Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth A Roberts, Louise
Hughes, John Pughe Roberts a Cai Larsen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod â buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Elin Hywel
(oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C22/0898/42/LL) ar y
rhaglen oherwydd cysylltiad teuluol Roedd yr Aelod o’r farn
ei bod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddi gymryd rhan yn ystod y drafodaeth
na phleidleisio ar y cais. b)
Datganodd
y swyddog canlynol ei bod â buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Miriam Williams (Gwasanaethau Cyfreithiol) yn eitem 5.4 (C24/0011/30/AM) ar y
rhaglen oherwydd ei bod yn adnabod yr ymgeisydd Roedd y Swyddog o’r
farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y
drafodaeth c)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Gareth Morris Jones (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0898/42/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C24/0011/30/AM) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18fed o Fawrth 2024 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Adeiladu
Capel Gorffwys Aelod
Lleol: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu - amodau
Nodiadau: SUDS Nodyn goruchwyliaeth
bioamrywiaeth Cofnod: Adeiladu Capel Gorffwys Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr a) Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd
yn ymwneud a chodi adeilad newydd
ar gyfer defnydd fel Capel Gorffwys. Nodwyd bod y cynllun llawr yn
dangos y bydd swyddfa, lle storio
oer, toiled, ardal llwytho a dadlwytho ar gyfer cerbydau
a gwagle ar gyfer Capel Gorffwys o fewn yr adeilad. Eglurwyd bod lleoliad y bwriad
yng nghanol pentref Morfa Nefyn ar ochr y briffordd
B4417 oddeutu 50m i ffwrdd i’r groesffordd
gyda’r B4412. Amlygwyd nad oedd adeiladau
eraill ar yr ochr yma i’r
ffordd yn y lleoliad yma (heblaw
am yr adeilad trefnwyr angladdau a thoiledau cyhoeddus presennol). Nodwyd bod y cais yn ail-gyflwyniad o fwriad a wrthodwyd o dan gyfeirnod
C22/0568/42/LL a bod asiant y cais
wedi darparu datganiad yn ymateb
i’r rhesymau gwrthod ar gyfer
y cais hwnnw. Yn wreiddiol, nid oedd yn
glir sut fyddai’r adeilad bwriedig yn gweithredu
gyda’r adeilad presennol ac nid oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais ynglŷn
ag union ddefnydd presennol
a bwriedig o’r gweithdy presennol. Erbyn hyn, mae gwybodaeth bellach wedi ei dderbyn,
sy’n cadarnhau fod yr ymgeisydd yn un o dri sydd
ar restr y crwner/heddlu ar
gyfer delio gyda galwadau brys
yn ardal Pen Llyn. Byddai’r adeilad newydd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer cadw’r hers, darparu oergell ac ystafell i’r teulu/meddyg ymweld â’r
ymadawedig. Eglurwyd bod yr adeilad presennol
yn rhwystredig oherwydd bod grisiau i lawr i’r
rhan sy’n cael ei ddefnyddio
fel oergell ar hyn o bryd
ac felly nid oes posib defnyddio troli er mwyn cydymffurfio
a gofynion iechyd a diogelwch.
Yn ogystal, mae bwriad prynu hers newydd ac ni fyddai
modd ei barcio
o fewn yr adeilad presennol oherwydd bod hyd yr hers newydd yn fwy sydd
yn golygu y bydd rhaid llwytho’r
hers y tu allan mewn lleoliad sy’n
agored i’r cyhoedd. Roedd yr ymgeisydd yn cadarnhau
y byddai’r busnes yn gweithio’n effeithiol
drwy ddefnyddio’r ddau adeilad ac roedd cynllun wedi
ei ddarparu yn dangos sut
mae’r adeilad presennol yn cael
ei ddefnyddio ynghyd a sut y bydd yn cael
ei ddefnyddio petai’r adeilad newydd yn cael
ei ganiatáu. Nodwyd hefyd fod cynllun safle diwygiedig
wedi ei gyflwyno
sy’n ymestyn safle’r cais er mwyn gwella’r mynediad
i mewn i’r
safle, darparu 3 llecyn parcio ychwanegol
ynghyd a lle i droi o fewn
y safle a chadw’r drysau mynediad cerbydol i mewn
i’r adeilad yn glir. M Roedd
Datganiad a Chynllun Seilwaith Gwyrdd yn cynnig plannu
gwrych a gosod blychau nythu ac ystlumod ar yr adeilad bwriedig hefyd wedi ei
gyflwyno. Amlygwyd bod y cais yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol. Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 28.11.2022
(ar gais yr ymgeisydd) er mwyn ceisio datrys materion
priffyrdd a chyflwyno gwybodaeth bellach. Yng nghyd-destun egwyddor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Codi 10
uned ddiwydiannol, mynediad newydd, parcio a thirlunio. Aelod
Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig
i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda: 1.
Amser 2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3.
Deunyddiau i gyd i’w cytuno 4.
Caniateir defnyddio’r Unedau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd
B1, B2 neu B8 5.
Amod tirlunio / gwelliannau bioamrywiaeth. 6.
Oriau Agor : 06:30 i 18:00 Llun i Gwener, 06:30 i 17:00 Dydd Sadwrn a
08:00 i 16:00 ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc 7.
Rhaid cyflwyno manylion unrhyw offer allanol a osodir ar yr adeilad 8.
Ni ddylid dod ag unrhyw uned i ddefnydd hyd nes bydd cysylltiad gyda’r
garthffos gyhoeddus wedi ei gwblhau. 9.
Dylid gweithredu’n unol a’r Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu a
gyflwynwyd 10. Amod Dŵr Cymru 11. Sicrhau arwyddion Cymraeg /
Dwyieithog Nodiadau 1. Dŵr Cymru 2. Uned Draenio Tir 3. Uned Iaith Cofnod: Codi 10 uned ddiwydiannol, mynediad
newydd, parcio a thirlunio Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn
ydoedd ar gyfer codi adeilad
ar lain gwag o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai. Nodwyd y byddai’r adeilad wedi ei
rannu'n ddeg uned, gyda'r bwriad
o gael caniatâd o fewn Dosbarthiad Defnydd B2 sef Diwydiant cyffredinol.
Er nad yn hollol berthnasol i’r cais, nodwyd
nad oes defnyddwyr
penodol eto ar gyfer yr unedau. O ran egwyddor y datblygiad adroddwyd bod y safle wedi ei leoli
y tu allan i’r ffin datblygu,
ond mewn rhan o safle sydd
wedi ei warchod
fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol o fewn y CDLl ar gyfer
defnyddiau B1, B2 & B8. Nodwyd,
gan fod y bwriad ar gyfer
defnydd B bydd yn cydymffurfio gyda pholisi CYF 1 sydd yn ymwneud
a gwarchod, dynodi ac amddiffyn tir ac unedau ar gyfer
defnydd cyflogaeth. Nodwyd y byddai llain o amgylch yr adeilad yn cynnwys 31 gofod
parcio a byddai’r mynediad yn cael
ei ddarparu trwy'r fynedfa gerbydol bresennol sy'n darparu mynediad
o'r ffordd fewnol sy'n gwasanaethu’r
parc busnes ehangach. Er yn eithaf mawr, (arwynebedd llawr o 995m2 ac yn 8.2m at frig
y to), byddai’r adeilad newydd o faint, dyluniad a defnyddiau a fyddai’n ddisgwyliedig oddi wrth adeiladau diwydiannol cyfoes. Ystyriwyd bod y dyluniad ac edrychiad yn dderbyniol
ac yn cydymffurfio gyda pholisi PCYFF 3. Yn ychwanegol, byddai effaith ar fwynderau
yn gallu cael ei reoli
gydag amodau sy’n ymwneud ag oriau agor ac unrhyw
beirianwaith allanol e.e. systemau echdynnu. Derbyniwyd datganiad yn rhoi ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg ac fel rhan o’r
broses ymgynghori, derbyniwyd
sylwadau yn amlygu pryder am effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg.
Mewn ymateb, derbyniwyd eglurhad gan yr ymgeisydd yn nodi na fydd
yn gallu hysbysu’r unedau ar gyfer tenantiaid
hyd nes bydd
y cais yn derbyn caniatâd Cynllunio. Er mwyn hybu’r iaith
Gymraeg roedd yr ymgeisydd wedi datgan ei barodrwydd
i gydweithio gyda’r Uned Iaith a chreu ffeil trosglwyddo
ar gyfer yr unedau fydd yn
ymrwymo’r tenantiaid i’r Cynnig Cymraeg sydd yn unol
â chyngor yr Uned Iaith. Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi
cael eu derbyn
gan yr Uned Trafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd
gwrthwynebiad i’r bwriad a bod datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei dderbyn
oedd yn cydymffurfio
gydag anghenion Polisi
Cynllunio Cymru. O ganlyniad, ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes
i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol
ar gyfer y safle ac yn debygol
o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir fel man cychwyn ar gyfer datblygiadau
busnes ar y safle. Roedd yr Awdurdod Cynllunio yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau. b)
Nododd y Cadeirydd bod yr Aelod Lleol
wedi ymddiheuro na allai fod
yn bresennol, ond roedd wedi
anfon y sylwadau canlynol drwy e-bost: Does gen i ddim gwrthwynebiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais llawn ar gyfer codi gweithdy/swyddfa
newydd, adeilad gweithdy/weldio ac uned golchi cerbydau ynghyd â thanc storio
tanwydd preifat a mannau ategol eraill Aelod Lleol: Cynghorydd Dewi Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau a’r holl ddogfennau
a gyflwynwyd fel rhan o’r cais 3. Lliw gorffeniad i’w gytuno 4. Cytuno manylion paneli PV 5. Cwblhau’r
tirweddu yn unol â’r cynllun a gynhwysir o fewn yr AEWT (Asesiad Effaith Weledol Tirwedd) 6. Rhaid
cwblhau’r gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol a’r hyn a gynhwysir yn adran 4 o’r
adroddiad ecolegol 7. Enw Cymraeg 8. Arwyddion Cymraeg 9. Amod canfod llygredd heb ei adnabod 10. Amodau Dwr Cymru 11. Rhaid
i’r cyfarpar/deunydd a fydd yn cael ei storio yn yr ardal storio allanol fod
ddim uwch na 4m. Nodiadau: Gwyliadwriaeth
Natur SUDS Ceisiadau mawr Llythyr Dwr Cymru Llythyr Cyfoeth
Naturiol Cymru Cofnod: Cais llawn ar gyfer codi gweithdy/swyddfa newydd, adeilad
gweithdy/weldio ac uned golchi cerbydau ynghyd â thanc storio tanwydd preifat a
mannau ategol eraill a) Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn
ydoedd gyda’r bwriad yn cynnwys
yr elfennau isod: ·
Adeilad Gweithdy a Swyddfa ·
Uned Gweithdy a Weldio ·
Uned Golchi Cerbydau ·
Ardal Storio Allanol ·
15 o lecynnau parcio
HGV ·
40 o lecynnau parcio gan gynnwys 3 anabl
a 8 pwynt gwefru EV. ·
Ardal storio beiciau Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli
ar Lon Cae Darbi (ffordd ddi-ddosbarth)
ar gyrion dwyreiniol Ystâd Ddiwydiannol Cibyn ac o fewn ffin ddatblygu
Caernarfon a safle cyflogaeth
i’w warchod. Ategwyd bod y safle wedi ei ddefnyddio
tan yn ddiweddar fel lladd-dy gyda’r
adeiladau erbyn hyn wedi eu
dymchwel o dan hysbyseb o flaen llaw C22/0431/14/HD. Nodwyd bod gwastraff rwbel a sgipiau yn parhau ar
y safle yn dilyn y gwaith dymchwel a’r llystyfiant
o gwmpas y safle wedi ei dorri
neu ei dynnu ymaith. Roedd y bwriad yn golygu
codi adeiladau ynghyd a’i ddefnyddio
ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau masnachol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cydnabuwyd fod y bwriad yn golygu
codi adeiladau sylweddol ar y safle, sydd erbyn
hyn yn weladwy
o ffordd osgoi Caernarfon. Cydnabuwyd bod y safle hefyd wedi ei
leoli o fewn Ystâd Ddiwydiannol bresennol ac yn ffurfio rhan o ddynodiad ar gyfer
ei warchod ar gyfer defnydd
cyflogaeth B1, B2 a B8. Byddai
adeiladau mewn cyswllt a’r defnyddiau
cyflogaeth yn sylweddol o ran eu natur ac mae’r cynlluniau trawsdoriad yn cadarnhau fod
y bwriad gerbron yn achosi effaith
weledol debyg i’r hyn sydd
wedi bodoli ar y safle yn
y gorffennol. Ategwyd bod bwriad darparu ardal storio allanol
ar y safle, ac y gellid cyfyngu uchder yr hyn a fydd yn cael
ei storio yma i 4m drwy
amod Cynllunio; rhan helaeth o’r coed a’r gwrychoedd oedd o gwmpas y safle wedi eu
torri ond bod bwriad tirweddu’r safle er mwyn digolledu’r
llystyfiant yma. Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei
leoli o leiaf 170m i ffwrdd o unrhyw
eiddo preswyl, gyda’r tai agosaf wedi eu lleoli
un ai ar y Stad Ddiwydiannol, neu'r ochr arall i’r
ffordd osgoi sy’n rhedeg heibio
cyrion y safle. Ar sail hyn, a bod y safle wedi ei
leoli ar Ystâd Ddiwydiannol bresennol yn gyfochrog
ag unedau diwydiannol presennol eraill, ni ystyriwyd y byddai’n debygol o gael effaith sylweddol
andwyol ar unrhyw drigolion cyfagos. Adroddwyd, yn ogystal â’r defnydd gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau masnachol bod bwriad darparu 15 o lecynnau parcio HGV, 40 o lecynnau parcio cyffredinol ( yn cynnwys 3 anabl a 8 pwynt gwefru EV) ac ardal storio beiciau. Amlygwyd bod Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu a Rheoli Amgylcheddol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dangos bwriad o ddefnyddio’r mynedfeydd presennol i’r safle ac ardal cylch droi cerbyd HGV o fewn y safle. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C24/0011/30/AM Bodernabwy, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BH PDF 312 KB Cais
amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl (edrychiad, tirlunio) ar gyfer
creu 5 llain hunan adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy. Aelod
Lleol: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cais amlinellol gyda rhai
materion wedi eu cadw yn ôl (edrychiad, tirlunio) ar gyfer creu 5 llain hunan
adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais amlinellol
oedd dan sylw i ystyried egwyddor y bwriad, manylion y fynedfa, gosodiad a
graddfa’r datblygiad. Nid oedd edrychiad a thirlunio yn ffurfio rhan o’r cais. Eglurwyd bod y safle presennol yn dir
amaethyddol agored gyda’r ffiniau oddi amgylch yn gymysgedd o wrychoedd
naturiol, cloddiau pridd a ffensiau postyn a weiren - y safle cyfan tu allan i ffin datblygu cyfredol
pentref Aberdaron ac felly’n safle i’w ystyried mewn cefn gwlad agored, gyda
rhannau o ffin ddeheuol y safle yn rhannol gyffwrdd a’r ffin datblygu. Ategwyd
bod y safle oddi fewn dynodiadau AHNE Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli. O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod
Aberdaron wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig / arfordirol yn y CDLl gydag oddeutu 95 o dai ac ychydig o gyfleusterau o
fewn y ffin datblygu – y ffigyrau tai diweddaraf yn dangos fod capasiti o fewn cyflenwad dangosol Aberdaron ar gyfer
datblygiad o’r raddfa yma. Gyda’r safle tu allan i’r ffin datblygu,
amlygwyd mai Polisi TAI 16 oedd y polisi perthnasol a bod angen ystyried
derbynioldeb y safle fel safle eithrio. Nodwyd yn yr ymateb ffurfiol a roddwyd
i’r ymholiad cyn cyflwyno cais, y byddai
angen tystiolaeth ar ffurf Datganiad Tai i gynnwys asesiad o angen ymgeiswyr
cymwys am dai fforddiadwy. Er hynny, derbyniwyd gwybodaeth ar ffurf holiadur
wedi ei gwblhau am gyswllt lleol 5 person/cwpwl. Amlygwyd mai’r wybodaeth yma,
yn ogystal â phennod o fewn y Datganiad Cynllunio yw’r cyfiawnhad dros yr angen
am y 5 tŷ yma, ac er bod cyfeiriad hefyd yn nodi bod yr unigolion hyn wedi
cofrestru gyda Tai Teg, nid oes unrhyw dystiolaeth wedi ei gyflwyno ar ffurf
asesiad i brofi gwir angen yr unigolion yma am dai fforddiadwy a’r math o dai
maent eu hangen. Nododd y swyddog ei bod yn gwbl hanfodol
fod ymgeiswyr am dai fforddiadwy yn cael eu hasesu’r llawn ar gyfer eu
hanghenion ac nad oedd ‘dyhead’ yn rheswm digonol dros yr angen am dŷ
fforddiadwy. Cyfeiriwyd at sylwadau’r Uned Tai lle nodi’r bod 6 o bobl ar
gofrestr Tai Teg am dŷ canolraddol, ond bod Tai Teg yn cadarnhau nad oedd
y 6, sydd ar eu cofrestr am eiddo canolraddol, wedi eu hasesu’n llawn ar gyfer
cynllun hunan adeiladu. O ganlyniad ni ystyriwyd fod yr angen wedi ei brofi ac
felly’r bwriad yn methu cwrdd gyda pholisi TAI 16. Cyfeiriwyd at Polisi TAI 8 sydd hefyd yn gofyn am ddatganiad tai ar gyfer cais o’r maint hwn er mwyn sicrhau cymysgedd priodol o dai. Adroddwyd na dderbyniwyd datganiad, er bod hyn wedi ei amlygu yn glir yn y cyngor cyn cyflwyno cais, a heb y wybodaeth yma nid yw’n bosib asesu’r cymysgedd a’r math o dai a ddarperir, eu pris fforddiadwy na sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Enghreifftiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |