Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol).

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MEDI 2023 pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Medi fel rhai cywir.

 

6.

ADRDDIAD MONITRO BLYNYDDOL - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL 2022-23 pdf eicon PDF 414 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd Adroddiad Monitro Blynyddol 5 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Hydref 2023.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd Adroddiad Monitro Blynyddol 5 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Hydref 2023.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai dyma’r pumed adroddiad blynyddol sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod y Cynllun cyfredol yn parhau nes 2025/26. Manylwyd bod gofyniad statudol i adrodd i’r Llywodraeth yn flynyddol ar gynnydd y Cynllun a bydd hynny’n digwydd erbyn diwedd mis Hydref os byddai’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Adroddwyd bod newidiadau mawr wedi bod i rediad y Cynllun ers yr adroddiad blynyddol diwethaf. Cadarnhawyd bod y trefniant o gydweithio ar y Cynllun gydag Ynys Môn wedi dirwyn i ben ac mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu Gweithgor Polisi Cynllunio o 15 Aelod i ymgymryd â’r gwaith erbyn hyn. Cadarnhawyd bod sylwadau’r Gweithgor wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod dangosyddion lliwiau goleuadau traffig yn cael ei ddefnyddio i fonitro effeithiolrwydd polisïau a rhoi trosolwg o berfformiad y Cynllun. Cadarnhawyd bod:

 

·       33 o bolisïau yn cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cynllun ac yn perfformio’n unol neu’n well na’r disgwyliadau – dangosydd gwyrdd.

·       21 o bolisïau ddim yn cael eu cyflawni fel y rhagwelwyd (ond nid yw hynny’n arwain at bryderon ynghylch gweithredu’r polisïau) – dangosydd oren.

·       5 o bolisïau sydd ddim yn darparu canlyniad disgwyliedig (ac mae pryderon canlyniadol ynglŷn â gweithredu’r polisïau) – dangosydd coch.

 

Sicrhawyd bod unrhyw bolisi sy’n syrthio i’r dangosydd coch yn derbyn ystyriaeth wrth symud ymlaen gyda’r Cynllun. Cadarnhawyd bod 11 o bolisïau wedi cael eu cyflawni ac ddim yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ddangosydd.

 

Nodwyd y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 315 o unedau preswyl newydd yn ystod y flwyddyn 2022/23, gyda 298 ohonynt wedi eu cwblhau. Manylwyd bod 122 o’r rhain yn unedau fforddiadwy. Adroddwyd bod hyn yn 41% o’r holl unedau a gwblhawyd o fewn y flwyddyn sy’n uwch na’r targed disgwyliedig. Ystyriwyd bod unedau yn derbyn statws ‘unedau fforddiadwy’ oherwydd cyfyngiadau, maint a lleoliadau ac felly mae’n anorfod na fydd holl unedau a adeiladir gan y Cyngor yn mynd i dderbyn y statws hwn.

 

Eglurwyd bod Dangosydd D21 yn gosod targedau ar gyfer cyfarch yr adnoddau ynni adnewyddadwy posibl a gydnabuwyd yn y Cynllun. Atgoffwyd bod disgwyl y buasai 50% o hyn wedi ei gyfarch erbyn 2021. Cydnabuwyd nad yw’r targed yma wedi ei gyfarch hyd yma oherwydd prinder niferoedd y ceisiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cynllun hyd yma. Ystyriwyd hefyd bod nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy wedi eu lleoli ar Ynys Môn ac felly bydd angen diwygio’r targedau. Esboniwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio wedi adnabod y diffyg hwn fel gwendid ac yn dymuno adfer y sefyllfa.

 

Cydnabuwyd bod gan Cyngor Gwynedd gynlluniau cyffelyb gyda Pharc Cenedlaethol. Manylwyd bod y berthynas rhwng y ddau awdurdod yn gryf. Er hyn, nodwyd nad oes modd uno cynlluniau gyda’r Parc oherwydd ei fod yn awdurdod annibynnol, yn ogystal â’r ffaith bod rhan o ‘i ardal wedi ei leoli o fewn tiriogaeth Cyngor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Gareth Jones: Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd

7.

CYNLLUN CYFLAWNI DRAFFT - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL pdf eicon PDF 461 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyniwyd y Cytundeb Cyflawni a chynigwyd sylwadau ar y cynnwys.

2.    Cytunwyd i’r Cytundeb Cyflawni fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos.

3.    Dirprwywyd hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er mwyn cywirdeb cyn i’r ddogfen fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig.    

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Derbyniwyd y Cytundeb Cyflawni a chynigwyd sylwadau ar y cynnwys.

2.    Cytunwyd i’r Cytundeb Cyflawni fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos.

3.    Dirprwywyd hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er mwyn cywirdeb cyn i’r ddogfen fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y Cytundeb Cyflawni yn rhan o gamau cychwynnol o greu Cynllun Datblygu Lleol newydd. Nodwyd fod y broses honno yn un hir a thechnegol oherwydd bod camau pendant i’w cyfarch ar amserlen statudol.

 

Esboniwyd byddai’r cytundeb cyflawni yn mynd i ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol os byddai’r Cabinet yn ei gymeradwyo. Manylwyd bydd y cytundeb yn mynd ger bron Gweithgor Polisi Cynllunio ym mis Ionawr, Y Cabinet ym mis Chwefror a’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth cyn cael ei dderbyn yn swyddogol.

 

Adroddwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio wedi ystyried y Cytundeb Cyflawni eisoes ac bod eu sylwadau wedi eu nodi yn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi ystyried y Cytundeb. Nodwyd nad oedd yr amserlen yn caniatáu cynnwys eu sylwadau o fewn yr adroddiad i’r Cabinet. Rhoddwyd grynodeb o’u ystyriaethau:

 

·       Cysidrwyd bod ‘ymgynghoriaeth’ yn risg o fewn y Cytundeb. Nodwyd hyn oherwydd pwysigrwydd ymgynghori o fewn y cynllun a’r risg o beidio ymgynghori yn ddigonol. Ystyriwyd byddai ei gynnwys fel risg yn sicrhau ei fod yn derbyn sylw cyson. Gofynnwyd a oes gwersi wedi eu dysgu o ymgynghoriadau blaenorol ac ystyriwyd os oes modd ymgorffi’r newidiadau hyn o fewn eu hymgynghoriad.

·       Croesawyd bod y rhestr o gyrff y bwriedir ymgynghori â hwy yn cynnwys grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli ac bod yr ymgynghoriad yn agored i bawb ymateb iddo.

·       Pryderwyd y defnyddir dulliau arferol wrth ymgynghori a gofynnwyd i swyddogion sicrhau bod dulliau amgen o ymgynghori yn cael eu defnyddio.

·       Derbyniwyd bod rôl i holl Aelodau gefnogi’r gwaith a chymryd perchnogaeth ohono.

 

Cydnabuwyd bod angen ymgynghori’n drwyadl a chlir gyda holl gyrff perthnasol. Nodwyd bod gofynion statudol i’r broses ymgynghori ond mae lle i’r Cyngor wella ar y gofynion hyn.

 

Pwysleisiwyd bod yr amserlen a osodwyd gan y Llywodraeth i greu Cynllun newydd yn dynn iawn. Er hyn, cadarnhawyd bod ‘ymgynghoriaeth’ yn cael ei ychwanegu fel risg o fewn y Cytundeb Cyflawni erbyn dechrau’r ymgynghoriaeth gyhoeddus. Sicrhawyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r gwasanaeth Cyfathrebu er mwyn gwneud pob ymdrech i ymgynghori’n effeithlon a thrylwyr.

 

Trafodwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu i benodi swyddogion yn dilyn pob hysbyseb swydd yn y misoedd diwethaf. Nodwyd nad yw capasiti swyddogion yn cael ei ystyried yn risg i gyflawni’r Cytundeb ar hyn o bryd ond cadarnhawyd bydd y sefyllfa yn cael ei monitro’n barhaus.

 

Awdur: Gareth Jones: Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd

8.

STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 - 2033 pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogwyd addasiadau sydd wedi eu gwneud i’r Strategaeth Iaith yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu’r strategaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd addasiadau sydd wedi eu gwneud i’r Strategaeth Iaith yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu’r strategaeth.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y strategaeth ddrafft yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r iaith ar draws y sir ac mae’n bodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Rhannwyd y weledigaeth i greu strategaeth gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf sy’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ystod mis Ebrill a Mai 2023 ac bod ymateb cadarnhaol wedi ei dderbyn. Manylwyd bod sicrhau cyfleoedd digonol ac addas i bobl ddysgu Cymraeg a magu hyder wrth siarad yr iaith yn themâu cyson yn yr ymatebion hyn. Cydnabuwyd bod rhai ymatebion llai cadarnhaol wedi dod i law megis sylwadau yn nodi na ddylai’r Cyngor ddefnyddio’r Gymraeg fel ffordd o wahaniaethu ac na ddylid gwastraffu adnoddau prin ar yr iaith.

 

Cydnabuwyd ei fod yn siomedig mai dim ond 3 ymateb i’r holiadur a gyflwynwyd gan unigolion rhwng 25 a 34 oed. Yn sgil y canlyniad hwn, adroddwyd bod grwpiau ffocws wedi cael ei gynnal i unigolion rhwng 16 a 20 oed. Cadarnhawyd bod  cynnal ymgynghoriadau gyda unigolion ifanc yn heriol ac mae’r uned yn gweithio i ganfod dulliau newydd o ymgysylltu er mwyn sicrhau nifer uwch o ymatebion yn y dyfodol.

 

Cadarnhawyd nad oedd awgrymiadau am newidiadau ymarferol i’r strategaeth yn deillio o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd nad oes newidiadau mawr wedi cael eu gwneud i’r strategaeth, dim ond man addasiadau. Tynnwyd sylw at yr addasiadau canlynol;

 

·       Diwygiwyd y strategaeth i gynnwys mwy o ffocws ar dechnoleg gan ei fod yn cael ei adnabod fel her ymhob maes gweithredu.

·       Ystyriwyd os oes modd cynyddu presenoldeb y Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol wrth ddatblygu’r rhaglen waith, gan bod ymatebwyr yn ei nodi fel her.

·       Newidiwyd y strategaeth i gyfarch pryderon am agweddau pobl a heriau economaidd a effeithir ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg yn hytrach na heriau demograffig a Sylfaen Tystiolaeth.

 

Esboniwyd bod y rhaglen yn rhoi sylw i’r Gymraeg mewn cynlluniau strategol fel CYSGA, prosiectau megis prosiect enwau llefydd sy’n rhoi statws i enwau Cymraeg a phrosiect15 sy’n ceisio annog defnydd o’r Gymraeg gan blant a pobl ifanc yn ddigidol.

 

Pwysleisiwyd ei fod yn rhaglen waith byw sy’n cael ei haddasu fel bo’r angen yn codi. Eglurwyd nad oes cyllideb penodol ar gyfer gweithredu’r strategaeth iaith ac felly mae angen sicrhau bod cyllideb ddigonol ar gael i weithredu prosiectau’r rhaglen waith drwy gyflwyno bidiau am arian drwy system bidiau corfforaethol y Cyngor fel bo’r angen yn codi.

 

Cadarnhawyd bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn diweddaru’r Cabinet ar gynnydd y rhaglen waith a gweithrediad y Strategaeth fel rhan o’u hadroddiad blynyddol am y maes iaith. Manylwyd hefyd bydd yr holl adrannau hefyd yn egluro eu cyfraniadau i weithredu’r strategaeth fel rhan o’u hadroddiadau blynyddol i’r Pwyllgor Iaith, yn ogystal â rhannu data gyda’r Uned Iaith a Chraffu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Cyfeiriwyd at Menter Iaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Corfforaethol

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - CYFLOGAETH pdf eicon PDF 324 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Mena Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2022/23.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod niferoedd gweithlu’r Cyngor ar gynnydd gan fod cyfanswm o 5,995 o bobl yn gweithio i’r Cyngor erbyn diwedd mis Mawrth eleni, o’i gymharu â 5,908 y llynedd. Nodwyd bod cynnydd mewn nifer o staff yn groes i’r hyn a ddisgwylir mewn cyfnod ble mae angen gwneud toriadau i gyfarch cyllideb y Cyngor. Eglurwyd mai staff yw prif asedau’r Cyngor ac felly mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw doriant i wasanaethau’r Cyngor yn cael ei wneud heb leihau niferoedd y gweithlu. Manylwyd hefyd bod nifer o aelodau staff yn cael ei ariannu drwy grantiau sydd ddim yn deillio o gyllideb y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at yr ystadegyn bod 71.2% o weithlu’r Cyngor yn ferched ac bod y ffigwr hwn yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod mwy o ferched yn gweithio yn rhan amser yn hytrach na llawn amser.

 

Nodwyd bod 65% o weithlu'r staff dros 50 oed a bod 40% yn hŷn na 50 oed. Cydnabuwyd bod hyn yn cael ei gysidro fel risg oherwydd y posibilrwydd o golli blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth mewn cyfnod byr  yn y dyfodol. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau nad ydi’r golled hyn yn digwydd gan fod cynllunio’r gweithlu yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor hwn, drwy brentisiaethau, hyfforddai proffesiynol a rhaglenni eraill i foderneiddio prosesau recriwtio’r Cyngor. Manylwyd hefyd bod mesur trosiant staff a chael dealltwriaeth o’r rhesymau tu ôl i hynny yn allweddol a chymhleth ac felly mae trefniant mewn lle i gynnal holiaduron a chyfweliadau gadael i unigolion.

 

Ymfalchïwyd bod 38.4% o staff heb fod yn sâl o gwbl o fewn y cyfnod 2022/23. Cydnabuwyd bod y ffigwr hwn yn is na 43% yn 2021/22 sy’n achosi pryder bod niferoedd salwch ar gynnydd. Nodwyd bod canran o staff sydd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn disgyn i mewn i gategori ‘Arall’, hynny yw, nid ydynt yn wael oherwydd rhesymau haint, cefn/gwddf, cyhyrysgerbydol, straen neu gategori penodol arall, ac felly mae’n anodd cefnogi’r aelodau staff hynny. Er hyn, pwysleisiwyd bod gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn darparu ystâd eang o wasanaethau i gefnogi unrhyw aelod o staff sy’n wael, gan nodi bod mwy o salwch i’w weld mewn rhai adrannau nac eraill.

 

Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i hysbysu’r gweithlu o nodi y categori cywir fel y rheswm eu bod i ffwrdd o’r gwaith, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei ddarparu iddynt. Cadarnhawyd  y gobeithir bydd y broses o adrodd salwch yn cael ei symleiddio dros y flwyddyn nesaf gan gynnwys system syml fel rhan o adnodd Hunanwasanaeth Staff.

 

Sicrhawyd bod cynadleddau achos yn digwydd gydag adrannau a’r gwasanaethau adnoddau dynol er mwyn trafod achosion o absenoldebau tymor hir er mwyn canfod dulliau o gefnogi staff yn ôl i’r gwaith.

 

Cadarnhawyd y cyflawnwyd archwiliad annibynnol yn ystod 2022/23 ar strwythur tâl a chyflog y Cyngor.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Eurig Williams: Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DIOGEL A LLES IECHYD pdf eicon PDF 388 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a datganwyd bodlonrwydd y Cabinet gyda’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a datganwyd bodlonrwydd y Cabinet gyda’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod effeithiau Covid-19 dal i’w gweld o fewn y maes hwn, gan bod gwaith dydd i ddydd arferol wedi cronni dros gyfnod y pandemig. Manylwyd bod swyddogion y gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio ar ganllawiau’r llywodraeth drwy gyfnod Covid yn ogystal â chefnogi rheolwyr wrth addasu i’r normal newydd gyda’u timoedd.

 

Ymhelaethwyd bod nifer o weithwyr y Cyngor yn parhau i weithio o adref, ac mae yna ddyletswydd gofal ar y Cyngor i sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn ddiogel. Adroddwyd bod 2063 o holiaduron wedi eu gyrru i’r gweithlu i asesu ei gweithfan. Cadarnhawyd bod 73% o’r gweithlu wedi ymateb i’r holiaduron, gan arwain at 239 o asesiadau pellach gan y gwasanaeth.

 

Atgoffwyd bod gofyniad cyfreithiol i adrodd ar ddamweiniau sy’n cyfarch rheoliadau RIDDOR (Reporting of Injuries, Diseases and Dangerous Occurences Regulations 2013) i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID).

 

Cadarnhawyd nad oes angen adrodd ar achosion Covid a nodwyd bod niferoedd sydd wedi eu hadrodd o dan drefn RIDDOR wedi gostwng ychydig yn is na’r hyn a welwyd yn 2019.

 

Datganwyd bod lefelau damweiniau yn gyffelyb i’r lefelau cyn y pandemig. Nodwyd bod tueddiadau o ran patrwm yn parhau yn fewnol o fewn y Cyngor ac yn genedlaethol oherwydd mai symud a thrin, a llithro a baglu yw’r ddau brif achos dros ddamweiniau. Manylwyd bod achosion eraill o ddamweinio yn amrywio o gyflyrau iechyd penodol sydd wedi eu  hachosi gan y gwaith, ymosodiadau a damweiniau cerbyd.

 

Adroddwyd bod AGID wedi cynnal ymweliadau arolygol gyda’r Cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd eu bod wedi ymweld â dwy ysgol yn y sir am reolaeth asbestos yn ogystal â ymweliad i safle Coed Ffridd Arw, Dolgellau ar faterion trin gwastraff. Cadarnhawyd mai canlyniad yr ymweliadau hyn oedd bod yr arolygwyr yn hapus ond bu i’r Cyngor dderbyn llythyr dilyniant ar fân faterion sydd wedi golygu ffi ymyrraeth o oddeutu £600. Sicrhawyd bod argymhellion yr AGID wedi cael ei rannu gyda’r gwasanaeth Eiddo er mwyn sicrhau bod ysgolion eraill y sir yn cydymffurfio ac i osgoi ffioedd cyffelyb.

 

Esboniwyd bod nifer o gyrsiau hyfforddiant wedi cael ei gynnal gan y gwasanaeth. Nodwyd bod y rhain yn cynnwys cwrs Arwain yn Ddiogel i’r Uwch Dim Rheoli er mwyn anelu i integreiddio diwydiant iechyd, diogelwch a lles i bob agwedd o’r Cyngor. Manylwyd bod hyfforddiant Iechyd, Diogelwch a Llesant wedi bod yn cael ei gynnal yn ogystal â chyrsiau IAct i gynorthwyo rheolwyr i ddelio gyda materion iechyd meddwl. Eglurwyd bod 93 o reolwyr wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwn hyd yma, a bod yr adran wedi derbyn adborth cadarnhaol am ei gynnwys. Soniwyd bod yr adran yn casglu data i weld faint o reolwyr sydd eto i gwblhau’r hyfforddiant.

 

Cadarnhawyd bod rhaglen Gwyliadwriaeth Iechyd o fewn gwasanaethau iechyd galwedigaethol wedi cael ei ailgydio ynddo, yn unol â gofynion statudol.

 

Tynnwyd sylw at y nifer o gyfeiriadau sydd wedi cyrraedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Llongyfarchwyd myfyrwyr y sir ar eu canlyniadau arholiadau eleni yn dilyn cyfnod addysgol heriol iawn yng nghyfnod Covid. Mynegwyd diolchiadau i’r gwasanaeth ieuenctid am eu gwaith, yn enwedig i Andrew Owen, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid, sydd wedi derbyn gwobr rhagoriaeth yn ddiweddar fel Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd gan ESTYN yn ddiweddar yn dilyn arolygiad. Manylwyd bod sylwadau am y gyfundrefn drochi a’r iaith Gymraeg yn addawol iawn. Er hyn, nodwyd bod heriau yn parhau gyda presenoldeb disgyblion gan fod cyfraddau yn is na’r dymunir, ers y pandemig. Cadarnhawyd bod gan yr adran nifer o raglenni i gyfarch yr her hon. Nodwyd nad oes cynlluniau tymor hir wedi cael eu cyhoeddi gan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ond cydnabuwyd bod presenoldeb yn flaenoriaeth i’r awdurdod sy’n cael ei gefnogi drwy farchnata pwysigrwydd mynychu’r ysgol pob diwrnod a ymgeisio i beidio mynd ar wyliau yn ystod tymor addysgol.

 

Adroddwyd bod yr adran yn ffocysu ar faterion yn ymwneud â llesiant, oherwydd mae materion llesiant yn ffactor mawr i resymau pan nad yw disgyblion yn mynd i’r ysgol. Manylwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ymchwilio i gostau mynd a plant i’r ysgol drwy holiaduron i weld gostau llawn a chuddiedig nad yw’r adran yn ymwybodol ohonynt, gan fod hyn yn effeithio ar lesiant teuluoedd.

 

Nodwyd bod gwaith yn cael ei gwblhau ym maes cydraddoldeb i sicrhau bod pawb yn hapus i fynd i’r ysgol, ac yn cael eu parchu am fod yn nhw eu hunain.

 

Tynnwyd sylw at nifer o faterion eraill sydd wedi cael eu cyflawni gan yr adran yn ddiweddar megis gwaith moderneiddio addysg a cynllun cinio ysgol am ddim.

 

Diolchwyd i’r  Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi sydd wedi bod yn cynnal ymchwiliad craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd a nodwyd bydd yr argymhellion sy’n deillio i’r ymchwiliad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet pan yn amserol.

 

Rhannwyd dymuniadau gorau i Garem Jackson, sydd wedi ymddiswyddo o’i rôl fel Pennaeth Adran Addysg yn ddiweddar. Diolchwyd iddo am ei waith a’i ymroddiad i’r adran, a mynegwyd pob dymuniad da iddo i’r dyfodol.

 

Awdur: Debbie Jones: Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Gwasanaethau Corfforaethol

12.

ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET CYLLID pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad wedi dyddio ychydig gan fod y cyfarfod herio perfformiad wedi cael ei gynnal ers mis Gorffennaf.

 

Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £39.1m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. Manylwyd bydd adolygiad ffurfiol o sefyllfa cyllidebol adrannau’r Cyngor yn 2023/24 wedi cael ei wneud ar ddiwedd Awst 2023 ac mae adroddiad o’r adolygiad hwnnw ar agenda Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 12 Hydref 2023.

 

Tynnwyd sylw i Gynllun Digidol 2023-28 gan fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd yn rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.Cadarnhawyd bod adroddiad pellach ar y Cynllun Digidol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 07 Tachwedd 2023, a fod y mater eisoes wedi cael ei flaen-graffu gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Medi.  Bydd sylwadau’r pwyllgor hwnnw yn cael eu hymgorffori yn y fersiwn fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Adran yn gyfrifol am weithredu’r drefn o dalu’r anfonebau a gyflwynir i’r Cyngor. Eglurwyd bod anfonebau yn cael eu trefnu i’w dalu mor fuan a phosibl, yn hytrach na defnyddio system 30 diwrnod. Perfformiad yr Adran yn y cyfnod hyd ddiwedd Mehefin oedd i dalu anfonebau lleol o fewn 16 diwrnod ac unrhyw anfoneb arall o fewn 26 diwrnod. Pwysleisiwyd bod y maes hwn yn derbyn sylwi’n rheolaidd fel rhan o gyfarfodydd herio perfformiad yr Adran ac mae’n fesur cyflawni allweddol.

 

Rhannwyd diweddariad ar berfformiad rhai o wasanaethau’r adran, gan gynnwys:

 

·       Gwasanaeth Dysgu Digidol (sydd o dan reolaeth y Cyngor ers i gwmni Cynnal ddod i ben). Nodwyd bod capasiti’r tîm i gefnogi ysgolion wedi bod yn is na’r disgwyl yn y cyfnod dan sylw oherwydd absenoldebau staff ond disgwylir i hyn wella dros y misoedd nesaf. Cydnabuwyd bod yr adran wedi bod yn delio gyda heriau o ddenu ymgeiswyr i swyddi technoleg gwybodaeth y Cyngor, oherwydd natur arbenigol y swyddi, ond bod y sefyllfa yn cael ei adfer erbyn hyn.

·       Buddsoddi a Rheoli Trysorlys: Cadarnhawyd bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd o fewn y chwarter uchaf o gronfeydd pensiwn llywodraethau lleol y Deyrnas Unedig. Nodwyd ar sail perfformiad 3-bynedd roedd y Gronfa yn y 3ydd safle o bron i 100 o gronfeydd ac yn y 7fed safle dros 5 mlynedd. Cadarnhawyd bod hyn yn dangos bod perfformiad y Gronfa wedi bod yn gryf iawn.

·       Gwasanaeth Pensiynau: Adroddwyd bod y gwasanaeth wedi ymweld â stondin y Gwasanaeth Pensiynau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd nifer fawr o bobl wedi manteisio ar y cyfle i ddeall eu pensiwn a derbyn cymorth.

·       Gwasanaeth Cyflogau: Cydnabuwyd bod nifer o heriau, gan gynnwys ymdrin â thaliadau anghyfunol i athrawon. Yn sgil diffyg arweiniad gan Lywodraeth Cymru, roedd rhaid cyfrifo cyflogau yn unigol a’u bwydo i mewn i system gyflogau. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith ac i sicrhau nad oedd oediad yn nhaliadau staff y Cyngor.

·       Gwasanaeth Trethi: Cadarnhawyd bod llinellau ffôn bellach ar agor nes 5yh o’r gloch. Atgoffwyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Dewi Morgan: Pennaeth Cyllid