Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth A Roberts a’r Cynghorydd Menna Baines
(Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y
Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4
C24/0205/32/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod aelod o Fwrdd Adra Roedd yr Aelod o’r farn
ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y
drafodaeth na phleidleisio ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Arwyn Herald Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5.1 C24/0363/17/LL ar
y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.4 C24/0205/32/LL
ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth T Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.5 C24/0478/42/DT ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn,
adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Cyfreithiol
fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y
pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29ain o Orffennaf 2024 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C24/0363/17/LL Tir ger Bryn Llifon, Carmel, LL54 7RW PDF 241 KB Adeiladu tŷ fforddiadwy ynghyd a chreu
mynedfa gerbydol i'r ffordd sirol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn Herald Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
yn groes i’r argymhelliad 1.
5 mlynedd 2.
Unol a’r cynlluniau 3.
Deunyddiau 4.
Tynnu hawliau a ganiateir a defnydd C3
yn unig 5.
Amod 106 Tŷ Fforddiadwy 6.
Tirweddu a draenio tir a manylion ffin, 7.
Amod bioamrywiaeth/gwelliannau
bioamrywiaeth 8.
Enw Cymraeg i’r eiddo Cofnod: Adeiladu tŷ
fforddiadwy ynghyd a chreu mynedfa gerbydol i'r ffordd sirol. a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi tŷ unllawr fforddiadwy ar safle
ar ddarn o gae agored y tu allan i, ond yn cyffwrdd ffin datblygu’r pentref
Carmel. Adroddwyd,
o safbwynt egwyddor y datblygiad, bod ffigyrau yn dangos fod cyflenwad digonol
yng Ngharmel ar gyfer y datblygiad ar hyn o bryd, ond gyda’r safle yn gorwedd
tu allan i’r ffin datblygu roedd angen sicrhau fod y bwriad yn cwrdd gyda
pholisi Tai 16 sy’n berthnasol i safleoedd eithrio gwledig. Ategwyd bod digon o
wybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i dderbyn fod yr angen lleol am
dŷ fforddiadwy wedi’i brofi na ellid ei gyfarch o fewn amserlen resymol ar
safle marchnad tu mewn i’r ffin ddatblygu. Derbyniwyd prisiad marchnad agored
ar y tŷ oedd yn dangos fod modd gosod disgownt o 40% pe byddai’r cais yn
cael ei gymeradwyo. Yng
nghyd-destun maint y tŷ, byddai’n mesur oddeutu 89 medr sgwâr yn cynnwys
ystafell fyw / fwyta, 2 ystafell wely a swyddfa ynghyd a modurdy 20 medr sgwâr.
Yn seiliedig ar wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan yr asiant yn egluro bod
yr ymgeiswyr yn gwpl ifanc oedd yn bwriadu magu teulu yn y dyfodol agos, a’r
cartref yma yn caniatáu iddynt aros yng Ngharmel, ystyriwyd yn rhesymol cefnogi
tŷ o’r maint yma gan y byddai’n sicrhau bod yr annedd yn cwrdd ag
anghenion ymgeiswyr presennol ac i'r dyfodol. Nodwyd nad oedd yn sylweddol
groes i’r arweiniad o fewn y canllaw cynllunio tai fforddiadwy o safbwynt maint
tai fforddiadwy. Yng
nghyd-destun dyluniad y tŷ, ystyriwyd bod y dyluniad a’r deunyddiau yn
eithaf safonol ac yn ymddangos yn dderbyniol. Er hynny, amlygwyd bod polisi TAI
16 yn gofyn bod cynigion yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddiad. Nodwyd,
er bod y safle yn cyffwrdd â'r ffin datblygu, bod y bwriad yn golygu codi
tŷ newydd mewn cae agored sydd wedi ei osod i lawr trac mynediad newydd
40m o hyd i ffwrdd o’r briffordd. Ategwyd bod
terfyn eiddo Bryn llifon (sydd wrth ochor y fynedfa newydd) yn creu ffin
naturiol i’r pentref a’r eiddo hwnnw yn agos i ac yn wynebu’r briffordd. Gan
fod bwriad yma i osod y tŷ i ffwrdd o’r briffordd ac yn bell tu ôl i
linell datblygu Bryn Llifon, ystyriwyd nad oedd yn dilyn patrwm datblygu naturiol y pentref.
Cyfeiriwyd hefyd at lain Teras Mount Pleasant sydd wedi'i leoli i ffwrdd o’r
safle ac wedi ei wahanu gan drac mynediad ac ardaloedd gardd gydag amryw o
adeiladau gardd fel storfeydd a modurdai. Ystyriwyd bod y llain yn eistedd ar
wahân i'r ffurf adeiledig a phan fydd y safle i'w weld o'r fynedfa arfaethedig,
ni ystyriwyd y byddai’r tŷ yn cael ei weld yn yr un cyd-destun a'r tai
teras. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod lleoliad y tŷ a lleoliad ffenestri wedi cael ystyriaeth lawn wrth ddylunio’r eiddo ac nad oedd pryder am yr effaith ar gymdogion. Tynnwyd sylw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C24/0306/14/AC Bron Y Gaer Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DY PDF 152 KB Diwygio amod 2 o ganiatâd
cynllunio gwreiddiol C23/0122/14/DT er mwyn newid dyluniad y
bwriad. AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio
gwreiddiol C23/0122/14/DT er mwyn newid dyluniad y bwriad. a)
Amlygodd yr
Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu bod y bwriad yn un ar gyfer diwygio amod 2 o’r caniatâd
Cynllunio gwreiddiol er mwyn newid dyluniad estyniadau o estyniad deulawr i
ochr yr eiddo ac estyniad unllawr i gefn yr eiddo, i estyniad unllawr cefn to
fflat yn unig. Eglurwyd bod yr eiddo presennol yn dŷ deulawr sy’n un o bâr
ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Tref Caernarfon ac ardal breswyl. Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn gyflogedig i Adran Cynllunio Cyngor
Gwynedd. Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod
estyniad unllawr wedi ei leoli yng nghefn yr eiddo, ond bod posib ei
weld o’r blaen oherwydd bod ei led ychydig yn fwy na’r tŷ presennol. Er
hynny, ni ystyriwyd fod yr effaith weledol yn annerbyniol o ystyried bod yr
estyniad deulawr ochr oedd yn rhan o’r caniatâd gwreiddiol wedi ei ddileu erbyn
hyn. Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod gan yr eiddo gwrtil
eithaf helaeth gyda gardd fawr yng nghefn yr eiddo gyda llwyni, coed a
chloddiau sefydledig yn sgrinio cefn y safle o gefnau anheddau cyfagos ynghyd a
thir yr ysgol gynradd sydd union wrth gefn y safle. Ategwyd bod yr estyniad
bwriedig yn unllawr ac er yn cynnwys agoriadau, ni ystyriwyd eu bod yn achosi
effaith goredrych annerbyniol i unrhyw eiddo cyfagos na chynnydd mewn
aflonyddwch gan fod defnydd y safle eisoes yn ddefnydd preswyl. Nid oedd
cynnydd yn y nifer o lofftydd ac mae llefydd parcio digonol o flaen yr eiddo yn
barod. Wrth
drafod materion bioamrywiaeth, nodwyd bod bwriad gosod blychau adar ar yr eiddo
er mwyn gwella bioamrywiaeth y safle ac y bydd unrhyw olau allanol yn cael ei
osod ar i lawr er mwyn lleihau llygredd golau. Ystyriwyd
fod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd caniatáu’r cais gydag amodau b)
Roedd yr Aelod
Lleol wedi datgan buddiant gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais PENDERFYNIAD: Caniatáu 1.
Yn unol gyda’r cynlluniau 2.
Amser 3.
Sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth |
|
Cais Rhif C24/0532/25/LL Tir ger Pentir Substation, Pentir, Bangor, LL57 4ED PDF 239 KB Cyfleuster Storio Ynni Arfaethedig, mynediad
cysylltiedig, tirweddu, seilwaith, offer ategol, gyda chynhwysedd mewnforio ac
allforio cysylltiad grid o 57MWac. AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais. 3.
Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a
chadw i’r dyfodol. 4.
Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad
Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Datganiad Seilwaith
Gwyrdd. 5.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu Amgylcheddol i’r ACLL cyn
dechrau 6.
Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu. 7.
Cytuno gyda gorffeniadau allanol y strwythurau. 8.
Sicrhau enw Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r
flaenoriaeth i’r Gymraeg. 9.
Cytuno rhaglen waith Archeolegol 10.
Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol 11.
Amodau Trafnidiaeth a Gwarchod y Cyhoedd fel bo angen 12.
Rhaid adfer y safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod
Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod i ben Nodiadau: Uned Dŵr ac
Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru Gwasanaeth Cynllunio
Archeolegol Gwynedd Cofnod: Cyfleuster Storio Ynni Arfaethedig, mynediad cysylltiedig, tirweddu,
seilwaith, offer ategol, gyda chynhwysedd mewnforio ac allforio cysylltiad grid
o 57MWac. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
oedd yn cynnwys sylwadau gan yr Uned Trafnidiaeth a)
Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn oedd dan sylw ar gyfer
gosod a gweithredu System Storio Ynni Batri, oedd yn cynnwys unedau storio
ynni, is-orsaf drydan, mynediad i’r safle, tirlunio a seilwaith ategol ar dir
i’r gorllewin o is-orsaf drydan presennol Pentir. Tynnwyd sylw at holl
elfennau’r cais gan nodi y byddai’r bwriad yn galluogi gwneud defnydd
effeithiol o’r ynni cynaliadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn barod. Ategwyd y
byddai cysylltiad cebl tanddaearol i'r grid trydan yn cael ei sicrhau trwy gais
cynllunio ar wahân. Adroddwyd
bod y safle’n cynnwys 2.57 hectar o dir pori garw mewn safle Cefn Gwlad Agored
y tu allan i unrhyw ffin datblygu ac oherwydd maint y safle, eglurwyd bod
yr ymgeisydd wedi ymgymryd ag
ymgynghoriad cyn cyflwyno cais fel sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad a
ddiffinnir fel un mawr gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod y datblygiad wedi’i
sgrinio ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol ac ystyriwyd byddai’r
effaith ar yr amgylchedd yn annigonol i
gyfiawnhau cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda’r cais. Cyfeiriwyd
at ymateb a sylwadau'r Uned Priffyrdd yn cadarnhau nad oedd ganddynt
wrthwynebiad mewn egwyddor yn ddarostyngedig i sicrhau fod asesiad o gyflwr y
ffordd yn cael ei gwblhau cyn ac ar ôl y gwaith adeiladu, a bod Cynllun Rheoli
Amgylcheddol Adeiladu a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael eu cyflwyno
a’u cymeradwyo. Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod cyfiawnhad wedi ei roi yn y
Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad dros leoli’r adnodd yn y man a fwriedir
yn seiliedig ar agosatrwydd Is-orsaf Pentir a’r
cymhlethdod a’r effaith ar y dirwedd o osod ceblau i gysylltu rhwng y
storfa batris a’r rhwydwaith Grid Cenedlaethol ac felly’n cwrdd â gofynion
Polisi Cyff 1 - bod y lleoliad yn addas. Ategwyd bod Polisi ISA 1 hefyd yn
gefnogol o gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r
ddarpariaeth, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl ac yn nodi pwysigrwydd
bod y ddarpariaeth isadeiledd ar gyfer safle datblygu yn cael ei leoli a’i
ddylunio mewn modd sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac
adeiledig. Drwy osod y datblygiad ar y safle yma yn agos i’r is-orsaf
bresennol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol. Cydnabuwyd
y byddai peth aflonyddwch yn ystod y cyfnod gwaith a fydd yn parhau am oddeutu
12 mis, ond wedi hynny, bydd y safle yn cael ei reoli o bell ac ni fydd
presenoldeb ar y safle oni bai yn achlysurol ar gyfer cynnal a chadw. Ar sail y wybodaeth oedd wedi ei gyflwyno ystyriwyd fod yr holl effeithiau wedi eu lliniaru’n ddigonol, ac na fyddai’r cynnig yn niweidiol i fwynderau gweledol, i unrhyw effeithiau annerbyniol ar ddefnyddiau sensitif cyfagos, nag ansawdd dwr; y lleoliad wedi ei gyfiawnhau heb effaith cronnus annerbyniol ar y dirwedd gyda’r cyfarpar yn cael ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C24/0205/32/LL Tir ger Cae Capel, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RE PDF 320 KB Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda
datblygiadau cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Rhesymau: ·
Effaith niweidiol i’r Iaith Gymraeg ·
Diffyg angen o fewn ward Botwnnog am dai fforddiadwy Cofnod: Cais llawn i godi
18 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
ychwanegol oedd yn cyfeirio at ohebiaeth ychwanegol a dderbyniwyd yn codi pryder am
faterion a godwyd yn yr adroddiad. Bu i rai o’r Aelodau ymweld â’r safle 16-07-24 a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ
fforddiadwy oedd yn cynnig byngalos, darparu mynedfa newydd oddi ar y prif lon
sy’n rhedeg trwy’r pentref, creu ffordd stad a llwybrau cerdded mewnol, creu
ardaloedd wedi’u tirlunio a llecynnau chwarae agored, codi waliau a ffensys
ffin a gwaith draenio gan gynnwys ardal draenio dŵr wyneb cynaliadwy Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, adroddwyd bod
y ffigyrau tai diweddaraf yn dangos fod capasiti o fewn y cyflenwad dangosol
tai ar gyfer yr anheddiad. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn y ffin
ddatblygu ac wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer adeiladu 21. Eglurwyd, gyda’r
bwriad wedi ei glustnodi ar gyfer nifer penodol o dai, roedd angen cyfiawnhad
am ddarpariaeth lai. Yn achos y cais yma, roedd y ddarpariaeth yn llai oherwydd
yr angen am ddarpariaeth o lecyn chware a man agored a thir i ddarparu sustem
draenio tir cynaliadwy ac felly ystyriwyd fod cyfiawnhad am nifer llai o dai. Er
bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn ar sail gor-ddatblygiad, o ystyried fod y
cais ar gyfer nifer llai na’r hyn sy’n cael ei ddynodi, y bwriad yn 100% tai
fforddiadwy, bod arwynebedd llawr y tai
yn gyfyngedig i safon tai fforddiadwy, bod darpariaeth o lecynnau agored o fewn
y safle, ni ystyriwyd bod tystiolaeth o unrhyw or-ddatblygiad. Ategwyd,
yn unol â Pholisi TAI 8 derbyniwyd datganiadau a thystiolaeth yn nodi’r
rhesymeg y tu ôl i’r gymysgedd tai a gynigiwyd ynghyd a chadarnhad gan yr Uned
Strategol Tai yn nodi y byddai’r tai yn cyfrannu yn uniongyrchol at nod Cynllun
Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel
bresennol yn y Sir, wrth nodi hefyd bod y cynllun yn cynnig cymysgedd da o dai. Nodwyd
bod y CDLl yn cydnabod pentref Botwnnog fel Pentref Gwasanaeth a’r CCA Tai
Fforddiadwy yn nodi bod ‘lleol’ yn cyfeirio at gysylltiad 5 mlynedd gyda’r
Awdurdod perthnasol lle mae’r cais wedi’i leoli. Bydd hyn felly’n golygu ardal
cynllunio Gwynedd yn ei gyfanrwydd. Mynegwyd bod nifer o sylwadau wedi eu
derbyn yn cwestiynu’r angen am y nifer tai, a’r math o dai, ond eglurwyd bod
statws Botwnnog yn y CDLl yn golygu mai tai newydd ar gyfer gwasanaethu Gwynedd
yn ei gyfarwydd sydd yn ddisgwyliedig ar gyfer y safle yma. Cyfeiriwyd at
ffigyrau’r Uned Strategol Tai oedd yn nodi bod 2374 o ymgeiswyr wedi eu
cofrestru ar y gofrestr Opsiynau Tai am Eiddo cymdeithasol, gyda 882 o
ymgeiswyr wedi cofrestru gyda Tai Teg am eiddo Canolraddol ac er bod rhai
ymgeiswyr yn gallu bod ar y ddwy gofrestr, roedd y ffigyrau yn profi’r angen
diamheuol am dai fforddiadwy yn ardal cynllunio Gwynedd. Yng nghyd-destun Polisi TAI 15 gofynnir am leiafswm tai fforddiadwy, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C24/0478/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG PDF 196 KB Creu balconi allanol cefn gyda sgrin preifatrwydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gwrthod yn groes i’r
argymhelliad Rheswm: Gwrthod ar sail gor-edrych, effaith ar
gymdogion – yn groes i bolisi PCYFF 2 Cofnod: Creu balconi allanol cefn gyda sgrin
preifatrwydd a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais dan sylw ar gyfer creu ardal balconi allanol llawr cyntaf ar gefn yr eiddo,
uwchben estyniad to fflat presennol. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
ffin ddatblygu pentref Morfa Nefyn ac o fewn ardal breswyl, a’r cais wedi ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol. Adroddwyd bod mwyafrif o ardal y to fflat presennol ar gefn yn eiddo yn cynnwys to
‘sedum’ sefydledig ac wedi ei orchuddio a phlanhigion, ac nad oedd bwriad
defnyddio’r ardal yma i gyd fel ardal balconi allanol. Ategwyd bod wal barhaol
bresennol o gwmpas 1.6m o uchder yn ymestyn 1.8m allan o brif wal gefn y
tŷ uwchben yr estyniad to gwastad presennol, a’r bwriad fyddai creu’r
ardal balconi allanol tu ôl i’r wal yma. Nodwyd bod bwriad darparu sgrin gwydr
afloyw parhaol yn ymestyn 1.7m tu hwnt i’r wal at ymyl pellaf yr estyniad to
gwastad presennol gyda chanllaw gwydr clir yn cael ei osod o ymyl y wal ar
draws y to am oddeutu 4m o hyd gan gysylltu gyda sgrin gwydr afloyw arall 2.9m
o hyd byddai’n cysylltu yn ôl at wal gefn yr adeilad fel ei fod y cyfyngu’r ardal
allanol tu cefn i’r wal bresennol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ar sail dyluniad a graddfa a’i leoliad uwchben rhan o do fflat
presennol ar gefn yr eiddo. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli rhwng tai
preswyl deulawr eraill gyda chaeau amaethyddol agored i’r cefn. Wrth ystyried
mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod lleoliad y datblygiad arfaethedig
yng nghornel y to presennol, gyda wal barhaol bresennol yn ymestyn yn rhannol
ar hyd y to. Ni fyddai’r ardal balconi bwriedig yn ymestyn tu hwnt i’r wal yma
ac fe gyfyngir ar y gallu i fynd tu hwnt i ben y wal drwy osod canllaw gwydr
parhaol ar draws ardal y to. Ategwyd bod bwriad gosod sgrin o wydr afloyw
fyddai’n ymestyn allan o’r wal bresennol i ben draw’r do fflat presennol,
ynghyd ac ochr arall yr ardal balconi bwriedig. Byddai hyn yn golygu bod unrhyw
or-edrych tuag at yr eiddo bob ochr yn gyfyngiedig iawn i fannau pellaf y
cwrtilau bob ochr. Ystyriwyd fod y sgriniau o wydr afloyw hefyd yn gwarchod
prif rannau gerddi'r eiddo bob ochr; ardal breswyl sefydledig a chymharol ddwys
sydd yma ble mae gerddi yn ymylu a'i gilydd, a ffenestri yn gor-edrych a tharfu
presennol yn anorfod o ganlyniad. Ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn amharu
ar fwynderau preswyl eiddo cyfagos i raddau sylweddol annerbyniol. Tynnwyd sylw nad oedd y bwriad am falconi wedi ei wrthod ar yr eiddo yma
gydag esboniad mai’r ymgeisydd oedd wedi dileu’r elfen balconi o gais blaenorol
yn wirfoddol. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac felly argymhellwyd caniatáu’r
cais gydag amodau. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
Aelod Lleol y sylwadau canlynol · Er mai Tŷ Pen yw enw’r t ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |