Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Dylan Bullard, Annwen Daniels, Anwen Davies, Dylan Fernley, Louise Hughes, Linda Ann Jones, Linda Morgan, W.Roy Owen a Gareth Thomas.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 345 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

·         28ain Mehefin, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

·         8fed Gorffennaf, 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod fel rhai cywir:-

 

·         28 Mehefin, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

·         8 Gorffennaf, 2021

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurodd y Swyddog Monitro:-

 

·         O safbwynt eitem 9 (Diwygiadau i Gytundeb Rhyng-awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru), nad oedd bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn yn creu buddiant.

·         Gan nad oedd eitem 12(c) (Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams) yn ymwneud â chodi lefel y premiwm treth cyngor, nad oedd angen i’r aelodau hynny oedd wedi datgan buddiant ar adeg gosod y premiwm ddatgan cysylltiad yn yr achos hwn.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen ar golli ei frawd yn ddiweddar.

·         Teulu Twm Bryn Jones, aelod ifanc o staff yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

·         Teulu Ann Rhydderch, cyn Brif Archifydd a Swyddog Treftadaeth y Cyngor.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorwyr John Brynmor Hughes a Selwyn Griffiths, oedd wedi derbyn triniaeth yn ddiweddar.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Gareth Griffith fu’n cymryd rhan ym Marathon Llundain yn ddiweddar i godi arian i’r elusen Plant efo Cancr UK.

·         Elfyn Evans ar ei fuddugoliaeth yn Rali’r Byd yn y Ffindir, a gwahoddwyd y Cynghorydd John Pughe Roberts ymlaen i ddweud gair.

·           Pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Amgen Cymru 2021, ac yn arbennig Lleucu Roberts, Rhostryfan, ar ennill 2 o'r prif wobrau, sef Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith.

·           Megan Angharad Hunter, Penygroes ar ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 Llenyddiaeth Cymru gyda’i nofel “Tu ôl i’r Awyr”.

 

Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd Diwrnod Golff Elusennol yr Uchel Siryf yng Nghlwb Golff Porthmadog yn ddiweddar.  Eglurwyd mai bwriad y digwyddiad oedd codi arian i elusennau'r Uchel Siryf eleni, sef Pact a Gwobr Dug Caeredin.  Nodwyd bod criw o bobl ifanc, oedd yn gweithio gyda Nia Rees o Ysgol Eifionydd ac yn aelodau o Wobr Dug Caeredin Ieuenctid Gwynedd, wedi bod yn hwyluso ar y diwrnod, fel rhan o’u gwaith ar gyfer y wobr.  Fel diolch am eu gwaith di-dor, cafodd y criw yma ddiwrnod o wers gyda golffiwr proffesiynol y clwb, Mark Pilkington.  Nodwyd hefyd bod gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd dîm a noddwyd gan Gadeirydd y Cyngor yn cystadlu ar y diwrnod.  Roedd y tîm yma, oedd yn cynnwys Tomos Dobson, Jamie Williams a Sïon Endaf Parry, yn un o 14 o dimau a gymerodd ran ar y diwrnod, gydag Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid (Dalgylch Botwnnog a Glan y Môr) yn cadw’r sgôr.  Roedd y Tîm yma wedi dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth, ac estynnwyd llongyfarchiadau mawr iddynt.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Mae llawer o aelodau’n teimlo eu bod wedi eu camarwain yn llwyr pan gawsom ein gorfodi i dderbyn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn 2017.  Ar y pryd dywedwyd wrthym fod y cynllun yn ddogfen fyw y gellid ei diweddaru ar unrhyw adeg.  Dywedir wrthym nawr na ellir diwygio’r cynllun am dair blynedd.  O ystyried yr argyfwng tai difrifol a’r prinder tai aruthrol sy’n ein hwynebu, pa gyfarwyddyd a roddir i swyddogion cynllunio i fod yn fwy hyblyg ac yn llai draconaidd wrth ddehongli canllawiau cynllunio er mwyn caniatáu mwy o ddatblygu?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wyf yn derbyn fod aelodau wedi eu camarwain yn 2017 pan fu iddynt fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol Ar y Cyd.  Roedd yr adroddiad cynhwysfawr yn gosod allan y trefniadau monitro blynyddol sydd wedi eu cynnal ers iddo gael ei fabwysiadu.  Mae’r cysyniad o fonitro ac adolygu parhaus wedi ei adeiladu i’r drefn Cynllun Lleol, trefniant nad oedd yn rhan o drefniadau cynlluniau datblygu blaenorol.

 

Mae adroddiadau monitro blynyddol wedi eu paratoi ers mabwysiadu’r Cynllun a’u hystyried yn erbyn y fframwaith fonitro.  Cyflwynwyd yr adroddiad monitro cyntaf i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, pwyllgor y mae’r Cynghorydd Mike Stevens yn aelod ohono, yn 2019, ac ar y pryd trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer pob aelod er cyfleu canfyddiadau’r adroddiad.  Yn 2020 llaciwyd y gofyn statudol i gyflwyno adroddiadau monitro blynyddol ffurfiol gan Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig.  Fodd bynnag bu i’r Cyngor barhau i baratoi adroddiad monitro blynyddol drafft, sydd ar wefan y Cyngor, ac eto trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer yr holl Aelodau.  Nid oedd y dystiolaeth o’r adroddiadau monitro blynyddol hynny yn cefnogi’r angen am adolygiad buan o’r cynllun.  Mae bellach yn bedair blynedd ers mabwysiadu’r Cynllun ac felly mae gofyn cyfreithiol i gynnal adolygiad llawn.  Bydd y dystiolaeth o bob adroddiad monitro blynyddol yn cael ei bwydo i mewn i’r broses yma.

 

Fel yr adroddwyd i’r Cyngor ym Mehefin 2021, mae camau sydd rhaid eu dilyn fel rhan o’r broses adolygu er cytuno ar newidiadau i’r Cynllun.

 

Boed yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio neu’n Swyddogion yn gwneud penderfyniadau dirprwyedig, mae’n rhaid i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, oni bai fod ystyriaethau cynllunio materol yn dangos fel arall.  Mae hyn yn ofyn cyfreithiol.

 

Mae’r syniad bod cyfarwyddyd yn cael ei roi i ymdrin â’r penderfyniadau yma mewn unrhyw ffordd arall yn gwahodd aelodau a swyddogion i weithredu mewn modd anghyfreithiol.  Rwyf hefyd yn ymwrthod â’r datganiad fod swyddogion yn anhyblyg neu’n ddraconaidd wrth roi cyngor.  Wrth wneud honiad o’r fath y tu allan i’r sianelau priodol, heb unrhyw gyfeiriad at dystiolaeth, mae’n tanseilio swyddogion mewn ffordd annheg a hefyd yn tanseilio hyder cyhoeddus yn y gyfundrefn gynllunio a rheolaeth datblygu.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Mae’r ffaith bod y Cynllun Datblygu Lleol yn methu pobl Gwynedd yn amlwg o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DATGANIAD CYNGOR GWYNEDD YNGHYLCH AMRYWIAETH pdf eicon PDF 510 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Datganiad Amrywiaeth isod, a gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddatblygu rhaglen waith i gefnogi’r datganiad:-

 

“Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.  Trwy hynny, rydym yn awyddus i fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan, yn y lle cyntaf, geisio cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrif ethnig sy’n sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd. 

 

Rydym yn ymrwymo i:-

·                Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

·                Ddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf

·                Hybu gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn etholiadau lleol 2022.

·                Weithio ar y safonau a nodir yn Siarter Cymru ar gyfer Cymorth a Datblygu i Aelodau.

·                Ddangos ymrwymiad i ddyletswydd gofal dros Gynghorwyr

·                Ystyried sut i ddarparu hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol

·                Barhau i annog fod yr holl aelodau yn derbyn y lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl eu derbyn, ac yn benodol unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau yn derbyn cydnabyddiaeth deg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelodau yn gyfyngedig i’r rhai all ei fforddio. 

Weithio tuag at sicrhau bod cynghorwyr o grwpiau a dangynrychiolir yn cael eu cynrychioli pryd bynnag fo’n bosibl mewn rolau proffil uchel a dylanwad uchel.”

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell:-

 

·         Bod y Cyngor yn mabwysiadu Datganiad Amrywiaeth er mwyn datgan yn gyhoeddus fod Cyngor Gwynedd yn hybu a hyrwyddo amrywiaeth mewn democratiaeth.

·         Gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth arwain ar ddatblygu rhaglen waith lawn ar gyfer gwireddu’r datganiad, gan gyflwyno’r rhaglen waith i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod nesaf ar 2 Rhagfyr, 2021.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Grŵp Annibynnol i ddweud gair, ac yna manylodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol ar y paratoadau ar gyfer cynnal Wythnos Democratiaeth yng Ngwynedd, yn cychwyn ar 18 Hydref.  Gofynnodd i bawb rannu’r negeseuon fydd yn cael eu trydar a’u rhannu dros yr wythnos, gan nodi fod bwriad i ail gynnal yr ymgyrch yn Ionawr, wedi cael cyfle i ddysgu gwersi o’r ymgyrch cyntaf.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd pryder bod rhywbeth mawr o’i le pan mae cymaint o aelodau yn cael eu hethol ar y Cyngor yn ddiwrthwynebiad, ac na ellid bod yn siŵr bod yr hyn oedd yn cael ei argymell yn mynd i newid y sefyllfa o ran denu pobl i sefyll etholiad.

·         Nodwyd bod y datganiad yn un clodwiw a chroesawyd yr ymgyrch i geisio cael mwy o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd i sefyll fel cynghorwyr.

·         Awgrymwyd y dylai’r datganiad gynnwys, nid yn unig merched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd pobl lliw a phobl â nodweddion eraill sy’n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth cydraddoldeb, megis rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.  Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol ei bod yn croesawu’r sylw, ac y byddai’n sicrhau bod y datganiad yn cael ei addasu i adlewyrchu’r pwynt pwysig yma.  Byddai hefyd yn sicrhau bod sylw penodol at hyn yn y rhaglen waith fydd yn cael ei datblygu i gefnogi’r datganiad.

·         Nodwyd bod rôl amlwg i’r pleidiau gwleidyddol ymestyn allan a chynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am waith cynghorwyr.

·         Mynegwyd rhwystredigaeth y gallai arafwch cyhoeddi penderfyniad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r ffiniau etholiadol fod wedi arafu’r broses o geisio denu amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad ym mis Mai 2022.

·         Awgrymwyd bod angen newid y diwylliant o fewn y Cyngor i’w wneud yn fwy deinamig, gan mai ychydig oedd i’w weld yn digwydd yng Ngwynedd o gymharu â rhai siroedd eraill, a chwestiynwyd tybed oedd hynny oherwydd agwedd uwch swyddogion tuag at rai cynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Amrywiaeth isod, a gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddatblygu rhaglen waith i gefnogi’r datganiad:-

 

“Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.  Trwy hynny, rydym yn awyddus i fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan, yn y lle cyntaf, geisio cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrif ethnig sy’n sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd. 

 

“Rydym yn ymrwymo i:-

·           Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

·           Ddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf

·           Hybu gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn etholiadau lleol 2022.

·           Weithio ar y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - DIWEDDARIAD CYFARFODYDD HYBRID pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn diweddaru’r Cyngor yn dilyn cymeradwyo trefniadau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ar 8 Gorffennaf, 2021 ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor er cyfarch gofynion newydd yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar gynnydd y gwaith yn y cefndir gan nodi, er bod yr amserlen wreiddiol wedi llithro ychydig, bod y gwaith o uwchraddio Siambr Dafydd Orwig a Siambr Hywel Dda ar gyfer cynnal cyfarfodydd hybrid i’r dyfodol bellach wedi’i gwblhau.  Nododd hefyd fod profion cychwynnol o’r dechnoleg yn argoeli’n dda, ond bod mân bethau angen sylw pellach.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd nifer o aelodau at fanteision ac anfanteision trefn gyfarfodydd hybrid.

 

O safbwynt y manteision, nodwyd y byddai’n:-

 

·         Lleihau costau ac amser teithio i gyfarfodydd.

·         Lleihau allyriadau carbon.

·         Hwyluso cyfranogiad pob mathau o wahanol bobl, megis pobl sy’n gweithio, pobl anabl, gofalwyr, ayb.

 

O safbwynt yr anfanteision, nodwyd:-

 

·         Bod aelodau yn gweld gwerth mewn cyd-gyfarfod wyneb yn wyneb, a’u bod yn colli’r ymgom a’r rhannu profiadau sy’n digwydd yn naturiol cyn ac ar ôl cyfarfod.

·         Bod trefn rithiol neu hybrid yn newid dynameg y cyfarfod, ac nad oes modd adnabod iaith y corff, ayb.

·         Bod ymuno â chyfarfod o bell yn gallu bod yn brofiad unig.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Cwestiynwyd yr angen i wario £130,000 ar ddatblygu’r system hybrid.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y swm yma ar gyfer uwchraddio 17 ystafell bwyllgor ar draws y sir, a bod angen sicrhau bod gennym system fodern a dibynadwy yn ei lle.  Nodwyd hefyd bod y mwyafrif o gynghorau eraill yn wynebu’r un lefel o gostau.

·         Holwyd, os yw bellach yn iawn i athrawon a phlant fynd i’r ysgolion, pam nad yw’n iawn i gynghorwyr fynd i’r Siambr i gyfarfod wyneb yn wyneb?  Mewn ymateb, eglurwyd bod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yn eithaf clir y dylem weithio o adref os yn bosib’, a hyd oni fyddai’r cyfarwyddyd hwnnw’n newid, ni fyddai’n bosib’ cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

·         Nodwyd bod Senedd Cymru a Senedd San Steffan yn cyfarfod yn hybrid eisoes, a phwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen â’r trefniadau yng Ngwynedd cyn gynted â phosib’.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn gynnar iawn yn ystod y cyfnod, gyda nifer fawr o swyddogion yn gweithio yn y cefndir.  O ran cynnydd y gwaith technegol, roedd Gwynedd tua’r canol ymysg cynghorau Cymru, ond gorau po gyntaf y gellid symud ymlaen â’r gwaith treialu, ayb, fel ein bod mewn sefyllfa i weithredu’n gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, petai cyfarwyddyd y Llywodraeth yn newid.

·         Gan dderbyn mai cyfarwyddyd presennol y Llywodraeth yw i bawb barhau i weithio o adref os yn bosib’, holwyd a ydym yn wir yn anelu at gael cyfarfod hybrid neu gyfarfod wyneb yn wyneb o’r Cyngor llawn ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf?  Mewn ymateb, nodwyd ein bod wedi llwyddo i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn effeithiol ers 18 mis, a chan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DIWYGIADAU I GYTUNDEB RHYNG-AWDURDOD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r diwygiadau i Gytundeb Rhyng-Awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad i’r Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo diwygiadau i Gytundeb Rhyng-Awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y bartneriaeth wedi gwasanaethu Cronfa Bensiwn Gwynedd yn dda iawn, ac y byddai’r newidiadau o gymorth i wella perfformiad a’r dull o ddarparu gwasanaeth Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·         Gan ein bod yn symud i mewn i’r farchnad breifat, bod angen apwyntio dyranwr marchnad breifat sydd â phrofiad a gwybodaeth eang o farchnadoedd preifat, a diau y byddai’r manteision posib’ i’r gronfa yn y tymor hir yn gorbwyso costau’r apwyntiad, fyddai’n cael ei ysgwyddo gan y bartneriaeth, ac nid Gwynedd.

·         Y byddai dewis cynrychiolydd aelodau’r cynllun o blith aelodau’r byrddau pensiwn a’i gynnwys ar y cydbwyllgor yn lledaenu’r broses o wneud penderfyniadau drwy sicrhau cynrychiolaeth o holl aelodau’r cynllun yn y trafodaethau.

·         Y byddai dewis cynrychiolydd aelodau’r cynllun o blith aelodau'r byrddau pensiwn a’i gynnwys ar y cydbwyllgor yn lledaenu’r broses o wneud penderfyniadau, drwy sicrhau cynrychiolaeth o holl aelodau’r cynllun yn y trafodaethau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r diwygiadau i Gytundeb Rhyng-Awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad i’r Cyngor.

 

10.

RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 pdf eicon PDF 182 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·                Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.

·                Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

·                Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw a’r gofynion cysylltiol.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ar y wybodaeth gefndirol.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod angen cywiro’r trydydd argymhelliad yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at ddirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r ‘Pwyllgor Trwyddedu Canolog’, i ddarllen ‘Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol’.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd yr adroddiad, a diolchwyd i’r Adran sydd wedi bod yn gweithio ar frys ar y mater polisi hwn.

·         Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cael hawl i reoleiddio’r maes yma, ac er mai sefydliadau lefel isel y sonnir amdanynt yma, a phrin iawn ydynt yn y sir, os o gwbl, rhaid sicrhau bod siopau rhyw yn parhau i fod yn llefydd modern, sy’n gyfeillgar i ferched ac i gyplau, ac nid i ddynion yn unig, fel yn yr oes a fu.

·         Nodwyd, er na ragwelid y byddai’r Cyngor yn derbyn cais i drwyddedu sinema oedolion yn yr oes ar-lein ddigidol sydd ohoni, bod y gallu i reoli'r math o gynnyrch allai gael ei ddangos mewn lle felly yn hollbwysig.

·         Nodwyd, er na ragwelid y byddai yna sefydliadau adloniant rhyw yn dod i Wynedd, ei bod yn allweddol bod gennym bwerau mewn grym er mwyn gallu gwarchod lles a diogelwch merched sy’n gweithio mewn llefydd fel hyn, gan eu bod ymhlith y mwyaf bregus mewn cymdeithas, ac yn aml yn ifanc iawn. 

·         Nodwyd, er bod y drafodaeth bresennol wedi’i sbarduno gan gais i agor siop ryw, roedd yn bwysig cofio bod yr un ddeddf sy’n berthnasol yma yn cynnwys mannau adloniant rhyw.  Gan hynny, roedd yn ofynnol ystyried goblygiadau pellgyrhaeddol y drafodaeth, rhag ofn i ni wynebu ceisiadau o’r math yn y dyfodol.

·         Nodwyd bod sefydliadau rhyw yn atgyfnerthu agweddau diwylliannol niweidiol o ferched, ac yn normaleiddio gwneud merched yn wrthrychau rhyw, a bod y cysylltiad rhwng gwneud merched yn wrthrychau rhyw, eu dad-ddyneiddio a thrais yn erbyn merched wedi ei gydnabod.  Roedd llawer o bryder hefyd am y modd mae merched sy’n gweithio yn y busnesau yma’n cael eu trin a’u hecsbloetio.  Cyfeiriwyd at waith ymchwil oedd yn dangos bod merched yn teimlo’n fwy diymgeledd a bregus mewn gofodau cyhoeddus pan mae yna ddelweddau rhywiol o ferched wedi’u harddangos yna, ynghyd â gwaith ymchwil arall oedd yn dangos bod yr achosion o aflonyddu’n rhywiol ac o drais yn erbyn merched yn cynyddu yng nghyffiniau’r busnesau yma.

·         Awgrymwyd petai’r Cyngor yn gwahardd y busnesau yma, y byddai hynny’n danfon neges glir i bobl Gwynedd, neges a fyddai’n gallu lleihau agweddau niweidiol bechgyn tuag at ferched, a byddai’r polisi hyn yn gyson ag ymdrechion y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gyson gyda’r neges sy’n cael ei chyfleu yn ein hysgolion, sef y dylai bechgyn barchu merched.

·         Nodwyd bod mwyafrif y merched sy’n gweithio yn y busnesau yma yn gwneud hynny oherwydd tlodi, diffyg gofal ac anghenion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADOLYGIAD O FFINIAU ETHOLIADOL GWYNEDD pdf eicon PDF 261 KB

Adroddiad i ddilyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar benderfyniad Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â Sir Gwynedd. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd, er i’r Cyngor wneud popeth y gallai i sicrhau bod dyheadau’r aelodau yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, bod y Llywodraeth wedi anwybyddu’r sylwadau hynny.

·         Nodwyd nad oedd cyfeiriad penodol yn yr adroddiad at rai o wardiau Dwyfor sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yma, a mynegwyd pryder bod 3 allan o’r 6 sedd sy’n cael ei cholli yn Nwyfor.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr adroddiad gerbron y Cyngor yn gryno iawn, ac yn wybodaeth ddaeth i law yn hwyr iawn yn y dydd, ond bod yr wybodaeth gyflawn ynghlwm iddo, ac ar gael ar y fewnrwyd aelodau hefyd.  Nodwyd bod y swyddogion yn rhannu rhwystredigaeth yr aelodau bod y penderfyniad swyddogol wedi dod mor hwyr yn y dydd, yn enwedig gan fod yr adolygiad wedi’i gynnal ers bron i 3 blynedd, ond bod croeso i unrhyw un gysylltu gyda’r Prif Weithredwr neu’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith i drafod unrhyw ran ohono yn benodol.

·         Mynegwyd rhwystredigaeth fod Ward Bethel yn ymuno â ward arall.  Pwysleisiwyd bod wardiau aml-aelod yn gam yn ôl i ddemocratiaeth ac atebolrwydd a chwestiynwyd y newid, gan fod y drefn bresennol yn gweithio’n iawn, gyda’r etholwyr yn gwybod â phwy i gysylltu.  Nodwyd ymhellach y gobeithid y byddai’r Cyngor yn gallu gwrthod yr adroddiad.  Mewn ymateb, nodwyd y cydymdeimlid â’r sylwadau ac y deellid y rhwystredigaeth ynglŷn â chynnwys y ddogfen, ond bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r aelodau er gwybodaeth yn unig, ac y dylid cyfeirio’r cwestiwn at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

·         Mynegwyd siom aruthrol bod Bangor yn colli 3 sedd a 3 ward ar y Cyngor, a phwysleisiwyd yr angen i gadw, neu hyd yn oed gynyddu, y nifer presennol o gynghorwyr er mwyn cynnal democratiaeth y ddinas.  Fel dinas prifysgol, gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn cofrestru i bleidleisio, roedd demograffi Bangor yn wahanol iawn i rai ardaloedd eraill o’r sir, ac roedd y wardiau newydd a gynigid ar gyfer Bangor yn anferth o ystyried y boblogaeth leol a’r boblogaeth myfyrwyr sy’n byw ynddynt.

·         Nodwyd, fel ardal dwristiaeth gyda nifer uchel o dai haf, bod demograffi rhannau o Ben Llyn hefyd yn wahanol iawn i rannau eraill o’r sir, gan mai ychydig iawn o berchnogion ail gartrefi oedd yn cofrestru i bleidleisio. 

·         Nodwyd y byddai’r pwysau gwaith ar y 69 aelod fydd yn ceisio cyflawni gwaith y 75 aelod presennol yn aruthrol.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai yna ofyn, annheg o bosib’, i bawb wneud mwy o waith, a bod hynny’n ofyn na ystyriwyd yn llawn gan y Comisiwn Ffiniau na’r Gweinidog wrth ddod i’w penderfyniad.

·         Awgrymwyd y gallai’r Llywodraeth fod wedi achub ar y cyfle hwn i gyflwyno Cynrychiolaeth Gyfrannol.  Byddai wedyn yn gwneud synnwyr i gael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

12a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

1.         Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 

2.             Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 

2.             Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Cofnod:

(A)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gif

1.         Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen.

2.       Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan olrhain rhywfaint o hanes ein nawddsant a’i arwyddocâd i ni’r Cymry, gan hefyd bwysleisio mai diben y cynnig oedd ceisio adfer rhywfaint o hunan-barch o ran ein arwahanrwydd a’n hunaniaeth fel cenedl. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol:-

 

·         Ei bod yn llwyr gytuno â’r egwyddor, ac yn cefnogi’r alwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc yng Nghymru.

·         O ran rhan gyntaf y cynnig, pe byddai’r Cyngor yn darparu diwrnod ychwanegol o wyliau i staff, roedd yn bwysig nodi nad oedd modd i’r Cyngor ddarparu’r diwrnod hwnnw i rai staff, ac nid i staff eraill sy’n gweithio o dan yr un amodau a thelerau gwaith.  Byddai’n rhaid darparu’r diwrnod ychwanegol i’r staff hynny fyddai wrth eu gwaith ar Ddydd Gŵyl Dewi er mwyn ei gymryd ar ddiwrnod arall yn ystod y flwyddyn, a byddai cost ynghlwm â hynny os mai’r dymuniad oedd darparu diwrnod ychwanegol i’r pwrpas yma.  Os mai’r dymuniad oedd defnyddio un o’r 1.5 diwrnod o wyliau ychwanegol a ddarperir gan y Cyngor yn bresennol i’r perwyl hwn, byddai angen ymgynghoriad ffurfiol gyda’r undebau llafur cydnabyddedig, gyda golwg ar sicrhau cytundeb torfol cyn gallu gweithredu.

·         O ran ail ran y cynnig, roedd yn llawn gefnogi’r alwad, gan ei bod yn warthus ac yn embaras bod yr hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban ac i Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i Lywodraeth Cymru, ac roedd yn barod i sicrhau bod llythyr yn cael ei gyflwyno yn ffurfiol i Lywodraeth San Steffan.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Ei bod yn sarhad arnom ers canrifoedd nad oes gennym fel gwlad yr hawl i ddathlu gŵyl ein nawddsant.  Y ddadl o hyd yw’r gost, ond mae gŵyl banc yn hwb anhygoel i economi cefn gwlad, a dylai dathlu Dydd Gŵyl Dewi fod yn rhan o raglen adfer economaidd ôl-Covid y Cyngor.

·         Bod angen gwneud yn glir y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl i’r holl genedl, ac nid i’r gweithlu’n unig.

·         Y dylai’r Llywodraeth a phob cyngor arall yng Nghymru frwydro am hyn.

·         Bod hyn yn syniad ardderchog, ond gan fod staff y Cyngor yn mwynhau telerau gwaith llawer gwell na gweithwyr yn y sector breifat, dylai’r diwrnod ychwanegol o wyliau gael ei dynnu allan o’u  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12a

13.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Catrin Wager

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:-

 

1.         Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan.

2.         Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:-

·         Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a

·         Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.

3.         Bod y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i wneud y weithred o geisio lloches yn drosedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan.

2.         Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:-

·         Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a

·         Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.

3.             Bod y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i wneud y weithred o geisio lloches yn drosedd.

4.         Bod y Cyngor hwn yn nodi diolch i drigolion Gwynedd am eu haelioni aruthrol, a’u parodrwydd i gefnogi ffoaduriaid dros y blynyddoedd, ac i fudiadau gwirfoddol y sir, megis Pobl i Bobl, Croeso Menai a Cefn am eu gwaith arbennig yn y maes hwn.

 

Cofnod:

(B)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

1.             Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan.

2.         Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:-

·               Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a

·               Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.

3.            Bod y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i wneud y weithred o geisio lloches yn drosedd.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

 

·         Ei bod yn hynod falch bod y Cyngor hwn wedi bod mor barod i gamu i mewn i gynnig cartref i ffoaduriaid o Affganistan, a dyna’r peth cywir i wneud, yn egwyddorol ac yn foesol.

·         Ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn cydnabod haelioni pobl y sir, sydd wedi cyfrannu nwyddau ac arian sylweddol drwy fudiadau gwirfoddol y sir i’r ffoaduriaid.

·         Nad oedd Llywodraeth San Steffan yn gweld y sefyllfa yn yr un ffordd, a dyna pam y gofynnid i’r Cyngor fynd gam ymhellach, a chydnabod yr hawl sylfaenol i ffoi, fel y’i diffinnir gan Gonfensiwn 1951 a Phrotocol 1967.

·         Bod yr hawliau hyn mewn peryg’ o gael eu tanseilio gan Gynllun Mewnfudo newydd Llywodraeth y DG a’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sydd eisoes wedi cael ei ddarlleniad cyntaf.

·         Nad oedd gwneud ffoaduriaid yn droseddwyr yn mynd i helpu’r sefyllfa, ac yn fwy na hynny, roedd yn anfoesol ac yn gosod cynsail brawychus ynglŷn â’r ffordd rydym yn trin ein cyd-ddyn.  Ymgais ydoedd i rwygo cymdeithas, ac i droi un mewn angen yn erbyn y llall, ac roedd yn rhaid i ni ei wrthod.

 

Ategwyd y sylwadau hyn gan aelod arall, a chynigiwyd gwelliant i’r cynnig, sef bod y Cyngor hefyd yn nodi diolch i drigolion Gwynedd am eu haelioni aruthrol, a’u parodrwydd i gefnogi ffoaduriaid dros y blynyddoedd, ac i fudiadau gwirfoddol y sir, megis Pobl i Bobl, Croeso Menai a Cefn am eu gwaith arbennig yn y maes hwn.  Eiliwyd y gwelliant.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol a’r eilydd i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r gwelliant gan nifer o aelodau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r gwelliant, sef:-

 

1        Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan.

2        Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:-

·               Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a

·               Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.

3        Bod y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Bod y Cyngor hwn , yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi a achoswyd gan gynnydd prisiau eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein, yn gofyn i’r Cabinet glustnodi’r holl arian a gesglir drwy godi premiwm treth cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu anghenion trigolion   sydd yn byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr ardaloedd hynny lle cesglir y rhan fwyaf o’r premiwm treth. Mae Llywodraeth Cymru’n  annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir gan godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i wneud hyn, dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fwyafrif aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y rhybudd o gynnig.

 

Cofnod:

(C)    Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor hwn, yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi a achoswyd gan gynnydd prisiau eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein, yn gofyn i’r Cabinet glustnodi’r holl arian a gesglir drwy godi premiwm treth cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu anghenion trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr ardaloedd hynny lle cesglir y rhan fwyaf o’r premiwm treth.  Mae Llywodraeth Cymru’n annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir gan godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i wneud hyn, dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fwyafrif aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Yng nghyfarfod y Cyngor yn Rhagfyr 2016, pan drafodwyd codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag, y cafwyd gwelliant bod y mwyafrif o’r arian a dderbynnid o godi premiwm yn mynd tuag at helpu pobl ifanc yn ein cymunedau i gael tŷ fforddiadwy, ac mai’r cymal ychwanegol hwn oedd wedi ysgogi llawer o gynghorwyr i bleidleisio dros y gwelliant.

·         Bod y Cynllun Gweithredu Tai 2021-2027 yn clustnodi cyfanswm gwariant o gronfeydd premiwm treth cyngor o £23m, ac er bod cynlluniau i leihau digartrefedd, gwella llety gofal a chefnogaeth i bobl ag anghenion yn gwbl deilwng, roedd yn destun pryder nad oedd y cyllid ar gyfer yr elfennau hyn wedi’i glustnodi o ffynonellau craidd neu ddatblygol y Cyngor.

·         Ei bod yn ymddangos bod ymhell dros £10m o’r gronfa premiwm treth cyngor yn cael ei glustnodi ar gyfer gofynion y tu hwnt i gyfarch yr argyfwng diffyg cartrefi, er bod Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir drwy godi’r dreth premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai pobl leol.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Tai wrthwynebiad cryf i’r cynnig, gan nodi:-

 

·         Bod y Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu Tai gwerth £77m mewn ymateb i’r argyfwng cartrefi.  Roedd y swyddogion yn gweithredu ar hynny drwy gartrefu pobl leol yn ein cymunedau mewn tai diogel, gwyrdd a fforddiadwy, a’i rôl yntau, fel Aelod Cabinet, oedd herio’r gwaith dydd i ddydd hwnnw.

·         Er y pandemig a’r cynnydd digynsail mewn digartrefedd a’r niferoedd ar y rhestr aros am dai, a cholli’r Pennaeth, y llwyddodd yr Adran i wario £1.4m ar adnewyddu tai gwag, yn cynnwys sawl un yn yr ardaloedd y cyfeiriwyd atynt yn y cynnig.  Gwariwyd £500,000 ar addasu tai i bobl ag anableddau, rhoddwyd £1m ychwanegol tuag at y cynllun ‘Homebuy’, crëwyd 4 pod arloesol ar gyfer oedolion bregus a 4 o fflatiau cefnogaeth ieuenctid.  Roedd gwaith ar droed i ddatblygu 30 o unedau i unigolion bregus gyda tua £1m ychwanegol yn cael ei wario ar wella  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Kevin Morris Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Bod y Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf gynllunio ac yn ei wneud yn orfodol i unrhyw berson sydd am drosi tŷ annedd yn dŷ haf orfod cael hawl cynllunio i wneud hynny a bod yna drothwyon yn cael eu gosod mewn ardaloedd i gyfyngu ar y niferoedd o dai haf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(CH)  Nododd y Cadeirydd ei fod am ohirio’r rhybudd o gynnig isod a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad tan gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor.

 

Bod y Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf gynllunio ac yn ei wneud yn orfodol i unrhyw berson sydd am drosi tŷ annedd yn dŷ haf orfod cael hawl cynllunio i wneud hynny a bod yna drothwyon yn cael eu gosod mewn ardaloedd i gyfyngu ar y niferoedd o dai haf.