Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021/2022 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ail ethol y Cynghorydd Eric M Jones yn
Gadeirydd ar gyfer 2021/2022 Cofnod: PENDERFYNWYD: ail ethol y Cynghorydd Eric M Jones yn Gadeirydd ar
gyfer 2021/2022 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/2022 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ail ethol y Cynghorydd Gareth
A Roberts yn Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gareth A Roberts yn Is-gadeirydd ar gyfer
2021/22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Simon Glyn yn eitem 7.2 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C20/1076/14/LL) oherwydd bod ei
fab yng nghyfraith yn gweithio yn
Coed Helen Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr
aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 ar y rhaglen, (C20/0666/32/LL) ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.3 ar y rhaglen, (C21/0167/42/DT) ·
Y Cynghorydd Dylan Bullard (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (C21/0215/45/LL) c) Datganodd y Cynghorydd
Anne Lloyd Jones ei bod wedi
derbyn galwad ffôn ynglŷn ag un o’r ceisiadau |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain
o Fawrth a 12fed o Ebrill 2021 fel rhai cywir
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Fawrth a 12fed o Ebrill a 2021 fel rhai cywir
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C20/0666/32/LL Crugeran, Sarn Mellteyrn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DT PDF 379 KB Cais ar gyfer
codi adeilad cynhyrchu wyau maes gan gynnwys seiloau a gwaith cysylltiedig Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol:
Cofnod: Cais ar gyfer codi
adeilad cynhyrchu wyau maes
gan gynnwys seiloau a gwaith cysylltiedig Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Ymhelaethodd yr
Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer
codi uned amaethyddol i gadw
ieir sy’n cynhyrchu wyau maes, ynghyd a chodi seiloau a gwaith cysylltiedig ar Fferm Crugeran, Sarn Mellteyrn. Byddai’r sied arfaethedig
wedi ei lleoli
yn baralel i sied ieir
presennol ar y safle - o’r un
dyluniad a maint yn cartrefu
hyd at 32,000 o ieir dodwy. Bydd y pedwar
seilo porthiant oddeutu 6.8 medr mewn uchder, o liw llwyd las ac wedi ei lleoli
gyfochrog a’r sied. Adroddwyd bod y safle wedi ei
leoli yng nghefn gwlad, o
fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig,
Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llŷn ac Enlli. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, mae gosodiad
y sied ieir presennol yn gymharol
wastad o fewn tirwedd donnog sy’n sicrhau mai
golygfeydd ysbeidiol sydd o’r sied
bresennol o’r dirwedd gyfagos. Nid yw’n ymddangos yn
ymwthiol nac allan o le o fewn
yr Ardal Tirwedd Arbennig. Byddai’r sied arfaethedig
wedi ei lleoli
yn baralel i’r
sied bresennol, ac felly wedi ei sgrinio,
i raddau o’r golygfeydd amlycaf. Eglurwyd bod rhai tai annedd
yng nghyffiniau’r cais. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan drigolion lleol
i’r bwriad, sy’n gadarnhaol ac yn amlygu’r modd
y mae’r fferm yn cael ei
rheoli. Ymgynghorwyd
gydag Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ynglŷn â’r materion sŵn. Nid oedd yr
Uned yn ystyried
y Cynllun Rheoli Sŵn a dderbyniwyd yn ddigonol. Argymhellwyd,
oherwydd lleoliad gwledig yr uned,
y dylai Asesiad Sŵn gael
ei gynnal a’i gytuno cyn
dechrau adeiladu'r uned i sicrhau
na fyddai’r uned yn cael
effaith sŵn ar drigolion cyfagos
nac yn codi
lefelau sŵn cefndirol annerbyniol yn yr ardal. Bwriedir defnyddio
mynedfa bresennol y fferm a’r trac
mynediad i’r sied bresennol ar gyfer gwasanaethu’r
bwriad. O ran patrymau trafnidiaeth, bydd disgwyl i
lori HGV ddod
draw 2/3 gwaith y mis i gludo bwyd
i’r ieir fel y trefniant sydd i’r sied
ieir presennol. Bydd wyau’n cael eu
casglu bob 3 diwrnod a lorïau yn cario
ieir newydd bob rhyw 13 mis. Ac eithrio hynny, bydd mynd a dod dyddiol gan weithwyr y fferm. Nododd yr
Uned Drafnidiaeth nad oedd
ganddynt wrthwynebiad i’r cais ac mai
dim ond ychwanegiad bychan mewn lefelau
traffig a ragwelir. O
ystyried yr holl faterion perthnasol
gan gynnwys polisïau a chanllawiau cenedlaethol a lleol, ynghyd â’r ymatebion
a dderbyniwyd yn dilyn proses ymgynghori, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol
yn ddarostyngedig i gynnwys amodau. b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad noddodd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Ei
fod yn hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r sied bresennol wedi cryfhau eu busnes
ffermio. · Y sied bresennol wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C20/1076/14/LL Coed Helen Holiday Park Lôn Coed Helen, Caernarfon, LL54 5RS PDF 330 KB Cais ar gyfer
ymestyn cyfnod preswylio gwyliau yn yr unedau carafan statig ar y safle er mwyn
gallu eu defnyddio drwy'r flwyddyn ar gyfer gwyliau Aelodau Lleol:
Cynghorydd Roy Owen a’r Cynghorydd Cai
Larsen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu Amodau
Cofnod: Cais ar
gyfer ymestyn cyfnod preswylio gwyliau yn yr
unedau carafán statig ar y safle
er mwyn gallu
eu defnyddio drwy'r flwyddyn ar gyfer gwyliau a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod polisi TWR 4 yn gefnogol i
gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer
safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid
dangos bod y llety yn cael ei
ddefnyddio hyd at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif
neu unig gartref y deilydd. Nodwyd bod caniatadau presennol ar gyfer y safle
yn caniatáu i’r unedau sefydlog
gael eu
meddiannu rhwng 1 Mawrth mewn un flwyddyn a 10 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.
Mae’r safle carafanau yn bresennol
yng nghau am 7 wythnos o’r
flwyddyn. Eglurwyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaeth
(Mawrth 2021) hefyd yn cyfeirio at ddefnydd amodau meddiannaeth gwyliau sydd yn galluogi
defnyddio unedau gwyliau drwy’r flwyddyn, ond gydag
amodau perthnasol sy’n sicrhau na ddefnyddir y fath unedau ar
gyfer defnydd preswyl parhaol. Nid yw Polisi
TWR 4 yn cyfyngu’r cyfnod y gellir meddiannu carafanau / sialetau sefydlog. Gellid felly meddiannu carafanau / sialetau sefydlog i bwrpas
gwyliau trwy gydol y flwyddyn ac mae sawl
cyfraith achos yn glir ac yn
gefnogol ar y mater hwn. Mae sawl safle
yng Ngwynedd bellach yn gweithredu
felly, gydag amod i sicrhau mai
ar gyfer defnydd gwyliau yn unig y’u
defnyddir. Amlygwyd y gellid cynnwys amod mai ar
gyfer pwrpas gwyliau yn unig
y defnyddir y carafanau sefydlog ar y safle
a bod cofrestr o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros
a chyfeiriad eu prif gartref yn
cael ei gadw. Adroddwyd bod rhai ceisiadau tebyg wedi eu
gwrthod gan y Pwyllgor Cynllunio yn y gorffennol ar sail y byddai defnydd 12 mis yn golygu y byddai
pobl yn defnyddio’r
unedau fel tai drwy’r flwyddyn
ac yn cael effaith ar yr
Iaith Gymraeg. Yn nodedig, gwrthodwyd
cais i ymestyn
amser safle Ocean Heights yn Chwilog am y rhesymau hyn (C12/1323/41/LL). Bu
apêl cynllunio ar y penderfyniad oedd yn cynnwys
cais am gostau yn erbyn y Cyngor. Er mwyn sicrhau cysondeb,
nodwyd bod y bwriad i ymestyn y cyfnod
meddiannu’r unedau i 12 mis yn
cwrdd â gofynion polisïau fel ag
a nodwyd yn yr adroddiad Byddai
gosod amod cynllunio i sicrhau
y byddai’r unedau yn cael eu
defnyddio ar gyfer defnydd gwyliau
yn unig. Nid oes tystiolaeth
yn dangos y byddai’r bwriad yn cael effaith
sylweddol fwy ar yr Iaith
Gymraeg na’r sefyllfa bresennol. b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu’r cais c)
Tynnwyd
sylw at nodyn yn yr adroddiad
bod yr Aelod Lleol, mewn egwyddor
yn gefnogol i’r cais PENDERFYNWYD:
Caniatáu - amodau 1. 5 mlynedd 2. Defnydd gwyliau a chadw cofrestr. |
|
Cais Rhif C21/0167/42/DT Tan Y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LN PDF 322 KB Dymchwel
storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad
rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw Aelod
Lleol: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio
er mwyn ystyried sylwadau’r Cydbwyllgor AHNE fel rhan o asesiad y swyddog Cofnod: Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr
a'r cefn i greu rhagor
o ofod byw Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog bod y cais yn un
i addasu ac ehangu’r eiddo presennol ac yn ail-ddyluniad o gynllun a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn flaenorol
(C20/0022/42/DT). Nodwyd bod y cynllun
gerbron yn ymgais i ymateb
i’r rhesymau gwrthod a diwygiwyd y cynllun ymhellach mewn ymateb i
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori. Cyflwynwyd y cais
gerbron y Pwyllgor ar gais yr
aelod lleol. Saif yr
eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn mewn cefn
gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Eglurwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys: ·
Dymchwel
adeilad allanol presennol ac adleoli wal gerrig er
mwyn creu safle parcio a lle troi ·
Dymchwel
estyniad deulawr cefn ac estyniad gwydr ochr ·
Codi estyniad deulawr cefn ar
ffurf cilgant gyda thair ffenestr
gromen yn yr edrychiad blaen
a ffenestri to yn yr edrychiad cefn
ynghyd a chodi estyniad unllawr gyda tho llechi
unllethr ar hyd ei flaen. ·
Gosod
balconi ar dalcen y tŷ presennol Dangoswyd sleidiau yn amlygu
gosodiad y tŷ presennol, y cynllun a wrthodwyd ynghyd a chynlluniau diwygiedig ochr yn ochr.
Nodwyd bod graddfa a maint y bwriad wedi ei leihau,
ac er ei fod yn parhau
yn fawr, bod y ffenestri gromen yn adlewyrchu dyluniad
traddodiadol gyda’r porth yn lleihau
amlygrwydd y gwydr. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn ymgeisio
i ymateb i bryderon blaenorol
y pwyllgor. Wedi ystyried y sylwadau a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod y bwriad yn welliant
ar y cynllun a wrthodwyd yn flaenorol
o safbwynt ei effaith ar y tirlun
a’i fod yn
cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad noddodd perthynas i’r ymgeisydd
y pwyntiau canlynol: ·
Bod yr ymgeiswyr
eisiau troi Tan y Mynydd yn gartref
teuluol parhaol ac wedi breuddwydio cael bod yn berchen
ar eiddo ym mhentref prydferth
Nefyn. ·
Treuliodd
yr ymgeisydd ei gwyliau cyntaf
yn Nefyn yn yr hen westy
ym Mhistyll, ac mae ei theulu wedi preswylio
ar Barc Gwyliau
Aberafon yn Nefyn ers hynny. Gyda theulu ym Morfa
Nefyn, yn aelodau oes o glwb
hwylio a chlwb golff Nefyn ac yn gwsmeriaid rheolaidd
yn yr hyn
oedd The Sportsman ers talwm. Maent erbyn
hyn yn gyfranddalwyr
Tafarn yr Heliwr, Nefyn. ·
Nid
cais am gartref gwyliau arall nac
am eiddo i’w rentu yw’r bwriad.
Hwn fydd eu cartref parhaol
– eu breuddwyd. Maent yn edrych
ymlaen at dreulio llawer mwy o flynyddoedd
yn y gymuned gyda'u plant a'u hwyrion. · Wrth lunio'r cais roeddynt yn ymwybodol iawn o harddwch y dirwedd a’r eiddo cyfagos. Maent yn awyddus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C21/0215/45/LL 20 Yr Ala, Pwllheli, LL53 5BL PDF 440 KB Trosi ty preswyl 3 llawr i
ddau fflat Aelod Lleol: Cynghorydd Dylan
Bullard Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn
asesiad canlyniadau llifogydd derbyniol, cymeradwyaeth CNC i’r asesiad
canlyniadau llifogydd Amodau:
Nodyn: Dŵr
Cymru Gofynion
Deddf Wal Rhannol Cofnod: Trosi
tŷ preswyl 3 llawr i ddau fflat Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer trosi eiddo preswyl presennol
i fod yn ddwy uned byw hunangynhaliol. Eglurwyd bod yr adeilad presennol, wedi
ei leoli o fewn ffin datblygu Pwllheli, yn un tri
llawr ac ar ben rhes o dai cyffelyb. Yn
benodol mae'r gosodiad mewnol yn cynnig: ·
Uned Un - Llawr daear
– cyntedd/mynediad wedi ei rannu, ystafell wely, lolfa, cegin, ystafell ymolchi ·
Uned Dau - Llawr
cyntaf – lolfa/cegin, ystafell ymolchi, ystafell iwtiliti - Ail lawr –
dwy ystafell wely Nodwyd bod yr
asesiad yn un helaeth, yn amlygu tystiolaeth a
chyfiawnhad o’r angen, yn ogystal â’i fod yn cwrdd â gofynion polisi TAI 9 sydd
yn caniatáu isrannu eiddo presennol yn unedau llai heb yr angen am estyniadau
addasiadau allanol sylweddol. Amlygwyd
bod y datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor fyddai’n cael ei
ddefnyddio i gyfrannu at geisio cyfarfod yr angen am dai
i drigolion lleol ardal Pwllheli. Ategwyd bod cadarnhad o safbwynt y galw
cydnabyddedig am unedau o’r math a maint yma yn yr ardal. Byddai’r unedau yn
cael eu gosod i drigolion yn unol â pholisi gosod y Cyngor. O safbwynt
mwynderau cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn man
prysur yn agos i ganol tref Pwllheli gyda thai annedd
o’i amgylch. Mae edrychiad blaen presennol yr adeilad yn edrych dros y ffordd
brysur gyhoeddus i'r blaen gyda bwriad o osod ffens 1.8m ar hyd ffiniau’r safle
er mwyn sicrhau fod mwynderau preswyl yn cael eu gwarchod. Nid oes newidiadau
allanol yn cael eu cynnal i’r adeilad ei hun fyddai’n creu unrhyw oredrych
uniongyrchol newydd neu yn fwy na’r sefyllfa bresennol. Adroddwyd bod
pryder wedi ei amlygu am finiau fyddai yn cael eu cadw ar y tu blaen i’r
tŷ fyddai’n effeithio'r palmant a symudiadau presennol. Wrth gyfeirio at y
cynlluniau, bwriedig,
amlygwyd bod gofod penodol wedi ei ddynodi ar gyfer storio biniau yn yr iard
sydd yn ffurfio rhan o’r safle. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol yn fwy na'r hyn a geir yn bresennol . Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, adroddwyd nad oedd man parcio
presennol i'r tŷ ac na fwriedir cynnwys llecynnau i'r ddau fflat newydd
ychwaith. Adroddwyd bod llecynnau parcio di rwystr ar hyd rhan helaeth o’r
ffordd ynghyd a meysydd parcio cyhoeddus cymharol agos a chysylltiadau
trafnidiaeth gyhoeddus hwylus iawn. Ar y sail yma, ni
wrthwynebwyd y bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth. Cadarnhaodd yr
Uned Iaith fod yr unedau yn cael eu gosod ar rent cymdeithasol fforddiadwy fel
rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai, sydd yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i
sicrhau cartrefi i drigolion y sir, a thrwy hynny gyfrannu at ddiogelu a hybu’r
iaith. Amlygwyd bod y safle yn rhannol o fewn parth llifogydd C1 fel y nodir ar fapiau cyngor datblygu a ddaw gyda’r NCT15: Datblygu a Pherygl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |