Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elwyn Jones a
Gareth Coj Parry; Kim Jones (Aelod Lleol) Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd
Elwyn Jones, ar golli ei wraig. Anfonwyd cofion at y Cadeirydd a’r teulu yn
eu colled. Ymdawelodd yr Aelodau a’r swyddogion fel arwydd o barch
a choffadwriaeth. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod
gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Elin Hywel yn eitem 5.2
(C22/0242/34/LL) ar y rhaglen
oherwydd bod ganddi gysylltiad gyda'r Aelod Lleol Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. O ran materion protocol, mynegodd y
Cyng. Gruffydd Williams bod Aelod Lleol eitem 5.2 (C22/0242/34/LL) ar y rhaglen wedi bod mewn cyswllt gydag
ef b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1
(C21/1111/14/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.3 (C21/0573/33/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Gareth A Roberts (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C22/0525/11/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Gwilym Jones (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C21/1151/44/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd
ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau
ac agweddau o’r polisïau PENDERFYNWYD |
|
Cais
i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos
a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid
presennol AELOD
LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod: Cais i godi
adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a
gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid
presennol Y cais wedi ei ohirio ym
Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle. Roedd rhai
o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a
chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd
ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored.
Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a
7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd
ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn mesur
1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig
a therfyn newydd de orllewinol y safle. Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y
safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6
(Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar
gyfer siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan
i’r ffin datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y
polisi. Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r bwriad fod yn elfen israddol o fusnes
presennol ar y safle. Datgan yr eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf
addas i siopau yw o fewn ffiniau aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag,
gall siopau ar raddfa fechan sy’n cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes
ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned
wledig. Wedi pwyso a mesur y bwriad yng
nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w
ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y
byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr
ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith
ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir
amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad. Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion
polisïau cynllunio. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Ei fod yn gefnogol i’r cais ac yn anghytuno gyda’r seiliau gwrthod ·
Elfennau bioamrywiaeth - hyderus bydd modd symud ymlaen heb greu
effaith ar y coed hynafol a’r gwrychoedd aeddfed. Gwarchod y rhain yn fantais i
ddenu pobl i leoliad hyfryd a naturiol ·
Bod y datblygiad yn un sylweddol ond nid yw’r safle yn agored. Nid
yw’n weladwy hyd nes ei gyrraedd. Nid yw’r adeilad arfaethedig yn cwrdd â
throthwy ‘adeilad mawr’ · Nid yw’r bwriad yn is-raddol i’r busnes presennol - ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C22/0242/34/LL Tir ger Penlon, Clynnog Fawr, LL54 5PE Adeiladu tŷ newydd
a llecynnau parcio AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dafydd Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau
Cofnod: Adeiladu
tŷ newydd a llecynnau parcio Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis
Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle
02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr
amgylchedd lleol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi
tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y
Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ
Isaf a Court Cottages at
gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma
fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum
tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw
Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth ac er derbyn nifer o sylwadau
ynglŷn a pharcio a man troi, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth
wrthwynebiad. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol. Wedi ystyried
yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r
cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag
addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint
a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad
er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais Rhesymau: Hawl
i berson godi tŷ a byw yn ei gynefin; plwyf yw Clynnog ac nid Eglwys yn
unig; y dyluniad yn dderbyniol - mater o farn; Dim gwrthwynebiad gan yr Uned
Trafnidiaeth na’r AHNE. c) Mewn ymateb i’r cynnig a sylw bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi cartref i
deulu lleol, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai tŷ
marchnad agored oedd dan sylw ac nad oedd modd cyfyngu pwy fydd yn gallu byw yn
yr eiddo. ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Bod y dyluniad yn rhy fodern, yn
amhriodol ac yn sefyll allan yn y lleoliad yma ·
Bydd yn creu effaith ar yr eglwys – yn
anaddas i’w leoliad ·
Mater o farn yw'r dyluniad – tir gwag
yng nghanol y pentref ·
Bod y tir ym meddiant person lleol sydd
eisiau dychwelyd i fyw yn y pentref ·
A yw polisïau yn gwarchod pobl ynteu adeiladau? Blaenoriaethu
pwysigrwydd yr eglwys ynteu gadw pobl yn lleol? ·
Dyluniad yn dderbyniol – awgrym cynnwys
amod i osod cerrig blaen d) Pleidleisiwyd
ar y cynnig i ganiatáu. Disgynnodd y cynnig e) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol ar argymhelliad PENDERFYNWYD:
Gwrthod Rhesymau 1. Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas y tŷ. Ni ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C22/0182/30/DT Pelydryn, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a’r cynlluniau 3. To llechi 4. Deunyddiau i weddu 5. Amod Dŵr Cymru Cofnod: Estyniad unllawr Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn
cynnal ymweliad safle. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn
ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd
lleol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd y Rheolwr
Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr
ar flaen tŷ unllawr. Adroddwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys ymestyn modurdy presennol, sy'n ffurfio rhan integredig
o'r tŷ, 1.5m yn ei flaen. Byddai’r elfen newydd yma gyda tho brig, 3.8m o
uchder (1.2m yn is na brig to'r tŷ ei hun)
gyda drws garej ar ei flaen. Nodwyd bod yr eiddo yn un o res o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth
2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Arfordirol - Gwledig
Aberdaron fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn; Yr
eiddo hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a Thirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais y cyn aelod lleol, y
Cynghorydd W Gareth Roberts, oedd yn gwrthwynebu cais ar sail effaith weledol y
datblygiad ar y strydwedd ac oherwydd pryderon
ynghylch yr effaith mwynderol ar gymdogion. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n datgan bod disgwyl i bob cynnig
arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Yn yr achos hwn, wrth ystyried graddfa, dyluniad
a deunyddiau'r estyniad, ystyriwyd mai
bychan iawn fyddai'r newid i edrychiad y safle o'i gymharu â'r tŷ
presennol ac na fyddai unrhyw niwed i ansawdd adeiledig yr eiddo'n deillio o'r
datblygiad. Nodwyd y gellid gosod amodau yn sicrhau bod y deunyddiau a
ddefnyddir yn gweddu gweddill y tŷ. Yn ogystal, adroddwyd, er y byddai peth cynnydd yn swmp yr adeilad
ynghyd ag ymestyniad o'r "llinell adeiladu" yn ei flaen ychydig, nid
oes unrhyw batrwm adeiladu pendant i ddatblygiadau yn yr ardal ac oherwydd mai
bychan yw’r newid a byddai’r cynnig yn parchu cyd-destun adeiledig y safle ac
yn gweddu gyda’r ardal o gwmpas. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun a
gyflwynwyd, oherwydd ei raddfa, deunyddiau a dyluniad, yn gweddu’n briodol
gyda'r eiddo presennol ac felly’n cydymffurfio gydag anghenion polisi PCYFF 3. Er bod y
safle’n gorwedd o fewn yr AHNE, ac o ystyried ei leoliad trefol, ni fyddai’r
bwriad dan sylw yn effeithio ar gymeriad tirwedd yr AHNE. Yn yr un modd ni ystyriwyd y bydd niwed i'r
Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol - y bwriad yn dderbyniol dan ofynion
Polisïau AMG 1 ac AT 1 y CDLl ac felly hefyd dim
effaith ar gymdogion na’r strydlun. b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol: ·
Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r cyn Cynghorydd · Nid ‘angen’ i ehangu sydd yma ond perchennog yn dewis ymestyn ar gyfer storio cwch a thractor yn ei ail dŷ. Addasiad ’yn ddymunol’ ar gyfer ‘hamddena’ - ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C22/0525/11/LL Cyn Ysgol Babanod Coed Mawr, Bangor, LL57 4TW Codi 10 tŷ
fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio
cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor. Cofnod: Codi 10 tŷ fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn oedd dan sylw i
godi 10 tŷ fforddiadwy canolradd ynghyd a gwaith cysylltiedig. Disgrifiwyd
y safle fel safle segur cyn-Ysgol Babanod Coed Mawr i’r de o ganol dinas
Bangor; oddi fewn i ardal breswyl rhwng Ffordd Caernarfon a Ffordd Penrhos ac oddi
fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y CDLL . Ategwyd nad oedd wedi
ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen
wahanol oedd yn cynnwys: • Darparu
tai fforddiadwy canolradd ar ffurf: 4 tŷ par
deulawr 2 lofft (4 person); 4 tŷ par deulawr 3
llofft (5 person) a 2 dy deulawr 3 llofft (5 person) gyda deiliadaeth ecwiti a
rennir. • Darpariaeth llecynnau parcio
oddi ar y ffordd. • Creu ardaloedd gerddi,
palmentydd a chwrtilau preifat. • Addasiadau
i’r fynedfa bresennol a darparu ffordd a llwybrau i gerddwyr o fewn y safle. • Tirweddu
caled a meddal gan gynnwys plannu amrywiaeth o goed a llwyni. • Creu llecyn chwarae i blant. • Gosod
system draenio dŵr aflan i wasanaethu’r anheddau ynghyd a system dwr
wyneb. Eglurwyd bod y safle’n presennol yn cynnwys
gweddillion adeiladwaith y cyn-ysgol sy’n cynnwys hwynebau caled (concrid) a
hwynebau meddal (glaswellt). Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol oedd wedi ei
nodi yn yr adroddiad Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol ar
sail lleoliad, angen, cymysgedd tai, defnydd, tai fforddiadwy a dwysedd ynghyd
a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Ystyriwyd bod y bwriad
yn dderbyniol ar sail mwynderau gweledol a rhagwelwyd y byddai yn y pendraw, yn
creu cyfraniad positif i gymeriad y rhan yma o’r strydlun. Yng
nghyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod nifer o wrthwynebiadau
wedi eu derbyn gan rai o ddeiliaid Lôn Bedw a Bron y De yn ymwneud a cholli
preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn y gall ddeillio o ddefnyddio’r llecyn
chwarae arfaethedig sydd wedi ei leoli yng nghornel de-gorllewinol y safle.
Fodd bynnag, o ystyried bod llystyfiant eisoes yn bodoli rhwng cefnau anheddau
Lôn Bedw a Bron y De gyda safle’r cais; defnydd blaenorol y safle fel defnydd
addysgol; y bwriad i godi ffens coedyn 1.8m o uchder o amgylch ffin allanol y
safle; bod y llecyn tir wedi ei ddewis ar sail hybu gwyliadwriaeth oddefol gan
y cyhoedd ynghyd a’r bwriad o blannu mwy o lystyfiant cyfagos ac oddi fewn i’r
llecyn chwarae. O ganlyniad, ystyriwyd na fydd y bwriad o leoli’r llecyn
chwarae o fewn y rhan yma o’r safle yn mynd i darfu’n sylweddol ar fwynderau
preswyl na chyffredinol deiliaid cyfagos. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi
bwriad o osod ffens acwstig fyddai’n lleihau sŵn a bod modd gosod amod
perthnasol i sicrhau hyn. Wedi asesu’r bwriad cyfredol yn ei gyfanrwydd, ni adnabuwyd unrhyw effaith sylweddol niweidiol fyddai’n groes i bolisïau cynllunio lleol a chyngor cenedlaethol perthnasol. I’r perwyl hyn, ystyriwyd y bwriad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Trosi to
fflat yn deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i
ganiatáu mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin
ar y llawr. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Kim Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Rheswm
Cofnod: Trosi to fflat yn
deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i ganiatáu
mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin
ar y llawr. a) Amlygodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer creu teras trwy osod decin ar do fflat sydd ar estyniad presennol ar gefn eiddo
anheddol. Bwriedir gosod drws yn lle ffenestr llawr cyntaf er caniatáu mynediad
at y cyfleuster. Mae'r to yn mesur 5.2m x 4.2m o arwynebedd llawr ac mae'n 3.8m
uwch lefel y llawr. Eglurwyd bod yr eiddo yn dŷ deulawr pen teras mewn
ardal anheddol o Ganolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan
Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn. Saif hefyd oddi fewn i Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig. Nodwyd bod
y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod sylwadau wedi eu derbyn ar y cais gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd.
Ategwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais oherwydd ei fod yn ymyrryd ar
breifatrwydd cymdogion Yng nghyd destun egwyddor y datblygiad ystyriwyd
byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych
sylweddol, yn niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal
â chreu elfen ddominyddol. b) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y
cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod: ·
Byddai’r datblygiad yn cael effaith
sylweddol ar breifatrwydd cymdogion ·
Yn creu teimlad gormesol PENDERFYNWYD:
Gwrthod – rhesymau Byddai’r
datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych
sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn
ogystal â chreu elfen ddominyddol a fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac
aflonyddwch. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion
lleol. |
|
Uwchraddio
cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod
glampio yn lle 25 pabell awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon
C12/1554/44/TC AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gwilym Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
Cofnod: Uwchraddio
cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod
glampio yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon
C12/1554/44/TC Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio symudol yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan
Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC yn safle Tyddyn Adi, Morfa
Bychan. Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys tirlunio rhwng y lleiniau carafanau a
thirlunio i amgáu safle’r podiau. Tynnwyd
sylw at sylwadau’r Cyngor Cymuned oedd wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y podiau glampio yn ymddangos fel nodwedd barhaol. Adroddwyd
bod gwybodaeth ychwanego wedi ei
dderbyn gan yr ymgeisydd yn nodi bod y podiau yn rhai
un stafell ac yn rhai symudol y gellid eu storio ar ddiwedd y tymor. Cyfeiriwyd
ar Polisi TWR5 o’r CDLl sydd yn caniatáu cynigion i
ddatblygu safleoedd teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os ydynt yn
cydymffurfio a’r cyfan o’r meini prawf. Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac
edrychiad y bwriad o ansawdd derbyniol a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad
anymwthiol wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Ni chredir
byddai cyfnewid yr unedau o bebyll i garafanau a phodiau
yn peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd yn y safle yma. Amlygwyd
bod cynllun safle yn nodi nad yw’n fwriad gosod lleiniau caled i’r unedau ac
mae’r Datganiad Cynllunio yn datgan nad yw’n fwriad cysylltu’r podiau i system ddraenio. Bydd y podiau
yn cael eu symud i safle storio dros y gaeaf, felly bydd cysylltiad ffisegol
i’r ddaear yn gyfyngedig. Mae blociau cawod a thoiledau presennol yn bodoli
eisoes ar y safle, a bydd defnyddwyr y carafanau a podiau
arfaethedig yn defnyddio’r ddarpariaeth bresennol. Nid oes bwriad adeiladu
adeilad newydd fel rhan o’r cais. Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y safle yn gorwedd mewn lleoliad cefn gwlad. Ystyriwyd bod y
safle ar y cyfan wedi cael ei sgrinio’n dda o ran helaeth o olygfeydd, gyda
mannau gwan yma thraw yn y tirlunio. Ategwyd bod y safle yn weladwy o fannau
agos o’r llwybr cyhoeddus ond bod cynllun yn dangos bwriad i dirweddu gyda
gosodiad dwysedd isel, mannau agored a rhesi o wrychoedd oddi fewn y safle. Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhan o’r cae o fewn parth llifogydd C2 a phetai’n ddatblygiad o’r newydd y byddai’n groes i bolisi. Fodd bynnag, o ystyried sefyllfa ‘fall back’ a’r safle eisoes â chaniatâd am 75 pabell, ni fyddai cyfnewid yr unedau yn groes i bolisi gan nad yw’n cynyddu risg yn yr achos yma. Gellid dadlau oherwydd y gostyngiad niferoedd, y byddai’r risg yn lleihau. O ystyried mai rhan fechan o’r cae yn unig sydd o fewn Parth C2 a sefyllfa caniatâd presennol y safle, cesglir na fyddai’r bwriad yn gwaethygu na chynyddu risg llifogydd yn yr achos yma. Awgrymwyd felly fod y sefyllfa ‘fall back’ yn golygu nad yw’r bwriad yn groes i bolisi NCT 15 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |