Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim I’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)     Y Cynghorydd Huw Rowlands (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C23/0883/43/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn Glerc Cyngor Cymuned Y Bontnewydd, a'r Cyngor Cymuned wedi cynnig sylwadau ar y cais.

 

b)     Datganodd yr Aelod canlynol ei bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

·        Y Cynghorydd Beca Roberts  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 cais rhif C18/0767/16/LL ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd John Pughe Roberts  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 cais rhif C24/0072/02/LL ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 cais rhif C22/0637/32/LL ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Meryl Roberts  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 cais rhif C24/1026/08/LL ar y rhaglen

 

c)     Datganodd yr holl Aelodau eu bod wedi derbyn llythyr yn ymwneud a chais rhif C24/0072/02/LL ar y rhaglen (eitem 5.3)

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Pennaeth Cynorthwyol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau.

 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24ain o Fawrth 2025 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C18/0767/16/LL Tir yn Coed Wern, Glasinfryn, Bangor, LL57 4BE pdf eicon PDF 394 KB

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- 

  • Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig. 
  • Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio. 
  • Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dwr aflan. 
  • Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd a gwelliannau i'r goedlan presennol. 
  • Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda  pwyntiau gwefru trydan. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  CYNNAL YMWELIAD SAFLE

 

Cofnod:

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- 

·        Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig. 

·        Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio. 

·        Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dŵr aflan.

·        Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd â gwelliannau i'r goedlan bresennol.

·        Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwbe-beiciogydapwyntiau gwefru trydan. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at ddogfennau diwygiedig oedd wedi ei cyflwyno ers paratoi’r adroddiad, yn adlewyrchu lleihau’r nifer o podiau a dileu datblygiad o fewn parth a adnabyddir fel parth 5. Ategwyd nad oedd hyn yn newid asesiad nac argymhelliad y cais. Roedd y sylwadau hwyr hefyd yn nodi amod tirlunio, ac amodau i gytuno cynllun adeiladau a gwarchod coed a chynllun rheoli ecolegol a phlannu.

 

a)   Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn oedd dan sylw ar gyfer darparu llety gwyliau a gwaith cysylltiedig o fewn coedlan bresennol i’r de-ddwyrain o bentref Glasinfryn. Mynegwyd, ers cyflwyno’r cais yn wreiddiol yn 2018, bod y datblygiad wedi ei ddiwygio a’i leihau nifer o weithiau a bellach y nifer o unedau wedi eu lleihau i 25 caban gwyliau a 4 pod glampio.

 

Nodwyd bod y goedlan, sy’n ffurfio’r ffin gyda’r ffordd Dosbarth III tuag at Glasinfryn, yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed gyda gweddill y safle yn Safle Bywyd Gwyllt ymgeisiol.

 

Cyfeiriwyd at polisi TWR 3 sy’n caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafannau neu siale sefydlog newydd, neu lety gwersylla amgen parhaol y tu allan i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig, yn ddarostyngedig i feini prawf perthnasol.

 

Adroddwyd bod y maen prawf cyntaf yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd, ac ‘Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ er mwyn diffinio gormodedd ar gyfer y safle yma. Ategwyd bod yr Astudiaeth yn nodi fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau bach i bach iawn y tu allan i’r safleoedd sy’n cyfrannu tuag at osodiad Parc Cenedlaethol Eryri o fewn yr Ardal Cymeriad Tirwedd penodol yma, gyda’r Astudiaeth yn diffinio datblygiadau ‘bach iawn’ fel rhai hyd at 10 uned a datblygiadau ‘bach’ fel rhwng 10 - 25 uned. Er bod nifer unedau sy’n destun y cais yma yn 29 a gan gydnabod bod y ffigwr yma yn uwch na’r hyn a ddiffinnir fel datblygiad bychan yn yr Astudiaeth, rhoddwyd ystyriaeth i gapasiti ardaloedd ar gyfartaledd yn hytrach na lleoliadau unigol, ac ystyriaeth i’r safle fel un cuddiedig. I’r perwyl hyn, ystyriwyd bod capasiti digonol i’r safle yn yr ardal benodol yma, a gan ei fod yn safle anymwthiol sydd eisoes wedi ei sgrinio’n dda roedd hefyd yn cydymffurfio gyda’r ail faen prawf.

 

Yng nghyd-destun y maen prawf sy’n cyfeirio at ddarparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd, ynghyd a sicrhau fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C25/0046/20/LL 79 Ffordd Glyder, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4QX pdf eicon PDF 224 KB

Newid defnydd o Prif Gartref (C3) i Ddefnydd Cymysg- Ail Gartref (5) a Llety Gwyliau tymor byr (C6)

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Iwan Huws a’r Cynghorydd Sasha Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y CAIS WEDI CAEL EI DYNNU YN ÔL

 

Cofnod:

Newid defnydd o Prif Gartref (C3) i Ddefnydd Cymysg- Ail Gartref (5) a Llety Gwyliau tymor byr (C6)

 

YR YMGEISYDD WEDI TYNNU Y CAIS YN ÔL

 

8.

Cais Rhif C24/0072/02/LL Tir gerllaw Pandy, Corris, SY20 9RJ pdf eicon PDF 372 KB

Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: CYNNAL YMWELIAD SAFLE

 

Cofnod:

a)           Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf 5 pod glampio parhaol, parcio cysylltiedig, addasiadau i’r fynedfa, draenio a thirlunio.  Eglurwyd, wrth ymdrin a’r cais bod y bwriad wedi ei ddiwygio gan leihau maint y safle a’r nifer podiau wedi lleihau o 6 i 5; bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig (ATA) gydag un eiddo preswyl yn ffinio gyda’r safle ac adeilad allanol nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd i’r dwyrain o’r fynedfa bresennol.

 

O ystyried y math o bodiau a lleoliad y cais o fewn ATA, amlygwyd bod pwynt 1 Polisi TWR 3 yn cadarnhau y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd, safleoedd sialé gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Môn neu Llyn ac yn yr ATA; y bwriad felly yn sylfaenol groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a pholisi PCYFF 1 gan y byddai’n sefydlu safle gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA.

 

Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y tŷ annedd agosaf i’r safle wedi ei leoli ar waelod y trac a fyddai’n cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr yr unedau gwyliau arfaethedig ac fwy na heb yn ffinio gyda ffin ddeheuol safle’r cais. Yn bresennol caeau amaethyddol a’r afon sydd o amgylch y tŷ annedd yma ac mae mewn lleoliad gymharol breifat, llonydd a tawel lle nad oes llawer o weithgareddau ac aflonyddwch i ddeiliaid yr eiddo. Byddai cyflwyno safle gwersylla amgen yn y lleoliad hwn gyda photensial o achosi effaith andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos oherwydd mwy o weithgaredd, sŵn ac aflonyddwch gan ymwelwyr. Ategwyd bod natur defnydd gwyliau yn golygu symudiadau gwahanol i unedau preswyl parhaol, ac nid yw’r ymgeisydd yn byw ar y safle o ran gallu goruchwylio a rheoli’r safle ac ymateb i unrhyw faterion neu broblemau allai godi ar y pryd. Ystyriwyd fod y bwriad felly yn groes i ofynion maen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 ar sail effaith ar mwynderau’r cymdogion.

 

Tynnwyd sylw at faterion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol, cynaliadwyedd, llifogydd, draenio a ieithyddol oedd wedi derbyn sylw priodol ac ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran hynny, ond pwysleisiwyd nad oedd hynny yn goresgyn gwrthwynebiad sylfaenol i’r bwriad ar sail y byddai sefydlu safle gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA yn gwbl groes i bolisi.

 

Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod y bwriad yn un i geisio ailgyfeirio'r fferm

·        Yn un o dair merch o deulu Cymraeg, trydedd genhedlaeth ar y fferm gyda dymuniad o aros a chreu teulu yng Nghorris

·        Y fferm fach yn un 300 erw ac angen ailgyfeirio a sefydlu menter newydd ac incwm ychwanegol i sicrhau dyfodol i’r fferm. Ffermio erbyn hyn yn anodd gyda rheolau a newidiadau cyson

·        ATA yn ddosbarthiad o dir sydd wedi ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C24/0297/19/LL Cyn safle Gwaith Brics Seiont, Ffordd Felin Seiont, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YL pdf eicon PDF 621 KB

Cais am ardal ailgylchu deunyddiau ar gyfer gwastraff  adeiladu, dymchwel a phriddoedd, codi adeilad peiriannau ailgylchu, offer paratoi concrid parod, creu mynediad gerbydol newydd a llwybrau cludo mewnol, creu ardaloedd storio dŵr llifogydd, newid defnydd tir yn ôl-weithredol ar gyfer storio cyffredinol (Dosbarth Defnydd B8) sy’n cynnwys prosesu, llifio a phacio deunydd mwynau a chadw adeilad gweithdy, cabanau a pharcio cysylltiedig

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen, Dewi Jones, Menna Trenholme a Gareth Coj Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GOHIRIO ER MWYN I’R SWYDDOGION GAEL CYFLE I YMATEB I WYBODAETH YCHWANEGOL A DDERBYNIWYD GAN YR YMGEISYDD

 

Cofnod:

Cais am ardal ailgylchu deunyddiau ar gyfer gwastraff  adeiladu, dymchwel a phriddoedd, codi adeilad peiriannau ailgylchu, offer paratoi concrid parod, creu mynediad cerbydol newydd a llwybrau cludo mewnol, creu ardaloedd storio dŵr llifogydd, newid defnydd tir yn ôl-weithredol ar gyfer storio cyffredinol (Dosbarth Defnydd B8) sy’n cynnwys prosesu, llifio a phacio deunydd mwynau a chadw adeilad gweithdy, cabanau a pharcio cysylltiedig

 

a)     Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod gohebiaeth gan yr asiant wedi ei dderbyn ar y  24.04.2025 yn cadarnhau bwriad i gyflwyno rhagor o wybodaeth oedd yn berthnasol i’r cais.

 

Amlygwyd y byddai’r swyddogion angen amser i asesu’r wybodaeth a diwygio’r adroddiad. Yn sgil hynny, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn gohirio trafodaeth o’r cais.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r drafodaeth

 

PENDERFYNWYD: GOHIRIO ER MWYN I’R SWYDDOGION GAEL CYFLE I YMATEB I WYBODAETH YCHWANEGOL A DDERBYNIWYD GAN YR YMGEISYDD

 

10.

Cais Rhif C22/0637/32/LL Tir ger Stad Congl Meinciau, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RA pdf eicon PDF 310 KB

Cais llawn ar gyfer datblygiad yn cynnwys 8 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig (cam 1 o 2)   

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD

 

1.     Mi fyddai’r datblygiad hwn yn creu ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored ac nid yw’n yn union gerllaw'r ffin datblygu. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac ymddangosiad y safle nac yn integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas ac felly nid yw’n estyniad rhesymegol i’r anheddle. Mae'r cais felly'n groes i ofynion Polisïau PCYFF 1, PCYFF 3, PS 5 a TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a rhan 2.6 o Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sydd yn nodi na ddylai dylunio sy’n amhriodol yn ei gyd-destun, neu nad yw’n manteisio ar gyfleoedd i wella cymeriad, ansawdd a swyddogaeth ardal, gael ei dderbyn oherwydd bydd yn cael effaith niweidiol ar gymunedau sy’n bodoli’n barod.

 

2.     Nid oes gwybodaeth a thystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i asesu’r holl ystyriaethau cynllunio materol angenrheidiol yn llawn. Yn ogystal, mae gwybodaeth anghyson a chamarweiniol yn y dogfennau a gyflwynwyd ynglŷn â’r math a maint o unedau a ddatblygir o’r hyn a ddangosir ar y cynlluniau manwl. Er mwyn galluogi asesiad cyflawn o'r cynnig dan bolisïau perthnasol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026, byddai angen cyflwyno rhagor o wybodaeth ynghylch y materion isod:

 

i. Tystiolaeth ar ffurf asesiad marchnad tai ffurfiol i brofi’r angen am dŷ fforddiadwy (Polisi TAI 16)

 

ii. Tystiolaeth am addasrwydd y gymysgedd o dai a phrisiad o werth yr unedau (Polisïau TAI 8 a TAI 15).

 

3.         Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd yr iaith Gymraeg yn y gymuned ac felly mae’r cais yn groes i ofynion polisi PS1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn ogystal â gofynion perthnasol CCA Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.

 

4.         Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i asesu’r effaith y bwriad ar fioamrywiaeth leol yn llawn. O ganlyniad credir fod y bwriad yn annerbyniol ac yn methu bodloni gofynion perthnasol polisïau PS 19 ac AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.

 

5.         Nid oes manylion trefniadau mynediad digonol wedi eu cynnwys fel rhan o’r cais ac felly ni chredir bod y cynnig yn cwrdd gyda’r gofynion perthnasol o safbwynt cydymffurfiaeth gyda meini prawf perthnasol polisïau TRA 4 a PCYFF 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd yn nodi’r angen i sicrhau fod datblygiadau newydd yn darparu mynedfa dderbyniol.

 

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer datblygiad yn cynnwys 8 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig (cam 1 o 2)  

 

a)     Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais wedi ei gyflwyno yn flaenorol ond bod penderfyniad wedi ei wneud i’w ohirio ar y pryd fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb i’r rhesymau gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth.

 

Nodwyd bod y cais yn un llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy unllawr ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig, tu allan i ffin ddatblygu gyfredol pentref Botwnnog. Bydd y cynnig yn  golygu codi’r tai a darparu mynedfa trwy ymestyn y ffordd bresennol trwy stad Congl Meinciau ac yna trwy stribyn o dir gwag at leoliad y tai newydd. Mi fyddai llecyn parcio i’w ddarparu i flaen y tai unigol. Eglurwyd bod gwybodaeth ddiweddar a gyflwynwyd yn nodi cymysgedd o ran y math a maint y tai i’w darparu, ond nad oedd hyn wedi cael ei gyfleu yn y cynlluniau a gyflwynwyd ac nad oedd y cynlluniau wedi eu newid o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Ategwyd nad oedd y cynlluniau arfaethedig yn cynnwys unrhyw wybodaeth o ran trefn a gosodiad gerddi neu ofod unigol y tai nac unrhyw gyfeiriad at dirlunio ffurfiol.

 

Adroddwyd bod safle’r cais, yn bresennol yn dir gwag sydd wedi gôr dyfu gyda olion gwaith clirio o’r gorffennol. Ategwyd bod y tir a’r ardal gyfagos o fewn dynodiad Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn. Tynnwyd sylw at  ddarn o dir sydd yn mesur oddeutu 30 troedfedd o lêd rhwng ffin stad bresennol Congl Meinciau a dechrau ffin y stad newydd sydd ym mherchnogaeth rhywun arall ac felly yn fater sifil i’w ddatrys; bydd angen caniatâd y perchennog tir yma i greu mynediad tuag at y tai newydd ynghyd a’r angen am ganiatâd cynllunio ffurfiol ar wahân ar gyfer creu ffordd stad newydd.

 

Roedd y swyddogion yn parhau i argymell gwrthod y cais ar sail nad oedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn ddigonol ac er derbyn cais gan yr ymgeisydd am estyniad amser i gyflwyno mwy o wybodaeth, ystyriwyd bod cyfle ac amser digonol eisoes wedi ei roi. Er derbyn bod gwybodaeth wedi dod i law, roedd y wybodaeth yn arwynebol heb dystiolaeth i’w gefnogi ac felly nid oedd modd asesu’r cynllun yn llawn. Ni dderbyniwyd tystiolaeth asesiad marchnata, tystiolaeth cymysgedd a phrisiad; ni dderbyniwyd tystiolaeth am gyfiawnhad y bwriad ac nid oedd yr angen wedi ei brofi; er derbyn asesiad effaith roedd y wybodaeth eto yn arwynebol heb dystiolaeth o’r sefyllfa leol; ni dderbyniwyd asesiad bioamrywiaeth na manylion trafnidiaeth a mynediad. Nid oedd gofynion sylfaenol cyflwyno cais wedi eu cyflawni.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·        Yn annog y Pwyllgor i ganiatáu gohiriad am fis arall

·        Bod yr ymgeisydd yn gweithio yn galed i geisio cael gwybodaeth ychwanegol

·        Byddai cynnal ymweliad safle yn fuddiol

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C24/1100/15/LL Compton House, Stryd Fawr, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4EU pdf eicon PDF 261 KB

Newid defnydd 5 fflat preswyl (C3) i 5 uned llety gwyliau tymor byr (C6) 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Y CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL

 

Cofnod:

Newid defnydd 5 fflat preswyl (C3) i 5 uned llety gwyliau tymor byr (C6)

 

YR YMGEISYDD WEDI TYNNU Y CAIS YN ÔL

 

 

12.

Cais Rhif C24/1026/08/LL Hen Gaeau Chwarae Cookes, Ffordd Yr Orsaf , Penrhyndeudraeth, LL48 6LT pdf eicon PDF 327 KB

Cais ar gyfer lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic. Cadw llain caled ar gyfer parcio ceir a llwybr mynediad. Adeiladu 20 o siediau rhandir.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Meryl Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1 -  Amser

2 -  Yn unol gyda’r cynlluniau

3 -  Amodau tir halogedig

4 – Amodau bioamrywiaeth gan gynnwys sicrhau gwelliannau

5 – Tryc bwyd ond i osod ar y safle pan mae o mewn defnydd.

6 -  Cyfyngu oriau agor y tryc bwyd i 8-7 pob diwrnod.

7 - Cytuno ar fanylion rheoli gwastraff i’r tryc bwyd.

8 - Arwyddion Cymraeg

 

Cofnod:

Cais ar gyfer lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic. Cadw llain galed ar gyfer parcio ceir a llwybr mynediad. Adeiladu 20 o siediau rhandir.

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi 20 sied gardd ar gyfer rhandiroedd, lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic, cadw llain galed ar gyfer parcio ceir a hwyluso mynediad cerbydol. Er bod y siediau angen hawl cynllunio, nid oedd bellach angen hawl i gynllunio ar gyfer creu rhandiroedd.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol yn nhermau polisi ISA 2 oherwydd bod y safle yn ffinio gyda ffin datblygu Penrhyndeudraeth a bod y datblygiad yn hawdd ei gyrraedd ar droed, beic a chludiant cyhoeddus. Ategwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol o ystyried polisi MAN 6 sydd yn cefnogi datblygiad manwerthu ar raddfa fach yng nghefn gwlad a pholisi MAN 7 sydd yn berthnasol i ddefnyddiau bwyd poeth i gario allan.

 

Er yn cydnabod byddai rhywfaint o effaith gweledol, ni ystyriwyd y byddai cael siediau ar randiroedd yn rhywbeth annisgwyl ac oherwydd ei maint a’i lleoliad ynghyd a llystyfiant naturiol o amgylch y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn niweidiol i edrychiad y safle nac yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal.

 

Nodwyd bod dyluniad y toiled yn cyd-fynd gyda’r siediau ac yn caniatáu mynediad hygyrch; Byddai modd sicrhau ansawdd i’r edrychiad trwy osod amodau er mwyn sicrhau bod lliw'r siediau a’r toiled yn cydweddu a’i gilydd.

 

Er bod y safle wedi ei leoli mewn lleoliad cynaliadwy gyda phalmant yn gwasanaethu’r safle, derbyniwyd y bydd defnyddwyr y rhandiroedd angen defnyddio cerbyd ar adegau i gludo nwyddau ac offer garddio, ond wrth bwyso a mesur unrhyw effeithiau gweledol, a’r ffaith bod defnydd tir fel rhandir yn ddatblygiad a ganiateir, ystyriwyd y byddai rhywfaint o effaith gweledol bychan yn deillio o’r maes parcio yn well na cherbydau yn parcio ar y palmant ac yn creu problemau diogelwch ffordd. O ganlyniad, ystyriwyd fod y trefniadau parcio a mynediad yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun gosod tryc bwyd, sydd yn gerbyd yn hytrach nag adeilad, ystyriwyd y bydd yn cael ei weld yng nghyd-destun cerbydau eraill sydd wedi parcio ar y safle. I gyfyngu’r effaith gweledol, priodol fyddai gosod amod i sicrhau fod y tryc yn cael ei osod ar y safle pan fydd mewn defnydd yn unig ac y bydd angen ei symud oddi ar y safle pob nos.

 

Wrth ystyried mwynderau preswyl, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal ar gyrion y dref, gyda thai preswyl gerllaw, gyda’r tŷ agosaf oddeutu 20m i ffwrdd o’r rhandiroedd. O ystyried natur defnydd rhandir, mae’n annhebygol y byddai’r bwriad o osod siediau yn amharu ar unrhyw fwynderau preswyl. Ategwyd bod  defnyddiau amrywiol eraill gerllaw megis gorsaf rheilffordd ag unedau diwydiannol/masnachol ac felly nid yw’r ardal yn cael ei hystyried fel un anheddol yn unig.

 

Tynnwyd sylw at y pryderon a dderbyniwyd  mewn ymateb i’r cyfnod ymgynghori, ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn denu ymddygiad anghymdeithasol i’r safle gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C24/0922/14/LL Plot C6, Stâd Ddiwydianol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD pdf eicon PDF 291 KB

Cais llawn ar gyfer creu 'depot' yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy, adeiladau ar gyfer storio ynghyd a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: CANIATÁU yn ddarostyngedig a’r amodau canlynol:

1. 5 mlynedd.

2. Unol a chynlluniau a dogfennau.

3. Cytuno cynllun a mesurau atal sŵn y gweithdy ym mhen gorllewinol y safle. Gallai hyn gynnwys mesurau fel insiwleiddio, cytuno ar leoliad unrhyw sustemau echdynnu, oriau defnydd a ffens acwstig.

4. Sicrhau defnydd o arwyddion dwyieithog sy’n rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg.

5. Tirlunio.

6. Cynnal tirlunio.

7. Angen cytuno ar unrhyw sustemau echdynnu ar y gweithdy cyn gosod ar yr adeilad.

 

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer creu 'depot' yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy, adeiladau ar gyfer storio ynghyd a gwaith cysylltiol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Caernarfon a'r cyfan o fewn ardal sydd wedi ei warchod fel prif safle cyflogaeth ar gyfer defnydd cyflogaeth. Ategwyd bod y safle yn cael ei wasanaethu gan ffordd sirol ddi-ddosbarth sy’n arwain drwy’r stad a'r bwriad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer 44 o lefydd parcio ceir (yn cynnwys 3 ar gyfer yr anabl), 10 ar gyfer loriau ac 8 ar gyfer peiriannau eraill yn ogystal â gofod cadw beiciau.

 

Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Caernarfon ac ardal sydd wedi ei warchod ar gyfer cyflogaeth ac yn benodol defnyddiau diwydiannol B1, B2 a B8, roedd egwyddor y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau PCYFF 1 a CYF 1. Dsigrifiwyd y tir yn weddol wastad ac yn cefnu ar weddill y stâd sydd ar lefel sylweddol uwch i’r gogledd. Cydnabuwyd y byddai'r unedau unllawr a deulawr yn weladwy o ffordd osgoi Caernarfon, ac yn ychwanegu at strwythurau ac ardaloedd storio offer yn y tirlun. Er hynny, byddai'r stâd bresennol yn ffurfio cefndir i’r safle ac, felly yn lleihau effaith y bwriad ar y tirlun. Cyfeiriwyd at  gynllun safle a chynllun trawstoriad oedd yn amlygu bwriad i weithredu cynllun tirlunio ar gyfer terfyn deheuol, gorllewinol a gogleddol y safle fydd yn cynnwys cadw coed ar hyd y terfyn deheuol. O ganlyniad ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith weledol annerbyniol.

 

Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl nodwyd bod yr adeilad bwriedig mwyaf i’w leoli ym mhen gorllewinol y safle, oddeutu17 medr o’r terfyn a tua 28 medr o edrychiad cefn tai cymdogion agosaf. Amlygwyd bod bwriad gosod deunydd ynysu ychwanegol ar wal gefn yr adeilad er mwyn lleihau unrhyw sŵn a fyddai yn deillio ohono. Adroddwyd bod y datganiad cynllunio yn nodi mai sied gynnal a fwriedir yma ac ni ddisgwylid bod sŵn yn tarddu ohoni; nid oes ffenestri na drysau ar yr edrychiad cefn a byddai’r adeilad hefyd yn lliniaru sŵn sy’n deillio o lefydd arall ar y safle.  Ystyriwyd felly bod potensial i ychwanegu at y mesurau lliniaru sŵn drwy osod amodau priodol i leihau effaith andwyol ar drigolion cyfagos.

 

Cyfeiriwyd at  faterion  priffyrdd, bioamrywiaeth, ac ieithyddol oedd wedi derbyn sylw priodol.

 

Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais

 

b)       Yn manteisio ar yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·        Y safle wedi ei  leoli ar ddarn o dir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer datblygu

·        Bod y cwmni angen cynyddu eu gweithdy presennol yn yr ardal

·        Defnydd arfaethedig a manteision economaidd. Yn dilyn cynnydd yn y busnes, yn ymateb drwy geisio cyfuno pum depo rhanbarthol i ganoli adnoddau fydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol yn yr ardal

·        Bod y safle yma yn ddelfrydol o ran manteision strategol a logistaidd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.