Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth A Roberts a’r Cynghorydd Menna Baines (Aelod Lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)             Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C24/0205/32/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

b)             Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·       Y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C24/0363/17/LL ar y rhaglen

·       Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C24/0205/32/LL ar y rhaglen

·       Y Cynghorydd Gareth T Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 C24/0478/42/DT ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Cyfreithiol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29ain o Orffennaf 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C24/0363/17/LL Tir ger Bryn Llifon, Carmel, LL54 7RW pdf eicon PDF 241 KB

Adeiladu tŷ fforddiadwy ynghyd a chreu mynedfa gerbydol i'r ffordd sirol. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn Herald Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

1.    5 mlynedd

2.    Unol a’r cynlluniau

3.    Deunyddiau

4.    Tynnu hawliau a ganiateir a defnydd C3 yn unig

5.    Amod 106 Tŷ Fforddiadwy

6.    Tirweddu a draenio tir a manylion ffin,

7.    Amod bioamrywiaeth/gwelliannau bioamrywiaeth

8.    Enw Cymraeg i’r eiddo

Cofnod:

 Adeiladu tŷ fforddiadwy ynghyd a chreu mynedfa gerbydol i'r ffordd sirol.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi tŷ unllawr fforddiadwy ar safle ar ddarn o gae agored y tu allan i, ond yn cyffwrdd ffin datblygu’r pentref Carmel.

 

Adroddwyd, o safbwynt egwyddor y datblygiad, bod ffigyrau yn dangos fod cyflenwad digonol yng Ngharmel ar gyfer y datblygiad ar hyn o bryd, ond gyda’r safle yn gorwedd tu allan i’r ffin datblygu roedd angen sicrhau fod y bwriad yn cwrdd gyda pholisi Tai 16 sy’n berthnasol i safleoedd eithrio gwledig. Ategwyd bod digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i dderbyn fod yr angen lleol am dŷ fforddiadwy wedi’i brofi na ellid ei gyfarch o fewn amserlen resymol ar safle marchnad tu mewn i’r ffin ddatblygu. Derbyniwyd prisiad marchnad agored ar y tŷ oedd yn dangos fod modd gosod disgownt o 40% pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Yng nghyd-destun maint y tŷ, byddai’n mesur oddeutu 89 medr sgwâr yn cynnwys ystafell fyw / fwyta, 2 ystafell wely a swyddfa ynghyd a modurdy 20 medr sgwâr. Yn seiliedig ar wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan yr asiant yn egluro bod yr ymgeiswyr yn gwpl ifanc oedd yn bwriadu magu teulu yn y dyfodol agos, a’r cartref yma yn caniatáu iddynt aros yng Ngharmel, ystyriwyd yn rhesymol cefnogi tŷ o’r maint yma gan y byddai’n sicrhau bod yr annedd yn cwrdd ag anghenion ymgeiswyr presennol ac i'r dyfodol. Nodwyd nad oedd yn sylweddol groes i’r arweiniad o fewn y canllaw cynllunio tai fforddiadwy o safbwynt maint tai fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun dyluniad y tŷ, ystyriwyd bod y dyluniad a’r deunyddiau yn eithaf safonol ac yn ymddangos yn dderbyniol. Er hynny, amlygwyd bod polisi TAI 16 yn gofyn bod cynigion yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddiad. Nodwyd, er bod y safle yn cyffwrdd â'r ffin datblygu, bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd mewn cae agored sydd wedi ei osod i lawr trac mynediad newydd 40m o hyd i ffwrdd o’r briffordd. Ategwyd bod  terfyn eiddo Bryn llifon (sydd wrth ochor y fynedfa newydd) yn creu ffin naturiol i’r pentref a’r eiddo hwnnw yn agos i ac yn wynebu’r briffordd. Gan fod bwriad yma i osod y tŷ i ffwrdd o’r briffordd ac yn bell tu ôl i linell datblygu Bryn Llifon, ystyriwyd nad oedd yn  dilyn patrwm datblygu naturiol y pentref. Cyfeiriwyd hefyd at lain Teras Mount Pleasant sydd wedi'i leoli i ffwrdd o’r safle ac wedi ei wahanu gan drac mynediad ac ardaloedd gardd gydag amryw o adeiladau gardd fel storfeydd a modurdai. Ystyriwyd bod y llain yn eistedd ar wahân i'r ffurf adeiledig a phan fydd y safle i'w weld o'r fynedfa arfaethedig, ni ystyriwyd y byddai’r tŷ yn cael ei weld yn yr un cyd-destun a'r tai teras.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod lleoliad y tŷ a lleoliad ffenestri wedi cael ystyriaeth lawn wrth ddylunio’r eiddo ac nad oedd pryder am yr effaith ar gymdogion. Tynnwyd sylw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C24/0306/14/AC Bron Y Gaer Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DY pdf eicon PDF 152 KB

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio gwreiddiol C23/0122/14/DT er mwyn newid dyluniad y bwriad.    

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFNWYD Caniatáu

1.    Yn unol gyda’r cynlluniau

2.    Amser

3.    Sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio gwreiddiol C23/0122/14/DT er mwyn newid dyluniad y bwriad. 

 

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod y bwriad yn un ar gyfer diwygio amod 2 o’r caniatâd Cynllunio gwreiddiol er mwyn newid dyluniad estyniadau o estyniad deulawr i ochr yr eiddo ac estyniad unllawr i gefn yr eiddo, i estyniad unllawr cefn to fflat yn unig. Eglurwyd bod yr eiddo presennol yn dŷ deulawr sy’n un o bâr ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Tref Caernarfon ac ardal breswyl.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn gyflogedig i Adran Cynllunio Cyngor Gwynedd.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod  estyniad unllawr wedi ei leoli yng nghefn yr eiddo, ond bod posib ei weld o’r blaen oherwydd bod ei led ychydig yn fwy na’r tŷ presennol. Er hynny, ni ystyriwyd fod yr effaith weledol yn annerbyniol o ystyried bod yr estyniad deulawr ochr oedd yn rhan o’r caniatâd gwreiddiol wedi ei ddileu erbyn hyn.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod gan yr eiddo gwrtil eithaf helaeth gyda gardd fawr yng nghefn yr eiddo gyda llwyni, coed a chloddiau sefydledig yn sgrinio cefn y safle o gefnau anheddau cyfagos ynghyd a thir yr ysgol gynradd sydd union wrth gefn y safle. Ategwyd bod yr estyniad bwriedig yn unllawr ac er yn cynnwys agoriadau, ni ystyriwyd eu bod yn achosi effaith goredrych annerbyniol i unrhyw eiddo cyfagos na chynnydd mewn aflonyddwch gan fod defnydd y safle eisoes yn ddefnydd preswyl. Nid oedd cynnydd yn y nifer o lofftydd ac mae llefydd parcio digonol o flaen yr eiddo yn barod.

 

Wrth drafod materion bioamrywiaeth, nodwyd bod bwriad gosod blychau adar ar yr eiddo er mwyn gwella bioamrywiaeth y safle ac y bydd unrhyw olau allanol yn cael ei osod ar i lawr er mwyn lleihau llygredd golau.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd caniatáu’r cais gydag amodau

 

b)    Roedd yr Aelod Lleol wedi datgan buddiant gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd

 

Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu

1.     Yn unol gyda’r cynlluniau

2.     Amser

3.     Sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth

 

8.

Cais Rhif C24/0532/25/LL Tir ger Pentir Substation, Pentir, Bangor, LL57 4ED pdf eicon PDF 239 KB

Cyfleuster Storio Ynni Arfaethedig, mynediad cysylltiedig, tirweddu, seilwaith, offer ategol, gyda chynhwysedd mewnforio ac allforio cysylltiad grid o 57MWac. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau’r Uned Trafnidiaeth a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd  a’r amodau isod:

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.    Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.

4.    Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

5.    Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu Amgylcheddol i’r ACLL cyn dechrau

6.    Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu.

7.    Cytuno gyda gorffeniadau allanol y strwythurau.

8.    Sicrhau enw Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.

9.    Cytuno rhaglen waith Archeolegol

10.  Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol

11.  Amodau Trafnidiaeth a Gwarchod y Cyhoedd fel bo angen

12.  Rhaid adfer y safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod i ben

Nodiadau:     

Uned Dŵr ac Amgylchedd

Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd

 

Cofnod:

Cyfleuster Storio Ynni Arfaethedig, mynediad cysylltiedig, tirweddu, seilwaith, offer ategol, gyda chynhwysedd mewnforio ac allforio cysylltiad grid o 57MWac.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau gan yr Uned Trafnidiaeth

a)     Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn oedd dan sylw ar gyfer gosod a gweithredu System Storio Ynni Batri, oedd yn cynnwys unedau storio ynni, is-orsaf drydan, mynediad i’r safle, tirlunio a seilwaith ategol ar dir i’r gorllewin o is-orsaf drydan presennol Pentir. Tynnwyd sylw at holl elfennau’r cais gan nodi y byddai’r bwriad yn galluogi gwneud defnydd effeithiol o’r ynni cynaliadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn barod. Ategwyd y byddai cysylltiad cebl tanddaearol i'r grid trydan yn cael ei sicrhau trwy gais cynllunio ar wahân.

 

Adroddwyd bod y safle’n cynnwys 2.57 hectar o dir pori garw mewn safle Cefn Gwlad Agored y tu allan i unrhyw ffin datblygu ac oherwydd maint y safle, eglurwyd bod yr  ymgeisydd wedi ymgymryd ag ymgynghoriad cyn cyflwyno cais fel sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad a ddiffinnir fel un mawr gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod y datblygiad wedi’i sgrinio ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol ac ystyriwyd byddai’r effaith  ar yr amgylchedd yn annigonol i gyfiawnhau cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda’r cais.

 

Cyfeiriwyd at ymateb a sylwadau'r Uned Priffyrdd yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad mewn egwyddor yn ddarostyngedig i sicrhau fod asesiad o gyflwr y ffordd yn cael ei gwblhau cyn ac ar ôl y gwaith adeiladu, a bod Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael eu cyflwyno a’u cymeradwyo.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod cyfiawnhad wedi ei roi yn y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad dros leoli’r adnodd yn y man a fwriedir yn seiliedig ar agosatrwydd Is-orsaf Pentir a’r  cymhlethdod a’r effaith ar y dirwedd o osod ceblau i gysylltu rhwng y storfa batris a’r rhwydwaith Grid Cenedlaethol ac felly’n cwrdd â gofynion Polisi Cyff 1 - bod y lleoliad yn addas. Ategwyd bod Polisi ISA 1 hefyd yn gefnogol o gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl ac yn nodi pwysigrwydd bod y ddarpariaeth isadeiledd ar gyfer safle datblygu yn cael ei leoli a’i ddylunio mewn modd sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig. Drwy osod y datblygiad ar y safle yma yn agos i’r is-orsaf bresennol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol.

 

Cydnabuwyd y byddai peth aflonyddwch yn ystod y cyfnod gwaith a fydd yn parhau am oddeutu 12 mis, ond wedi hynny, bydd y safle yn cael ei reoli o bell ac ni fydd presenoldeb ar y safle oni bai yn achlysurol ar gyfer cynnal a chadw.

 

Ar sail y wybodaeth oedd wedi ei gyflwyno ystyriwyd fod yr holl effeithiau wedi eu lliniaru’n ddigonol, ac na fyddai’r cynnig yn niweidiol i fwynderau gweledol, i unrhyw effeithiau annerbyniol ar ddefnyddiau sensitif cyfagos, nag ansawdd dwr; y  lleoliad wedi ei gyfiawnhau heb effaith cronnus annerbyniol ar y dirwedd gyda’r cyfarpar yn cael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C24/0205/32/LL Tir ger Cae Capel, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RE pdf eicon PDF 320 KB

Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiol  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Cyfeirio i gyfnod cnoi cil

Rhesymau:                                                                                                     

·         Effaith niweidiol i’r Iaith Gymraeg

·         Diffyg angen o fewn ward Botwnnog am dai fforddiadwy

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiol

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau ychwanegol oedd yn cyfeirio at ohebiaeth ychwanegol a dderbyniwyd yn codi pryder am faterion a godwyd yn yr adroddiad.

Bu i rai o’r Aelodau ymweld â’r safle 16-07-24

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ fforddiadwy oedd yn cynnig byngalos, darparu mynedfa newydd oddi ar y prif lon sy’n rhedeg trwy’r pentref, creu ffordd stad a llwybrau cerdded mewnol, creu ardaloedd wedi’u tirlunio a llecynnau chwarae agored, codi waliau a ffensys ffin a gwaith draenio gan gynnwys ardal draenio dŵr wyneb cynaliadwy

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, adroddwyd bod y ffigyrau tai diweddaraf yn dangos fod capasiti o fewn y cyflenwad dangosol tai ar gyfer yr anheddiad. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn y ffin ddatblygu ac wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer adeiladu 21. Eglurwyd, gyda’r bwriad wedi ei glustnodi ar gyfer nifer penodol o dai, roedd angen cyfiawnhad am ddarpariaeth lai. Yn achos y cais yma, roedd y ddarpariaeth yn llai oherwydd yr angen am ddarpariaeth o lecyn chware a man agored a thir i ddarparu sustem draenio tir cynaliadwy ac felly ystyriwyd fod cyfiawnhad am nifer llai o dai.

 

Er bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn ar sail gor-ddatblygiad, o ystyried fod y cais ar gyfer nifer llai na’r hyn sy’n cael ei ddynodi, y bwriad yn 100% tai fforddiadwy,  bod arwynebedd llawr y tai yn gyfyngedig i safon tai fforddiadwy, bod darpariaeth o lecynnau agored o fewn y safle, ni ystyriwyd bod tystiolaeth o unrhyw or-ddatblygiad.

 

Ategwyd, yn unol â Pholisi TAI 8 derbyniwyd datganiadau a thystiolaeth yn nodi’r rhesymeg y tu ôl i’r gymysgedd tai a gynigiwyd ynghyd a chadarnhad gan yr Uned Strategol Tai yn nodi y byddai’r tai yn cyfrannu yn uniongyrchol at nod Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel bresennol yn y Sir, wrth nodi hefyd bod y cynllun yn cynnig cymysgedd da o dai.

 

Nodwyd bod y CDLl yn cydnabod pentref Botwnnog fel Pentref Gwasanaeth a’r CCA Tai Fforddiadwy yn nodi bod ‘lleol’ yn cyfeirio at gysylltiad 5 mlynedd gyda’r Awdurdod perthnasol lle mae’r cais wedi’i leoli. Bydd hyn felly’n golygu ardal cynllunio Gwynedd yn ei gyfanrwydd. Mynegwyd bod nifer o sylwadau wedi eu derbyn yn cwestiynu’r angen am y nifer tai, a’r math o dai, ond eglurwyd bod statws Botwnnog yn y CDLl yn golygu mai tai newydd ar gyfer gwasanaethu Gwynedd yn ei gyfarwydd sydd yn ddisgwyliedig ar gyfer y safle yma. Cyfeiriwyd at ffigyrau’r Uned Strategol Tai oedd yn nodi bod 2374 o ymgeiswyr wedi eu cofrestru ar y gofrestr Opsiynau Tai am Eiddo cymdeithasol, gyda 882 o ymgeiswyr wedi cofrestru gyda Tai Teg am eiddo Canolraddol ac er bod rhai ymgeiswyr yn gallu bod ar y ddwy gofrestr, roedd y ffigyrau yn profi’r angen diamheuol am dai fforddiadwy yn ardal cynllunio Gwynedd.

 

Yng nghyd-destun Polisi TAI 15 gofynnir am leiafswm tai fforddiadwy,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C24/0478/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG pdf eicon PDF 196 KB

Creu balconi allanol cefn gyda sgrin preifatrwydd  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad

Rheswm: Gwrthod ar sail gor-edrych, effaith ar gymdogion – yn groes i bolisi PCYFF 2

 

Cofnod:

Creu balconi allanol cefn gyda sgrin preifatrwydd

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais dan sylw ar gyfer creu ardal balconi allanol llawr cyntaf ar gefn yr eiddo, uwchben estyniad to fflat presennol. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Morfa Nefyn ac o fewn ardal breswyl, a’r cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod mwyafrif o ardal y to fflat presennol ar gefn yn eiddo yn cynnwys to ‘sedum’ sefydledig ac wedi ei orchuddio a phlanhigion, ac nad oedd bwriad defnyddio’r ardal yma i gyd fel ardal balconi allanol. Ategwyd bod wal barhaol bresennol o gwmpas 1.6m o uchder yn ymestyn 1.8m allan o brif wal gefn y tŷ uwchben yr estyniad to gwastad presennol, a’r bwriad fyddai creu’r ardal balconi allanol tu ôl i’r wal yma. Nodwyd bod bwriad darparu sgrin gwydr afloyw parhaol yn ymestyn 1.7m tu hwnt i’r wal at ymyl pellaf yr estyniad to gwastad presennol gyda chanllaw gwydr clir yn cael ei osod o ymyl y wal ar draws y to am oddeutu 4m o hyd gan gysylltu gyda sgrin gwydr afloyw arall 2.9m o hyd byddai’n cysylltu yn ôl at wal gefn yr adeilad fel ei fod y cyfyngu’r ardal allanol tu cefn i’r wal bresennol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail dyluniad a graddfa a’i leoliad uwchben rhan o do fflat presennol ar gefn yr eiddo. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli rhwng tai preswyl deulawr eraill gyda chaeau amaethyddol agored i’r cefn.

 

Wrth ystyried mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod lleoliad y datblygiad arfaethedig yng nghornel y to presennol, gyda wal barhaol bresennol yn ymestyn yn rhannol ar hyd y to. Ni fyddai’r ardal balconi bwriedig yn ymestyn tu hwnt i’r wal yma ac fe gyfyngir ar y gallu i fynd tu hwnt i ben y wal drwy osod canllaw gwydr parhaol ar draws ardal y to. Ategwyd bod bwriad gosod sgrin o wydr afloyw fyddai’n ymestyn allan o’r wal bresennol i ben draw’r do fflat presennol, ynghyd ac ochr arall yr ardal balconi bwriedig. Byddai hyn yn golygu bod unrhyw or-edrych tuag at yr eiddo bob ochr yn gyfyngiedig iawn i fannau pellaf y cwrtilau bob ochr. Ystyriwyd fod y sgriniau o wydr afloyw hefyd yn gwarchod prif rannau gerddi'r eiddo bob ochr; ardal breswyl sefydledig a chymharol ddwys sydd yma ble mae gerddi yn ymylu a'i gilydd, a ffenestri yn gor-edrych a tharfu presennol yn anorfod o ganlyniad. Ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn amharu ar fwynderau preswyl eiddo cyfagos i raddau sylweddol annerbyniol.

 

Tynnwyd sylw nad oedd y bwriad am falconi wedi ei wrthod ar yr eiddo yma gydag esboniad mai’r ymgeisydd oedd wedi dileu’r elfen balconi o gais blaenorol yn wirfoddol.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac felly argymhellwyd caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol

·       Er mai Tŷ Pen yw enw’r t  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.