Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts, Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) a Tony Bates (Estyn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 659 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Croesawu adborth o ymatebion a dderbyniwyd gan y Cabinet (23/01/24) i sylwadau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar yr eitem Cyllideb Refeniw 2023/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

           

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet Cyllid i roi adborth ar y sylwadau a gyflwynodd y Pwyllgor  i’r Cabinet (23 Ionawr 2024) ar yr eitem Trosolwg Arbedion: Adroddiad Cynnydd ar Wireddu Cynlluniau Arbedion; cafwyd hefyd diweddariad ar y gwaith sydd yn cael ei gyfarch mewn adolygiadau parthed gorwario mewn adrannau (eitem Cyllideb Refeniw 2023/24). 

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Croesawu adborth o ymatebion a dderbyniwyd gan y Cabinet (23/01/24) i sylwadau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar yr eitem Trosolwg Arbedion: Adroddiad Cynnydd ar Wireddu Cynlluniau Arbedion a Cyllideb Refeniw 2023/24

 

5.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 69 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y cynigion gwella yn cael eu gweithredu

 

Nodyn:

·         Ymateb i  Argymhelliad 5 ‘Amser am newid - Tlodi yng Nghymru’ - Darparu rhif ar gyfer y nifer y mae’r Cyngor wedi ymgysylltu â hwy

·         Addasu fformat yr adroddiad i’r dyfodol fel bod cynnwys yr argymhellion yn gyson

 

Cofnod:

Cyflwynywd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Atgoffwyd yr Aelodau bod ganddynt gyfrifoldeb i  ystyried adroddiadau  allanol (cenedlaethol a lleol i Wynedd), yr argymhellion a gynhwysir ynddynt, goblygiadau llywodraethiant, rheoli risg neu reolaeth a sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o’r archwiliadau yn cael eu gweithredu.

 

Amlygodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor bod ffurflen ymateb yn cael ei chwblhau gan y rheolwyr fel trefn i’r broses ymateb erbyn hyn, gyda’r cynnydd yn cael ei fesur yn erbyn yr argymhellion gwella. Nododd bod y gwaith o ymateb i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd yn yr argymhellion. Ategwyd na fydd y cynigion hynny sydd yn derbyn casgliad yn nodi ‘wedi ei gwblhau – gwaith parhaus’ a ‘wedi ei gwblhau – argymhellion wedi eu gwireddu’yn derbyn sylw pellach gan y Pwyllgor; Bydd diweddaraid i’r rhai hynny sy’n derbyn casgliad ‘gwaith paratoadol’ ac ‘ar waith’ yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 6 mis a bydd gwaith yn cael ei wneud i’r dyfodol i addasu fformat yr adroddiad fel bod cynnwys yr argymhellion yn gyson

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha fath o archwilio cefndir sydd yn cael ei gwblhau ynghyd ag os yw’r Archwilwyr yn fodlon bod camau digonol wedi eu cymryd i gyfarch yr argymhellion, nodwyd mai disgwyliad Cyngor Gwynedd yw i’r wybodaeth yma gael ei gynnwys ar y ffurflen ymateb ac y bydd diweddariad pob chwe mis yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hyd nes bydd yr argymhellion wedi eu cyfarch yn llawn. Ategwyd bod disgwyli’r cynnydd hefyd gael ei drafod yn fewnol mewn cyfarfodydd herio a chefnogi perfformiad.

 

Ategodd Swyddog Archwilio Cymru nad oedd argymhellion yn cael eu olrhain, ond bod nifer o’r materion sydd yn codi yn dueddol o godi mewn agweddau o waith gwahanol sydd felly’n creu darlun o ymateb.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Aelod bod angen rhyw lefel o wrthrychedd a sicrwydd fyddai’n ychwanegu gwerth wrth hunanasesu. Gofynnwyd os byddai Archwilio Mewnol yn gallu cwblhau'r gwaith yma? Mewn ymateb i’r cwestiwn, nododd y Pennaeth Cyllid, o safbwynt gwaith Archwilio Mewnol, byddai’n ddibynnol ar y math o argymhelliad sy’n cael ei argymell ac os yw’n haeddu sylw. Ategodd nad oedd hyn yn dod o dan drefniadau Archwilio Mewnol ond y byddai modd ei gynnwys fel rhan o gynllun Archwilio Mewnol. Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y cyfarfodydd herio a chefnogi perfformiad yn heriol ac yn unol â sylw'r Archwilwyr, os nad oes rhywbeth wedi derbyn sylw digonol, trwy gyfuniad, byddai pethau yn dod i’r amlwg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd y nifer a ymgysylltwyd â hwy (‘Amser yn Newid - Tlodi yng Nghymru’ - ymateb i argymhelliad 5 sy’n nodi, ‘dros y 18mis diwethaf rydym wedi ymgysylltu gyda nifer fawr o bobl sydd mewn tlodi ...’), nododd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

AROLYGIAD ESTYN O WASANAETHAU ADDYSG CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 127 KB

 

·         I ddarparu sylwadau ar gynnwys adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd;

·         I ystyried unrhyw drefniadau i graffu ar drefniadau’r Adran i ymateb i argymhellion yr adroddiad yn amserol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn cynnwys adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd
  • Derbyn a nodi'r trefniadau i graffu ar drefniadau’r Adran Addysg i ymateb i argymhellion yr adroddiad yn amserol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg oedd yn cynnwys adroddiad Estyn o wasanaethau addysg Cyngor Gwynedd (Mehefin 2023) er sylw’r Pwyllgor. Yn unol â chyfrifoldebau’r Pwyllgor o adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor, mae disgwyliad i ystyried adroddiadau Estyn. Amlygodd bod Archwilio Cymru wedi cyfrannu at ganlyniad yr arolwg a bod yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Tachwedd 2023.

 

Cyfeiriwyd at y prif bwyntiau a amlygwyd gan Estyn ynghyd ar argymhellion fyddai’n gwella’r gwasanaeth. Cyfeiriwyd hefyd at y cynllun gweithredu sydd wedi ei ddarparu gan yr Adran Addysg mewn ymateb i’r argymhellion hynny (nid yw’r cynllun gweithredu wedi ei gyflwyno i Estyn oherwydd mai argymhellion yn ymwneud a materion lleol sydd yma ac nid materion statudol).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Bod yr adroddiad yn un positif iawn

·         Croesawu bod trafodaeth lawn wedi bod ar yr adroddiad a’r cynllun gweithredu yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gydag argymhelliad i’w alw yn ôl am ddiweddariad pellach ymhen 9 mis

·         Bod rôl bendant gan y Gwasanaeth Ieuenctid i chwarae rhan mewn cyfleoedd i bobl ifanc

·         Presenoldeb disgyblion – bod y patrwm yn amrywio o ysgol i ysgol

·         Croesawu camau i sicrhau mwy o gysylltiad rhwng craffu a blaenoriaethau gwella Cynllun y Cyngor

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adrodd ar gynnydd y cynllun gweithredu, nodwyd y bydd diweddariad o’r cynnydd /diffyg cynnydd a  wnaed ar yr argymhellion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Medi 2024.

 

Mewn ymateb i gwestiwn mai dim ond rhai o sylwadau Estyn sydd wedi arwain at argymhelliad, nodwyd bod tri mater yn sefyll allan ac wedi eu mabwysiadu fel rhan o flaenoriaethau’r Adran eleni. Ategodd bod y tri argymhelliad yn arwyddocaol tra bod erial yn rhan o waith bob dydd e.e., ymateb i ysgolion sydd yn tanberfformio. Derbyniodd, fel rhan o’r broses adolygu, bod angen sicrhau mwy o wybodaeth tu ôl i’r sylwadau llai arwyddocaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gostyngiad sylweddol mewn presenoldeb disgyblion ers covid 19 a pham bod Gwynedd gyda lefel uwch nag Awdurdodau eraill yng Nghymru, nodwyd nad oedd Gwynedd yn is na Chymru erbyn hyn (Gwynedd y cyntaf o’r Awdurdodau i gael eu harolygu ar fater presenoldeb ôl-covid ac felly amseriad yr arolwg yn awgrymu perfformiad Gwynedd yn is), ond yn derbyn bod presenoldeb yn destun pryder ac yn her genedlaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â data 2021 - cyllid ysgolion arbennig, bod Gwynedd o fewn y chwartel isaf yng Nghymru a’r effaith posib y gall hyn gael ar ysgolion ac addysg arbennig yng Ngwynedd, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i gyfarch y mater. Ategwyd mai anodd yw gwneud cymariaethau cenedlaethol gan fod natur plant a dwyster yr anghenion yn arwain at osod cyllideb i ysgolion arbennig i gyfarch yr anghenion hynny. Ategodd mai anodd yw dadansoddi effaith er bod cynnydd diweddar wedi ei weld yn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARBEDION 2024/25 pdf eicon PDF 134 KB

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod ar Chwefror y 20fed

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·         Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion

·         Bod yr arbedion a gynigwyd yn rhesymol a chyraeddadwy

·         Bod y risgiau a’r goblygiadau’r penderfyniad yn glir

·         Bod yr adroddiad yn ddigonol i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo’r Cynllun Arbedion 2024/25 yn eu cyfarfod 20/2/24

 

Nodyn:

Bod cynllun cyfathrebu clir mewn lle

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried priodoldeb y broses o adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn dod i benderfyniad yn eu cyfarfod 20-02-24. Adroddwyd nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu rinweddau’r cynigion unigol sy’n cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach sicrhau fod y Cabinet yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt, fel bod y penderfyniad sydd yn cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn cyflawni arbedion yn ddiffael ers 15mlynedd bellach a’r her o gyflawni’r arbedion hynny heb niweidio gwasanaethau trigolion y Sir yn anoddach. Eglurwyd bod y Cyngor bellach yn ymwybodol o lefel Grant Cynnal Refeniw (GCR) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 (cynnydd o 2%), ac y bydd yn sylweddol is na lefel chwyddiant a chryn bellter islaw’r hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol.

 

Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor hefyd yn wynebu sefyllfa lle mae adrannau yn gorwario, a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau; yn amhosib erbyn hyn i rai gwasanaethau megis digartrefedd, gofal plant, gofal oedolion a chludiant ysgolion weithredu o fewn eu cyllideb presennol. Bydd hyn yn arwain at orwariant eleni o oddeutu £8m a gan nad oedd cyfle i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y bwlch, bydd rhaid defnyddio arian wrth gefn i ymdopi â’r sefyllfa. Canlyniad darparu cyllideb uwch ar gyfer yr adrannau sydd methu ymdopi â’u cyllideb presennol, cyfanswm Grant Cynnal Refeniw isel gan y Llywodraeth, yw bwlch ariannol eleni o £14.9m.

 

I ganfod arbedion, cyflwynwyd 135 o gynigion gan Adrannau’r Cyngor. Aseswyd pob cynnig gan y Prif Weithredwr neu gan un o'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u gosodwyd mewn pedwar categori i gynorthwyo’r Aelodau flaenoriaethu cynlluniau arbedion 2024/25 gydag ymwybyddiaeth o beth fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol.  Yn ystod gweithdai a gynhaliwyd gyda’r Aelodau, gosodwyd yr holl gynigion mewn categoriau er mwyn eu blaenoriaethu o’r rhai mwyaf ‘derbyniol’ hyd at y cynigion lleiaf ‘derbyniol’. Adroddwyd bod consensws bras ymysg yr holl aelodau a gymerodd ran yn y gweithdai (oedd yn cynnwys Aelodau Cabinet, Cadeiryddion Craffu ac Arweinyddion Grŵp ) bod posib gweithredu oddeutu £5.2m o’r cynigion dros y ddwy neu dair blynedd nesaf.

 

Cyfeiriwyd at ddau ran i’r broses gyda rhan A yn cynnwys cynlluniau y gellid symud ymlaen i’w gweithredu yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet tra bod rhan B yn adlewyrchu cynlluniau sydd yn ddarostynedig i gamau statudol neu benderfyniadau pellach cyn y gellid eu cadarnhau. Ategwyd bod asesiad cyfreithiol, cydraddoldeb, effeithlonrwydd ac asesiad ariannol lefel uchel angen eu cwblhau ar bob cynllun unigol i sicrhau bod modd eu cyflawni ac er mwyn cynllunio’n ddarbodus bydd rhagdybiaeth risg rhesymol yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Arbedion. Argymhellwyd  £0.52m (10%) o’r cyfanswm o £5.2m y bydd angen ei ganfod fel swm i’w ddynodi “dan risg”.

 

Diolchwyd am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYLLIDEB 2024/25 pdf eicon PDF 588 KB

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2024/25 i’r Cyngor llawn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·         Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 20/2/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 2.0% (cyfartaledd Cymru yn 3.1%) ar gyfer 2024/25, sy’n cyfateb i werth £4.1m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2024/25 gyda’r angen i gynyddu gwariant o £22.4m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Yn ogystal â chyfarch y galw ar wasanaethau a graddfa chwyddiant uchel bydd rhaid ystyried cyfuniad o gynnydd Treth Cyngor a rhaglen newydd o arbedion a thoriadau. Gydag argymhelliad o gynnydd o 9.54% yn y Dreth Cyngor bydd angen £2m ychwanegol o arbedion i osod cyllideb gytbwys gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i  gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 20/02/24) yn argymell i’r Cyngor Llawn (07/03/24) i sefydlu cyllideb o £330,590,040 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110 a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sydd yn gynnydd o 9.54% ar dreth anheddau unigol)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

 

·         Chwyddiant Cyflogau o £15.1m – y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2024/25 o 5% ar gyfer yr holl weithlu o Ebrill 2024 ac athrawon o Fedi 2024

·         Cyfraniad cyflogwr tuag at Pensiwn Athrawon – cost o £2.36m - y gyllideb wedi ei gosod ar sail y bydd y gost yn cael ei ariannu yn llawn gan y Llywodraeth

·         Chwyddiant Arall o £6.8m - swm sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau yn ddibynnol ar raddfa chwyddiant meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal Dibreswyl, Ynni, Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill).

·         Ardollau i gyrff perthnasol yn cynyddu £342k

·         Darpariaeth Chwyddiant Trydan o £3m

·         Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd mewn plant yn derbyn gofal

·         Pwysau ar Wasanaethau - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £5.1m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau â llif arian y Cyngor ynghyd a rhyddhau darpariaeth (£1.4m) oedd mewn lle ar gyfer gwariant yn deillio o argyfwng Covid a chynnydd cost o £758k oherwydd cyllidebu am leihad grant Gweithlu Gofal a dderbynnir gan y llywodraeth.

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £39.1m  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH GYFALAF 2024/25 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 243 KB

I dderbyn y wybodaeth ac ystyried unrhyw risgiau sy’n codi o’r strategaeth cyn cyflwyno i’r Cyngor llawn am gymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·         Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol

·         Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar y 7fed o Fawrth 2024

 

Cofnod:

Cymerodd yr Aelod Cabinet y cyfle i ddiolch i’r Aelodau a fynychwyd y cyfarfod gydag Arlingclose  07-02-24 ac amlygodd bod Arlingclose wedi nodi bod ‘Gwynedd yn mynd i’r cyfeiriad cywir’.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor ac fel y nodwyd uchod, roedd yr Aelodau wedi derbyn cyflwyniad gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose yn egluro’r manylder tu ôl i’r strategaeth mewn modd dealladwy a chynhwysfawr.

 

Cyfeiriwyd at y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £90.2miliwn yn 24/25 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau ein hunain yw’r cronfeydd.  Daw gweddill o’r arian trwy fenthyciad fydd yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £190.5 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 24/25, sef y lefel y dylai benthyg tymor hir y cyngor aros odditano.

 

Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd y flwyddyn ariannol; bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei ragweld ar gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf.

 

Cyfeiriwyd at y Meincnod Ymrwymiadau sydd bellach yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor yn chwarterol erbyn hyn. Bydd y Cyngor yn disgwyl i’w fenthyciadau fod yn uwch na’i feincnod ymrwymiad hyd ar 2027 oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o reserfau.

 

Yng nghyd-destun Strategaeth Buddsoddi, nodwyd mai polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod symiau yn cael eu cadw drwy’r adeg i sicrhau hylifedd parhaus - ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth ar hyn o bryd mewn cyfnod o doriadau a chwyddiant.

 

Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder ymrwymiadau tymor hir y Cyngor e.e., unioni diffyg y Gronfa Bensiwn, ac effaith o’r costau ariannu i’r llif arian lle gwelir bod y ganran yn isel ac yn eithaf cyson gyda blynyddoedd blaenorol. Cadarnhawyd hefyd bod y wybodaeth a sgiliau perthnasol gan y swyddogion ac mai Arlingclose sydd yn parhau i ddarparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol

·         Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth am gymeradwyaeth y Cyngor Llawn ar y 7fed o Fawrth 2024

 

10.

DIWEDDARIAD CANOL BLWYDDYN AR RISGIAU LLYWODRAETHU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 190 KB

I dderbyn yr adroddiad a sylwebu ar y cynnwys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·         Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth

·         Cefnogi cynnydd sgôr risg CYLLID o 10 (Risg Canolig) i 20 (Risg Uchel Iawn) i adlewyrchu gwir sefyllfa ariannol y Cyngor

 

Cofnod:

Yn dilyn awgrym gan y Pwyllgor yng nghyfarfod 12 Hydref 2023, cyflwynwyd adroddiad canol blwyddyn gan y Pennaeth Cyllid yn rhoi diweddariad ar gynllun gweithredu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a gymeradwywyd yn yr un cyfarfod.

 

Eglurwyd bod y datganiad, yn ddogfen statudol  ac yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le. Atgoffwyd yr Aelodau bod Cofrestr Risg Llywodraethu yn rhan o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor wedi ei ddatblygu yn unol â 7 egwyddor craidd ar gyfer Llywodraethu Da. Adnabuwyd risgiau mewn 24 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny.

 

Adroddwyd ym mis Hydref, bod 4 math o risg a bod pob risg gyda pherchnogaeth adrannol; y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel iawn, 4 maes risgiau uchel, 11 maes risgiau canolig a 9 maes risgiau isel. Fodd bynnag, ers cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu ym mis Hydref 2023, adroddwyd bod newid i Risg Cyllid gyda’r sgôr wedi cynyddu o 10 (Risg Canolig) i 20 (risg Uchel Iawn). Eglurwyd er bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer cynllunio a rheoli ariannol, bod canlyniad y setliad, chwyddiant, yr angen i ddarganfod arbedion, y galw cynyddol ar wasanaethau, yn heriol a’r bwlch ariannol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Er bod trefniadau ariannol cadarn mewn lle, gwaned penderfyniad i gynyddu’r sgôr risg i amlygu’r sefyllfa yn gywir - am y tro cyntaf yn 2023/24 rhagwelwyd y byddai pob un o adrannau’r Cyngor yn gorwario.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd mai’r sefyllfa gyllidol yw’r risg mwyaf i’r Cyngor ac felly doeth oedd cynyddu’r sgôr risg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os yw’r gyllideb yn addas yn y lle cyntaf ac os oes ffordd i’r adrannau gynllunio ymlaen drwy ddefnyddio data / proffilio e.e., lleihad yn niferoedd ysgolion cynradd yn cael effaith ar ysgolion uwchradd - gellid plotio effaith i’r dyfodol, nodwyd, mewn sefyllfaoedd o orwario o fewn yr adnoddau sydd ar gael, bydd angen i adrannau sy'n parhau i orwario adrodd i Aelodau gydag eglurhad a chamau sydd i'w cymryd.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth

·         Cefnogi cynnydd sgôr risg CYLLID o 10 (Risg Canolig) i 20 (Risg Uchel Iawn) i adlewyrchu gwir sefyllfa ariannol y Cyngor