Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd ar gyfer 2026/27. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5ed Mawrth, 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o
dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-28 - ADOLYGIAD 2026/27 Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MABWYSIADU STRATEGAETH DATBLYGU ECONOMAIDD NEWYDD I WYNEDD Cyflwyno adroddiad Yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned. Dogfennau ychwanegol:
|
|
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned. Dogfennau ychwanegol:
|
|
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2026/27 Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2026/27. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: |
|
|
PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU - ARGYMHELLION PANEL CYFWELD Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG A) RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD EINIR WILLIAMS Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Einir Williams yn cynnig fel a ganlyn:- Amddiffyn Enwau Lleoedd Cymraeg ar Fapiau’r
Arolwg Ordnans Dwi eisiau mynegi pryder dwfn ac angerddol ynghylch polisi presennol yr Arolwg Ordnans (AO) sy’n arwain at ddileu, tanseilio ac anwybyddu enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi bod yn rhan o’n tirwedd ers canrifoedd. Ar hyn o bryd, mae mapiau Arolwg Ordnans yn: · Disodli enwau Cymraeg hanesyddol â ffurfiau Saesneg nad oes ganddynt sail na thraddodiad, e.e. The Mushroom Garden am Goed Cerrig y Frân, Heather Terrace Path am Lwybr Gwregys. · Rhoi enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg, gan greu’r argraff bod yr enwau Cymraeg yn ddewisol neu’n eilradd, e.e. Cwm Cneifion / Nameless Cwm, Bala Lake / Llyn Tegid. ‘Snowdon/Yr Wyddfa (er gwaethaf y ffaith nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio'r enw Snowdon bellach.)' Mae’r Cyngor hwn yn beirniadu’r arferion hyn, gan eu bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at golli enwau Cymraeg, ac felly’n tanseilio ein hiaith, ein hanes a’n hunaniaeth genedlaethol. Pan fo’r Arolwg Ordnans yn mabwysiadu enw Saesneg, mae’n ymddangos ar wefannau, arwyddion, cyhoeddiadau, a’r cyfryngau ac o ganlyniad, mae’r enw Cymraeg yn cael ei wthio i’r cysgod. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc, sydd yn aml yn cael eu harwain i gredu mai’r enw Saesneg yw’r “safonol”. Dyma sut mae iaith yn cael ei gwanhau, nid mewn un ergyd, ond mewn mil o gamau bach. Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o’n DNA diwylliannol. Maent yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Nid oes gan neb hawl i’w dileu na’u disodli. Felly, dwi eisiau rhoi cynnig i’r cyngor hwn heddiw ein bod ni yn : 1. Ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans i alw arnynt i roi diwedd ar y polisi niweidiol presennol, ac i fabwysiadu egwyddor glir a syml a defnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru. 2. Galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol ac i sicrhau bod yr Arolwg Ordnans yn parchu ac yn diogelu enwau Cymraeg hanesyddol. Nid yw hyn yn fater o fapiau yn unig. Mae’n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol. B) RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a
ganlyn:- Mae’r Cyngor yn nodi llofruddiaeth yr Aelod Seneddol, Jo Cox ar 16/06/2016, ddeng mlynedd yn ôl eleni. (Bu i’r AS David Amess hefyd gael ei lofruddio ar 15/10/2021). Mewn byd sy’n gynyddol dreisgar ac ymosodol, trist yw’r ffaith bod aelodau etholedig, o bob plaid ac ar bob lefel o lywodraeth, yn gynyddol agored i sarhad a chamdriniaeth. Dengys ymchwil diweddar fod 72% o Gynghorwyr wedi dioddef ryw fath o fygythiad - boed yn eiriol neu’n waeth - yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae’r Cyngor hwn yn ... view the full Rhaglen text for item 15. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 5 Mawrth, 2026 o’r Cyngor ynglŷn a System Adnabod Digidol. Dogfennau ychwanegol: |