Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Walker Jones, Geraint Parry, Dyfrig Siencyn; Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig) a Gweno Glyn Williams (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn Eitem 6 ar y rhaglen. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy'n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYLLID Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau. • Gofyn i’r canlynol gael ei gynnwys yn
yr adroddiad perfformiad nesaf sy’n dod gerbron y Pwyllgor: • data mwy manwl wedi’i gategoreiddio
yng nghyswllt casglu trethi a dyledion tymor hir. • nifer o achosion cyfreithiol yn
ymwneud â dyledion tymor hir. • gwybodaeth am drefniadau recriwtio’r adran. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar yr hyn a gyflawnwyd yn y
maes, gan gynnwys y diweddaraf ar Gynllun y Cyngor a gwaith dydd i ddydd yr
Adran hyd at ddiwedd Mawrth 2026. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Technoleg
Gwybodaeth wedi trosglwyddo i reolaeth yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol ers
1 Ebrill 2026, ond gan mai perfformiad 2025/26 oedd dan sylw, roedd y
gwasanaethau digidol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod y
trosglwyddiad wedi bod yn llyfn, ond bod recriwtio Pennaeth Cynorthwyol ar
gyfer y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn parhau’n her. Adroddwyd bod yr holl faterion o dan
gyfrifoldeb yr Aelod Cabinet wedi eu trafod a’u craffu mewn cyfarfodydd Herio a
Chefnogi Perfformiad, a mynegwyd boddhad â pherfformiad yr Adran ar y cyfan.
Nodwyd bod yr Adran Gyllid wedi arwain ar ddwy flaenoriaeth yng Nghynllun y
Cyngor yn ystod 2025/26, sef Rheoli Effaith Toriadau Cyllidol Cenedlaethol a’r Cynllun
Digidol. Pwysleisiwyd bod yr angen i gyflawni arbedion ariannol ar draws y
Cyngor yn parhau’n flaenoriaeth er mwyn sicrhau cydbwysedd cyllidebol yn y
tymor canolig a cheisio cadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor o fewn ffiniau
rhesymol. Nodwyd bod gwaith yr Adran Gyllid yn y maes yn gadarn ac effeithiol,
ond bod sicrhau bod arbedion yn cael eu gwireddu’n llwyddiannus ym mhob
gwasanaeth yn parhau’n her. Nodwyd bod y mesurau perfformiad yn dangos perfformiad
cadarn ar y cyfan, gydag ychydig o feysydd yn parhau i dderbyn sylw. Cyfeiriwyd
at lefelau uchel o gydymffurfiaeth â hyfforddiant mandadol, ynghyd â
pherfformiad cadarn y gwasanaethau Cyllid a Chyfrifeg, Cyflogau a Phensiynau.
Nodwyd bod lefel y dyledion hirdymor a oedd yn cael eu rheoli gan y Gwasanaeth
Incwm yn parhau’n destun pryder ac mai hwn oedd yr unig fesur coch yn yr Adran.
Nodwyd bod arwyddion o welliant a bod cynlluniau ar waith i leihau’r risg a
gwella’r broses o adennill dyledion. Adroddwyd bod cyfradd casglu’r Dreth
Gyngor wedi gwella, er ei bod yn parhau’n is na lefelau hanesyddol. Nodwyd bod
bwriad i gyflwyno cymorth digidol ychwanegol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth. O ran Technoleg Gwybodaeth, nodwyd bod
gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i gryfhau’r ddarpariaeth ddigidol, gan
gynnwys moderneiddio dyfeisiadau, uwchraddio systemau, ehangu dulliau gweithio
digidol a rhesymoli’r seilwaith. Eglurwyd bod y gwaith wedi cyfrannu at gyflawni
arbedion ariannol. Nodwyd bod digwyddiadau seibr a
thoriadau gwasanaeth wedi amlygu’r angen i barhau i gryfhau gwytnwch a
diogelwch y seilwaith, a nodwyd bod y materion hyn yn cael eu monitro’n
rheolaidd drwy’r trefniadau Herio a Chefnogi Perfformiad. Tynnwyd sylw at ddau adroddiad a dderbyniwyd gan archwilwyr allanol yn ystod y flwyddyn. Nodwyd bod adroddiad Archwilio Cymru ar Reolaeth Strategol ar Falansau a Chronfeydd wrth Gefn wedi ei gyhoeddi ym mis Medi 2025, gyda’r prif argymhelliad yn ymwneud â chryfhau strategaeth cronfeydd wrth gefn y Cyngor. Adroddwyd bod adroddiad ISA260 wedi ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025 a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd bod barn ddiamod wedi ei rhoi ar Ddatganiad Cyfrifon 2024/25 ac nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU TREFNIADAU DIOGELU MEWN YSGOLION Ystyried cynnwys yr Adroddiad a gwneud sylwadau, gofyn unrhyw gwestiynau perthnasol gan gynnig unrhyw welliannau a chymeradwyo’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD • Cymeradwyo’r adroddiad. • Gofyn am ddiweddariad gan yr Aelod Cabinet Addysg ar weithrediad fesul argymhelliad ymhen oddeutu 6 mis. Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu yr
adroddiad gan ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Eglurwyd nad
ymchwiliad i achos penodol nac ymchwiliad statudol oedd hwn, ac nad ei ddiben
oedd ailystyried materion a oedd eisoes wedi eu harchwilio drwy’r Adolygiad
Ymarfer Plant. Nodwyd mai’r cwestiwn a osodwyd i’r Panel oedd a oedd y
trefniadau diogelu yn ysgolion y sir yn briodol ac yn gyson, gyda’r Panel yn
gyfrifol am gasglu tystiolaeth, dod i gasgliadau a chyflwyno argymhellion i’r Cabinet
ac, mewn rhai achosion, i Lywodraeth Cymru. Pwysleisiwyd nad oedd ailagor achos Foden o
fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad, gan fod yr Adolygiad Ymarfer Plant eisoes
wedi ystyried yr achos. Eglurwyd mai bwriad yr ymchwiliad oedd edrych ymlaen ac
ystyried beth arall y gellid ei wneud i gryfhau trefniadau diogelu mewn
ysgolion. Nodwyd bod yr ymchwiliad craffu yn un o’r ffrydiau gwaith yng
Nghynllun Ymateb y Cyngor yn dilyn yr Adolygiad Ymarfer Plant, a bod gan y Bwrdd
Ymateb, yr Adolygiad Ymarfer Plant a’r Ymchwiliad Craffu swyddogaethau gwahanol
ond cyflenwol. Eglurwyd bod yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi edrych yn ôl er
mwyn deall yr hyn a oedd wedi mynd o’i le a’r gwersi i’w dysgu, bod y Bwrdd
Ymateb yn arwain ac yn goruchwylio gweithrediad yr ymateb corfforaethol, a bod
yr Ymchwiliad Craffu wedi darparu haen ychwanegol o her annibynnol drwy
ganolbwyntio ar y trefniadau a oedd ar waith mewn ysgolion heddiw ac ystyried
sut i’w cryfhau ymhellach. Adroddwyd bod ystod eang o dystiolaeth wedi
ei ystyried dros gyfnod o sawl mis. Ymwelwyd ag 11 ysgol a chynhaliwyd
trafodaethau gyda phenaethiaid, llywodraethwyr, staff a disgyblion, ynghyd â
derbyn tystiolaeth gan swyddogion ac arbenigwyr ac ystyried canllawiau
cenedlaethol, polisïau a gwaith Estyn. Nodwyd bod yr ymchwiliad wedi canfod
llawer o waith da yn digwydd mewn ysgolion Gwynedd, ond pwysleisiwyd nad oedd
cael polisïau da ar bapur yn ddigon ynddo’i hun a bod angen sicrhau eu bod yn cael
eu gweithredu’n gyson ym mhob ysgol, gan bob aelod o staff ac ar bob lefel. Ymhelaethwyd bod y 22 argymhelliad yn ffurfio
sail rhaglen waith yn hytrach na rhestr o gynigion unigol. Nodwyd bod rhai o’r
argymhellion yn ymwneud â phobl, gan sicrhau bod staff, llywodraethwyr a’r rhai
â chyfrifoldebau diogelu yn derbyn yr hyfforddiant, y gefnogaeth a’r eglurder
angenrheidiol; bod eraill yn ymwneud â systemau, gan gynnwys cryfhau trefniadau
cofnodi, monitro, rhannu gwybodaeth a sicrhau mwy o gysondeb rhwng ysgolion; a
bod eraill yn canolbwyntio ar ddiwylliant, gan sicrhau bod disgyblion yn gwybod
at bwy i droi am gymorth, bod eu llais yn cael ei glywed a bod pawb yn deall
bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bob unigolyn. Nodwyd bod yr argymhellion wedi eu
grwpio o dan naw thema strategol, sef hyfforddiant, dealltwriaeth disgyblion,
cymorth a lles, llais disgyblion, adolygu a dysgu, systemau a rhannu gwybodaeth,
rhieni, gwelededd diogelu, a llywodraethu ac atebolrwydd. Pwysleisiwyd mai un o gryfderau’r adroddiad oedd nad oedd yn dibynnu ar un newid mawr, ond yn cydnabod bod diogelu effeithiol yn dibynnu ar nifer o elfennau’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Derbyn diweddariad ar y gwaith ac ystyried beth yw eu heffaith. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau. • Gofyn i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned drafod ffioedd meysydd parcio ac effaith newid oriau gorfodaeth mewn meysydd parcio ar yr economi leol gyda’r Aelodau Cabinet a’r adrannau perthnasol. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a
Chymuned yr adroddiad gan nodi bod yr heriau a oedd yn wynebu canol trefi yn
amlwg, gan gynnwys newidiadau mewn arferion siopa, twf siopa ar-lein a phwysau
costau byw. Eglurwyd mai’r her oedd ail bwrpasu canol trefi a’u gwneud yn
lleoedd deniadol i fyw, gweithio a threulio amser ynddynt. Nodwyd bod
trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth newydd Cymru ynghylch y maes. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad yn adeiladu ar wybodaeth
a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn flaenorol ac yn canolbwyntio ar weithgareddau’r
Gwasanaeth Rhaglenni Adfywio, gan gynnwys gwaith adfywio canol trefi, datblygu
a gweithredu prosiectau adfywio ac ymateb i eiddo gwag. Cyfeiriwyd at y
fframwaith ar gyfer trefi Gwynedd a’r Cynlluniau Creu Lleoedd a ddatblygwyd ar
gyfer Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli, y Bala a Dolgellau. Nodwyd bod
y cynlluniau hyn wedi eu paratoi ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor yn 2023. Adroddwyd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am ddatblygu a gweithredu prosiectau adfywio a’r prif raglenni
grant. Nodwyd bod grantiau gwerth £31.8 miliwn wedi eu sicrhau rhwng 2023-26 ar
gyfer datblygu a gweithredu prosiectau adfywio canol trefi ar draws y sir.
Cyfeiriwyd at y prosiectau a oedd i’w gweithredu drwy Gronfa Effaith Balchder
Bro a’r Gronfa Twf Leol, ynghyd â’r gwaith ar eiddo gwag yng nghanol trefi. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu
mesurau perfformiad a chasglu data er mwyn gallu mesur effaith y gwaith adfywio
ar ganol trefi. Cyfeiriwyd at Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor ac at yr
angen i asesu effaith prosiectau yn ogystal â monitro nifer a chyflwr eiddo
gwag. Eglurwyd bod rhan olaf yr adroddiad yn crynhoi’r prif gasgliadau a’r
gwersi a ddysgwyd, ynghyd â materion pellach i’w hystyried dros y misoedd
dilynol. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:- Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y diffiniad o eiddo
gwag. Cyfeiriwyd at enghreifftiau ym Mhwllheli lle’r oedd siop yn parhau i
weithredu ar lawr gwaelod adeilad ond bod y llawr uchaf yn wag, gan nodi y
gallai’r sefyllfa arwain at gostau Premiwm Treth Cyngor sylweddol a rhoi pwysau
ychwanegol ar hyfywedd y busnes ar y llawr gwaelod. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd un diffiniad
syml o eiddo gwag ar draws y Cyngor, gan fod nifer o wasanaethau ac adrannau’n
ymwneud ag eiddo gwag ac yn gweithredu o dan wahanol ddeddfwriaethau a rheoliadau.
Nodwyd bod y diffiniadau a’r cyfnodau perthnasol felly’n gallu amrywio rhwng
gwasanaethau. O ran gwaith adfywio canol trefi, eglurwyd bod y Gwasanaeth yn
tueddu i ganolbwyntio ar eiddo a oedd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn, gan
roi blaenoriaeth i adeiladau sylweddol mewn lleoliadau canolog lle’r oedd eu
cyflwr yn dirywio ac yn cael effaith ar yr ardal. Nodwyd bod gwahaniaeth amlwg rhwng perfformiad gwahanol strydoedd a chanol trefi, gyda rhai yn ffynnu tra bod eraill yn ei chael yn anodd iawn denu busnesau newydd. Cwestiynwyd pam yr oedd cymaint o wahaniaeth rhwng un stryd neu dref a’r llall. Mewn ymateb, mynegwyd y farn bod datblygiadau manwerthu ar gyrion trefi yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2026/27 Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2026/27 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD • Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi ar gyfer 2026/27 i’w mabwysiadu. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:- Cyfeiriwyd at hyd y drafodaeth ar yr
Adroddiad Perfformiad Cyllid yn gynharach yn y cyfarfod, gan nodi bod nifer
fawr o gwestiynau wedi eu codi. Mynegwyd y farn y gallai fod yn fwy priodol,
lle bo modd, i adroddiadau perfformiad gael eu gosod tua diwedd cyfarfodydd yn
hytrach nag ar y dechrau. Nodwyd bod aelodau’n tueddu i fod yn arbennig o
weithgar wrth godi cwestiynau ar ddechrau cyfarfod, ac y gallai newid trefn yr
eitemau gynorthwyo i reoli amser y Pwyllgor yn well. Mewn ymateb, nodwyd bod trefn yr adroddiadau
perfformiad yn amrywio rhwng cyfarfodydd, a bod yr adroddiadau wedi eu gosod
tua diwedd rhai cyfarfodydd eisoes. Cadarnhawyd y gellid newid trefn yr eitemau
yn y dyfodol pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno i adroddiadau perfformiad gael eu
hystyried tua diwedd y cyfarfod. Cwestiynwyd a oedd y trefniadau presennol ar
gyfer craffu ar berfformiad wedi cael eu hadolygu ers eu cyflwyno, gan nodi bod
yr adroddiadau’n creu cryn faich gwaith i aelodau ac yn cymryd cyfran sylweddol
o amser cyfarfodydd. Cwestiynwyd a oedd unrhyw asesiad wedi ei gynnal i weld a
oedd y drefn yn fwy neu’n llai effeithiol na’r trefniadau blaenorol. Mewn
ymateb, nodwyd bod sylwadau wedi eu cyflwyno drwy’r Fforwm Craffu a bod
trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch ffurf yr adroddiadau. Nodwyd bod gormod o
wybodaeth weithiau’n gallu effeithio ar
effeithiolrwydd craffu, a bod sylwadau aelodau am y trefniadau blaenorol yn
cael eu hystyried. Eglurwyd nad oedd hynny’n golygu y byddai newid sylweddol o
reidrwydd, ond bod y trefniadau’n cael eu hadolygu. Cwestiynwyd a oedd modd cynyddu nifer y
cyfarfodydd craffu yn ystod y flwyddyn er mwyn cynyddu capasiti’r Pwyllgor i
gyflawni ei gyfrifoldebau. Mewn ymateb, eglurwyd bod hyn yn dibynnu ar yr adnoddau
oedd ar gael, ynghyd â’r angen i gynnal ymchwiliadau craffu a grwpiau tasg a
gorffen. Nodwyd bod y mater yn un y gellid ei ystyried ymhellach. Mynegwyd pryder bod yr adroddiadau
perfformiad yn lleihau’r amser oedd ar gael i graffu ar eitemau eraill, yn
ogystal â chreu swm sylweddol iawn o waith darllen i aelodau. Mynegwyd y farn y
dylid ystyried dychwelyd at y drefn flaenorol lle’r oedd aelodau craffu yn
mynychu cyfarfodydd Herio Perfformiad, ond gyda threfn fwy ffurfiol ar gyfer
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Nodwyd bod manteision wedi bod i’r drefn flaenorol,
er bod rhai cyfarfodydd Herio Perfformiad wedi eu canslo oherwydd diffyg
argaeledd swyddogion. Nodwyd bod y trefniant presennol yn fwy tryloyw gan fod y
gwaith craffu’n digwydd mewn cyfarfod cyhoeddus, ond bod y baich amser yn
sylweddol. Mynegwyd gwrthwynebiad i osod terfyn amser
rhy gaeth ar drafodaethau. Pwysleisiwyd, er y gallai cyfarfodydd fynd yn hir,
ei fod yn bwysig bod aelodau’n cael cyfle i godi eu materion yn hytrach na
theimlo’n rhwystredig oherwydd nad oedd cyfle iddynt gyfrannu. Mynegwyd y farn nad oedd y system graffu bresennol yn gweithio mor effeithiol ag y gallai. Cyfeiriwyd at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |