Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)     Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, oherwydd mai ef oedd yr ymgeisydd

·        Y Cynghorydd Huw Rowlands (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2  C23/0916/05/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn Glerc Cyngor Cymuned Llanfrothen

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddynt gymryd rhan yn ystod y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

b)     Datganodd yr Aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·        Y Cynghorydd Elin Walker Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 C24/0916/11/DT ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Gareth Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.3 C24/0689/42/LL ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn ymuno yn rhithiol, mai’r Pennaeth Cynorthwyol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Ragfyr 2024 fel rhai cywir

 

5.

DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981: CAIS I GOFRESTRU LLWYBR CYHOEDDUS AR Y MAP A DATGANIAD DIFFINIOL, HARBWR NEFYN, TREF NEFYN. pdf eicon PDF 354 KB

 

Ystyried a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Yn groes i’r argymhelliad, yr Awdurdod i lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol a chofrestru llwybr cyhoeddus Harbwr Nefyn, Tref Nefyn – nodi dyddiad codi cwestiwn fel Tachwedd 20fed, 2021

Rheswm: Tystiolaeth ddigonol o ddefnydd 20 mlynedd

 

Cofnod:

Ystyried a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd yr Arweinydd Tîm Mynediad bod cais wedi ei gyflwyno i’r Cyngor, o dan Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru llwybr cyhoeddus yn Nhref Nefyn ar y Map Swyddogol. Gwnaed y cais ar y sail bod y cyhoedd wedi cerdded ar y llwybr hwn, fel petai ganddynt yr hawl, yn ddirwystr ac yn gyson, heb fod yn gyfrinachol a heb ganiatâd y tirfeddiannwr dros gyfnod di-dor o ugain mlynedd.

 

Derbyniwyd y cais gan y Cynghorydd Gruffydd Williams ar ei ffurf ddiwygiedig fis Tachwedd 2021. Eglurwyd bod y llwybr a hawlir yn cychwyn mewn cyffordd â Llwybr Cyhoeddus rhif 19 Tref Nefyn (pwynt B ar y Cynllun) gan arwain i lawr llwybr cul, serth gyda llawer o risiau, hyd y traeth tywodlyd; yn parhau i flaen nifer o eiddo preswyl a chytiau glan mor cyn diweddu tu draw i’r morglawdd (pwynt E ar y Cynllun).

 

Eglurwyd, wedi derbyn y cais a chymryd cyngor cyfreithiol, ystyriwyd y byddai’n hanfodol i'r Cyngor wrthod y cais am y rhesymau canlynol: -

 

·        Methiant 1: Na ellid adnabod y rhan o'r llwybr a hawlir rhwng pwyntiau B i E yn y cynllun ar y ddaear ac nad oedd gan y llwybr unrhyw ffiniau sydd yn ei wahanu. Nid oedd modd cadarnhau a oes gwir ddefnydd wedi'i wneud (naill ai gan y cyhoedd neu fel arall) gan nad yw'n bodoli mewn modd adnabyddadwy ar y ddaear. Yn benodol, dadleuwyd wrth gerdded, y byddai aelodau o'r cyhoedd yn dueddol o ddefnyddio'r llwybr a hawlir neu unrhyw ran arall o'r traeth yn ddibynnol ar leoliad y llanw. Mae gofyniad o fewn y gyfraith i gael sicrhad o hyd a lled llwybr a hawlir i’r graddau y gellid sicrhau ei fod yn bosib ei adnabod ar y ddaear. Ystyriwyd nad yw’n bosib adnabod y llwybr dan sylw yn eglur ar y ddaear ac felly ni ellid bodloni'r gofyniad hwn, ac ni fyddai modd i unrhyw un fyddai’n gwrthwynebu’r cais gael modd o wrthwynebu’r cais.

·        Methiant 2: Ystyriwyd bod y llwybr wedi ei ddefnyddio yn bennaf gan ddefnyddwyr neu berchnogion y cytiau glan mor neu berchnogion cychod sydd ar y traeth. Yn benodol nid oedd gan y llwybr a hawlir gyswllt gyda phriffordd neu rwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ar ei ddiwedd ym mhwynt E. Gan nad oedd y cyhoedd, yn gyffredinol byth yn defnyddio'r llwybr, nid oedd modd ystyried defnydd o'r fath fel hawl, ac o ganlyniad, nid oedd modd bodloni'r cod o gyflwyniad tybiedig dan adran 31 (1) Deddf Priffyrdd 1980.

 

Tynnwyd sylw at y fframwaith ddeddfwriaethol perthnasol gan amlygu’r ffaith mai ystyriaeth o’r dystiolaeth yn unig oedd dan sylw ac na ellid ystyried ffactorau megis diogelwch y cyhoedd, dymunoldeb, addasrwydd neu angen ar gyfer y llwybr gan yr Awdurdod. Ategwyd bod yr holl broses yn ymwneud â phenderfynu a oes hawliau tramwy cyhoeddus mewn gwirionedd wedi bodoli neu beidio.

Cyfeiriwyd at y dystiolaeth a dderbyniwyd gan nodi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

7.

Cais Rhif C24/0916/11/DT 14 Rhodfa Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HT pdf eicon PDF 187 KB

Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

 

Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer dymchwel ystafell amlbwrpas bresennol yng nghefn yr eiddo a chodi estyniad deulawr to fflat. Eglurwyd bod yr eiddo yn eiddo par mewn ardal anheddol o fewn dinas Bangor gyda’r cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod lleol.

 

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O safbwynt dyluniad ac edrychiad, ystyriwyd nad oedd y math yma o estyniad yn annisgwyl mewn llefydd anheddol ac felly ni fyddai’n cael effaith weledol annerbyniol. Mewn ymateb i sylwadau oedd yn codi pryder am golli golau, nodwyd bod asesiad manwl o’r effeithiau wedi dod i gasgliad na fydd effaith yr estyniad yn niweidiol ar sail colli golau nac effaith gormesol (er yn estyniad deulawr dim ond 0.5m yn hirach na’r estyniad cefn presennol ydoedd).

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at effaith cronnol addasiadau sydd â hawl cynllunio, addasiadau a ganiateir (sef estyniadau ac addasiadau sydd ddim angen hawl cynllunio) a’r effaith cronnol gyda’r bwriad. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn dangos effaith yr holl elfennau a fwriedir ac felly bod modd asesu’r sefyllfa yn ei gyfanrwydd. Ni roddwyd ystyriaeth unigol i’r porth, yr estyniad talcen ar ochr y to a’r ffenestr gromen yn y cefn oherwydd yr hawl sy’n bodoli yn barod, ynghyd a’r ffaith y byddai’n bosib adeiladu’r estyniad to fflat, sydd yn destun y cais yma, heb gwblhau gweddill yr addasiadau. O ganlyniad, nid oedd y Swyddogion o’r farn bod effaith cronnol yr holl elfennau hyn yn niweidiol pe byddent i gyd yn cael eu gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghylch problemau gorlif dŵr ehangach ar y stryd yn gyffredinol, ynghyd ag effaith y datblygiad ar ddraeniau'r ardal. Nodwyd bod y sylwadau a dderbyniwyd gan Dŵr Cymru yn gofyn am amod i atal llif ychwanegol o ddŵr wyneb i’r system garthffosiaeth. Nid oedd gan Uned Draenio’r Cyngor wrthwynebiad i’r bwriad. Er yn cydnabod y pryder, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn yn amlygu y byddai’r  estyniad yn cael effaith ar y sefyllfa bresennol nac yn ei waethygu. Yn ddibynnol ar natur y draeniau, preifat neu yn rhan o’r sustem draenio gyhoeddus, ategwyd y bydd gwarchodaeth unai drwy’r drefn rheolaeth adeiladau neu reolau Dŵr Cymru ac felly ni ystyriwyd bod  rheswm cynllunio i wrthwynebu’r bwriad ar sail materion draenio.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, y polisïau a’r canllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·        Bod deilydd eiddo rhif 16 wedi cysylltu gyda Hafod Planning am gyngor ynglŷn â’r cais, a’r ymateb wedi ei gyflwyno fel llythyr (dyddiedig 6-01-25) i’r swyddogion

·        Annog yn gryf cynnal ymweliad safle fel bod yr Aelodau yn deall safbwynt preswylydd rhif 16 a’r effaith fyddai’r estyniad gormesol yn cael ar ei thŷ

·        Bydd rhif 16 yn colli  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0916/05/LL Chwarel Garth, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6HP pdf eicon PDF 300 KB

Cais ar gyfer defnyddio tir i storio, trin ac ailgylchu gwastraff anadweithiol / ddim yn beryglus yn deillio o'r gwaith Darpariaeth Effaith Weledol Eryri  

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd June Jones, Nia Jeffreys, Gwilym Jones a Meryl Roberts

 

 Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

1.       Datblygiad i ddechrau o fewn 12 mis o ddyddiad y caniatâd.

2.       Datblygiad a ganiatawyd i ddod i ben ymhen 5 mlynedd o gyflwyno rhybudd dechrau. Bydd y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn dod i ben ar unwaith pe cyfyd sefyllfa o echdynnu a gweithio ar y mwynau ar y safle (Chwarel Garth) yn dod i ben yn gynnar neu'n gynamserol.

3.       Yn unol â’r cynlluniau a'r manylion a gyflwynwyd.

4.       Ni fydd unrhyw beth heblaw deunyddiau gwastraff anadweithiol a echdynnwyd o'r datblygiad SVIP, yn cael ei fewnforio i'r safle.

5.       Bydd y gweithredwr/datblygwr yn darparu cofnod o'r deunydd a fewnforiwyd i'r ACLl o fewn 10 diwrnod i'r cais (gwybodaeth i gynnwys tarddiad, tunelli, disgrifiad o'r deunydd, dyddiad ac amseroedd y symud a'r canlyniad).

6.       Cyfyngu ar hawliau GPDO perthnasol ar gyfer adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau, ffensys ac ati.

7.       Marcio ffin yr ardal a ganiateir cyn dechrau'r gwaith.

8.       Cytuno ar welliannau bioamrywiaeth cyn dechrau'r gwaith.

9.       Copi o'r penderfyniad a'r cynlluniau a gymeradwywyd i'w dangos yn swyddfa safle Chwarel Garth.

10.     Oriau gweithio (i gyd-fynd â'r caniatâd mwynau).

11.      Storio olew, tanwydd a deunydd cemegol ar waelodion anhydraidd ac wedi'u bwndio.

12.     Monitro'r safle am bresenoldeb rhywogaethau ymledol anfrodorol.

13.     Cyfyngiadau lefel sŵn (lefelau penodol i gyd-fynd â'r caniatâd mwynau).

14.      Cyfyngiadau lefelau sŵn ar gyfer gweithrediadau dros dro (lefelau penodol i gyd-fynd â'r caniatâd mwynau).

15.     Monitro/arolwg sŵn yn flynyddol.

16.      Cerbydau, offer a pheiriannau i weithredu o fewn y lefelau allyriadau sŵn mwyaf o fanyleb gwneuthurwr a ddim yn cael eu gweithredu heb sgriniau 'lladd' sain briodol, gwaith achos, caeadau a distewyddion.

17.     Defnyddio larymau 'sŵn gwyn' ar gyfer peiriannau a cherbydau symudol.

18.      Mesurau lliniaru llwch i'w cyflawni yn unol ag amod 23 o Ganiatâd Cynllunio Mwynau (C16/1385/05/MW).

19.      Cadw arwyneb mynediad safle i'r briffordd yn lân a dim dyddodi mwd/malurion ar y briffordd.

20.      Cadw cofnod amgylcheddol o gwynion llwch a sicrhau ei fod ar gael i'r ACLl o fewn 14 diwrnod i gais.

21.      Bydd mewnforio deunydd gwastraff anadweithiol yn cael ei gyfyngu i ddefnyddio'r llwybrau cludo pwrpasol presennol.

22.      Rhaid gosod llenni dros gerbydau llwythog sy'n gadael y safle neu eu trin i osgoi allyrru llwch (ar gyfer deunydd dan 75mm).

23.     Amod i gadw arwyddion dwyieithog ar gyfer cyfnod y datblygiad.

24.     Cynllun goleuo i osgoi unrhyw effeithiau ar lwybrau hedfan ystlumod.

25.      Cynllun Atal Llygredd i sicrhau bod pob mesur yn cael ei gymryd i osgoi unrhyw lygredd rhag mynd i gyrsiau dŵr a'r Glaslyn.

26.     Mesurau gwella bioamrywiaeth.

27.     Monitro a rheoli rhywogaethau planhigion ymledol yn ystod cyfnod y caniatâd.

 

Cofnod:

a)       Cais gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff dros dro yn Chwarel Garth i dderbyn, storio, trin a phrosesu deunyddiau anadweithiol o Brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (SVIP).

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Amlygodd Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff y byddai'r gweithgareddau ailgylchu gwastraff anadweithiol am gyfnod dros dro i gyd-fynd â'r datblygiad SVIP. Eglurwyd bod safle’r cais gyferbyn â rhan o’r chwarel ble mae gweithgareddau mathru yn digwydd eisoes a byddai’ bwriad yn defnyddio isadeiledd presennol y chwarel megis ffyrdd cludo, pont pwyso, swyddfeydd a mynediad i’r briffordd.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd bod Hierarchaeth Gwastraff, Polisi Cynllunio Cymru, TAN 21 a dogfen “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” Llywodraeth Cymru yn nodi y dylid, wrth drin gwastraff, leihau cynhyrchu gwastraff ac arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi drwy ailgylchu ac ailddefnyddio lle bo hynny'n bosib. Yn ychwanegol rhoddir pwyslais ar bolisïau cynllunio mwynau i hyrwyddo'r defnydd o agregau eilaidd/amgen er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar echdynnu carreg brimaidd a gwarchod banc tir carreg galed y Sir.

 

O ran polisïau lleol, eglurwyd bod yr egwyddor o sefydlu cyfleuster rheoli gwastraff wedi ei selio ym mholisïau PS 21, GWA 1 a GWA 2. Er nad yw’r safle wedi ei ddynodi ym mholisi GWA 1, mae’r polisi yn datgan fod posib sefydlu cyfleuster rheoli gwastraff mewn chwareli presennol os bydd cyfiawnhad a dim effeithiau andwyol. Yn ychwanegol, mae polisi GWA 2 yn gosod meini prawf sydd angen i gynigion rheoli gwastraff gydymffurfio â hwy. Yn yr achos yma, amlygwyd bod yr angen wedi deillio yn benodol o'r gwaith SVIP gan y Grid Cenedlaethol. Ni fydd unrhyw wastraff sy’n deillio o ffynonellau eraill yn cael ei drin  - rheoli'r deunydd gwastraff anadweithiol a gynhyrchir gan y gwaith cloddio a thwnelu yn unig sydd yma. Amlygwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais yn cynnig cyfanswm ychydig yn uwch o 250,000 tunnell er mwyn gallu darparu ar gyfer unrhyw anghysondebau yn yr amcangyfrif rhagarweiniol. Mae’r bwriad yn datgan bydd deunydd yn cael ei fewnforio i’r safle ar gyfradd flynyddol o 75,000 tunnell a fyddai'n cyfateb felly i gyfnod o 3.3 blynedd.

 

Mynegwyd nad oes safle dynodedig agosach i’r datblygiad SVIP ac nad oedd unrhyw un o fewn y cyffiniau fyddai’n gallu darparu ar gyfer y symiau sylweddol o ddeunydd gwastraff fydd yn cael ei gynhyrchu.

 

Yng nghyd-destun polisi MWYN 1 a MWYN 5 sy’n rhoi ystyriaeth ar yr angen i ddiogelu adnoddau mwynau’r Sir, mae bwriad defnyddio isadeiledd presennol y chwarel dros dro er mwyn ailgylchu gwastraff anadweithiol i agregau eilaidd. Nodwyd y bydd angen gosod amodau i sicrhau fod y gwastraff yn benodol o’r prosiect SVIP.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a phreswyl, mae’r safle o fewn dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig Aber Glaslyn a Dwyryd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Aberglaslyn. Byddai'r bwriad yn ymwneud â mân newidiadau ffisegol i'r safle ond gan na fydd y bwriad yn arwain at unrhyw effaith weledol fyddai’n sylweddol wahanol i effaith y gweithfeydd mwynau a ganiateir yn y chwarel ar hyn o bryd ystyriwyd bod y bwriad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C24/0689/42/LL Tir Maes Twnti, Morfa Nefyn, Pwllheli, LL53 6EU pdf eicon PDF 260 KB

Cais llawn i adeiladu 9 tŷ fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ymestyn ffordd stad bresennol, creu llecynnau parcio a tirlunio  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol:

1.       Amser

2.       Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.       Amod tai fforddiadwy

4.       Cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.       Tynnu Hawliau Datblygiadau a Ganiateir

6.       Amod Dŵr Cymru

7.       Amodau Priffyrdd

8.       Amodau Bioamrywiaeth

9.       Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu

10.     Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.     Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.     Cwblhau tirlunio

13.     Cytuno trefniadau goleuo bwriedig safle.

 

Nodyn :  Dŵr Cymru

Draeniad cynaliadwy

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cofnod:

Cais llawn i adeiladu 9 tŷ fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiol gan gynnwys ymestyn ffordd stad bresennol, creu llecynnau parcio a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod safle’r cais wedi ei leoli yn rhannol o fewn ffin datblygu Morfa Nefyn (3 uned yn disgyn o fewn y ffin datblygu a 6 uned yn gyfan gwbl y tu allan i’r ffin) ac felly yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, bod angen cyfiawnhau’r cais oherwydd gosodiad y 6 tŷ annedd tu allan i’r ffin datblygu a bod ffigyrau tai Morfa Nefyn eisoes wedi mynd dros y ffigwr cyflenwad dangosol a adnabyddir o fewn y CDLl.

 

Eglurwyd bod tystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn cynnwys gwybodaeth gan Tai Teg yn dangos bod 17 o bobl yn gymwys i brynu tŷ canolradd a 6 o bobl eisiau tai rhent. Ategwyd bod gwybodaeth wedi ei dderbyn gan yr Uned Polisi Cynllunio yn dangos fod bron i 75% o aelwydydd Morfa Nefyn wedi eu prisio allan o’r farchnad tai a bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch yr angen yn yr ardal.  Gyda’r bwriad yn cynnig 100% tai fforddiadwy, gan gynnwys yr unedau sydd o fewn y ffin datblygu, ystyriwyd bod yr angen wedi ei brofi a bod cyfiawnhad am y datblygiad.

 

Amlygwyd y byddai’r tai yn cael eu datblygu gan y Cyngor trwy Cynllun Tŷ Gwynedd ac y byddant yn cael eu gwerthu ar sail perchnogaeth rhannol sy’n golygu bod modd eu prynu am bris fforddiadwy. Golygai hyn y bydd y Cyngor yn cadw canran o ecwiti ym mhob eiddo er mwyn sicrhau pris prynu fforddiadwy a sicrhad y byddai’r unedau yn parhau fel unedau fforddiadwy i’r dyfodol. Ategwyd bod y cais yn nodi gall yr unedau eu gosod ar rent canolradd gan gynnig disgownt o oddeutu 20% ar brisiau cyffelyb ar y farchnad agored – y materion hyn i’w rheoli trwy osod amod cynllunio.

 

Nodwyd y byddai’r tai yn ffurfio estyniad i stad bresennol gyda dyluniad y tai yn eithaf safonol. Ystyriwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu i’r lleoliad mewn modd priodol gyda maint y tai yn cwrdd gydag anghenion y CCA ar gyfer tai fforddiadwy. O ystyried lleoliad, dyluniad, gogwydd a maint y tai arfaethedig, ni ystyriwyd y bydd effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau preifat yn deillio o’r datblygiad hwn ac adroddwyd na dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan y cyhoedd yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

 

Derbyniwyd Asesiad Effaith Iaith Gymraeg fel rhan o’r cais oedd yn dod i gasgliad y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith fuddiol gyffredinol ar y Gymraeg a’r gymuned ym Morfa Nefyn; darpariaeth tai fforddiadwy yn ateb y galw, a’r angen wedi ei brofi ar gyfer trigolion lleol. Nododd y Datganiad, drwy ddarparu tai fforddiadwy sydd wedi eu targedu at ddiwallu’r angen lleol, byddai’r rheiny sy’n chwilio am dai fforddiadwy’n gallu parhau i fyw yn eu cymunedau lleol.

 

Yng nghyd-destun materion technegol megis, trafnidiaeth a mynediad, bioamrywiaeth, llecynnau agored ac isadeiledd, nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.