Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Berwyn Parry Jones a’r Cynghorydd Gareth A
Roberts. Cydymdeimlwyd gyda’r
Cyng. Anne Lloyd Jones oedd wedi colli ei chwaer yn ddiweddar. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitem
a nodir: ·
Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C25/0418/30/LL) ar y rhaglen |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o
drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn
rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20fed o Hydref 2025 fel
rhai cywir yn ddarostyngedig i nodi ‘She’ ac nid ‘He’ yn y cofnod Saesneg
ar gyfer sylwadau aelod lleol cais 5.2 (c) C24/0937/16/LL
Zip World, Bethesda. |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y
ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau
o’r polisïau. |
|
|
Cais Rhif C24/1125/34/AC Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SY Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio amod 2 o
ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1064/22/AC er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i
gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd gymeradwyo'r cais. Amodau: ·
Dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig
i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau o leiaf 14 diwrnod cyn : i. Dechrau gwaith adfer
ar unrhyw ddarn o’r tir o fewn yr ardal a ganiateir pan ddaw'r defnydd i ben
fel cyfleuster siltio ategol ar gyfer unrhyw un o'r tri lagŵn a ddangoswyd
ar y cynlluniau cais ·
Daw'r defnydd a ganiateir o'r
safle fel lagŵn siltio ategol i ben erbyn 31 Rhagfyr 2028; cwblheir y
gwaith adfer wedyn erbyn 31 Rhagfyr 2029 neu pan fydd y gwaith yn dod i ben, pa
bynnag un ddaw gyntaf. ·
Gweithgareddau a ganiateir a
Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd. ·
Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a
ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys. ·
Oriau gweithredu. ·
Ymdrin â phridd a hwsmonaeth. ·
Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus. ·
Cyfyngiadau sŵn fel y gwneir
eisoes, gosod larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith. ·
Adfer i ddefnydd cymysg
amaethyddol a chadwraeth natur. ·
Ni ddylid storio olew, tanwydd a
chemegion o fewn safle'r cais. ·
Draenio, mesurau i atal llygru
cyrsiau dŵr lleol. ·
Mesurau ôl-ofal ar gyfer
defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth. ·
Cynllun adfer diwygiedig pe byddai
gwaith echdynnu mwynau cynamserol. ·
Rhwygo deunydd craidd y ddaear i
osgoi cywasgu arwynebol a chyflawni draenio digonol. ·
Lleiafswm o ddyfnderoedd isbridd ac uwchbridd Cofnod: Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio amod 2 o
ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1064/22/AC er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i
gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais yn gofyn am ymestyn
cyfnod amser gweithredu lagwnau siltio sy’n gysylltiol i’r gwaith prosesu tywod
a graen sydd wedi eu cloddio o’r chwarel. Byddai'r dulliau gweithio a
phrosesau'r un fath â'r rhai sy'n cael eu defnyddio yn y chwarel ar hyn o bryd. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd y
byddai parhau i gloddio am dywod a graean yng Nghefn Graianog
yn sicrhau bod y Cyngor yn diwallu ei oblygiadau dyraniad yn y Datganiad
Technegol Rhanbarthol, i gyflenwi mwynau ar gyfer isranbarth Gogledd Cymru a
chadw banc tir saith mlynedd o dywod a graean.
Nodwyd mai ychydig o gronfeydd tywod a graean a ganiateir sydd ar gael
yng Ngogledd Orllewin Cymru ac y byddai’r cynnig hwn yn golygu parhad mewn
darparu cyflenwad o dywod a graean i'r economi adeiladu leol. Mynegwyd bod
cadw’r lagwnau siltio yn hanfodol ar gyfer y gwaith o brosesu, golchi a
didoli’r deunydd; yn dderbyniol ac yn cyd-fynd a gofyniad polisïau MWYN 2, MWYN
3 a Pholisi Strategol PS 22 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Wrth ystyried mwynderau preswyl, nodwyd bod un
eiddo unigol wedi'i leoli o fewn y parth byffer 100m fel y rhagnodir o dan
bolisi MWYN 5 CDLl. Bydd y datblygiad yn destun yr un
amodau gwaith a’r hyn sydd yn bodoli eisoes, gan gynnwys rheoli sŵn, llwch
ac oriau gwaith; yn ddarostyngedig i amodau priodol i reoli effeithiau sŵn
a llwch ac oriau gweithio, ni fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar
fwynderau'r ardal ac felly'n cydymffurfio â pholisi PCYFF 2, MWYN 3 a MWYN 5 y CDLl. Nid yw'r bwriad yn cynnwys unrhyw newid i
symudiadau traffig a chludo i'r safle ac oddi yno. Eglurwyd bod asesiad bioamrywiaeth wedi'i ddiweddaru wedi'i gwblhau i gefnogi’r ceisiadau cysylltiol sydd wedi eu cyflwyno ar gyfer ymestyn amser gwahanol ganiatadau’r chwarel. Eglurwyd hefyd bod angen asesu p'un a fu unrhyw newid i'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cais Rhif C24/1126/34/AC Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SY Cais o dan
Adran 73 ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1065/22/AC
er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais. Amodau ·
Bydd echdynnu a phrosesu mwynau yn dod i ben
erbyn 31 Rhagfyr 2028 ac erbyn hynny bydd yr holl offer a pheiriannau wedi cael
eu symud o'r safle; rhaid cwblhau'r gwaith adfer erbyn 30 Mehefin 2029. ·
Gweithgareddau a Ganiateir a Chydymffurfiaeth
â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd; ·
Cyfyngu ar Hawliau Datblygu a Ganiateir,
adeiladau, strwythurau, pethau gaiff eu codi, ffyrdd preifat, llifoleuadau a
ffensys. ·
Oriau Gweithio. ·
Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau
dŵr lleol. ·
Adolygiad blynyddol o weithrediadau. ·
Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus. ·
Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a
chadwraeth natur. ·
Ail-osod terfynau caeau. ·
Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau
amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth. ·
Rheolaethau llwch a chyfyngiadau sŵn i
fod yr un fath ag y gwneir eisoes, a gosod larymau sŵn gwyn ar y
peiriannau ar y wyneb gweithio. ·
Lliniaru a chofnodi archeolegol. ·
Gosod gorchudd ar loriau sy'n gadael y safle
gyda cherrig llai na 500mm. ·
Cyfyngu mynediad cerbydau i'r trefniadau
mynediad presennol. ·
Ni chaniateir cludo deunyddiau sbwriel neu
wastraff i'r safle. ·
Y prif ddull o gludo deunydd crai o wyneb y
gwaith i'r ffatri brosesu fydd ar gludwr (conveyor) oni chytunir fel arall. Cofnod: Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio
amod 2 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod
C20/1065/22/AC er mwyn rhoi
4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith
mwynau ac adfer Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cynnig yn gofyn
am ymestyn y cyfnod amser hyd at 31 Rhagfyr 2028 i barhau gyda'r gweithrediadau
mwynau yn Fferm Graianog. Bydd hyn yn sicrhau nad
yw'r gronfa fwynau yn cael ei sterileiddio, ac y bydd modd cwblhau'r gwaith o
adfer y safle yn unol â'r cynllun gwaith
a gymeradwywyd a darparu seilwaith ategol i gefnogi'r cynigion i gaffael
a gweithio mwynau o'r chwarel. Nid yw'r cynnig yn cynnwys ymestyn ôl-troed y
gwaith mwynau ei hun, dim ond ymestyn y cyfnod amser am 4 blynedd arall. Bydd
gweithgareddau peiriannau ar y safle, prosesu, cludiant a'r gwaith o gloddio'r
mwyn yn cael ei gadw'n llwyr oddi mewn i ffiniau'r safle presennol ac yn unol â
thelerau ac amodau'r caniatâd cynllunio cyfredol. Eglurwyd y byddai'r dulliau gweithio a
phrosesau'r un fath â'r rhai sy'n cael eu defnyddio yn y chwarel ar hyn o bryd
a byddant yn defnyddio'r un echdynwyr, cludyddion a'r peiriannau symudol eraill
fel y rhai presennol. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad nodwyd
y bydd gwaith cloddio am dywod a graean yn parhau yng Nghefn Graianog yn sicrhau bod y Cyngor yn diwallu ei oblygiadau
dyraniad yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol, i gyflenwi mwynau ar gyfer
is-ranbarth Gogledd Cymru a chadw banc tir saith mlynedd o dywod a graean. Eglurwyd mai ychydig o gronfeydd tywod a
graean a ganiateir sydd ar gael yng Ngogledd Orllewin Cymru ac y byddai’r
cynnig hwn yn golygu parhad i ddarparu cyflenwad o dywod a graean i'r
economi adeiladu lleol; egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac yn cyd-fynd a
gofyniad ym mholisïau MWYN 2, MWYN 3 a Pholisi Strategol PS 22 y CDLl. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a’r
dirwedd, nodwyd bod y cais yn benodol ar gyfer ymestyn cyfnod y datblygiad ac
nid yw felly’n cynnwys unrhyw estyniad neu addasiadau ffisegol i'r ardal
weithio sydd eisoes wedi ei gymeradwyo. Byddai natur y cynnig i ymestyn oes y
gweithrediadau yn ymestyn yr effeithiau gweledol yn y tymor canolig, ond o
ystyried bod cyd-destun cyffredinol mewn gwaith mwynau wedi'i sefydlu, ni
ystyriwyd y byddai'n arwain at unrhyw lefelau mawr o effeithiau gweledol.
Amlygwyd bod ffin AHNE Llŷn yn agos i’r safle, ond derbyniwyd cadarnhad
gan yr Uned AHNE nad oedd unrhyw bryderon ynghylch yr effaith ar yr AHNE o
ystyried mae dim ond estyniad amser cyfyngedig oedd yma; yr Awdurdod Cynllunio
Mwynau yn ystyried bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 3,
PCYFF 4 a MWYN 9 y CDLl. Wrth ystyried mwynderau preswyl, nodwyd bod un eiddo unigol wedi'i leoli o fewn y parth byffer 100m fel y rhagnodir o dan bolisi MWYN 5 CDLl. Bydd y datblygiad yn destun yr un amodau gwaith a’r hyn sydd yn bodoli eisoes, gan gynnwys rheoli sŵn, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Gosod cebl
trydan tanddaearol mewn perthynas â chynllun cyfleuster storio ynni BESS
Pentir (cyfeirnod yr ACLl: C24/0532/25/LL) AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Menna Baines a’r
Cynghorydd Elwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn unol â’r
amodau isod: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a
gyflwynwyd gyda’r cais. 3. Cydymffurfiaeth gydag
argymhellion y dogfennau Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith
Coedyddiaeth a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd. 4. Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu
Amgylcheddol er rholi effeithiau ar yr amgylchedd naturiol. 5. Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu er rheoli materion mwynderol. 6. Cytuno
rhaglen waith Archeolegol 7. Cyflwyno Cynllun Adfer y Safle adfer y safle i gyflwr a
gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod
i ben 8. Cyflwyno cynllun gwaredu Jac y Neidiwr o’r safle 9. Cyflwyno manylion dull drilio tanddaearol gyda lleoliadau
pwyntiau lansio wedi eu lleoli y tu allan i ardaloedd gwarchod gwreiddiau’r
coed. Nodiadau: Cyfoeth Naturiol
Cymru Gwasanaeth
Cynllunio Archeolegol Gwynedd Cofnod: Gosod cebl trydan tanddaearol mewn perthynas â chynllun cyfleuster
storio ynni BESS Pentir (cyfeirnod yr ACLl:
C24/0532/25/LL) Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais cynllunio llawn ydoedd ar gyfer
gosod cebl tanddaearol 830m rhwng is-orsaf drydan Pentir a’r cyfleuster System
Storio Ynni Batri gerllaw a gymeradwywyd trwy ganiatâd cynllunio yn 2024.
Disgwylid i'r cyfnod gosod gymryd uchafswm o 10 wythnos, gyda’r cebl yn cael ei
osod o dan y ddaear naill ai drwy ffosydd wedi'u cloddio ar yr wyneb ac wedi'u
llenwi'n ôl, neu drwy Ddrilio Cyfeiriadol Llorweddol. Eglurwyd bod y safle mewn safle Cefn Gwlad Agored ac o fewn Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig gyda rhan fechan o fewn Parth Llifogi 3 (dŵr wyneb a chyrsiau dŵr). I’r gogledd
o’r safle mae’r coetir cyfagos yn “Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol”
cydnabyddedig ac wedi ei restru ar Restr Coetiroedd Hynafol fel “Planhigfa ar
Safle Coetir Hynafol”. Nodwyd hefyd bod y tir wedi’i ddosbarthu’n 3a, 3b a 5 ar
y Map Dosbarthiadau Tir Amaethyddol rhagfynegol ar gyfer Cymru. Gyda’r bwriad wedi ei leoli ar gyfer cysylltu dau safle sydd eisoes â
chaniatâd, amlygwyd bod y lleoliad gwledig yn anorfod. Tynnwyd sylw at bolisi
ISA 1 sy’n gefnogol i gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i
wella’r ddarpariaeth, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl; y polisi yn
nodi pwysigrwydd bod y ddarpariaeth isadeiledd ar gyfer safle datblygu yn cael
ei leoli a’i ddylunio mewn modd sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd
naturiol ac adeiledig. Bydd y datblygiad yma yn cael ei osod yn gyfan gwbl dan
y ddaear, ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion ISA
1. Bydd y dull o osod y cebl yn gymysgedd o ddarparu ffosydd wedi'u cloddio
ar yr wyneb ac wedi'u llenwi'n ôl, neu drwy Ddrilio Cyfeiriadol Llorweddol o
fewn ardaloedd ble mae angen gwarchod gwreiddiau coed a rhywogaethau sy’n byw
yn y coed. Mae’r ardaloedd a fydd yn destun y dull drilio wedi eu hamlygu,
hynny’n rhannol o ganlyniad i sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r cadarnhad
o ddefnyddio’r dull drilio yn yr ardaloedd penodol yma ynghyd a gosod amod
cynllunio ar gyfer cytuno pwyntiau lansio’r dull drilio yn sicrhau bod y coed
a’r rhywogaethau yn cael eu gwarchod. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol. Ategwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu ymateb ar y 14eg o
Dachwedd yn nodi eu bod bellach yn fodlon gyda’r cynnig; Ni fydd effaith uwchddaear yn dilyn gosod y cebl ac felly ni ystyriwyd y
byddai’n cael effaith hirdymor ar unrhyw gynefin na’r tir amaethyddol. Cydnabuwyd y bydd anghyfleustod o ran sŵn a symudiad yn ystod y cyfnod
adeiladu, ond ystyriwyd bod y cyfnod yma yn fyr, ac yn ddarostyngedig i amodau
sy’n ymdrin â materion sŵn, llwch a dirgryniad, ynghyd a chytuno Cynllun
Rheoli Adeiladu ymlaen llaw, ystyriwyd y gallai leddfu unrhyw effeithiau ac
felly'r bwriad yn dderbyniol yn y cyd-destun yma. Cyfeiriwyd at faterion trafnidiaeth, iaith, a llifogydd oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Cais Rhif C25/0418/30/LL Tir gyferbyn Deunant, Aberdaron, Pwllheli, LL53 8BP Cais llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy (safle
eithrio) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol,
ffordd stâd, tirlunio ac ardal draenio dwr wyneb cynaliadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad
safle Rheswm: I asesu effaith y bwriad ar fwynderau’r trigolion
cyfagos Cofnod: Cais llawn i godi 8 tŷ par fforddiadwy (safle eithrio) gyda datblygiadau
cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa
gerbydol, ffordd stad, tirlunio ac ardal draenio dŵr
wyneb cynaliadwy Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod y bwriad yn cynnwys codi 3 byngalo 2 ystafell wely, 4 tŷ
deulawr 3 ystafell wely ac1 tŷ deulawr 4 ystafell wely i gyd i’w orffen
gyda chymysgedd o rendr, cladin carreg a choed ar y
waliau a tho llechen naturiol. Ategwyd bod clawdd naturiol presennol i flaen y
safle i’w drawsleoli i ffin ogleddol y safle gyda gwrychoedd newydd i’w codi ar
weddill ffiniau’r safle. Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig yn bresennol yn dir
amaethyddol agored gyda ffiniau o’i amgylch yn bennaf yn wrychoedd naturiol
gyda thai preswyl yn gyfochrog a’r safle i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r
de gydag edrychiadau o ran dyluniad, ffurf a gorffeniadau amrywiol. Saif y
cyfan tu allan i ffin ddatblygu gyfredol pentref Aberdaron ac felly yng nghefn
gwlad agored gyda ffin orllewinol a deheuol y safle arfaethedig yn cyffwrdd a’r
ffin datblygu bresennol. Ategwyd bod ffordd gyhoeddus dosbarth 3 wedi ei leoli
yn gyfochrog gyda’r ffin orllewinol a’r hyn fyddai blaen y safle, gyda mynediad
a hawl tramwy i mewn i diroedd amaethyddol yn rhedeg ar hyd ffin ogleddol y
tir. Y safle oddi mewn dynodiadau AHNE Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn parth 500m i heneb gofrestredig. Eglurwyd bod pentref Aberdaron wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig /
arfordirol yn y CDLl gydag oddeutu 95 o dai ac
ychydig o gyfleusterau o fewn y ffin datblygu gyfredol. Ar sail maint yr
anheddle nodwyd bod y datblygiad yn golygu twf o 7.6% i’r anheddle, ond gyda
chaniatâd diweddar wedi ei gymeradwyo ar gyfer safle eithrio arall am 5 uned i’r
anheddle, bydd twf o 12.35% yn ei gyfanrwydd sy’n gyfystyr a’r lefel twf
disgwyliedig i’r anheddle yma. Gyda’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu disgwylid i’r
holl unedau fod ar gyfer angen fforddiadwy lleol. Ar gyfer Aberdaron diffinnir
hyn fel pobl sydd mewn angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi byw o fewn y
Pentref, neu yn yr ardal wledig o gwmpas am bum mlynedd neu fwy yn olynol, unai
yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol. Diffiniwyd ‘ardal wledig’ yn yr
achos yma fel pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned
sy'n cael ei rannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu
unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli. Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf Datganiad Anghenion Tai a Thai Fforddiadwy sy’n cyfeirio at angen sydd wedi ei amlygu ar Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg yn Aberdaron a phentref Rhiw, gan nodi fod Rhiw wedi ei leoli o fewn 6km i’r dwyrain o Aberdaron ac nad yw wedi ei gynnwys fel anheddiad dynodedig, gan gynnwys clwstwr, ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |