Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn
eitem 5.4 (C21/0617/16/LL) a 5.5 (C21/0648/11/LL) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
aelod o Fwrdd Adra Roedd yr Aelod
o’r farn ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau. b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Peter Read (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen
(C19/1215/40/EIA) ·
Y Cynghorydd
Anne Lloyd Jones (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar
y rhaglen, (C20/0981/09/LL) ·
Y Cynhgorydd
Dafydd Owen (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 ar y rhaglen
(C21/0617/16/LL) ·
Y Cynghorydd
Gareth A Roberts (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem
5.5 ar y rhaglen
(C21/0648/11/LL) ·
Y Cynghorydd
Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem
5.6 ar y rhaglen
(C19/1194/18/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd
Hydref 2021 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C19/1215/40/EIA Parc Gwyliau Hafan Y Mor, Pwllheli, LL53 6HX PDF 673 KB Prif gynllun
arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer
lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys
teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr
Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio,
mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig) AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Read Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd
gymeradwyo'r cais, gydag amodau:
Er gwybodaeth: SuDS, cyngor safonol
CNC i'r datblygwr. Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle
(20/10/21) a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais.
Gohiriwyd y penderfyniad ym mhwyllgor 4ydd Hydref 2021 er mwyn cynnal ymweliad
safle. Eglurwyd bod y cais yn ceisio caniatâd llawn i ddymchwel 56 rhandy, creu
seiliau newydd i leoli carafanau sefydlog, llety newydd i'r tîm, caffi traeth
newydd gyda theras ac ardal chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, mân
ail-alinio i Lwybr Arfordir Cymru yn ogystal â gwaith tirlunio cysylltiedig,
draenio, mynediad a seilwaith ym Mharc Gwyliau presennol Hafan y Môr. b)
Rhannwyd
y datblygiad yn barseli: ·
Parsel
B - Lleoli 27 o garafanau sefydlog. ·
Parsel
E - Lleoli 3 carafán sefydlog a chodi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i
staff. ·
Parsel
F - Dymchwel 4 bloc rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o
garafanau sefydlog. ·
Parsel
G - Lleoli 80 o garafanau sefydlog. ·
Parsel
H - Ailddatblygu cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda
theras yn y blaen a maes parcio ·
Parsel
I - Lleoli 18 o garafanau sefydlog. ·
Parsel
J - Gwaith amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir.
Mae’r bwriad yn golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau
tywod a graean rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon
pysgodyn. Bydd oddeutu 120m o'r gwaith
yn cymryd lle'r amddiffynfeydd carreg linellol bresennol. Bydd Llwybr Arfordir
Cymru hefyd yn cael ei ail-alinio. Trafodwyd y cynlluniau ac amlygwyd y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd mewn ymateb i ail ymgynghori gydag asiantaethau
perthnasol. Ystyriwyd bod egwyddor prif agweddau'r datblygiad, oedd yn cynnwys
gwaith ar forgloddiau, gosod carafanau sefydlog ychwanegol, darparu llety
ychwanegol i staff ac adeiladu caffi, yn parhau yn dderbyniol wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio, gan gynnwys y polisïau a'r canllawiau lleol a
chenedlaethol. c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Ei
fod yn cefnogi’r cais ·
Bod
Hafan y Môr yn cynnig cyflogaeth leol - 96% o weithwyr yn lleol (bod canran o
weithwyr (oddeutu 4%) o du allan i’r Sir, yn rhan o’r adloniant). Bod Rheolwyr
yn derbyn cyflogau cystadleuol a’r gweithwyr tymhorol yn derbyn cyflogau uwch
na’r cyflog isaf (minimum wage) ·
Bwriad y cwmni oedd datblygu a moderneiddio’r safle ·
Bod
y gwaith amddiffynfeydd arfordirol i’w groesawu ·
Bydd
contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i wneud y gwaith - rhai eisoes wedi
cysylltu yn pryderu petai’r cais yn cael ei wrthod y byddent yn gorfod rhyddhau
gweithwyr ·
Bod
14,000 yn llai o bobl yn defnyddio’r Parc o gymharu â defnydd y Parc yn ei
anterth yn y 90au · Bod 26 acer o goed wedi eu plannu – rhain erbyn hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C20/0981/09/LL Tir ger Glan Y Mor Marine Parade, Tywyn , LL36 0DJ PDF 385 KB Cais i ddileu 3 annedd fforddiadwy a 2 annedd marchnad agored ac
adeiladu 4 annedd fforddiadwy a 5 tŷ marchnad agored i ddarparu cynnydd o
4 annedd mewn perthynas gyda caniatâd C06M/0069/09/LL. AELODAU LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike
Stevens Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau
Nodiadau Dwr
Cymru, Priffyrdd, SUDS Cofnod: Cais i ddileu 3 annedd fforddiadwy a 2 annedd marchnad agored ac adeiladu 4 annedd fforddiadwy a 5 ty marchnad agored i ddarparu cynnydd
o 4 annedd mewn perthynas gyda caniatad C06M/0069/09/LL. a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
bod y cais yn ymwneud
ac adeiladu 4 annedd fforddiadwy a 5 tŷ marchnad agored yn lle 3 annedd
fforddiadwy a 2 annedd marchnad agored a ganiatawyd yn flaenorol
o dan ganiatâd rhif
C06M/0069/09/LL. Byddai’r bwriad
yn cynnwys rhes o 4 tŷ teras, rhes o 3 tŷ teras a 2 dŷ par: yr unedau fforddiadwy yn 3 tŷ teras
2 ystafell wely ac 1 tŷ teras 3 ystafell wely; y rhai marchnad agored
yn 3 tŷ teras 3 ystafell wely a 2 dŷ par 3 ystafell wely. Ategywd bod y tai i gyd yn
yn rhai deulawr
gyda tho llechi ac waliau allanol o fric. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan
fod y cais yn ymwneud â 5 neu fwy o dai Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli
oddi fewn i’r ffin ddatblygu
ac yn ffurfio rhan o safle ehangach
sydd wedi ei ddynodi ar
gyfer datblygiad tai yn y CDLL ac oddi fewn i Tirwedd
o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Dysynni. Ceir tai annedd o amgylch y safle. Bydd mynediad i’r safle oddiar
Ffordd Warwig sy’n ffordd ddi-ddosbarth. Eglurwyd nad
oedd yn hollol
eglur os byddai cymdeithas tai yn cymryd yr
unedau fforddiadwy a gynigiwyd fel rhan
o’r cais. Nodwyd bod trafodaethau gyda Grŵp Cynefin yn cael eu
cynnal a’u bod y safle wedi ei
drafod gydag Uned Strategol Tai y Cyngor gyda disgwyliad gan benderfyniad Bwrdd Cynefin i
symud ymlaen - nid oedd dim byd ffurfiol fodd
bynnag wedi ei gytuno hyd
yma. Gyda’r safle wedi ei leoli
o fewn ffin ddatblygu Tywyn ac wedi ei ddynodi
ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLL ystyriwyd fod y bwriad yn
un derbyniol i’w ganiatáu yn ddarostyngedig
i gynnwys amodau priodol fydd yn cynnwys
amod i gytuno
cynllun i ddarparu’r tai fforddiadwy. b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Ei bod yn hapus gyda’r argymhelliad ·
Bod gwir alw ac angen am dai yn Tywyn c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod safleoedd
adeiladu addas ar gyfer tai fforddiadwy
yn brin yn
Tywyn ·
Y cais
i’w groesawu PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais Amodau: 1. 5
mlynedd. 2. Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. 3. Llechi
naturiol. 4. Samplau
o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL. 5.
Amodau Priffyrdd. 6. Tirlunio
meddal a chaled. 7. Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy. 8. Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E. 9. Cyflwyno
manylion i’w gytuno ar gyfer gwaredu carthffosiaeth a dŵr wyneb o’r safle. 10. Amod
i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai. Nodiadau Dwr Cymru, Priffyrdd, SUDS |
|
Cais Rhif C21/0163/40/LL Tir ger Pont Bodfel, Lon Boduan, Efailnewydd, Pwllheli, LL53 6DW PDF 447 KB Adeiladu
pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd bresennol,
torri coed a thirlunio newydd AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i amodau
Cofnod: Adeiladu pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd
bresennol, torri coed a thirlunio eewydd Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn
i adeiladu pont gerbydol newydd
ac ail linio priffordd yr A497 oherwydd i’r bont wreiddiol
ddioddef difrod strwythurol yn Ionawr 2019. Eglurwyd bod yr A497 yn un o’r
prif lwybrau rhwng trefi Pwllheli a Nefyn gyda’r bont
bresennol yn strwythur rhestredig gradd II ac yn sefyll dros afon
Rhyd Hir. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli
tu mewn i
Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli gyda safle
bywyd gwyllt Gefail y Bont yn
ymylu gydag ochr gogleddol y bont bresennol. Ategwyd bod yr ardal i’r de o’r
bont, ble lleolir y bont newydd, o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn. Eglurwyd y byddai’r cynllun arfaethedig yn mesur oddeutu 600m o hyd, gan gynnwys
cysylltiadau i'r ffordd gerbydau presennol ar y ddwy ochr. Bydd
y bont arfaethedig yn fwa concrid
wedi ei chladio
â gwaith maen lleol. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais ac adroddwyd bod yr elfen llifogydd
wedi cael sylw sylweddol Nodwyd bod yr ardal
o fewn parth llifogydd C2 ar fapiau
llifogydd cyfredol ac yn nogfen Nodyn
Cyngor Technegol 15: Datblygu
a Pherygl Llifogydd (2004).
I’r perwyl hyn, cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Amlygwyd pryder gan Cyfoeth
Naturiol Cymru nad oedd yr asesiad
wedi arddangos sut y byddai’r risgiau a chanlyniadau hynny yn cael
eu rheoli. O ganlyniad, cyflwynwyd asesiad diwygiedig er mwyn dangos
y glir y mesurau rheoli’r risg llifogydd. Canfuwyd y byddai peth newid
yn nyfnder llifogydd oherwydd natur y tir, ond
nodwyd mai newid dibwys fyddai
hyn mewn gwirionedd hyd yn oed yn
ystod cyfnod eithafol. Awgrymwyd y byddai’r newid mwyaf rhwng y ddwy
bont pan fydd disgwyl i ddŵr
llifogydd godi’r llethr o boptu’r bont. Ategwyd bod bwriad prynu’r tir yma fel
rhan o drefniadau adeiladu’r bont newydd. Wedi ystyried yr Asesiad Canlyniadau
Llifogydd diwygiedig yn ogystal â'r
wybodaeth berthnasol ychwanegol a gyflwynwyd, arddangoswyd yn ddigonol na fyddai’r
datblygiad yn achosi unrhyw gynnydd
mewn risg i fywyd nac
unrhyw risg arwyddocaol i eiddo.
Nid oedd gan CNC wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig
ac felly, ystyriwyd bod y cais
yn cydymffurfio â NCT 15 a pholisi ISA 1 o'r CDLl ar y Cyd. O ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ynghyd a’r holl sylwadau
a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ag yn unol â’r polisïau
perthnasol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu’r cais c)
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod y datblygiad i’w groesawu ·
Ardal y bont
yn beryglus ·
Gobaith cael
y bont newydd wedi ei chwblhau
erbyn Eisteddfod Dwyfor
2023 ch) Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r bont yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C21/0617/16/LL Tir ger Cae Gors, Tregarth, Bangor, LL57 4NE PDF 392 KB Codi 12 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd
ynghyd a gwaith cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb
Cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer
darpariaeth llecynnau agored ac i’r amodau isod:-
Nodyn: hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno
cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor. Nodyn: cyngor i’r ymgeisydd ystyried llechi lleol Cofnod: Codi 12 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd
ynghyd a gwaith cysylltiedig. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais ar gyfer codi 12 tŷ
fforddiadwy deulawr ar safle sydd a’i ran helaelth wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu Pentref Lleol Tregarth. Roedd y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- ·
Darparu 12 tŷ
fforddiadwy ar ffurf: (i) 4 tŷ x 2 ystafell wely 4 person (rhent
cymdeithasol); (ii) 4 tŷ x 3 ystafell wely 5 person (rhent cymdeithasol);
1 tŷ x 2 ystafell wely 4 person (rhent canolradd) a 3 tŷ x 3 ystafell
wely 5 person (rhent canolradd). ·
Cau’r fynedfa bresennol
oddi ar y ffordd sirol dosbarth III (Tal Cae) a chreu mynedfa newydd ymhellach
i’r dwyrain. ·
Creu llwybr troed yn
nhu blaen y safle a fydd yn cysylltu â’r llwybr troed presennol i’r gorllewin. ·
Lledu’r ffordd
gyfochrog i 5.5m i gyfarfod a gofynion mabwysiedig y Cyngor. ·
Gwyro’r cwrs dwr sy’n
rhedeg drwy’r safle i ymylon gorllewinol y safle. ·
Creu coridorau
ecolegol. ·
Llecynnau parcio o fewn
cwrtil y tai arfaethedig. ·
Codi ffensys o amrywiol
dyluniad, uchder a deunydd. ·
Codi siediau domestig o fewn y gerddi cefn
ynghyd a llecynnau storio biniau. Adroddwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle
arbennig hwn wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 4, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL.
Amlygwyd bod polisi TAI 4 y cefnogi tai newydd mewn pentrefi lleol i gwrdd â
strategaeth y CDLL drwy ddyraniadau tai a safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn
y ffin datblygu ar sail y ddarpariaeth ddangosol o fewn y Polisi ei hun. O gnalynaid, bydd y bwriad yn golygu bydd Tregarth yn mynd y tu hwnt i’w
lefel twf dangosol ,ond y gellid cefnogi cymeradwyo’r
safle hwn yn erbyn darpariaeth gyffredinol (yn seiliedig ar y gyfradd gwblhau
hyd yma) o fewn y categori Pentrefi, Clystyrau & Chefn Gwlad agored.. Nodwyd bod Polisi TAI 15 yn ceisio darpariaeth briodol
o dai fforddiadwy a gyda’r datblygiad arfaethedig yn cynnig cynnydd o 12
fforddiadwy, golygai hyn fod y bwriad yn cyd-fynd â gofynion canran o unedau
fforddiadwy o fewn y Polisi. Nodir Polisi PS5 y cefnogir datblygiadau ble
gellid dangos ei bod yn gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy gan gynnwys
safleoedd addas oddi fewn i ffiniau datblygu ac y byddai’r elfen o ddatblygu
cynaliadwy a hygyrchedd y safle yn un o’r brîf ystyriaethau wrth ddewis
safleoedd ar gyfer codi tai o fewn y CDLL gan yr Arolygwr Cynllunio. Gan
ystyried bod yr holl dai yn rhai fforddiadwy (yn hytrach na’r 20% sydd angen ei
ddarparu) ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor. Yng nghyd-destun materion tai fforddiadwy a chymysgedd tai, cyflwynwyd Datganiad Tai Fforddiadwy gan Adra ynghyd a Datganiad Cymysgedd Tai yn unol â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Cymysgedd Tai a Tai Fforddiadwy. Ymddengys bod tystiolaeth gadarn ar gael parthed yr angen am dai fforddiadwy ac mai’r angen mwyaf yn ardal Tregarth oedd am unedau 2 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C21/0648/11/LL Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2BX PDF 389 KB Dymchwel adeilad swyddfeydd presennol a
chodi 39 fflatiau byw preswyl ar gyfer oedolion hyn 55+ oed ynghyd a gwaith
cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau isod:-
Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor. Cofnod: Dymchwel
adeilad swyddfeydd presennol a chodi 39 fflatiau byw preswyl ar gyfer oedolion
hyn 55+ oed ynghyd a gwaith cysylltiedig Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel adeilad presennol
(swyddfeydd segur a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru) a chodi
adeilad newydd fyddai’n darparu 39 o fflatiau preswyl i bobl dros 55 oed. Roedd
y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol: - ·
Darparu
39 fflat sy’n cynnwys 18 fflat un llofft a 21 fflat dwy lofft a chynigir pob fflat fel uned fforddiadwy. ·
Darparu
31 llecyn parcio gyda 6 ohonynt yn llecynnau anabl a 6 ohonynt yn cael eu
gwasanaethu gan bwyntiau gwefru cerbydau trydan. ·
Defnyddio’r
fynedfa bresennol oddi ar Ffordd Penrhos trwy Llys Adda fel y trefniant
presennol. Lleolir y mannau parcio i’r de ac i’r gorllewin o fewn safle’r cais. ·
Codi
adeilad sy’n amrywio o 3 llawr yn y gogledd (yn wynebu Ffordd Penrhos) i 4
llawr yn y de gan ystyried rhedfa’r tir oddi fewn y safle ei hun. Gosodir yr
adeilad newydd ar ffurf sy’n adlewyrchu’r llythyren “I” gydag edrychiadau
allanol wedi eu torri i fyny drwy ddefnyddio agoriadau niferus ac amrywiol
(rhai gyda balconïau math Juliet), deunyddiau
amrywiol (e.e. gwaith bric glan, rendr wedi ei
baentio, ffenestri a drysau lliw llwyd paneli sy’n adlewyrchu gwaith coedyn
fertigol a system to las-llechi) ynghyd a waliau cilannog eu ffurf. ·
Tirlunio
i gynnwys tirlunio meddal gyda nifer o’r coed presennol yn cael eu cadw ynghyd
a gwaith plannu ychwanegol i liniaru colli rhai o’r coed, cloddiau/gwyros,
prysglwyn ynghyd a thirlunio caled i gynnwys llwybrau troed a nodwedd
bensaernïol ar ffurf ffynnon dwr sffêr ger y brif fynedfa. ·
Llecynnau
amwynder cymunedol o amgylch yr adeilad gan fod yr adeilad ei hun wedi ei leoli
mwy neu lai yng nghanol y safle. ·
Gosod
paneli solar ar y to. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli
oddi fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017(CDLL) ond nad oedd dynodiad defnydd penodol ar ei
gyfer. Amlygwyd bod y safle wedi ei gynnwys
o fewn Gorchymyn Gwarchod Coed cyf. 3/TPO/A85 sydd
hefyd yn cynnwys Stad Llys Adda i’r de o safle’r cais. Amlygwyd bod nifer
helaeth o ddogfennau wedi eu cyflwyno i gefnogi’r cais. Eglurwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisi PCYFF1, TAI1, TAI15, PS5 a PS17 o’r CDLL. Adnabyddi’r Bangor fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ym Mholisi TAI1 gyda’r polisi yn cefnogi datblygiadau tai er mwyn cwrdd â Strategaeth y CDLL (Polisi PS17) drwy ddynodiadau tai a safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu wedi ei selio ar y ddarpariaeth ddangosol a gynhwysir o fewn y CDLL ei hun. Golyga hyn fod Bangor, trwy gwblhau'r banc tir presennol, yn cyrraedd ei lefel twf dangosol o 969 uned ac mewn amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys
uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio’r
penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i geisio mwy
o wybodaeth a thystiolaeth ynglŷn â’r canlynol:
Bod yr Aelod Lleol yn rhan o’r trafodaethau Cofnod: Addasu'r
capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a
llecynnau parcio Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer addasu'r
ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl ar safle wedi ei leoli gyferbyn a'r Stryd
Fawr yn Deiniolen. Nodwyd
bod ei ddefnydd fel capel/festri wedi dod i ben Ionawr 2013, ac er wedi ei
leoli oddi fewn i ffin datblygu Pentref Gwasanaethol Deiniolen, nid oedd wedi ei
ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen oedd yn
cynnwys: ·
Darparu
4 fflat 2 lofft o fewn y cyn-gapel ar ddau lawr a darparu 1 fflat 2 lofft a 2
fflat 1 llofft o fewn y cyn-festri gyda'r fflat 1 llofft yn uned fforddiadwy i'w
rhentu ·
.Darparu
9 llecyn parcio yn nhu blaen y festri. ·
Darparu
storfa finiau/ail-gylchu gyferbyn a'r llecynnau
parcio. ·
Creu
mynediad newydd (gan ddisodli'r fynedfa bresennol) ar gyfer cerbydau oddi ar y
ffordd sirol dosbarth III cyfagos (Stryd Fawr). ·
Ymgymryd
â chynllun plannu coed. Amlygwyd bod nifer o ddogfennau wedi eu
cyflwyno i gefnogi’r cais. Adroddwyd bod yr
egwyddor o ddarparu unedau preswyl ar y safle arbennig hwn wedi ei selio ym
Mholisi PCYFF 1, TAI 3, TAI 15, PS 17 ac ISA 2. Eglurwyd bod Polisi TAI 3 yn
datgan o fewn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â Strategaeth y Cynllun yn
cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap addas o fewn y
ffin datblygu. Fodd bynnag, gan fod Deiniolen wedi gweld ei lefel twf
disgwyliedig ar safleoedd ar hap trwy unedau wedi eu cwblhau yn y cyfnod 2011 i
2021 a chwblhau’r banc tir presennol, roedd angen i’r ymgeisydd ddangos bod y
bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. I’r perwyl hyn,
cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth berthnasol ac o ganlyniad gellid cyfiawnhau’r
angen lleol ar gyfer y math o unedau preswyl a gynigiwyd
o fewn y cais cyfredol. Eglurwyd bod rhan 2
meini prawf i - iii o Bolisi ISA 2 yn datgan bydd
rhagdybiaeth i wrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol
presennol oni bai:- i. y gall datblygwr ddarparu cyfleuster
addas yn ei le ar y safle neu oddi ar y safle a bod mynediad rhwydd a hwylus
trwy ddull ar wahân i gar, neu ii. y gellid dangos bod y cyfleuster yn
amhriodol neu'n ormod i'r hyn sydd ei angen, neu iii. mewn
perthynas â chyfleuster sy'n cael ei redeg yn fasnachol bod tystiolaeth nad
yw'r bwriad mwyach yn hyfyw'n ariannol; na ellid disgwyl yn rhesymol iddo ddod
yn hyfyw'n ariannol; na ellid sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall a
bod tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata'r cyfleuster sydd wedi
bod yn aflwyddiannus. Mewn ymateb adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan bod yr adeilad wedi bod ar y farchnad ers Ionawr, 2013 a heb ei werthu hyd Hydref, 2018 sy’n dangos nad oedd llawer o ddiddordeb o fewn y farchnad ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |