Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i’r cyfarfod gan yr
Arweinydd. Talwyd teyrnged i Dafydd Elis-Thomas gan gydymdeimlo a’i deulu yn eu
galar. Mynegwyd bod cyfraniad Dafydd i’r genedl a’r iaith wedi bod yn
amhrisiadwy, yn ogystal â’i gyfraniad i Gymru. Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod
hi’n adnabod Dafydd ers y 90’au a’i bod yn fraint i’w adnabod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 7: Datganodd y Cynghorwyr Llio Elenid Owen a Menna Trenholme eu bod nhw’n Llywodraethwyr a benodwyd gan yr awdurdod yn Ysgolion Llandwrog a Bontnewydd. Yn ychwanegol nodwyd bod gan y Cynghorydd Menna Trenholme blant yn Ysgol Bontnewydd. Nid oedd y buddiant yn un oedd yn rhagfarnu felly ni adawsant y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 IONAWR 2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion
y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2025 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023/24 CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd
Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng
Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd. TRAFODAETH Croesawyd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd i’r cyfarfod a
diolchwyd iddi am ei gwaith o reoli’r rhaglen ac am adroddiad cynhwysfawr.
Darparwyd cefndir y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan nodi bod ymateb i’r
argyfwng newid hinsawdd yn un o 8 o flaenoriaethau gwella o fewn Cynllun y
Cyngor (2023-28). Nodwyd mai’r adroddiad yma yw’r ail adroddiad blynyddol i
gael ei gyflwyno ers bodolaeth y Cynllun ar ddechrau blwyddyn 2023/23 a bod yr
adroddiad eisoes wedi bod ger bron y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Ionawr. Tywyswyd Aelodau’r Cabinet drwy’r adroddiad gan nodi bod
gostyngiadau allyriadau carbon wedi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. Nodwyd bod
37% o leihad yn allyriadau carbon Cyngor Gwynedd os yn diystyru’r maes caffael.
Ychwanegwyd bod y gostyngiad yn 16% ers 2019/20 os yn cynnwys caffael yn y
ffigyrau. Nodwyd bod y gwahaniaeth yma yn wir i pob sefydliad ar draws y wlad. Nodwyd bod nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill megis
buddsoddi mewn bws mini trydan er mwyn darparu cludiant i ysgolion. Cyfeiriwyd
at y dasg bwysig o newid ymddygiad sydd ddim wastad yn hawdd. Nodwyd er y
cynnydd, bod llawer o waith yn parhau er mwyn sicrhau dyfodol wyrddech i
Wynedd. Cyfeiriwyd at y risg ariannol gan egluro bod cronfa Cynllun
Hinsawdd gwerth £3m wedi ei sefydlu drwy’r broses bidiau refeniw un-tro.
Ymhelaethwyd mai £792,015 sydd ar ôl yn y gronfa gyda £2,207984 wedi ei wario
neu ei neilltuo i’w wario. Eglurwyd bod y Cyngor wedi ychwanegu arian o nifer o
gronfeydd gwahanol tuag at y £3m dros y blynyddoedd yn ogystal â wedi bod yn
llwyddiannus iawn efo grantiau oedd wedi arwain at £6m ychwanegol i’r Cynllun. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at benawdau am
gynlluniau penodol eraill megis cynllun y Fflyd Werdd i drosi cerbydau’r Cyngor
o gerbydau diesel i gerbydau trydan er mwyn arbed carbon ag arian i’r Cyngor.
Cyfeiriwyd hefyd at gais grant llwyddiannus ble cafwyd cadarnhad ddoe am
lwyddiant y cais i ymgymryd â gwaith ar gartref henoed Plas Ogwen. Nodwyd bod y
Cyngor wedi denu £1.7 miliwn o arian grant tuag at drosi’r adeilad a gwella ei
berfformiad ynni. Bydd y Cyngor hefyd yn cyfrannu tuag at y cynllun hwn a
llongyfarchwyd yr uned cadwraeth ynni. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: • Llongyfarchwyd
y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma. • Mynegwyd
safbwynt fod y Cyngor wedi taclo’r newidiadau hawsaf yn gyntaf oedd wedi arwain
at ostyngiadau sylweddol yng nghychwyn y broses. Tynnwyd sylw bod y gostyngiad
allyriadau wedi arafu ers 2022/23 gyda dim ond 1% o gynnydd yn cael ei wneud yn
y gostyngiadau. Credwyd y bydd y cynnydd yn arafu wrth symud ymlaen i
gynlluniau anoddach a gall hyn arwain at risg o beidio cyrraedd y targed o 0%
erbyn 2030. • Credwyd ei bod yn anodd i Awdurdodau Lleol flaenoriaethu’r gwaith hwn oherwydd nad oes unrhyw gyllid yn cael ei dderbyn gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
ADOLYGU DALGYLCH YSGOL FELINWNDA Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd yr ymatebion a
dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar adolygu dalgylch Ysgol Felinwnda,
ynghyd â’r gwerthusiad o’r opsiynau a gyflwynir yn yr adroddiad. Penderfynwyd
cymeradwyo’r opsiwn ffafriedig, sef: ‘Opsiwn 2:
Trosglwyddo dalgylch Felinwnda yn ei gyfanrwydd i
ddalgylch Ysgol Bontnewydd’ Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones PENDERFYNIAD Ystyriwyd
yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar adolygu dalgylch Ysgol
Felinwnda, ynghyd â’r gwerthusiad o’r opsiynau a gyflwynir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo’r opsiwn ffafriedig, sef: ‘Opsiwn 2: Trosglwyddo
dalgylch Felinwnda yn ei gyfanrwydd i ddalgylch Ysgol Bontnewydd’ TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan dynnu sylw at Atodiad 5 sef sylwadau’r Aelod Lleol. Nodwyd bod
yr Aelod Lleol yn ymddiheuro na all fod yn bresennol ond yn awyddus iawn i
gyfleu ei sylwadau. Atgoffwyd yr Aelodau Cabinet y bydd angen ystyried y
sylwadau hyn wrth wneud y penderfyniad heddiw. Nodwyd bod
yr adroddiad yn rhan o gynllunio ymlaen gan nodi bod ymgynghoriad a gwerthusiad
o’r holl opsiynau wedi eu cynnal. Yn dilyn hyn awgrymir Opsiwn 2 fel yr opsiwn
ffafriedig gan nodi bod Swyddogion yr Adran Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg o’r
farn mai’r opsiwn yma yw’r un fwyaf addas. Nodwyd y
bydd yr opsiwn hwn yn galluogi i holl ddysgwyr dalgylch Ysgol Felinwnda i aros
gyda’u gilydd a bydd yr opsiwn yn cyd-fynd a dewis presennol mwyafrif o
ddysgwyr y ddalgylch gyda 57% eisoes yn dewis mynychu Ysgol Bontnewydd.
Rhagwelir y bydd yr opsiwn yma yn cynnig costau cludiant is na’r holl opsiynau
eraill ag eithrio opsiwn 3. Mynegwyd
bod ystyriaeth briodol wedi ei roi i’r elfen ariannol er nad yr elfen ariannol
oedd y brif ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad. Cadarnhawyd,
yn unol â Pholisi’r Cyngor, bod gan rieni hawl i gofrestru eu plant mewn unrhyw
ysgol sydd â llefydd gwag. Nodwyd nad yw gosod dalgylch yn golygu bod y Cyngor
yn mynnu bod unrhyw blentyn yn mynd i ysgol benodol. Gwnaethpwyd sylw bod yr
addewid y byddai’r Cyngor yn darparu cludiant i gyn-ddisgyblion Ysgol Felinwnda
i’r ysgol o’u dewis drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol gynradd yn parhau. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: • Cydnabuwyd bod y penderfyniad hwn yn
un anodd a’i bod yn anodd plesio pawb. • Gofynnwyd am sicrwydd y bydd rhieni
yn cael dewis i ba ysgol i anfon eu plant os yw’r ysgol o’u dewis mewn dalgylch
arall. o Cadarnhawyd bod hyn yn gywir a bod gan
rieni hawl i gofrestru eu plant mewn unrhyw ysgol ar yr amod bod llefydd gwag
yn yr ysgol dan sylw. • Mynegwyd siom nad trosglwyddo
dalgylch Felinwnda i Ysgol Llandwrog ydi’r argymhelliad a mynegwyd anghytundeb
cryf efo’r opsiwn sydd ger bron. Soniwyd am y cysylltiad sydd wedi bod rhwng
Ysgol Felinwnda ac Ysgol Llandwrog ers blynyddoedd ac ategwyd pwyntiau’r Aelod
Lleol oedd hefyd yn anghytuno â’r argymhelliad. Pryderwyd y byddai’r
argymhelliad hwn yn arwain at effaith negyddol ar Gylch Meithrin Dinas a
Llanwnda. Cadarnhawyd y byddai’r Aelod Cabinet yn pleidleisio yn erbyn y
penderfyniad heddiw ar sail y rhesymau hyn. • Croesawyd addewid y Cyngor ar dudalen
59 o’r adroddiad i barhau i gynnig cludiant i blant yr ardal. o Pwysleisiwyd y bydd unrhyw
gyn-ddisgybl yn parhau i dderbyn cludiant tra’n parhau yn yr ysgol gynradd. • Mynegwyd bod yr Adran Addysg yn parhau i gefnogi Ysgol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Debbie Ann Jones, Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau Corfforaethol, Addysg |
|
YSGOL GYNRADD NEBO AC YSGOL BALADEULYN Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i gychwyn trafodaethau
ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol Ysgol Gynradd
Nebo gan drafod opsiynau posib yn ymwneud â dyfodol yr ysgol yn sgil niferoedd
isel o ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgol. Cytunwyd i gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol Ysgol Baladeulyn gan drafod opsiynau posib yn ymwneud â dyfodol yr ysgol yn sgil niferoedd isel o ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones PENDERFYNIAD Cytunwyd i
gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a budd-ddeiliaid
perthnasol Ysgol Gynradd Nebo gan drafod opsiynau posib yn ymwneud â dyfodol yr
ysgol yn sgil niferoedd isel o ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgol. Cytunwyd i
gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a budd-ddeiliaid
perthnasol Ysgol Baladeulyn gan drafod opsiynau posib yn ymwneud â dyfodol yr
ysgol yn sgil niferoedd isel o ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgol. TRAFODAETH Cyfeiriwyd
at ddifrifoldeb symudiadau demograffeg y Sir gyda’r boblogaeth yn heneiddio a
nifer plant y Sir yn lleihau yn flynyddol. Cydnabuwyd bod ymdrechion
llwyddiannus wedi bod gan y Cyngor i ddenu pobl ifanc yn ôl i Wynedd i fyw ond
bod y broblem o leihad yn nifer plant y Sir yn parhau. Cyflwynwyd
yr adroddiad gan ofyn i’r Cabinet gychwyn trafodaethau ffurfiol yn ymwneud â
dyfodol Ysgol Gynradd Nebo ac Ysgol Baladeulyn yn sgil niferoedd isel o
ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgolion. Cadarnhawyd y bydd yr Adran
Addysg yn edrych ar y ddwy ysgol ar wahân. Cyfeiriwyd
at y cefndir a beth sydd wedi arwain at gychwyn y trafodaethau hyn fel sydd
wedi ei nodi yn yr adroddiad. Mynegwyd mai 10 dysgwr llawn amser sy’n mynychu
Ysgol Gynradd Nebo ar hyn o bryd gyda’r un plentyn yn y dosbarth meithrin.
Golyga hyn bod canran o 80% o lefydd gweigion yn yr ysgol. Adroddwyd sefyllfa
debyg yn Ysgol Baladeulyn gyda 13 dysgwr llawn amser yn mynychu’r ysgol ar hyn
o bryd a dim un plentyn yn y dosbarth meithrin. Nodwyd bod hyn yn cyfateb â 76%
o lefydd gweigion yn yr ysgol wrth edrych ar gapasiti’r ysgol. Cyfeiriwyd
at gost y pen fesul dysgwr am ddwy ysgol, oedd yn sylweddol uwch na’r
cyfartaledd Sirol; bron i dair gwaith y gost. Ychwanegodd
y Pennaeth Addysg os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r penderfyniad a geisir
heddiw yna bydd trafodaethau yn cael eu cynnal efo’r ysgolion dros y misoedd
nesaf. Nododd y bydd asesiad effaith yn cael ei wneud yn dilyn y trafodaethau
hynny ar bob un o’r opsiynau posib. Eglurwyd y bydd yr eitemau yn dod yn ôl ger
bron y Cabinet ym mis Mehefin efo’r adborth lleol a chanlyniad y trafodaethau
er mwyn trafod y camau nesaf. Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg |
|
CYNLLUN ARBEDION A THORIADAU 2025/26 Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr arbedion a
thoriadau a restrir yn Atodiad A (£519k) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at
ein bwlch cyllidol yn 2025/26, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i
weithredu'r cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. Cymeradwywyd dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion a Thoriadau hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr
arbedion a thoriadau a restrir yn Atodiad A (£519k) i’w defnyddio fel cyfraniad
tuag at ein bwlch cyllidol yn 2025/26, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i
weithredu'r cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. Cymeradwywyd
dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor
a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion a Thoriadau
hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn
Atodiad A ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod y Cyngor bellach yn gwybod beth fydd lefel y Grant
Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 ac y bydd yn sylweddol is
na’r hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol. Yn sgil hyn a
ffactorau eraill e.e. gorwario Adrannol a chynnydd yng nghostau staffio,
adroddwyd bod gwaith manwl wedi ei gynnal i adnabod cyfleoedd i arbed neu
dorri. Cyfeiriwyd at y
sesiynau briffio ariannol gafodd eu cynnal i holl aelodau etholedig ym mis
Ionawr 2025 er mwyn blaenoriaethu cynlluniau toriadau ar gyfer 2025/26.
Ychwanegwyd bod yr adroddiad hwn wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio wythnos diwethaf a bod y Pwyllgor wedi nodi cynnwys yr adroddiad. Ymhelaethwyd bod y
setliad yn well na’r hyn oedd wedi ei ddarogan y flwyddyn ddiwethaf ond bod
sefyllfa ariannol y Cyngor yn parhau i fod yn wael iawn gyda bwlch sylweddol
i’w lenwi. Nodwyd bod y £3.5 miliwn o doriadau gafodd eu penderfynu llynedd
eisoes yn y system. Ychwanegwyd nad oes arbedion effeithlonrwydd pellach y
gellir eu gwneud felly bod toriadau o £519,000 wedi eu hadnabod fel sydd wedi
eu rhestru yn Atodiad A. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth: • Mynegwyd pryder am y sylwadau
negyddol y mae’r Cyngor, y staff a’r Aelodau yn ei dderbyn yn gyhoeddus e.e. ar
gyfryngau cymdeithasol, gan bryderu am yr effaith mae’r sylwadau hyn yn eu cael
ar swyddogion. Ychwanegwyd bod Cyngor Gwynedd yn lwcus ac mewn gwell sefyllfa
na llawer o Gynghorau eraill ac yn gwneud eu gorau i warchod gwasanaethau i
bobl y Sir. • Cymerwyd y cyfle i ddiolch i staff y Cyngor sy’n gweithio’n galed ac yn ceisio cyflawni mwy ond efo llai o adnoddau. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymell
i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu cyllideb o
£355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190
a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%). Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD Argymell i’r Cyngor (yn ei
gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu cyllideb o £355,243,800 ar gyfer
2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190 a £108,425,610 o
incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%). Argymell i’r Cyngor (yn ei
gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn
2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi fod y gyllideb yn ymgais i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n darparu ar
gyfer y bobl fwyaf bregus megis gwasanaethau cymdeithasol oedolion a
gwasanaethau gofal i blant. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy fuddsoddi i leihau
rhestrau aros a cheisio cywiro cyllidebau nad oedd modd buddsoddi ynddynt yn
flaenorol. Diolchwyd i’r Adran Gyllid am eu gwaith caled yn paratoi’r gyllideb. Rhannwyd cyflwyniad oedd yn
crynhoi prif bwyntiau’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y gorwariant oedd yn gyfanswm
o £8.3 miliwn gyda bron i £7 miliwn yn deillio o’r gwasanaethau gofal sef
Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phlant a Theuluoedd. Credwyd bod hyn yn rhannol
am fod pobl yn byw yn hirach yn ogystal â chyflyrau mwy dwys, nodwyd bod
cyfarch y gofynion hyn yn gostus. Cyfeiriwyd at y bidiau
refeniw gan nodi bod £6.8 miliwn eisoes wedi eu cymeradwyo a nifer hefyd sydd
wedi derbyn cefnogaeth neu yn faterion newydd 2025/26. Nodwyd bod hyn yn golygu
bod cyfanswm o £7.7 miliwn o adnoddau ychwanegol angen eu darganfod. Wrth
ystyried y cynnydd yn yr ardollau, chwyddiant cyflogau a chynnydd yn yswiriant
gwladol y cyflogwr, nodwyd bod cyfanswm gwariant ychwanegol y Cyngor yn £24
miliwn. Cadarnhawyd drwy ystyried y
gyllideb sylfaenol a’r gwariant ychwanegol a’r incwm o Grant Llywodraeth Cymru,
bob bwlch ariannol o £109 miliwn i’w ariannu drwy arbedion a gan y Dreth
Cyngor. Nodwyd ar ôl cynnwys yr arbedion fod y bwlch gweddilliol fydd i’w
gyfarch drwy’r Dreth Cyngor yn £108,45,610. Ymhelaethwyd y byddai’n rhaid
cynyddu’r Dreth Cyngor 8.66% er mwyn cwrdd â’r ffigwr hwn. Cydnabuwyd nad yw
hyn yn newyddion da ond nad oes llawer o opsiynau eraill. Cyfeiriodd y Pennaeth
Cyllid at Atodiad 10 sef datganiad swyddog cyllid statudol ar gadernid yr
amcangyfrifon gan ymhelaethu ei fod yn hyderus bod y cyllidebau a gyflwynwyd yn
gadarn ac yn ddigonol. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: • Diolchwyd am y cyflwyniad gan nodi bod y sleidiau a
gyflwynwyd yn gymorth i ddeall y ffigyrau. • Cyfeiriwyd at y gwasanaethau costus megis oedolion a
chostau ysgolion gan nodi nad ydynt yn wasanaethau amlwg ond yn rhai costus
iawn i’w cynnal. o Ategodd yr Aelod Cabinet nad yw’r Adran wedi amharu ar y
gyllideb Addysg yn ormodol eleni. Pryderwyd nad yw trigolion y Sir yn gweld y
gwaith gofal oni bai eu bod yn dderbynnydd gofal ac felly ddim yn deall pa mor
gostus ydyw. • Mynegwyd nad yw’n bleser awgrymu i gynyddu’r Dreth Cyngor.
Ychwanegwyd bod cynlluniau gostyngiadau Treth Cyngor ar gael. o Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid bod cyfyngiadau i fod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
ADDASIAD I GYNLLUN Y CYNGOR Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd ychwanegu prosiect
Gofal Cartref i’r rhestr prosiectau o dan faes blaenoriaeth Gwynedd ofalgar yng
Nghynllun y Cyngor 2023 – 2028. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
ychwanegu prosiect Gofal Cartref i’r rhestr prosiectau o dan faes blaenoriaeth
Gwynedd ofalgar yng Nghynllun y Cyngor 2023 – 2028. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod y cais yn deillio o ganfyddiad ac argymhelliad yr
Archwiliadau o’r Gwasanaethau Oedolion a gafodd eu cynnal dros y misoedd
diwethaf. Ymhelaethwyd bod Arolygiaeth Gofal Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru
wedi cynnal yr archwiliadau o wasanaethau gofal a ddarperir gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 2024. Yn
ychwanegol i hyn soniwyd am yr archwiliad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
oedd wedi cymryd lle yn ystod yr un cyfnod.
Manylwyd ar
ganfyddiadau’r arolygon gan nodi bod y 3 sefydliad wedi amlygu y dylai materion
gofal cartref dderbyn mwy o sylw yn rhaglenni strategol y Cyngor. Nodwyd hefyd
y dylai’r pwnc yma dderbyn blaenoriaeth drwy gael ei gynnwys yng Nghynllun y
Cyngor. Credwyd y byddai hyn yn helpu i gyflawni gan roi sylfaen i’r materion
a’i bod yn bwysig ei gynnwys fel un o flaenoriaethau’r Adran. Nodwyd bod y maes
blaenoriaeth Gwynedd Ofalgar o fewn Cynllun y Cyngor yn un pwysig ac mai yma
fyddai’r maes gofal cartref yn cael ei gynnwys. Amlygwyd y camau nesaf o
gyflwyno’r addasiad hwn i gyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth: • Diolchwyd am yr adroddiad gan groesawu y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i’r maes pwysig hwn ynn Nghynllun y Cyngor. Awdur: Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: RHEOLI'R DEFNYDD O DAI FEL LLETY GWYLIAU Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd y CCA Drafft: Rheoli’r Defnydd o Dai
fel Llety Gwyliau (Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr) a chynnig sylwadau
ac unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel yn briodol. Cymeradwywyd rhyddhau’r
Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Rheoli’r Defnydd o Dai fel Llety Gwyliau (yn
ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol) ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus. Cymeradwywyd dirprwyo'r hawl i Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod yn ofynnol i'r CCA drafft. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y
Pennaeth Adran Cynorthwyol. PENDERFYNIAD Ystyriwyd y CCA Drafft:
Rheoli’r Defnydd o Dai fel Llety Gwyliau (Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor
Byr) a chynnig sylwadau ac unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel yn briodol. Cymeradwywyd rhyddhau’r
Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Rheoli’r Defnydd o Dai fel Llety Gwyliau (yn
ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol) ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus. Cymeradwywyd dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod
yn ofynnol i'r CCA drafft. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi bod y Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi dod yn weithredol ar 1 Medi, 2024 yn
dilyn ei gadarnhau yng nghyfarfod Cabinet 16 Gorffennaf, 2024. Cyfeiriwyd at
oblygiadau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 gan nodi ei bod bellach yn ofynnol derbyn
caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau newid defnydd penodol. Eglurwyd bod y
penderfyniadau ar y ceisiadau hynny yn cael eu gwneud yn unol â’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd sef y cynllun a fabwysiadwyd ar gyfer yr ardal.
Esboniwyd mai hyn yw’r gofyn statudol o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol
diweddar. Nodwyd bod yr Adran yn y
broses o baratoi cynllun newydd a bod y gwaith o greu polisïau newydd yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd. Eglurwyd mai’r bwriad efo’r Canllaw Cynllunio Atodol
Drafft sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 yw rhoi arweiniad manwl o ran y defnydd
o bolisïau cynllunio cyfredol yr Adran o gwmpas materion sydd yn deillio o
gyfarwyddyd Erthygl 4. Credwyd y bydd y Canllaw hwn yn gymorth i’r Awdurdod
wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Ychwanegwyd bod agen i’r
Canllaw fod yn gyson efo polisïau cynllunio cyfredol y Cyngor ac yn rhoi
arweiniad clir. Nodwyd bod y Canllaw drafft wedi cael ei adrodd ddwywaith yn
barod i’r Gweithgor Polisi Cynllunio gan gyfeirio at sylwadau’r Gweithgor sydd wedi
eu cynnwys yn rhan 3.7 o’r adroddiad. Nodwyd mai mesur dros dro i
bob pwrpas ydi’r Canllaw nes bydd yr Adran wedi cwblhau’r broses o ddatblygu’r
Cynllun Datblygu Lleol newydd a mabwysiadu’r Cynllun hwnnw. Cyfeiriwyd ar ran
3.8 o’r adroddiad sy’n amlinellu’r camau nesaf yn y broses a chynnal cyfnod o
ymgynghoriad cyhoeddus o 6 wythnos. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: • Gofynnwyd i’r Pennaeth Adran Cynorthwyol ymhelaethu ar rôl
y Gweithgor a’u mewnbwn. o Mewn ymateb eglurwyd bod fersiwn drafft o’r Canllaw
Cynllunio Atodol wedi ei gyflwyno i’r Gweithgor ym mis Tachwedd, 2024. Nodwyd
bod gan y Gweithgor bryderon am yr arweiniad oedd wedi ei gynnwys ar gyfer
ceisiadau i newid defnydd tŷ i fod yn ail gartref; o ganlyniad i’r
pryderon hyn gwnaethpwyd diwygiadau i’r Canllaw. Adroddwyd bod y Gweithgor yn
hapus gyda’r newidiadau a adroddwyd iddynt ym mis Rhagfyr, 2024 ac yn gefnogol
i ryddhau’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Awdur: Gareth Jones, Pennaeth Adran Cynorthwyol |
|
TROSGLWYDDO CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU I GYD BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) Cytunwyd
i lunio Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 1) lle trosglwyddir rôl corff
Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a'r trefniadau
cyllido ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn
31 Mawrth 2025. (2) Cytunwyd
i amnewid a neilltuo yn ôl y galw, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a hawliau
a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido a ddaw i mewn a ddelir gan Gyngor
Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru ("y Bwrdd Uchelgais") i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ("y CBC"); (3) Cytunwyd
i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo'r holl fuddiannau yn y portffolio o
brosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw
gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar
ran y Bwrdd Uchelgais i'r CBC. (4) Cytunwyd
i drosglwyddo a / neu aseinio'r holl falansau
ariannol, arian sy'n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd. (5) Cytunwyd
i ddirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro
a'r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu'r cytundebau, y gweithredoedd a
phob dogfen gyfreithiol arall yn eu ffurf terfynol, sy'n angenrheidiol i
weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1), (2) a (3)
uchod. (6) Ar
ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytunwyd i derfynu cytundeb GA2
a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben. (7) Cytunwyd
i drosglwyddo atebolrwydd i'r CBC a bod y CBC yn derbyn cyfrifoldeb am wneud
penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar
amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog Tud.
251 ychwanegol sy'n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio
("GA2") rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddol a'r 4 parti Addysg. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Swyddog Monitro. PENDERFYNIAD (1) Cytunwyd i lunio Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 1)
lle trosglwyddir rôl corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Cynllun Twf
Gogledd Cymru a'r trefniadau cyllido ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth 2025. (2) Cytunwyd i amnewid a neilltuo yn ôl y galw, cyflawni Cynllun
Twf Gogledd Cymru a hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido a ddaw i
mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ("y Bwrdd Uchelgais") i
Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ("y CBC"); (3) Cytunwyd i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo'r holl
fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd
Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor
Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i'r CBC. (4) Cytunwyd i drosglwyddo a / neu aseinio'r holl falansau
ariannol, arian sy'n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd. (5) Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu'r
cytundebau, y gweithredoedd a phob dogfen gyfreithiol arall yn eu ffurf
terfynol, sy'n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym
mharagraffau (1), (2) a (3) uchod. (6) Ar ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytunwyd i
derfynu cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru i ben. (7) Cytunwyd i drosglwyddo atebolrwydd i'r CBC a bod y CBC yn
derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf
Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog
Tud. 251 ychwanegol sy'n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio
("GA2") rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddol a'r 4 parti Addysg. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
amlygu ei fod yn adroddiad technegol iawn. Darparwyd y cefndir gan gyfeirio at
y penderfyniad i fuddsoddi arian cyhoeddus yn y rhanbarth nôl yn 2020 a sefydlu
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn 2021. Eglurwyd bod gan y CBC dair
swyddogaeth benodol ar hyn o bryd sef datblygu polisïau trafnidiaeth
rhanbarthol, paratoi Cynllun Datblygu Strategol a gwaith Lles Economaidd.
Nodwyd bod penderfyniad mewn egwyddor ar draws chwe awdurdod y Gogledd i
drosglwyddo’r Cynllun Twf i’r CBC. Cyfeiriwyd at yr oedi wrth
symud y prosiect yn ei flaen ac wrth sefydlu’r CBC a’r rhesymau dros yr oedi
megis y rheoliadau ar drefn ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i
ddatblygu. Amlygwyd bod tîm prosiect yn gweithio ar drosglwyddo’r Cynllun Twf
i’r CBC; bydd hyn yn y pen draw yn golygu y bydd Gwynedd yn gallu camu nôl o’r
rôl awdurdod lletyol. Eglurwyd y bydd y grantiau yn trosglwyddo i gyfrifoldeb y
Cyd-bwyllgor ond bydd Craffu yn parhau efo’r Cynghorau. Esboniwyd bod adroddiad tebyg yn mynd ger bron Cabinet y Cynghorau eraill yn fuan a ger bron y ddwy brifysgol er mwyn cytuno i drosglwyddo ar 31 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. Awdur: Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen. PENDERFYNIAD
Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad oedd yn darparu diweddariad ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr
Adran Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn ddiweddar. Mynegwyd bod yr
Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn arwain ar chwe phrosiect o fewn gwahanol
feysydd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2023-28 sef Cadw’r Budd yn Lleol, Merched
Mewn Arweinyddiaeth, Sicrhau Tegwch i Bawb, Cynllunio’r Gweithlu, Hybu Defnydd
o’r Gymraeg gan Drigolion Gwynedd ac Adolygiad Strategol ar Reolaeth Iechyd a
Diogelwch. Darparwyd crynodeb ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma o fewn y
prosiectau hyn. Amlygwyd
bod yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn perfformio’n dda a chyfeiriwyd at
rai o’r uchafbwyntiau fel sydd wedi eu nodi yn rhan 5 o’r adroddiad. I gloi
cyfeiriwyd at sefyllfa ariannol yr Adran. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: • Cyfeiriwyd at Adroddiad Perfformiad y
Gwasanaeth Cyfreithiol gan nodi ei bod yn galonogol gweld buddion o’r Cynllun
Yfory. • Mynegwyd pryder am y cyfeiriad at
benodi locum ac allanoli gwaith, gofynnwyd am fwy o fanylion am niferoedd y
locums sy’n cael eu defnyddio gan y Gwasanaeth ac os ydynt yn gallu’r Gymraeg.
Holiwyd yn ogystal am yr heriau recriwtio gan ofyn a oes risgiau ariannol o
ganlyniad i hyn. o Mewn ymateb cadarnhawyd bod y sefyllfa
staffio wedi gweddnewid er gwell yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Nodwyd bod
swydd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd a gobeithir gallu penodi. o Cadarnhawyd bod y sefyllfa recriwtio
wedi gwella a bod hyn wedi arwain at leihad yn nefnydd y Gwasanaeth o locums. o Nodwyd bellach bod y Gwasanaeth yn
gallu recriwtio drwy gynnig cytundeb tymor byr yn hytrach na chyflogi locum. o Mynegwyd bod ymdrech yn cael ei wneud
i ddefnyddio locums sy’n siarad Cymraeg er cydnabuwyd bod y rhain yn brin. o Esboniwyd bod llawer o faterion ac
achosion ar agor gan y tîm Cyfreithiol a bod y defnydd o locums yn caniatáu i
bontio bylchau er mwyn ymdopi efo’r gwaith. Ychwanegwyd bod natur y gwaith yn
arbenigol gyda rhai meysydd technegol a bod dim digon o’r gwaith i benodi ond
bod angen arbenigedd penodol am gyfnod felly bod elfen o ddefnydd o locums yn
anorfod. • Gofynnwyd am ddiweddariad ar yr
ymdrech i geisio cael mwy o staff i ymuno â’r Fforwm Cydraddoldeb. o Mynegwyd bod y gwaith cychwynnol o
ddarganfod beth yw’r diddordeb wedi ei gynnal a gwahoddiad wedi ei anfon i
staff. Nodwyd bod diddordeb mawr ymysg staff a bod yr Adran yn aros i weld beth
fydd yr ymateb yn dilyn i ail wahoddiad gael ei anfon wythnos diwethaf. • Mynegwyd llongyfarchiadau ar lwyddiant y rhaglen Merched mewn Arweinyddiaeth gan nodi ei bod yn braf gweld y cynnydd. Amlygwyd y gwahaniaethau yn rhaniad dynion a merched rhwng Adrannau a rhwng haenau swyddi. Cwestiynwyd os yw’n amserol i werthuso'r rhaglen a chymharu’r gwahaniaethau rhwng Adrannau er mwyn gweld beth sy’n gweithio’n dda er mwyn parhau i ddysgu ac edrych ar ffyrdd newydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol ac Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol |