Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Simon Glyn,
Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Huw G. Wyn
Jones a Dilwyn Lloyd. Amlygodd y Swyddog
Monitro oherwydd y nifer ymddiheuriadau na fyddai cworwm ar gyfer eitemau 5.4, 5.5
a 5.9 ac felly na fyddai modd cynnal trafodaeth ar y materion hyn. Mewn ymateb i’r
sylw awgrymwyd y dylid gwneud cais i’r Cynulliad ail ystyried eu rheoliadau
cworwm ac ail gyflwyno trefn eilyddion. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0656/42/LL)
oherwydd ei fod wedi holi am randir i gwmni Knights. Datganodd y Cynghorydd Owain Williams
fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0656/42/LL) oherwydd bod ei fab wedi holi am randir i gwmni Knights Datganodd y Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd-Jones a Berwyn Parry Jones fuddiant personol, yn
eitemau 5.4, 5.5 a 5.9 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau
C17/0656/42/LL, C16/0564/35/LL
a C17/0844/09/LL) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol
Gwynedd. Datganodd y Cynghorydd Eirwyn Williams
fuddiant personol yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais rhif C16/0564/35/LL) oherwydd
bod ei ferch yn byw yn Gerddi Arvonia Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0628/39/LL); ·
Y Cynghorydd Aled Ll. Evans, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0565/41/LL); ·
Y Cynghorydd Judith
Humphreys, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.6 a 5.7
ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C13/0217/22/MW a
C17/0455/22/LL); ·
Y Cynghorydd Eric M.
Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif
C17/0826/17/LL); ·
Y Cynghorydd Sion Wyn Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.10 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0893/18/AM). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar
6 Tachwedd 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli PDF 276 KB Adeiladu tŷ
fforddiadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Angela Russell Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
tŷ fforddiadwy. Ar
gais y swyddogion gohiriwyd y penderfyniad oherwydd bod llythyr wedi dod i law
yn codi amheuaeth dros fforddiadwyaeth y tŷ bwriededig oherwydd ei
leoliad. Amlygwyd bod angen gwell dealltwriaeth am werth marchnad agored y tŷ, beth sydd
ar werth yn lleol ac os
oedd cyfiawnhad am eithriad gwledig. PENDERFYNWYD gohirio y cais. |
|
Cais Rhif C17/0656/42/LL - Maes y Garn, Stryd Fawr, Nefyn PDF 305 KB Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod
yn dŷ fforddiadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu 5 o dai unllawr gydag un i fod yn
dŷ fforddiadwy. Roedd
yr Aelodau wedi ymweld â’r safle (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais wedi bod gerbron Pwyllgor Cynllunio 25 Medi 2017 lle
penderfynwyd gohirio y cais er mwyn i‘r aelodau ymweld â’r safle ac i’r
ymgeisydd gael cyfle i ymateb i’r rhestr aros am randiroedd a dderbyniwyd gan
Gyngor Tref Nefyn. Eglurwyd bod y tir oedd hefyd ym
mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10
o dai annedd deulawr. Fel rhan o’r
caniatâd hwnnw, roedd bwriad cadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd ac
mae amod ar y caniatâd cynllunio hwnnw C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma
yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd. Amlygwyd bod yr ymgeisydd (yn Medi 2016) wedi cynnal arolwg o’r rhandiroedd
yn Y Ddol (dafle dros dro) i asesu faint o’r 21 oedd
mewn defnydd. O’r wybodaeth a gyflwynwyd
dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd cynllunio oedd yn cael eu
defnyddio. I’r gwrthwyneb roedd Cyngor
Tref Nefyn wedi nod bod 37 enw ar restr aros am randiroedd. Ni dderbyniwyd copi
o’r rhestr aros yma. Cyfeiriwyd at y dystiolaeth oedd ar gael ac sut ‘roedd hwn
wedi ei asesu yng nghyd y galw am randiroedd a’r cyd-destun polisi. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Nefyn ac
felly rhaid oedd ystyried yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer tai o dan
Bolisi TAI 2 CDLL. Nodwyd bod y
polisi yn gefnogol i ddarparu tai o fewn
ffin ddatblygu canolfannau gwasanaeth lleol.
Fel rhan o’r cais amlygwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo cytundeb
106 yn clymu un o’r tai fel uned fforddiadwy.
Byddai hyn yn gyfwerth ac 20% o’r tai ac sydd yn fwy na’r gofyn ar gyfer
Nefyn, ac ystyriwyd yn sgil arwyddo cytundeb 106 tai fforddiadwy byddai yn
clymu un o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy, y byddai’r bwriad yn bodloni
gofynion Polisi TAI 15. Yn ychwanegol,
byddai 4 o’r unedau gydag arwynebedd llawr mewnol o oddeutu 56 medr sgwâr sydd
oddi fewn i’r uchafswm maint tai fforddiadwy unllawr
dwy ystafell wely a argymhellir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy
sef 80 medr sgwâr. Roedd y
datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:- ·
Bod
angen gwarchod rhandiroedd Maes y Garn oherwydd pwysigrwydd y safle o fewn hanes
Nefyn ·
Mai
safle dros dro yn unig
oedd Y Ddol a byddai dymuniad i ddychwelyd i
Maes y Garn unwaith y byddai’r cais cynllunio
wedi ei gwblhau ·
Nad oedd tir Y Ddol yn
addas – yn dir gwael, gwlyb
gyda nifer o’r garddwyr wedi
colli cnydau dros y tymor diwethaf ·
Bod
gwelliannau i safle Y Ddol wedi
ei gweithredu, ond nid oedd
hyn wedi gwella cyflwr y tir · Yn dilyn hysbysiad yn Llanw Ll ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli PDF 272 KB Dymchwel tŷ
presennol a chodi tŷ newydd yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le. Roedd
yr Aelodau wedi ymweld â’r safle (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio
16 Hydref 2017 lle penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn i’r aelodau ymweld â’r safle.
Eglurwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel tŷ unllawr presennol ar y safle ac adeiladu tŷ newydd
deulawr yn ei le ynghyd â gwaith cysylltiol. Dyluniad modern oedd i’r tŷ bwriededig gyda tho brig sinc a’r waliau wedi eu gorffen
gyda chyfuniad o rendr gwyn a byrddau pren a charreg.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac oddi fewn i ffin
datblygu Abersoch, gyda rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin. Ategwyd bod y safle o fewn dynodiad yr Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn.
Nodwyd bod y polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a
ddefnyddiwyd o’r blaen ar gyfer datblygiadau yn hytrach na defnyddio tir
gwyrdd. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y
materion a nodwyd yn yr adroddiad ac na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn
debygol o amharu ar fwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd nac yn cael
effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:- ·
Ei fod wedi ystyried pryderon
y cymdogion ·
Bod yr addasiadau yn welliant
ac yn tacluso’r safle ·
Bod addasiad o do sinc i do
llechi yn cydymffurfio yn well gyda thai eraill yr ardal ·
Mai defnydd fel cartref fydd
i’r eiddo ac nid tŷ gwyliau; ·
Nad oedd ganddo bellach
wrthwynebiad i’r cais (c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
sylwadau yr Uned AHNE o fewn yr adroddiad yn aneglur – anodd dehongli os ydynt
o blaid y bwriad neu beidio ·
Bod Cyngor Cymuned / Tref
yn gwrthwynebu ·
Bod yr addasiadau yn
dderbyniol PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn
ddarostyngedig i'r amodau a ganlyn: 1. 5
dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a chynllun diwygiedig. 3. Llechi
i’r to. 4. Tynnu
hawliau caniataol ar estyniadau i’r tŷ. 5. Cyflwyno manylion sgrin
preifatrwydd cyn meddiannu'r tŷ. 6. Cadw
/ diogelu lle troi 7. Defnyddiau
( yn cynnwys elfen carreg fel nodwedd yn y dyluniad). 8. Amodau
Dŵr Cymru. |
|
Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir Bro Sion Wyn, Chwilog PDF 244 KB Cais i godi tŷ deulawr
marchnad agored. AELOD
LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
i godi tŷ deulawr farchnad agored Nid oedd modd trafod
y cais yma oherwydd nad oedd
cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor
nesaf |
|
Cais Rhif C16/0564/35/LL - Tir gwag Waen Helyg, Waun Helyg, Cricieth PDF 272 KB Cais i godi 10 uned fforddiadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
i godi tŷ deulawr farchnad agored Nid oedd modd trafod
y cais yma oherwydd nad oedd
cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor
nesaf |
|
Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Deddf yr
Amgylchedd 1995. Cais i benderfynu ar amodau i ailgychwyn safle tywod a graean
segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr, 1951 - cae rhif 297,
Cae Efa Lwyd, Penygroes (a)
Pwysleisiodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai cais ydoedd am Adolygiad Safleoedd Mwynau o
dan Ddeddf Cynllunio yr Amgylchedd 1995 ar gyfer cymeradwyo cynllun gwaith a
rhestr o amodau ar safle mwynau segur. Ategwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor
Cynllunio wrthod y cais ac mai cytuno ar
amodau newydd oedd gerbron. Amlygwyd bod angen cymhwyso amodau llawn,
modern y dylai datblygiad y chwarel fod yn ddarostyngedig iddynt. Eglurwyd na
ellir yn gyfreithiol ailgychwyn caniatadau segur heb fod cais wedi ei wneud i’r
Awdurdod Cynllunio Mwynau (ACM) a bod amodau modern llawn wedi eu cymeradwyo.
Cynigiwyd rhestr o amodau cynllunio newydd gan yr ymgeisydd ynghyd a rhestr
diwygiedig o amodau gydag addasiadau gan yr ACM. Nodwyd bod yr ACM wedi herio
amodau’r ymgeisydd ac wedi cynnig amodau rhesymol oedd yn cynnwys rheolaethau
llwch, cyfyngiadau sŵn ynghyd a chyfyngu oriau gwaith. Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr angen
iddynt hefyd wneud penderfyniad ar gais cynllunio perthnasol / arwahan ar gyfer
creu mynediad newydd i gerbydau wasanaethu’r pwll tywod a graen o dan gyfeirnod
C17/0455/22/LL. Yn ogystal â chymeradwyo'r cynllun gwaith a’r amodau gofynnwyd
hefyd i’r Pwyllgor ystyried amserlen y gwaith gyda dewis o 4 blynedd a chloddio
100,000 tpa a chreu mynedfa newydd, neu 8 mlynedd a chloddio 50,000tpa yn
defnyddio'r fynedfa bresennol. Amlygwyd bod nifer o wrthwynebiadau
wedi eu derbyn ynghyd a deiseb yn gwrthwynebu ar sail effeithiau ar fwynderau
trigolion cyfagos. (b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau
canlynol: ·
NA
i ail agor y chwarel. NA i’r Pwll Gro ·
Anghysondebau
mawr yn yr adroddiad a’r asesiadau ·
Dylid
defnyddio synnwyr cyffredin ·
Bod
posib cloddio mewn tri chae arall cyfagos - hyn yn codi amheuon trigolion ·
Bod
tai cyfagos o fewn 30m i’r chwarel ·
Chwerthinllyd
yw defnyddio geiriau megis ‘limited
impact’ ·
Derbyn
bod amodau ar gyfer golchi lorïau, ond beth am ddillad a byd natur ·
Bod
diogelwch iechyd dynol yn flaenoriaeth (c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd, y pwyntiau canlynol: ·
Bod
y chwarel yn cyfrannu at yr economi leol ·
Byddai’r
gwaith yn cyflogi 15 swydd llawn amser ·
Bod
y graean o safon dda ac yn cael ei brosesu yn lleol ·
Bod
manteision i’r cais amgen fyddai yn cyfyngu cloddio i 4 mlynedd yn hytrach na 8 ·
Bod
trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r ACM a bod cytundeb ar rai ohonynt ·
Bod
modd cydymffurfio yn effeithiol. (ch) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau
canlynol:- ·
NA
i’r Pwll Gro ac NA i’r Fynedfa Newydd ·
Byddai
llygredd a sŵn am flynyddoedd ·
Esgor pryderon – effaith ar fwynderau a lles
trigolion cyfagos ·
Bod
safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd yn bodoli yn 1951 · Bod anghysondebau yn yr asesiadau ac yn yr ymchwiliadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes PDF 413 KB Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd
Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol Awgrymwyd gohirio y cais gan fod angen ymdrin â chais C13/0217/22/MW a C17/0455/22/LL gyda'i gilydd. PENDERFYNWYD gohirio y
cais |
|
Cais Rhif C17/0826/17/LL - Crud y Nant, Bethesda Bach, Caernarfon PDF 257 KB Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M. Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i safle storio
cychod/carafanau presennol (a)
Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn
ydoedd ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae
agored ar gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50. Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail diogelwch
ffyrdd gan fod y bwriad yn gynnydd sylweddol yn y niferoedd o unedau a fwriedir
eu cadw ar y safle ac o ganlyniad y nifer o gerbydau'n tynnu carafanau fyddai
yn debygol o ddefnyddio'r ffordd gul rhwng y safle a'r A499 ym Methesda Bach. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar fryncyn agored
yng nghefn gwlad agored oddi fewn i ardal a ddiffinnir gan y ddogfen Asesiad
Capasiti a Sensitifrwydd yn ‘dirlun tonnog amaethyddol sy'n cynnwys caeau o
raddfa fechan ynghyd â phatrwm caeau anwastad ac afreolaidd sydd â golygfeydd
eang o'r tirlun ei hun’. Buasai
caniatáu’r cais cyfredol hwn yn amharu'n andwyol ar batrwm a chymeriad y tirlun
hwn. Byddai cynyddu'r nifer o garafanau teithiol o 10 i
50 (yn ychwanegol i'r 40 cwch sydd eisoes a chaniatâd yng Nghrud y Nant) yn
gynnydd sylweddol ei effaith ar ddiogelwch ffyrdd.. Mewn ymateb i'r
ymgynghoriaeth statudol roedd yr Uned Drafnidiaeth wedi mynegi eu gwrthwynebiad
i'r cais cyfredol hwn ar sail y byddai'r bwriad yn golygu cynnydd sylweddol yn
y niferoedd o unedau y bwriedir eu storio ar y safle. Gan ystyried bod y ffordd
i’r safle yn is-safonol ar sail ei natur gul a throellog ynghyd â diffyg mannau
pasio/encilfeydd, byddai’n creu anhwylustod i ddefnyddwyr sydd yn defnyddio a
gwasanaethu'r safle ac yn tanseilio egwyddorion diogelwch da Ystyriwyd bod safleoedd mwy addas ar gael yn lleol
ar gyfer defnydd storio (Defnydd Dosbarth B8) gydag enghraifft o gais diweddar
wedi ei ganiatáu ar gyfer storio carafanau teithiol a cherbydau oddi fewn i
Stad Ddiwydiannol Penygroes Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail
gofynion Polisi TRA4 o'r CDLL nac yn dderbyniol ar
sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd, diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl
na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol
cynllunio perthnasol. (b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd unigolyn ar ran yr ymgeisydd y prif
bwyntiau canlynol: ·
Bod
y safle yn saff (gyda theledu cylch cyfyng), yn hwylus ac wedi ei reoli yn dda ·
Ychydig
iawn o symudiad cerbydau oedd yn digwydd ·
Nad
oedd damweiniau ers sefydlu'r safle 12 mlynedd yn ôl ·
Mai
honiad yn unig oedd difrod i’r wal ·
Nad
oedd y busnes yn amharu dim ar gymdogion cyfagos ·
Y
byddai'r safle yn amlwg o dir uchel ond, wedi ei sgrinio yn dda gyda choed ·
Nad
oedd Cyngor Cymuned Llandwrog yn gwrthwynbu’r
cais ·
Bod
trafodaethau cychwynnol i gyfyngu cyflymder o 40mya i 30mya ar y briffordd. (c)
Nododd
yr Aelod lleol gefnogaeth i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol: · Bod y safle yn cynnig
gwarchodaeth dda · Bod trefniant da o
symud a rheoli'r safle · Dim gwirionedd i’r
honiadau o ddifrod i waliau · Bod yr ymgeisydd wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C17/0844/09/LL - Tir cyn Ganolfan Iechyd, Ffordd y Pier, Tywyn PDF 277 KB Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol. AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn
ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â
mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol Nid oedd modd trafod
y cais yma oherwydd nad oedd
cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor
nesaf |
|
Cais Rhif C17/0893/18/AM - Tir gyferbyn Stad Rhoslan, Bethel, Caernarfon PDF 260 KB Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ
fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd Tynnwyd
sylw at y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd
y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu gan nodi mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer
codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf par gyda chynllun i
greu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos. Eglurwyd bod
materion fel tirlunio a dyluniad yn cael eu cadw'n ôl ar gyfer eu
hystyried eto/ Amlygwyd bod safle'r cais wedi ei leoli oddi fewn i ffin
datblygu pentref Bethel fel y'i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
ac hefyd wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn
y Ddogfen Mapiau Gwynedd (cyfeirnod T58).
Mae Polisi PCYFF1 yn datgan caniateir cynigion
y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun,
polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill. Mae Polisi
TAI3 yn datgan yn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â strategaeth y
cynllun yn cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap
addas o fewn ffin datblygu. Mae Polisi
TAI 8 yn datgan dylai pob datblygiad preswyl newydd gyfrannu at wella
cydbwysedd tai a diwallu'r anghenion ar gyfer y gymuned gyfan. Ategwyd bod y
safle wedi ei leoli ar gyrion gorllewinol y pentref Rhagdybiwyd mai parhad o
ddeunyddiau oedd yn gyffelyb i'r tai cyfagos fydd yn cael eu defnyddio. Roedd
cynllun safle a gyflwynwyd gyda'r cais wedi ei selio ar drafodaethau
cychwynnol rhwng yr ymgeisydd a'r Uned Drafnidiaeth. Nid oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r trefniant yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol. Yng nghyd – destun isadeiledd amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd ynglŷn ag
addasrwydd y gyfundrefn garthffos gyhoeddus bresennol y pentref i ymdopi gydag
mwy o dai yn enwedig pan nad oedd gwelliannau wedi eu gwneud gan Dŵr Cymru
i gynyddu capasiti'r gyfundrefn i gymryd mwy o ddŵr wyneb a dŵr
aflan. Roedd y gwrthwynebwyr yn ymhelaethu drwy ddatgan dylid gwrthod y cais
hyd nes bod archwiliadau a gwelliannau wedi eu gwneud ar gyfer y
gyfundrefn. Adroddwyd, fel rhan o'r broses ymgynghori
statudol, ymgynghorwyd gyda Dŵr Cymru a derbyniwyd ymateb ganddynt yn
datgan petai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu caniatáu’r cais, y dylid
cynnwys amod sy'n atal unrhyw ddŵr wyneb neu/a dŵr ffo gysylltu yn
uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r rhwydwaith garthffos gyhoeddus. Er yn
cydnabod gwrthwynebiadau'r trigolion lleol ynglŷn â phroblemau presennol y
gyfundrefn gyhoeddus i ymdopi gydag ychwaneg o dai ym Methel rhaid oedd
ystyried ymateb ffurfiol Dŵr Cymru i'r cais cynllunio oedd yn datgan bod y
bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amod priodol. (b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau
canlynol: ·
Bod
problemau carthffosiaeth yn Bethel a bod y system yn ddiffygiol ·
Bod
gwastraff a budreddi yn codi i’r strydoedd ·
Bod
llanast difrifol yn ystod storm ddiweddar ·
Bod
y problemau yn amharu ar fwynderau trigolion y pentref · Bod y broblem yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C17/0725/38/AM - Glynllifon, Llanbedrog, Pwllheli PDF 300 KB Creu 13 llety gwyliau deulawr gyda parcio cysylltiedig ac ardal mwynderol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu 13 llety
gwyliau deulawr gyda pharcio cysylltiedig ac ardal mwynderol (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais amlinellol ydoedd gyda’r holl faterion
wedi eu cadw yn ôl. Nodwyd y byddai’r unedau i gyd wedi eu lleoli ar bwys
llethr serth ar derfyn dwyreiniol safle cefn gwlad sydd wedi ei leoli tu allan i ffin datblygu’r pentref mewn dyffryn coediog o
fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig
Llŷn a rhwng dwy Heneb Gofrestredig. Ymddengys o LANDMAP fod cyffiniau’r
cais wedi ei adnabod fel ardal weledol Mynydd Tir y Cwmwd sydd o safon weledol
“Uchel”. Roedd y safle yn cael ei
ystyried yn dirlun sensitif iawn. O ran lleoli datblygiadau newydd, datgan Polisi PCYFF 1 CDLl mai tir o fewn
ffiniau datblygu trefi a phentrefi fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau
newydd gyda’r polisi yn anelu i ddatgan yn glir fwriad yr Awdurdod Cynllunio Lleol
i beidio â chefnogi datblygiadau diangen yng nghefn gwlad. Ystyriwyd hefyd polisi TWR 2 CDLl sydd yn cefnogi
llety gwyliau hunanwasanaeth parhaol newydd, addasu adeiladau presennol neu
ymestyn sefydliadau llety presennol os yw’r dyluniad, gosodiad a gwedd y
datblygiad o safon uchel ac yn cydymffurfio gyda’r meini prawf. Tynnwyd sylw at bryderon sylweddol yr Uned AHNE ynglŷn â’r cais er mai
cais amlinellol ydoedd. Fodd bynnag,
ystyriwyd y byddai datblygiad o faint a graddfa yma yn sicr o gael ardrawiad
gweledol mewn dyffryn tawel o’r fath. Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn ymddangos yn
drefol ac allan o le mewn safle gweladwy, tawel, di-lygredd ac yn gwbl
ddatgymalog o’r pentref agosaf. O ystyried y buddion economaidd posib, ni
fyddai yn gorbwyso’r ffaith bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad gwbl anaddas
yng nghefn gwlad o fewn safle sensitif er nad oedd effaith niweidiol ar
drigolion cyfagos na gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth. Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol ystyriwyd nad oedd y bwriad oedd ar safle yng nghefn
gwlad yn dderbyniol mewn egwyddor a’i fod yn groes i bolisïau lleoli oedd yn
ymwneud gyda lleoli datblygiadau a chreu unedau hunan gwasanaethol newydd. Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. (b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol: ·
Bod
y cais wedi goresgyn 4 allan o 6 o’r meini prawf ·
Bod
gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno ·
Bod
yr adroddiad technegol yn dderbyniol gan yr uned trafnidaieth, bioamrywaith ·
Bod
y bwriad yn agos i’r ffin ddatblygu ac felly yn ‘dderbyniol’ ·
Bod
y cais yn cydymffurfio gyda 4 allan o 5 o ystyriaethau polisi TWR2 ·
Bod
yr effaith ar y tirwedd ehangach yn ‘isel’ ac nid yn ‘arwyddocaol’ ·
Bod
y cynllun oedd yn cael ei gynnig yn dderbyniol (c) Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
rhaid ystyried sylwadau AHNE a CADW ·
Bod
y cais yn groes i ofynion polisiau cenedlaethol a lleol PENDERFYNWYD ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |