Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dafydd Meurig Bu i’r
Cyng. Gareth Coj Parry golli cysylltiad yn ystod eitem 5.1 ac ni fu modd iddo
ail ymuno â’r cyfarfod Croesawyd y
Cyng Lousie Hughes yn ol i’r Pwyllgor wedi cyfnod o waeledd. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr Aelodau canlynol eu bod yn Aelodau Lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd John Pughe
(ward Morfa Tywyn - nad
oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C25/0403/09/CR ar y
rhaglen Y Cynghorydd Elin Walker
Jones (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.2
C25/0705/11/LL a 5.3 C25/0706/11/LL ar y rhaglen Y Cynghorydd Rhys Tudur
(nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C25/0710/41/LL ar
y rhaglen Er bod enw y Cynghorydd
Anne Lloyd Jones (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn ymddangos fel
Aelod Lleol ar gais 5.1 ar y rhaglen, cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd
Gwesty’r Corbett Arms (C25/0403/09/CR) o
fewn ward y Cynghorydd (Gorllewin Tywyn), ac felly roedd hawl ganddi i gymryd
rhan yn y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o
drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro
fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23ain o Fawrth 2026 fel rhai cywir |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas
â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
|
Cais Rhif C25/0403/09/CR Gwesty Corbett Arms, Sgwar Corbett, Tywyn, Gwynedd, LL36 9DG Cais am ganiatâd adeilad rhestredig [LBC] ar
gyfer gwaith dad-adeiladu a dymchwel rhannol yr adeilad yn raddol, a’r gwaith
cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi y strwythur sydd yn weddill AELODAU LLEOL: Cynghorydd John Pughe a’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau
Cofnod: Cais am ganiatâd adeilad rhestredig [LBC] ar
gyfer gwaith dad-adeiladu a dymchwel rhannol yr adeilad yn raddol, a’r gwaith
cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi'r strwythur sydd yn weddill a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, wedi derbyn rhagor o wybodaeth, bod cyfanswm y gwaith dymchwel wedi'i
leihau a'i fod bellach ond yn berthnasol i ran gefn yr adeilad yn unig. Eglurwyd bod adeilad yn hen westy, sydd wedi
ei restru gradd II, ac o fewn ffin datblygu Tywyn, yn strwythur sylweddol sy'n
wynebu Sgwâr Corbett, gyda thalcen sy'n wynebu Stryd Maengwyn ac ychwanegiadau
diweddarach i ochr chwith yr adeilad ac i'r cefn. Nodwyd hefyd bod eiddo
preswyl cyfagos a'r dalcen yr adeilad ar Stryd Maengwyn. Ystyriwyd bod yr
adeilad mewn perygl yn unol â chofrestr Adeiladau Rhestredig sydd Mewn Perygl,
a gedwir gan Cadw. Daeth defnydd o’r adeilad fel gwesty i ben
tua 2009, a bu fawr ddim cynnal a chadw ar yr adeilad yn y blynyddoedd wedi
hynny. Erbyn hyn, mae’r adeilad yn mynd â'i ben iddo, gyda rhannau o gefn yr
adeilad wedi disgyn yn Ionawr a Chwefror 2025. Cyflwynwyd gyda’r cais adroddiad arolwg
strwythurol, methodoleg dymchwel a dadosod yn ogystal ag Asesiad Effaith
Treftadaeth. Cyfeiriwyd at ôl troed yr adeilad cyfan oedd wedi'i rannu'n 8
parth er mwyn cyfeirio atynt yn haws. Adroddwyd bod bwriad dymchwel parthau 1-5
yn seiliedig ar sefydlogrwydd strwythurol yr adeilad oherwydd rhesymau iechyd a
diogelwch yn dilyn cwymp diweddar, gyda pharthau 2 a 4 yn ardaloedd a gwympodd
ym mis Ionawr a Chwefror 2025. Nodwyd bod y cynnig diwygiedig yn gofyn am
ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel Parthau 1, 2, 4 a rhan o Barth 5
(a nodwyd fel 5A), ynghyd â gwaith cysylltiedig i sefydlogi'r strwythur sy'n
weddill a'i ddiogelu rhag y tywydd. Ategwyd bod y cynllun presennol yn
cynrychioli gostyngiad sylweddol yng ngraddfa'r gwaith dymchwel a fwriadwyd yn
wreiddiol, yn dilyn ymatebion i'r ymgynghoriad a chyflwyno rhagor o wybodaeth
strwythurol. Amlygwyd, wrth benderfynu ar y cais, roedd
angen ystyried yn ofalus a fyddai’n ddymunol gwarchod yr adeilad rhestredig, ei
leoliad ac unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig
sydd gan yr adeilad, yn unol ag adran 96(2) Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol
(Cymru) 2023. Ategwyd nad oedd cadw adeilad neu ased hanesyddol yn golygu bod
rhaid ei gynnal yn ddigyfnewid, ond bod ei arwyddocâd yn cael ei gynnal ar
gyfer y dyfodol; y dyletswydd statudol wedi derbyn cryn bwysigrwydd a phwysau wrth
gyrraedd yr argymhelliad. Mynegwyd y byddai'r gwaith arfaethedig yn arwain at golli ffabrig hanesyddol o fewn y parthau a nodwyd gan achosi niwed i arwyddocâd yr adeilad rhestredig. Fodd bynnag, atgoffwyd yr Aelodau bod Parthau 2 a 4 eisoes wedi disgyn yn rhannol, bod Parth 1 yn cynnwys ystafell haul cyfoes o werth treftadaeth ddibwys, a bod Parth 5A wedi'i gyfaddawdu'n strwythurol ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'r ardaloedd sydd wedi cwympo. Bydd y bwriad yn cadw'r prif ddrychiadau a rhan fwyaf o'r ffabrig hanesyddol sy'n diffinio cymeriad ac arwyddocâd yr adeilad, ac mae'r niwed sy'n deillio o'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Dymchwel
estyniadau cefn a chodi estyniad deulawr newydd ynghyd a gwaith tirluno, codi
adeilad beics a sbwriel ac ail-osod y maes parcio. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Hawl i weithredu - caniatáu gydag amodau yn
ddarostyngedig i dderbyn gwybodaeth bellach a sylwadau cadarnhaol gan yr Uned
Draenio 1. 5 mlynedd
2. Unol a’r
cynlluniau. 3. Amod
archeolegol 4. Manylion
gwydriad eilradd i’w gytuno o flaen llaw. 5. Cytuno i
ail-ddefnyddio deunyddiau o’r adeilad i’w ddymchwel 6. Nwyddau
dwr glaw alwminiwm 7. Manylion
manwl y paneli solar 8. Manylion
unrhyw oleuadau i’w gytuno 9. Manylion
unrhyw arwyddion i’w gytuno 10. Rhaid
cyflwyno manylion y sgrin wrth y grisiau cyn eu gosod 11. Rhaid cyflwyno manylion o sut i gofnodi
hoel y gampfa cyn eu dymchwel 12. Cyflwyno
samplau o’r deunyddiau 13. Defnyddio
calch gydag unrhyw waith pwyntio / render 14. Amod
priffyrdd 15. Amodau Dwr
Cymru 16. Amodau
Iaith 17. Amodau Bioamrywiaeth gan gynnwys cytuno
mesurau lliniaru a gwelliannau 18. Cytuno
Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) cyn cychwyn gwaith – i gynnwys oriau gwaith Cofnod: Dymchwel estyniadau cefn a chodi estyniad
deulawr newydd ynghyd a gwaith tirlunio, codi adeilad beics a sbwriel ac
ail-osod y maes parcio. Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr
(sylwadau gan Uned Draenio Tir) a)
Amlygodd
y Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd gyda bwriad o ddymchwel rhan ddeulawr cefn o’r adeilad a chodi estyniad
deulawr newydd modern i alluogi cael ystafelloedd dysgu i fyny at safonau
modern. Byddai’r estyniad newydd yn gymysg o frics llwyd golau / coch a chladin
alwminiwm coch i gynnwys dwy neuadd darlithio fawr, ystafell ddysgu
cyffredinol, toiledau ac ardaloedd eistedd ynghyd a choridorau, grisiau a
drysau allanol a lifft newydd. Ar ail lawr yr estyniad bydd gofod o’r ddwy
neuadd darlithio ynghyd ag ardaloedd eistedd, toiledau, ystafelloedd offer a
storfeydd - i gyd yn cysylltu yn ôl gyda’r prif adeilad. Eglurwyd bod rhan
gwaith adfer mewnol o fewn y prif adeilad hefyd yn rhan o’r cais, ond nad oedd
angen hawl cynllunio ffurfiol ar gyfer y gwaith, ond ei fod wedi ei asesu o
fewn y cais adeilad rhestredig cysylltiedig (C25/0706/11/CR). Ategwyd bod asesiad adeilad rhestredig wedi ei gwblhau
ar y gwaith dymchwel ac adeiladau’r estyniadau Adroddwyd bod yr
adeilad yn un sylweddol a thrawiadol iawn, gyda phwyslais ar ei edrychiad
blaen. Ni fydd newid i’r edrychiad blaen gan fydd y gwaith dymchwel i gefn yr
adeilad yn golygu dymchwel estyniad
sylweddol o’r 1930au; fodd bynnag bydd y gwaith dymchwel yn golygu bod modd
codi estyniad sy’n darparu gofod pwrpasol ar gyfer sicrhau defnydd hirdymor o’r
adeilad gan Brifysgol Bangor fel rhan o’u campws presennol. Nodwyd bod gwaith
tirlunio, ail-osod y ddarpariaeth parcio a chreu mannau beics hefyd yn ffurfio
rhan o’r cais gyda bwriad i hwyluso’r cysylltiad drwy greu llwybr newydd i
gysylltu safleoedd y Brifysgol. Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Dinas Bangor ond
tu allan i’r ardal ganolig. Amlygwyd bod safleoedd y Brifysgol ger y safle
ynghyd a thai preswyl cyfagos. Yr adeilad yn adeilad rhestredig gradd II. O ystyried defnydd blaenorol y safle fel ysgol a
choleg, y polisi perthnasol oedd Polisi ISA 3 sy’n datgan y caniateir cynigion
ar gyfer cyfleusterau newydd neu estyniadau i adeiladau presennol ar gyfer
dibenion academaidd neu gefnogol cyn belled bod ystyriaeth i raddfa, lleoliad,
dyluniad, mwynderau a chludiant. O ran materion
dyluniad, ystyriwyd bod yr estyniad wedi ei ddylunio o gwmpas nodweddion
presennol yr adeilad oedd yn cynnwys defnydd lliw coch sydd o gwmpas y
ffenestri; yn ddyluniad modern cyfoes wedi ei leoli i gefn y prif adeilad fel
estyniad atodol. Ategwyd mai’r prif
adeilad fyddai’n parhau i fod y prif ffocws, a chyda nodweddion megis y to brig
ar yr estyniad yn cyd-fynd a’r hen adeilad, ystyriwyd fod y dyluniad yn
dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau PCYFF 2, PCYFF 3 a PS 20. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod datganiad trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn mynegi nad oedd bwriad newid nag addasu’r mynediad cerbydol presennol, ond i ail-osod y llecynnau parcio presennol o fewn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Dymchwel
estyniadau cefn a chodi estyniad deulawr newydd ag addasiadau mewnol i'r prif
adeilad AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol : 1. 5 mlynedd
2. Unol â’r
cynlluniau. 3. Amodau
heneb 4. Manylion
gwydriad eilradd i’w cytuno o flaen llaw. 5. Cytuno i
ail-ddefnyddio deunyddiau o’r adeilad i’w ddymchwel 6. Nwyddau
dŵr glaw alwminiwm 7. Manylion
manwl y paneli solar 8. Manylion
unrhyw oleuadau i’w cytuno 9. Manylion
unrhyw arwyddion i’w cytuno 10. Rhaid
cyflwyno manylion i sgrin wrth y grisiau cyn eu gosod 11. Rhaid cyflwyno manylion o sut i gofnodi
hoel y gampfa cyn eu dymchwel 12. Cyflwyno
samples o’r deunyddiau 13. Defnyddio
calch gydag unrhyw waith pwyntio / render Cofnod: Cais adeilad rhestredig i ddymchwel estyniadau cefn a chodi estyniad
deulawr newydd ag addasiadau mewnol i'r prif adeilad a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod rhan o’r prif adeilad, sy’n weladwy o Ffordd Ffriddoedd, yn
adeilad deulawr trawiadol iawn o garreg ac wedi ei godi oddeutu 1899. Adroddwyd
bod tystiolaeth yn bodoli yn dangos fod yr ysgol wedi esblygu a datblygu dros
amser, ac erbyn y 1940au dyma’r adeilad sydd mewn bodolaeth - adeilad wedi ei
restru gradd II. Nodwyd bod dau adeilad
arall ar wahân yn ffurfio rhan o’r safle, ond nid ydynt yn ffurfio rhan o’r
cais. Y bwriad yw dymchwel y rhan deulawr cefn a ychwanegwyd yn y 1930au a
chodi estyniad deulawr newydd, modern er galluogi cael ystafelloedd dysgu i
fyny at safonau modern. Byddai’r estyniad wedi ei orffen yn gymysg o bric llwyd
golau / coch a chladin alwminiwm coch. Bydd yr edrychiad blaen, sef yr
edrychiad deheuol sydd yn wynebu Ffordd Ffriddoedd yn parhau fel y mae, gan mai
hwn yw’r darn gwreiddiol. Ar ochr orllewinol y prif adeilad, bwriedir tynnu’r
porth ceir presennol ynghyd a thynnu offer peirianyddol awyru oddi ar y to a
gosod awyrellau newydd. Yng nghyd-destun addasiadau mewnol, bwriedir tynnu llawer o waith modern
sydd wedi ychwanegu dros amser, cau agoriadau presennol ac agor rhai newydd,
tynnu nenfydau ffug, gosod waliau rhannol newydd, tynnu wal fewnol ond cadw’r
rhannau ar yr ochr, atgyweirio’r ffenestri ynghyd â thynnu plaster modern oddi
ar y waliau. Mae sawl drws gwreiddiol
hefyd yn bodoli a bwriedir eu cadw a’i ail-ddefnyddio. Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais oedd yn amlygu bod rhan o’r adeilad a fwriedir ei
ddymchwel yn eithaf cyfoes efo’r prif adeilad, fodd bynnag, oherwydd diffyg
sylweddol o ran gwaith cynnal a chadw dros amser, nodwyd bod y rhan yma mewn
cyflwr gwael ac nid yw maint a gofod yr ystafelloedd yn addas i ofynion y
Brifysgol fel neuadd ddarlithio. Ategwyd er bod cofnod helaeth wedi ei wneud
o’r adeilad, gyda rhannau cefn yn bwysig o ran datblygiad a hanes y safle, nid
yw’n bosib trosi'r rhain i ddefnydd darlithio ac ystyriwyd y byddai eu dymchwel
a darparu gofod mwy addas yn darparu dyfodol hir dymor i’r safle. Nodwyd hefyd
bod ymdrech wedi ei wneud i ail-ddefnyddio’r deunyddiau o’r rhan sydd i’w
ddymchwel a chadw hoel siâp y gampfa ar y llawr o fewn yr estyniad newydd i
gadw tystiolaeth o’r lleoliad. Bydd y gwaith mewnol yn golygu dileu nodweddion
anaddas modern ac adfer elfennau hanesyddol a nodweddiadol yr adeilad. Eglurwyd bod yr estyniad o ddyluniad modern sy’n gweddu nodweddion dyluniad a lliwiau gorffeniad y prif adeilad; y cynllun o’r edrychiad blaen yn dangos rhannau o’r estyniad newydd yn weladwy, ac yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol sy’n rhoi ystyriaeth i natur y tir sydd yn codi oddi ar y brif ffordd, ni fydd yr estyniad yn weladwy o’r blaen. Er yn weladwy o’r ochrau eraill, ystyriwyd y byddai hyn yn dderbyniol o ran gweld yr adeilad yn ei gyfanrwydd ac ni fyddai’r estyniad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Cais Rhif C25/0710/41/LL Tir Cyfagos Brynhyfryd / Cae Capel, Chwilog, LL53 6SF Codi 25 o
dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354 ynghŷd â gwaith
cysylltiedig AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais yn groes i’r
argymhelliad Rheswm: Ar sail diffyg angen am y tai
fforddiadwy sydd wedi eu lleoli ar y rhan o’r safle sy’n ffurfio safle eithrio O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio
at gyfnod cnoi cil ac yn dychwelyd i’r Pwyllgor ar ddyddiad arall gydag
adroddiad yn amlygu risgiau sydd yn codi o’r rheswm gwrthod yma a’r rhesymau a
nodwyd gan yr Aelod Lleol yn ystod y Pwyllgor. Cofnod: Tir cyfochrog
â Brynhyfryd / Cae Capel, Chwilog, LL53
6SF Codi 25 o dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354
ynghyd â gwaith cysylltiedig a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod mwyafrif o ardal y cais llawn yma o fewn safle oedd wedi ei
dderbyn a’i glustnodi fel un addas ar gyfer datblygiad preswyl trwy ei
ddynodiad ffurfiol yn y CDLl ar gyfer y bwriad
penodol yma. Nodwyd bod statws pentref Chwilog (pentref a ddiffinnir fel
Pentref Gwasanaeth o fewn y CDLl) yn golygu mai tai
newydd ar gyfer gwasanaethu Gwynedd yn ei gyfarwydd sydd yn ddisgwyliedig ar
gyfer y safle fel yn achosion safleoedd cyffelyb eraill sydd wedi eu dynodi
trwy’r Sir. Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhan yng ngogledd orllewin y safle y
tu allan i ddynodiad y ffin datblygu ei hun ac felly ystyriwyd y rhan yma fel
safle eithrio. Eglurwyd bod ffordd gyhoeddus dosbarth 2 y
B4354 yn rhedeg yn gyfochrog gyda ffin ogleddol y safle; bod tai preswyl yn
ymylu yn uniongyrchol gyda ffin ddwyreiniol y safle, a thai preswyl hefyd yr
ochr arall i’r ffordd i’r gogledd. Nodwyd bod rhan o’r safle sydd y tu allan
i’r ffin datblygu yn ymylu gyda rhan gogledd orllewin y prif safle ac yn
bresennol yn ffurfio rhan o gwrtil eiddo preswyl cyfochrog - fferm Brynhyfryd. Bydd y cynnig, yn benodol, yn cynnwys 6 fflat
un ystafell wely, 9 tŷ dwy ystafell wely, 8 tŷ tair ystafell wely a 2
byngalo dwy ystafell wely – y datblygiad arfaethedig yn cynnig tai 100% o dai
fforddiadwy gyda chymysgedd o ran deiliadaeth yn cael ei ddarparu. O ran
edrychiad, bydd y tai wedi’u gorffen mewn cymysgedd o ddeunyddiau i gyfleu
gwahanol arddulliau ac i amrywio’r edrychiad ar y safle. Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio eisoes
wedi cymeradwyo'r egwyddor o ddatblygiad preswyl ar y safle dynodedig yma ar
dri achlysur yn y gorffennol, ac fe amlygwyd bod yr ystyriaethau polisi a wnaed
i’r ddau gais ddiweddar yn parhau yr un fath – ystyriwyd bod cyfiawnhad ac
angen ar gyfer y bwriad, a’i fod yn parhau i gyfarch anghenion y gymuned leol.
Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais gan yr Uned Strategol Tai yn dangos yr
angen yn glir. Yng nghyd-destun y tir sydd y tu allan i’r ffin datblygu a’r dynodiad sy’n ffurfio safle eithrio, eglurwyd mai gofynion polisi TAI 16 oedd yn berthnasol i’r elfen yma o leoli 4 tŷ yn y rhan yma o’r safle (2 dŷ tair ystafell wely, 1 tŷ dwy ystafell wely ac 1 byngalo dwy ystafell wely). Ategwyd, o ran ystyriaeth i’r galw am y 4 tŷ, mae diffiniad lleol ar eu cyfer sy’n cynnwys pentref Chwilog ei hun ynghyd a’r ardal wledig gyfagos (sef pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned sy'n cael ei rhannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin ddatblygu unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli). Amlygwyd bod gwybodaeth ar gyfer yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Cais Rhif C25/0947/25/EIA Isorsaf Pentir, Bangor, LL57 4ED Amnewid
ceblau tanddaearol presennol a gosod ceblau tanddaearol traws-safle newydd yn
is-orsaf presennol Pentir yn ogystal a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod: Amnewid ceblau tanddaearol presennol a gosod
ceblau tanddaearol traws-safle newydd yn is-orsaf bresennol Pentir yn ogystal â
gwaith cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
- cyfarwyddyd i osod amod gan Uned
Trafnidiaeth Y Cynulliad a)
Amlygodd
y Swyddog Cynllunio bod y bwriad yn rhan o brosiect ehangach ar gyfer
atgyfnerthu llinellau uwchben a cheblau ar y cylchedau presennol rhwng
is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd; y Prosiect yn rhan o'r uwchraddiadau
trawsyrru rhwydwaith ehangach sydd eu hangen i hwyluso'r gwaith o gysylltu 50
Gigawat o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Eglurwyd y byddai’r gwaith arfaethedig yn
cael ei gynnwys yn llwyr o fewn ôl-troed presennol Is-orsaf Pentir ac yn
defnyddio’r ffordd fynediad presennol, yr ardaloedd storio, y cyfleusterau
lles, ystafelloedd swyddfa, a’r maes parcio staff. Cyfeiriwyd at y Datganiad
Amgylcheddol oedd yn darparu trosolwg o'r Prosiect, y prif ddewisiadau amgen a
gafodd eu hystyried wrth ddatblygu'r Prosiect (lle bo’n briodol), gwybodaeth am
yr amgylchedd presennol, ac asesiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y
Prosiect. Lle bo’n briodol, nodwyd bod mesurau lliniaru wedi cael eu cynnwys i
osgoi, atal, lleihau neu wrth bwyso effeithiau amgylcheddol niweidiol
arwyddocaol. Bydd cynyddu capasiti ar y llinell drawsyrru
bresennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd yn cael ei nodi fel cam y
mae angen ei gymryd ar frys i ddarparu mwy o gapasiti trawsyrru, ac yn cael ei
gydnabod gan Ofgem Cyfeiriwyd at bolisi ISA 1 sydd yn gefnogol i
gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth
leol, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl. Yng nghyd-destun polisi ADN 3,
er nad yw’r datblygiad yn gynllun ynni adnewyddadwy ynddo’i hun, byddai’n
ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a ellid ei ddefnyddio wrth reoli’r
cyflenwad adnewyddadwy. I’r perwyl hynny gellid ei ystyried yn rhan o’r
rhwydwaith ynni adnewyddadwy. Gwnaed asesiad trylwyr o’r meini prawf perthnasol
ac ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol o ran egwyddor ac yn cydymffurfio gyda
Maen Prawf 1 Polisi ADN3 o safbwynt bod
yr holl effeithiau wedi eu lliniaru yn ddigonol. Yn yr un modd nodwyd bod
polisïau PCYFF 5, PS 5 , PS 6 a PS 7 yn gefnogol o gynlluniau i ddatblygu
technolegau adnewyddadwy sy’n cyfrannu tuag at amddiffyn yr amgylchedd a
lliniaru newid hinsawdd a’r cynllun yma felly yn cwrdd gydag amcanion y
polisïau hyn. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a
mynediad, unwaith y bydd yn weithredol ni fydd unrhyw alw am fynediad cerbydol
ychwanegol i’r safle ac ni fydd unrhyw effeithiau hirdymor ar ddiogelwch y
briffordd yn deillio o’r datblygiad. Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth Y Cynulliad
yn fodlon gyda’r datblygiad yn ddarostyngedig i amodau ac o ganlyniad ystyriwyd
fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 o’r CDLl o
safbwynt diogelwch a hwylustod y briffordd. O ran materion treftadaeth ac archaeoleg, amlygwyd bod nifer o Henebion Rhestredig yng nghyffiniau'r safle. Nododd Heneb bod yr asesiad desg yn un trylwyr iawn ac wedi’i ysgrifennu’n dda ac roeddynt yn cytuno a chasgliad yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA); y cais felly yn dderbyniol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |