Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth T Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr Aelod canlynol ei bod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elin Hywel (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5.1 cais rhif C23/0671/45/AM ac eitem 5.2 cais rhif C23/0673/45/AM ar
y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn,
adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Pennaeth Cynorthwyol
fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y
pwyllgor hwn a gynhaliwyd 3ydd o Fawrth 2025 fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C23/0671/45/AM Tir oddi ar Ffordd Caernarfon, Western Plot, Pwllheli, LL53 5LF Adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD yn groes i’r
argymhelliad Rhesymau: Diffyg tai fforddiadwy, diffyg gwybodaeth am y cymysgedd tai,
cydbwysedd a materion ieithyddol. BYDD Y CAIS YN CAEL EI GYFEIRIO I GYFNOD CNOI CIL Cofnod: Tir oddi ar Caernarfon Road, Western Plot,
Pwllheli, LL53 5LF Adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys
mynedfa a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais amlinellol oedd
dan sylw i godi 12 tŷ preswyl ym Mhwllheli ar ddarn o dir rhwng garej Glan
y Don ac archfarchnad Aldi. Eglurwyd, er nad oedd
cynlluniau manwl na thirlunio yn rhan o’r cais bod angen ystyried egwyddor y
bwriad ynghyd a manylion y fynedfa. Pe byddai’r cais yn llwyddo, bydd angen i’r
ymgeisydd gyflwyno cais arall i gytuno ar y materion a gadwyd yn ôl. Ystyriwyd bod y dwysedd datblygu a
gynigiwyd yn dderbyniol o ystyried lefelau’r safle, yr angen i warchod
bioamrywiaeth ynghyd ar angen i ddarparu sustem draenio gynaliadwy a llecyn
chwarae agored. Cyfeiriwyd at ffigyrau tai Pwllheli gan egluro bod y bwriad yn
dderbyniol oherwydd dynodiad y safle ar gyfer tai ble disgwylid 150 o dai
newydd, er derbyn na fydd 150 yn bosib oherwydd cyfyngiadau ffisegol y safle a
phresenoldeb archfarchnad Aldi. Mynegwyd bod Polisi TAI 15 yn gofyn am
gyfraniad tai fforddiadwy ar ddatblygiadau preswyl o 2 uned neu fwy (ar gyfer Pwllheli
gofynnwyd am gyfraniad o 30%), ond amlygwyd nad oedd y cais yn cynnig unrhyw
unedau fforddiadwy. Adroddwyd bod cais archfarchnad Aldi wedi ei ganiatáu ar y
safle gan nad oedd yn hyfyw i adeiladau tai yno, ac er bod rhywfaint o waith
gwella isadeiledd wedi gwella’r sefyllfa bod tystiolaeth yn yr asesiad hyfywedd
yn amlygu nad yw’n hyfyw i ddarparu tai fforddiadwy. Ategwyd,
wedi asesu gwybodaeth asesiad hyfywedd a gyflwynwyd gyda’r cais yn unol a
gofynion meini prawf polisi TAI 15, nid oedd sail i wrthwynebu’r ffigyrau na’r
casgliad o beidio cynnig tai fforddiadwy. O ganlyniad, ystyriwyd nad yw diffyg
darpariaeth o dai fforddiadwy yn rheswm dilys i wrthod y cais. Cyfeiriwyd hefyd
at y bwriad i osod amod i sicrhau defnydd C3 o’r unedau fel eu bod i gyd yn dai
annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa - ni fyddai’r bwriad yn darparu
ail gartrefi, tai haf neu unedau gwyliau ychwanegol yn yr ardal. Er yn
sylweddoli naill ffordd neu’r llall nad oedd sicrwydd y byddai’r tai yn cael eu
meddiannu gan deuluoedd Cymraeg, ystyriwyd, gyda’r tai yn dai parhaol byddai’r
teuluoedd a fyddai’n debygol o feddiannu’r tai yn cael eu hintegreiddio i’r
gymuned leol gydag unrhyw blant yn mynychu ysgolion lleol sydd yn darparu
addysg trwy’r iaith Gymraeg. Ategwyd bod capasiti digonol o fewn ysgolion lleol
i ymdopi gydag unrhyw blant ychwanegol fyddai’n byw yn y tai. Nodwyd bod y
Datganiad Iaith a gyflwynwyd gyda’r cais yn nodi y byddai enw Cymraeg i’r tai a
bod bwriad gwneud defnydd o arwyddion a hysbysebu dwyieithog - bydd modd amodi hyn. O safbwynt effaith gweledol, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn pant sydd erbyn hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C23/0673/45/AM Tir oddi ar Ffordd Caernarfon, Eastern Plot, Pwllheli, LL53 5LF Adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys
mynedfa AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD yn
groes i’r argymhelliad Rhesymau: Diffyg tai fforddiadwy, diffyg gwybodaeth am y cymysgedd tai,
cydbwysedd a materion ieithyddol. BYDD Y CAIS YN
CAEL EI GYFEIRIO I GYFNOD CNOI CIL Cofnod: Tir oddi ar
Caernarfon Road, Eastern Plot, Pwllheli, LL53 5LF Adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys
mynedfa Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn dod i gasgliad bod modd gosod amodau i sicrhau
ymchwiliadau archeolegol, mesurau lliniaru a gwella bioamrywiaeth a chynllun
draenio tir a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer datblygiad preswyl o 24
tŷ ym Mhwllheli ar ddarn o dir i’r dwyrain o safle archfarchnad Aldi.
Eglurwyd, er nad
oedd cynlluniau manwl na thirlunio yn rhan o’r cais bod angen ystyried egwyddor
y bwriad ynghyd a manylion y fynedfa. Pe byddai’r cais yn llwyddo, bydd angen
i’r ymgeisydd gyflwyno cais arall i gytuno ar y materion a gadwyd yn ôl. O safbwynt egwyddor y bwriad, ystyriwyd
bod datblygu tai ar y safle yn dderbyniol gan fod y tir o fewn ffin datblygu
Pwllheli ac wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl o fewn y CDLl. Ystyriwyd bod y dwysedd datblygu a
gynigiwyd yn dderbyniol o ystyried lefelau’r safle, yr angen i warchod
bioamrywiaeth ynghyd ar angen i ddarparu sustem draenio gynaliadwy a llecyn
chwarae agored Cyfeiriwyd at
ffigyrau tai Pwllheli gan egluro bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd dynodiad y
safle ar gyfer tai ble disgwylid 150 o dai newydd, er derbyn na fydd 150 yn
bosib oherwydd cyfyngiadau ffisegol y safle a phresenoldeb archfarchnad Aldi.
Mynegwyd bod Polisi TAI 15 yn gofyn am gyfraniad tai fforddiadwy ar
ddatblygiadau preswyl o 2 uned neu fwy (ar gyfer Pwllheli gofynnwyd am
gyfraniad o 30%), ond amlygwyd nad oedd y cais yn cynnig unrhyw unedau
fforddiadwy. Adroddwyd bod cais archfarchnad Aldi wedi ei ganiatáu ar y safle
gan nad oedd yn hyfyw i adeiladau tai yno, ac er bod rhywfaint o waith gwella
isadeiledd wedi gwella’r sefyllfa bod tystiolaeth yn yr asesiad hyfywedd yn
amlygu nad yw’r datblygiad yn hyfyw hyn yn oed heb ddarpariaeth o dai
fforddiadwy. Ategwyd, wedi
asesu gwybodaeth asesiad hyfywedd a gyflwynwyd gyda’r cais yn unol a gofynion
meini prawf polisi TAI 15, nid oedd sail i wrthwynebu’r ffigyrau na’r casgliad
o beidio cynnig tai fforddiadwy. O ganlyniad, ystyriwyd nad yw diffyg
darpariaeth o dai fforddiadwy yn rheswm dilys i wrthod y cais ac nid oedd y
ffaith bod y datblygiad yn ei gyfanrwydd ddim yn hyfyw yn reswm i wrthod y cais
oherwydd bod gweithred unrhyw ganiatâd
yn fater i’r datblygwr. Cyfeiriwyd hefyd
at y bwriad i osod amod i sicrhau defnydd C3 o’r unedau fel eu bod i gyd yn dai
annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa. Er na fyddai tai fforddiadwy yn cael eu
darparu fel rhan o’r cais gellid o leiaf sicrhau na fyddai’r bwriad yn darparu
ail gartrefi, tai haf neu unedau gwyliau ychwanegol yn yr ardal Er yn sylweddoli naill ffordd neu’r llall nad oedd sicrwydd y byddai’r tai yn cael eu meddiannu gan deuluoedd Cymraeg, ystyriwyd gyda’r tai yn dai parhaol ac y byddai’r teuluoedd a fyddai’n debygol o feddiannu’r tai yn cael eu hintegreiddio i’r gymuned leol gydag unrhyw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C24/0687/42/LL Plot Borthwen Lôn Rhos, Edern, Gwynedd, LL53 8YN Cais llawn i adeiladu 6 tŷ preswyl (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys mynedfa, parcio a thirlunio AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i gytundeb 106 ar gyfer cyfraniad addysgol a thy
fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol : 1.
Amser 2.
Datblygiad yn
cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd 3.
Rhaid cytuno’r deunyddiau
allanol gan gynnwys y llechi to 4.
Tynnu’r Hawliau Datblygu
a Ganiateir yn ymwneud a’r uned fforddiadwy ynghyd a cyfyngu’r gallu i newid
neu ychwanegu ffenestri newydd o’r hyn a ganiateir. 5.
Amod Dŵr Cymru 6.
Amodau Priffyrdd 7. Amodau
Bioamrywiaeth 8.
Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth
Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu 9.
Rhaid rhoi enw Cymraeg
i’r stad a’r tai unigol. 10.
Cyfyngu’r defnydd i
ddosbarth defnydd C3 yn unig Cofnod: Plot Borthwen Lôn Rhos, Edern, Gwynedd, LL53 8YN Cais llawn
i adeiladu 6 tŷ preswyl (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau
cysylltiedig gan gynnwys mynedfa, parcio a thirlunio Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn
cynnwys gwybodaeth ar ffurf Datganiad Tai
yn nodi’r sefyllfa yn lleol o ran y galw am dai ynghyd a gwybodaeth berthnasol
yn ymwneud a’r datblygiad arfaethedig a’r budd fyddai yn lleol o’i ganiatáu. a) Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd
i godi 6 tŷ preswyl i gynnwys 1 tŷ fforddiadwy gyda gwaith a
datblygiadau cysylltiedig o fewn ffin datblygu Edern ac o fewn safle Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn Ardal
Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys
codi 1 tŷ deulawr 4 ystafell wely, 3 tŷ cromen 3 ystafell wely a 2
dŷ deulawr 3 ystafell wely. Eglurwyd bod Lôn Rhos, sy’n ymylu gyda blaen y safle, yn ffordd gyhoeddus dosbarth
3 gyda mynedfa gerbydol eisoes wedi ei chreu i mewn i’r safle. Ategwyd bod tai preswyl yn ymylu yn uniongyrchol a rhai o
ffiniau’r safle gyda thiroedd amaethyddol agored tu hwnt i ffin deheuol eithaf
sydd hefyd yn cynnwys dynodiad llwybr cyhoeddus. Er bod y safle wedi ei leoli o fewn y ffin ddatblygu, amlygwyd y byddai’r
datblygiad yn golygu y byddai Edern yn mynd dros ei lefel cyflenwad dangosol ac
o ganlyniad roedd angen cyfiawnhad dros y bwriad er mwyn arddangos sut byddai’r
datblygiad yn cyfarch galw cydnabyddedig lleol. Nodwyd bod y wybodaeth a
gyflwynwyd gyda’r cais yn cadarnhau y byddai’r tai yn cyfrannu yn uniongyrchol
at ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel presennol sydd yn bodoli ar gyfer
y math yma o dai preswyl parhaol ac ystyriwyd felly bod cyfiawnhad ac angen ar
eu cyfer a’u bod yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Ategwyd, gan fod yr Ysgol
Gynradd leol yn llawn y bydd cyfraniad addysgol yn cael ei sicrhau drwy
cytundeb 106. Ystyriwyd bod yr egwyddor o ddatblygiad preswyl newydd yn cyfrannu tuag at
ddiwallu’r angen yn lleol, ac nid oedd tystiolaeth i ddangos y byddai’r bwriad
yn cael effaith niweidiol ar yr Iaith. Nodwdy bod
bwriad gosod amodau priodol er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg i’w cytuno ar
gyfer y stad a’r tai. Wrth ystyried cyd-destun y safle a’r ffaith y bydd yn ffurfio estyniad
rhesymegol i’r pentref, ystyriwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r
datblygiad arfaethedig yn ei ffurf diwygiedig, yn gweddu i’r lleoliad mewn modd
priodol, a’r bwriad hefyd yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ffyrdd. Ystyriwyd
bod natur adeiledig bresennol yr ardal yn amrywiol, ond yn gymharol ddwys gan
ei fod yn ffurfio rhan o bentref sefydledig. Yn ychwanegol, ystyriwyd bod y
pellteroedd, lefelau tir a phresenoldeb y ffens arfaethedig a’r llystyfiant
presennol yn golygu na fyddai’r tai yn amharu i raddau cwbl annerbyniol ar
fwynderau tai cyfagos. Roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad
yn dderbyniol ac yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau. b) Yn manteisio ar yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C24/1058/16/LL Parth 3 Parc Bryn Cegin, Llandygai, Gwynedd, Adeiladu 4rh uned ddiwydiannol newydd a thirlunio allanol cysylltiedig ar Lain C3 ym Mharc Bryn Cegin, Llandygai, Bangor. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud
gyda: 1.
Amser 2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3.
Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad
ecolegol / cynllun tirlunio 4. Amod
Dŵr Cymru 5. Caniateir
defnyddio'r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B2 6. Sicrhau
arwyddion Cymraeg / Dwyieithog 7. Amodau
Gwarchod y Cyhoedd Nodiadau 1.
Dŵr Cymru 2.
Uned Draenio Tir Cofnod: Adeiladu
4rh. uned ddiwydiannol newydd a thirlunio allanol cysylltiedig ar Lain C3 ym
Mharc Bryn Cegin, Llandygai, Bangor. a)
Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau pellach gan yr Uned Bioamrywiaeth -
ystyriwyd ei bod yn briodol gosod amod i sicrhau mesurau lliniaru a thirweddu
priodol. Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd
ar gyfer codi pedwar adeilad ynghyd a gwaith cysylltiol ar un o'r lleiniau
gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai. Eglurwyd bod un o'r
adeiladau yn cael ei adael fel un uned sengl tra byddai dau ohonynt wedi eu
rhannu'n ddwy uned lai gyda'r pedwerydd yn cael ei rannu'n bedair uned. Nodwyd bod y safle wedi’i leoli
ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin sydd tua1km i’r de o ffin
ddatblygu Canolfan Rhanbarthol Bangor a’r defnydd bwriedig
yn cydfynd gyda gofynion polisi CYF 1, oherwydd bod cyfiawnhad priodol ar gyfer
caniatáu datblygiad o'r fath ar safle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y math
yma o ddefnydd. Nid yw’n ddatblygiad annisgwyl ac mae’r broses o glustnodi’r
safle wedi sefydlu’r egwyddor. Ategwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad ar
sail materion cynaliadwyedd ac isadeiliedd,
trafnidiaeth, treftadaeth, bioamrywiaeth na ieithyddol. Adroddwyd bod y safle hefyd o
fewn Parthau Clustogi Henebion Cofrestredig Hengor a Chwrsws Llandygai a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, a bod
mynediad gerbydol yn bodoli ar y safle yn barod. Er yn ymddangos yn fawr,
amlygwyd bod yr adeiladau o faint, dyluniad a defnyddiau a fyddai’n
ddisgwyliedig i adeiladau diwydiannol cyfoes. Ategwyd bod bwriad tirlunio fydd
yn atgyfnerthu’r sgrinio presennol a fyddai, ynghyd a’r sgrinio naturiol
presennol yn cuddio’r safle o’r rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus. O ystyried ei safle ar stad ddiwydiannol, sydd
eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio, ni ystyriwyd y byddai’r safle yn gwneud
niwed arwyddocaol i edrychiad cyffredinol y safle, nac yn amharu ar fwynderau
gweledol yr ardal yn gyffredinol yn ogystal a’r dynodiadau tirwedd. Cyfeiriwyd at Asesiad Sŵn oedd wedi ei gyflwyno gan
gadarnhau bod Gwasaneth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor
Gwynedd wedi darparu ymateb ac yn cynnig amodau er mwyn sicrhau fod mesurau
lliniaru sŵn digonol yn cael eu darparu, ynghyd ac oriau gwaith/agor
penodol ar sail y wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Wedi
ystyried fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau
lleol a chenedlaethol perthnasol roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad yn
dderbyniol ac yn argymhell caniatáu’r cais gydag
amodau. b)
Nid oedd gan yr Aelod Lleol sylwadau i’w cynnig
ar y cais c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud
gyda: 1.
Amser 2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3. Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad
ecolegol / cynllun tirlunio 4. Amod Dŵr Cymru 5. Caniateir defnyddio'r adeiladau
at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B2 6. Sicrhau arwyddion Cymraeg /
Dwyieithog 7. Amodau Gwarchod y Cyhoedd Nodiadau 1.
Dŵr Cymru 2.
Uned Draenio Tir Dechreuodd y cyfarfod am 13.00 a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |