Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Endaf Cooke, Trevor Edwards, Jean Forsyth, Chris Hughes, Dyfrig Jones, Mair Rowlands, Gareth
Thomas, Eirwyn Williams, Gethin Glyn Williams a John Wyn Williams. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2015 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Hydref,
2015 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog
Monitro ynglŷn â’r eitemau canlynol:- Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2016/17 (eitem 9 ar y rhaglen) Treth Cyngor: Disgresiwn i ganiatáu disgowntiau – 2016/17 (eitem 10 ar
y rhaglen) Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003 (eitem 11
ar y rhaglen) Rhoddwyd
arweiniad ar lafar i’r aelodau ynglŷn â’r eitem
ganlynol:- Dyfodol S4C (eitem 14 ar y rhaglen). (1) Datganodd y Cynghorydd Linda
Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau
Treth Cyngor 2016/17 oherwydd ei bod yn rhedeg cwmni Seren, sy’n cael
gostyngiad treth cyngor. ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. (2) Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl
Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau – 2016/17, am y rhesymau a nodir:- ·
Y
Cynghorydd Mandy Williams-Davies - oherwydd bod ei
gŵr yn berchen ar eiddo gwag drwy etifeddiaeth. ·
Y
Cynghorydd Wyn Williams - oherwydd ei fod yn gydberchennog eiddo sydd yn wag yn
Nhalafon, Abersoch. ·
Y
Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn
rhedeg cwmni Seren, sy’n cael gostyngiad treth cyngor. ·
Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sy’n wag. ·
Y
Cynghorydd Beth Lawton – oherwydd ei bod yn bwriadu cyflwyno cais am ddisgownt
Treth Cyngor y flwyddyn nesaf gan mai hi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo
erbyn hyn. ‘Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. ·
Y
Cynghorydd Gwen Griffith – oherwydd ei bod yn Gadeirydd Mantell Gwynedd sy’n cynrychioli
mudiadau sy’n ceisio disgownt treth y Cyngor am eu bod yn elusennau. Nid oedd yr aelod
o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a
chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem. (3) Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol yn eitem 11 ar y rhaglen – Adolygu Datganiad o
Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003, am y rhesymau a nodir:- ·
Y
Cynghorydd Selwyn Griffiths – oherwydd ei fod ar gorff rheoli Canolfan
Porthmadog. ·
Y
Cynghorydd Ioan Thomas – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr mewn adeilad sydd â
thrwydded gwerthu alcohol. ·
Y
Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Clwb Rygbi Dolgellau. ·
Y
Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr Clwb Trwyddedig y
Tŵr, Trefor. ·
Y
Cynghorydd Stephen Churchman – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd
Bentref Garndolbenmaen. ·
Y
Cynghorydd Sion Jones – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Neuadd Bethel. ·
Y
Cynghorydd Aeron Jones – oherwydd ei fod yn Aelod o Bwyllgor Neuadd Felinwnda. ·
Y
Cynghorydd Eric Merfyn Jones – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Neuadd
Groeslon. ·
Y
Cynghorydd Jason Humphreys – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Rheoli
Canolfan Porthmadog. · Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn rhedeg gwesty sy’n cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Croeso Croesawyd y Cynghorwyr Aled Wyn
Jones, Gareth Anthony Roberts a Hefin Underwood i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor. Croesawyd y Cynghorwyr Louise
Hughes, Linda Morgan a Peter Read yn ôl yn dilyn
anhwylder diweddar. (2) Llongyfarchiadau Llongyfarchwyd Ffermwyr Ieuainc Meirionnydd ar gynnal Eisteddfod Genedlaethol Ffermwyr Ieuainc Cymru eleni yn
Aberystwyth. Hefyd,
llongyfarchwyd Ffermwyr Ieuainc Meirionnydd a Ffermwyr Ieuainc Eryri ar
ddod yn gydradd
ail a diolchwyd i bawb am eu gwaith caled
ar ran ieuenctid y sir. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn
unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig
dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim |
|
CWESTIYNAU Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd
y Cadeirydd ei fod yn annog aelodau, os ydynt yn dymuno derbyn gwybodaeth yn
unig, i gysylltu yn uniongyrchol gydag adrannau. (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams (Eglurodd yr aelod
fod pwyllgor o Unllais Cymru wedi gofyn iddo
gyflwyno’r cwestiwn oherwydd eu bod wedi methu cael gwybodaeth gan y Cyngor.) “Ydi’r Awdurdod Priffyrdd wedi sylweddoli beth yw effaith eu polisi
newydd o ofyn i gynghorau tref a chymuned gymryd drosodd a / neu dalu am
lenwi’r biniau halen yn eu wardiau?” Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd (Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.) “Gan fod y cynghorydd wedi egluro pam mae’n gofyn y cwestiwn, mi fuaswn
yn awgrymu iddo y gallai fod wedi cysylltu â’r adran
a byddai wedi cael yr un esboniad ag sydd yn yr ateb ysgrifenedig. Mae hyn yn rhan o’r arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd yn Rhagfyr 2014
ac mae hynny’n rhywbeth i ni ei ystyried.” Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eryl
Jones-Williams “Wnewch chi ail
ystyried hyn a chael trafodaeth iawn hefo’r
cynghorau?” Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd “’Rydym ni fel
Adran wedi gyrru llythyr at bob cyngor cymuned, tref a phlwy, ac wedi gofyn
iddynt ystyried hyn a dod yn ôl atom.
Mae hynny’n rhywbeth y gallent wneud o hyd ac
mae hynny yn agored o hyd ac ‘rwy’n falch o ddweud bod llawer o gynghorau
cymuned wedi manteisio ar hyn ac wedi dod yn ôl atom ac mae ‘na drafodaeth wedi
digwydd. Felly byddwn yn annog pob aelod
sydd yma sy’n aelod o gyngor cymuned i wneud yr un peth, fel eu bod yn mynd yn
ôl at yr Adran Briffyrdd ac yn mynegi eu barn.
Mae rhai wedi gwneud hynny’n barod ac wedi ei
drafod yn ddwys. Mae hynny’n
golygu ein bod yn mynd i arbed £100,000 y flwyddyn sy’n swm nid ansylweddol ac
mi fuaswn yn awgrymu mai dyna’r ffordd i gario ‘mlaen.” (2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones “Be
yw'r sefyllfa bresennol o gadw Pont Aber, Caernarfon yn agored?” Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd (Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.) Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones “Fedrwch chi
gadarnhau i mi, os ydi’r bont yma’n mynd drosodd i
Ymddiriedolaeth yr Harbwr, bod yr amodau yn aros yr un fath, bod y staff yn
saff yn eu gwaith ac na fydd yr Ymddiriedolaeth yn codi toll ar y bont?” Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd “Yn anffodus, mae’r trafodaethau yn mynd ymlaen, ac ar hyn o bryd ni allaf roi unrhyw warant i’r aelod o gwbl. Yr unig beth fedraf ddweud yw bod hwn yn un o hyd at hanner cant o bethau sydd dan ystyriaeth hefo Her Gwynedd. ‘Rwy’n falch ofnadwy ei fod yn dangos digon o ddiddordeb yn Her Gwynedd ac yn y mater yma ac ‘rwy’n gobeithio y bydd yn dangos yr un diddordeb yn y bron i hanner ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHOI'R DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT AR WAITH Derbyn cyflwyniad
gan yr Aelod Cabinet Gofal. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd y cyd-destun gan egluro mai
pwrpas yr eitem hon oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sy’n dod yn weithredol o Ebrill
2016. Nododd fod y ddeddf yn eang iawn
ac yn cynnwys egwyddorion hynod bwysig, ond y bwriedid canolbwyntio ar un elfen
o’r maes yn unig yn y cyfarfod hwn, sef y gwaith o gefnogi pobl gydag
anableddau dysgu. Rhoddodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyniad i’r
ddeddf ac o ran rhoi’r ddeddf ar waith, gan nodi:- ·
Bod y ddeddf yn ymateb i newidiadau demograffig
enfawr a’r galw cynyddol ar wasanaethau gofal mewn cyfnod pan mae’r wasgfa
ariannol yn hynod heriol. ·
Bod
hwn y math o newid sydd ond yn digwydd mewn cenhedlaeth gan fod y newidiadau
mor sylfaenol a phell gyrhaeddol, ond ei fod yn
cynnig llawer o gyfleoedd i ail-edrych ar y mathau o wasanaethau sy’n cael eu
darparu gan y Cyngor a’i bartneriaid. ·
Mai
un newid sylfaenol yw’r llais a’r rheolaeth mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi i
unigolion drwy roi anghenion a dymuniadau unigolion yn ganolog i bopeth. ·
Bod
pwyslais hefyd ar atal, ymyrryd yn gynnar, cyd-gynhyrchu yn ogystal â’r elfennau amlasiantaethol. ·
Bod yr holl newidiadau hyn yn golygu cryn newid mewn
diwylliant a’i fod yn mynd i gymryd amser i gyrraedd y nod a’r disgwyliadau
sydd gan y Llywodraeth ohonom. ·
Mai bwriad yr eitem oedd cyflwyno fideo i’r aelodau
o’r gwaith dyddiol yng Nghynllun Cymunedol Arfon yn Frondeg,
fel enghraifft o waith sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ac ysbryd y ddeddf newydd,
ond sydd hefyd yn amlygu bod yna waith dal i fyny mewn lleoliadau eraill. ·
Ei fod yn falch o groesawu Andrew Guy, Goruchwylydd Gofal Dydd yn Frondeg
a’i gyd-weithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth i’r cyfarfod. ·
Bod angen i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r
newidiadau a’r effaith o ran y gwasanaethau a chyfeiriwyd at sesiwn
hyfforddiant a drefnwyd ar eu cyfer yn Ysbyty Alltwen ar fore’r 21ain o Ionawr. Fel yr uwch reolwr â chyfrifoldeb am y maes penodol sy’n cael sylw yn y fideo,
rhoddodd yr Uwch Reolwr Gweithredol gefndir o’r gwaith a’r meddylfryd y tu cefn
iddo. Yna, bu i’r Cynghorydd Lesley Day ddweud gair o ran ei phrofiad hi pan
ddangoswyd y fideo hwn mewn cynhadledd yng Nghaernarfon,
gan nodi iddi wneud cais am gyflwyno’r fideo i’r Cyngor llawn. Yn dilyn gweld y
ffilm, diolchodd y Cadeirydd i Andrew Guy a’r tîm yng
Nghynllun Cymunedol am eu holl waith. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Mynegwyd
gwerthfawrogiad ac edmygedd mawr o waith y tîm. ·
Nodwyd, er ei bod yn amlwg bod defnyddwyr y
gwasanaeth yn gallu defnyddio eu mamiaith yn y ganolfan, bod y cydbwysedd
ieithyddol ar y fideo yn fater o bryder. ·
Na wnaed unrhyw sylw yn y cyflwyniad ynglŷn ag
allanoli er bod y ddeddf yn sôn am hynny hefyd. Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd:- · Nad oedd y gwaith hwn yn unigryw, a bod yna waith da yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2016/17 PDF 144 KB Ystyried adroddiad y
Pennaeth Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet – Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd,
Amddifadedd a Chydraddoldeb adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y
Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Cyngor am
y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2016. PENDERFYNWYD (a) Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor
am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2016 fel ag yr oedd yn ystod 2015/16. Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: (i) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau
anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr
oed gweithio fel ei gilydd. (ii) Peidio
cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith
o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig. (iii) Peidio
cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis
safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig. (b) Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth
Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cwsmer a
Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb, i wneud mân addasiadau i’r cynllun
am 2016/17, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun. |
|
TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU - 2016/17 PDF 193 KB Ystyried adroddiad y
Pennaeth Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn gofyn am gadarnhad
ffurfiol am 2016/17 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i
ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag. PENDERFYNWYD (a) Bod Cyngor Gwynedd ar gyfer 2016/17 yn caniatáu
DIM disgownt yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
i’r ddau ddosbarth o ail gartrefi (dosbarthiadau A a
B) fel y diffinnir yn Rheoliadau Treth Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o
Anheddau) (Cymru) 1998. (b) Bod Cyngor Gwynedd ar gyfer 2016/17 yn
caniatáu DIM disgownt yng nghyswllt eiddo gwag (dosbarth C). |
|
ADOLYGU DATGANIAD O BOLISI TRWYDDEDU - DEDDF TRWYDDEDU 2003 PDF 142 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn
i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad o Bolisi Trwyddedu newydd, yn unol ag Adran 5 o
Ddeddf Trwyddedu 2003. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Holwyd a oedd y ffioedd ychwanegol sy’n rhaid i
ddigwyddiadau hynod o fawr eu talu yn cyfeirio at eisteddfodau hefyd (tudalen 24 o’r polisi). Atebodd yr Aelod Cabinet fod y lefelau
ffioedd wedi’u haddasu ar gyfer y siroedd unigol, ond y gallai ddod yn ôl at yr
aelod ar y pwynt penodol hwn. ·
Nodwyd nad oedd y polisi’n cyfarch y pryder
ynglŷn â’r gost ar y trethdalwyr o ganlyniad i
ddiffyg rheolaeth ar werthu alcohol yn ein trefi a’n cymunedau a nodwyd ei bod
yn bwysig bod y neges yn cael ei phasio ymlaen i’r sawl sy’n llunio’r
ddeddfwriaeth yma. Atebodd yr Aelod
Cabinet fod y polisi drafft wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu a bod
pob cais am drwydded i werthu alcohol yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant
gan yr is-bwyllgor pwrpasol. ·
Diolchwyd i staff yr uned am eu holl waith caled
dros y misoedd diwethaf. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu newydd. |
|
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 134 KB Ystyried adroddiad y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y cyd-destun, gan egluro:- ·
Bod yr adroddiad oedd gerbron y tro hwn ychydig yn
wahanol i’r arferol oherwydd bod gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif clir ar y
Cyngor erbyn hyn. ·
O weithredu’r rheolau sy’n ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol
yn llawn, byddai gan Grŵp Plaid Cymru yr hawl i gael mwyafrif ar bob
pwyllgor unigol, ond cytunwyd mewn cyfarfod o’r Grŵp Busnes y dylid ceisio
rhoi sylw i arbenigedd a phrofiad, yn hytrach na gweithredu’r rheolau yn
haearnaidd ym mhob achos. ·
O ganlyniad, ‘roedd yr argymhellion yn yr adroddiad
yn cynnwys tri phwyllgor lle nad oedd gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif, sef y
Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth a’r Cyd-Bwyllgor
Addysg Anghenion Arbennig. ·
Er mwyn cymeradwyo’r argymhellion, a hynny oherwydd
nad oedd y rheolau’n cael eu gweithredu’n llawn, byddai’n rhaid i’r Cyngor eu
cymeradwyo’n ddiwrthwynebiad. Fel arall,
byddai’n rhaid cyflwyno ffigurau diwygiedig i’r Cyngor a olygai y byddai’r
grwpiau Annibynnol, Llais Gwynedd a Llafur yn colli ymhellach ar rai
pwyllgorau. Nododd ymhellach:- ·
Y derbyniwyd rhybudd yn ystod y cyfarfod fod y
Cynghorydd Louise Hughes yn ymuno â’r Grŵp Annibynnol ac erfyniwyd ar y
grwpiau i gyflwyno’r math yma o rybuddion yn llawer cynt yn y dyfodol. ·
Mai canlyniad y newid ar y cydbwysedd gwleidyddol ac
argymhellion yr adroddiad oedd bod y Grŵp Annibynnol yn ennill dwy sedd, y
naill ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r llall ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog,
a hynny ar draul yr aelodau unigol, ond gan mai’r Cynghorydd Louise Hughes oedd
yr aelod unigol ar y ddau bwyllgor dan sylw, nid olygai unrhyw newid pellach yn
aelodaeth y pwyllgorau hynny. Rhoddodd yr Arweinydd esboniad pellach, gan nodi:- ·
Bod gan bob aelod, ar draws yr holl grwpiau
gwleidyddol gyfraniad i’w wneud a gyda phrin 16 mis tan yr etholiadau
llywodraeth leol nesaf, y cytunwyd y dylid parhau gyda’r diwylliant o
gydweithio ac o weld cyfraniadau yn dod ar draws y sbectrwm gwleidyddol. ·
Y golygai hynny fod pwysau ar yr holl aelodau i
bresenoli eu hunain mewn cyfarfodydd. ·
Bod
angen edrych eto ar ddyraniad y seddau ar y Pwyllgor Pensiynau gan fod yr aelod
o’r Grŵp Llafur fyddai’n colli ei sedd ar y pwyllgor wedi derbyn
hyfforddiant yn y maes. Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig. Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y
cynnig:- O blaid y cynnig: (58) Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Annwen Daniels, Anwen Davies, Lesley Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis, Alan Jones Evans, Aled Evans, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllian, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles W.Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, W.Roy Owen, William Tudor Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W.Gareth Roberts, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR PDF 209 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y Cadeirydd nad oedd angen i’r Cyngor drafod yr
eitem hon gan fod yr aelod dan sylw, sef y Cynghorydd Peter Read, wedi medru
bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn. |
|
DYFODOL S4C Ystyried ymateb gan y Cyngor
i gyhoeddiad diweddar y Canghellor. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Eric Merfyn
Jones, yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon, oherwydd buddiant y Cadeirydd. Ystyriwyd – ymateb gan y Cyngor i’r cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref y
Canghellor y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y
Cyfryngau a Chwaraeon yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20. Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun gan awgrymu fod llythyr ar y llinellau
a ganlyn yn cael ei anfon at Edward Vaizey, AS,
Gweinidog yn Adran Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San
Steffan:- “Yn ogystal â bod yn sefydliad sy’n hanfodol i dwf yr
iaith Gymraeg, mae S4C hefyd wedi gwneud cyfraniad allweddol i economi Gwynedd
am dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae
Cyngor Gwynedd yn dymuno mynegi ei wrthwynebiad cryf
i’r toriad diweddar yn y cyllid mae S4C yn dderbyn gan Lywodraeth San
Steffan. ‘Rydym hefyd yn pwyso ar y
Llywodraeth a’r Gweinidog, Edward Vaizey, ac
ymddiriedolwyr y BBC, i ddod i gytundeb buan ar y cyllid mae S4C yn dderbyn o
ffi’r drwydded. Ni fyddai’n dderbyniol
torri ar y swm mae S4C yn dderbyn ar hyn o bryd o ffi’r drwydded a dylid rhoi
ymrwymiad cyllidol i’r sianel sy’n cyfateb â chyfnod siarter newydd y BBC.” Croesawyd yr
awgrym a chymeradwywyd geiriad y llythyr arfaethedig, gyda dau ychwanegiad:- ·
Y dylid nodi, yn ogystal â bod yn sefydliad sy’n
hanfodol i dwf yr iaith Gymraeg, bod S4C hefyd yn hanfodol i gynaladwyedd ein
cymunedau Cymraeg eu hiaith. ·
Y dylid nodi nad yw darlledu yn faes sydd wedi’i
ddatganoli ar hyn o bryd, ond mai barn y Cyngor hwn yw y dylid datganoli
darlledu fel mater polisi i’w benderfynu gan Lywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD anfon
llythyr at Edward Vaizey, AS, ar y llinellau a nodir
uchod. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Mandy
Williams-Davies yn cynnig fel a ganlyn:- “Mae Cyngor
Gwynedd yn cydnabod y berthynas adeiladol a’r cyfraniad mae Undebau a’u
haelodau yn ei wneud yn y gweithlu a’u hymrwymiad i gynnig safon uchel o
wasanaeth cyhoeddus. ‘Rydym felly yn gwrthwynebu’r mesur undebau llafur a
gyflwynwyd yn ddiweddar. Mae’r mesur yn golygu cyflwyno trothwy pledleisio uwch ar gyfer streicio; tynhau’r rheolaeth dros
bicedu, cyfathrebu cymdeithasol a sut y caiff tanysgrifiadau i undebau ei gasglu. Ystyria’r
Cyngor hwn fod rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym
meysydd iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd oherwydd fod gan y D.G.
rai o’r cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd. Galwaf ar
Gyngor Gwynedd i ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn
nodi ein bod yn gwrthwynebu’r mesur.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Mandy
Williams-Davies, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i
eiliwyd. “Mae Cyngor
Gwynedd yn cydnabod y berthynas adeiladol a’r cyfraniad mae Undebau a’u
haelodau yn ei wneud yn y gweithlu a’u hymrwymiad i gynnig safon uchel o
wasanaeth cyhoeddus. ‘Rydym felly yn gwrthwynebu’r mesur undebau llafur a
gyflwynwyd yn ddiweddar. Mae’r mesur yn
golygu cyflwyno trothwy pleidleisio uwch ar gyfer streicio; tynhau’r rheolaeth
dros bicedu, cyfathrebu cymdeithasol a sut y caiff tanysgrifiadau i undebau ei gasglu. Ystyria’r Cyngor
hwn fod rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd
iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd oherwydd bod gan y D.G. rai o’r
cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd. Galwaf ar Gyngor Gwynedd
i ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn nodi ein bod yn
gwrthwynebu’r mesur.” Cefnogwyd y
cynnig. Nodwyd bod hawliau
gweithwyr yn cael eu tanseilio’n ormodol a chynigiwyd
ac eiliwyd i gryfhau’r ail baragraff drwy addasu’r geiriad fel a ganlyn:- “Ystyria’r Cyngor hwn fod rheolaeth o’r fath
yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd iechyd, addysg a
gwasanaethau cyhoeddus craidd ac yn tanseilio’r egwyddor o gydfargeinio,
sy’n un o amcanion sefydlol mudiad yr Unedau Llafur yn y D.G., sydd â rhai
o’r cyfreithiau Unedau Llafur mwyaf llym yn y byd.” Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd
y Cyngor a’r eilydd. Pleidleisiwyd ar y
cynnig diwygiedig, ac fe gariodd. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i
addasu fel a ganlyn:- “Mae Cyngor
Gwynedd yn cydnabod y berthynas adeiladol a’r cyfraniad mae Undebau a’u
haelodau yn ei wneud yn y gweithlu a’u hymrwymiad i gynnig safon uchel o
wasanaeth cyhoeddus. ‘Rydym felly yn gwrthwynebu’r mesur undebau llafur a
gyflwynwyd yn ddiweddar. Mae’r mesur yn
golygu cyflwyno trothwy pleidleisio uwch ar gyfer streicio; tynhau’r rheolaeth
dros bicedu, cyfathrebu cymdeithasol a sut y caiff tanysgrifiadau i undebau ei gasglu. Ystyria’r Cyngor hwn fod
rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd iechyd,
addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd ac yn tanseilio’r egwyddor o
gydfargeinio, sy’n un o amcanion sefydlol mudiad yr Undebau Llafur yn y D.G.,
sydd â rhai o’r cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd. Galwaf ar Gyngor Gwynedd
i ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn nodi ein bod yn
gwrthwynebu’r mesur.” |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sian Gwenllian Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Siân Gwenllian yn
cynnig fel a ganlyn:- “Mae’r Cyngor
hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau
cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud
toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid
toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid;
rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond rydym yn ceisio gweithredu
mor deg a thryloyw a phosib o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha hyn rydym yn
parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r
dyfodol.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (b) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Siân Gwenllian, dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd. “Mae’r Cyngor hwn
yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau
cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud
toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond
toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n
gyrru'r toriadau, ond ‘rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib’
o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha
hyn ‘rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu
llwyddiant i’r dyfodol.” Cefnogwyd y cynnig. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Adnoddau at gyhoeddiad y
Gweinidog y diwrnod cynt ynglŷn â setliad 2016/17 gan bwysleisio nad oedd
yna unrhyw le i ymhyfrydu yn y sefyllfa gan fod y Cyngor yn wynebu 2% o doriad
yn ei gyllideb yn 2016/17, ac felly’n parhau yn y
sefyllfa o orfod canfod tua £7m o doriadau yn y flwyddyn nesaf. ·
I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y Gweinidog wedi datgan,
er y toriadau erchyll gan Lywodraeth San Steffan, na fyddai’r setliad i
gynghorau mor ddrwg ag a ragwelwyd ac y mawr hyderid na fyddai Addysg, y
Gwasanaethau Cymdeithasol nac adrannau eraill ar draws y Cyngor yn wynebu
cymaint o doriad. ·
Awgrymwyd nad ffigur ddoe oedd yr un pwysig, eithr y
ffigur cronnus, a bod llywodraeth leol wedi derbyn toriad o 16% yn ei gyllideb
ers 2009. ·
Nodwyd, yn ogystal â thoriadau, bod y Cyngor yn
wynebu newidiadau mawr, megis dyfodiad y Credyd Cynhwysol. Cynigiwyd ac
eiliwyd i ychwanegu at y cynnig bod y Cyngor hwn hefyd yn condemnio Llywodraeth
y D.U. am allu canfod cyllid i’w roi at fomiau ac awyrennau rhyfel tra’n dadlau
nad oes arian ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus. Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd
y Cyngor a’r eilydd. Yn ystod y
drafodaeth:- ·
Nodwyd
bod y drafodaeth wedi mynd yn eang ac y byddai’n well petai’r holl fater o
effaith y setliad wedi’i godi fel mater brys o dan eitem 6 ar y rhaglen. ·
Mynegwyd y farn bod yr
ychwanegiad i’r cynnig yn cymylu’r holl fater ac na ellid cyplysu’r ddau beth
gyda’i gilydd mewn un cynnig. ·
Awgrymwyd bod yr ychwanegiad yn ddilys gan mai
datganiad mewn egwyddor ydoedd, sy’n condemnio arfogi a gwario ar arfau rhyfel. Pleidleisiwyd ar y
cynnig diwygiedig, ac fe gariodd. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i
addasu fel a ganlyn:- “Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15b |