Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Craig ab Iago.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Elin Walker Jones ar gyfer Eitem 9 gan ei bod yn lywodraethwr yn Ysgol Tryfan. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan y Cynghorwyr Beca Brown a Berwyn Parry Jones ar gyfer Eitem 9 gan eu bod yn lywodraethwyr yn Ysgol Brynrefail. Nid oeddent o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni fu iddynt adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Prif Weithredwr ar gyfer Eitem 9 gan fod cysylltiad teuluol yn fyfyriwr yn un o’r ysgolion a drafodwyd. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 TACHWEDD pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 07 Tachwedd 2023 fel rhai cywir.

 

6.

DOGFEN YMGYNGHOROL AMCANION CYDRADDOLDEB 2024-28 pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y ddogfen hon yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet bob pedair blynedd, yn unol â gofynion statudol i adolygu amcanion cydraddoldeb o dan Deddf Cydraddoldeb 2010. Cadarnhawyd bod ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi ei gyflawni rhwng Ebrill ac Awst 2023 ble cafwyd oddeutu 600 o ymatebion i holiadur barn. Eglurwyd mai pwrpas yr ymgynghoriad oedd cadarnhau os oedd y cyhoedd yn credu bod angen i’r amcanion a ddefnyddiwyd rhwng 2024-28 barhau ar gyfer 2024-28 neu a oedd angen eu diwygio.

 

Nodwyd bod swyddogion wedi bod yn ymweld â nifer o grwpiau a digwyddiadau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys llais yr ifanc, pobl y gymuned LDHT+ a phobl anabl. Eglurwyd bod swyddogion wedi cael trafodaethau gyda rheolwyr o fewn y meysydd a oedd wedi codi, er mwyn derbyn cymorth i lunio’r amcanion. Defnyddiwyd y wybodaeth a dderbyniwyd gan ymatebwyr â phrofiad bywyd o nodweddion gwarchodedig er mwyn creu’r amcanion diwygiedig drafft.

 

Adroddwyd y defnyddiwyd data a gasglwyd gan dîm ymchwil a gwybodaeth y Cyngor ar gyfer dogfen a gomisiynwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus Gogledd Cymru i sicrhau dealltwriaeth o’r wybodaeth ar raddfa leol. Cadarnhawyd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i ddyletswyddau gweithredu'r Llywodraeth ym meysydd Gwrth-hiliaeth a LHDT+ wrth lunio amcanion drafft.

 

Pwysleisiwyd mai amcanion drafft sydd wedi eu nodi yn y ddogfen ac y bydd modd i’r rhain cael eu diwygio yn dilyn ymgynghoriad pellach gyda’r cyhoedd. Sicrhawyd bod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb a gyflwynwyd gyda’r ddogfen, yn un drafft, a byddai’n cael ei ddiwygio yn ôl yr angen pan fydd adborth bellach wedi eu casglu.

 

Cadarnhawyd mai’r pedwar amcan drafft cyn ymgynghori’n bellach yw:

1.    Gwella amrywiaeth ein gweithlu a lleihau bylchau tâl

2.    Gwella ein data am bobl â nodweddion cydraddoldeb

3.    Sicrhau fod y Cyngor yn fudiad wrth-wahaniaethol trwy wella ein systemau mewnol er mwyn darparu gwell gwasanaethau i bawb

4.    Gwella cydraddoldeb o fewn maes addysg

 

Diolchwyd i’r swyddogion am lunio amcanion siarp gan uno rhai amcanion blaenorol. Nodwyd bod hyn yn galluogi ystyried cydraddoldeb o fewn maes addysg fel amcan newydd. Teimlwyd bod hyn yn hollbwysig gan ei fod yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru ac addysg cydberthynas a rhywioldeb.

 

Amlygwyd nad oedd capasiti ac ymrwymiad staff ac aelodau etholedig y Cyngor ym maes cydraddoldeb, yn ogystal â hyfforddiant perthnasol, wedi ei gynnwys yn y ddogfen hon, er ei fod yn amcan yn y gorffennol. Sicrhawyd yr Ymgynghorydd Cydraddoldeb bod hyfforddiant yn bwynt gweithredu o dan addewid i wneud Cyngor gwrth-wahaniaethol. Pwysleisiwyd bod llawer o waith wedi ei wneud ar y maes hwn yn barod ac felly mae wedi ei gynnwys fel pwynt gweithredu yn hytrach nag amcan. Nodwyd y byddai hyn yn cael ei amlygu o fewn y ddogfen.

 

Adroddwyd nad oedd materion yr iaith Gymraeg wedi ei nod i fel amcan o fewn y ddogfen. Cadarnhawyd bod hyn oherwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Delyth Williams: Ymgynghorydd Cydraddoldeb

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2022/2023 pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan   

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ymhelaethwyd bod sefydlu a chynnal y Bwrdd yn ofyniad o fewn Adran 9 y ddeddf honno yn ogystal â’r angen i hyrwyddo cydweithrediad gyda phartneriaid y Bwrdd.

 

Eglurwyd bod y bwrdd yn cael ei redeg gan y Tîm Cydweithio Rhanbarthol a’i lletyo gan Gyngor Sir Ddinbych. Diolchwyd i Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru am ei gwaith o gadeirio’r Bwrdd.

 

Tywyswyd drwy’r adroddiad gan dynnu sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

·       Cadarnhawyd mai rôl y bwrdd yw cydweithio i sicrhau iechyd a lles pobl o bob oed yng Ngogledd Cymru.

·       Darparwyd diagram o holl is-fyrddau’r Bwrdd sy’n sicrhau fod rôl y Bwrdd yn cael ei gyflawni.

·       Nodwyd bod y ‘Cynllun Ardal’ ar gael ar wefan Cydweithredfa Gogledd Cymru sy’n dangos yr heriau a blaenoriaethau o fewn ardaloedd y Bwrdd, gan gynnwys Gwynedd.

·       Cyfeiriwyd at ddwy gronfa ranbarthol gyfalaf newydd y bwrdd sy’n darparu arian i brosiectau pwysig iawn ar draws y rhanbarth. Cadarnhawyd mai’r cronfeydd hyn ydi ‘Cronfa Tai â Gofal’ a ‘Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso’.

·       Adroddwyd ar nifer o brosiectau o fewn maes plant a phobl ifanc megis anableddau dysgu, iechyd meddwl, blynyddoedd cynnar a phrosiect ‘Dim Drws Anghywir’.

·       Esboniwyd bod y bwrdd yn derbyn arian o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a sefydlwyd gan y Llywodraeth yn Ebrill 2022. Eglurwyd bod hwn yn Gronfa am gyfnod o 5 mlynedd.

·       Darparwyd gwybodaeth am Aelodaeth y Bwrdd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector gyhoeddus, iechyd, defnyddwyr gwasanaethau a’r trydydd sector.

·       Cyfeiriwyd at Gynllun Cyflawni Blynyddol y Bwrdd i ddarparu gwybodaeth am waith y Bwrdd i’r dyfodol

 

Cytunwyd i ddarparu cyflwyniad pellach i Aelodau’r Cabinet ar waith y Bwrdd.

 

Cydnabuwyd nad oedd strwythur llywodraethu clir ac eglur ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Cadarnhawyd bod y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae Is-fwrdd Plant a Phobl Ifanc yn blaenoriaethu’r gwaith hwn. Manylwyd nad yw aelodau etholedig yn rhan o’r is-fwrdd ac felly cadarnhawyd bod y Cyfarwyddwr Statudol wedi cysylltu gyda’r Llywodraeth i ystyried addasu aelodaeth.

 

Cadarnhawyd bod strwythur llywodraethu cymhleth y Bwrdd wedi ei ddarparu gan y Llywodraeth. Er hyn, cadarnhawyd bod gwaith y Bwrdd yn llwyddiannus iawn gan eu bod yn canolbwyntio ar lais defnyddwyr y gwasanaethau i ysgogi’r gwaith.

 

Diolchwyd i’r Bwrdd a’r holl swyddogion am eu gwaith.

 

Awdur: Dylan Owen Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL 2022-2023 pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2022-23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2022-23.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau bod gan Gyngor Gwynedd a’i bartneriaid gyfrifoldeb i fod yn Rhiant Corfforaethol i bob plentyn o dan ofal y Cyngor, ac yn benodol i sicrhau gofal effeithiol, sefydlog, diogel ac addas ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal, ynghyd â’r rhai sy’n gadael gofal. Cywirwyd Adran 3.1 o’r blaenraglen i ategu hynny a nodwyd bod yr Adroddiad yn adrodd ar y gwaith sydd wedi ei gwblhau i sicrhau bod y Cyngor yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn.

 

Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn cymryd y cyfrifoldeb hwn yn ddifrifol iawn a eglurwyd mai’r Prif Weithredwr yw Cadeirydd y Panel Rhiant Corfforaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adroddiad hwn yn manylu ar y gwaith a gyflawnwyd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth2023 ac yn nodi gwybodaeth gyfredol am niferoedd plant mewn gofal a’r gefnogaeth a roddir i’r plant hynny yn ogystal ag amlinellu’r bwriad ar gyfer y dyfodol.

 

Adroddwyd bod 25% o’r plant a ddaeth i ofal yn ystod y flwyddyn 2022-23 yn Geiswyr Lloched drwy Gynllun Trosglwyddo’r Swyddfa Gartref, gan i’r Cyngor dderbyn 15 o blant drwy’r cynllun.

 

Mynegwyd pryder am Gynllun Trosglwyddo'r Swyddfa Gartref gan nad yw’r plentyn yn cael ei roi’n ganolog i’w prosesau. Eglurwyd nad oes trafodaethau ymlaen llaw i ddiwallu anghenion y plentyn i’w asesu os ydi Gwynedd yn leoliad addas i’w anghenion. Cydnabuwyd ei fod yn heriol iawn canfod lleoliad addas ar gyfer y plant gan nad ydynt eisiau aros yng Ngwynedd yn aml iawn, ac yn dyheu am fynd i’r dinasoedd mawr. Eglurwyd bod modd gofalu am unigolion dros 16 mewn lleoliad llety a chefnogaeth, ond os yw’r plant o dan 16 oed mae’n rhaid iddynt gael lleoliad maeth. Diweddarwyd bod y Swyddfa Gartref yn disgwyl i’r awdurdodau lleol leoli’r plant mewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cyfeiriad. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn bosib ac o’r herwydd mewn un achos, mae’r plentyn wedi gorfod ei leoli yng Nghaint tra mae swyddogion yn canfod lleoliad mwy addas a lleol i Wynedd. Adroddwyd bod y problemau hyn sy’n codi fel rhan o’r Cynllun Trosglwyddo yn digwydd ar hyd Cymru gyfan.

 

Cadarnhawyd niferoedd Ceiswyr Lloches ym mhob Sir y Gogledd (yn unol â gwybodaeth a dderbyniwyd yn Haf 2023, am gyfnod o 8 ‘cycle’) fel a ganlyn:

·       Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – 2 o blant

·       Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – 3 o blant

·       Cyngor Sir Ynys Môn – 4 o blant

·       Cyngor Sir Ddinbych – 7 o blant

·       Cyngor Gwynedd – 9 o blant

·       Cyngor Sir Y Fflint – 11 o blant

 

Cymharwyd hyn gyda lleoliadau eraill yng Nghymru megis Sir Gaerfyrddin (12 o blant), Casnewydd (1 plentyn), Abertawe (3 o blant) a Chaerdydd (1 plentyn).

 

Manylwyd bod 26 o Geiswyr Lloches o dan olaf y Cyngor ers cyfod o ddwy flynedd a hanner ac y disgwylir 6 plentyn ychwanegol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr

9.

ADDYSG ÔL-16 ARFON pdf eicon PDF 287 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cymeradwywyd Opsiwn 2 ar gyfer prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.

2.    Cymeradwywyd i’r Pennaeth Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu y memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gyda’r bwriad o gryfhau y trefniadau ac adrodd yn ôl i’r Cabinet gyda argymhellion ar gyfer y digwyddiadau gytunwyd.

3.    Caniatawyd i ddargyfeirio rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar gyfer cyfarch y bwlch ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r adroddiad, nad oes modd symud ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb ddigonol ar eu cyfer yn sgil cynnydd mewn costau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cymeradwywyd Opsiwn 2 ar gyfer prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.

2.    Cymeradwywyd i’r Pennaeth Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu'r memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gyda’r bwriad o gryfhau'r trefniadau ac adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion ar gyfer y diwygiadau a gytunwyd.

3.    Caniatawyd i ddargyfeirio rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar gyfer cyfarch y bwlch ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r adroddiad, nad oes modd symud ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb ddigonol ar eu cyfer yn sgil cynnydd mewn costau.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau i’r Cabinet ganiatáu cychwyn proses ymgysylltu gyda rhan-ddeiliaid allweddol er mwyn ystyried y ddarpariaeth ôl-16 bresennol, ac amlygu’r ystyriaethau allweddol er mwyn adnabod y cyfeiriad a’r cyfleoedd i gryfhau’r ddarpariaeth yn Arfon, mewn cyfarfod ym mis Mawrth 2020. Manylwyd bod dau weithgor wedi ei gynnal gyda dysgwyr, rhieni, staff dysgu a llywodraethwyr er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a holi unrhyw gwestiynau.

 

Adroddwyd mai’r prif negeseuon a dderbyniwyd o’r broses ymgysylltu hwn oedd:

 

·       Y brif flaenoriaeth yw ansawdd addysg

·       Y dylid defnyddio TGCh i ategu a chefnogi’r dysgu wyneb yn wyneb.

·       Bod Addysg Gymraeg a dwyieithog yn greiddiol bwysig (er rhai sylwadau i’r gwrthwyneb)

·       Y dylid defnyddio’r arian cyfalaf i wella cyfleusterau ein hysgolion uwchradd yn gyffredinol fel bod modd i’r holl ddysgwyr 11-18 oed elwa o’r buddsoddiad.

·       Bod gwrthwynebiad cyffredinol i unrhyw fwriad i ganoli neu drydyddu’r ddarpariaeth

·       Y cafwyd sawl sylw am ddarpariaeth Grŵp Llandrillo Menai o safbwynt ansawdd, cyfrwng a gofal bugeiliol.

 

Cydnabuwyd nad yw’r achos dros newid mor gryf erbyn hyn ag yr oedd hi nol yn 2020. Ystyriwyd bod dyheadau ac anghenion pobl ifanc wedi newid yn sgil y Pandemig a bod y Cyngor wedi dysgu gwersi am bwysigrwydd technoleg mewn addysg. Nodwyd bod sylwadau cryf wedi dod gan benaethiaid bod angen edrych ar addysg uwchradd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na manylu ar addysg ôl-16 yn unig. Adroddwyd bod rhai o siroedd eraill yn ymdrin ag addysg ôl-16 fel rhan o’r gyfundrefn uwchradd, ond mae Gwynedd yn dewis peidio gwneud hynny oherwydd cryfderau ac arolygiadau cadarnhaol am y trefniant presennol.

 

Cydnabuwyd bod buddsoddiad yn ysgolion uwchradd wedi bod yn is nag ysgolion cynradd. Croesawyd y bwriad i fuddsoddi mewn ysgolion uwchradd yn y Sir sydd wir ei angen. Pwysleisiwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Addysg: Gwasanaethau Corfforaethol bod buddsoddi mewn ysgolion uwchradd wedi bod yn llai arwyddocaol nac i’r gyfundrefn gynradd a hynny oherwydd bod gan y gyfundrefn honno nifer sylweddol yn uwch o ysgolion na’r gyfundrefn uwchradd. Er hyn, sicrhawyd bod y gyfundrefn uwchradd yn derbyn sylw gan yr adran a chyfeiriwyd at nifer o brosiectau ar y gweill i gynorthwyo hynny.

 

Rhannwyd pryder am yr heriau o ddenu staff i ddysgu pynciau allweddol, ar y cyd gyda niferoedd isel o ddisgyblion yn astudio rhai pynciau arbenigol. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Debbie Anne Williams Jones: Pennaeth Cynorthwyol Adran Addysg - Gwasanaethau Corfforaethol

10.

ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adran yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i’w gwasanaethau a bod eu llwyddiant i wneud hyn yn cael ei fesur drwy gyfarfodydd Herio Perfformiad rheolaidd.

 

Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar ddau o brosiectau Cynllun y Cyngor. Nodwyd mai un ohonynt yw’r ‘Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan’. Eglurwyd bod yr adran yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau. Cadarnhawyd bod ymweliadau eiddo wedi cymryd lle er mwyn symud y prosiect yn ei flaen a thŷ wedi cael ei ystyried. Manylwyd bod darn o dir mewn ardal arall o Wynedd yn cael ei ystyried i adeiladu tŷ ar gyfer y pwrpas y cynllun hwn. Esboniwyd bydd grŵp prosiect yn cael ei sefydlu yn 2024 yn cynnwys swyddogion yr adran Blant, Tai ac Eiddo, Addysg a’r Gwasanaeth Iechyd i oruchwylio’r cynllun. Sicrhawyd bod £50,000 yn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r prosiect yn ddiweddar o danwariant cronfa RIF.

 

Adroddwyd mai’r ail brosiect Cynllun y Cyngor sydd o dan arweiniad yr Adran yw’r ‘Cynllun Awtistiaeth’. Eglurwyd bod plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig yn wynebu heriau i dderbyn cefnogaeth arbenigol angenrheidiol. Ymrwymwyd i wella’r gwasanaeth gan ei wneud yn haws i unigolion dderbyn gwasanaethau. Cadarnhawyd bod fforwm wedi ei sefydlu ar gyfer edrych ar y cyfeiriadau sydd yn cyrraedd y Cyngor. Darparwyd gwybodaeth am lansiad y Gwasanaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn. Nodwyd bod nifer o staff y Cyngor bellach wedi cael cyfle i fynd ar y Bws Profiad Realiti Awtistiaeth sy’n rhoi profiad tebyg i sut mae unigolyn gydag Awtistiaeth yn gweld y byd o’u cwmpas. Manylwyd ei fod yn ofynnol i staff Cyngor Gwynedd gwblhau hyfforddiant lefel 1 a 2 yn y maes awtistiaeth. Sicrhawyd bod yr adran yn cydweithio’n gyson gyda’r Tîm Niwroddatblygiadol a Thîm Derwen gyda’r cynllun.

 

Cydnabuwyd bod sefyllfa gweithlu'r adran yn parhau i fod yn fater o bryder difrifol. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran yn ymdrechu i sefydlogi’r sefyllfa at y dyfodol drwy gydweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai ac ymweliadau gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal i’w hysbysu o’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.

 

Cadarnhawyd bod yr adran yn parhau i weld natur ddwys a chymhleth yn dod i sylw’r Cyngor a bod y niferoedd yr achosion agored yn cynyddu. Manylwyd bod niferoedd yr achosion sydd yn agored i’r Tîm Ôl-16 ar ei uchaf erioed, gydag 210 o achosion yn cael eu hymdrin â hwy. Ystyriwyd bod hyn yn mynd law yn llaw gyda chynnydd mewn cyfraniadau digartrefedd ac felly mae’r adran yn cydweithio gyda’r  Tîm Digartrefedd i geisio canfod lloches addas. Cydnabuwyd bod hon yn her enfawr.

 

Nodwyd bod effeithiau’r pandemig, argyfwng costau a straen yn arwain at niferoedd uwch o bobl cysylltu gyda’r adran am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Marian Parry Hughes: Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

11.

ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol.

 

Cadarnhawyd bod cais cynllunio ar gyfer Dolfeurig wedi cael ei dderbyn gan y Parc Cenedlaethol, fel rhan o’r prosiect ‘Cefnogaeth Ataliol yn Lleol’ sy’n rhan o Gynllun y Cyngor. Manylwyd y gobeithir cychwyn ar y gwaith adeiladu ar y safle yn ystod haf 2024 yn dilyn proses o ddylunio a chontractio.

 

Sicrhawyd bod gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i wella hygyrchedd at wybodaeth ac at ddigwyddiadau ar draws y Sir drwy dudalennau ar wefan y Cyngor sydd yn cael eu hadolygu’n barhaus.

 

Manylwyd ar brosiect ‘Byw’n Annibynnol’ sydd hefyd yn rhan o Gynllun y Cyngor gan gadarnhau bod Tai Gofal Ychwanegol Ysgafn ym Mhwllheli wedi agor ar 27ain Tachwedd. Ymfalchïwyd bod prosiectau tebyg ar y gweill yn ardaloedd Groeslon, Nefyn, Tywyn, Penrhyndeudraeth a thu hwnt. Sicrhawyd bod yn adran yn gweithio i adnabod unigolion addas i ddefnyddio’r safle. Mynegwyd pryder ar ddiffyg datblygiad ar y gwaith o adnabod safle cyffelyb yn Nolgellau. Eglurwyd bod lleoliadau yn cael eu hasesu yn ôl anghenion yr unigolion a bod anawsterau wedi codi wrth geisio canfod lleoliad canolog ar gyfer y safle, ond bod hyn yn flaenoriaeth i’r Adran. Pwysleisiwyd byddai’r Aelod Cabinet yn gofyn am ddiweddariad yng nghyfarfod herio perfformiad nesaf yr adran.

 

Pwysleisiwyd bod yr adran yn paratoi at drawsnewidiad digidol erbyn 2025, gan edrych ar dechnoleg newydd tra hefyd yn rhoi ystyriaeth i ddefnydd yr adnoddau digidol i ddefnyddwyr ardaloedd gwledig. Cydnabuwyd bod y gwaith hwn yn newydd ac yn newid yn gyson. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod yr Adran yn canolbwyntio ar fodelau taliadau uniongyrchol wrth i’r gwasanaeth hwn gael ei drosglwyddo i ddarparwyr newydd yn fuan.

 

Adroddwyd bod rhestrau aros am dderbyn asesiad therapi galwedigaethol wedi cynyddu ar raddfa bryderus, gan orfodi’r adran i flaenoriaethu ar sail risg. Cyfeiriwyd at her arall sy’n wynebu’r adran sef oriau gofal cartref sydd heb eu diwallu. Nodwyd bod y canran hwn wedi cynyddu o 12.1% i 14% yn ddiweddar. Golyga hyn bod 154 unigolyn yn aros am ofal cartref o’r newydd erbyn diwedd Medi 2023, o’i gymharu â 137 ar ddiwedd mis Mai 2023.

 

Tynnwyd sylw at niferoedd brawychus o gyfeiriadau sy’n cyrraedd y Tîm Iechyd Meddwl. Cadarnhawyd bod yr adran yn derbyn rhwng 450 a 500 yn y misoedd diwethaf. Cydnabuwyd bod hyn yn codi pryderon am gapasiti’r adran i ddelio gyda’r galw am gefnogaeth, ymfalchïwyd bod 40% o’r ceisiadau hyn wedi derbyn pecyn gofal wedi ei ddarparu ar eu cyfer.

 

Cyfeiriwyd at faterion diogelu gan gadarnhau bod yr adran wedi llwyddo i reoli’r perygl mewn 100% o atgyfeiriadau diweddar. Er hyn, pryderwyd bod 306 o unigolion yn aros am asesiad Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) ar ddiwedd mis Medi 2023. Eglurwyd bod y broblem hon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant