Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Alan Jones Evans (p.m.), Alwyn Gruffydd (p.m.),
Sian Wyn Hughes (a.m.), Linda Ann Wyn Jones (p.m.), Siôn
Wyn Jones, W. Tudor Owen, Peter Read,
Neil Foden (Undeb Athrawon) a Morwena Edwards (Cyfarwyddwr
Corfforaethol) - (a.m./p.m.). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd
Selwyn Griffiths fuddiant personol
yn Eitem 5 – Cynllun Trac oherwydd bod ei ferch-yng-nghyfraith wedi ei phenodi
fel rhan o weithlu’r cynllun ond ni fyddai’n
gadael y Siambr gan nad oedd
yn fuddiant oedd yn rhagfarnu.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2015. |
|
I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu cefndir
y cynllun uchod sy’n cael ei
arwain gan y chwe awdurdod lleol
ar gyfer darparu'r sgiliau a’r gefnogaeth addas i ddisgyblion a phobl ifanc mwyaf
bregus y Sir. (b) Eglurwyd mai Cyngor Sir Dinbych sy’n arwain
parthed rheolaeth a monitro cynllun busnes rhanbarthol a’i fe’i cyllidir
drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda’r bwriad i gychwyn y cynllun Medi 2015 hyd at Awst 2018 gyda phosibilrwydd i’w ymestyn hyd at Awst 2020. Esboniwyd mai nod y cynllun fydd “mabwysiadu
dull weithredu o adnabod disgyblion bregus yn gynnar ac ymateb
i’w anghenion trwy ddarparu cwricwlwm
a chefnogaeth addas ar eu cyfer”. (c) Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr
Aelod Cabinet Addysg a’r swyddogion iddynt fel a ganlyn: ·
Mai 8 o swyddi fydd yn rhan
o’r cynllun gyda’r Rheolwr eisoes wedi ei
phenodi i gychwyn mis Tachwedd. Eglurwyd y bydd 6 o’r swyddi
yn rhai gweithredol
gyda dwy ohonynt o dan y teitl Gweithwyr Cymdeithasol Addysg a fydd yn gallu gweithio
gyda theuluoedd a phlant i oresgyn rhwystrau sydd ddim yn cyfarfod
â meini prawf anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y 4 swydd arall yn canolbwyntio ar bresenoldeb, gweithiwr ieuenctid yn ysbrydoli
plant a phobl ifanc i ennill achrediadau a gweithiwr chwaraeon a fyddai’n rhan o dîm a fyddai’n targedu anghenion y bobl ifanc ac yn
eu cefnogi i barhau mewn addysg wedi
iddynt ymadael o ysgolion ·
Bod arian cyfatebol yn cael
ei gyfrannu o’r gwasanaeth sydd eisoes yn
yr ysgolion o ran strategaeth cynhwysiad, cefnogi plant yn y prif lif, gwasanaeth lles a’r gwasanaeth
cynnal ymddygiad canolog. ·
Byddir yn targedu plant o Flwyddyn 7 i fyny ac yn gallu
perchnogi disgyblion ar hyd y daith
addysgol ac yn arbennig y gwaith pontio yn 16 oed
a fydd yn gymorth i ddisgyblion wneud penderfyniadau ynglŷn â’u gyrfaoedd ynghynt. ·
Cadarnhawyd mai 480 o ddisgyblion o Wynedd yw’r nifer o gyfranogwyr
sydd mewn risg ac esboniwyd yr adnabuwyd hwy
drwy’r fframwaith ymgysylltu ·
O safbwynt cymwysterau, pwysleisiwyd y byddai’r swyddogion perthnasol yn weithredol
gyda’r plant yn ddyddiol ac yn ychwanegol bod hyfforddiant gyda nifer eang
o gyrsiau ar gael iddynt ar
gyfer cyflogaeth ·
Bod nifer o blant sydd yn
dadrithio yn is yng Ngwynedd o ran y ganran NEET (Not in Education, Employment or Training) sef oddeutu 7-8% ond eglurwyd y byddai’r cynllun Trac yn cyfarch
anghenion y plant wedi iddynt fod mewn
Colegau ac yn methu cael cyflogaeth ·
O safbwynt goblygiadau hyfforddiant i staff ysgol, esboniwyd y gwelir bod staff ysgolion yn hyddysg iawn
yn y meysydd dan sylw ond
o dan bwysau cynyddol ac y byddai’r cynllun hwn yn
ysgafnhau baich ysgolion drwy gael
swyddog i weithio am gyfnod estynedig ar y cyd gyda
phlant. Ni ragwelir y bydd gofyn hyfforddi staff ysgolion na ychwaith
bod pwysau ychwanegol arnynt. · Bod canran sylweddol o blant sydd yn dadrithio ar y rhestr anghenion addysgol ychwanegol a bod carfan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
AMODAU ARWEINYDDIAETH A MODELAU AMGEN PDF 428 KB I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod
Cabinet Addysg yn amlinellu
prosiect ar gyfer gwella amodau
arweinyddiaeth ysgolion er mwyn codi
safonau. (b) Cyfeiriwyd
at nod y prosiect a fyddai’n
edrych ar bum maes penodol sef: ·
Comisiynu adroddiad ar amodau
arwain a rheoli ysgolion y Sir a gweithredu ar yr argymhellion
cytunedig ·
Monitro a herio pob ysgol a defnyddio’r
holl bwerau sydd ar gael
i’r awdurdod wella arweinyddiaeth a rheolaeth mewn ysgolion sy’n tanberfformio ·
Datblygu rheolwyr a darpar reolwyr o fewn gwasanaethau ac adnabod arweinwyr ar gyfer
y dyfodol ·
Datblygu cyfundrefn ysgol i ysgol rymus a sicrhau
bod trefniadau mewn lle er mwyn
rhannu arfer gorau i osgoi dyblygu;
a ·
Sicrhau bod buddsoddiadau
cyfalaf yn arwain at wella amodau arweinyddiaeth a rheolaeth (c) Ymhelaethwyd
ar y camau nesaf a’r bwriad
i gynnal cyfarfod pellach gydag Ymgynghorwyr
Annibynnol sydd â phrofiad rhyngwladol yn y maes ac y byddent yn croesawu’r
cyfle i gyfweld ag aelodau o’r Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau fel rhan o’u
hymchwil. (ch) Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau, ac fe wnaed y sylwadau
canlynol: (i)
A yw’r broblem o recriwtio yn ymwneud â maint
bychan y Sir ac oni fyddai cyfuno gyda
Siroedd eraill o fantais mewn rhannu
arbenigedd? Mewn ymateb, eglurwyd bod natur ddaearyddol y Sir yn enfawr ac yn
heriol gan fod anghenion ardaloedd
y Sir yn dra gwahanol. Bwriad yr Adran Addysg yw ail-sefydlu’r Swyddfeydd Ardal fel bo
modd cael trafodaethau lleol er mwyn diwallu
anghenion y plant.
O safbwynt datblygu unigolion yn arweinwyr
yn enwedig yn yr ysgolion
lleiaf, rhaid rhoi cyfle iddynt
fedru arwain ar feysydd strategol
er mwyn dangos
profiadau mewn gwahanol feysydd ar gyfer y cymhwyster
CPCP. (ii)
A oes tystiolaeth
bod rhai ysgolion yn cystadlu yn
erbyn ei gilydd am ddisgyblion? Mewn ymateb, nodwyd os byddir yn
cyd-berchnogi’r prosiect i wella arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yn rhaid cadw
llygad bod tegwch i bob dalgylch. (iii)
O safbwynt cytuno ar lefelau
cyrhaeddiad disgyblion wrth bontio o’r
cynradd i’r uwchradd, nodwyd bod yn ofynnol i’r
wybodaeth gyfredol ar gyfer unrhyw
blentyn fod yn gywir o’r
cam cyntaf drwy’r cyfnod addysgol. Nodwyd ymhellach bod asesu yn drafodaeth barhaol
ond er mwyn
pontio llwyddiannus rhwng y cynradd a’r uwchradd rhaid
cael dealltwriaeth rhyngddynt a bod yn glir ynglŷn â dehongliad y meini prawf. (iv)
Mewn ymateb i bryder ynglŷn â chanfyddiadau gan rieni bod rhai ysgolion yn fwy
Saesnigaidd ac o ganlyniad
bod niferoedd yn lleihau mewn ambell
ddalgylch, nodwyd mai’r her ydoedd cysoni gweithrediad y polisi iaith. Eto, yn yr un modd
gellid cynnal trafodaethau yn lleol er mwyn
sicrhau bod plant yn cael yr un fath
o brofiad a darpariaeth. (v) Yng nghyd-destun ffederaleiddio ysgolion cynradd ac uwchradd i’r dyfodol, nodwyd y byddai hyn yn rhan o’r ymchwiliad i arweinyddiaeth a’r modelu amgen. Er bod syniadau penodol o fewn y Gwasanaeth derbyniwyd bod ymateb gan y gymuned o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
YMCHWILIAD CRAFFU ADDYSG GYMRAEG PDF 814 KB I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg, Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad yr Ymchwiliad
Craffu Addysg Gymraeg a fu’n ymchwilio i weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod
yn ysgolion y Sir. (b) Adroddodd y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd, Cadeirydd yr Ymchwiliad, bod yr ymchwil wedi
ei gyfyngu i dri dalgylch sef
Ardudwy, Bangor a Botwnnog oherwydd demograffeg ieithyddol y tair ardal benodol. Edrychwyd ar sut y gweithredir
Polisi Iaith yr awdurdod ar
lawr gwlad mewn ysgolion unigol
a'r graddau y mae’r ddarpariaeth yn gymorth i hybu’r
defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan
blant a phobl ifanc. Tynnwyd sylw at yr atodiadau ynghlwm
i’r adroddiad a oedd yn nodi
sut y daethpwyd i gasgliad ar yr
argymhellion. Cydnabyddir bod gwaith gwych yn digwydd
yn yr ysgolion
ond nid da lle gellir gwell
i barhad y Gymraeg oddi fewn a thu
allan i’w llibart. (c) I gloi, cymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad y cyfle i ddiolch i’w gyd-aelodau a’r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr a chlir. Diolchodd hefyd i bawb a fu’n rhan
o’r Ymchwiliad drwy rannu eu
profiadau yn agored. (ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol: (i)
Mynegwyd pryder o’r hyn
sy’n cael ei weithredu mewn
ysgolion preifat yn y Sir gyda fwyfwy
o ddisgyblion yn dod allan o’r
ysgolion hyn yn ddi-gymraeg. Mewn ymateb i’r uchod,
esboniwyd bod y sector cyhoeddus
yn gorfod dilyn cwricwlwm cenedlaethol ond bod rhyddid i’r sector annibynnol, yn unol ag Adran 163 o’r Adran Arolygu,
gynnig cwricwlwm eang lle nad
oes raid i’r Gymraeg fod yn
rhan o’r cwricwlwm hwnnw. Nodwyd nad oedd gan
yr awdurdod addysg oruchwyliaeth drostynt ond gellid
cysylltu â Llywodraeth Cymru / ESTYN i ganfod beth yw
gofynion yr Adran benodol o’r
ddeddf ac a yw’r arolygaeth yn mesur
yn gydnaws i anghenion lleol. (ii)
Bod plant yn gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg. Awgrymwyd y dylid gwneud cais
i’r cwmnïau sydd yn ennill
y cytundebau cludiant bod anghenraid i’r gyrwyr fod
yn gallu siarad Cymraeg. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r Gwasanaeth Addysg yn ymchwilio i’r
uchod. (d) Nodwyd, er gwybodaeth i Aelodau, derbyniwyd cais gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdod
rannu’r Siarter Iaith ar draws Cymru. (dd) Diolchodd yr Aelod
Cabinet Addysg i’r Ymchwiliad
Craffu am y gwaith trwyadl a gyflawnwyd ganddynt ac fe groesawyd a derbyniwyd yr holl argymhellion. Penderfynwyd: (a) Derbyn cynnwys yr adroddiad
a chymeradwyo’r argymhellion
a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg gan ofyn iddo gyflwyno
adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis. (b) Gofyn i Swyddog Arweiniol yr Ymchwiliad Craffu
rannu canfyddiadau’r Ymchwiliad Craffu gydag ysgolion a chanolfannau iaith y Sir. (c) Cyfleu i Lywodraeth Cymru / ESTYN pryder y Pwyllgor Craffu hwn ynglyn a chwricwlwm ysgolion yn y sector annibynnol o ddefnydd yr iaith Gymraeg fel amlinellir yn (i) uchod. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
YMCHWILIAD CRAFFU GWASANAETHAU CEFNOGOL ADDYSG - BRIFF DRAFFT PDF 380 KB I ystyried briff ar gyfer cynnal ymchwiliad o’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd briff drafft ar gyfer
cynnal ymchwiliad craffu i’r Gwasanaethau
Cefnogol Addysg ac fe amlinellodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Comisiynu Corfforaethol ar gynnwys y briff. (b) Croesawyd y briff gan yr Aelodau ac mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn ag amserlen nodwyd y disgwylir i’r ymchwiliad gael ei gyflawni
mewn oddeutu 6 -9 mis. Penderfynwyd: (a) Derbyn a chymeradwyo’r
briff drafft. (b) Enwebu'r Aelodau
canlynol i wasanaethu ar yr Ymchwiliad
Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg: Y Cynghorydd Beth Lawton (Is-gadeirydd
y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau) Y Cynghorydd Selwyn Griffiths Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd Y Cynghorydd Eirwyn Williams Y Cynghorydd R H Wyn Williams Aelod i’w enwebu o ardal
Arfon (gyda’r Cynghorydd Hefin Williams wrth gefn pe
byddai angen) |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014-15 PDF 195 KB I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
Oedolion ac Iechyd, yn rhoi trosolwg
o’r ystadegau a phrif faterion sydd wedi deillio
o gwynion yn ystod y flwyddyn 2014-15 ynghyd ag ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor
Craffu hwn yn ei gyfarfod
paratoi ar 28 Gorffennaf. (b) Atgoffwyd yr Aelodau bod y drefn gwynion yn
un statudol sydd tu allan i drefn
gwynion corfforaethol y
Cyngor. (c) Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Aelod
Cabinet a’r swyddogion yn briodol iddynt
fel a ganlyn: (i)
Bod y drefn gwynion statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar wahân i’r
drefn gwynion corfforaethol a’u bod yn ymwneud yn
uniongyrchol â gofal unigolion ond fe
dderbynnir cwynion tu allan i’r
drefn statudol ac yn yr achosion
hyn fe ymdrinnir
â hwy o dan y drefn gwynion corfforaethol. Eglurwyd bod dau gam i’r drefn
gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol sef cam 1 - ymateb yn lleol
a cham 2 lle prynir gwasanaeth ymgynghorydd annibynnol i ymchwilio i’r gwyn. (ii)
Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglyn â methiant i fedru darparu cyfarpar
arbenigol megis gwelyau pwrpasol i gleifion sydd angen
gofal yn eu cartref yn
benodol mewn tai teras yn ardal
Blaenau Ffestiniog, nodwyd
bod y Gwasanaeth yn ymwybodol o’r broblem
a'i fod yn
destun trafodaeth gyda’r Bwrdd Iechyd (iii)
Nododd y swyddogion y sylw bod angen dehongli cyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd a’r
Gwasanaeth Cymdeithasol oherwydd aneglurder trigolion y Sir ac fe ystyrir ymhellach sut y gellir cyfarch
y mater hwn. (iv)
O safbwynt cleifion yn cael
eu hanfon i Ysbytai cymunedol yn hytrach na
chartrefi preswyl, esboniwyd bod datrysiad i’r mater hwn yn
anodd oherwydd yr angen i geisio
rhoi cefnogaeth iawn i deuluoedd. (v)
Nodwyd y pryder amlygwyd ynglyn â thacsi yn teithio
o Ogledd y Sir i’r De i gludo claf i’r
ysbyty lleol ac y byddir yn rhoi
sylw i’r mater ar y cyd gyda’r
Bwrdd Iechyd pe byddai’r Aelod
yn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol i’r Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant. (vi)
Bod y daflen gwynion arbennig i blant a phobl ifanc
yn barod ac yn cael ei
lansio yn fuan a nodwyd ymhellach
bod taflen ar wahân i oedolion sydd eisoes yn
cael ei weithredu. (vii)
Mewn ymateb i sylw bod y nifer o ymholiadau yn uwch
na’r cwynion ac efallai bod pobl fregus yn llai
tebygol o gwyno, nodwyd er nad
yw pob ymholiad
/ sylw yn cael ei nodi
fel cwyn, sicrhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio datrys
yr ymholiadau. (viii)
O safbwynt y sylw a wneir bod angen sicrhau cyfathrebu
clir gyda defnyddwyr ynglyn â threfniadau talu am ofal, gwelwyd o’r
cwynion a gyflwynwyd bod trafodaethau wedi digwydd ond nad
oedd tystiolaeth ysgrifenedig wedi ei gofnodi. Sicrhawyd bod darn
o waith yn mynd rhagddo yn
y cyswllt hwn fel datrysiad i’r
mater. (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y sylwadau cyffredinol canlynol: (a) Nododd yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
DECHRAU I'R DIWEDD OEDOLION PDF 301 KB I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd gan yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
Oedolion ac Iechyd adroddiad drafft ar adolygiad Dechrau
i’r Diwedd ar wasanaethau pobl hŷn (b) Derbyniwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Adran Gwasanaethau Oedolion Iechyd a Llesiant ar ffurf sleidiau
ac fe nododd nad oedd y cyfeiriad
a osodir i’r adolygiad yn newydd
gyda llawer ohono yn seiliedig
ar drefniadau presennol a phenderfyniadau’r
Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y weledigaeth, natur y weledigaeth a chyfres o egwyddorion gan y Gwasanaeth. Nodwyd ymhellach bod gofynion penodol wedi eu gosod
gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a rhaid tynnu sylw bod canran y boblogaeth hŷn yn cynyddu. Byddai’r gyllideb yn y dyfodol
yn sylweddol llai na’r gorffennol
ac y byddai angen cadw golwg ar
ddylanwad hynny. (c) Cyfeiriodd at fethodoleg yr adolygiad gan
nodi’r camau sylfaenol isod: 1.
Ymarfer Da - I ddysgu gwersi gan eraill
am ddulliau blaengar o weithredu gan dderbyn
nad oes un dull gorau ymhob achos
neu faes. Mae sawl dull allai weithio a bydd angen bod yn ddoeth
i ddewis beth fyddai yn briodol
ac orau ar gyfer Gwynedd. 2.
Cymharu - yn bennaf
gyda'r ‘teulu’ o awdurdodau cymharol er mesur cynnydd/perfformiad Gwynedd 3.
Edrych ar y cynnydd
nid yn unig
o ddata caled ond hefyd o ran casglu gwybodaeth ac ymateb ar lefel
lleol O safbwynt llesiant a rheoli’r galw, nodwyd: 1.
Bod llesiant yn gyfrifoldeb
ar draws y Cyngor, nid yn fater Gwasanaethau
Gofal/Cymdeithasol yn unig a bod angen
ystyried llesiant cyn i broblemau dwys godi 2.
Yr angen i ddefnyddio ymyrraeth ac atal fel camau buan
eu hunain ond hefyd yn
medru gwneud cyfraniad pwysig at reoli'r galw am wasanaethau gofal ffurfiol 3.
Nid oes un ateb
delfrydol cyffredin ar gyfer siapio
gwasanaethau llinell flaen. Hefyd yn
medru cynnwys dulliau integredig megis gwaith Ffordd
Gwynedd yn Alltwen a chyfraniad y 3ydd sector. 4.
Bod perthynas gyda chymunedau yn cael
sylw penodol yng Nghynllun Strategol
y Cyngor. Bydd
angen cyfeirio adnoddau i gyflawni hyn a rhaid derbyn
nad yw Gwynedd nac unrhyw awdurdod
lleol arall yn mynd i lwyddo
heb gryfhau'r elfen yma o’r
Gwasanaeth. 5.
Y byddai ail strwythuro'r Adran yn allweddol
i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd newydd
a chyfarfod a disgwyliadau’r
ddeddf a defnyddwyr gwasanaeth. Yng nghyd-destun datblygiad ymarfer gwaith cymdeithasol, esboniwyd 1.
ei bod yn anorfod i ymarfer gwaith cymdeithasol newid er mwyn
ymateb i ofynion y ddeddf a’r angen
i drawsnewid gwasanaethau. 2.
Bod tystiolaeth yn dangos bod diwylliant
a safon ymarfer gwaith yn allweddol
i ganfod dulliau priodol a gwell i gyfarfod anghenion unigolion. 3.
Bod angen ceisio cefnogi unigolion i fyw gartref gyda chefnogaeth
briodol a dros amser fel bo’r
ddibyniaeth ar ofal preswyl yn
lleihau. 4.
Bod cynnig a hyrwyddo taliadau uniongyrchol a rhoi'r ffocws ar ddeilliannau
i’r unigolyn yn ddwy agwedd
bwysig wrth ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol. 5. Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
PROSIECT YR HER GOFAL PDF 186 KB I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad ar y prosiect Her Gofal sy’n rhan o brosiectau
Cynllun Strategol y Cyngor
ac yn allweddol i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol mewn ymateb i’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) a’r agenda ariannol heriol wynebir. (b) Eglurodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd y bwriedir cynnal Grwpiau Ffocws gydag Aelodau ar 29 Medi rhwng
2.00 - 4.00 y.p. ym Mhorthmadog a bod gwaith yn mynd rhagddo
i ymgysylltu gyda defnyddwyr, partneriaid allweddol a chymunedau. (c) Gofynnwyd am sylwadau’r Aelodau ar friff y prosiect ac erfyniwyd arnynt i gymryd rhan yn
y Grŵp Ffocws ar 29 Medi. (ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol: (i)
Pryder bod cartrefi gofal preifat yn
cau oherwydd methiant i recriwtio staff (ii)
Nodwyn gan Aelod bod nyrsys arbenigol ar gael
ac eisiau gweithio ond y dylid ystyried
y dull o recriwtio drwy gynnig cymhelliad ariannol ychwanegol i weithio sifft nos,
costau teithio, a.y.b. fel nad oes
raid recriwtio nyrsys o dramor. Byddai hyn hefyd
yn sicrhau defnydd o’r iaith
Gymraeg sydd mor bwysig i’r
genhedlaeth hŷn. (iii)
Bod gwaith gweinyddol wedi cynyddu o’i gymharu
â’r gorffennol lle'r oedd nyrsys
yn gallu canolbwyntio ar ofalu am gleifion
ond erbyn heddiw bod disgwyl iddynt wneud llawer
o waith gweinyddol yn ogystal â nyrsio (iv)
Siom mai dim ond un sesiwn a gynigir ar gyfer
y Grŵp Ffocws (d) Ymatebodd yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
Oedolion ac Iechyd a’r swyddogion i’r uchod gan
nodi: ·
Cydnabuwyd ei bod yn anodd
recriwtio ond sicrhawyd bod gwaith yn cael ei
gomisiynu gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ynghyd â gwaith pellach gyda Phrifysgol Bangor o safbwynt cael darpariaeth
ysgol feddygaeth. ·
Bod bwriad i gynnal mwy o sesiynau
Grŵp Ffocws ond ei fod
yn anodd medru cael dyddiad
sy’n gyfleus i bawb ·
Cadarnhawyd y byddir yn ail-anfon
e-bost i Aelodau i’w hatgoffa am ddyddiad y sesiwn cyntaf o’r
Grŵp Ffocws ar 29 Medi lle
byddir yn trafod syniadau Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys
yr adroddiad. |