Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Craig ab Iago. Croesawyd yr Aelodau Cabinet a
Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y
Cynghorydd Elin Walker Jones ar gyfer Eitem 9 gan ei bod yn lywodraethwr yn
Ysgol Tryfan. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd
y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan y
Cynghorwyr Beca Brown a Berwyn Parry Jones ar gyfer Eitem 9 gan eu bod yn
lywodraethwyr yn Ysgol Brynrefail. Nid oeddent o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n
rhagfarnu ac ni fu iddynt adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Derbyniwyd datganiad o fuddiant
personol gan y Prif Weithredwr ar gyfer Eitem 9 gan fod cysylltiad teuluol yn
fyfyriwr yn un o’r ysgolion a drafodwyd. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant
sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 TACHWEDD PDF 202 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 07 Tachwedd 2023 fel rhai cywir. |
|
DOGFEN YMGYNGHOROL AMCANION CYDRADDOLDEB 2024-28 PDF 171 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol
Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol
Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad. TRAFODAETH Atgoffwyd yr aelodau
bod y ddogfen hon yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet bob pedair blynedd, yn unol â
gofynion statudol i adolygu amcanion cydraddoldeb o dan Deddf Cydraddoldeb
2010. Cadarnhawyd bod ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi ei gyflawni rhwng Ebrill
ac Awst 2023 ble cafwyd oddeutu 600 o ymatebion i holiadur barn. Eglurwyd mai
pwrpas yr ymgynghoriad oedd cadarnhau os oedd y cyhoedd yn credu bod angen i’r
amcanion a ddefnyddiwyd rhwng 2024-28 barhau ar gyfer 2024-28 neu a oedd angen
eu diwygio. Nodwyd bod
swyddogion wedi bod yn ymweld â nifer o grwpiau a digwyddiadau er mwyn sicrhau
bod yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys llais yr ifanc, pobl y gymuned LDHT+ a phobl
anabl. Eglurwyd bod swyddogion wedi cael trafodaethau gyda rheolwyr o fewn y
meysydd a oedd wedi codi, er mwyn derbyn cymorth i lunio’r amcanion.
Defnyddiwyd y wybodaeth a dderbyniwyd gan ymatebwyr â phrofiad bywyd o
nodweddion gwarchodedig er mwyn creu’r amcanion diwygiedig drafft. Adroddwyd y
defnyddiwyd data a gasglwyd gan dîm ymchwil a gwybodaeth y Cyngor ar gyfer
dogfen a gomisiynwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus Gogledd Cymru
i sicrhau dealltwriaeth o’r wybodaeth ar raddfa leol. Cadarnhawyd bod
ystyriaeth wedi cael ei roi i ddyletswyddau gweithredu'r Llywodraeth ym meysydd
Gwrth-hiliaeth a LHDT+ wrth lunio amcanion drafft. Pwysleisiwyd mai
amcanion drafft sydd wedi eu nodi yn y ddogfen ac y bydd modd i’r rhain cael eu
diwygio yn dilyn ymgynghoriad pellach gyda’r cyhoedd. Sicrhawyd bod yr Asesiad
Effaith Cydraddoldeb a gyflwynwyd gyda’r ddogfen, yn un drafft, a byddai’n cael
ei ddiwygio yn ôl yr angen pan fydd adborth bellach wedi eu casglu. Cadarnhawyd mai’r pedwar amcan drafft cyn ymgynghori’n bellach yw: 1.
Gwella
amrywiaeth ein gweithlu a lleihau bylchau tâl 2.
Gwella
ein data am bobl â nodweddion cydraddoldeb 3.
Sicrhau
fod y Cyngor yn fudiad wrth-wahaniaethol trwy wella ein systemau mewnol er mwyn
darparu gwell gwasanaethau i bawb 4.
Gwella
cydraddoldeb o fewn maes addysg Diolchwyd i’r swyddogion
am lunio amcanion siarp gan uno rhai amcanion blaenorol. Nodwyd bod hyn yn
galluogi ystyried cydraddoldeb o fewn maes addysg fel amcan newydd. Teimlwyd
bod hyn yn hollbwysig gan ei fod yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru ac addysg
cydberthynas a rhywioldeb. Amlygwyd nad oedd capasiti ac ymrwymiad staff
ac aelodau etholedig y Cyngor ym maes cydraddoldeb, yn ogystal â hyfforddiant
perthnasol, wedi ei gynnwys yn y ddogfen hon, er ei fod yn amcan yn y
gorffennol. Sicrhawyd yr Ymgynghorydd Cydraddoldeb bod hyfforddiant yn bwynt
gweithredu o dan addewid i wneud Cyngor gwrth-wahaniaethol. Pwysleisiwyd bod
llawer o waith wedi ei wneud ar y maes hwn yn barod ac felly mae wedi ei
gynnwys fel pwynt gweithredu yn hytrach nag amcan. Nodwyd y byddai hyn yn cael
ei amlygu o fewn y ddogfen. Adroddwyd nad oedd materion yr iaith Gymraeg wedi ei nod i fel amcan o fewn y ddogfen. Cadarnhawyd bod hyn oherwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Delyth Williams: Ymgynghorydd Cydraddoldeb |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2022/2023 PDF 150 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023
yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023
yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. TRAFODAETH Atgoffwyd yr Aelodau bod cyflwyno’r adroddiad
blynyddol hwn yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Ymhelaethwyd bod sefydlu a chynnal y Bwrdd yn ofyniad o
fewn Adran 9 y ddeddf honno yn ogystal â’r angen i hyrwyddo cydweithrediad gyda
phartneriaid y Bwrdd. Eglurwyd bod y bwrdd yn cael ei redeg gan y Tîm
Cydweithio Rhanbarthol a’i lletyo gan Gyngor Sir Ddinbych. Diolchwyd i Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru am ei gwaith o
gadeirio’r Bwrdd. Tywyswyd drwy’r adroddiad gan dynnu sylw’n fras
at y prif bwyntiau canlynol: ·
Cadarnhawyd mai rôl y bwrdd
yw cydweithio i sicrhau iechyd a lles pobl o bob oed yng Ngogledd Cymru. ·
Darparwyd diagram o holl
is-fyrddau’r Bwrdd sy’n sicrhau fod rôl y Bwrdd yn
cael ei gyflawni. ·
Nodwyd bod y ‘Cynllun
Ardal’ ar gael ar wefan Cydweithredfa Gogledd Cymru
sy’n dangos yr heriau a blaenoriaethau o fewn ardaloedd y Bwrdd, gan gynnwys
Gwynedd. ·
Cyfeiriwyd at ddwy gronfa
ranbarthol gyfalaf newydd y bwrdd sy’n darparu arian i brosiectau pwysig iawn
ar draws y rhanbarth. Cadarnhawyd mai’r cronfeydd hyn ydi ‘Cronfa Tai â Gofal’
a ‘Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso’. ·
Adroddwyd ar nifer o
brosiectau o fewn maes plant a phobl ifanc megis anableddau dysgu, iechyd
meddwl, blynyddoedd cynnar a phrosiect ‘Dim Drws Anghywir’. ·
Esboniwyd bod y bwrdd yn
derbyn arian o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a sefydlwyd gan y Llywodraeth
yn Ebrill 2022. Eglurwyd bod hwn yn Gronfa am gyfnod o 5 mlynedd. ·
Darparwyd gwybodaeth am
Aelodaeth y Bwrdd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector gyhoeddus, iechyd,
defnyddwyr gwasanaethau a’r trydydd sector. ·
Cyfeiriwyd at Gynllun
Cyflawni Blynyddol y Bwrdd i ddarparu gwybodaeth am waith y Bwrdd i’r dyfodol Cytunwyd i ddarparu cyflwyniad pellach i
Aelodau’r Cabinet ar waith y Bwrdd. Cydnabuwyd nad oedd strwythur llywodraethu clir
ac eglur ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Cadarnhawyd bod y
cylch gorchwyl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae Is-fwrdd Plant a Phobl
Ifanc yn blaenoriaethu’r gwaith hwn. Manylwyd nad yw aelodau etholedig yn rhan
o’r is-fwrdd ac felly cadarnhawyd bod y Cyfarwyddwr Statudol wedi cysylltu
gyda’r Llywodraeth i ystyried addasu aelodaeth. Cadarnhawyd bod strwythur llywodraethu cymhleth
y Bwrdd wedi ei ddarparu gan y Llywodraeth. Er hyn, cadarnhawyd bod gwaith y
Bwrdd yn llwyddiannus iawn gan eu bod yn canolbwyntio ar lais defnyddwyr y
gwasanaethau i ysgogi’r gwaith. Diolchwyd i’r Bwrdd a’r holl swyddogion am eu
gwaith. Awdur: Dylan Owen Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL 2022-2023 PDF 132 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn
yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y
flwyddyn 2022-23. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn
yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y
flwyddyn 2022-23. TRAFODAETH Atgoffwyd yr aelodau bod gan Gyngor Gwynedd a’i
bartneriaid gyfrifoldeb i fod yn Rhiant Corfforaethol i bob plentyn o dan ofal
y Cyngor, ac yn benodol i sicrhau gofal effeithiol, sefydlog, diogel ac addas
ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal, ynghyd â’r rhai sy’n gadael gofal.
Cywirwyd Adran 3.1 o’r blaenraglen i ategu hynny a
nodwyd bod yr Adroddiad yn adrodd ar y gwaith sydd wedi ei gwblhau i sicrhau
bod y Cyngor yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn cymryd y
cyfrifoldeb hwn yn ddifrifol iawn a eglurwyd mai’r Prif Weithredwr yw Cadeirydd
y Panel Rhiant Corfforaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adroddiad hwn yn
manylu ar y gwaith a gyflawnwyd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth2023 ac yn nodi
gwybodaeth gyfredol am niferoedd plant mewn gofal a’r gefnogaeth a roddir i’r
plant hynny yn ogystal ag amlinellu’r bwriad ar gyfer y dyfodol. Adroddwyd bod 25% o’r plant a ddaeth i ofal yn ystod
y flwyddyn 2022-23 yn Geiswyr Lloched drwy Gynllun Trosglwyddo’r Swyddfa
Gartref, gan i’r Cyngor dderbyn 15 o blant drwy’r cynllun. Mynegwyd pryder am Gynllun Trosglwyddo'r Swyddfa
Gartref gan nad yw’r plentyn yn cael ei roi’n ganolog i’w prosesau. Eglurwyd
nad oes trafodaethau ymlaen llaw i ddiwallu anghenion y plentyn i’w asesu os
ydi Gwynedd yn leoliad addas i’w anghenion. Cydnabuwyd ei fod yn heriol iawn
canfod lleoliad addas ar gyfer y plant gan nad ydynt eisiau aros yng Ngwynedd
yn aml iawn, ac yn dyheu am fynd i’r dinasoedd mawr. Eglurwyd bod modd gofalu
am unigolion dros 16 mewn lleoliad llety a chefnogaeth, ond os yw’r plant o dan
16 oed mae’n rhaid iddynt gael lleoliad maeth. Diweddarwyd bod y Swyddfa
Gartref yn disgwyl i’r awdurdodau lleol leoli’r plant mewn 5 diwrnod gwaith ar
ôl derbyn y cyfeiriad. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn bosib ac o’r herwydd mewn un
achos, mae’r plentyn wedi gorfod ei leoli yng Nghaint
tra mae swyddogion yn canfod lleoliad mwy addas a lleol i Wynedd. Adroddwyd bod
y problemau hyn sy’n codi fel rhan o’r Cynllun Trosglwyddo yn digwydd ar hyd
Cymru gyfan. Cadarnhawyd niferoedd Ceiswyr Lloches ym mhob Sir y
Gogledd (yn unol â gwybodaeth a dderbyniwyd yn Haf 2023, am gyfnod o 8 ‘cycle’) fel a ganlyn: ·
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam – 2 o blant ·
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy – 3 o blant ·
Cyngor Sir Ynys Môn – 4 o
blant ·
Cyngor Sir Ddinbych – 7 o
blant ·
Cyngor Gwynedd – 9 o
blant ·
Cyngor Sir Y Fflint – 11
o blant Cymharwyd hyn gyda lleoliadau eraill yng
Nghymru megis Sir Gaerfyrddin (12 o blant), Casnewydd (1 plentyn), Abertawe (3
o blant) a Chaerdydd (1 plentyn). Manylwyd bod 26 o Geiswyr Lloches o dan olaf y Cyngor ers cyfod o ddwy flynedd a hanner ac y disgwylir 6 plentyn ychwanegol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cymeradwywyd
Opsiwn 2 ar gyfer prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon. 2. Cymeradwywyd
i’r Pennaeth Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu y memorandwm o
ddealltwriaeth gyda’r rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16
Gwynedd ac Ynys Môn gyda’r bwriad o gryfhau y trefniadau ac adrodd yn ôl i’r
Cabinet gyda argymhellion ar gyfer y digwyddiadau gytunwyd. 3. Caniatawyd i ddargyfeirio rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar
gyfer cyfarch y bwlch ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r
adroddiad, nad oes modd symud ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb
ddigonol ar eu cyfer yn sgil cynnydd mewn costau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca
Brown. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwywyd Opsiwn 2 ar gyfer prosiect
Addysg Ôl-16 yn Arfon. 2.
Cymeradwywyd i’r Pennaeth
Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu'r memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r
rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
gyda’r bwriad o gryfhau'r trefniadau ac adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag
argymhellion ar gyfer y diwygiadau a gytunwyd. 3.
Caniatawyd i ddargyfeirio
rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar gyfer cyfarch y bwlch
ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r adroddiad, nad oes modd symud
ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb ddigonol ar eu cyfer yn sgil
cynnydd mewn costau. TRAFODAETH Atgoffwyd yr Aelodau i’r Cabinet ganiatáu
cychwyn proses ymgysylltu gyda rhan-ddeiliaid allweddol er mwyn ystyried y
ddarpariaeth ôl-16 bresennol, ac amlygu’r ystyriaethau allweddol er mwyn
adnabod y cyfeiriad a’r cyfleoedd i gryfhau’r ddarpariaeth yn Arfon, mewn
cyfarfod ym mis Mawrth 2020. Manylwyd bod dau weithgor wedi ei gynnal gyda
dysgwyr, rhieni, staff dysgu a llywodraethwyr er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio
eu barn a holi unrhyw gwestiynau. Adroddwyd mai’r prif negeseuon a dderbyniwyd o’r broses ymgysylltu hwn
oedd: · Y brif
flaenoriaeth yw ansawdd addysg · Y dylid defnyddio
TGCh i ategu a chefnogi’r dysgu wyneb yn wyneb. · Bod Addysg Gymraeg
a dwyieithog yn greiddiol bwysig (er rhai sylwadau i’r gwrthwyneb) · Y dylid defnyddio’r arian cyfalaf i wella cyfleusterau ein hysgolion
uwchradd yn gyffredinol fel bod modd i’r holl ddysgwyr 11-18 oed elwa o’r
buddsoddiad. · Bod gwrthwynebiad
cyffredinol i unrhyw fwriad i ganoli neu drydyddu’r
ddarpariaeth · Y cafwyd sawl sylw
am ddarpariaeth Grŵp Llandrillo Menai o safbwynt ansawdd, cyfrwng a gofal
bugeiliol. Cydnabuwyd nad yw’r achos dros newid mor gryf
erbyn hyn ag yr oedd hi nol yn 2020. Ystyriwyd bod dyheadau ac anghenion pobl
ifanc wedi newid yn sgil y Pandemig a bod y Cyngor wedi dysgu gwersi am
bwysigrwydd technoleg mewn addysg. Nodwyd bod sylwadau cryf wedi dod gan
benaethiaid bod angen edrych ar addysg uwchradd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na
manylu ar addysg ôl-16 yn unig. Adroddwyd bod rhai o siroedd eraill yn ymdrin
ag addysg ôl-16 fel rhan o’r gyfundrefn uwchradd, ond mae Gwynedd yn dewis
peidio gwneud hynny oherwydd cryfderau ac arolygiadau cadarnhaol am y trefniant
presennol. Cydnabuwyd bod buddsoddiad yn ysgolion uwchradd
wedi bod yn is nag ysgolion cynradd. Croesawyd y bwriad i fuddsoddi mewn
ysgolion uwchradd yn y Sir sydd wir ei angen. Pwysleisiwyd gan y Pennaeth
Cynorthwyol Addysg: Gwasanaethau Corfforaethol bod buddsoddi mewn ysgolion
uwchradd wedi bod yn llai arwyddocaol nac i’r gyfundrefn gynradd a hynny
oherwydd bod gan y gyfundrefn honno nifer sylweddol yn uwch o ysgolion na’r
gyfundrefn uwchradd. Er hyn, sicrhawyd bod y gyfundrefn uwchradd yn derbyn sylw
gan yr adran a chyfeiriwyd at nifer o brosiectau ar y gweill i gynorthwyo
hynny. Rhannwyd pryder am yr heriau o ddenu staff i ddysgu pynciau allweddol, ar y cyd gyda niferoedd isel o ddisgyblion yn astudio rhai pynciau arbenigol. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Debbie Anne Williams Jones: Pennaeth Cynorthwyol Adran Addysg - Gwasanaethau Corfforaethol |
|
ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 193 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adran yn rhoi pobl
Gwynedd yn ganolog i’w gwasanaethau a bod eu llwyddiant i wneud hyn yn cael ei
fesur drwy gyfarfodydd Herio Perfformiad rheolaidd. Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar ddau o brosiectau Cynllun y Cyngor.
Nodwyd mai un ohonynt yw’r ‘Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan’. Eglurwyd bod yr
adran yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd
at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu
ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau. Cadarnhawyd bod
ymweliadau eiddo wedi cymryd lle er mwyn symud y prosiect yn ei flaen a
thŷ wedi cael ei ystyried. Manylwyd bod darn o dir mewn ardal arall o
Wynedd yn cael ei ystyried i adeiladu tŷ ar gyfer y pwrpas y cynllun hwn.
Esboniwyd bydd grŵp prosiect yn cael ei sefydlu yn 2024 yn cynnwys
swyddogion yr adran Blant, Tai ac Eiddo, Addysg a’r Gwasanaeth Iechyd i
oruchwylio’r cynllun. Sicrhawyd bod £50,000 yn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r
prosiect yn ddiweddar o danwariant cronfa RIF. Adroddwyd mai’r ail brosiect Cynllun y Cyngor
sydd o dan arweiniad yr Adran yw’r ‘Cynllun Awtistiaeth’. Eglurwyd bod plant,
pobl ifanc ac oedolion awtistig yn wynebu heriau i dderbyn cefnogaeth arbenigol
angenrheidiol. Ymrwymwyd i wella’r gwasanaeth gan ei wneud yn haws i unigolion
dderbyn gwasanaethau. Cadarnhawyd bod fforwm wedi ei sefydlu ar gyfer edrych ar
y cyfeiriadau sydd yn cyrraedd y Cyngor. Darparwyd gwybodaeth am lansiad y
Gwasanaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd hyn wedi bod yn
llwyddiannus iawn. Nodwyd bod nifer o staff y Cyngor bellach wedi cael cyfle i
fynd ar y Bws Profiad Realiti Awtistiaeth sy’n rhoi profiad tebyg i sut mae
unigolyn gydag Awtistiaeth yn gweld y byd o’u cwmpas. Manylwyd ei fod yn
ofynnol i staff Cyngor Gwynedd gwblhau hyfforddiant lefel 1 a 2 yn y maes
awtistiaeth. Sicrhawyd bod yr adran yn cydweithio’n gyson gyda’r Tîm Niwroddatblygiadol a Thîm Derwen gyda’r cynllun. Cydnabuwyd bod sefyllfa gweithlu'r adran yn
parhau i fod yn fater o bryder difrifol. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran yn
ymdrechu i sefydlogi’r sefyllfa at y dyfodol drwy gydweithio gyda Grŵp
Llandrillo Menai ac ymweliadau gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal i’w hysbysu o’r
cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael. Cadarnhawyd bod yr adran yn parhau i weld natur
ddwys a chymhleth yn dod i sylw’r Cyngor a bod y niferoedd yr achosion agored
yn cynyddu. Manylwyd bod niferoedd yr achosion sydd yn agored i’r Tîm Ôl-16 ar
ei uchaf erioed, gydag 210 o achosion yn cael eu hymdrin â hwy. Ystyriwyd bod
hyn yn mynd law yn llaw gyda chynnydd mewn cyfraniadau digartrefedd ac felly
mae’r adran yn cydweithio gyda’r Tîm
Digartrefedd i geisio canfod lloches addas. Cydnabuwyd bod hon yn her enfawr. Nodwyd bod effeithiau’r pandemig, argyfwng costau a straen yn arwain at niferoedd uwch o bobl cysylltu gyda’r adran am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Marian Parry Hughes: Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd |
|
ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 359 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi
diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn
addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa
ariannol. Cadarnhawyd bod cais cynllunio ar gyfer Dolfeurig wedi cael ei dderbyn gan y Parc Cenedlaethol, fel
rhan o’r prosiect ‘Cefnogaeth Ataliol yn Lleol’ sy’n rhan o Gynllun y Cyngor.
Manylwyd y gobeithir cychwyn ar y gwaith adeiladu ar y safle yn ystod haf 2024
yn dilyn proses o ddylunio a chontractio. Sicrhawyd bod gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i
wella hygyrchedd at wybodaeth ac at ddigwyddiadau ar draws y Sir drwy
dudalennau ar wefan y Cyngor sydd yn cael eu hadolygu’n barhaus. Manylwyd ar brosiect ‘Byw’n Annibynnol’ sydd
hefyd yn rhan o Gynllun y Cyngor gan gadarnhau bod Tai Gofal Ychwanegol Ysgafn
ym Mhwllheli wedi agor ar 27ain Tachwedd. Ymfalchïwyd
bod prosiectau tebyg ar y gweill yn ardaloedd Groeslon, Nefyn, Tywyn,
Penrhyndeudraeth a thu hwnt. Sicrhawyd bod yn adran yn gweithio i adnabod
unigolion addas i ddefnyddio’r safle. Mynegwyd pryder ar ddiffyg datblygiad ar
y gwaith o adnabod safle cyffelyb yn Nolgellau. Eglurwyd bod lleoliadau yn cael
eu hasesu yn ôl anghenion yr unigolion a bod anawsterau wedi codi wrth geisio
canfod lleoliad canolog ar gyfer y safle, ond bod hyn yn flaenoriaeth i’r
Adran. Pwysleisiwyd byddai’r Aelod Cabinet yn gofyn am ddiweddariad yng
nghyfarfod herio perfformiad nesaf yr adran. Pwysleisiwyd bod yr adran yn paratoi at
drawsnewidiad digidol erbyn 2025, gan edrych ar dechnoleg newydd tra hefyd yn
rhoi ystyriaeth i ddefnydd yr adnoddau digidol i ddefnyddwyr ardaloedd gwledig.
Cydnabuwyd bod y gwaith hwn yn newydd ac yn newid yn gyson. Yn yr un modd,
cadarnhawyd bod yr Adran yn canolbwyntio ar fodelau taliadau uniongyrchol wrth
i’r gwasanaeth hwn gael ei drosglwyddo i ddarparwyr newydd yn fuan. Adroddwyd bod rhestrau aros am dderbyn asesiad
therapi galwedigaethol wedi cynyddu ar raddfa bryderus, gan orfodi’r adran i
flaenoriaethu ar sail risg. Cyfeiriwyd at her arall sy’n wynebu’r adran sef
oriau gofal cartref sydd heb eu diwallu. Nodwyd bod y canran hwn wedi cynyddu o
12.1% i 14% yn ddiweddar. Golyga hyn bod 154 unigolyn yn aros am ofal cartref
o’r newydd erbyn diwedd Medi 2023, o’i gymharu â 137 ar ddiwedd mis Mai 2023. Tynnwyd sylw at niferoedd brawychus o
gyfeiriadau sy’n cyrraedd y Tîm Iechyd Meddwl. Cadarnhawyd bod yr adran yn
derbyn rhwng 450 a 500 yn y misoedd diwethaf. Cydnabuwyd bod hyn yn codi
pryderon am gapasiti’r adran i ddelio gyda’r galw am
gefnogaeth, ymfalchïwyd bod 40% o’r ceisiadau hyn wedi derbyn pecyn gofal wedi
ei ddarparu ar eu cyfer. Cyfeiriwyd at faterion diogelu gan gadarnhau bod yr adran wedi llwyddo i reoli’r perygl mewn 100% o atgyfeiriadau diweddar. Er hyn, pryderwyd bod 306 o unigolion yn aros am asesiad Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) ar ddiwedd mis Medi 2023. Eglurwyd bod y broblem hon ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant |