Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cyng. Cai Larsen gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2025/26. Cofnod: Bu i’r Cyng. Cai
Larsen gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2025/26. |
|
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cyng. Rhys Tudur ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26. Cofnod: Bu i’r Cyng. Rhys Tudur gael ei ethol yn is-gadeirydd ar gyfer 2025/26. |
|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Dewi Owen a Colette Owen (Aelod Cyfetholedig Yr Eglwys Gatholig). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y Cyng. Dawn Lynne Jones fuddiant ar gyfer eitem 8
gan ei bod yn gweithio gyda phlant, ond gan ei fod yn adroddiad perfformiad nid
oedd yn rhagfarnu ac nid oedd angen iddi adael y cyfarfod. Bu i’r Prif Weithredwr ddatgan buddiant ar gyfer eitem 8 –
gan fod ei wraig yn gweithio yn yr adran Addysg, felly bu iddo adael ar gyfer y
drafodaeth. Bu i’r Cyng. Beth
Lawton, Gareth Tudor Jones, Richard Glyn Roberts a Sian Williams ddatgan
buddiant ar gyfer eitem 9, gan eu bod yn aelodau ar Fwrdd Byw’n Iach, ond nid
oedd yn rhagfarnu ac felly nid oedd angen gadael ar gyfer y drafodaeth. Bu i Sharon Williams adael y cyfarfod yn rhinwedd ei swydd
ar gyfer eitem 9. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Doedd dim materion
brys i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Ebrill, 2025 fel rhai cywir. |
|
|
GRŴP TASG A GORFFEN POLISI IAITH ADDYSG DRAFFT Cyflwyno argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen o ran geiriad y polisi drafft. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: • Nodi allbwn gwaith y Grŵp Tasg a
Gorffen ond nid oedd consensws ar yr holl addasiadau a argymhellwyd; • Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried yr ystod o sylwadau a gyflwynwyd gan yr Aelodau Craffu wrth lunio’r polisi terfynol. Cofnod: Yn dilyn trafodaeth ar Bolisi Iaith Addysg Drafft
yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 10 Ebrill 2025, penderfynwyd ffurfio grŵp
tasg a gorffen i drafod geiriad y polisi drafft. Bu i’r Cynghorydd Rhys Tudur, Cadeirydd y Grŵp
Tasg a Gorffen gyflwyno’r newidiadau a argymhellwyd gan y Grŵp Tasg a
Gorffen. Nodwyd bod nifer o’r argymhellion yn tynhau yn eiriol i finiogi’r
polisi ond fod rhai yn fwy arwyddocaol. Roedd y prif bwyntiau fel a
ganlyn: 1. Mynegwyd
yr angen i nodi mai’r ysgol sydd i ddewis pa bynciau trawsgwricwlaidd sy’n cael
ei ddysgu yn Saesneg. Nodwyd y byddai hyn yn ei wneud yn fwy clir. 2. Dylid
nodi yn y polisi fod gweithgareddau allgyrsiol yn cael eu cynnal drwy’r Gymraeg
os oedd adnodd ar gael. 3. Argymhellwyd
i ddefnyddio diffiniad o Ysgol Gymraeg sydd yn Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
2025 yn hytrach na beth sydd wedi ei nodi yn y canllawiau statudol presennol, a
drwy hyn bod yn rhagweithiol drwy gydymffurfio a’r ddeddf newydd. 4.
Nodwyd y dylai’r polisi fynegi canran darpariaeth Gymraeg yr holl
ddisgyblion. 5.
Amlygwyd yr angen i ysgolion fod yn manylu ar beth fydd eu cynlluniau
cynnydd. 6. A
holwyd beth fydd disgwyliad y polisi gydag Ysgol Uwchradd Tywyn ac Ysgol Friars, gan eu bod yn gweithredu i raddau fel ysgolion
Saesneg - holwyd os bydd polisi gwahanol neu driniaeth wahanol, gan y bydd yr
amcanion yn rhai sirol. Mynegwyd fod sylwadau wedi ei derbyn gan yr Adran
Addysg mewn ymateb i’r newidiadau a argymhellwyd, ond eu bod wedi amlygu heriau
ac nid ymatebion i’r argymhellion. Derbyniwyd sylwadau pellach gan aelodau’r Grŵp
Tasg a Gorffen gan fynegi eu siom yn ymatebion yr adran yn benodol gyda newid
geiriad i ddiffiniad yn y Bil Addysg yn hytrach ‘na’r canllawiau gan y byddai’n
Ddeddf yn dilyn derbyn cydsyniad Brenhinol, mynegwyd yr angen i symud ymlaen i
gydymffurfio a’r ddeddf. Mynegwyd yn ogystal fod y Grŵp Tasg a Gorffen
o’r farn fod angen i’r polisi fod yn gryf a gydag elfen o ddeheuad yn arbennig
wrth edrych ar y shifft iaith sydd o fewn y sir. Nodwyd fod y grŵp wedi
ymgeisio i dynhau’r polisi drafft. Bu i’r adran gael cyfle i ymateb, a mynegodd y
Swyddog Monitro o ran y ddeddf, ei bod ar y ffordd am gydsyniad Brenhinol ond
nad yw mewn grym ar hyn o bryd. Ychwanegodd y bydd amserlen gan y Llywodraeth i
elfennau ddod i rym a bydd yn oddeutu 4-5 mlynedd cyn y bydd hyn yn digwydd.
Eglurwyd y bydd cyfnod trosiannol tra bydd trefn statudol y ddeddf yn cael ei
roi mewn lle. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod yr adran o’r farn bod y polisi drafft yn dangos ymrwymiad i’r Gymraeg a’r angen i gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg. Mynegwyd yr angen i ddod a phobl gyda nhw, wrth roi polisïau a gweithdrefnau yn eu lle. Amlygwyd fod yr adran yn dangos cyfeiriad i’r ysgolion ond ar ddiwedd y dydd penderfyniad y Cyrff Llywodraethol oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG Adroddiad
i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Addysg. Bwriedir cael toriad i ginio am 12.30yp – 1.30yp Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau ynghyd â gofyn am weithrediad pellach ar rai
o’r sylwadau yng nghyswllt y meysydd canlynol: · Y Gymraeg a Chanolfannau Iaith · Amgylchedd dysgu i blant gyda chyflyrau penodol · Math o adeiladau o ran lleoliadau daearyddol ynghyd
â chostau trafnidiaeth · Absenoldebau
plant a chynhwysiad ynghyd â phlant sydd wedi ei eithrio o addysg ac yn cael eu
haddysgu o adref · Dibynadwyedd data ble mae sail y data yn fach · Costau
yn ymwneud a mynediad i addysg yn benodol i deuluoedd incwm isel a phlant sydd
yn cael ei gwahardd o ysgol · Penodi Penaethiaid · Prydlondeb o ran cyflwyno’r Strategaeth Addysg. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg gan nodi
fod y data yn siarad dros ei hun. Nodwyd fod llwyddiannau i’w dathlu,
cynlluniau i’w datblygu a'i fod yn edrych ymlaen at roi cyd-destun ar rai
cynlluniau gwella yn rhai meysydd. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Gofynnwyd o ran moderneiddio adeiladau a lleoliadau dysgu,
gan fod blaenoriaeth yn cael ei roi i anableddau corfforol gofynnwyd faint o
gynllunio sydd yn cael ei wneud ar gyfer anghenion sensori
plant, nid yn unig yr ystafelloedd ond o ran lliwiau ar y waliau, y bylbiau
golau sy’n cael eu defnyddio a.y.b.. Atebwyd gan nodi fod canllawiau i'w dilyn
wrth adeiladu ysgolion newydd, eglurwyd fod sicrhau darpariaeth Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY) yn rhan o’r canllawiau. Eglurwyd wrth adeiladu ysgolion mae’r
adran yn dysgu o un prosiect i’r llall, ac addasiadau wedi ei gwneud o ran cadw
drysau lliw naturiol ynghyd ac edrych ar oleuadau. Nodwyd yr angen i gael mwy o
fewnbwn yr adran pan fo ysgolion yn cael eu dylunio er mwyn ystyried y mathau
yma o anghenion, ac eglurwyd fod yr adran yn defnyddio rhan o arian grant
cyfalaf ADY i edrych ar y mater yma ymhellach a’u bod yn cydweithio gyda
Therapydd Galwedigaethol. Tynnwyd sylw yn ogystal gyda’r maes moderneiddio adeiladau a
lleoliadau dysgu fod cynlluniau yn Arfon a Dwyfor ond dim sôn am gynlluniau ym
Meirionnydd. Mewn ymateb, nodwyd fod arian cyfalaf moderneiddio addysg yn dod
mewn gweddau a bod nifer o ysgolion ym Meirionnydd wedi ei datblygu yn ystod y
wedd gyntaf gan amlygu cynlluniau ail strwythuro ysgolion yn y Bala, Tywyn a
Dolgellau. Bellach, eglurwyd, eu bod yn canolbwyntio yn benodol ar ardal
Bangor, ac yna pan fydd y wedd nesaf bydd yn symud i ardal arall o fewn
Gwynedd. Mynegwyd wrth edrych ar gynllun lleihau cost anfon plant i’r
ysgol fod y mesuryddion yn goch, a holwyd os oedd plant yn cael eu gwahardd yn
barhaol os oes cydnabyddiaeth i’r gost ychwanegol i rieni o symud eu plant i
ysgol arall - megis gwisgoedd ysgol a.y.b. Nodwyd fod modd cefnogi teuluoedd yn
y maes yma, drwy ddargyfeirio arian gan fod angen sicrhau bod plant yn gallu
mynychu’r ysgol. Wrth drafod yr un maes – holwyd os yw’r adran yn hyderus fod
pob cost, gan gynnwys rhai cudd yn cael sylw. Ymatebwyd gan nodi fod gan yr
adran hyder eu bod wedi rhoi llawer o sylw i’r prif faterion ac wedi gweithio i
fynd o dan groen y problemau. Nodwyd fod yr adran am lunio siarter a fydd yn
awgrym i ysgolion wrth ystyried costau megis tripiau ysgol, cost gwisg ysgol er
enghraifft. Codwyd nifer o sylwadau am bresenoldeb gan ei fod yn fater o bryder cenedlaethol, ac amlygwyd fod cynnydd wedi bod gyda niferoedd yn colli ysgol yn dechrau lleihau. Gofynnwyd beth sydd yn gweithio ac os oes unrhyw strategaeth mewn lle i wella’r sefyllfa. Atebwyd drwy nodi fod presenoldeb wedi bod yn dalcen caled, a bod strategaethau yn ei lle. Mynegwyd mai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ECONOMI Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Economi. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet gan
nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r adra gydag un cylch grantiau yn
dod i ben tra bod un arall ar gychwyn. Amlygwyd fod gan yr adran 4 cynllun
blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor, tri yn adran Gwynedd Lewyrchus ac un fel
rhan o raglen Gwynedd Ofalgar. Nodwyd fod cynnydd da wedi ei wneud yn erbyn y
cerrig milltir, ond mai'r risg sy’n gyffredin i’r pedwar oedd ansicrwydd am
ddyfodol y cyllidebau gan eu bod yn cael eu hariannu drwy arian grant. Tywyswyd drwy’r cynlluniau gan roi blas ar y gwaith
sydd yn mynd yn ei flaen, gan dynnu sylw at feysydd megis y gwaith sylweddol
sydd wedi ei wneud i gwblhau gwariant o brosiectau rhaglen ARFOR a Rhaglen
Ffyniant Cyffredin. Amlygwyd fod 49% yn llai o arian ar gael i Wynedd a siroedd
y Gogledd wrth edrych ar Raglen Ffyniant Cyffredin, ond fod gwaith o adnabod
blaenoriaethau 2025/26 eisoes wedi cychwyn. O ran gwaith dydd i ddydd yr adran, amlygwyd pryder
bod nifer y disgyblion sydd yn cael gwersi nofio yng nghanolfannau hamdden yn
parhau i ostwng a sialens carthu yn Hafan a Harbwr Pwllheli. Nodwyd fod lefel
boddhad cwsmer yn uchel yn nifer o feysydd yn yr adran megis Gwasanaeth
archifau, amgueddfeydd, y celfyddydau a’r gwasanaeth llyfrgelloedd. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
chwestiynau a ganlyn:- Tynnwyd sylw at leihad yn nifer y disgyblion sy’n
derbyn gwersi nofio gan amlygu fod hyn yn debygol o ganlyniad i gost uchel
cludiant i’r canolfannau. Nodwyd er bod hon yn broblem sydd i’w gweld mewn
nifer o ardaloedd gwledig fod yr un darlun i’w gweld mewn ysgolion trefol yn
ogystal, yn benodol mewn ardaloedd difreintiedig. Gofynnwyd am ddadansoddiad
ystadegau nofio i weld maint y broblem. Wrth drafod nofio gofynnwyd yn ogystal
am ddadansoddiad o ddefnyddwyr canolfannau hamdden Byw’n Iach er mwyn gweld beth
yw’r patrymau o ran pa ardaloedd sydd yn defnyddio’r cyfleusterau ac ym mha
ardaloedd. Cytunwyd i rannu’r wybodaeth a’r aelodau. Holwyd am ddatblygiadau TWF Gogledd Cymru, gan ei
fod yn ymddangos nad oedd cynnydd. Eglurodd yr adran fod nifer o bethau yn
digwydd ond fod newidiadau wedi bod i amryw o gynlluniau o ganlyniad i nifer o
resymau. O ran cynlluniau Gwynedd nodwyd fod cynllun Trawsfynydd a gyflwynwyd
gan gwmni Egino yn ôl yn 2019 bellach wedi ei dynnu yn ôl gan nad oedd y safle
yn un oedd wedi ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru i ddatblygiadau niwclear
pellach. Er i'r Arweinydd ymgeisio i ddargyfeirio’r arian i gynllun amgen, penderfynwyd
na fuasai modd i unrhyw gynllun sy’n cael ei dynnu yn ôl i wneud hyn a gosodwyd
egwyddor bod rhaid gwneud cais o’r newydd. O ganlyniad, nodwyd fod cais newydd
i ddatblygu Parc Gwyddoniaeth ar y safle ar fin cael ei gyflwyno. Cais arall oedd i’w gweld yng Ngwynedd yn rhan o’r cynllun TWF oedd cais Glynllifon i ddatblygu Canolfan Arloesi Gwledig. Gan ei bod yn gynllun mor fawr roedd angen cais cynllunio ar gyfer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CYLLID Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau • Derbyn fod angen llunio Polisi
Eithrio o ran Premiwm Treth Cyngor • Bod angen ystyried os oes rôl i’r
Pwyllgor Craffu wrth greu’r polisi • Gofyn i’r Adran Gyllid rannu data o ran erlyniadau Treth Cyngor gyda’r aelodau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet gan nodi mai
pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y maes. Mynegwyd fod yr adran yn
arwain ar 2 flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor – Rheoli Effaith Toriadau
Cyllidol Cenedlaethol a’r Cynllun Digidol. Adroddwyd fod cynnydd i’w weld ar y
ddau gynllun. Nodwyd o ran mesurau perfformiad yr holl adran fod 12% yn
adrodd yn ambr, sydd yn derbyn sylw pellach fel rhan o’r trafodaethau mesur
perfformiad, a 12% yn adrodd yn goch, sy’n destun pryder sydd yn cael ei
diweddaru’n rheolaidd gan adolygu os oes angen cyflwyno mesurydd newydd. Tynnwyd sylw at y rhai sy’n mesur yn goch. O ran y
Gwasanaeth Incwm amlygwyd fod balans gwerth dyledion amrywiol dros 6 mis yn
bron i £2m. Mynegwyd fod adolygiad cynhwysfawr o sefyllfa hen ddyledion ynghyd
a phrosesau gweithredu yn parhau. Yn y Gwasanaeth Trethi ble mae’r ddau fesur arall yn adrodd
yn goch, nodwyd fod adolygiad Ffordd Gwynedd yn cael ei gynnal i gryfhau
trefniadau adennill, gan fod y cyfraddau casglu ar gyfer Treth Cyngor ac
Ardrethu Annomestig yn is nag y maent wedi ei bod yn hanesyddol. Eglurwyd fod
gostyngiad yn y gyfradd gasglu hefyd yn rhannol oherwydd bod nifer uchel o
unedau gwyliau hunan ddarpar nad oedd yn cyrraedd y meini prawf o 182 diwrnod
ar gyfer Trethi Busnes wedi trosglwyddo yn ôl i Dreth Cyngor yn ystod ail hanner
y flwyddyn ac wedi eu hôl ddyddio ac felly roedd canran uchel yn parhau heb eu
talu erbyn diwedd Mawrth 2025. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Derbyniwyd nifer o sylwadau am y lleihad mewn casglu treth y
cyngor o ganlyniad i nifer o dai yn newid i fod yn unedau gwyliau gan dalu
trethi annomestig ac effaith peidio cyrraedd y trothwy nifer o ddyddiau gosod
llety gwyliau dan y rheolau newydd. Nododd y Pennaeth Adran fod hwn o ganlyniad
i benderfyniadau gan Swyddfa’r Prisiwr Dosbarth a oedd wedi ei ôl ddyddio ac
wedi ei gyflwyno yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Nodwyd fod diffyg cyfathrebu
wedi bod gan olygu biliau anferthol i
unigolion o ganlyniad i’r premiwm a bod yr adran yn ymwybodol o’r poen meddwl
roedd hyn wedi ei greu. Nodwyd yr angen gan Aelodau’r Pwyllgor am Bolisi Eithrio gan fod hyn yn effeithio nifer o drigolion a mudiadau o fewn y sir sy’n amlygu sefyllfa annheg. Mynegwyd fod angen ei greu er mwyn miniogi’r eithrio er mwyn rhoi lefel o degwch ac i fod efo lefel o hyblygrwydd yn y biliau trethi sydd yn cael eu hanfon allan. Ymatebodd yr adran gan nodi ei bod yn sefyllfa gymhleth iawn ond fod yr adran yn gweithio i gyflwyno polisi a chanllaw yn yr Hydref, ond fod casglu trethi yn holl bwysig i ariannu gwasanaethau. Eglurwyd fod yr adran angen fod yn ofalus gan y bydd modd i unigolion ei ddefnyddio fel dihangfa i beidio talu treth. Nodwyd heb bolisi eithrio fod y drefn yn un anhyblyg. Gofynnwyd i unrhyw bolisi gael ei gyflwyno i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET GWASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL A’R GYMRAEG Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet gan nodi ei bod am ddechrau
gyda Gwasanaethau Corfforaethol. Mynegwyd ei bod yn braf dweud fod cynnydd
sylweddol wedi ei wneud yn y blaenoriaethau strategol y Cyngor, a bod nifer o
lwyddiannau i’w gweld yn y perfformiadau meintiol. Nodwyd fod rhai heriau yn
parhau mewn meysydd megis iechyd galwedigaethol, salwch staff a chytundebu yn
brydlon. Amlygwyd cynnydd yn y maes caffael gyda chynnydd o 1% yn nefnydd y
Cyngor o gwmnïau lleol sydd yn dod a’r ganran i 59%. Nodwyd gwaith sydd wedi ei
wneud yn y maes cyflogaeth, ond amlygwyd fod y matrics swyddi bellach i’w
gwblhau yn 2025/26, ond amlygwyd fod fframwaith hyfforddi staff cyffredinol
bellach ar waith. Yn y maes cydraddoldeb nodwyd fod fforwm cydraddoldeb staff wedi ei
sefydlu a bod gwaith yn cael ei wneud i wefan y Cyngor er mwyn sicrhau ei fod
yn hygyrch. Amlygwyd bellach fod hyfforddiant awtistiaeth a niwroamrwyiaeth
ar gael i staff. Amlygwyd cynnydd yng nghynllun Merched mewn Arweinyddiaeth gyda 45% o’r
unigolion bellach wedi symud i swyddi uwch, a nodwyd fod y rhaglen ddatblygu a
sgyrsiau dros baned yn parhau ynghyd â brand newydd i’r prosiect wedi ei
lansio. Aethpwyd ymlaen i drafod y Gwasanaeth Cyfreithiol gan amlygu fod 4 tîm -
Cyfreithiol, priodoldeb etholiadau a chofrestru a chefnogaeth i’r gwasanaeth
crwner. Amlygwyd fod y swyddogion sy’n derbyn gwasanaeth yn fodlon neu yn
fodlon iawn gyda’r gwasanaeth a bod adborth blynyddol gan benaethiaid yn adrodd
canlyniadau cadarnhaol. Eglurwyd fod sefyllfa staffio’r adran bellach yn iach
ac nad oedd locums yn cael eu defnyddio bellach. Tynnwyd sylw fod y tîm priodoldeb yn cynnal hyfforddiant ar y cod
ymddygiad i aelodau, a bod nifer o aelodau yn parhau heb ei gwblhau sy’n fater
sy’n codi yn codi yn gyson yn y Pwyllgor Safonau. Diolchwyd i staff y ddwy adran am eu gwaith. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Amlygwyd fod nifer o brosiectau yn llithro o eleni i’r flwyddyn ganlynol
a gofynnwyd a oedd hyn o ganlyniad i ddiffyg staff i gwblhau’r gwaith. Atebwyd
gan nodi nad diffyg staff oedd y broblem ond fod llwyth gwaith yn gallu bod yn
drwm ac o ganlyniad ei bod yn anodd eu cwblhau heb fod effaith ar waith dydd i
ddydd. Amlygwyd y matrics swyddi allweddol fel enghraifft gan nodi fod nifer o
gymhlethdodau wedi codi, ond bod gwaith ar y cynllun wedi ail gychwyn gyda capasiti staff uwch yn ei le i orffen y gwaith. Mynegwyd fod nifer o fesuryddion yn cael ei hamlygu yn goch, gofynnwyd a
yw hyn yn codi pryder. Atebwyd gan nodi fod nifer yn goch o ganlyniad i her
uchel mae’r adran yn ei roi o ran mesuryddion. Er hyn nodwyd fod rhai pryderon
megis y gwasanaeth iechyd galwedigaethol ble mae cynnydd yn nifer y cyfeiriadau
ynghyd â phrinder nyrsys yn golygu fod y mesur yn goch. Tynnwyd sylw at faes blaenoriaeth ’Gwynedd Effeithiol’ sydd yn ymgorffori llawer o Ffordd Gwynedd, a nodwyd llawer o rwystredigaeth gyda Ffordd Gwynedd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |