lefel sŵn sy’n deillio o’r safle pan yn weithredol yn cael eu cynnwys i sicrhau y bydd y bwriad yn gallu cwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 2.

 

Cydnabuwyd sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r bwriad, ond ni ystyriwyd y byddai’r bwriad, gydag amodau priodol, yn achosi aflonyddwch sylweddol niweidiol i fwynderau preswyl y tai cyfagos ac na fyddai yn newid defnydd o’r llwybrau cyfagos gan y cyhoedd.

 

Yng nghyd-destun materion Bioamrywiaeth, nodwyd bod newidiadau diweddar i Polisi Cynllunio Cymru (PCC) wedi cael eu hystyried ynghyd a’r sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth. Nid oedd unrhyw faterion newydd fyddai’n cael unrhyw ddylanwad o bwys ar y penderfyniad ac fe ystyriwyd y byddai cynnwys yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.