Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Geraint
Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol). Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MEDI 2023 PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 19 Medi fel rhai cywir. |
|
ADRDDIAD MONITRO BLYNYDDOL - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL 2022-23 PDF 414 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd Adroddiad Monitro
Blynyddol 5 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis
Hydref 2023. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Derbyniwyd Adroddiad Monitro
Blynyddol 5 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis
Hydref 2023. TRAFODAETH Atgoffwyd yr Aelodau
mai dyma’r pumed adroddiad blynyddol sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r Cynllun
Datblygu Lleol. Nodwyd bod y Cynllun cyfredol yn parhau nes 2025/26. Manylwyd
bod gofyniad statudol i adrodd i’r Llywodraeth yn flynyddol ar gynnydd y
Cynllun a bydd hynny’n digwydd erbyn diwedd mis Hydref os byddai’r adroddiad yn
cael ei gymeradwyo gan y Cabinet. Adroddwyd bod
newidiadau mawr wedi bod i rediad y Cynllun ers yr adroddiad blynyddol
diwethaf. Cadarnhawyd bod y trefniant o gydweithio ar y Cynllun gydag Ynys Môn
wedi dirwyn i ben ac mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu Gweithgor Polisi Cynllunio
o 15 Aelod i ymgymryd â’r gwaith erbyn hyn. Cadarnhawyd bod sylwadau’r
Gweithgor wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Eglurwyd bod dangosyddion lliwiau goleuadau traffig yn cael ei ddefnyddio
i fonitro effeithiolrwydd polisïau a rhoi trosolwg o berfformiad y Cynllun.
Cadarnhawyd bod: ·
33
o bolisïau yn cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cynllun ac yn perfformio’n
unol neu’n well na’r disgwyliadau – dangosydd gwyrdd. ·
21
o bolisïau ddim yn cael eu cyflawni fel y rhagwelwyd (ond nid yw hynny’n arwain
at bryderon ynghylch gweithredu’r polisïau) – dangosydd oren. ·
5
o bolisïau sydd ddim yn darparu canlyniad disgwyliedig (ac mae pryderon
canlyniadol ynglŷn â gweithredu’r polisïau) – dangosydd coch. Sicrhawyd bod unrhyw bolisi sy’n syrthio i’r dangosydd coch yn derbyn
ystyriaeth wrth symud ymlaen gyda’r Cynllun. Cadarnhawyd bod 11 o bolisïau wedi
cael eu cyflawni ac ddim yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ddangosydd. Nodwyd y rhoddwyd
caniatâd cynllunio ar gyfer 315 o unedau preswyl newydd yn ystod y flwyddyn
2022/23, gyda 298 ohonynt wedi eu cwblhau. Manylwyd bod 122 o’r rhain yn unedau
fforddiadwy. Adroddwyd bod hyn yn 41% o’r holl unedau a gwblhawyd o fewn y
flwyddyn sy’n uwch na’r targed disgwyliedig. Ystyriwyd bod unedau yn derbyn
statws ‘unedau fforddiadwy’ oherwydd cyfyngiadau, maint a lleoliadau ac felly
mae’n anorfod na fydd holl unedau a adeiladir gan y Cyngor yn mynd i dderbyn y
statws hwn. Eglurwyd bod Dangosydd D21 yn gosod targedau ar gyfer cyfarch yr adnoddau
ynni adnewyddadwy posibl a gydnabuwyd yn y Cynllun. Atgoffwyd bod disgwyl y
buasai 50% o hyn wedi ei gyfarch erbyn 2021. Cydnabuwyd nad yw’r targed yma
wedi ei gyfarch hyd yma oherwydd prinder niferoedd y ceisiadau a dderbyniwyd
fel rhan o’r cynllun hyd yma. Ystyriwyd hefyd bod nifer o brosiectau ynni
adnewyddadwy wedi eu lleoli ar Ynys Môn ac felly bydd angen diwygio’r targedau.
Esboniwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio wedi adnabod y diffyg hwn fel gwendid
ac yn dymuno adfer y sefyllfa. Cydnabuwyd bod gan Cyngor Gwynedd gynlluniau cyffelyb gyda Pharc Cenedlaethol. Manylwyd bod y berthynas rhwng y ddau awdurdod yn gryf. Er hyn, nodwyd nad oes modd uno cynlluniau gyda’r Parc oherwydd ei fod yn awdurdod annibynnol, yn ogystal â’r ffaith bod rhan o ‘i ardal wedi ei leoli o fewn tiriogaeth Cyngor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gareth Jones: Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd |
|
CYNLLUN CYFLAWNI DRAFFT - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL PDF 461 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Derbyniwyd y Cytundeb
Cyflawni a chynigwyd sylwadau ar y cynnwys. 2.
Cytunwyd i’r Cytundeb
Cyflawni fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos. 3.
Dirprwywyd hawl i Bennaeth
Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er mwyn cywirdeb cyn i’r ddogfen
fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig. PENDERFYNIAD 1.
Derbyniwyd y Cytundeb
Cyflawni a chynigwyd sylwadau ar y cynnwys. 2.
Cytunwyd i’r Cytundeb
Cyflawni fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos. 3.
Dirprwywyd hawl i Bennaeth
Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er mwyn cywirdeb cyn i’r ddogfen
fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus. TRAFODAETH Eglurwyd bod y
Cytundeb Cyflawni yn rhan o gamau cychwynnol o greu Cynllun Datblygu Lleol
newydd. Nodwyd fod y broses honno yn un hir a thechnegol oherwydd bod camau
pendant i’w cyfarch ar amserlen statudol. Esboniwyd byddai’r
cytundeb cyflawni yn mynd i ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol os
byddai’r Cabinet yn ei gymeradwyo. Manylwyd bydd y cytundeb yn mynd ger bron
Gweithgor Polisi Cynllunio ym mis Ionawr, Y Cabinet ym mis Chwefror a’r Cyngor
Llawn ym mis Mawrth cyn cael ei dderbyn yn swyddogol. Adroddwyd bod
Gweithgor Polisi Cynllunio wedi ystyried y Cytundeb Cyflawni eisoes ac bod eu
sylwadau wedi eu nodi yn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod Pwyllgor Craffu
Cymunedau wedi ystyried y Cytundeb. Nodwyd nad oedd yr amserlen yn caniatáu
cynnwys eu sylwadau o fewn yr adroddiad i’r Cabinet. Rhoddwyd grynodeb o’u
ystyriaethau: ·
Cysidrwyd bod ‘ymgynghoriaeth’ yn risg o fewn y Cytundeb. Nodwyd hyn
oherwydd pwysigrwydd ymgynghori o fewn y cynllun a’r risg o beidio ymgynghori
yn ddigonol. Ystyriwyd byddai ei gynnwys fel risg yn sicrhau ei fod yn derbyn
sylw cyson. Gofynnwyd a oes gwersi wedi eu dysgu o ymgynghoriadau blaenorol ac
ystyriwyd os oes modd ymgorffi’r newidiadau hyn o
fewn eu hymgynghoriad. ·
Croesawyd bod y rhestr o
gyrff y bwriedir ymgynghori â hwy yn cynnwys grwpiau sydd wedi eu
tangynrychioli ac bod yr ymgynghoriad yn agored i bawb ymateb iddo. ·
Pryderwyd y defnyddir
dulliau arferol wrth ymgynghori a gofynnwyd i swyddogion sicrhau bod dulliau
amgen o ymgynghori yn cael eu defnyddio. ·
Derbyniwyd bod rôl i holl
Aelodau gefnogi’r gwaith a chymryd perchnogaeth ohono. Cydnabuwyd bod angen ymgynghori’n drwyadl a chlir gyda holl gyrff
perthnasol. Nodwyd bod gofynion statudol i’r broses ymgynghori ond mae lle i’r
Cyngor wella ar y gofynion hyn. Pwysleisiwyd bod yr amserlen a osodwyd gan y Llywodraeth i greu Cynllun
newydd yn dynn iawn. Er hyn, cadarnhawyd bod ‘ymgynghoriaeth’
yn cael ei ychwanegu fel risg o fewn y Cytundeb Cyflawni erbyn dechrau’r ymgynghoriaeth gyhoeddus. Sicrhawyd bod yr Adran yn
cydweithio gyda’r gwasanaeth Cyfathrebu er mwyn gwneud pob ymdrech i
ymgynghori’n effeithlon a thrylwyr. Trafodwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu i benodi swyddogion yn dilyn
pob hysbyseb swydd yn y misoedd diwethaf. Nodwyd nad yw capasiti
swyddogion yn cael ei ystyried yn risg i gyflawni’r Cytundeb ar hyn o bryd ond
cadarnhawyd bydd y sefyllfa yn cael ei monitro’n barhaus. Awdur: Gareth Jones: Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd |
|
STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 - 2033 PDF 282 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cefnogwyd addasiadau sydd wedi eu
gwneud i’r Strategaeth Iaith yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellwyd
i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu’r strategaeth. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Cefnogwyd addasiadau sydd wedi eu
gwneud i’r Strategaeth Iaith yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellwyd
i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu’r strategaeth. TRAFODAETH Eglurwyd bod y strategaeth ddrafft yn adlewyrchu
ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r iaith ar draws y sir ac mae’n bodloni
gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Rhannwyd y weledigaeth i greu strategaeth
gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf sy’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn
gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd. Adroddwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ystod mis
Ebrill a Mai 2023 ac bod ymateb cadarnhaol wedi ei dderbyn. Manylwyd bod
sicrhau cyfleoedd digonol ac addas i bobl ddysgu Cymraeg a magu hyder wrth
siarad yr iaith yn themâu cyson yn yr ymatebion hyn. Cydnabuwyd bod rhai ymatebion
llai cadarnhaol wedi dod i law megis sylwadau yn nodi na ddylai’r Cyngor
ddefnyddio’r Gymraeg fel ffordd o wahaniaethu ac na ddylid gwastraffu adnoddau
prin ar yr iaith. Cydnabuwyd ei fod yn siomedig mai dim ond 3
ymateb i’r holiadur a gyflwynwyd gan unigolion rhwng 25 a 34 oed. Yn sgil y
canlyniad hwn, adroddwyd bod grwpiau ffocws wedi cael ei gynnal i unigolion
rhwng 16 a 20 oed. Cadarnhawyd bod
cynnal ymgynghoriadau gyda unigolion ifanc yn heriol ac mae’r uned yn
gweithio i ganfod dulliau newydd o ymgysylltu er mwyn sicrhau nifer uwch o
ymatebion yn y dyfodol. Cadarnhawyd nad oedd awgrymiadau am newidiadau
ymarferol i’r strategaeth yn deillio o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd nad oes
newidiadau mawr wedi cael eu gwneud i’r strategaeth, dim ond man addasiadau.
Tynnwyd sylw at yr addasiadau canlynol; ·
Diwygiwyd y strategaeth i
gynnwys mwy o ffocws ar dechnoleg gan ei fod yn cael ei adnabod fel her ymhob
maes gweithredu. ·
Ystyriwyd os oes modd
cynyddu presenoldeb y Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol wrth ddatblygu’r
rhaglen waith, gan bod ymatebwyr yn ei nodi fel her. ·
Newidiwyd y strategaeth i
gyfarch pryderon am agweddau pobl a heriau economaidd a effeithir ar ddefnydd
o’r iaith Gymraeg yn hytrach na heriau demograffig a Sylfaen Tystiolaeth. Esboniwyd bod y rhaglen yn rhoi sylw i’r Gymraeg
mewn cynlluniau strategol fel CYSGA, prosiectau megis prosiect enwau llefydd
sy’n rhoi statws i enwau Cymraeg a phrosiect15 sy’n ceisio annog defnydd o’r
Gymraeg gan blant a pobl ifanc yn ddigidol. Pwysleisiwyd ei fod yn rhaglen waith byw sy’n
cael ei haddasu fel bo’r angen yn codi. Eglurwyd nad oes cyllideb penodol ar
gyfer gweithredu’r strategaeth iaith ac felly mae angen sicrhau bod cyllideb
ddigonol ar gael i weithredu prosiectau’r rhaglen waith drwy gyflwyno bidiau am
arian drwy system bidiau corfforaethol y Cyngor fel bo’r angen yn codi. Cadarnhawyd bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn
diweddaru’r Cabinet ar gynnydd y rhaglen waith a gweithrediad y Strategaeth fel
rhan o’u hadroddiad blynyddol am y maes iaith. Manylwyd hefyd bydd yr holl
adrannau hefyd yn egluro eu cyfraniadau i weithredu’r strategaeth fel rhan o’u
hadroddiadau blynyddol i’r Pwyllgor Iaith, yn ogystal â rhannu data gyda’r Uned
Iaith a Chraffu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cyfeiriwyd at Menter Iaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Corfforaethol |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL - CYFLOGAETH PDF 324 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Mena Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd yr adroddiad
blynyddol ar gyfer 2022/23. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr adroddiad
blynyddol ar gyfer 2022/23. TRAFODAETH Adroddwyd bod niferoedd gweithlu’r Cyngor ar
gynnydd gan fod cyfanswm o 5,995 o bobl yn gweithio i’r Cyngor erbyn diwedd mis
Mawrth eleni, o’i gymharu â 5,908 y llynedd. Nodwyd bod cynnydd mewn nifer o
staff yn groes i’r hyn a ddisgwylir mewn cyfnod ble mae angen gwneud toriadau i
gyfarch cyllideb y Cyngor. Eglurwyd mai staff yw prif asedau’r Cyngor ac felly
mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw doriant i wasanaethau’r
Cyngor yn cael ei wneud heb leihau niferoedd y gweithlu. Manylwyd hefyd bod
nifer o aelodau staff yn cael ei ariannu drwy grantiau sydd ddim yn deillio o
gyllideb y Cyngor. Tynnwyd sylw at yr ystadegyn bod 71.2% o
weithlu’r Cyngor yn ferched ac bod y ffigwr hwn yn sefydlog dros y blynyddoedd
diwethaf. Nodwyd bod mwy o ferched yn gweithio yn rhan amser yn hytrach na llawn
amser. Nodwyd bod 65% o weithlu'r staff dros 50 oed a
bod 40% yn hŷn na 50 oed. Cydnabuwyd bod hyn yn cael ei gysidro fel risg
oherwydd y posibilrwydd o golli blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth mewn cyfnod
byr yn y dyfodol. Sicrhawyd bod pob
ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau nad ydi’r golled hyn yn digwydd gan fod
cynllunio’r gweithlu yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor hwn, drwy
brentisiaethau, hyfforddai proffesiynol a rhaglenni eraill i foderneiddio
prosesau recriwtio’r Cyngor. Manylwyd hefyd bod mesur trosiant staff a chael
dealltwriaeth o’r rhesymau tu ôl i hynny yn allweddol a chymhleth ac felly mae
trefniant mewn lle i gynnal holiaduron a chyfweliadau gadael i unigolion. Ymfalchïwyd bod 38.4% o staff heb fod yn sâl o
gwbl o fewn y cyfnod 2022/23. Cydnabuwyd bod y ffigwr hwn yn is na 43% yn
2021/22 sy’n achosi pryder bod niferoedd salwch ar gynnydd. Nodwyd bod canran o
staff sydd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn disgyn i mewn i gategori ‘Arall’,
hynny yw, nid ydynt yn wael oherwydd rhesymau haint, cefn/gwddf, cyhyrysgerbydol, straen neu gategori penodol arall, ac
felly mae’n anodd cefnogi’r aelodau staff hynny. Er hyn, pwysleisiwyd bod
gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn darparu ystâd eang o wasanaethau i
gefnogi unrhyw aelod o staff sy’n wael, gan nodi bod mwy o salwch i’w weld mewn
rhai adrannau nac eraill. Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i hysbysu’r gweithlu o nodi y
categori cywir fel y rheswm eu bod i ffwrdd o’r gwaith, er mwyn sicrhau bod y
gefnogaeth gywir yn cael ei ddarparu iddynt. Cadarnhawyd y gobeithir bydd y broses o adrodd salwch yn
cael ei symleiddio dros y flwyddyn nesaf gan gynnwys system syml fel rhan o
adnodd Hunanwasanaeth Staff. Sicrhawyd bod cynadleddau achos yn digwydd gydag adrannau a’r
gwasanaethau adnoddau dynol er mwyn trafod achosion o absenoldebau tymor hir er
mwyn canfod dulliau o gefnogi staff yn ôl i’r gwaith. Cadarnhawyd y cyflawnwyd archwiliad annibynnol yn ystod 2022/23 ar strwythur tâl a chyflog y Cyngor. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Eurig Williams: Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DIOGEL A LLES IECHYD PDF 388 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a datganwyd bodlonrwydd
y Cabinet gyda’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad a datganwyd bodlonrwydd
y Cabinet gyda’r adroddiad. TRAFODAETH Adroddwyd bod effeithiau Covid-19 dal i’w gweld o fewn y maes hwn, gan
bod gwaith dydd i ddydd arferol wedi cronni dros gyfnod y pandemig. Manylwyd
bod swyddogion y gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio ar ganllawiau’r
llywodraeth drwy gyfnod Covid yn ogystal â chefnogi
rheolwyr wrth addasu i’r normal newydd gyda’u timoedd. Ymhelaethwyd bod nifer o weithwyr y Cyngor yn parhau i weithio o adref,
ac mae yna ddyletswydd gofal ar y Cyngor i sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn
ddiogel. Adroddwyd bod 2063 o holiaduron wedi eu gyrru i’r gweithlu i asesu ei
gweithfan. Cadarnhawyd bod 73% o’r gweithlu wedi ymateb i’r holiaduron, gan
arwain at 239 o asesiadau pellach gan y gwasanaeth. Atgoffwyd bod gofyniad cyfreithiol i adrodd ar ddamweiniau sy’n cyfarch
rheoliadau RIDDOR (Reporting of Injuries,
Diseases and Dangerous Occurences Regulations 2013) i’r
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID). Cadarnhawyd nad oes angen adrodd ar achosion Covid a nodwyd bod niferoedd sydd wedi eu hadrodd o dan
drefn RIDDOR wedi gostwng ychydig yn is na’r hyn a welwyd yn 2019. Datganwyd bod lefelau damweiniau yn gyffelyb i’r lefelau cyn y pandemig.
Nodwyd bod tueddiadau o ran patrwm yn parhau yn fewnol o fewn y Cyngor ac yn
genedlaethol oherwydd mai symud a thrin, a llithro a baglu yw’r ddau brif achos
dros ddamweiniau. Manylwyd bod achosion eraill o ddamweinio yn amrywio o
gyflyrau iechyd penodol sydd wedi eu
hachosi gan y gwaith, ymosodiadau a damweiniau cerbyd. Adroddwyd bod AGID wedi cynnal ymweliadau arolygol gyda’r Cyngor yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd eu bod wedi ymweld â dwy ysgol yn y sir am
reolaeth asbestos yn ogystal â ymweliad i safle Coed Ffridd Arw, Dolgellau ar
faterion trin gwastraff. Cadarnhawyd mai canlyniad yr ymweliadau hyn oedd bod
yr arolygwyr yn hapus ond bu i’r Cyngor dderbyn llythyr dilyniant ar fân
faterion sydd wedi golygu ffi ymyrraeth o oddeutu £600. Sicrhawyd bod
argymhellion yr AGID wedi cael ei rannu gyda’r gwasanaeth Eiddo er mwyn sicrhau
bod ysgolion eraill y sir yn cydymffurfio ac i osgoi ffioedd cyffelyb. Esboniwyd bod nifer o gyrsiau hyfforddiant wedi
cael ei gynnal gan y gwasanaeth. Nodwyd bod y rhain yn cynnwys cwrs Arwain yn
Ddiogel i’r Uwch Dim Rheoli er mwyn anelu i integreiddio diwydiant iechyd,
diogelwch a lles i bob agwedd o’r Cyngor. Manylwyd bod hyfforddiant Iechyd,
Diogelwch a Llesant wedi bod yn cael ei gynnal yn ogystal â chyrsiau IAct i gynorthwyo rheolwyr i ddelio gyda materion iechyd
meddwl. Eglurwyd bod 93 o reolwyr wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwn hyd
yma, a bod yr adran wedi derbyn adborth cadarnhaol am ei gynnwys. Soniwyd bod
yr adran yn casglu data i weld faint o reolwyr sydd eto i gwblhau’r
hyfforddiant. Cadarnhawyd bod rhaglen Gwyliadwriaeth Iechyd o fewn gwasanaethau iechyd
galwedigaethol wedi cael ei ailgydio ynddo, yn unol â gofynion statudol. Tynnwyd sylw at y nifer o gyfeiriadau sydd wedi cyrraedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG PDF 359 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Llongyfarchwyd myfyrwyr y sir ar eu canlyniadau arholiadau eleni yn
dilyn cyfnod addysgol heriol iawn yng nghyfnod Covid.
Mynegwyd diolchiadau i’r gwasanaeth ieuenctid am eu gwaith, yn enwedig i Andrew
Owen, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid, sydd wedi derbyn gwobr rhagoriaeth yn
ddiweddar fel Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol. Cyfeiriwyd at adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd gan ESTYN yn ddiweddar
yn dilyn arolygiad. Manylwyd bod sylwadau am y gyfundrefn drochi a’r iaith
Gymraeg yn addawol iawn. Er hyn, nodwyd bod heriau yn parhau gyda presenoldeb
disgyblion gan fod cyfraddau yn is na’r dymunir, ers y pandemig. Cadarnhawyd
bod gan yr adran nifer o raglenni i gyfarch yr her hon. Nodwyd nad oes
cynlluniau tymor hir wedi cael eu cyhoeddi gan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd
ond cydnabuwyd bod presenoldeb yn flaenoriaeth i’r awdurdod sy’n cael ei
gefnogi drwy farchnata pwysigrwydd mynychu’r ysgol pob diwrnod a ymgeisio i beidio
mynd ar wyliau yn ystod tymor addysgol. Adroddwyd bod yr adran yn ffocysu ar faterion yn ymwneud â llesiant,
oherwydd mae materion llesiant yn ffactor mawr i resymau pan nad yw disgyblion
yn mynd i’r ysgol. Manylwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ymchwilio i gostau
mynd a plant i’r ysgol drwy holiaduron i weld gostau llawn a chuddiedig nad
yw’r adran yn ymwybodol ohonynt, gan fod hyn yn effeithio ar lesiant teuluoedd. Nodwyd bod gwaith yn cael ei gwblhau ym maes
cydraddoldeb i sicrhau bod pawb yn hapus i fynd i’r ysgol, ac yn cael eu parchu
am fod yn nhw eu hunain. Tynnwyd sylw at nifer o faterion eraill sydd wedi cael eu cyflawni gan
yr adran yn ddiweddar megis gwaith moderneiddio addysg a cynllun cinio ysgol am
ddim. Diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi sydd wedi bod yn cynnal ymchwiliad craffu Ysgolion Uwchradd
Categori 3 Gwynedd a nodwyd bydd yr argymhellion sy’n deillio i’r ymchwiliad yn
cael eu cyflwyno i’r Cabinet pan yn amserol. Rhannwyd dymuniadau gorau i Garem Jackson, sydd wedi ymddiswyddo o’i rôl
fel Pennaeth Adran Addysg yn ddiweddar. Diolchwyd iddo am ei waith a’i
ymroddiad i’r adran, a mynegwyd pob dymuniad da iddo i’r dyfodol. Awdur: Debbie Jones: Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Gwasanaethau Corfforaethol |
|
ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET CYLLID PDF 221 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad wedi dyddio ychydig gan fod y cyfarfod herio
perfformiad wedi cael ei gynnal ers mis Gorffennaf. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £39.1m o gynlluniau
arbedion ers 2015/16. Manylwyd bydd adolygiad ffurfiol o sefyllfa cyllidebol
adrannau’r Cyngor yn 2023/24 wedi cael ei wneud ar ddiwedd Awst 2023 ac mae
adroddiad o’r adolygiad hwnnw ar agenda Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 12
Hydref 2023. Tynnwyd sylw i Gynllun Digidol 2023-28 gan fod
nifer o ddatblygiadau wedi digwydd yn rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd
2023-28.Cadarnhawyd bod adroddiad pellach ar y Cynllun Digidol yn cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ar 07 Tachwedd 2023, a fod y mater eisoes wedi cael ei
flaen-graffu gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Medi. Bydd sylwadau’r pwyllgor hwnnw yn cael eu
hymgorffori yn y fersiwn fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet. Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Adran yn gyfrifol am weithredu’r drefn o
dalu’r anfonebau a gyflwynir i’r Cyngor. Eglurwyd bod anfonebau yn cael eu
trefnu i’w dalu mor fuan a phosibl, yn hytrach na defnyddio system 30 diwrnod.
Perfformiad yr Adran yn y cyfnod hyd ddiwedd Mehefin oedd i dalu anfonebau
lleol o fewn 16 diwrnod ac unrhyw anfoneb arall o fewn 26 diwrnod. Pwysleisiwyd
bod y maes hwn yn derbyn sylwi’n rheolaidd fel rhan o gyfarfodydd herio
perfformiad yr Adran ac mae’n fesur cyflawni allweddol. Rhannwyd diweddariad ar berfformiad rhai o wasanaethau’r adran, gan
gynnwys: · Gwasanaeth Dysgu
Digidol (sydd o dan reolaeth y Cyngor ers i gwmni Cynnal ddod i ben). Nodwyd
bod capasiti’r tîm i gefnogi ysgolion wedi bod yn is
na’r disgwyl yn y cyfnod dan sylw oherwydd absenoldebau staff ond disgwylir i
hyn wella dros y misoedd nesaf. Cydnabuwyd bod yr adran wedi bod yn delio gyda
heriau o ddenu ymgeiswyr i swyddi technoleg gwybodaeth y Cyngor, oherwydd natur
arbenigol y swyddi, ond bod y sefyllfa yn cael ei adfer erbyn hyn. · Buddsoddi a Rheoli
Trysorlys: Cadarnhawyd bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd o fewn y chwarter
uchaf o gronfeydd pensiwn llywodraethau lleol y Deyrnas Unedig. Nodwyd ar sail
perfformiad 3-bynedd roedd y Gronfa yn y 3ydd safle o bron i 100 o gronfeydd ac
yn y 7fed safle dros 5 mlynedd. Cadarnhawyd bod hyn yn dangos bod perfformiad y
Gronfa wedi bod yn gryf iawn. · Gwasanaeth
Pensiynau: Adroddwyd bod y gwasanaeth wedi ymweld â stondin y Gwasanaeth
Pensiynau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd nifer fawr o bobl wedi
manteisio ar y cyfle i ddeall eu pensiwn a derbyn cymorth. · Gwasanaeth Cyflogau: Cydnabuwyd bod nifer o heriau, gan gynnwys ymdrin â
thaliadau anghyfunol i athrawon. Yn sgil diffyg
arweiniad gan Lywodraeth Cymru, roedd rhaid cyfrifo cyflogau yn unigol a’u
bwydo i mewn i system gyflogau. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith ac i
sicrhau nad oedd oediad yn nhaliadau staff y Cyngor. · Gwasanaeth Trethi: Cadarnhawyd bod llinellau ffôn bellach ar agor nes 5yh o’r gloch. Atgoffwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Dewi Morgan: Pennaeth Cyllid |