Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’ nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Cofnod: a)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0003/18/MG) Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0040/35/LL) Y Cynghorydd Judith Humphreys (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0942/22/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’ nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1af o
Fawrth 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1af o Fawrth 2021 fel rhai cywir
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C19/0003/18/MG - Rhiw Goch, Clwt Y Bont, Deiniolen, Caernarfon, LL55 3DE PDF 352 KB Materion a gadwyd yn ol mewn
perthynas a cais C13/0611/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl o 17 o dai (yn
cynnwys 2 dy fforddiadwy) a mynedfa newydd – cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth
ychwanegol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran
yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais materion a gadwyd yn ol yn ddarostyngedig i:- Amodau:- 1. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. 2. Cydymffurfio
a gofynion y Caniatâd Draenio Tir Cwrs Dwr Cyffredin. Nodyn i’r ymgeisydd parthed cyngor
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud a thir halogedig. Cofnod: a) Ymhelaethodd yr
Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais.
Eglurwyd bod egwyddor y bwriad eisoes wedi
ei drafod a’i dderbyn o dan
y cais amlinellol, gyda’r cais gerbron
ar gyfer asesu’r elfennau graddfa,
golwg, tirweddu a mynedfa yn unig
oedd wedi eu cadw’n ôl.
Yn
ychwanegol i’r materion a gadwyd yn ôl, roedd
angen cydymffurfio gydag amodau oedd
yn ymwneud a chyflwyno manylion parthed:- (i)
cyflwyno
Archwiliad Desg er mwyn asesu risg
o lygredd dichonol ar y safle; (ii)
cyflwyno
gwybodaeth/eglurhad pellach parthed lliniaru effaith llifogydd; (iii)
cyflwyno
Datganiad Rheoli i’w gytuno gyda’r
Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer
y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r
safle; (iv)
cyflwyno
manylion darparu a gweithredu system rheoli dŵr hwyneb (v)
cyflwyno
manylion llwybr mynedfa i’r cwrs
dwr, gwelliannau i drefniadau’r fewnfa ynghyd a thynnu’r geuffos. Adroddwyd bod y safle wedi ei
leoli i’r de-orllewin o Ddeiniolen ar lecyn o dir
diffaith a oedd yn hanesyddol
wedi cael ei ddefnyddio at ddiben diwydiant cynhyrchu nwyddau dringo. Cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig gyda’r cais a nodwyd
bod y polisïau perthnasol ynghyd ag ymatebion
y cyfnod ymgynghori wedi ei cynnwys
yn yr adroddiad. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, roedd yr egwyddor o godi
17 tŷ ar y safle eisoes wedi
ei dderbyn. Gan ystyried gosodiad
y safle o fewn y tirlun ynghyd a’i
agosatrwydd at ardaloedd adeiledig, ni
ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael
effaith arwyddocaol ar osodiad, cymeriad
nag ar olygfeydd i mewn neu
allan o’r dirwedd hanesyddol hwn. Ategwyd bod y safle yn dirywio
ar sail mwynderau
gweledol ac yn ddolur llygad yn
y tirlun. Awgrymwyd y byddai caniatáu y cais yn debygol
o fod yn gam tuag at wella’r mwynderau gweledol yn y rhan yma
o’r pentref. Yn ogystal, gan
ystyried gosodiad a dyluniad y tai arfaethedig ar y safle mewn
perthynas â gosodiad a ffurf yr anheddau
cyfagos, ystyriwyd na fyddai effaith
sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau preswyl na chyffredinol yr anheddau hyn Adroddwyd bod bwriad creu mynedfa newydd fyddai’n disodli’r fynedfa bresennol ar gyfer y datblygiad tai oddi ar y ffordd sirol dosbarth III gyfagos. Er bod gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r cais ar sail diogelwch ffyrdd, roedd yr egwyddor o greu mynedfa newydd eisoes wedi ei dderbyn. Cyflwynwyd cynlluniau manwl ynghyd ag Asesiad Canlyniadau Llifogydd, Adendwm i’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd, Datganiad Manylion Rhyddhau Dŵr o’r Safle, Datganiad Gwaith ar gyfer cario allan gwelliannau i’r cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle ynghyd a Chytundeb Rheoli ar gyfer y cwrs dwr i ddiwallu gofynion y cais amlinellol. Ategwyd bod Uned Dŵr ac Amgylchedd y Cyngor caniatáu i’r ymgeisydd ymgymryd â gwaith gwelliant i’r cwrs dwr sy’n cynnwys gosod trap graean ac adeiladu siambr cilfach gyda sgrin chwyn iddo. Dylai’r gwaith sicrhau na fydd llifogydd yn deillio o’r cwrs dwr naill a’i i’r tai arfaethedig nag allan i’r ffordd gyfagos ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C20/0040/35/LL - Sibrwd Y Gwynt, Morannedd, Criccieth, LL52 0PP PDF 339 KB Codi tŷ preswyl newydd AELOD LLEOL:
Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio er mwyn cynnal traofdaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglyn a deunyddiau amgen ar gyfer y to a’r waliau allanol Cofnod: Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud a
chodi tŷ newydd a chreu mynedfa gerbydol oddi ar y ffordd stad bresennol.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Criccieth; ar
blot cul o fewn stad o dai amrywiol sydd ar lethr
sy’n codi tua chefn y safle, ac wedi ei leoli rhwng dau eiddo gydag
eiddo arall union o’i flaen gyferbyn a’r ffordd stad gul. Ategwyd bod y cais
wedi bod yn destun sawl cais cynllunio ac apêl - 6 cais cynllunio wedi ei wrthod
ar y safle yn y gorffennol a chaniatâd wedi ei roi ar y safle drwy apêl ar sail
y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o gais C08D/0870/35/LL, Cadarnhawyd bod y
caniatâd yma yn parhau yn fyw ar y safle Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Adroddwyd
bod yr adroddiad yn mynd i’r afael a’r materion hynny a godwyd yn yr apeliadau
blaenorol; ac yn asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cyfredol y Cynllun Datblygu
Lleol. Nodwyd
bod penderfyniadau apêl (gwrthod a
chaniatáu) ar y safle yn gosod yn glir fod potensial i eiddo deulawr ar y safle
yma beri goredrych ac effaith annerbyniol ar y trigolion gerllaw bob ochr ac
i’r blaen. Mae’r penderfyniadau apêl yn dibynnu ar leoliadau ffenestri a
lefelau llawr er mwyn sicrhau nad oes effaith andwyol
ar y tai cyfagos. Eglurwyd
bod y tŷ sydd gerbron erbyn hyn oddeutu 4m yn lletach a 1m yn hirach na’r
eiddo a ganiatawyd. Nodir fod yr eiddo wedi ei ddylunio gydag ongl ar y
blaen fel nad yw’r edrychiad yn edrych allan i’r un
cyfeiriad i gyd (i geisio osgoi goredrych). Mae’r annedd gerbron felly ychydig
yn is o ran crib y to na’r hyn a ganiatawyd ond yn lletach ac yn cynnwys mwy o
agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd nad
yw’r lleihad mewn uchder yn gyfaddawd am yr effaith andwyol o gynyddu ei led ac
ychwanegu agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael
effaith andwyol sylweddol yn fwy ar eiddo Pen y Bryn sydd wedi ei leoli yn
union o flaen y safle, na’r hyn a grybwyllwyd yn dderbyniol yn ystod apêl 2011.
Ystyriwyd fod maint yr eiddo (yn benodol ei led a’i swmp) yn golygu nad yw’r eiddo yn cydweddu a phatrwm adeiladu a dyluniad y
stad Nodwyd
bod materion trafnidiaeth, mynediad a draenio yn dderbyniol Ar sail yr asesiad, ystyriwyd fod y bwriad yn
annerbyniol oherwydd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn ystyried y
byddai’r tŷ gerbron, oherwydd ei faint (yn benodol ei uchder a’i led)
lleoliad y ffenestri/drysau a balconïau ar yr edrychiad blaen a’r lefelau llawr
gorffenedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd
rhesymol eiddo o flaen y safle. Argymhellwyd
gwrthod y cais am y rhesymau oedd wedi ei cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr a oedd wedi ei diwygio i gynnwys deunyddiau / gorffeniad
allanol. b) Yn manteisio ar yr hawl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C20/0986/45/LL - Y Llew Du, Ffordd Abererch, Pwllheli, LL53 5LE PDF 418 KB Dymchwel tŷ tafarn a chodi 6 tŷ ynghyd a
gwaith cysylltiol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dylan Bullard Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
wrthod y cais. Rhesymau 1. O ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni
ystyrir y byddai’r datblygiad yn gweddu nac o ymddangosiad derbyniol o fewn yr ardal
leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau fel rhan o’r
cynllun a diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol credir y byddai’n
or-ddatblygiad o’r safle ag yn niweidiol i fwynderau preswyl. Felly, ystyrir
bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2. Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai, diffyg cyfiawnhad yn amlinellu
sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol nac unrhyw
ddarpariaeth o dai fforddiadwy fel rhan o’r cais nid yw'r Awdurdod Cynllunio
Lleol yn ystyried y bwriad yn dderbyniol. O ganlyniad, credir bod y bwriad yn
methu cyfarfod gofynion polisiau TAI 1, TAI 8 a TAI 15 o fewn Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ynghyd a chyngor perthnasol a roddir o fewn
Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy a Cymysgedd Tai. 3. Er y cyflwynwyd dogfen a nodir fel Datganiad Cymunedol a Ieithyddol fel
rhan o’r cais, nid yw’n cynnwys gwybodaeth ddigonol ac o ganlyniad, ni chredir fod
digon o wybodaeth ar gael i asesu os yw’r bwriad yn unol â maen prawf 1c o
Bolisi PS1 sydd yn gofyn am ddatganiad iaith Gymraeg fyddai’n dangos sut byddai
datblygiadau arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg. Ar y
sail yma, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r
bwriad yn cael effaith ar yr Iaith Gymraeg yn ardal y cynllun 4. Ni chredir fod gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno sydd yn cyfiawnhau colli’r gyfleuster ar sail
gofynion perthnasol polisi ISA 2 yn ogystal â chyngor a roddir yn y Canllaw
Cynllunio Atodol: Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol,
safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu; sydd yn nodi'r angen i gadarnhau
trwy dystiolaeth bod ymdrechion wedi bod i farchnata’r eiddo’n addas. 5. Mae'r safle yn gorwedd o fewn ardal mewn risg o lifogydd dŵr wyneb
ag oherwydd na gyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fyddai wedi ystyried
datblygu diogel y safle ynghyd a dangos na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn
disodli dŵr wyneb tuag at eiddo eraill ni chredir fod y bwriad yn
dderbyniol ar sail risg llifogydd a’i fod o ganlyniad yn groes i faen prawf 8
polisi PS 5, maen prawf 4 polisi PS 6 ynghyd a chyfarwyddyd a roddir yn
mharagraff 11.1 o Nodyn Cyngor Technegol 15. 6. Ni gyflwynwyd arolwg rhagarweiniol ar gyfer rhywogaethau wedi eu
gwarchod o fewn y safle a’r adeiladau ac nid oes gwelliannau bioamrywiaeth yn
ffurfio rhan o’r bwriad. O ganlyniad, ni ellir sicrhau gwarchodaeth a
gwelliannau i fioamrywiaeth leol ac o ganlyniad credir fod y bwriad yn
annerbyniol o safbwynt gofynion meini prawf polisi AMG 5 ynghyd a chyngor a
roddir o fewn NCT 5. Cofnod: a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais
llawn oedd dan sylw ar
gyfer dymchwel tŷ tafarn deulawr presennol ac adeiladu 6 tŷ 2 neu 3 llofft mewn
rhes. Byddai’r tai yn 3 llawr ac yn
cynnwys y canlynol: ·
Llawr Daear: cyntedd,
toiled, ystafell iwtiliti, modurdy/gweithdy, ystafell wely/swyddfa ·
Llawr cyntaf: ystafell
fyw, cegin, ystafell ymolchi ·
Ail lawr: dwy ystafell wely (1 yn en-suite) Adroddwyd bod y safle
wedi ei leoli
o fewn
ffin datblygu tref Pwllheli, o fewn ardal breswyl
yn bennaf gydag ambell ddefnydd
masnachol gerllaw; mewn lleoliad amlwg
wrth ochr un o'r prif lwybrau
trafnidiaeth i mewn ac allan o dref. Nodwyd bod yr adeilad a'i
ddefnydd fel tafarn yn wag ar
hyn o bryd. Amlygwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol
ar sawl rheswm
oedd yn ymwneud
â ·
Cholled o’r dafarn ·
Diffyg cyfiawnhad am y tai ·
Diffyg cyfiawnhad am gymysgedd tai ·
Diffyg darpariaeth tai fforddiadwy Nodwyd pryderon
am ddyluniad, graddfa a dwysedd y datblygiad yn ogystal â diffyg
gofod mwynderol - ystyriwyd y cais fel gorddatblygiad
o’r safle ac y byddai’n cael effaith
andwyol ar yr ardal. Amlygwyd bod yr
asesiad yn amlygu diffyg gwybodaeth
ar sawl mater, megis bioamrywiaeth, llifogydd a draenio ac ieithyddol ac o ganlyniad nid oedd modd
asesu’r bwriad yn llawn. Argymhellwyd
gwrthod y cais oherwydd y rhesymau hyn. Ategwyd, oherwydd
y gwrthwynebiadau sylfaenol,
nid oedd y swyddogion wedi mynd yn ôl
at yr asiant i holi am wybodaeth
angenrheidiol nad
oedd yn ffurfio
rhan o’r cais. Nodwyd nad oedd cais am gyngor ymlaen llaw wedi
ei dderbyn. b)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
c)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Tafarn hanesyddol sydd wedi newid
dwylo lawer gwaith ·
Sgil effaith covid
19 yn debygol o amlygu pwysau cynyddol
ar ddatblygu - rhaid felly sicrhau'r angen fforddiadwy ·
Angen annog ymgeiswyr
i gymryd cyngor cyn cyflwyno
- awgrym o lawlyfr i amlinellu gwybodaeth
sydd ei angen
wrth gyflwyno cais ·
Angen amlygu datganiadau
iaith yn well ar y wefan PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i wrthod y cais. Rhesymau 1. O
ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni ystyrir y
byddai’r datblygiad yn gweddu nac o ymddangosiad derbyniol o fewn yr ardal
leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau fel rhan o’r
cynllun a diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol credir y byddai’n
or-ddatblygiad o’r safle ag yn niweidiol i fwynderau preswyl. Felly, ystyrir
bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2. Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai, diffyg cyfiawnhad yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol nac unrhyw ddarpariaeth o dai fforddiadwy fel rhan o’r cais nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Ail-leoli saith carafan o
fewn cwrtil maes carafannau presennol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dewi W Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda cynlluniau 3. Tirlunio 4. Cyfyngu i ddefnydd gwyliau 5. Cyfyngu defnydd lleiniau/cynllun adfer 6. Cyfyngu niferoedd Cofnod: a) Ymhelaethodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y bwriad
yn ymwneud a newidiadau o fewn maes carafanau sefydlog presennol trwy ail-leoli 7 carafán o’u lleoliadau
presennol yn wasgaredig o fewn y safle, i un safle.
Byddai'r gwelliannau a fwriedir eu gwneud
yn cynnwys, ·
adeiladu
clawdd pridd 1m o uchel gyda llwyni
ar ei ben ar hyd ymylon
yr unedau yn eu lleoliad
newydd. ·
cynnal
tirlunio a phlannu o fewn y llecynnau ddaw yn wag oddi
mewn i'r safle wedi ail leoli’r unedau. Eglurwyd, yn bresennol bod caniatâd cynllunio ar gyfer 62 carafán
sefydlog ar y safle a gan mai
ail-leoli 7 carafán bresennol i leoliad
newydd oedd y bwriad, ni
fyddai'r niferoedd carafanau yn cynyddu. Lleolir y safle
yng nghefn gwlad ac oddi fewn
dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Ceir mynediad i'r
safle ar hyd ffordd breifat
o'r ffordd ddosbarth cyhoeddus agosaf. Nodwyd bod gwrychoedd sefydledig ar hyd ffiniau’r
safle ac oddi mewn gyda thyfiant
gwasgaredig o goed yn ogystal. Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor gan fod ardal
y datblygiad yn fwy na’r hyn
y gellid ei benderfynu o dan y drefn ddirprwyedig. Ystyriwyd yr
addasiadau fel gwelliannu bwriadedig. Cyfeiriwyd at yr hanes cynllunio a’r ymatebion oedd
wedi eu derbyn
yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yn dilyn cynnal
asesiad llawn o’r materion cynllunio
perthnasol, ystyriwyd bod y
bwriad yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol. b) Amlygwyd bod yr Aelod Lleol
wedi nodi ‘ei fod yn
llwyr gytyn gydag argymhelliad a sylwadau'r Swyddog Cynllunio’. c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod angen sicrhau digon o le rhwng carafanau ·
Bod angen gwrthod ceisiadau i lenwi bylchau ·
Angen
sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio
gyda gosodiadau pellter ·
Angen
cadarnhad bod trwydded i’r safle ·
Unedau
gwyliau yn cynyddu mewn maint
– awgrym i leihau / adoylgu nifeoredd carafanau ar safeloedd os
yw’r unedau yn mynd yn
fwy Mewn ymateb i’r sylwadau
ynglŷn â sicrhau digon o le rhwng carafanau, nodwyd bod gofynion trwydded yn mynnu hyn
ynghyd a gofynion y Gwasanaeth Tan. Ategodd y Swyddog Monitro bod y drwydded yn seiliedig
ar ganiatâd cynllunio a bod y carafanau i’w gosod yn
unol ag amodau
caeth y drwydded. Nodwyd bod y cais gerbron, i ail-leoli 7 carafán, yn gais priodol
ac yn disgyn o fewn gofynnion polisi - petai’r maes carafanau
eisiau ehangu ymhellach, buasai rhaid cyflwyno cais o’r newydd. PENDERFYNWYD:
Caniatáu Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Tirlunio 4. Cyfyngu i ddefnydd gwyliau 5. Cyfyngu defnydd lleiniau/cynllun adfer 6. Cyfyngu niferoedd |
|
Cais Rhif C20/0942/22/LL - Tir ger Maes Dulyn County Road, Penygroes, LL54 6HE PDF 490 KB Cais ar gyfer codi 24 o dai, creu mynedfa newydd a ffordd stad mewnol,
cadarnhau llwybr cyhoeddus, gwaith draenio a gwaith cysylltiol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Judith Humphreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i dderbyn ymateb ffafriol gan Dwr Cymru ac i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan
Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol a
chyfraniad llecyn agored. Amodau 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r
dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. 3. Llechi
naturiol. 4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a
manylion y paneli solar i’w cytuno gyda’r ACLL. 5. Amodau
Priffyrdd. 6. Tirlunio
meddal a chaled. 7. Amodau
Bioamrywiaeth a Choed 8. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos,
08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc. 9. Manylion
Llwybr 10. Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi
allan y safle. 11. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy. 12. Tynnu hawliau
datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy. 13. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio
cerbydau’r adeiladwyr. 14. Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn
iddynt gael eu gosod 15. Amod mesurau
lliniaru archeolegol. 16. Diogelu’r
llecyn agored ar gyfer y dyfodol Nodyn:
Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio
cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor Nodyn:
Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos
gyhoeddus yn croesi’r safle Nodyn: Enwau Cymraeg
i’r tai yn ogystal a’r Stad/ffyrdd o fewn y stad ei hun Cofnod: Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar
gefndir y cais oedd yn gais llawn ar gyfer darparu 24 o unedau preswyl gyda
phob un ohonynt yn dai fforddiadwy. Cyflwynwyd y cais
gan Grŵp Cynefin (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig) ac yn gynllun ar y
cyd rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd. Eglurwyd bod y safle, sydd
eisoes ym mherchnogaeth Grŵp Cynefin, wedi ei leoli oddi fewn i ffin
datblygu Penygroes ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai fel
y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Rhennir y
cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys:- ·
Darparu unedau fforddiadwy sy’n cynnwys 10
tŷ 2 ystafell wely, 3 tŷ 3 ystafell wely, 2 tŷ 3 ystafell wely,
1 tŷ 4 ystafell wely ac 8 fflat 1 ystafell wely fydd ar gael ar ffurf
cymysgedd o ddeiliadaeth fforddiadwy sydd i’w gytuno. Darparu isadeiledd i
gynnwys ffordd stad a llwybrau troed cysylltiedig,
ffensys/rheiliau a waliau cerrig. ·
Darparu llecynnau parcio ar gyfer pob
tŷ, creu mynedfa newydd o’r ffordd sirol dosbarth II B4418 ynghyd a
darparu llwybr troed drwy’r safle i gydymffurfio a’r llwybr cyhoeddus sydd yn
ei groesi. ·
Darparu llecyn amwynder o fewn y safle
ynghyd a llefydd ar gyfer crynhoi dŵr a choridor bywyd gwyllt Adroddwyd
bod yr ymgeisydd wedi llwyddo i dderbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru i adeiladu’r holl
unedau preswyl fel rhai fforddiadwy. Cyfeiriwyd
at faterion tai fforddiadwy a chymysgedd tai.
Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Nodyn Tai Fforddiadwy. Eglurwyd y byddai’r tenantiaid
yn cael ei dewis drwy bolisi tai gosod
lleol. Amcangyfrifwyd bod 70 o geisiadau ar y gofrestr aros am dai cymdeithasol yn yr ardal a’r diffyg cyflenwad yn golygu
y byddai rhai yn aros yn hir am gartref. Ystyriwyd bod y bwriad yn gam mawr i’r
cyfeiriad cywir i gartrefu pobl yn eu hardal leol drwy ddatblygu cynllun o
ansawdd fyddai’n diwallu anghenion cydnabyddedig drwy ddarparu cymysgedd
briodol o unedau. Nodwyd
bod materion mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl a materion trafnidaieth
yn dderbyniol. Yng nghyd-detun materion llifogydd a draenio, nodwyd bod
Dŵr Cymru wedi cadarnhau bodlonrywdd bod yr asedau yn cael eu gwarchod
mewn ffordd briodol. Wrth
gyfeirio at faterion ieithyddol, adroddwyd bod datganiad iaith wedi ei gyflwyno
gyda’r cais ynghyd a diwygiad pellach. Ategwyd bod sylwadau pellach wedi eu
cyflwyno (22/3/21) gan yr Uned Iaith yn cadarnhau nad
oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais oherwydd bod y materion addysg a’r angen am
dai wedi eu cadarnhau. Adroddwyd
bod Swyddog Gwybodaeth yr Adran Addysg wedi nodi bod Ysgol Gynradd Bro Lleu
dros ei chapasiti ac o ganlyniad bod cyfiawnhad i ofyn am gyfraniad er mwyn diwallu’r
diffyg capasiti yma drwy gyfrannu swm penodol o £64,614. Ategwyd bod yr
ymgeisydd wedi derbyn cadarnhad gan swyddogion cynllunio bod angen cyfraniad
addysgol a gellid sicrhau hyn drwy arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran
106. Yng nghyd-destun llecynnau chwarae, amlygwyd bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar i blant yn yr ardal. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cynnig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |