Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Eric M Jones a Huw Wyn Jones Anfonwyd dymuniadau gorau at wellhad buan i’r
Cynghorydd Eric M Jones oedd
wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar Llongyfarchwyd Cara Owen (Rheolwr Cynllunio) ar ei phenodiad
fel Rheolwr Prosiect i’r Gwasanaeth
Tai ac Eiddo.. Diolchwyd iddi am ei chyngor a’i
chefnogaeth i’r Pwyllgor Cynllunio dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddi yn ei
swydd newydd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y
Cynghorydd Berwyn P Jones yn
eitem 5.2 ar y rhaglen, (C20/1093/24/Ll) oherwydd ei fod
yn aelod o Fwrdd Adra Y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (C20/0877/09/LL) oherwydd ei bod yn gymydog ac yn
ffrind i’r ymgeisydd Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr
aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Judith
Humphreys (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (C21/0430/22/LL) ·
Y Cynghorydd Owain Williams (a oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (C21/0376/34/LL) ·
Y Cynghorydd Mike Stevens (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.6 ar y rhaglen,
(C20/0877/09/LL) ·
Y Cynghorydd Gareth T Jones
( a oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) yn eitem 5.7 ar
y rhaglen, (C21/0332/42/DA) ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (C21/0368/42/DT) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21 Mehefin 2021 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Fehefin 2021 fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C21/0430/22/LL Tir gerllaw Oxton Villa Ffordd Haearn Bach, Penygroes, LL54 6NY PDF 335 KB Cais ar gyfer codi ty fforddiadwy
gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio y penderfyniad er mwyn cynnal
trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd i ganfod
Cofnod: a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn cae amaethyddol ar gyrion pentref
Penygroes ar hyd
ffordd gul sy’n troi’n llwybr cyhoeddus. Amlygwyd bod y cais yn
ail gyflwyniad o’r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0853/22/LL ac wedi ei
gyflwyno gerbron y pwyllgor cynllunio ar gais yr Aelod Lleol. Eglurwyd
bod Polisi TAI 16 ‘Safleoedd Eithrio’ yn datgan os gellid dangos bod angen
lleol wedi’i brofi am dai fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn amserlen
resymol ar safle marchnad tu mewn i’r ffin datblygu, fel eithriad caniateir
cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r
ffiniau datblygu sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle. Adroddwyd
nad oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn
nodi bod safle’r cais yn cyffwrdd â’r ffin ddatblygu – ymddengys bod bwlch
rhwng y safle a’r ffin ddatblygu yn ymddangos fel llwybr cyhoeddus. Yn nhermau
polisi cynllunio mae’r safle wedi ei ddiffinio fel lleoliad yng nghefn gwlad
agored ac felly nid yw’n berthnasol ei ystyried yn nhermau Polisi TAI 16,
‘Safleoedd Eithrio’ - ceir hyn ei ategu
yn y Canllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’. Nodwyd
bod y bwriad yn cael ei gynnig fel tŷ fforddiadwy. Er bod Tai Teg wedi
cadarnhau bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer prynu eiddo fforddiadwy neu eiddo
fforddiadwy i’w adeiladu ei hun, nid oedd gwybodaeth bellach ynglŷn ag angen penodol yr ymgeisydd am dŷ fforddiadwy wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais. Amlygwyd bod arwynebedd llawr mewnol y tŷ
unllawr dwy lofft oddeutu 110m sgwâr sydd yn 50m sgwâr yn fwy na’r uchafswm a
nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer tŷ unllawr 2 ystafell wely
fforddiadwy. Nodwyd hefyd bod uchder y prif do yn golygu bod potensial i
ddarparu llawr ychwanegol uwchben rhan o’r tŷ yn y dyfodol. Ystyriwyd bod
safle’r cais (sydd yn cynnwys y tŷ bwriedig a’i gwrtil) yn fawr iawn ac y
byddai darparu cwrtil o’r maint yma yn debygol o godi gwerth yr eiddo a all olygu na fydd y tŷ yn fforddiadwy o ran ei bris.
Ar sail hyn, ystyriwyd y bwriad yn groes i ofynion polisi TAI 15 o’r CDLl a CCA
Tai Fforddiadwy o ran yr arwynebedd llawr sydd wedi ei ddangos. Eglurwyd
bod polisi PCYFF 2 yn darparu meini prawf datblygu ac yn datgan fod yn rhaid i
gynigion gydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol y Cynllun a pholisïau a
chanllawiau Cenedlaethol yn y lle cyntaf. Ategwyd bod y polisi yn rhestru
cyfres o feini prawf sy’n ymwneud a gwneud y defnydd gorau o dir, ymgorffori
gofod mwynderol, cynnwys darpariaeth ar gyfer storio, ailgylchu a rheoli
gwastraff, a chynnwys darpariaeth ar gyfer trin a chael gwared a rhywogaethau
ymwthiol yn effeithiol. Yn arferol byddai disgwyl i safle o’r maint yma
ddarparu oddeutu 3 uned byw - disgwylir darparu tai
newydd ar raddfa o 30 uned byw yr hectar.
Ystyriwyd y bwriad arfaethedig yn annerbyniol, ac yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C20/1093/24/LL Tir ger Talardd, Dinas, Caernarfon, LL54 7YN PDF 574 KB Cais ar gyfer
codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu AELOD LLEOL:
Cynghorydd Aeron M Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio er
mwyn:
Cofnod: Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Awgrymodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu y dylid gohirio’r cais am y rhesymau canlynol: ·
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan yr Uned
Bioamrywiaeth ar gyfer y datblygiad yn cadarnhau bod angen gwybodaeth ychwanegol
gan Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gellid cadarnhau na fyddai’r
datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig ·
ADRA wedi cadarnhau deiliadaeth yr holl unedau
fel cymysgedd o rent cymdeithasol a chanolradd ac felly cyfle i ail asesu’r
asesiad b) Cynigwyd ac eiliwyd
i ohirio y cais c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelod: ·
Bod y datganiad iaith yn annigonol - awgrym i’w ail ystyried PENDERFYNWYD:
Gohirio
er mwyn: ·
Asesu datganiad rheoli cynefinoedd ·
Ail asesu’r asesiad yn dilyn
cadarnhad bod yr holl dai yn dai fforddiadwy ·
Ail ystyried y datganiad iaith a
sut mae’r newid yn effeithio materion ieithyddol ·
Cynnwys y sylwadau hwyr yn yr asesiad |
|
Cais ar gyfer
codi ty deulawr gyda modurdy AELOD LLEOL:
Cynghorydd Owain Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio
Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod sylw wedi dod i
law gan asiant y cais yn cadarnhau
fod angen cywiro cyfeiriad y safle Ategodd
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
ei fod wedi
derbyn cais gan yr Aelod
Lleol i ohirio’r
cais gan nad oedd
cyfeiriad y cais yn gywir. Nododd
bod gofynion statudol yn ymwneud â hysbysebu
cais gan gynnwys manylion manwl a chywir - os nad yw cyfeiriad y lleoliad yn eglur
byddai hyn yn amlygu risgiau. Ategodd yr Aelod Lleol
bod y cyfeiriad wedi creu dryswch ac y byddai ail hysbysebu yn rhoi cyfle
i drigolion lleol gyflwyno sylwadau er derbyn
bod hyn yn creu anghyfleustra i’r ymgeisydd PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais • Angen ail-hysbysebu’r cais gyda’r
cyfeiriad cywir – ail ymgynghori ac ail osod rhybudd safle. |
|
Cais Rhif C20/0102/33/LL Plas Yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL PDF 259 KB Ymestyn safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8 carafán deithiol newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio ar gais yr ymgeisydd.
Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod cais wedi dod
i law gan yr ymgeisydd i
dynnu’r cais oddi ar raglen
y Pwyllgor. Nodwyd nad oedd eglurhad
dros yr angen
i ddileu’r cais ac nad oedd
y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd wedi newid y farn cynllunio
- nid oedd rheswm cynllunio dros ohirio’r cais b) Cynigwyd ac eiliwyd
i ohirio’r cais PENDERFYNWYD: Gohirio ar gais yr
ymgeisydd. • nodi gohiriad
hyd Medi 2021 |
|
Cais Rhif C21/0483/33/LL Plas Yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL PDF 316 KB Dymchwel sied fferm bresennol a
chodi sied amaethyddol newydd yn ei lle i gadw peiriannau a phorthiant AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 1. Cychwyn o fewn
5 mlynedd. 2. Unol a’r
cynlluniau 3. Gorffeniad lliw
llwyd i gydweddu
siediau presennol 4. Amod defnydd
amaethyddol Nodyn: Draenio Cynaliadwy
(SUDS) Cofnod: a) Amlygodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud
â dymchwel cytiau carreg presennol
a chodi sied amaethyddol newydd yn eu lle
i gadw peiriannau
a phorthiant o fewn iard y fferm ymysg
adeiladau fferm presennol. Bydd y sied wedi ei
hadeiladu o wal flociau wedi eu
rendro ar y gwaelod a shitiau dur lliw llwyd
ar y muriau a'r to. Ategwyd bod y cais yn cael
ei gyflwyno i Bwyllgor gan
fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor. Eglurwyd bod maint a dyluniad y sied yn addas
ac er bod yr eiddo o fewn dynodiad
Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn, ni
ystyriwyd y byddai sied o’r raddfa
yma, ymysg adeiladau presennol, yn creu effaith
gweledol niweidiol ar y tirlun hanesyddol
ehangach. Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, adroddwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth
wedi gwneud cais am arolwg rhywogaethau gwarchodedig yn wreiddiol, ond
wedi derbyn mwy o wybodaeth a lluniau, cadarnhawyd nad oedd angen
arolwg gan nad oedd y strwythurau
sydd i’w dymchwel yn addas
i ystlumod. Wedi asesu’r
cais yn erbyn
gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o agwedd angen, dyluniad, gorffeniad, effaith ar dirlun, mwynderau
trigolion, ffyrdd a bioamrywiaeth. a. Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais b. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelod: ·
Bod y sied yn fychan ac ar
gyfer y diwydiant amaethyddol PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a’r cynlluniau 3. Gorffeniad lliw llwyd i
gydweddu siediau presennol 4. Amod defnydd amaethyddol Nodyn: Draenio Cynaliadwy (SUDS) |
|
Lleoli 9 carafan gwyliau sefydlog yn lle 12 carafan deithiol ynghyd a gwelliannau amgylcheddol AELODAU LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike Stevens Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Gwrthod y
cais
Cofnod: a) Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud ag ymestyn safle carafanau
presennol i leoli 9 carafán gwyliau sefydlog yn lle 12 carafán deithiol sydd
gyda chaniatâd ar y safle carafanau presennol. Amlygwyd bod safle’r cais yn
disgyn tu allan i ffin y safle carafanau presennol ac wedi ei leoli ar dir gwastad yng nghefn gwlad oddi ar
yr A493 rhwng Tywyn a Bryncrug. Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol Adroddwyd bod y
safle yn gorwedd o fewn parth llifogydd C1 sy’n cael ei gysylltu gyda Nodyn
Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (NCT 15). Ystyriwyd y bwriad yn un sy’n agored iawn i niwed ac yn
rhan 6.2 o NCT 15 nodi’r mai’r unig amser y bydd cyfiawnhad dros leoli
datblygiad o’r fath oddi fewn parth C1 yw pan ellid tystiolaethu bod y bwriad
yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol. Amlygwyd, er bod trafodaethau wedi cael eu
cynnal gydag asiant yr ymgeisydd ynglŷn â’r materion hyn, na fyddai mwy o wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn ymwneud a’r
mater. Daeth yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd i’r casgliad
nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda NCT 15. Yn
dilyn asesiad Swyddogion i ystyriaethau paragraff 6.2 o NCT 15 ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cwrdd gyda’r gofynion perthnasol ac
felly yn groes i ofynion NCT 15 ynghyd a materion llifogydd Polisi PS 6. Ystyriaeth
arall a roddwyd i’r bwriad oedd y byddai’n cynyddu’r nifer o garafanau sefydlog
ar y safle o’r 35 gwreiddiol i 55 - cynnydd oddeutu 57% sydd ymhell i’r 10% y
cyfeirir ato ym Mholisi TWR 3 CDLL. O
ganlyniad, ystyriwyd y bwriad yn groes i bwynt 4 iii o Bolisi TWR 3 gan nad yw’n gynnydd bychan yn nifer yr unedau ar y safle. Mewn
ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynegi pryder am effaith weledol y bwriad ar
y tirwedd, ymddengys bod y cais wedi nodi bwriad tirlunio cynhenid ychwanegol
ond nad oedd manylion wedi ei derbyn. O ganlyniad, ni ellid asesu effaith y bwriad yn llawn o ran
ei osodiad yn y tirwedd ehangach ac yn sgil hynny ni ystyriwyd y byddai’n
ychwanegu at gynnal neu gwella’r tirwedd ac yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4
CDLL. Argymhellwyd gwrthod y cais. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y
pwyntiau canlynol: Mewn ymateb i bryderon llifogydd, nododd ·
Bod safle'r cais yn gorwedd ar ymyl parth risg
llifogydd llanw gyda rhan fwyaf o'r maes carafanau, gan gynnwys y fynedfa, ar
dir sych ·
Nad oedd CNC wedi ystyried bod carafanau gwyliau
statig gyda gwagle o oddeutu +750mm o dan yr unedau - ni fyddai’r garafán yn
cael ei heffeithio ·
Bod mynediad i dir sych o fewn y safle petai llifogydd
- gellid rheoli hyn gydag amod a chynllun gwacáu llifogydd. · Byddai’r datblygiad yn disodli 12 o garafanau teithiol gydol y flwyddyn, gyda 9 carafán gwyliau statig, felly bydd gostyngiad yn nifer y carafanau gwyliau ar y rhan yma ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C21/0332/42/DA Terfyn Lôn Terfyn, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BA PDF 470 KB Diwygiadau
ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gynyddu maint feranda a mynediad droed AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Caniatau
gydag amodau Diwygiad
Ansylweddol : Cwblheir y
diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun
rhif 03/DR19, a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin 2021, ac
a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os
nad oes amod sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y
diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn
cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio
rhif C19/0982/42/LL. Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gadw cynnydd
ym maint y feranda a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
bod y cais yn un am ddiwygiad ansylweddol i ganiatâd
cynllunio C19/0982/42/LL i gadw gwaith o ymestyn
feranda ar yr eiddo. Eglurwyd
bod ffrâm y feranda eisoes wedi ei
adeiladu, ond nad yw’r
to llechi wedi ei osod. Ategwyd
bod y colofnau yn ymestyn 1.6m allan
o wal flaen yr eiddo - 50cm yn fwy na’r
caniatâd cynllunio a gymeradwywyd eisoes. Cyflwynwyd y cais i geisio cadw’r
newidiadau yn dilyn camau gorfodaeth
cychwynnol ac ar gais yr Aelod
Lleol Eglurwyd, o dan Rhan 96 A o’r Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae modd cyflwyno ceisiadau
am Ddatblygiadau Ansylweddol
i Ganiatâd Cynllunio presennol ers 1 Medi 2014. Mae Canllaw Cynllunio: Cymeradwyo Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio
sy’n Bodoli Eisoes gan Lywodraeth
Cymru ar yr hyn a ystyrir
yn ddatblygiad ansylweddol gyda phrofion asesu pendant wedi eu rhestru. Ni ystyriwyd y byddai’r newid bychan yma
yn amlwg wrth edrych ar
y safle o unrhyw fan cyhoeddus ac wrth nodi sylwadau’r cymydog, ni
ystyriwyd y byddai unrhyw effeithiau mwynderol niweidiol ychwanegol yn deillio
o’r newid. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Eu bod
wedi symud i’r ardal tua dwy flynedd yn ôl ac wedi prynu Terfyn gyda'r bwriad o
adnewyddu'r eiddo a oedd, yn anffodus, yn dadfeilio. ·
Ystyriwyd
bod y datblygiad yn Terfyn wedi bod yn unol ag arddull yr eiddo ac ar gost
ychwanegol sylweddol, wedi cynnal ffasâd yr adeilad ·
Camgymeriad
syml rhyngddo ef a'r adeiladwr oedd gwraidd yr angen i addasu’r feranda, gyda’r
adeiladwr yn ei adeiladu ychydig yn rhy ddwfn o'i gymharu â'r cynlluniau a
gyflwynwyd. ·
Fe’u cynghorwyd gan y
swyddog cynllunio i ailgyflwyno diwygiadau ansylweddol i'r cynlluniau
gwreiddiol a wnaed ym mis Mawrth 2021 ·
Derbyniwyd bod gwrthwynebiadau wedi'u
codi ynghylch maint y feranda a hefyd y byddai’n effeithio preifatrwydd eiddo cyfagos ·
Gan fod y feranda wedi'i hadeiladu'n rhannol yn unig,
gellid derbyn y byddai pryderon yn codi
gan y gallai ymddangos, yn ei
chyflwr hanner adeiledig, bod to'r feranda yn
wastad, ac y byddai'n bosibl i rywun
gerdded allan i'r feranda a chael
golygfeydd sylweddol dros eiddo cyfagos ·
Bydd y feranda orffenedig
yn un o lechi yn unol â tho
presennol yr eiddo ac ni fydd
yn bosib cerdded arno - nid yw’r honiad
felly y byddai’r feranda yn cael effaith
andwyol ar breifatrwydd yn ddilys ·
Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau
i arddull a maint a lleoliad nac ar ffenestri'r eiddo felly nid oes unrhyw newid
sylweddol i'r elfen breifatrwydd sy'n effeithio ar unrhyw eiddo
cyfagos - ategir hyn gan asesiad
y swyddog cynllunio sydd wedi ystyried
ystyriaethau cynllunio deunydd o dan adran
96A o ddeddf cynllunio tref a gwlad 1990 · Bod y swyddogion cynllunio yn nodi na ellid cytuno â'r honiad bod y newid yn or-ddatblygiad neu'n sylweddol wahanol i'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C21/0111/45/LL Tir ger Cae Llan, Denio, Penrallt, Pwllheli, LL53 5UA PDF 388 KB Cais llawn am
ddatblygiad preswyl i gynnwys 14 tŷ newydd ynghyd a mynedfa, ffordd stad a
llwybr troed, parcio, tirlunio a safle pwmpio carthffosiaeth AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dylan Bullard Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i
gwblhau Cytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae
ac i sicrhau darpariaeth o 4 tŷ fforddiadwy. Hefyd, dylid gweithredu amodau
sy'n ymwneud â'r hyn a ganlyn: 1. Amserlenni 2. Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd. 3. Cyfyngiad datblygiadau a ganiateir ar y
tai fforddiadwy. 4. Deunyddiau. 5. Dŵr Cymru / SUDS 6. Amseroedd adeiladu. 7. Lefel llawr gorffenedig. 8. Sgriniau preifatrwydd i'r balconïau ar
blotiau 5 a 10 9. Amodau mynediad priffyrdd 10. Tirlunio. 11. Gwarchod coed. 12. Ymchwiliad archeolegol. 13. Mesurau lliniaru'r iaith Gymraeg -
hysbysebu'r safle, enwau'r stad a'r tai. Er
gwybodaeth: SUDS Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer adeiladu 14 tŷ
deulawr, gyda phedwar ohonynt yn dai fforddiadwy. Lleoli’r y safle i'r gogledd o Bwllheli uwchben canol y dref mewn ardal a
adnabyddir fel Denio. Er y saif y safle o fewn ffin datblygu ddynodedig
Pwllheli, mae'r dwysedd datblygu presennol yn is na gweddill y dref. Eglurwyd
bod Pwllheli wedi'i hadnabod fel Canolfan Wasanaeth Trefol dan bolisi TAI 1.
CDLl sydd yn annog cyfran uwch o ddatblygiadau newydd o fewn canolfannau trefol
drwy ddynodiadau tai a safleoedd ar hap. Wrth fabwysiadu'r CDLl, dyrannwyd y
safle ar gyfer 14 uned felly’r cais yn
bodloni gofynion polisi TAI 1. Adroddwyd bod
yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwerth marchnad agored y tai annedd i arddangos y
gellid gweithredu disgownt addas i sicrhau eu bod yn fforddiadwy am byth. Wedi
asesu'r ffigyrau mewn ymgynghoriad â'r Adran Tai, cytunwyd rhoi disgownt o 40%
wrth baratoi cytundeb adran 106. Yng
nghyd-destun llecynnau agored nodwyd bod Polisi ISA 5 y CDLl yn disgwyl i
gynigion 10 neu fwy o dai newydd, mewn ardaloedd lle na all llecynnau agored
presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, roi darpariaeth addas
o fannau agored. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle
nad oes modd darparu gofod chwarae tu allan fel rhan annatod o ddatblygiad tai
newydd, bydd gofyn i'r datblygwr ddarparu darpariaeth briodol oddi ar y safle;
safle sydd yn agos at y datblygiad ac yn hygyrch iddo o ran cerdded a
beicio, neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, gwneud cyfraniad ariannol tuag at
gyfleusterau newydd, gan gynnwys offer, gwella cyfleusterau presennol ar
safleoedd sy'n hygyrch eisoes, neu wella hygyrchedd at fannau agored presennol. Amlygwyd
nad yw’r cais yn cynnwys darparu llecyn agored / chwarae ar y safle ond bod y
cynllun yn darparu'r nifer a ragwelwyd o dai annedd yn unol â'r dyraniad
safleoedd. Wedi asesu'r cynllun, nid yw’n afresymol nad oes darpariaeth ar y
safle ac ar ôl defnyddio'r fformiwla o fewn y CCA Mannau Agored mewn
Datblygiadau Tai Newydd, roedd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cyfrifo
cyfraniad ariannol o £5855.71 tuag at ddarpariaeth oddi ar y safle. Trafodwyd gyda’r ymgeisydd, a cytunwyd y byddai’r cyfraniad yn cael ei
sicrhau drwy gytundeb adran 106. Yng nghyd-destun effaith ieithyddol,
er nad oedd angen datganiad ffurfiol y dylid parhau i roi ystyriaeth i'r iaith
Gymraeg yn unol â chanllawiau Atodiad 5 CCA 'Cynnal a Chreu Cymunedau
Ffyniannus a Chynaliadwy'. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi ystyried yr iaith Gymraeg a bod
y cais yn cydymffurfio â gofynion adran 'CH', Atodiad 5 y CCA. Serch hynny, nid
oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn cydymffurfio yn llawn gyda gofynion meini
prawf 4 a 5 polisi PS 1 o ran arwyddion, enwau strydoedd ac enwau tai. Gellid sicrhau
cydymffurfiaeth â’r polisi drwy osod amod yn sicrhau bod y manylion ar y
deunydd marchnata yn Gymraeg neu'n ddwyieithog a bod enwau'r stad a'r tai yn
enwau Cymraeg. Yng nghyd-destun effeithiau priffyrdd, tynnwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais Rhif C21/0368/42/DT Tyn y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LN PDF 303 KB Estyniad ochr
unllawr AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Gwrthod y
cais yn groes i’r argymhelliad
Cofnod: a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y
cais yn gais llawn i adeiladu estyniad unllawr yn mesur 4.5 medr x
3.6 medr fyddai’n cynnwys ystafell gardd ar fwthyn unllawr wedi ei leoli ar
lethrau Mynydd Nefyn. Nodwyd bod y tai preswyl agosaf dros 40 medr i’r gogledd
a gogledd ddwyrain o’r estyniad bwriededig a bod y cais wedi ei gyflwyno i
Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir
cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol,
os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys, bod y cynnig ·
yn
ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y
gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r
drychiadau ·
parchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol; ·
defnyddio
deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio
meddal; ·
gwella
rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig; ·
cyfyngu
rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd; ·
cyflawni
dyluniad cynhwysol ·
galluogi
mynediad i bawb ·
helpu creu
amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol. Amlygwyd
bod yr estyniad yn cynnwys ystafell gardd gyda ffenestri gwydr sylweddol o
faint a graddfa dderbyniol ac addas ar gyfer y lleoliad. Er bod
y safle yn uchel ar lethrau Mynydd Nefyn gyda golygfeydd dros yr arfordir, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau a chymeriad yr AHNE cyfagos
oherwydd natur y tirwedd lleol a llys tyfiant o fewn yr ardal leol. Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd yn
honni effaith y bwriad ar y bwthyn ynghyd a’r AHNE nodwyd, er bod bwriad
adeiladu’r estyniad o ddeunydd a dyluniad cyfoes, ni fyddai lleoliad yr
estyniad ar dalcen y bwthyn ynghyd a’i faint yn amharu yn sylweddol ar
edrychiad a chymeriad yr eiddo na’r AHNE. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Cais
ydoedd am ystafell ardd fach ar ochr ffrynt Orllewinol y bwthyn. ·
Pwrpas yr
estyniad fyddai darparu lle byw ychwanegol a chael mwy o olau i mewn i'r eiddo.
·
Gan ei fod yn fwthyn bach Cymreig
mae'n eithaf tywyll gyda ffenestri bach iawn yn wynebu'r Gogledd. ·
Trwy agor
pen y talcen a gosod gwydr, y gobaith yw
cael mwy o oleuni i mewn i’r eiddo a chaniatáu iddynt wneud y gorau o'r
golygfeydd hyfryd ar draws Bae Nefyn a Phorthdinllaen. ·
Byddai'r
estyniad ar y talcen yn cael ei adeiladu o wydr yn bennaf, ond defnyddio teils
llechi Cymreig ar y to i gyd-fynd â'r teils presennol gan gadw cymeriad yr
adeiladwaith gwreiddiol. ·
Bod y
cynnig yn unol â chymeriad yr ardal ac yn gynnig cymharol gymedrol o'i gymharu
â llawer o estyniadau tebyg c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Atgoffwyd
yr Aelodau o ofynion statudol gwarchod yr AHNE ·
Bod
bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd ·
Dim angen
gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd · Bod tri llwybr cyhoeddus yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |