Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cyng. Rhys Tudur gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27.

Cofnod:

Bu i’r Cyng. Rhys Tudur gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cyng. Geraint Wyn Parry gael ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27

Cofnod:

Bu i’r Cyng. Geraint Parry gael ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sian Williams, Elin Walker Jones, Dewi Owen, Rhys Tudur a Gweno Glyn Williams (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant personol yn Eitem 8 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Hafod Lon. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

Datganodd Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn Eitem 10 ar y rhaglen oherwydd ei swydd gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy'n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 284 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid Ilofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o'r pwyllgor a gynhaliwyd ar 19/01/26 a 12/02/26 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2026 a 12 Chwefror 2026 fel rhai cywir.

7.

POLISI CANU’R GLOCH AELODAU pdf eicon PDF 191 KB

I ystyried polisi a gweithdrefn canu’r gloch i aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

•           Bod y Pwyllgor yn datgan cefnogaeth i’r polisi gan ofyn i’r Swyddog Monitro wneud newidiadau yn unol â’i ymateb i sylwadau’r aelodau.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg yr adroddiad gan atgoffa’r Aelodau fod y Cabinet wedi mabwysiadu Polisi Canu’r Gloch diwygiedig ar gyfer staff ym mis Ionawr. Nodwyd bod mabwysiadu’r polisi wedi bod yn flaenoriaeth uchel ac yn gam pwysig ymlaen wrth gryfhau gweithdrefnau a threfniadau’r Cyngor mewn ymateb i adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Eglurwyd bod galw wedi bod ar yr un pryd am bolisi a fyddai’n darparu llwybr i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig godi pryderon ynghylch unrhyw gamymddwyn.

Nodwyd bod angen llunio polisi a oedd yn briodol ar gyfer aelodau etholedig Cyngor Gwynedd, gan fod y weithdrefn canu’r gloch ar gyfer staff wedi ei seilio ar ddeddfwriaeth cyflogaeth a gwarchodaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998. Eglurwyd bod y polisi’n cynnig arweiniad i aelodau ar sut i godi pryderon mewn gofod diogel ac eglur, a bod y weithdrefn yn cyd-fodoli â threfniadau eraill megis y Cod Ymddygiad a’r Polisi Diogelu. Pwysleisiwyd bod hyn yn cryfhau trefniadau’r Cyngor i ymateb i unrhyw amhriodoldeb er budd trigolion y sir.

Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Grŵp Tasg Ymholiadau Aelodau wrth lunio’r polisi, a bod ymgysylltu hefyd wedi digwydd â’r holl aelodau. Nodwyd yr ymgynghorwyd â Protect, sef elusen ag arbenigedd ym maes canu’r gloch, a bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried y polisi yn gynharach yn y mis ac wedi mynegi cefnogaeth iddo. Cadarnhawyd mai’r cam nesaf, ar ôl derbyn sylwadau’r Pwyllgor, fyddai cyflwyno’r polisi i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o’i ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Croesawyd y polisi gan nodi ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen. Awgrymwyd y byddai cynnwys diffiniad cyffredinol o’r hyn a olygid wrth ganu’r gloch yn gwneud y polisi’n haws i’w ddarllen ac yn rhoi cyd-destun cliriach. Mewn ymateb, eglurwyd bod canu’r gloch yn gysyniad cyflogaeth a oedd yn deillio o gyfraith cyflogaeth, ac mai fframwaith ar gyfer codi pryderon ynghylch materion difrifol ydyw, yn ei hanfod. Nodwyd bod y polisi’n cynnig dau beth i aelodau etholedig, sef man i godi materion yr oeddent yn eu hystyried yn ddifrifol ac elfen o gyfrinachedd wrth wneud hynny. Pwysleisiwyd mai’r bwriad oedd creu gofod mor ddiogel â phosibl i godi pryderon difrifol.

Cydnabuwyd bod y polisi’n gam pwysig ymlaen gan nad oedd gwarchodaeth benodol o’r fath wedi bod ar gael i gynghorwyr yn flaenorol. Croesawyd y ffaith bod y polisi’n cydnabod pryderon ynghylch camymarfer sylweddol neu ymddygiad anghyfreithlon neu droseddol, ei fod yn cynnig cyfrinachedd wrth godi’r pryderon hynny, a’i fod yn nodi y dylid adrodd am unrhyw driniaeth wael y gallai aelod ei hwynebu o ganlyniad i wneud datgeliad. Fodd bynnag, awgrymwyd nifer o newidiadau a fyddai’n cryfhau’r polisi.

Mynegwyd pryder bod y polisi’n dibynnu i raddau helaeth ar brosesau mewnol. Awgrymwyd y gallai aelod a oedd yn codi pryderon ynghylch uwch swyddogion, diwylliant sefydliadol neu fethiannau llywodraethiant deimlo nad oedd llwybr gwirioneddol annibynnol ar gael. Awgrymwyd y dylai llwybr amgen fod ar gael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

POLISI CLUDIANT ADDYSG pdf eicon PDF 343 KB

I gyflwyno drafft o Bolisi Cludiant Addysg yn dilyn cynnal cyfnod

ymgynghori ar gynigion i ddiwygio cynnwys y polisi presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Cabinet roi sylw penodol i’r Cynllun Seddi Gweigion wrth ddod i benderfyniad.

3.         Argymell i’r Aelod Cabinet Addysg:-

•           Dylid ystyried addasu’r Polisi Cludiant Addysg Drafft i ddynodi plwyfi yn hytrach na phellter o ran cludiant i ysgolion ffydd.

•           Edrych ar leihau’r nifer o ffurflenni sydd angen i rieni disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu llenwi.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg ddrafft o’r Polisi Cludiant Addysg newydd, a gofynnwyd i’r Pwyllgor gyflwyno sylwadau arno. Nodwyd bod y prif newidiadau wedi eu hamlygu’n glir yn yr adroddiad, gan gynnwys y Cynllun Seddi Gweigion, cludiant ysgolion ffydd, trefniadau preswylio deuol a’r cynnig i ddysgwyr ôl-16.

Eglurwyd, er mai polisi Cyngor Gwynedd oedd gerbron, fod rhaid iddo weithredu o fewn Mesur Trafnidiaeth Addysg a’r canllawiau statudol cysylltiedig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd nad oedd gan y Cyngor ryddid i weithredu fel y dymunai ym mhob achos, gan fod gofynion statudol yr oedd rhaid cydymffurfio â hwy. Mynegwyd y farn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r Mesur a’r canllawiau cysylltiedig gan nad oedd elfennau ohonynt yn gwneud synnwyr.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Codwyd mater y Cynllun Seddi Gweigion, gan egluro bod y cynllun yn galluogi plant nad oeddent yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim i ddefnyddio seddi gwag ar gerbydau cludiant ysgol am gost gymharol fach. Nodwyd bod y cynllun wedi ei rewi ers mis Hydref 2025 ac nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar ei gyfer yn y polisi drafft. Cwestiynwyd a oedd hynny’n golygu y byddai’r cynllun yn dod i ben yn barhaol ac na fyddai’n cael ei ailsefydlu. Mewn ymateb, cadarnhawyd nad oedd darpariaeth ar gyfer Cynllun Seddi Gweigion yn y polisi drafft ac na fyddai cynllun o’r fath yn gweithredu o fis Medi ymlaen.

Mynegwyd pryder sylweddol ynghylch y penderfyniad, gan gyfeirio at gadarnhad blaenorol nad oedd unrhyw ddeddfwriaeth yn gwahardd awdurdod rhag gweithredu Cynllun Seddi Gweigion, a’r ffaith bod awdurdodau eraill yn parhau i weithredu cynlluniau o’r fath. Nodwyd mai’r prif reswm dros ddiddymu’r cynllun oedd lleihau’r risg ariannol a gweithredol i’r Cyngor. Cydnabuwyd bod angen rheoli risg mewn modd cyfrifol, ond cwestiynwyd a oedd y risg wedi ei gydbwyso’n briodol yn erbyn ystyriaethau eraill.

Cyfeiriwyd at egwyddorion Ffordd Gwynedd a’r disgwyliad i ganfod ffyrdd ymarferol o ddiwallu anghenion trigolion Gwynedd. Nodwyd y gallai diddymu’r cynllun arwain at fwy o geir yn teithio i ysgolion, a chwestiynwyd a oedd yr effaith amgylcheddol wedi ei hystyried yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan y Cyngor. Cwestiynwyd a oedd y penderfyniad wedi ei ystyried yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, tegwch i blant mewn ardaloedd gwledig a’r effaith ar blant a oedd yn wynebu anfantais economaidd. Awgrymwyd bod risg ariannol a gweithredol y Cyngor wedi cael mwy o bwyslais na’r holl ystyriaethau eraill hyn, a chwestiynwyd a oedd blaenoriaethau’r adran yn gywir. Gofynnwyd a oedd asesiad wedi ei gynnal o effeithiau tebygol diddymu’r cynllun. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Cydnabuwyd bod y cynnig yn gallu ymddangos yn afresymol ar yr olwg gyntaf, gan nad oedd darparu sedd wag am gyfnod penodol yn broblem ynddo’i hun. Eglurwyd bod y broblem yn codi oherwydd dyletswydd statudol yr adran i ddarparu cludiant i ddisgyblion cymwys.

·       Esboniwyd y gallai sedd fod yn wag ar ddechrau tymor a chael ei chynnig i blentyn nad oedd yn gymwys i gael cludiant am ddim. Pe byddai teulu newydd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 313 KB

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Pennaeth Addysg rannu data cymharol cenedlaethol o ran dadgofrestru gydag aelodau’r Pwyllgor ynghyd ag Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid.

3.         Bod angen edrych ar gynnwys gwybodaeth a data o ran cyrhaeddiad disgyblion yn yr adroddiad perfformiad i’r dyfodol.

4.         Bod y Pwyllgor yn craffu’r sefyllfa o ran dadgofrestru ac Addysg Ddewisol Gartref fel rhan o’i raglen waith pan yn amserol.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y drefn yn un gymharol newydd, ond ei bod yn ffordd ddefnyddiol i’r Aelodau weld a deall ystod gwaith yr Adran Addysg. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor graffu ar berfformiad yr adran.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Mynegwyd pryder cyffredinol ynghylch maint y pecyn adroddiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys oddeutu 350 o dudalennau. Nodwyd nad oedd yn realistig disgwyl i aelodau ddarllen yr holl ddeunydd yn fanwl, ac y gallai hynny olygu na fyddai rhai cwestiynau perthnasol yn cael eu codi. Mewn ymateb, ymddiheurwyd am hyd yr adroddiad ac eglurwyd bod newidiadau ar y gweill i drefniadau herio perfformiad yr Adran Addysg. Nodwyd bod yr adran yn un fawr a oedd yn cynnwys nifer o wasanaethau gwahanol, a bod adnabod y materion pwysicaf ymhlith yr holl wybodaeth wedi bod yn her. Cadarnhawyd y byddai pob rheolwr yn parhau i adrodd ar berfformiad, ond wrth symud ymlaen y byddai’r Penaethiaid Cynorthwyol yn darparu crynodebau o oddeutu tair neu bedair tudalen, gan amlygu’r llwyddiannau a’r meysydd yr oedd angen sylw arnynt.

Tynnwyd sylw at y gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau am swyddi penaethiaid ac at yr her gynyddol o ddenu unigolion i swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion. Croesawyd datblygiad rhaglen Arweinwyr y Dyfodol, a oedd yn darparu cymorth ymarferol i unigolion a oedd yn dymuno symud i swyddi arwain. Nodwyd bod 17 o unigolion o’r sector cynradd a saith o’r sector uwchradd yn dilyn y rhaglen. Cwestiynwyd faint a oedd wedi dilyn y rhaglen yn y flwyddyn flaenorol ac a oedd yr adborth wedi bod yn gadarnhaol.

Cyfeiriwyd at y rhaglen gefnogaeth ar gyfer penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro, gyda 26 unigolyn yn dilyn y rhaglen. Nodwyd bod yr ymateb i’r rhaglen wedi bod yn gadarnhaol, a bod penaethiaid newydd wedi rhoi adborth da ynghylch y gefnogaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 13% o ysgolion heb bennaeth parhaol, a gofynnwyd am y ffigurau cyfatebol ar gyfer y blynyddoedd blaenorol er mwyn rhoi’r sefyllfa mewn cyd-destun. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod recriwtio penaethiaid yn her sylweddol ac nad oedd y broblem yn unigryw i Wynedd, gan fod ysgolion ar draws Cymru a thu hwnt yn wynebu’r un anhawster.

·       Bod trosiant sylweddol wedi bod ymhlith penaethiaid yng Ngwynedd dros y ddwy neu dair blynedd flaenorol oherwydd proffil oedran y gweithlu. Amcangyfrifwyd bod rhwng 30% a 33% o ysgolion wedi newid pennaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

·       Bod rhai penaethiaid wedi cyrraedd oedran ymddeol, tra bod eraill wedi penderfynu gadael y proffesiwn oherwydd nad oeddent yn dymuno parhau yn y rôl.

·       Bod swyddi pennaeth cynradd wedi denu tri neu bedwar ymgeisydd yn y gorffennol a swyddi pennaeth uwchradd wedi denu dau neu dri, ond bod swyddi bellach yn cael eu hysbysebu heb dderbyn unrhyw geisiadau mewn rhai achosion.

·       Bod y sefyllfa wedi ei chynnwys ar gofrestr risg yr adran, gan ei bod yn risg sylweddol a allai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 220 KB

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned rannu data niferoedd sy’n defnyddio safleoedd Arosfan a gwybodaeth materion gorfodaeth gydag aelodau’r Pwyllgor.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi ei fod yn edrych yn ôl ar berfformiad yr adran dros y flwyddyn flaenorol, gyda sylw penodol i’r cynnydd a wnaed yn erbyn prosiectau blaenoriaeth y Cyngor. Cydnabuwyd bod nifer o wasanaethau’r adran wedi wynebu ansicrwydd ariannol yn sgil newidiadau i raglenni cyllido’r Llywodraeth, ond mynegwyd balchder ym mherfformiad timau’r adran ac yn y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ymrwymiadau’r Cyngor.

Nodwyd bod 69 o sefydliadau ar draws y sir wedi derbyn cefnogaeth drwy grant y Llywodraeth yn y flwyddyn ddiwethaf. Adroddwyd bod 55 o gynghorau cymuned ledled Gwynedd wedi eu cefnogi a bod £8.9 miliwn wedi ei fuddsoddi i wella isadeiledd canol trefi. Nodwyd bod cais wedi ei wneud i’r adran ymchwilio ymhellach i’r camau ychwanegol y gallai’r Cyngor eu cymryd drwy ddefnyddio grym awdurdod lleol, gan gynnwys opsiynau nad oeddent o reidrwydd yn cyd-fynd â chanllawiau presennol. Cadarnhawyd bod gwaith ar hyn eisoes wedi dechrau.

Adroddwyd bod 118 o fusnesau Gwynedd wedi derbyn cymorth dros y flwyddyn flaenorol, gyda buddsoddiad gwerth £1.3 miliwn. Nodwyd bod 255 o drigolion Gwynedd a oedd yn wynebu rhwystrau rhag mynd i waith wedi derbyn cymorth, ynghyd â 130 o unigolion ychwanegol a oedd wedi derbyn cefnogaeth i sicrhau cyflog llawn neu well.

Mynegwyd boddhad â’r cynnydd a wnaed gyda pharc gwyddoniaeth Trawsfynydd. Nodwyd bod aelodau wedi cael gwahoddiad i ymweld â’r safle a derbyn cyflwyniad ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynllun, a chadarnhawyd y byddai diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.

Nodwyd bod gwaith wedi dechrau dros y flwyddyn flaenorol i ddatblygu model mwy cynaliadwy ar gyfer cefnogi cymunedau. Eglurwyd bod trefniadau peilot yn cael eu hystyried yn Nhywyn, Abermaw a Blaenau Ffestiniog. Adroddwyd bod grantiau gwerth £217,000 wedi eu dyrannu i grwpiau cymunedol a banciau bwyd ar draws Gwynedd er mwyn cryfhau’r gefnogaeth leol a oedd ar gael i drigolion.

Nodwyd bod nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden Byw’n Iach yn ystod y flwyddyn flaenorol yn is na’r flwyddyn gynt. Eglurwyd bod y gostyngiad yn bennaf yn deillio o newid yn y dull o gasglu data, er bod gostyngiad bach hefyd yn nifer y plant cynradd a oedd yn derbyn gwersi nofio yn y canolfannau. Nodwyd bod nifer yr ymwelwyr yn parhau ychydig yn is na’r lefelau cyn y pandemig, a phwysleisiwyd bod angen cytuno ar systemau newydd, gwella’r perfformiad ac annog rhagor o blant i ddefnyddio’r pyllau nofio.

Adroddwyd bod y flwyddyn flaenorol wedi bod yn heriol i’r gwasanaethau morwrol, gyda stormydd y gaeaf wedi achosi difrod a nifer fawr o ymwelwyr wedi cyrraedd ar benwythnosau pan oedd y tywydd yn braf, gan greu problemau traffig a phwysau ychwanegol. Nodwyd bod gwastraff a diogelwch yn faterion yr oedd angen eu hystyried, ynghyd â nifer o faterion eraill. Cydnabuwyd bod gallu’r gwasanaethau i ymateb i’r cynnydd sydyn yn y boblogaeth ar ddiwrnodau prysur yn gyfyngedig, a bod hynny’n achosi rhwystredigaeth i gymunedau lleol ac ymwelwyr. Cadarnhawyd y byddai’r materion hyn yn rhan o’r Cynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GWASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL pdf eicon PDF 96 KB

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiadau gan nodi’r sylwadau.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg adroddiad perfformiad y Gwasanaethau Corfforaethol yn gyntaf. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at y cynnydd a wnaed yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor 2023–28 ac yn cynnwys mesuriadau perfformiad yr adran. Nodwyd bod y Gwasanaethau Corfforaethol yn arwain ar chwe phrif brosiect, sef Cadw’r Budd yn Lleol, hybu defnydd trigolion Gwynedd o’r Gymraeg, cynllunio’r gweithlu, sicrhau tegwch i bawb, merched mewn arweinyddiaeth, ac adolygiad strategol ar reolaeth iechyd a diogelwch. Adroddwyd bod y prosiectau hyn wedi cael eu craffu gan yr Aelod Cabinet yn ystod cyfarfod herio a chefnogi perfformiad ym mis Ebrill.

Nodwyd bod cynnydd wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn. Cyfeiriwyd at ddatblygu a chymeradwyo strategaeth gaffael newydd a oedd yn rhoi pwyslais ar fuddion cymdeithasol a lleol. Adroddwyd bod sesiynau hyfforddi wedi cael eu datblygu ar gyfer swyddogion ym maes caffael i godi eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o sut i brynu’n lleol, ennill gwerth cymdeithasol a lleihau carbon.

Adroddwyd bod gwaith sylweddol wedi ei wneud i hybu’r Gymraeg, gan gynnwys rhaglenni gydag ysgolion lleol a busnesau, ynghyd â gwaith ymchwil gyda Phrifysgol Bangor i ddadansoddi defnydd y cyhoedd o’r Gymraeg yng Ngwynedd. Nodwyd bod gwaith wedi ei wneud gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ehangu ar hyn.

Adroddwyd bod y prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth wedi perfformio’n dda, gyda nifer o enghreifftiau o ferched yn symud i swyddi arwain. Cyfeiriwyd at fideo a gynhyrchwyd a holiadur a anfonwyd at ferched a oedd yn gweithio i’r Cyngor er mwyn casglu eu barn ar y prosiect a’r camau nesaf. Nodwyd bod cynnydd amlwg wedi ei wneud ym maes iechyd a diogelwch drwy gyflwyno cam cyntaf system technoleg gwybodaeth newydd a darparu hyfforddiant i reolwyr. Eglurwyd bod hyn wedi gwella’r broses o adrodd ar ddamweiniau ar draws y Cyngor, a bod adborth cadarnhaol wedi ei dderbyn.

Cydnabuwyd bod oedi wedi bod gyda’r prosiect cynllunio’r gweithlu, ond nodwyd bod cynllun drafft wedi ei lunio ac y byddai ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal maes o law. Eglurwyd bod yr oedi hwn wedi effeithio ar y cerrig milltir ar gyfer y prosiect Sicrhau Tegwch i Bawb. Nodwyd ymhellach fod carreg filltir yr adolygiad strategol ar reolaeth iechyd a diogelwch wedi llithro oherwydd gwaith i gyflwyno system newydd ar gyfer adnoddau dynol a chyflogau.

O ran gwaith dydd i ddydd yr adran, cyfeiriwyd at ganran uchel o staff a oedd wedi cwblhau hyfforddiant mandadol. Adroddwyd bod yr adran, yn ystod 2025–26, wedi ymdrin â phob cais rhyddid gwybodaeth o fewn yr amserlen briodol. Nodwyd bod y sefyllfa ynglŷn â ffigurau salwch yn parhau i gael ei monitro er mwyn deall y pwysau a chymryd camau priodol i’w rheoli.

Adroddwyd bod perfformiad cryf o ran lefel y gwasanaeth, gyda lefelau uchel o fodlonrwydd cwsmeriaid a nifer y galwadau i’r ganolfan gyswllt wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod y prosesau ar gyfer ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth yn amserol ac wedi gwella dros y flwyddyn flaenorol. Adroddwyd bod datblygu a hyfforddi staff  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.