Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Dylan Bullard, Annwen Daniels, Anwen Davies,
Dylan Fernley, Louise Hughes, Linda Ann Jones, Linda Morgan, W.Roy Owen a
Gareth Thomas. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:- · 28ain Mehefin, 2021 (Cyfarfod Arbennig) ·
8fed Gorffennaf, 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a
nodir isod fel rhai cywir:- ·
28
Mehefin, 2021 (Cyfarfod Arbennig) ·
8
Gorffennaf, 2021 |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eglurodd y Swyddog
Monitro:- ·
O
safbwynt eitem 9 (Diwygiadau i Gytundeb Rhyng-awdurdod Partneriaeth Pensiwn
Cymru), nad oedd bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn yn creu buddiant. ·
Gan
nad oedd eitem 12(c) (Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams) yn
ymwneud â chodi lefel y premiwm treth cyngor, nad oedd angen i’r aelodau hynny
oedd wedi datgan buddiant ar adeg gosod y premiwm ddatgan cysylltiad yn yr
achos hwn. Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r
canlynol:- ·
Y
Cynghorydd Edgar Wyn Owen ar golli ei frawd yn ddiweddar. ·
Teulu Twm Bryn Jones,
aelod ifanc o staff yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. ·
Teulu Ann Rhydderch, cyn
Brif Archifydd a Swyddog Treftadaeth y Cyngor. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorwyr John Brynmor Hughes a Selwyn
Griffiths, oedd wedi derbyn triniaeth yn ddiweddar. Llongyfarchwyd y canlynol:- ·
Y
Cynghorydd Gareth Griffith fu’n cymryd rhan ym Marathon Llundain yn ddiweddar i
godi arian i’r elusen Plant efo Cancr UK. ·
Elfyn Evans ar ei fuddugoliaeth yn Rali’r Byd yn y
Ffindir, a gwahoddwyd y Cynghorydd John Pughe Roberts ymlaen i ddweud gair. ·
Pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol
Amgen Cymru 2021, ac yn arbennig Lleucu Roberts, Rhostryfan, ar ennill 2 o'r
prif wobrau, sef Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith. ·
Megan Angharad Hunter, Penygroes ar ennill Gwobr
Llyfr y Flwyddyn 2021 Llenyddiaeth Cymru gyda’i nofel “Tu ôl i’r Awyr”. Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd Diwrnod Golff Elusennol yr Uchel Siryf yng Nghlwb
Golff Porthmadog yn ddiweddar. Eglurwyd
mai bwriad y digwyddiad oedd codi arian i elusennau'r Uchel Siryf eleni, sef
Pact a Gwobr Dug Caeredin. Nodwyd bod
criw o bobl ifanc, oedd yn gweithio gyda Nia Rees o Ysgol Eifionydd ac yn
aelodau o Wobr Dug Caeredin Ieuenctid Gwynedd, wedi bod yn hwyluso ar y
diwrnod, fel rhan o’u gwaith ar gyfer y wobr.
Fel diolch am eu gwaith di-dor, cafodd y criw yma ddiwrnod o wers gyda
golffiwr proffesiynol y clwb, Mark Pilkington.
Nodwyd hefyd bod gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd dîm a
noddwyd gan Gadeirydd y Cyngor yn cystadlu ar y diwrnod. Roedd y tîm yma, oedd yn cynnwys Tomos
Dobson, Jamie Williams a Sïon Endaf Parry, yn un
o 14 o dimau a gymerodd ran ar y diwrnod, gydag Andrew Owen, Gweithiwr
Ieuenctid (Dalgylch Botwnnog a Glan y Môr) yn cadw’r sgôr. Roedd y Tîm yma wedi dod
yn fuddugol yn y gystadleuaeth, ac estynnwyd llongyfarchiadau mawr iddynt. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens “Mae llawer o
aelodau’n teimlo eu bod wedi eu camarwain yn llwyr pan gawsom ein gorfodi i
dderbyn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn 2017. Ar y pryd dywedwyd wrthym fod y cynllun yn
ddogfen fyw y gellid ei diweddaru ar unrhyw adeg. Dywedir wrthym nawr na ellir diwygio’r
cynllun am dair blynedd. O ystyried yr
argyfwng tai difrifol a’r prinder tai aruthrol sy’n ein hwynebu, pa gyfarwyddyd
a roddir i swyddogion cynllunio i fod yn fwy hyblyg ac yn llai draconaidd wrth
ddehongli canllawiau cynllunio er mwyn caniatáu mwy o ddatblygu?” Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn “Nid
wyf yn derbyn fod aelodau wedi eu camarwain yn 2017 pan fu iddynt fabwysiadu'r
Cynllun Datblygu Lleol Ar y Cyd. Roedd
yr adroddiad cynhwysfawr yn gosod allan y trefniadau monitro blynyddol sydd
wedi eu cynnal ers iddo gael ei fabwysiadu.
Mae’r cysyniad o fonitro ac adolygu parhaus wedi ei adeiladu i’r drefn
Cynllun Lleol, trefniant nad oedd yn rhan o drefniadau cynlluniau datblygu
blaenorol. Mae adroddiadau monitro blynyddol wedi eu paratoi
ers mabwysiadu’r Cynllun a’u hystyried yn erbyn y fframwaith fonitro. Cyflwynwyd yr adroddiad monitro cyntaf i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau, pwyllgor y mae’r Cynghorydd Mike Stevens yn aelod
ohono, yn 2019, ac ar y pryd trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer pob aelod er
cyfleu canfyddiadau’r adroddiad. Yn 2020
llaciwyd y gofyn statudol i gyflwyno adroddiadau monitro blynyddol ffurfiol gan
Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig.
Fodd bynnag bu i’r Cyngor barhau i baratoi adroddiad monitro blynyddol
drafft, sydd ar wefan y Cyngor, ac eto trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer yr
holl Aelodau. Nid oedd y dystiolaeth o’r
adroddiadau monitro blynyddol hynny yn cefnogi’r angen am adolygiad buan o’r
cynllun. Mae bellach yn bedair blynedd
ers mabwysiadu’r Cynllun ac felly mae gofyn cyfreithiol i gynnal adolygiad
llawn. Bydd y dystiolaeth o bob
adroddiad monitro blynyddol yn cael ei bwydo i mewn i’r broses yma. Fel yr adroddwyd i’r Cyngor ym Mehefin 2021, mae
camau sydd rhaid eu dilyn fel rhan o’r broses adolygu er cytuno ar newidiadau
i’r Cynllun. Boed yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio neu’n
Swyddogion yn gwneud penderfyniadau dirprwyedig, mae’n rhaid i benderfyniadau
cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, oni
bai fod ystyriaethau cynllunio materol yn dangos fel arall. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol. Mae’r
syniad bod cyfarwyddyd yn cael ei roi i ymdrin â’r penderfyniadau yma mewn
unrhyw ffordd arall yn gwahodd aelodau a swyddogion i weithredu mewn modd
anghyfreithiol. Rwyf hefyd yn ymwrthod
â’r datganiad fod swyddogion yn anhyblyg neu’n ddraconaidd wrth roi
cyngor. Wrth wneud honiad o’r fath y tu
allan i’r sianelau priodol, heb unrhyw gyfeiriad at dystiolaeth, mae’n
tanseilio swyddogion mewn ffordd annheg a hefyd yn tanseilio hyder cyhoeddus yn
y gyfundrefn gynllunio a rheolaeth datblygu.” Cwestiwn Atodol
gan y Cynghorydd Mike Stevens “Mae’r ffaith bod y Cynllun Datblygu Lleol yn methu pobl Gwynedd yn amlwg o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATGANIAD CYNGOR GWYNEDD YNGHYLCH AMRYWIAETH Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r Datganiad
Amrywiaeth isod, a gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddatblygu
rhaglen waith i gefnogi’r datganiad:- “Mae'r Cyngor hwn yn
ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol. Trwy hynny,
rydym yn awyddus i fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan, yn y
lle cyntaf, geisio cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl a
lleiafrif ethnig sy’n sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd. Rydym yn ymrwymo i:- ·
Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i
wella amrywiaeth mewn democratiaeth ·
Ddangos
diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf ·
Hybu
gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn etholiadau lleol 2022. ·
Weithio
ar y safonau a nodir yn Siarter Cymru ar gyfer Cymorth a Datblygu i Aelodau. ·
Ddangos
ymrwymiad i ddyletswydd gofal dros Gynghorwyr ·
Ystyried
sut i ddarparu hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau
ymarferol ·
Barhau
i annog fod yr holl aelodau yn derbyn y lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt
hawl eu derbyn, ac yn benodol unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr
holl aelodau yn derbyn cydnabyddiaeth deg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelodau
yn gyfyngedig i’r rhai all ei fforddio. Weithio tuag at sicrhau bod cynghorwyr o grwpiau a dangynrychiolir yn cael eu cynrychioli pryd bynnag fo’n bosibl mewn rolau proffil uchel a dylanwad uchel.” Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell:- ·
Bod
y Cyngor yn mabwysiadu Datganiad Amrywiaeth er mwyn datgan yn gyhoeddus fod Cyngor
Gwynedd yn hybu a hyrwyddo amrywiaeth mewn democratiaeth. ·
Gofyn
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth arwain ar ddatblygu rhaglen waith lawn
ar gyfer gwireddu’r datganiad, gan gyflwyno’r rhaglen waith i’r Cyngor llawn yn
ei gyfarfod nesaf ar 2 Rhagfyr, 2021. Gwahoddwyd Arweinydd y
Grŵp Annibynnol i ddweud gair, ac yna manylodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol ar y paratoadau ar gyfer cynnal Wythnos Democratiaeth yng
Ngwynedd, yn cychwyn ar 18 Hydref. Gofynnodd
i bawb rannu’r negeseuon fydd yn cael eu trydar a’u rhannu dros yr wythnos, gan
nodi fod bwriad i ail gynnal yr ymgyrch yn Ionawr, wedi cael cyfle i ddysgu
gwersi o’r ymgyrch cyntaf. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Mynegwyd pryder bod rhywbeth mawr o’i le pan mae
cymaint o aelodau yn cael eu hethol ar y Cyngor yn ddiwrthwynebiad, ac na ellid
bod yn siŵr bod yr hyn oedd yn cael ei argymell yn mynd i newid y sefyllfa
o ran denu pobl i sefyll etholiad. ·
Nodwyd bod y datganiad yn un clodwiw a chroesawyd yr
ymgyrch i geisio cael mwy o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd i sefyll fel
cynghorwyr. ·
Awgrymwyd y dylai’r datganiad gynnwys, nid yn unig
merched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd pobl lliw a
phobl â nodweddion eraill sy’n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth cydraddoldeb,
megis rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol ei bod yn
croesawu’r sylw, ac y byddai’n sicrhau bod y datganiad yn cael ei addasu i
adlewyrchu’r pwynt pwysig yma. Byddai
hefyd yn sicrhau bod sylw penodol at hyn yn y rhaglen waith fydd yn cael ei
datblygu i gefnogi’r datganiad. ·
Nodwyd bod rôl amlwg i’r pleidiau gwleidyddol
ymestyn allan a chynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am waith cynghorwyr. ·
Mynegwyd rhwystredigaeth y gallai arafwch cyhoeddi
penderfyniad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r ffiniau etholiadol fod wedi
arafu’r broses o geisio denu amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad ym mis
Mai 2022. ·
Awgrymwyd bod angen newid y diwylliant o fewn y
Cyngor i’w wneud yn fwy deinamig, gan mai ychydig oedd i’w weld yn digwydd yng
Ngwynedd o gymharu â rhai siroedd eraill, a chwestiynwyd tybed oedd hynny
oherwydd agwedd uwch swyddogion tuag at rai cynghorwyr. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Amrywiaeth isod, a gofyn i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddatblygu rhaglen waith i gefnogi’r
datganiad:- “Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor
Amrywiol. Trwy hynny, rydym yn awyddus i
fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan, yn y lle cyntaf, geisio
cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrif ethnig sy’n
sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd.
“Rydym yn ymrwymo
i:- ·
Ddarparu ymrwymiad
clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth ·
Ddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a
hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf ·
Hybu gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn
etholiadau lleol 2022. · Weithio ar y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - DIWEDDARIAD CYFARFODYDD HYBRID Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad er gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn diweddaru’r Cyngor yn dilyn
cymeradwyo trefniadau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ar 8 Gorffennaf, 2021 ar
gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor er cyfarch gofynion newydd yn Rhan 3 o Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ymhelaethodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar gynnydd y gwaith yn y cefndir gan nodi,
er bod yr amserlen wreiddiol wedi llithro ychydig, bod y gwaith o uwchraddio
Siambr Dafydd Orwig a Siambr Hywel Dda ar gyfer cynnal cyfarfodydd hybrid i’r
dyfodol bellach wedi’i gwblhau. Nododd
hefyd fod profion cychwynnol o’r dechnoleg yn argoeli’n dda, ond bod mân bethau
angen sylw pellach. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Cyfeiriodd nifer o aelodau at fanteision ac anfanteision trefn
gyfarfodydd hybrid. O safbwynt y manteision, nodwyd y byddai’n:- ·
Lleihau costau ac amser teithio i gyfarfodydd. ·
Lleihau allyriadau carbon. ·
Hwyluso cyfranogiad pob mathau o wahanol bobl, megis
pobl sy’n gweithio, pobl anabl, gofalwyr, ayb. O safbwynt yr anfanteision, nodwyd:- ·
Bod aelodau yn gweld gwerth mewn cyd-gyfarfod wyneb
yn wyneb, a’u bod yn colli’r ymgom a’r rhannu profiadau sy’n digwydd yn
naturiol cyn ac ar ôl cyfarfod. ·
Bod trefn rithiol neu hybrid yn newid dynameg y
cyfarfod, ac nad oes modd adnabod iaith y corff, ayb. ·
Bod ymuno â chyfarfod o bell yn gallu bod yn
brofiad unig. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Cwestiynwyd yr angen i wario £130,000 ar ddatblygu’r
system hybrid. Mewn ymateb, eglurwyd bod
y swm yma ar gyfer uwchraddio 17 ystafell bwyllgor ar draws y sir, a bod angen
sicrhau bod gennym system fodern a dibynadwy yn ei lle. Nodwyd hefyd bod y mwyafrif o gynghorau
eraill yn wynebu’r un lefel o gostau. ·
Holwyd, os yw bellach yn iawn i athrawon a phlant
fynd i’r ysgolion, pam nad yw’n iawn i gynghorwyr fynd i’r Siambr i gyfarfod
wyneb yn wyneb? Mewn ymateb, eglurwyd
bod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yn eithaf clir y dylem weithio o adref os yn
bosib’, a hyd oni fyddai’r cyfarwyddyd hwnnw’n newid, ni fyddai’n bosib’ cynnal
cyfarfodydd wyneb yn wyneb. ·
Nodwyd bod Senedd Cymru a Senedd San Steffan yn
cyfarfod yn hybrid eisoes, a phwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen â’r
trefniadau yng Ngwynedd cyn gynted â phosib’.
Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn gynnar
iawn yn ystod y cyfnod, gyda nifer fawr o swyddogion yn gweithio yn y
cefndir. O ran cynnydd y gwaith
technegol, roedd Gwynedd tua’r canol ymysg cynghorau Cymru, ond gorau po gyntaf
y gellid symud ymlaen â’r gwaith treialu, ayb, fel ein bod mewn sefyllfa i
weithredu’n gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, petai cyfarwyddyd y Llywodraeth yn
newid. · Gan dderbyn mai cyfarwyddyd presennol y Llywodraeth yw i bawb barhau i weithio o adref os yn bosib’, holwyd a ydym yn wir yn anelu at gael cyfarfod hybrid neu gyfarfod wyneb yn wyneb o’r Cyngor llawn ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf? Mewn ymateb, nodwyd ein bod wedi llwyddo i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn effeithiol ers 18 mis, a chan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DIWYGIADAU I GYTUNDEB RHYNG-AWDURDOD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r diwygiadau i
Gytundeb Rhyng-Awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru fel yr amlinellir yn Atodiad
1 i’r adroddiad i’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo
diwygiadau i Gytundeb Rhyng-Awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru fel yr
amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:- ·
Bod y bartneriaeth wedi gwasanaethu Cronfa Bensiwn Gwynedd
yn dda iawn, ac y byddai’r newidiadau o gymorth i wella perfformiad a’r dull o
ddarparu gwasanaeth Partneriaeth Pensiwn Cymru. ·
Gan ein bod yn symud i mewn i’r farchnad breifat,
bod angen apwyntio dyranwr marchnad breifat sydd â phrofiad a gwybodaeth eang o
farchnadoedd preifat, a diau y byddai’r manteision posib’ i’r gronfa yn y tymor
hir yn gorbwyso costau’r apwyntiad, fyddai’n cael ei ysgwyddo gan y
bartneriaeth, ac nid Gwynedd. ·
Y byddai dewis cynrychiolydd aelodau’r cynllun o
blith aelodau’r byrddau pensiwn a’i gynnwys ar y cydbwyllgor yn lledaenu’r
broses o wneud penderfyniadau drwy sicrhau cynrychiolaeth o holl aelodau’r
cynllun yn y trafodaethau. ·
Y byddai dewis cynrychiolydd aelodau’r cynllun o blith aelodau'r
byrddau pensiwn a’i gynnwys ar y cydbwyllgor yn lledaenu’r broses o wneud
penderfyniadau, drwy sicrhau cynrychiolaeth o holl aelodau’r cynllun yn y
trafodaethau. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r diwygiadau i Gytundeb Rhyng-Awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru
fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad i’r Cyngor. |
|
RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf
Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021. ·
Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i
fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn
y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym. ·
Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod
amodau safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol. Cofnod: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Amgylchedd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu grymoedd i
reoleiddio sefydliadau rhyw a’r gofynion cysylltiol. Ymhelaethodd y
Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ar y wybodaeth gefndirol. Nododd y Swyddog Monitro fod angen cywiro’r trydydd argymhelliad yn yr
adroddiad sy’n cyfeirio at ddirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau
safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r ‘Pwyllgor
Trwyddedu Canolog’, i ddarllen ‘Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol’. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Croesawyd yr adroddiad, a diolchwyd i’r Adran sydd wedi bod yn gweithio
ar frys ar y mater polisi hwn. ·
Pwysleisiwyd ei
bod yn bwysig cael hawl i reoleiddio’r maes yma, ac er mai sefydliadau lefel
isel y sonnir amdanynt yma, a phrin iawn ydynt yn y sir, os o gwbl, rhaid
sicrhau bod siopau rhyw yn parhau i fod yn llefydd modern, sy’n gyfeillgar i
ferched ac i gyplau, ac nid i ddynion yn unig, fel yn yr oes a fu. ·
Nodwyd, er na
ragwelid y byddai’r Cyngor yn derbyn cais i drwyddedu sinema oedolion yn yr oes
ar-lein ddigidol sydd ohoni, bod y gallu i reoli'r math o gynnyrch allai gael
ei ddangos mewn lle felly yn hollbwysig. ·
Nodwyd, er na ragwelid y byddai yna sefydliadau adloniant rhyw yn dod i
Wynedd, ei bod yn allweddol bod gennym bwerau mewn grym er mwyn gallu gwarchod
lles a diogelwch merched sy’n gweithio mewn llefydd fel hyn, gan eu bod ymhlith
y mwyaf bregus mewn cymdeithas, ac yn aml yn ifanc iawn. ·
Nodwyd, er bod y
drafodaeth bresennol wedi’i sbarduno gan gais i agor siop ryw, roedd yn bwysig
cofio bod yr un ddeddf sy’n berthnasol yma yn cynnwys mannau adloniant
rhyw. Gan hynny, roedd yn ofynnol
ystyried goblygiadau pellgyrhaeddol y drafodaeth, rhag ofn i ni wynebu
ceisiadau o’r math yn y dyfodol. ·
Nodwyd bod
sefydliadau rhyw yn atgyfnerthu agweddau diwylliannol niweidiol o ferched, ac
yn normaleiddio gwneud merched yn wrthrychau rhyw, a bod y cysylltiad rhwng
gwneud merched yn wrthrychau rhyw, eu dad-ddyneiddio a thrais yn erbyn merched
wedi ei gydnabod. Roedd llawer o bryder
hefyd am y modd mae merched sy’n gweithio yn y busnesau yma’n cael eu trin a’u
hecsbloetio. Cyfeiriwyd at waith ymchwil
oedd yn dangos bod merched yn teimlo’n fwy diymgeledd a bregus mewn gofodau
cyhoeddus pan mae yna ddelweddau rhywiol o ferched wedi’u harddangos yna,
ynghyd â gwaith ymchwil arall oedd yn dangos bod yr achosion o aflonyddu’n
rhywiol ac o drais yn erbyn merched yn cynyddu yng nghyffiniau’r busnesau yma. ·
Awgrymwyd petai’r Cyngor yn gwahardd y busnesau yma, y byddai hynny’n
danfon neges glir i bobl Gwynedd, neges a fyddai’n gallu lleihau agweddau
niweidiol bechgyn tuag at ferched, a byddai’r polisi hyn yn gyson ag ymdrechion
y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gyson gyda’r neges sy’n cael ei chyfleu
yn ein hysgolion, sef y dylai bechgyn barchu merched. · Nodwyd bod mwyafrif y merched sy’n gweithio yn y busnesau yma yn gwneud hynny oherwydd tlodi, diffyg gofal ac anghenion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
ADOLYGIAD O FFINIAU ETHOLIADOL GWYNEDD Adroddiad
i ddilyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar benderfyniad Rebecca Evans AS, Y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â Sir Gwynedd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd,
er i’r Cyngor wneud popeth y gallai i sicrhau bod dyheadau’r aelodau yn cael eu
trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, bod y Llywodraeth wedi anwybyddu’r sylwadau
hynny. ·
Nodwyd
nad oedd cyfeiriad penodol yn yr adroddiad at rai o wardiau Dwyfor sy’n cael eu
heffeithio gan y newidiadau yma, a mynegwyd pryder bod 3 allan o’r 6 sedd sy’n
cael ei cholli yn Nwyfor. Mewn ymateb,
nodwyd bod yr adroddiad gerbron y Cyngor yn gryno iawn, ac yn wybodaeth ddaeth
i law yn hwyr iawn yn y dydd, ond bod yr wybodaeth gyflawn ynghlwm iddo, ac ar
gael ar y fewnrwyd aelodau hefyd. Nodwyd
bod y swyddogion yn rhannu rhwystredigaeth yr aelodau bod y penderfyniad
swyddogol wedi dod mor hwyr yn y dydd, yn enwedig gan fod yr adolygiad wedi’i
gynnal ers bron i 3 blynedd, ond bod croeso i unrhyw un gysylltu gyda’r Prif
Weithredwr neu’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith i drafod unrhyw
ran ohono yn benodol. ·
Mynegwyd rhwystredigaeth fod Ward Bethel yn ymuno â
ward arall. Pwysleisiwyd bod wardiau
aml-aelod yn gam yn ôl i ddemocratiaeth ac atebolrwydd a chwestiynwyd y newid,
gan fod y drefn bresennol yn gweithio’n iawn, gyda’r etholwyr yn gwybod â phwy
i gysylltu. Nodwyd ymhellach y gobeithid
y byddai’r Cyngor yn gallu gwrthod yr adroddiad. Mewn ymateb, nodwyd y cydymdeimlid â’r
sylwadau ac y deellid y rhwystredigaeth ynglŷn â chynnwys y ddogfen, ond
bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r aelodau er gwybodaeth yn unig, ac y
dylid cyfeirio’r cwestiwn at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. ·
Mynegwyd
siom aruthrol bod Bangor yn colli 3 sedd a 3 ward ar y Cyngor, a phwysleisiwyd
yr angen i gadw, neu hyd yn oed gynyddu, y nifer presennol o gynghorwyr er mwyn
cynnal democratiaeth y ddinas. Fel dinas
prifysgol, gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn cofrestru i bleidleisio, roedd
demograffi Bangor yn wahanol iawn i rai ardaloedd eraill o’r sir, ac roedd y
wardiau newydd a gynigid ar gyfer Bangor yn anferth o ystyried y boblogaeth
leol a’r boblogaeth myfyrwyr sy’n byw ynddynt. ·
Nodwyd, fel ardal dwristiaeth gyda nifer uchel o dai
haf, bod demograffi rhannau o Ben Llyn hefyd yn wahanol iawn i rannau eraill
o’r sir, gan mai ychydig iawn o berchnogion ail gartrefi oedd yn cofrestru i
bleidleisio. ·
Nodwyd y byddai’r pwysau gwaith ar y 69 aelod fydd
yn ceisio cyflawni gwaith y 75 aelod presennol yn aruthrol. Mewn ymateb, nodwyd y byddai yna ofyn, annheg
o bosib’, i bawb wneud mwy o waith, a bod hynny’n ofyn na ystyriwyd yn llawn
gan y Comisiwn Ffiniau na’r Gweinidog wrth ddod i’w penderfyniad. · Awgrymwyd y gallai’r Llywodraeth fod wedi achub ar y cyfle hwn i gyflwyno Cynrychiolaeth Gyfrannol. Byddai wedyn yn gwneud synnwyr i gael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel
a ganlyn:- 1.
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl
Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu
Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 2. Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl
Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu
Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 2.
Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth
San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau
banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd
Iwerddon. Cofnod: (A) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- 1.
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi
Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er
dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 2. Bod y Cyngor yn galw
ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru
creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un
modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig gan olrhain rhywfaint o hanes ein nawddsant a’i
arwyddocâd i ni’r Cymry, gan hefyd bwysleisio mai diben y cynnig oedd ceisio
adfer rhywfaint o hunan-barch o ran ein arwahanrwydd a’n hunaniaeth fel
cenedl. Nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol:- ·
Ei bod yn llwyr gytuno
â’r egwyddor, ac yn cefnogi’r alwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl
banc yng Nghymru. ·
O ran rhan gyntaf y cynnig, pe byddai’r Cyngor yn
darparu diwrnod ychwanegol o wyliau i staff, roedd yn bwysig nodi nad oedd modd
i’r Cyngor ddarparu’r diwrnod hwnnw i rai staff, ac nid i staff eraill sy’n
gweithio o dan yr un amodau a thelerau gwaith.
Byddai’n rhaid darparu’r diwrnod ychwanegol i’r staff hynny fyddai wrth
eu gwaith ar Ddydd Gŵyl Dewi er mwyn ei gymryd ar ddiwrnod arall yn ystod
y flwyddyn, a byddai cost ynghlwm â hynny os mai’r dymuniad oedd darparu
diwrnod ychwanegol i’r pwrpas yma. Os mai’r
dymuniad oedd defnyddio un o’r 1.5 diwrnod o wyliau ychwanegol a ddarperir gan
y Cyngor yn bresennol i’r perwyl hwn, byddai angen ymgynghoriad ffurfiol gyda’r
undebau llafur cydnabyddedig, gyda golwg ar sicrhau cytundeb torfol cyn gallu
gweithredu. ·
O ran ail ran y cynnig, roedd yn llawn gefnogi’r
alwad, gan ei bod yn warthus ac yn embaras bod yr hawl i greu gwyliau banc
wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban ac i Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i
Lywodraeth Cymru, ac roedd yn barod i sicrhau bod llythyr yn cael ei gyflwyno
yn ffurfiol i Lywodraeth San Steffan. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Ei bod yn sarhad arnom
ers canrifoedd nad oes gennym fel gwlad yr hawl i ddathlu gŵyl ein
nawddsant. Y ddadl o hyd yw’r gost, ond
mae gŵyl banc yn hwb anhygoel i economi cefn gwlad, a dylai dathlu Dydd
Gŵyl Dewi fod yn rhan o raglen adfer economaidd ôl-Covid y Cyngor. ·
Bod angen gwneud yn glir
y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl i’r holl genedl, ac nid i’r
gweithlu’n unig. ·
Y dylai’r Llywodraeth a
phob cyngor arall yng Nghymru frwydro am hyn. · Bod hyn yn syniad ardderchog, ond gan fod staff y Cyngor yn mwynhau telerau gwaith llawer gwell na gweithwyr yn y sector breifat, dylai’r diwrnod ychwanegol o wyliau gael ei dynnu allan o’u ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12a |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Catrin Wager Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel
a ganlyn:- 1.
Bod
y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd
wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan. 2.
Bod
y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:- ·
Erthygl
14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio
lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a ·
Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws
Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid. 3.
Bod
y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar
gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i
wneud y weithred o geisio lloches yn drosedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Bod
y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd
wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan. 2.
Bod
y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:- ·
Erthygl
14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio
lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a ·
Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws
Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid. 3.
Bod
y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar
gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i
wneud y weithred o geisio lloches yn drosedd. 4.
Bod
y Cyngor hwn yn nodi diolch i drigolion Gwynedd am eu haelioni aruthrol, a’u parodrwydd
i gefnogi ffoaduriaid dros y blynyddoedd, ac i fudiadau gwirfoddol y sir, megis
Pobl i Bobl, Croeso Menai a Cefn am eu gwaith arbennig yn y maes hwn. Cofnod: (B) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- 1.
Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i
ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd
yn cyrraedd yn fuan. 2.
Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:- ·
Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n
cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a ·
Confensiwn 1951 yn
ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid. 3. Bod y Cyngor yn bryderus nad yw
cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r
egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i wneud y weithred o geisio
lloches yn drosedd. Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:- ·
Ei bod yn hynod falch bod y Cyngor hwn wedi bod mor
barod i gamu i mewn i gynnig cartref i ffoaduriaid o Affganistan, a dyna’r peth
cywir i wneud, yn egwyddorol ac yn foesol. ·
Ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn cydnabod haelioni
pobl y sir, sydd wedi cyfrannu nwyddau ac arian sylweddol drwy fudiadau
gwirfoddol y sir i’r ffoaduriaid. ·
Nad
oedd Llywodraeth San Steffan yn gweld y sefyllfa yn yr un ffordd, a dyna pam y
gofynnid i’r Cyngor fynd gam ymhellach, a chydnabod yr hawl sylfaenol i ffoi,
fel y’i diffinnir gan Gonfensiwn 1951 a Phrotocol 1967. ·
Bod yr hawliau hyn mewn peryg’ o gael eu tanseilio
gan Gynllun Mewnfudo newydd Llywodraeth y DG a’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau,
sydd eisoes wedi cael ei ddarlleniad cyntaf. ·
Nad
oedd gwneud ffoaduriaid yn droseddwyr yn mynd i helpu’r sefyllfa, ac yn fwy na
hynny, roedd yn anfoesol ac yn gosod cynsail brawychus ynglŷn â’r ffordd
rydym yn trin ein cyd-ddyn. Ymgais
ydoedd i rwygo cymdeithas, ac i droi un mewn angen yn erbyn y llall, ac roedd
yn rhaid i ni ei wrthod. Ategwyd y sylwadau hyn gan aelod arall, a chynigiwyd
gwelliant i’r cynnig, sef bod y Cyngor hefyd yn nodi diolch i drigolion Gwynedd am eu
haelioni aruthrol, a’u parodrwydd i gefnogi ffoaduriaid dros y blynyddoedd, ac
i fudiadau gwirfoddol y sir, megis Pobl i Bobl, Croeso Menai a Cefn am eu
gwaith arbennig yn y maes hwn. Eiliwyd y
gwelliant. Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol a’r eilydd
i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor. Mynegwyd
cefnogaeth frwd i’r gwelliant gan nifer o aelodau. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r gwelliant, sef:- 1 Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso
cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu
a fydd yn cyrraedd yn fuan. 2 Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion
sylfaenol:- ·
Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n
cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a ·
Confensiwn 1951 yn
ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid. 3 Bod y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd
Williams yn cynnig fel a ganlyn:- Bod y Cyngor
hwn , yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi a achoswyd gan gynnydd prisiau
eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein,
yn gofyn i’r Cabinet glustnodi’r holl arian a gesglir drwy godi premiwm treth
cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu anghenion trigolion sydd yn
byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr
ardaloedd hynny lle cesglir y rhan fwyaf o’r premiwm treth. Mae Llywodraeth
Cymru’n annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a
gynhyrchir gan godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol
â bwriadau polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i
wneud hyn, dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan
fwyafrif aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y rhybudd o gynnig. Cofnod: (C) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.20
y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Bod y Cyngor hwn, yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi
a achoswyd gan gynnydd prisiau eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad
llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein, yn gofyn i’r Cabinet glustnodi’r holl
arian a gesglir drwy godi premiwm treth cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu
anghenion trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg
cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr ardaloedd hynny lle cesglir y rhan fwyaf o’r
premiwm treth. Mae Llywodraeth Cymru’n
annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir gan
godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau
polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i wneud hyn,
dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fwyafrif
aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach. Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:- ·
Yng nghyfarfod y Cyngor yn Rhagfyr 2016, pan
drafodwyd codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag, y cafwyd gwelliant bod
y mwyafrif o’r arian a dderbynnid o godi premiwm yn mynd tuag at helpu pobl
ifanc yn ein cymunedau i gael tŷ fforddiadwy, ac mai’r cymal ychwanegol
hwn oedd wedi ysgogi llawer o gynghorwyr i bleidleisio dros y gwelliant. ·
Bod y Cynllun Gweithredu Tai 2021-2027 yn clustnodi
cyfanswm gwariant o gronfeydd premiwm treth cyngor o £23m, ac er bod cynlluniau
i leihau digartrefedd, gwella llety gofal a chefnogaeth i bobl ag anghenion yn
gwbl deilwng, roedd yn destun pryder nad oedd y cyllid ar gyfer yr elfennau hyn
wedi’i glustnodi o ffynonellau craidd neu ddatblygol y Cyngor. ·
Ei bod yn ymddangos bod ymhell dros £10m o’r gronfa
premiwm treth cyngor yn cael ei glustnodi ar gyfer gofynion y tu hwnt i gyfarch
yr argyfwng diffyg cartrefi, er bod Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol
i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir drwy godi’r dreth premiwm
i gynorthwyo diwallu anghenion tai pobl leol. Mynegodd yr Aelod Cabinet Tai wrthwynebiad cryf i’r cynnig, gan nodi:- ·
Bod y Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Tai a
Chynllun Gweithredu Tai gwerth £77m mewn ymateb i’r argyfwng cartrefi. Roedd y swyddogion yn gweithredu ar hynny
drwy gartrefu pobl leol yn ein cymunedau mewn tai diogel, gwyrdd a fforddiadwy,
a’i rôl yntau, fel Aelod Cabinet, oedd herio’r gwaith dydd i ddydd hwnnw. · Er y pandemig a’r cynnydd digynsail mewn digartrefedd a’r niferoedd ar y rhestr aros am dai, a cholli’r Pennaeth, y llwyddodd yr Adran i wario £1.4m ar adnewyddu tai gwag, yn cynnwys sawl un yn yr ardaloedd y cyfeiriwyd atynt yn y cynnig. Gwariwyd £500,000 ar addasu tai i bobl ag anableddau, rhoddwyd £1m ychwanegol tuag at y cynllun ‘Homebuy’, crëwyd 4 pod arloesol ar gyfer oedolion bregus a 4 o fflatiau cefnogaeth ieuenctid. Roedd gwaith ar droed i ddatblygu 30 o unedau i unigolion bregus gyda tua £1m ychwanegol yn cael ei wario ar wella ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Kevin Morris Jones yn cynnig fel a ganlyn:- Bod y Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y
ddeddf gynllunio ac yn ei wneud yn orfodol i unrhyw berson sydd am drosi tŷ
annedd yn dŷ haf orfod cael hawl cynllunio i wneud hynny a bod yna
drothwyon yn cael eu gosod mewn ardaloedd i gyfyngu ar y niferoedd o dai haf. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (CH) Nododd y
Cadeirydd ei fod am ohirio’r rhybudd o gynnig isod a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Kevin Morris Jones o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad tan gyfarfod cyffredin
nesaf y Cyngor. Bod y Cyngor hwn
yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf gynllunio ac yn ei wneud yn
orfodol i unrhyw berson sydd am drosi tŷ annedd yn dŷ haf orfod cael
hawl cynllunio i wneud hynny a bod yna drothwyon yn cael eu gosod mewn
ardaloedd i gyfyngu ar y niferoedd o dai haf. |