Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd, Gareth A. Roberts ac Owain
Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau
hefyd gan y Cynghorydd W Gareth Roberts a’r Cynghorydd Dewi Roberts (Aelodau Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 5.4 a 5.5 ar y rhaglen, (ceisiadau C19/0950/21/LL a C20/0848/11/LL) oherwydd bod ei fod yn aelod
o Fwrdd Adra Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Paul Rowlinson a’r
Cynghorydd Dafydd Meurig (nad
oedd yn aelodau
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0950/21/LL) Y Cynghorydd Steve Collings (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0848/11/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 16 Tachwedd 2020 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 16 o Dachwedd
2020 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C19/0752/30/LL Canolfan y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, Gwynedd PDF 458 KB Gosod 4 caban glampio, bloc toiled a chawod ynghyd a lleoli 12 pabell i'w defnyddio
gan breswylwyr Canolfan Felin Uchaf AELOD LLEOL: Y Cynghorydd W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i wrthod y cais ar
sail y rhesymau isod:- Rhesymau: • Mae’r
bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i
Ardal Tirwedd Arbennig. Nid yw Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn, 2017 yn caniatáu datblygu safleoedd llety gwersylla amgen
sefydlog newydd oddi fewn i Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad, felly, yn
groes i ofynion Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn,
2017. • Mae’r
bwriad yn groes i faen prawf rhif 2, 4 a 7 o Bolisi TWR5 Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ar y sail byddai’r bwriad yn creu gormodedd o
ardaloedd o leiniau caled, nid oes tystiolaeth wedi ei dderbyn pam fod angen
cyfleusterau ychwanegol a bydd y llain pebyll yn cael ei ddefnyddio am 12 mis y
flwyddyn. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017. • Mae’r
bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen newydd yng nghefn gwlad
agored ac ymhell tu allan i unrhyw ffin ddatblygu. Yn ychwanegol, ni ystyrir fod y bwriad yn
gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn safle anghynaladwy
ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau
preifat. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5,
PS4, PS5 a PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd
a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol:
Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid 2019 a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad
10, 2018. Cofnod: Gosod 4 caban glampio, bloc toiled a chawod ynghyd a lleoli 12 pabell i’w defnyddio gan
breswylwyr Canolfan Felin Uchaf a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ydoedd i osod
4 caban glampio hunanwasanaeth, codi adeilad cysylltiol i gynnwys toiledau
/ cawodydd, creu maes gwersylla
pebyll ynghyd a gwaith arall fyddai’n
cynnwys creu rhodfa fynediad, llwybrau mynediad, tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod tanc septig gyda
suddfan ddŵr cysylltiedig. Eglurwyd bod y safle wedi ei
leoli yng nghefn gwlad agored, tu
allan i unrhyw
ffin datblygu, oddi fewn i
Ardal o Dirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn ac oddeutu 800m i’r gogledd orllewin
o AHNE Llŷn. Adroddwyd
bod y bwriad yn gysylltiedig gyda Chanolfan Addysgol Eco Felin Uchaf. Nodwyd bod yr
ymgeisydd yn egluro y byddai’r 4 caban yn cael
eu gosod ar sgids islaw.
Byddai’r sgids yn cael eu
hangori i’r ddaear drwy ddefnyddio
sgriws daear sydd yn galluogi
i’r cabanau cael eu symud
o’r safle pe byddai angen
eu storio neu at bwrpas cynnal
a chadw. Amlygwyd bod y swyddogion o’r farn bod natur y 4 caban yn barhaol
gan y byddai trydan/dŵr/carthffosiaeth yn cael eu cysylltu
yn unigol i bob caban. O ystyried yr elfennau
hyn byddai’r bwriad yn golygu
sefydlu elfennau parhaol a sefydlog eu natur ac, felly, na ellid cytuno
gyda barn yr ymgeisydd mai Polisi
TWR5 yn unig yw’r polisi perthnasol
ar gyfer y cais hwn. Ategwyd bod yr Arolygwr Cynllunio, ar ddyfarniad apêl
ddiweddar yng Ngwynedd (APP/Q6810/A/19/3243019) ar
gyfer lleoli 4 pabell saffari o ddeunydd cynfas ar ffrâm polyn
pren, llwybrau troed, trac mynediad
ac ardal barcio, wedi nodi byddai’r
holl elfennau hyn yn gyfystyr
a chreu nodweddion gwersylla amgen parhaol, er gwaethaf
y ddadl y byddai’r pebyll yn cael
eu symud oddi ar y safle
ar ddiwedd pob tymor. Gwrthodwyd
yr apêl hon ar sail methiant i gydymffurfio gyda meini prawf
Polisi TWR3 yn hytrach na
chydymffurfiaeth a meini prawf Polisi TWR5. Yn ychwanegol,
gan fod y safle wedi ei
leoli oddi fewn i Ardal
Tirwedd Arbennig Gorllewin Llyn (ATA) rhaid felly ystyried maen prawf 1 o Bolisi TWR3 sydd yn datgan “gwrthodir
cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán
sengl neu ddwbl), safleoedd siale gwyliau newydd
neu lety gwersylla amgen parhaol yn….Ardaloedd
Tirwedd Arbennig”. O ystyried
yr asesiad a’r holl faterion
cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd o fewn y cyfnod ymgynghori, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol
a'i fod yn
methu bodloni gofynion y polisïau perthnasol. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: · Er bod y cabanau yn strwythurau parhaol byddent yn cael ei symud yn ystod tymor cloi'r Gaeaf. Esboniwyd bod y chwe sgriw yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C19/1204/39/LL Venetia, Lôn Sarn Bach, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd PDF 504 KB Bwriad
i greu 6 fflat gwyliau i'w gosod drwy drosi ac ymestyn y prif adeilad a
dymchwel yr annedd presennol i'r cefn o'r safle a codi blociau llety newydd yn
ei le AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais Rhesymau:
Cofnod: Dymchwel adeilad presennol
ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi mai cais ydoedd i greu 6 fflat gwyliau hunangynhaliol. Byddai 3 uned wyliau hunangynhaliol yn cael
eu creu drwy drosi ac ymestyn y gwesty/bwyty presennol a byddai’r 3 uned arall
yn cael eu creu trwy ddymchwel yr annedd bychan yng nghefn y safle a chael
gwared â charafán sefydlog a chodi adeilad deulawr ac unllawr newydd yn eu lle.
Eglurwyd bod defnydd presennol y safle yn cynnwys gwesty 5 ystafell wely a
bwyty mewn adeilad traddodiadol a sylweddol ei faint a thŷ annedd bychan a
charafán ar gyfer defnydd staff y gwesty yng nghefn y safle. Adroddwyd bod y
bwriad yn annerbyniol oherwydd ei raddfa, colled o dŷ o’r stoc dai,
lleoliad y safle o fewn ardal breswyl a bod gormodedd o’r math yma o lety yn yr
ardal ble mae 42.29% o’r stoc dai yn ail gartrefi. Ystyriwyd y bwriad yn groes i feini prawf ii,
iii, iv a v o bolisi TWR 2 o’r CDLl (gan na fyddai’n creu datblygiad o ansawdd
uchel o ran dyluniad, gosodiad na lleoliad) a hefyd i Ganllaw Cynllunio Atodol:
Llety Gwyliau (Gorffennaf, 2011) Yng nghyd-destun
materion ieithyddol, nid oes gofyn cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg o dan
Bolisi PS1 CDLL. Fodd bynnag, yn unol
gyda chynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a
Chynaliadwy anogir ymgeisydd i gyflwyno cofnod am sut y rhoddwyd ystyriaeth i’r
iaith Gymraeg wrth lunio’r cais cynllunio. Mae barn gryno’r Uned Iaith yn datgan eu bod yn
anghytuno gyda chasgliadau'r datganiad ieithyddol a gyflwynwyd gan nodi y
byddai effaith negyddol yn fwy tebygol oherwydd ei fod yn ddatblygiad unedau
gwyliau yn hytrach na chyfrannu at stoc dai sefydlog mewn ardal ble mae’r
Gymraeg yn fregus. Derbyniwyd sylwadau y byddai cwmni lleol yn cael cytundeb
iaith, y byddai enwau Cymraeg ar yr unedau, yn gosod arwyddion dwyieithog ac y
byddai unedau gwyliau o bosib yn gallu arwain pobl i gefnogi busnesau lleol
wrth ymweld gyda’r ardal. Fodd bynnag
roedd yr Uned Iaith o’r farn nad oedd y datganiad a gyflwynwyd yn dangos unrhyw
ddealltwriaeth o sefyllfa ieithyddol yr ardal leol. Gan fod gwrthwynebiad
sylfaenol i’r bwriad nid yw’r swyddogion cynllunio wedi codi’r pryderon hyn
gydag asiant yr ymgeisydd gan na fyddai derbyn Datganiad Iaith ddiwygiedig yn
goresgyn y pryderon polisi eraill sydd wedi’u hamlygu yn yr asesiad. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol tynnwyd sylw at ofynion y meini prawf ac ystyriwyd nad oedd y bwriad yn ychwanegu at, nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle, yr adeilad na’r ardal o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder a mas. Ystyriwyd y byddai’n creu nodwedd ymwthiol a dominyddol i gefn y safle. Wrth ystyried materion cyffredinol a phreswyl nodwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed andwyol sylweddol i ddeiliaid tai cyfagos ynghyd a defnyddwyr yr unedau gwyliau eu hunain ar sail mwy o weithgareddau, aflonyddwch, sŵn, gor-edrych a cholled o breifatrwydd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais rhif C20/0538/03/LL Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog PDF 349 KB Dymchwel adeilad presennol ac
adeiladu 6 tŷ preswyl newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn
Daniels Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohiriwyd y caiser mwyn ystyried
gwybodaeth hwyr. Cofnod: The application was deferred in order to consider late
information. |
|
Cais Rhif C19/0950/21/LL Tir Gyferbyn Maes Bleddyn, Bethesda PDF 393 KB Codi 30 ty yn cynnwys 15 ty
affordadwy, mynedfa newydd, parcio ynghyd a sailwaith cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Paul
Rowlinson Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn trosglwyddo’r unedau i gymdeithas
dai ac i sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol ac i’r amodau
isod:- 1. 5
mlynedd. 2. Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. 3. Llechi
naturiol. 4. Samplau
o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a manylion y paneli solar i’w
cytuno gyda’r ACLL. 5. Amodau
Priffyrdd i gynnwys sicrhau materion tawelu traffig 6. Tirlunio meddal a chaled. 7.
Cyflwyno manylion o unrhyw strwythur/adeilad sydd i’w godi o
fewn y cwmpownd gorsaf bwmpio dŵr. 8.
Datblygiad i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru a
gyfeiriwyd atynt o fewn yr Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol a’r ddogfen Arolwg
Rhywogaethau Estynedig Cam 1. 9.
Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth. 10.
Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos,
08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc. 11.
Cyfyngiadau lefelau sŵn yn ystod y cyfnod adeiladu. 12.
Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi
allan y safle. 13.
Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau
fforddiadwy. 14.
Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy. 15.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth
parcio cerbydau’r adeiladwyr. Nodi hefyd dim parcio ar y ffordd gyhoeddus yn
ystod cyfnod adeiladu. 16.
Sicrhau gwelliannau ffordd cyn preswylio’r unedau a ganiateir 17.
Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol i gynnwys sŵn,
dirgryniad a llwch. 18.
Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL
cyn iddynt gael eu gosod. 19.
Sicrhau cydymffurfiaeth a SP 5837: 2012 parthed diogelu coed. 20.
Amod mesurau lliniaru archeolegol. Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth
ddraenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor. Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dwr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos
gyhoeddus yn croesi’r safle. Cofnod: Codi
30 tŷ yn cynnwys 15 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio ynghyd a
seilwaith cysylltiedig Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
darparu 30 o unedau preswyl fforddiadwy, mynedfa newydd, llecynnau parcio
ynghyd a seilwaith cysylltiedig ar lecyn o dir amaethyddol wedi ei leoli a’i
gydnabod fel safle tai T66 oddi fewn i ffin datblygu Rachub. Nod
y bwriad yw darparu 30 uned breswyl, fforddiadwy (gan gynnwys 4 byngalo) yn
amrywio o 2 lofft i 4 llofft. Bydd lefelau rhent yr unedau fforddiadwy yn unol
â gofynion Polisi Rhent Llywodraeth Cymru ac Adra fel Landlord Cymdeithasol
Cofrestredig ac yn cael eu dyrannu i bobl sydd ar Restr Tai Tîm Opsiynau’r
Cyngor neu/ac wedi eu cofrestru gyda Thai Teg yn unol â pholisi rhentu lleol.
Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd (Adra) bod y cais, i dderbyn cyllideb
grant Rhaglen Tai Arloesol (Cymru) IHP4 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
adeiladu’r holl unedau preswyl fel unedau fforddiadwy, wedi bod yn llwyddiannus Amlygwyd
bod trafodaethau ymlaen llaw wedi eu cynnal rhwng Adra ac Uned Strategol Tai’r
Cyngor. Ategwyd bod y cais wedi cael ei ddewis i’w gynnwys ar restr cynlluniau
wrth gefn y Cynllun Rhaglen Trosglwyddo fyddai’n derbyn arian
grant ac yn cael ei ariannu drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Cydnabuwyd bod y bwriad yn ymateb i angen cydnabyddedig, yn darparu cymysgedd
briodol o unedau ac
wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLL. Ystyriwyd y bwriad fel un yn cwrdd â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r CDLL ynghyd a
chyngor y ddogfen CCA: Cymysgedd Tai a Thai Fforddiadwy. Byddai’r
bwriad yn golygu creu mynedfa newydd ar gyfer cerbydau a cherddwyr oddi ar y
ffordd sirol dosbarth III cyfagos gyda darpariaeth parcio ar gyfer pob tŷ
o fewn y datblygiad. Yn ogystal amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i
ymgymryd â gwaith ychwanegol o ddarparu tawelyddion traffig ar hyd y ffordd
sirol gydag arwyddion cysylltiedig. Roedd yr Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r datblygiad, er gwaethaf pryderon
y cyhoedd am ddiogelwch ffyrdd. Ategwyd y byddai amodau perthnasol yn cyfarch y
pryderon hyn. Wrth
ystyried sylwadau’r Uned Iaith Gymraeg ar y datblygiad, eglurwyd eu bod o’r
farn bod y math o unedau a gynigir yn mynd i apelio at deuluoedd. Ystyriwyd y
byddai hyn yn debygol o gael effaith gadarnhaol gan
ychwanegu at y boblogaeth Gymraeg sydd eisoes yn eithaf cadarn yn yr ardal. O
ganlyniad, y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PS1 ynghyd a’r CCA:
cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. Wrth
ystyried materion addysgol amlygwyd bod Ysgol Gynradd Llanllechid eisoes dros ei
chapasiti, ond bod digon o gapasiti ar gael yn Ysgol
Uwchradd Dyffryn Ogwen. Ystyriwyd felly bod cyfiawnhad am gyfraniad o swm
penodol o £ 121,152.00 (12 x £10,096.00) i ddiwallu’r diffyg capasiti yn yr
ysgol gynradd yn dderbyniol a bod yr ymgeisydd wedi cytuno gyda hyn drwy
arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106. |
|
Cais Rhif C20/0848/11/LL 137 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1NT PDF 471 KB Codi adeilad ar gyfer darparu
12 fflat lle ceir cefnogaeth, swyddfeydd ar y llawr gwaelod ynghyd a
datblygiadau cysylltiedig i gynnwys llecynnau parcio yn y cefn AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve
Collings Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol:-
Nodyn: Cyfeirio’r ymgeisydd i gyngor
Dwr Cymru. Nodyn: Gofynion Systemau draenio Cynaliadwy Cofnod: Codi adeilad ar gyfer darparu 12 fflat lle ceir cefnogaeth, swyddfeydd ar
y llawr gwaelod ynghyd a datblygiadau cysylltiedig i gynnwys llecynnau parcio
yn y cefn. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi mai cais llawn ydoedd wedi ei gyflwyno gan landlord
cymdeithasol cofrestredig ar gyfer darparu 12 fflat fforddiadwy. Byddai’r bwriad
yn darparu cymorth byw mewn unedau preswyl hunangynhwysol i’r rhai sy’n
ddigartref ac sydd angen rhywfaint o gymorth wrth drosglwyddo i annedd
fforddiadwy. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar ran uchaf y Stryd Fawr yng
nghanol dinas Bangor. Adroddwyd
bod Polisi TAI1 yn datgan, yng Nghanolfan Isranbarthol Bangor a’r Canolfannau
Gwasanaeth Trefol, bydd tai i gwrdd â Strategaeth y
Cynllun yn cael eu sicrhau drwy’r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap
addas o fewn y ffin datblygu. Lefel cyflenwad dangosol ar gyfer Bangor dros
gyfnod y Cynllun yw 969 uned ac yn ystod y cyfnod rhwng 2011 a 2020, cwblhawyd
cyfanswm o 643 uned. Ategwyd bod y banc tir safleoedd ar hap yn Ebrill
2020 yn cynnwys 131 uned gyda chaniatâd pellach am 70 uned ar safleoedd wedi eu
dynodi. Amlygwyd bod y
CDLL yn nodi ffigwr dangosol o 115 o dai ar ddau safle pellach
wedi eu dynodi ar gyfer tai ym Mangor, ond sydd heb dderbyn caniatâd cynllunio.
O ystyried y ffigyrau, byddai caniatáu’r cais yn golygu mynd uwchlaw cyflenwad
dangosol ar gyfer datblygiadau preswyl ym Mangor. O
ganlyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd, yn unol â gofynion y CDLl, ddogfennau Datganiad
Galw am Dai ynghyd a Datganiad Tai Fforddiadwy yn cadarnhau yn ddiamheuol bod
galw dybryd a hanfodol am y math yma o lety, nid yn unig ym Mangor ond drwy
Wynedd gyfan. Cadarnhaodd yr ystadegau mai unedau preswyl 1 a 2 lofft (fflatiau
yn arbennig) oedd ei hangen fwyaf. Byddai cynnwys swyddfa o fewn y datblygiad
yn angenrheidiol er mwyn rheoli, gweinyddu a chynnig cymorth parthed anghenion
gofal a thai. Ategwyd bod y prosiect wedi derbyn grant
Digartrefedd Cymal 2 gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, ystyriwyd fod y cynnig
yn ymateb i angen cydnabyddedig ac yn darparu cymysgedd briodol o unedau sy’n
golygu datblygu cynllun o ansawdd yn unol â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r
CDLL ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen CCA: Cymysgedd Tai a Thai Fforddiadwy. Ynghyd a’r datganiadau, cyflwynwyd llythyr gan Aelod Cabinet Tai ac Eiddo yn mynegi fod y datblygiad yn un hanfodol fyddai’n gam cadarnhaol i ymateb i’r argyfwng digartref yng Ngwynedd a Bangor. Mynegwyd y byddai’n fodd o ddarparu mwy o gartrefi addas; yn cynnig llety o safon dderbyniol i’r rhai sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd. Cyflwynwyd hefyd lythyr o gefnogaeth gan Bennaeth Tai ac Eiddo’r Cyngor yn datgan pwysigrwydd o fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd yng Ngwynedd ar fyrder, yn enwedig ym Mangor ble mae’r sefyllfa ar ei waethaf. Gyda 100% o’r fflatiau yn fforddiadwy (yn hytrach na’r 20% mae polisïau’r CDLL yn gofyn i’w ddarparu) ac yn cwrdd â’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |