Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Cofnod: a)
Datganodd
y Pennaeth Cyfreithiol fuddiant yn eitemau
5.5, 5.6 a 5.8 ar y rhaglen
gan fod ei
frawd yn gweithio i’r cwmni
penseiri ar y ceisiadau. Roedd y swyddog o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Peter Read (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (C20/01/TP - gorchymyn
diogelu coed) ·
Y Cynghorydd Owain Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C201063/22/AC), 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C201064/22/AC), a 5.4 ar
y rhaglen, (cais cynllunio C201065/22/AC) ·
Y Cynghorydd Simon Glyn (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0746/46/LL) ·
Y Cynghorydd Aled Evans (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C20/0673/41/MG) a 5.7 ar y rhaglen (cais cynllunio C20/0674/41/MG) ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C20/0040/35/LL) c)
Eitem 5.1 - datganodd yr aelodau eu bod wedi
derbyn gohebiaeth yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 22ain o Fawrth 2021 fel rhai cywir Cofnod: Amlygwyd nad oedd y cofnodion Cymraeg ar gyfer yr
22ain o Fawrth 2021 a gynhwyswyd
yn y rhaglen yn rhai cyflawn.
Penderfynwyd ail gyflwyno’r
cofnodion yn llawn i’r cyfarfod
nesaf |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
I ystyried cadarnhau y Gorchymyn Diogelu Coed. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau. Cofnod: Grŵp o goed a) Ymhelaethodd yr
Arweinydd Tîm Gorfodaeth ar gefndir
y cais gan nodi bod Gorchymyn Diogelu Coed Dros
Dro wedi ei osod ar
ddau grŵp o goed, oedd wedi
eu lleoli i’r gogledd o Tyddyn
Meilir, ar yr 8fed o Ragfyr 2020. Eglurwyd
bod asesiad o’r ddau
grŵp wedi ei gwblhau gan
ddefnyddio system TEMPO - byddai
unrhyw goeden/coed sy’n sgorio
16 pwynt neu fwy yn teilyngu
cael eu diogelu.
Adroddwyd bod Grŵp 1 (yn cynnwys 25 o goed Ffawydd) wedi
sgorio 18 pwynt, a Grŵp 2 (yn cynnwys 32 o goed ffawydd, 2 sycamorwydden, ac 1 dderwen gyda’r ffawydd wedi polardio
fewn i glawdd)
wedi sgorio 16 pwynt. Ystyriwyd bod y coed o werth mwynderol
uchel. Nodwyd bod gwrthwynebiad i’r gorchymyn dros dro wedi ei
dderbyn gan yr Aelod Lleol
a pherchennog y tir ynghyd a llythyr gan Undeb Amaethwyr
Cymru (dyddiedig 3 Mawrth 2021) yn cefnogi gwrthwynebiad y perchennog tir. Wedi derbyn y gwrthwynebiadau i’r gorchymyn, ymgynghorwyd ymhellach gyda’r Gwasanaeth Bioamrywiaeth a chyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd yn 4.4 o’r adroddiad. Ystyriwyd mai gwrych
oedd yn bodoli
ar y safle yn y blynyddoedd a fu, ond oherwydd
diffyg rheolaeth debygol, bellach ymddengys rhes o goed o rywogaeth ffawydd ar y safle.
Derbyniwyd bod dymuniad gan y perchennog tir i ddod
a’r coed dan reolaeth, ond
pwysleisiwyd bod angen i unrhyw waith
i’r coed gael ei wneud drwy ddilyn
dulliau gweithio ymarfer da. Amlygwyd bod peth gwaith wedi
ei ymgymryd o docio rhai o’r
coed a hynny
cyn i’r gorchymyn
dros dro gael ei gyhoeddi. Archwiliwyd y coed 9 Chwefror 2021 yng nghwmni’r perchennog
tir, a nodwyd bod sawl coeden gyda
phydredd a thyllau yn eu boncyff.
Fodd bynnag, ymddengys bod dulliau cynnal neillog ar wahân i
docio yn bosibl (gyda chyngor
arbenigol priodol) fyddai yn golygu
y gellir diogelu’r coed, a rhoi
mynediad rhwydd i’r tirfeddiannwr ar gyfer amaethu’r
tir a chynnal y borfa. Cyfeiriwyd at y 4
dewis oedd gan y Pwyllgor ac argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dewis
opsiwn (i), sef cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau. b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad noddodd y tirfeddiannwr y pwyntiau canlynol ynghyd a dangos fideo byr
o’r coed a’u cyflwr ·
Pwysleisiodd mai ei fwriad oedd tocio'r
coed ac nid eu cwympo - byddai
hyn yn ymestyn
oes y coed oherwydd bod pydredd yn amryw ohonynt ·
Aml i
gangen wedi dod i lawr yn y blynyddoedd diweddar ac yn syrthio i’r lon ·
Wedi dechrau tocio cyn derbyn y gorchymyn
- tocio i uchder o 10’- 12’ - yn wreiddiol wedi cael eu tocio
fel gwrych ·
Gwaith
ysgafnu ar nifer y coed ·
Amlygodd
yn y fideo bod nifer wedi pydru gyda ffwng yn tyfu ar ambell un · Os dim yn tocio, bydd y coed yn mynd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C20/1063/22/AC - Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SY PDF 517 KB Cais dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i
amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW (estyniad arfaethedig
dwyreiniol i echdynnu tywod a graean a gwaith adfer graddol) i ganiatáu estyniad
pedair blynedd i gwblhau gweithrediadau mwynau a blwyddyn ychwanegol i
gwblhau'r gwaith adfer AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd Craig ab Iago Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid
isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW i ymestyn oes y
gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion
ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol: Daw'r gwaith o
echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl
weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i
gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025. Ymateb ymgynghoriad
Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a
gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith. Amodau cynllunio fel
y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn; • Hyd y cyfnod gweithio, • Cyfyngu
ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir,
ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys, • Mesurau
lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal
echdynnu, • Mesurau
lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar bridio ac ymlusgiaid, • Gweithgareddau
a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd, • Oriau Gweithio, • Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus, • Ymdrin â phridd a hwsmonaeth • Draenio, mesurau i atal llygru
cyrsiau dŵr lleol, • Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a
chadwraeth natur • Ail-adfer terfynau caeau • Micro-addasu
lefelau adfer i sicrhau llif dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal
y cais, • Lliniaru a chofnodi archeolegol, • Mesurau
ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth, • Rheolaethau
llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod
larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio. Cofnod: Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod safle'r cais ar ystlys
ddwyreiniol yr ardal echdynnu bresennol, tua 530m o AHNE Llŷn ac i'r gorllewin o Barc Cenedlaethol Eryri. Ymhelaethodd gan nodi mai'r bwriad
yw ail-ymweld â'r ardaloedd yma
i ail-weithio'r mwyn a ystyriwyd yn flaenorol i
fod yn aneconomaidd,
gan hefyd alluogi'r cynllun echdynnu i gael mynediad i ddyddodion pellach
gan ymestyn tua'r dwyrain. Ategodd bod ardal yr estyniad arfaethedig
yn cynnwys glaswelltir wedi'i wella gyda therfynau
caeau o waliau cerrig afreolaidd. Yn ffinio'r ardal,
mae'r ardal waith presennol i'r gorllewin, llwybr beicio Lôn
Eifion i'r dwyrain ac ardal o laswelltir corsiog, garw i'r
gogledd. Eglurwyd
bod Polisi Cynllunio Cymru (PCC) (Rhifyn 11, Chwefror 2021) yn amlinellu polisi cynllunio Llywodraeth y Cynulliad o ran cloddio mwynau. Dylai pob
Awdurdod Cynllunio Mwynau sicrhau bod ei gynlluniau datblygu
yn caniatáu cyfrannu at gyflenwad mwynau sy’n diwallu
anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae Cyngor Gwynedd, ar y cyd
â holl Awdurdodau Cymru wedi cymeradwyo’r
Datganiad Technegol Rhanbarthol a luniwyd gan Weithgor Agregau
Rhanbarthol Gogledd Cymru sydd ar
hyn o bryd yn destun ail adolygiad.
Paratowyd y datganiad yn unol â darpariaethau
Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) a Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 1: Agregau (NCTM1), i osod amcan
cyffredinol i sicrhau cyflenwad o agregau y mae
modd ei reoli’n
gynaliadwy Mae'n
ofynnol bod y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Mwynau, yn cynnal
banc tir o fwynau agregau wrth gefn yn
unol â'r canllawiau cyfredol sy'n nodi lleiafswm
o saith mlynedd ar gyfer tywod
a graean. Ers cyhoeddi’r Adolygiad RTS cyntaf, mae
lefel gyffredinol yr agregau wrth
gefn a ganiatawyd yng ngogledd Cymru
wedi gostwng - mae'r bwriad yn
ychwanegiad a groesawir i'r banc tir o dywod a graean yng ngogledd orllewin
Cymru. Yn amodol i’r holl ystyriaethau cynllunio materol eraill,
ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi Mwynau
Strategol PS22 a Pholisi MWYN 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011 – 2026. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Y
safle wedi hen sefydlu ·
Dim
gwrthwynebiad i ymestyn y cyfnod ·
Gwaith
adfer yn hanfodol ·
Cais i gynnal trafodaethau ynglŷn â chynnwys plannu coed yn y cynlluniau
adfer ·
Bod angen gwarchod Lôn Eifion c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod hyn yn
osgoi cario mwynau i mewn
o leoliad arall ·
Bod y safle yn cael ei
reoli yn dda – dim cwynion wedi eu derbyn ·
Bod yr adnodd
ei hangen yng Ngwynedd ·
Bod y safle yn cynnig cyfleoedd
cyflogaeth leol a) Mewn ymateb i sylw'r Aelod Lleol ynglŷn â phlannu coed, nodwyd bod gwell cyfleoedd o blannu coed a chreu nodweddion nythu yn deillio o’r cais dilynol ( C20 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C20/1064/22/AC - Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SY PDF 495 KB Cais o dan
Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i
amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C15/0299/34/MW (adeiladu 3 lagŵn
siltio ategol a gwaith cysylltiedig i ddarparu'r capasiti
angenrheidiol i alluogi gwaith mwynau sy'n parhau
a darparu system gaeedig ar gyfer rheoli
dŵr o'r chwarel ar y safle)
i ganiatáu estyniad pedair blynedd mewn cysylltiad
â'r gwaith mwynau a blwyddyn ychwanegol i gwblhau'r
gwaith adfer AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd
Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i
Amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0299/34/MW
i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud
â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith
cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol: Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel
lagŵn siltio ategol i ben erbyn
31 Rhagfyr 2024; cwblheir y
gwaith adfer wedyn erbyn 30 Mehefin 2025 neu pan fydd y gwaith yn
dod i
ben, pa bynnag un ddaw gyntaf. Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r
daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth
o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith. Amodau cynllunio
fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;
Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod isadeiledd rheoli dŵr y safle wedi ei
adolygu yn 2015, gan fod angen
cloddio silt allan
o'r lagwnau yn rheolaidd er
mwyn sicrhau'r capasiti setlo gofynnol. Eglurwyd bod tueddiad gan y system i orlwytho yn
ystod cyfnodau o lawiad parhaus a chyson gyda'r posibilrwydd
y gall llifogydd cyflym ddigwydd ble mae dŵr wyneb a dŵr ffo o'r tir
gerllaw yn ymuno â dŵr o'r lagŵn siltio presennol, gan arwain at y posibilrwydd o ddŵr ffo llygredig yn
effeithio ar SoDdGA ac ACA Cors Gyfelog. Prif bwrpas
y datblygiad arfaethedig i'r lagwnau yw
ategu'r isadeiledd rheoli dŵr presennol trwy system gaeedig, er mwyn
atal hyn rhag digwydd. Bydd
capasiti uwch yn y lagwnau yn
lliniaru effeithiau posib ar yr
amgylchedd dŵr lleol, ac yn darparu
system reoli dŵr hunangynhwysol ar y cyd â'r isadeiledd
presennol. b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Angen
sicrhau bod yr ardal yn ddiogel ·
Y safle yn
agos at lwybrau cyhoeddus ac felly angen tynnu sylw at beryglon
y lagwnau ·
Cynllun
adfer i gynnwys
plannu coed coll ddail - gwern,
bedw arian - coed cynhenid ·
Amlygu
pryderon am yr effeithiau i Gors
Gyfelog c) Cynigwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
cais
i ystyried sylwadau'r Aelod Lleol yng nghyd-destun
diogelu’r ardal a phlannu coed PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig
i'r newid isod i Amod
2 ar ganiatâd cynllunio C15/0299/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau
mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig
am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol: Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel
lagŵn siltio ategol i ben erbyn
31 Rhagfyr 2024; cwblheir y
gwaith adfer wedyn erbyn 30 Mehefin 2025 neu pan fydd y gwaith yn
dod i
ben, pa bynnag un ddaw gyntaf. Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r
daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth
o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith. Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau
rheoli a ganlyn; ·
Hyd
y cyfnod gweithio, ·
Cyfyngu
ar yr Hawliau
Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd
preifat, llifoleuadau a ffensys, ·
Gweithgareddau
a ganiateir a Chydymffurfiaeth
â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd, ·
Oriau
Gweithio, ·
Diogelu
hawliau tramwy cyhoeddus, ·
Ymdrin
â phridd a hwsmonaeth ·
Draenio,
mesurau i atal llygru cyrsiau
dŵr lleol, ·
Adfer
i ddefnydd amaethyddol cymysg a chadwraeth natur, ·
Mesurau
ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth, · Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C20/1065/22/AC - Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SY PDF 598 KB Cais
o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i amrywio amod 1 ar ganiatad
cynllunio C10D/0487/34/MW i ymestyn hyd oes chwarela a gweithrediadau prosesu
cysylltiol am bedair mlynedd ychwanegol i ganiatau cwblhau’r gwaith mwynau gyda
blwyddyn ychwanegol ar gyfer cwblhau adfer. AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd Craig ab Iago Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i
gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod
i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10D/0487/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud
â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith
cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol: Bydd y gwaith o echdynnu,
prosesu a dosbarthu mwynau yn dod
i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr
holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle;
bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau
erbyn 31 Rhagfyr 2025. Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth
Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i'w atodi i'r
daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol o fewn eu cylch gwaith. Amodau cynllunio fel
y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau
rheoli a ganlyn; ·
Hyd y cyfnod gweithio, ·
Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys, ·
Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth
â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd; ·
Oriau Gweithio, ·
Diogelu hawliau tramwy
cyhoeddus, ·
Ymdrin â phridd a hwsmonaeth,
·
Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau
dŵr lleol, ·
Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur, ·
Ail-adfer
ffiniau caeau, ·
Lliniaru a chofnodi archeolegol,
·
Mesurau ôl-ofal a chyfarfodydd
blynyddol ar gyfer defnyddiau amaethyddol, rheoli bioamrywiaeth
a rheoli rhywogaethau planhigion anfrodorol, ·
Rheolaethau llwch a chyfyngu
ar sŵn yn yr un modd
ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod
larymau sŵn gwyn i'w gosod
ar beiriannau'r gwaith yn y wyneb
gweithio. Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cynnig dan sylw yn
gofyn am ymestyn y cyfnod o amser hyd 31 Rhagfyr 2024 i barhau gyda'r
gweithrediadau mwynau yn Fferm Graianog.
Eglurodd y byddai gweithredu hyn yn sicrhau dad-sterileiddiad y gronfa fwynau ond hefyd,
cwblhau'r gwaith o adfer y safle yn
unol â'r cynllun gwaith cymeradwy a darparu seilwaith ategol i gefnogi'r cynigion
i gaffael a gweithio mwynau o'r estyniad i'r
chwarel. Nid yw'r cynnig yn
cynnwys ymestyn ôl-troed y gweithrediad mwynau ei hun,
ond yn hytrach,
ymestyn y cyfnod o amser am 4 blynedd
arall. Bydd gweithgareddau peiriannau ar y safle, prosesu,
cludiant a'r gwaith o gloddio'r mwyn wedi'i gynnwys
yn llwyr oddi mewn i
ffiniau'r safle presennol ac yn unol â thelerau ac amodau'r cais cynllunio
cyfredol. b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol nad oedd ganddo wrthwynebiad
i ymestyn y cyfnod amser c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelod: ·
Bod y gwaith adfer hyd yma
wedi bod yn arbennig o dda – gobaith y bydd y waliau cerrig ar
porfeydd o’r un safon i’r dyfodol PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig
i'r newid isod i Amod
1 ar ganiatâd cynllunio C10D/0487/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau
mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig
am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol: Bydd y gwaith o echdynnu, prosesu a dosbarthu mwynau yn dod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd
yr holl weithfeydd
a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle;
bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau
erbyn 31 Rhagfyr 2025. Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i'w atodi i'r
daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol o fewn eu cylch gwaith. Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau
rheoli a ganlyn; ·
Hyd y cyfnod gweithio, ·
Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir,
adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys, ·
Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r
Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd; ·
Oriau Gweithio, ·
Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus, ·
Ymdrin â phridd a hwsmonaeth, ·
Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr
lleol, ·
Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth
natur, ·
Ail-adfer ffiniau caeau, ·
Lliniaru a chofnodi archeolegol, ·
Mesurau ôl-ofal a chyfarfodydd blynyddol ar gyfer
defnyddiau amaethyddol, rheoli bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau planhigion
anfrodorol, ·
Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un
modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn i'w gosod ar
beiriannau'r gwaith yn y wyneb gweithio. |
|
Cais Rhif C19/0746/46/LL - Trefgraig Isaf, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LR PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 1. Amser 2. Unol a’r cynllun diwygiedig 3. Cyfyngu niferoedd
a defnydd a dim pebyll i’w gosod o fewn
safle’r cais 4. Cynllun arwyddion
dwyieithog Nodyn: Angen sicrhau trwydded
briodol Cofnod: a)
Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais gwreiddiol a gyflwynwyd yn cynnwys
gosod 10 carafán deithiol dymhorol a phedair pabell ar safle gwersylla
teithiol presennol ar gyfer y Clwb
Carafanau a Gwersylla (mae’r dystysgrif ar gyfer 5 carafán
neu gerbyd “motorhome” a hyd at 10 pabell). Adroddwyd bod cynllun diwygiedig wedi ei dderbyn yn
nodi bwriad i dynnu’r elfen
gwersylla yn gyfan gwbl o’r
bwriad a lleihau nifer y carafanau o 10 i 8. Cadarnhawyd
mai’r bwriadar oedd lleoli 8 carafán
symudol ar y safle. Amlygwyd bod y safle
wedi ei leoli
yng nghefn gwlad agored ag o fewn dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig
Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae
mynediad at y safle ar hyd ffordd
ddi-ddosbarth gymharol gul a throellog gyda’r lleoliad oddeutu milltir o’r gyffordd agosaf
gyda phriffordd y B4413. Ategwyd bod y safle presennol yn dir
gwyrdd gyda gwrychoedd yn ei
amgylchynu sydd yn ei wneud
yn guddiedig o fewn yr ardal
gyfagos. Ystyriwyd
y byddai cyfyngu defnydd y safle i 8 carafán deithiol
yn unig yn
lleihau defnydd y safle a thrwy hynny,
yr effaith yn lleol. Wedi asesu’r datblygiad yn ei ffurf
ddiwygiedig ystyriwyd bod y
bwriad bellach yn dderbyniol. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol ·
Bod y safle wedi hen sefydlu, ·
Wedi ei dirlunio yn dda ac yn
cael ei reoli
yn dda ·
Byddai’r
bwriad yn lleihau tagfeydd yn yr ardal ·
Croesawu’r addasiadau ·
Cefnogol
i’r bwriad c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelod: ·
Angen sicrhau lled ddigonol rhwng y carafanau yn unol
â gofynion y drwydded c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfyngiad niferoedd carafanau ynteu gyfyngiad motorhomes nodwyd bod yr amodau yn
cyfyngu 8 carafán neu 8 motorhome PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau 1. Amser 2. Unol a’r cynllun diwygiedig 3. Cyfyngu niferoedd a defnydd a dim pebyll i’w gosod
o fewn safle’r cais 4. Cynllun arwyddion dwyieithog Nodyn: Angen sicrhau trwydded
briodol |
|
Rhif Cais C20/0673/41/MG - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog, LL53 6SH PDF 335 KB Cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl a gwybodaeth
draenio a datblygu cam wrth cam mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol
C16/1603/41/AM ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd
mynediad AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Evans Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais
er mwyn cytuno
ar y manylion terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir Amodau priffyrdd Nodyn fod amodau
7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu
rhyddhau fel rhan o’r caniatâd
yma. Nodyn SUDS Cofnod: Cais ar
gyfer materion a gadwyd yn ôl
a gwybodaeth draenio a datblygu cam wrth gam mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C16/1603/41/AM ar gyfer codi 9 tŷ
sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd mynediad. Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr. a) Egluroddodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu y caniatawyd y cais amlinellol gyda llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu
wedi ei gadw yn ôl, gyda’r cais gerbron ar gyfer asesu y materion hynny ynghyd
a materion draenio a datblygu cam wrth gam sy’n destun amodau rhif 7 a 10 o’r
caniatâd amlinellol. Ategwyd bod
egwyddor y bwriad ynghyd a’r materion yn ymwneud gyda’r fynedfa eisoes
wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol. Tynnwyd
sylw fod cais cynllunio C20/0674/41/MG hefyd wedi ei
gyflwyno ar ail hanner y safle yng nghyd-destun caniatâd amlinellol
C16/1363/41/AM ar gyfer 9 tŷ ychwanegol (3 ohonynt yn fforddiadwy)
ac sy’n defnyddio’r un fynedfa. O’i ddarfod
byddai’r ddau ddatblygiad yn ymddangos fel un
datblygiad mwy. Disgrifiwyd
y safle presennol fel rhan o gae
sy’n codi’n raddol o’r briffordd
ac sydd wedi ei leoli tu
ôl i dai
presennol a ger stad Tŷ’n Rhos gyda’r cais yma yn ymwneud a hanner
y safle sydd agosaf i dai
presennol Tŷ’n Rhos, ac sy’n cynnwys
y ffordd fynediad. Amlygwyd bod rhan helaeth o’r safle
erbyn hyn wedi ei leoli
y tu allan
i ffin ddatblygu
pentref Chwilog, er bod y fynedfa yn parhau o fewn
y ffin ddatblygu. Ategwyd bod y cynlluniau a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau’r fynedfa yn unol â’r hyn a
ganiatawyd o dan y caniatâd amlinellol. Mae llunwedd y safle yn dangos bwriad i
ddarparu ffordd stad oddi ar y fynedfa sy’n fforchio; ynghyd a chodi 4 annedd
ar wahân a 3 mewn teras ar ochr chwith y ffordd stad sy’n fforchio i’r chwith.
Nodwyd fod y cais amlinellol yn destun cytundeb 106 sydd yn sicrhau’r elfen
fforddiadwy ynghyd a taliadau ar gyfer llecynnau agored ac addysg. O ganlyniad,
yr unig faterion
a aseswyd ar gyfer y cais
yma oedd materion dyluniad, llunwedd, graddfa a thirweddu. Adroddwyd bod nodweddion dyluniad amrywiol yn yr
ardal gyda dyluniad, gorffeniad a’r tirweddu bwriedig
yn syml, yn cydweddu’r ardal
ac yn dderbyniol o ran effaith weledol. Nodwyd bod sylwadau gan yr Uned
Drafnidiaeth ynglŷn â threfn parcio a llwybr troed wedi
eu cyflwyno i’r asiant ar
gyfer eu datrys - mater llwybr troed yn golygu
sicrhau fod y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno
yn cyfateb a'i gilydd. Yn
ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau diwygiedig i’r llwybr troed ac amodau i sicrhau
gorffeniad y ffordd stad, datblygiad gam wrth gam a pharcio, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
TRA 2 a 4 o’r CDLl. Cyfeiriwyd at sylwadau oedd wedi eu derbyn gan drigolion lleol, yr Aelod Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle sy’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C20/0674/41/MG - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog, LL53 6SH PDF 334 KB Cais ar gyfer materion a gadwyd yn ol a gwybodaeth
draenio a datblygu cam wrth cam mewn cyswllt
a chaniatad cynllunio amlinellol C16/1363/41/AM ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd mynediad. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Evans Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i
ganiatáu’r cais er mwyn cytuno
ar y manylion terfynol
y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir Amodau priffyrdd Nodyn fod amodau
7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu
rhyddhau fel rhan o’r caniatâd
yma. Nodyn SUDS Cofnod: Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Eglurodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu y caniatawyd y cais amlinellol gyda llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu wedi ei gadw yn
ôl, gyda’r cais gerbron ar
gyfer asesu'r materion hynny ynghyd a materion draenio a datblygu cam wrth gam sy’n destun
amodau rhif 7 a 9 o’r caniatâd amlinellol.
Ategwyd bod egwyddor y bwriad ynghyd a’r
materion yn ymwneud gyda’r fynedfa eisoes wedi eu caniatáu
o dan y cais amlinellol. Adroddwyd
fod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais
gerbron yn cadarnhau’r fynedfa yn unol â’r
hyn a ganiatawyd o dan y caniatâd amlinellol. Ymddengys llunwedd y safle bod bwriad
i ddarparu ffordd stad oddi
ar y fynedfa sy’n fforchio; ynghyd a chodi 6 annedd ar wahân
ar ochr chwith
y ffordd stad a theras o 3 annedd fforddiadwy ar yr ochr dde.
Mae’r rhan yma o’r datblygiad
yn cynnwys 6 annedd 4 gwely farchnad agored a 3 annedd fforddiadwy
3 gwely. Nodwyd fod y cais
amlinellol yn destun cytundeb 106 oedd yn sicrhau’r
elfen fforddiadwy ynghyd a thaliadau ar gyfer llecynnau
agored ac addysg. Roedd y caniatâd amlinellol yn nodi
math penodol o gymysgedd dai (6 tŷ 4 gwely farchnad agored a 3 tŷ fforddiadwy 3 gwely) ac mae’r elfennau yma eisoes wedi
eu caniatáu drwy’r cais amlinellol. O
ganlyniad, yr unig faterion a aseswyd ar gyfer y cais yma oedd materion
dyluniad, llunwedd, graddfa a thirweddu. Adroddwyd bod llunwedd y bwriad
gerbron yn cyd-fynd gyda’r hyn a gynigiwyd ar adeg y
cais amlinellol, gyda chynllun safle bwriedig yn
cadarnhau fod y datblygiad yn dderbyniol o ran effaith ar weddill tai’r
datblygiad. Cyfeiriwyd
at sylwadau oedd wedi eu derbyn
gan drigolion lleol, yr Aelod
Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle sy’n
effeithio tai cyfagos. Nodwyd bod swyddogion o’r Uned Draenio yn
ymwybodol o’r sefyllfa ac wedi ymweld â’r safle.
Yn ogystal, bydd angen dylunio’r
system gwaredu dŵr wyneb er mwyn
cydymffurfio â gofynion
System Draenio Gynaliadwy (SuDS). Mae
sylwadau wedi eu derbyn gan
drigolion lleol, yr Aelod Lleol
ynghyd a’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle ac sy’n effeithio
tai cyfagos. Mae swyddogion o’r Uned Draenio yn
ymwybodol o’r sefyllfa ac wedi ymweld â’r safle.
Yn ogystal, bydd angen dylunio’r
system gwaredu dŵr wyneb er mwyn
cydymffurfio a gofynion
System Draenio Gynaliadwy (SuDS). Amlygwyd, yn
wahanol i’r hyn a nodwyd yn
yr adroddiad, mai’r
argymhelliad fyddai Dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais
er mwyn cytuno
ar fanylion terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir. b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol ·
Bod angen parhau gyda thrafodaethau
yn ymwneud a’r cylfyrt ·
Angen osgoi
llifogydd i res o dai cyfagos c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatau y cais PENDERYNWYD: Dirprwyo’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C20/0040/35/LL - Sibrwd y Gwynt, Morannedd, Cricieth, LL52 0PP PDF 341 KB Codi ty preswyl newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatau yn groes
i’r argymhelliad Amodau 5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, deunyddiau, tynnu hawliau a ganiateir, cynllun draenio, cwblhau parcio, dim mwy o ffenestri heb ganiatâd Cofnod: a) Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bu i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio gwneud
penderfyniad ar y cais yn eu cyfarfod ar yr 22ain o Fawrth, 2021 er mwyn gofyn
i swyddogion drafod y deunydd toi a chladin allanol gyda’r ymgeisydd. Bwriad
y cais oedd codi tŷ newydd a chreu mynedfa gerbydol oddi ar y ffordd stad
bresennol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref
Criccieth; ar blot cul o fewn stad o dai amrywiol sydd ar lethr sy’n
codi tua chefn y safle, ac wedi ei leoli rhwng dau eiddo gydag eiddo arall
union o’i flaen gyferbyn a’r ffordd stad gul. Ategwyd bod y cais wedi bod yn
destun sawl cais cynllunio ac apêl - 6 cais cynllunio wedi ei wrthod ar y safle
yn y gorffennol a chaniatâd wedi ei roi ar y safle drwy apêl ar sail y
cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o gais C08D/0870/35/LL, Cadarnhawyd bod y
caniatâd yma yn parhau yn fyw ar y safle Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Adroddwyd
bod yr adroddiad yn mynd i’r afael a’r materion hynny a godwyd yn yr apeliadau
blaenorol; ac yn asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cyfredol y Cynllun Datblygu
Lleol. Nodwyd
bod penderfyniadau apêl (gwrthod a chaniatáu) ar y safle
yn gosod yn glir fod potensial i eiddo deulawr ar y safle yma beri goredrych ac
effaith annerbyniol ar y trigolion gerllaw bob ochr ac i’r blaen. Mae’r
penderfyniadau apêl yn dibynnu ar leoliadau ffenestri a lefelau llawr er mwyn
sicrhau nad oes effaith andwyol ar y tai cyfagos. Eglurwyd
bod y tŷ sydd gerbron erbyn hyn oddeutu 4m yn lletach a 1m yn hirach na’r
eiddo a ganiatawyd. Nodir fod yr eiddo wedi ei ddylunio gydag ongl ar y
blaen fel nad yw’r edrychiad yn edrych allan i’r un cyfeiriad i gyd (i geisio
osgoi goredrych). Mae’r annedd gerbron felly ychydig yn is o ran crib y to na’r
hyn a ganiatawyd ond yn lletach ac yn cynnwys mwy o agoriadau ar y llawr
cyntaf. Ystyriwyd nad yw’r lleihad mewn uchder yn gyfaddawd am
yr effaith andwyol o gynyddu ei led ac ychwanegu agoriadau ar y llawr cyntaf.
Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol yn fwy ar eiddo
Pen y Bryn sydd wedi ei leoli yn union o flaen y safle, na’r hyn a grybwyllwyd
yn dderbyniol yn ystod apêl 2011. Ystyriwyd fod maint yr
eiddo (yn benodol ei led a’i swmp) yn golygu nad yw’r eiddo yn cydweddu a
phatrwm adeiladu a dyluniad y stad Adroddwyd bod y swyddogion wedi trafod deunydd to a chladin allanol gydag asiant yr ymgeisydd a bod yr asiant yn fodlon newid y to i do llechi a chladin i sedar yn hytrach na dur. Er hynny, ar sail yr asesiad, roedd y swyddogion yn parhau i ystyried fod y bwriad yn annerbyniol oherwydd ei faint (yn benodol ei uchder a’i led) lleoliad y ffenestri/drysau a balconïau ar yr edrychiad blaen a’r lefelau llawr gorffenedig yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |