Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Dyfrig Siencyn ar gyfer eitem 12 gan fod aelod o’r teulu agos yn berchen ail gartref neu eiddo gwag |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2021 PDF 286 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 26 Ionawr 2021 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU PDF 175 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r
adroddiad. Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad
â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb
Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y
Gogledd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r
adroddiad. Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad
â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb
Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y
Gogledd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad sef fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2
Llywodraeth Cymru yn unol â’r adroddiad. Ychwanegodd
Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod dau gynllun wedi bod cyn y cynllun hwn yn cefnogi cludiant cyhoeddus
drwy sicrhau cefnogaeth ariannol ddigonol drwy’r cyfnod argyfwng. Amlygwyd fod
y cynllun yn bartneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth
Cymru a gweithredwyr. Nodwyd fod y cynllun yn sicrhau fod cefnogaeth ariannol
ddigonol a’r gweithredwyr ac amlygwyd yr amcanion oedd i’w gweld yn yr
adroddiad. Pwysleisiwyd ei fod yn gynllun dros dro a fydd yn dod i ben ym mis
Gorffennaf 2022 a'i fod yn rhoi mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru a
Thrafnidiaeth Cymru o ran blaenoriaethu gwasanaethau ac i ddylanwadu ar bris
tocynnau. Amlygwyd fod y cynllun yn bellgyrhaeddol. Mynegwyd ei bod yn
gyfnod o lawer o newid gyda’r ail ddylunio ar draws y wlad ac amlygwyd
pwysigrwydd i fod yn rhan o’r cynllun er mwyn
dylanwadu i sicrhau gwasanaethau penodol yn y gwasanaethau gwledig sydd
i’w gweld dros y sir a fydd i’w weld yn fwy o sialens yng Ngwynedd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd os oedd
ymrwymo i’r cynllun dros dro yn ymrwymo'r Cyngor i’r cynllun ymhellach. Nodwyd
fod nifer o ffrydiau gwaith ac y buasai ymuno yn sicrhau fod ffrydiau yn symud
yn ei blaen, gan amlygu fod cyd gyswllt a dim ond drwy ymrwymo y bydd modd
dylanwadu. ¾ Mynegwyd fod yr
argymhelliad yn nodi ymuno er mwyn dylanwadu, holwyd beth oedd yr oblygiadau am
beidio ymuno. Mynegwyd nad oedd yn cwbl amlwg ar hyn o bryd ond nodwyd mai'r
cwmnïau fuasai ar ardrawiad mwyaf ond pwysleisiwyd yr angen i gael dylanwadu. ¾ Nodwyd fod rôl gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer y prif ffrydiau ond amlygwyd yr angen am y rôl yn
lleol i edrych ar ôl trigolion Gwynedd. Ymhelaethwyd yn ogystal fod llawer o arbenigedd yn lleol. Mynegwyd ei bod yn
galonogol fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y gwaith a wnaed gennym ar
werth cymdeithasol wrth flaenoriaethu cludiant. Esboniwyd yr angen am fwy o
reolaeth ac yr arbenigedd lleol. ¾ Amlygwyd rhai
pryderon am roi mwy o rym i Trafnidiaeth Cymru ym maes bysus ac y gallai hynny
fod yn llesteirio democratiaeth lleol unwaith eto os nad oeddem yn ofalus.. ¾
Pwysleisiwyd fod yr Aelod Cabinet yn rhan o Is
Grŵp Drafnidiaeth Gogledd Cymru a bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn
brysur ofnadwy yn y maes. Mynegwyd er bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyn
gael ei weld dros Gymru gyfan ond nid oes capasiti ganddynt
i edrych ar Gymru gyfan ac felly mae disgwyliad am gefnogaeth yn lleol. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid
trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd
fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol
i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn
weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad
yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir
incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad
hwyr yma. Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol
angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill
2021. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith. PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
eitem sydd wedi cael ei drafod ers amser ond o ganlyniad i’r pandemig ei fod wedi ei ddal yn ôl. Mynegwyd nad yw
polisïau Cyngor heb newid ers rhai
blynyddoedd a bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwneud penderfyniad
i greu tasglu i edrych ar drefniadau’r sir. Amlygwyd mai ffrwyth gwaith y
tasglu hwn yw’r adroddiad. Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod
y strategaeth bresennol wedi ei fabwysiadau yn ôl yn 2015. Esboniwyd fod nifer
o bethau newid ers hynny megis cynnydd mewn cerbydau trydan, llai o ddefnydd o
arian parod ynghyd a chynnydd mewn nifer ddigwyddiadau awyr agored. Tynnwyd
sylw yn ogystal at y cynnydd a welwyd yn ystod yr haf y llynedd mewn nifer o
“motor homes”. Pwysleisiwyd fod y rhain wedi amlygu
mwy o heriau o ran parcio. Mynegwyd fod y Cabinet a’r Cyngor Llawn wedi
cytuno i gynyddu incwm yn maes fel rhan o’r cynllun arbedion. Amlygwyd gyda
chynnydd mewn chwyddiant ynghyd a’r targed arbedion y bydd angen cynnydd incwm
o tua £400k. Esboniwyd mai briff grŵp tasg oedd ceisio cyfarch y cynnydd
mewn incwm ond cadw’r effaith ar drigolion lleol i isafswm. Pwysleisiwyd fod y
gwaith a wnaethpwyd gan y Grŵp Tasg wedi bod yn hynod drylwyr. Amlygwyd fod y grŵp tasg wedi amlygu
fod y drefn bandio meysydd parcio yn rhy gymhleth a'i
fod wedi ei symleiddio o fod yn 5 band i 3.
Nodwyd y buasai’r grŵp tasg wedi gallu codi pris 10% ar draws yr
holl leoliad ond fod y grŵp tasg wedi penderfynu edrych ar y maes yn
wahanol ac amlinellwyd y prif newidiadau.
Nodwyd yr angen i sicrhau fod
pris parcio arhosiad byr yn y prif ganolfannau yn aros yr un fath, ond fod yr
oriau rheolaeth yn cael ei addasu ym Mangor i 9am tan 5pm. Mynegwyd fod pris
arhosiad hir yn cael ei gynyddu yn benodol mewn ffioedd meysydd parcio yn band
2 a bod cynnydd mewn tocynnau tymor yn cydfynd gyda
chwyddiant. Amlygwyd yr opsiynau am barcio dros gyfnod y Nadolig ac yr awydd i gadw trefniadau parcio am ddim er mwyn cefnogi busnesau. Nodwyd y bu ystyriaeth i breswylwyr ac unigolion a Thocyn Parcio Glas a bod penderfyniad i’w gadw fel ac y mae ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
CYNLLUN PRYNU TAI I'W GOSOD I DRIGOLION GWYNEDD PDF 511 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu
oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob
pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos. Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau
statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig
ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen
penderfyniadau ychwanegol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu
oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob
pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos. Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau
statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig
ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen
penderfyniadau ychwanegol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Gwynedd
yng nghanol argyfwng tai ar hyn o bryd. Mynegwyd fod y Cyngor wedi bod yn
ceisio trio codi ymwybyddiaeth am y broblem a gofyn i’r ddwy Lywodraeth
weithredu. Nodwyd fod yr adran yn ymgeisio i ddod o hyd i atebion o fewn eu
gallu ac i weithredu. Amlygwyd fod y cynllun hwn yn rhan o’r Cynllun Gweithredu
Tai a'i fod yn enghraifft o beth mae’r adran yn ceisio ei wneud i gynorthwyo
trigolion. Mynegwyd pleser o gyflwyno'r cynllun gan ei fod yn bositif ac
arloesol ac yn dod o hyd i ffyrdd i gartrefu trigolion. Ychwanegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo fod y
cynllun yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai.
Amlygwyd pwrpas y cynllun o brynu cant o dai i’w uwchraddio a’i gosod
i’w trigolion. Nodwyd fod y buddsoddiad i’r Cynllun Gweithredu Tai oddeutu £77m
a nodwyd y cyfuniad o ffynonellau ariannu. Mynegwyd fod y Cabinet wedi amlygu eu
huchelgais ar gyfer y cynllun drwy nodi eu hawydd i gynllun benthyca ar gyfer y cynllun hwn yn
unol â chynllun busnes cadarn. Nodwyd fod yr adroddiad yn nodi’r costau a'i
ddull ariannu ac yn dangos ei fod yn
gynllun hyfyw. Esboniwyd fod risgiau yn cael eu hamlygu ond y bydd achos
busnes i bob pryniant unigol yn lleihau’r risgiau, ac os bydd risgiau yn rhy
uchel ni fydd y pryniant unigol yn cael ei wneud. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd am yr
adroddiad a amlygwyd balchder o droi’r cloc yn ôl a’r Cyngor yn buddsoddi
unwaith eto ar dai i bobl Gwynedd. Holwyd os oes gwahaniaeth rhwng tai ar y
farchnad agored a cyn dai cymdeithasol. Mynegwyd ei bod yn anodd prynu cyn dai
cymdeithasol ac felly angen bod yn weithredol i gael tai cymdeithasol yn ôl o
fewn y Cyngor. ¾
Croesawyd
y cynllun gan holi os y bydd modd teilwra y cynllun ar gyfer teuluoedd penodol
. Nodwyd fod angen am dai rhent o fewn y sir ac fod angen rhoi amrediad o
dai gyfarch rhai sydd angen cymorth ond
bydd yn rhaiod blaenoriaethu yn amlwg. ¾
Holwyd
os y bydd y cynllun yn llwyddiant os y bydd modd ehangu a prynu mwy na 100 o
dai. Mynegwyd fod modd ehangu y cynllun os yn gweithio yn rhwydd ac y byddant
yn dod yn ôl at y Cabinet i nodi os bydd achos dros newid i nifer y tai. ¾ Pwysleisiwyd fod elfen o risg i’r cynllun, ond ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021-22 PDF 333 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad
2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac argymell
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad
2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac
argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4
Mawrth 2021. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y cynllun yn cael ei gyflwyno yn nodi gwaith y Cyngor
dros y flwyddyn diwethaf. Nodwyd fod sesiynau wedi ei cynnal gyda’r holl
aelodau sydd wedi dangos cefnogaeth i’r blaenoriaethau gwella. Mynegwyd fod y sesiynau gyda’r holl aelodau
wedi amlygu fod edrychiad cymunedau yn holl bwysig eleni i drigolion. Pwysleisiwyd fod
elfennau positif wedi codi o ganlyniad i covid-19 sef awydd trigolion i
gynorthwyo eu gilydd ac i wirfoddoli. Nodwyd angen gan aelodau i gadw’r
momentwm o gynorthwyo a gwirfoddol i’r dyfodol. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Pwysleisiwyd
fod edrych ar eich milltir sgwâr yn hynod bwysig ac fod y cynllun Cymunedau
Glan a Thaclus yn un o flaenoriaethau yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol.
Nodwyd gobeithio y bydd y cynllun yn cyfarch anghenion yr aelodau ac yn
gweithio gyda’r cymunedau. ¾
Amlygwyd
o ran blaenoriaeth 4.5 Busnesau yn Ffynnu fod problemau erchyll yn codi ond nid
o ganlyniad i Covid-19 yn unig ond am y modd y mae’r Llywodraeth yn delio gyda Brecsit yn ogystal. ¾
Nodwyd
fod y sesiynau gyda’r aelodau wedi bod yn galonogol, gyda materion a godwyd yn
cael ei gweld o fewn cynlluniau megis Cynllun Adfywio Ardal. ¾
Tynnwyd
sylw at addasiadau i’w nodi yn blaenoriaeth 4.4
Trosglwyddiad unedau gwyliau o’r Dreth Gyngor i Drethi Busnes er
mwyn ychwanegu geiriad yn ymwneud a’r gwaith cynllunio sydd yn digwydd yn y
maes. Yn ogystal Blaenoriaeth 7.4 – Cyflawni Arbedion er mwyn amlygu fod y
rhaglen arbedion wedi’i adolygu a’r angen i gyflawni’r trefn ddiwygiedig. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
STRATEGAETH GYFALAF Y CYNGOR PDF 193 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD Cytunwyd i:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bu i’r
Cyngor llawn fabwysiadu Cynllun Asedau ar gyfer cyfnod o 10 mlynedd yn ôl ym
Mawrth 2019. Amlygwyd fod y cynllun yn rhagdybio’r adnoddau y buasai gan y
Cyngor ar gyfer y 10 mlynedd ac yn blaenoriaethu’r holl gynlluniau a gyflwynwyd
gan yr Adrannau. Pwysleisiwyd fod y Cynllun yn un byw a hyblyg ac bod y
sefyllfa adnoddau wedi newid rhyw ychydig ers i’r cynllun gael ei gymeradwyo. Mynegwyd pan y bu i’r Cynllun gael ei
baratoi roedd ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd y byddai yna gynlluniau ychwanegol
yn dod i’r amlwg a cytunwyd i roi £0.5m y flwyddyn o’r neilltu er mwyn cyfarch
y gofynion ar gyfer cynlluniau bychan yn bennaf. Ategwyd fod cynlluniau
sylweddol angen ystyriaeth ar gyfer 2021/22. Tynnwyd sylw at Ganolfan Dolfeurig yn Nolgellau gan esbonio pan ystyriwyd y cynllun
yn gyntaf gofynnwyd am £1.2m, ond yn dilyn gwneud gwaith pellach fod y costau
yn nes at £1.8m. Amlygwyd y galw am unedau diwydiannol ar
draws sir dros y blynyddoedd diwethaf, ac er fod y Cynllun Twf Gogledd Cymru yn
sicrhau safleoedd strategol nodwyd yr angen am unedau llai i gyfarch y galw yn
lleol. Ar sail fod uned yn costio oddeutu £200,000 yr un heb gost am dir,
gofynnwyd am gefnogaeth y Cabinet i ychwanegu arian i’w sicrhau. Mynegwyd yn wreiddiol fod y Cyngor wedi
rhagweld y buasai angen gwario £1.6m ar adfer promenâd yn Abermaw yn dilyn
difrod. Ychwanegwyd yn dilyn gwneud gwaith llawer mwy manwl amlygwyd fod y gost
o adfer yn debygol o fod rhwng £16m a 22.5m, a olygai y bydd angen i’r Cyngor
ddarganfod £3.75m fel cyfraniad er mwyn cyflawni’r gwaith. Bu i’r Cabinet yn Hydref 2017 gytuno i brynu
darn o dir ger ysgol gynradd Llanrug rhag ofn y byddai ei angen at ddibenion
addysgol i’r dyfodol. Nodwyd erbyn hyn mai dim ond elfen o’r tir fyddai ei
angen a byddai modd ad-ennill elfen o’r gost drwy werthu’r tir a darnau o’r tir
ar gyfer tai fforddiadwy ond amlygwyd y byddai bwlch tebygol angen ei ariannu. Esboniwyd ers cymeradwyo’r cynllun fod y
Cyngor wedi derbyn amrywiol grantiau fel bod modd eu defnyddio yn hytrach na’
defnyddio adnoddau o’r Cynllun Asedau, ac ynghyd a setliad cyfalaf uwch na’r
hyn y rhagdybiwyd mae dros £5.5m ar gael i’r Cabinet i ystyried sut i’w
ddefnyddio. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Rhoddwyd cefnogaeth i Ganolfan Dolfeurig, gan fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dilwyn Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd
i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:
Nodwyd
byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn
Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor
o 50% i 100%. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD Cytunwyd
i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:
Nodwyd
byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn
Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor
o 50% i 100%. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cyngor eleni wedi derbyn cynnydd grant sydd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad
mwy teg na fu mewn blynyddoedd cyn 2020/21. Er hyn, mynegwyd gan fod angen
ariannu cynnydd anorfod mewn cost gwasanaethu craidd, rhaid codi’r Dreth 3.7%.
Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn gwasanaethau
hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu cynlluniau
arbedion ychwanegol eleni. Tynnwyd sylw fod mwyafrif o aelodau’r Cyngor
wedi mynychu cyfres o weithdai ymgynghori, a bu trafodaeth gadarnhaol yn y
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu
gwariant i £10.6m er mwyn sefyll yn llonydd, gan gynnwys £3.6m i gwrdd a
phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch y bwlch ariannol, y
gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o gynlluniau arbedion cytunedig, ond y bydd
angen cynyddu’r Dreth Cyngor 3.7%. Ategwyd fod ffigyrau swyddogol Llywodraeth
Cymru yn dangos fod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn
nesaf sy’n gynnydd o 3.4%. Esboniwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r
setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth, ynghyd a chyllideb terfynol
Llywodraeth Cymru. Tywyswyd drwy’r gwariant refeniw gan amlygu fod yr
amcangyfrif o chwyddiant cyflogau yn £3.5m, er fod dyhead Canghellor
Llywodraeth y DU i rewi cyflogau, nodwyd y bydd cynnydd tal o £250 pro rata i staff ar gyflogau
£24,000 neu is ynghyd â darpariaeth darbodus i holl staff y Cyngor. Amlygwyd yn
ogystal y bydd cynnydd tal o 3.1% i athrawon ysgolion Gwynedd am y cyfnod
Ebrill – Awst 2021. Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn
cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith y ‘cyflog byw’, ynghyd a chynnydd
chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni
a chynnydd mewn prisiau yn dilyn ail-dendro. Pwysleisiwyd fod pwysau ar
wasanaethau ac argymhellwyd cymeradwyo gwerth £3.59m o geisiadau cyflwynwyd gan
adrannau am adnoddau parhaol ychwanegol. Nodwyd disgwylir bydd cyfanswm y
cymorth gan y Llywodraeth yn sgil argyfwng Covid19 oddeutu £20m erbyn diwedd
2020/21 a bod rhagdybiaeth fod y Llywodraeth am barhau i ddigolledu am gostau
ychwanegol a cholledion incwm yn y flwyddyn ariannol nesaf. Tynnwyd sylw at benderfyniadau’r Cabinet ar
26 Ionawr 2021 i ohirio neu dileu rhai arbedion hanesyddol nad oedd modd i’w
gwireddu, gan amlygu y bydd cyfanswm net o £725k o arbedion i’w defnyddio i
leihau bwlch ariannu cyllideb 2020/21. Er mwyn sefydlu’r gyllideb nodwyd y bydd angen cyfarch bwlch o £77m drwy godi’r Dreth Cyngor o 3.7%. Pwysleisiwyd fod y dewis ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Dafydd Edwards |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMOR PDF 653 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod
Cyngor Gwynedd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd argymell i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth fod
Cyngor Gwynedd:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cyngor llawn ym mis Rhagfyr wedi penderfynu gohirio penderfynu ar y Premiwm
Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor. Nodwyd fod y Cyngor wedi
gofyn i’r Cabinet gynnal ymgynghoriad ar y priodoldeb o gynyddu'r lefel i hyd
ar 100% yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mynegwyd yn ôl Deddf 1992 fod rhaid gwneud
unrhyw benderfyniad ar y Premiwm gan y Cyngor llawn cyn dechrau’r flwyddyn
ariannol berthnasol ac felly nad oedd modd oedi’r penderfyniad. Amlygwyd y
cyd-destun gan amlygu rheoliadau’r Dreth Cyngor ble mae ‘ail gartrefi’ wedi’u
categoreiddio i ddau ddosbarth (A & B) ac fod dosbarth C yn cyfeirio at
eiddo gwag. Adroddwyd ar y niferoedd o fewn Gwynedd – 811 o fewn dosbarth A,
4,718 o fewn Dosbarth B, a 1,130 yn y dosbarth C yn Nhachwedd
2020. Nodwyd wrth roi grym i gynghorau i godi
Premiwm o hyd at 100% fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar
gyfer gweinyddu’r Premiwm. Ategwyd fod y canllaw yn amlinellu’r hyn sydd angen
ei ystyried gan y Cyngor pan yn bwriadau cyflwyno’r Premiwm. Nodwyd wrth gyflwyno’r Premiwm yn ôl yn 2016
rhoddwyd sylw i ddau astudiaeth, dadansoddiad manwl a gynhaliwyd yn 2013,
ynghyd â’r Strategaeth Dai 2013-16. Nodwyd fod y Cyngor wedi mabwysiadau
Strategaeth Dai newydd, ynghyd â dau adroddiad allweddol Gwaith Ymchwil Tai
Gwyliau a’r Cynllun Gweithredu Tai, yn y cyfnod ers hynny. Amlinellwyd yr ymatebion a dderbyniwyd o’r
ymgynghoriad, gan nodi fod yr ymgynghoriad wedi ei amlygu ar wefannau
cymdeithasol ynghyd ag anfon llythyr at bob perchennog ail gartref ac eiddo
gwag hirdymor yn eu hysbysu o’r ymgynghoriad. Derbyniwyd 6,227 o ymatebion i’r
holiadur ac oddeutu 100 o lythyrau a negeseuon ar wahân. Mynegwyd o’r ymatebion
fod 41% yn nodi nad oeddent yn berchen ail gartref, 53% yn nodi eu bod yn
berchen ail gartref. Nodwyd fod bron i 4 o bob 5 o’r ymatebwyr sydd yn berchen ail gartref yn credu eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn lleol, tra fod 3 o bob 5 o’r ymatebion sydd dim yn berchen ail gartref yn meddwl eu bod yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Amlygwyd fod gwahaniaeth barn glir yn cael ei amlygu gyda’r cwestiwn os yw cynyddu’r lefel yn briodol, gyda 61% o’r rhai oedd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Dewi Morgan |