Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr
Annwen Daniels, Linda Ann Jones, Dafydd Meurig, Rheinallt Puw ac Owain
Williams. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2018 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr,
2018 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd
Aled Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 16(B) – Rhybudd o Gynnig gan y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd - oherwydd bod perthynas iddo yn gweithio i’r
Canolfannau Iaith. Roedd o’r farn ei
fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. Datganodd
y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 8 - Adolygiad Blynyddol – Polisi
Tâl y Cyngor 2019/20 - ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol gan fod yr
adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. ‘Roedd
o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac, ynghyd â’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol,
gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r Cynghorwyr
Dewi Owen, Beth Lawton a Rheinallt Puw ar golli anwyliaid yn ddiweddar. Nodwyd hefyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd o barch. Llongyfarchwyd y canlynol:- ·
Y criw o Gynghorwyr a enwebwyd gan Prostate Cymru am
wobr ar ôl codi dros £8,000 i Elusen Prostate Cymru yn ystod digwyddiad “Trôns
dy Dad” yn Awst 2018. Nodwyd y byddai’r
Cynghorwyr Dilwyn Lloyd, Roy Owen a Steven Churchman yn mynd i’r seremoni wobrwyo
yng Nghaerdydd ym mis Ebrill. ·
Ysgol Gynradd Dolbadarn
Llanberis ar ennill cystadleuaeth Côr yr Ŵyl, rhaglen Heno ym mis Rhagfyr. ·
Ysgol
Bro Idris, Dolgellau ar ennill un o wobrau cystadleuaeth
GTPM (STEM) 'Ffermfeisio' yr NFU - un o naw ysgol gynradd i ennill ystod o
wobrau cystadleuaeth Ffermfeisio. Nodwyd
bod y disgyblion bellach yn cynllunio ar gyfer arddangos eu dyluniad yn
Nhŷ'r Cyffredin yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain, pan fyddai’r panel o
feirniaid yn penderfynu ar bencampwyr y gystadleuaeth gyfan. ·
Jess Kavanagh,
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol yn yr Adran Economi a Chymuned ar ei llwyddiant
diweddar yn y maes rygbi. ·
Darren Bingham o
Ddeiniolen ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn dartiau am y tymor. Dymunwyd yn dda i’r Cynghorwyr Peredur Jenkins (Aelod Cabinet Cyllid) a
W.Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant) fyddai’n camu i
lawr o’r Cabinet ddiwedd y mis ar ôl cyfnod hir o wasanaeth. Nodwyd, mewn rali yng Nghaernarfon yn ddiweddar,
y bu i Is-gadeirydd y Cyngor dderbyn deiseb yn gofyn i’r Cyngor hwn ddatgan
argyfwng hinsawdd, a bod cynnig ar y mater yma eisoes ar raglen y cyfarfod hwn. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu
fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones “Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol er mwyn
datblygu llwybrau beicio, yn cynnwys llwybr beicio o Fethel i Gaernarfon. Mae ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon
eisoes wedi cychwyn adeiladu. Oes modd
sicrhau bod y cynllun llwybr beicio Bethel i Gaernarfon yn cael ei wireddu, ac
oes angen mwy o arian gan y Llywodraeth, i ddechrau’r trafodaethau cyn gynted â
phosib’?” Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y
Cynghorydd Dafydd Meurig “Mae’r ateb ysgrifenedig gan y gwasanaeth yn amlygu eu hymdrechion hwy i
geisio cael y llwybr beicio i gyd-redeg, neu i fod yn rhan, o’r cynllun ffordd
osgoi newydd a hefyd y sawl cais grant mae nhw wedi gyflwyno i gael y llwybr
beicio yma a llwybrau beicio eraill yn ogystal ar draws y sir.” Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Sion Jones “Os oes angen i ni gael mwy o arian ar gyfer gwireddu’r cynlluniau
llwybrau beicio yma, oes modd i’r Arweinydd gysylltu â mi, i geisio cysylltu
hefo’r Gweinidog, ar gyfer symud hyn ymlaen ar ran Bethel a Chaernarfon, ond
hefyd ar ran y sir?” Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y
Cynghorydd Dafydd Meurig “Yn sicr, os byddwn ni angen help llaw i yrru’r neges yn ôl i’r mannau
priodol mi wnawn gysylltu â’r aelod a byddwn yn falch iawn o gael ei help.” (2) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Elwyn Jones “Blwyddyn ers cychwyn ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid, ac yn unol â’r
weledigaeth oedd yn Opsiwn 3, ydi’r Aelod Cabinet, sydd â chyfrifoldeb am y
Gwasanaeth yn gallu cadarnhau fod yna bellach 19 o weithwyr ieuenctid
llawn-amser – 14 yn ychwanegol i’r 5 a gadwodd eu swyddi – a 21 o weithwyr
rhan-amser wedi eu penodi i symud y Gwasanaeth yn ei flaen?” Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig
ab Iago “Fel y gwelwch o’r ateb ysgrifenedig byr, mae
gennym ni lond tŷ hefo’r gweithwyr llawn amser, ond ddim cweit yna hefo’r
gweithwyr rhan amser.” Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elwyn Jones “Ydi’r £50,000 a glustnodwyd llynedd ar gyfer
clybiau gwirfoddol, cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol, ayb, wedi ei hawlio?” Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig
ab Iago “Mae’r gwasanaeth newydd yn mynd o nerth i
nerth a dim ond pethau positif rwy’n glywed.
Rydym ni’n cydweithio’n galed iawn hefo clybiau cymunedol i wneud yn
siŵr bod pobl ifanc yn lle bynnag yn cael be mae nhw angen. Os ydych chi eisiau ffigurau penodol am faint
o bres yn union sydd wedi’i wario o’r pot yna, gallwn ffendio allan i chi, dim
problem.” (3) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Aeron Jones “Mae polisi Canu Gloch y Cyngor yma i ddiogelu staff a defnyddwyr y Cyngor. Roedd hwn yn rhywbeth rwyf i yn bersonol wedi bod yn gwthio’r Cyngor hwn ers 2008 i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2019/20 Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn
argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i
fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2019/20. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Croesawyd y cynnydd
cyffredinol o 2% ar gyflogau 2019/20, gyda staff ar y graddfeydd isaf yn derbyn
canrannau uwch, sy’n golygu y bydd isafswm cyflog y Cyngor o fis Ebrill 2019
ymlaen uwchlaw Cyflog Byw Sefydliad y Cyflog Byw. ·
Croesawyd y ffaith
bod y Cyngor yn lleihau’r bwlch rhwng cyflogau’r uwch swyddogion a’r cyflogau
isaf, ac felly’n lleihau anghyfartaledd cymdeithasol. ·
Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhawyd bod y gymhareb rhwng uchafswm ac isafswm cyflog yng
Ngwynedd ymhlith yr isaf yng Nghymru ac y byddai’n gostwng ymhellach ar ôl y
newidiadau fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019. PENDERFYNWYD
cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r
Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2019/20 yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
CYNLLUN Y CYNGOR 2018-23 - ADOLYGIAD 2019-20 Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2018-23
(Adolygiad 2019/20). Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Croesawyd y cynllun a
nodwyd ei fod yn dangos bod y Cyngor yn ceisio cyflawni i bobl Gwynedd, a hynny
mewn cyfnod o gynni ariannol. ·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gosod cyfeiriad newydd i’r maes trechu tlodi, eglurodd
yr Arweinydd y bwriedid creu Bwrdd Llesiant Pobl, yn cynnwys cynrychiolaeth o’r
gwasanaethau plant, ieuenctid, ayb, i edrych ar y maes tlodi a chefnogaeth
teuluoedd ar draws holl waith y Cyngor.
Gobeithid y byddai hynny’n rhoi cyfeiriad a phwyslais newydd i’r Cyngor
yn y maes pwysig yma, yn arbennig mewn ardal sy’n dioddef o dlodi nad sy’n cael
ei gydnabod yn genedlaethol. ·
Nodwyd bod tua 38% o
arian y Cyngor yn cael ei wario y tu allan i’r sir, a holwyd pa waith sydd ar
droed i geisio uchafu’r ganran sy’n cael ei wario’n lleol. Mewn ymateb, nododd
yr Arweinydd fod hyn yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor ac y credai bod
Gwynedd ar flaen y gad o safbwynt caffael yn lleol. ·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gweledigaeth yr Arweinydd ar gyfer addysg ôl-16,
manylwyd ar y cydweithio rhwng y Cyngor hwn, Cyngor Ynys Môn a Grŵp
Llandrillo Menai gyda’r nod o ddod â gwahanol opsiynau gerbron maes o law. ·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sut y gellir denu mwy o ferched i ddod ar y Cyngor,
nododd yr Arweinydd ei fod yn llwyr ymwybodol o’r broblem, a hefyd y broblem o
ddenu pobl ifanc, pobl mewn swyddi, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl o
gefndiroedd eraill ar y Cyngor. Roedd
wedi lleisio ei farn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, oedd
hefyd yn ymwybodol iawn o’r broblem.
Ychwanegodd fod llwyth gwaith cynghorwyr, yn enwedig Aelodau Cabinet a
chadeiryddion craffu, wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd, fel ei fod
fwy neu lai yn waith llawn amser erbyn hyn, ac roedd yn anodd iawn i aelodau
gynnal gyrfa a chyflawni swydd cynghorydd ar yr un pryd. Credai fod yr ateb yn ymwneud yn rhannol â
thelerau’r swydd, ond ni ragwelai unrhyw newid mawr yn y cyfeiriad, heb uno’r
cynghorau a lleihau niferoedd cynghorwyr yn sylweddol. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig bod aelodau â
chyfrifoldebau gofalu yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, er mwyn
cryfhau’r gynrychiolaeth ddemocrataidd.
Nododd hefyd y byddai yna ymgyrch ar adeg pob etholiad i geisio denu
pobl o bob cefndir i sefyll etholiad. ·
Mewn ymateb i
gwestiwn, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r cynllun
prentisiaethau a bod yna gyfleoedd da iawn ymhob gwasanaeth. Er bod y Cyngor wedi colli £70m (25%) o’i
gyllideb dros y 10 mlynedd ddiwethaf, roedd yna enghreifftiau gwych o bobl
ifanc yn cychwyn gyrfa gyda’r Cyngor fel prentisiaid ac yn symud ymlaen i
swyddi o safon uchel. · Mewn ymateb i sylw ynglŷn â siopau gweigion a busnesau’n cau yn y trefi, nododd yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:- ·
Adroddiad yn argymell
cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2019/20; ·
Penderfyniad drafft y
Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd
o 5.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul
cymuned. Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y disgwylid cyhoeddiad gan
Lywodraeth Cymru y diwrnod hwnnw ynglŷn ag ariannu’r cynnydd o £1.6m mewn
cyfraniadau cyflogwr i’r cynllun pensiwn athrawon. Eglurodd y Pennaeth Cyllid yr argoelid y
byddai’r Cyngor yn derbyn swm grant agos at ariannu’r gofyn yn llawn, fel roedd
Llywodraeth Lloegr wedi’i addo i ysgolion yno.
Ni dderbyniwyd cadarnhad o’r union swm yng Nghymru hyd yma, ond cafwyd
arweiniad y byddai rhwng 80% a 100% o’r cyfanswm. Yn ystod y
drafodaeth, nododd rhai aelodau na allent gefnogi’r
argymhelliad i godi’r dreth 5.8%, oherwydd effaith hynny ar drigolion sir dlawd
fel Gwynedd. Bu i nifer o aelodau eraill
ddatgan, er yn gwbl anhapus ynglŷn â’r sefyllfa, nad oeddent o’r farn bod
gan y Cyngor ddewis ond derbyn y gyllideb yn y sefyllfa sydd ohoni. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Mynegwyd pryder
ynglŷn ag effaith y cynnydd treth ar y bobl hynny sydd ar gyflogau bach,
ond fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Gostyngiad Treth Cyngor, a chynigiwyd y
dylai grŵp o aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol ar y Cyngor fynd i lawr
i Gaerdydd i gefnogi’r Arweinydd yn ei ymgyrch i lobïo’r Llywodraeth am ragor o
arian. ·
Mewn ymateb i
ymholiad ynglŷn ag ariannu tair rhagdybiaeth yn yr adroddiad, eglurodd yr
Aelod Cabinet Cyllid:- Ø Ei fod yn ffyddiog y byddai’r bwlch rhwng yr arian grant a ddisgwylir gan
y Llywodraeth a chyfraniad y cyflogwr at bensiwn athrawon yn gyraeddadwy, ac os
ddim, yna byddai trafodaethau pellach gyda’r ysgolion. Ø Bod y £2.7m o dreth ychwanegol o’r premiwm ar ail gartrefi a thai
gweigion wedi’i glustnodi mewn cronfa tuag at y Strategaeth Tai, a bod y
gyllideb gerbron yn hafal heb arall-gyfeirio’r cynnyrch premiwm. Ø O ran ariannu unrhyw chwyddiant o ganlyniad i Brexit, bod y Cyngor ar dir
cadarn gan ei fod yn adeiladu hyblygrwydd i mewn i’w gyllideb, a phetai’r gofyn
yn mynd y tu hwnt i hynny, gellid ystyried defnyddio elfen o’r balansau. ·
Nodwyd na ddymunid
rhoi pwysau ychwanegol ar drigolion y sir, sy’n wynebu heriau dyddiol, ond bod
y Cyngor yn wynebu ei heriau cynyddol ei hun hefyd, a hynny o ganlyniad i
bolisïau anwaraidd Llywodraethau Cymru a San Steffan. ·
Gyda’r
llywodraethau’n gadael pobl i lawr gyda grant annigonol i gwrdd â chwyddiant,
heb sôn am gynnydd mewn galw am wasanaethau awdurdodau lleol, bod gwarchod
gwasanaethau, yn enwedig Addysg a Gofal Cymdeithasol, yn bwysicach nag erioed. ·
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd sicrhau bod cefnogaeth ar gael i unigolion sy’n gwneud cais am
gymorth. Mewn ymateb, nododd yr Aelod
Cabinet Cyllid y gallai sicrhau bod swyddogion Cyllid yn barod iawn i helpu
unrhyw un sy’n cael problem talu’r dreth. · Mynegwyd siomedigaeth bod cymaint ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
CYNLLUN ASEDAU 2019-29 Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn argymell i’r Cyngor
fabwysiadu Cynllun Asedau am y cyfnod 2019/20 – 2028/29. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau arian wrth gefn er mwyn gallu elwa ar
unrhyw grantiau sydd ar gael. PENDERFYNWYD bod y
Cyngor yn mabwysiadu’r Cynllun Asedau ynghlwm i’r adroddiad fel ei Gynllun
Asedau am y cyfnod 2019/20 – 2028/29. |
|
STRATEGAETH CYFALAF 2019-20 Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn rhoi trosolwg lefel
uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd
rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol. ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o
sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn
y dyfodol. Gan mai hwn oedd ei gyfarfod olaf fel Aelod Cabinet Cyllid, diolchodd y
Cynghorydd Peredur Jenkins i’r Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwyr am bob cymorth
ar hyd y blynyddoedd ac i’r Prif Weithredwr am ei arweiniad. Diolchodd hefyd i’r aelodau am eu cefnogaeth
barod bob amser. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2019/20. |
|
DATGANIAD O BOLISI HAPCHWARAE CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2019-2022 Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, cyflwynodd yr Arweinydd
adroddiad yn cyflwyno Datganiad o Bolisi Hapchwarae Drafft ar gyfer 2019-22, yn
unol â’r gofyn yn Adran 349 Deddf Hapchwarae 2005 i Awdurdodau Trwyddedu, bob 3
blynedd, baratoi a chyhoeddi datganiad o egwyddorion Trwyddedu maent yn dymuno
eu rhoi ar waith wrth ymgymryd â’u swyddogaethau yn unol â’r Ddeddf honno. Diolchwyd i’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a’r tïm am eu holl waith. Nododd aelod fod y Pwyllgor Trwyddedu wedi ysgrifennu at y Llywodraeth
yn galw am wahardd hysbysebion gamblo cyn 9 o’r gloch. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r Datganiad o Bolisi Hapchwarae fel ei fod yn weithredol ar gyfer
2019-22, yn unol â chylch adolygiad statudol y Ddeddf. |
|
GWEITHREDU IS-DDEDDFAU DRAENIO TIR Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol adroddiad yn gofyn
i’r Cyngor ystyried cymeradwyo Is-ddeddfau Traenio Tir Drafft (yn y ffurf a
argymhellid gan Lywodraeth Cymru) a bod y cyfryw is-ddeddfau yn cael eu gwneud
yn ffurfiol yn enw’r Cyngor. Croesawyd yr Is-ddeddfau hyn a nodwyd y byddai agor mwy o ffosydd o
gymorth i atal a rheoli llifogydd yn y dyfodol. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r Is-ddeddfau Traenio Tir Drafft (yn y ffurf a argymhellir gan
Lywodraeth Cymru) a bod y cyfryw is-ddeddfau yn cael eu gwneud yn ffurfiol yn
enw’r Cyngor. |
|
CALENDR PWYLLGORAU 2019/20 Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd galendr ar gyfer dyddiadau
cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2019/20. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr
Pwyllgorau ar gyfer 2019/20. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sion Jones Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20
o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Sion Jones yn cynnig fel a ganlyn:- Bod y
Cyngor hwn yn cefnogi ymgyrch ‘Lucy’s Law’ i wahardd gwerthu cŵn gan werthwyr masnachol trydydd
parti. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Sion Jones o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Bod
y Cyngor hwn yn cefnogi ymgyrch ‘Lucy’s Law’ i wahardd gwerthu cŵn gan
werthwyr masnachol trydydd parti.” Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan aelodau a nododd:- ·
Yr ategir yr alwad ar
i gynghorwyr Gwynedd ymuno â chynghorau eraill yng Nghymru i gefnogi’r ymgyrch
i ddod â dioddefaint anifeiliaid sy’n cael eu defnyddio mewn ffermydd cŵn
bach a chathod bach i ben. ·
Ei bod yn annerbyniol
bod pobl yn gallu gwneud arian heb ystyried anghenion a lles yr anifeiliaid
sy’n cael eu defnyddio i fridio yn y modd hwn. ·
Nad oes gan y
diwydiant hwn le mewn cymdeithas waraidd, ac anogir Llywodraeth Cymru i ddod â
deddfwriaeth gerbron mor fuan â phosib’ er mwyn dirwyn yr arfer creulon hwn i
ben. ·
Y dylid cwrdd â’r
galw am gŵn a chathod bach mewn ffordd drugarog. Ni ddylid ei wneud at ddibenion ymelwa ac mae
Deddf Lucy yn gyfle gwych i sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n
ddiogel i’r anifeiliaid. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20
o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn cynnig fel a ganlyn:- Gan gydnabod mai mater i’r Cabinet yw unrhyw
benderfyniad ar y mater, bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun
neu fwriad i newid cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith
Gwynedd, yn wyneb eu llwyddiant digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr
i fewnfudwyr fel y bo iddynt gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (2) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Gan gydnabod mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater,
bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid cyfansoddiad,
trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd, yn wyneb eu llwyddiant
digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i fewnfudwyr fel y bo iddynt
gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion.” Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig, sef:- “Gan gydnabod a
chondemnio yn llwyr y toriadau ariannol erchyll mae Llywodraeth Cymru wedi
orfodi ar gynghorau lleol, yn benodol y toriad i’r grant gwella addysg i
Wynedd, ac mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater, bod y
Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid
cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd fyddai’n cael
effaith andwyol ar eu gallu digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i
fewnfudwyr ac i gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion. Mae’r Cyngor hefyd yn galw ar y Cabinet i
sefydlu trefn fonitro gref – boed newid neu beidio – er sicrhau’r canlyniadau
gorau bosib’ i’r dysgwyr.” Esboniodd cynigydd y gwelliant ei fod yn croesawu sylwadau cadarnhaol
cynigydd y cynnig gwreiddiol, ond ei fod o’r farn bod y cynnig hwnnw yn
ymrwymo’r Cyngor i beidio gwneud unrhyw newid byth i gyfansoddiad, trefniadaeth
na staffio’r canolfannau iaith. O bosib’
y byddai angen ehangu’r gwasanaeth yn y dyfodol petai yna fwy o fewnfudwyr, neu
gellid bod yna lai o alw am y gwasanaeth, ac ‘roedd y methodoleg o ddysgu
ieithoedd yn datblygu hefyd ac yn sicr o ddatblygu ymhellach eto i’r
dyfodol. Hefyd, roedd angen amlygu’r
ffaith mai Llywodraeth Cymru, ac nid y Cyngor hwn, sy’n torri’r grant. Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan
aelodau unigol:- ·
Bod angen lobïo
Llywodraeth Cymru am fwy o arian i’r cynghorau. ·
Bod yr alwad ar y
Cabinet i sefydlu trefn fonitro gref yn cryfhau’r cynnig gwreiddiol. ·
Bod Llywodraeth San
Steffan yn cynnig gwersi Saesneg am ddim i fewnfudwyr ac y dylid galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau’r un ddarpariaeth yng Nghymru o ran yr iaith
Gymraeg, yn enwedig os am wireddu’r weledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr
Cymraeg erbyn 2050. Hefyd, yn Ngwynedd,
mae’n rhaid i blant sy’n mewnfudo i’r sir gael cwrs Cymraeg cyn gallu ymdopi
â’r gwersi yn yr ysgolion. ·
Bod Canolfannau Iaith
Gwynedd yn enghraifft lachar o ymarfer da, ac yn hytrach na chwtogi, dylai’r
Cyngor hwn arddel a meithrin y gwasanaeth. ·
Dylai Cabinet y
Cyngor ddiogelu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn a galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi
ar gyfer dyfodol yr iaith. ·
Bod y Canolfannau
Iaith yn tynnu pwysau oddi ar yr athrawon yn yr ysgolion i ddysgu Cymraeg i’r
plant. · Er bod y gwelliant i’w groesawu, nad oedd yn ddi-wall chwaith a bod y geiriau ‘a fyddai’n cael effaith niweidiol ar eu gallu ...’ yn agored i gael eu camddehongli oherwydd y gellid dadlau nad yw’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18. |
|
Rhybudd o Gynnig y Cynghorydd Catrin Wager Yn unol
â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:- Bellach,
mae’r dystiolaeth yn argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae
newid hinsawdd yn gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn
lefelau’r môr, sychder a llifogydd. Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn
nhymheredd y byd mor eithafol fel bod yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif
flaenoriaeth. Mae
canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym mis Hydref wedi datgan fod gan
ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar newid hinsawdd. Mae
dyletswydd ar bob llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar
effeithiau negyddol Newid Hinsawdd. Mae
goblygiadau ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i
ystyried effaith unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod. Yn
ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i warchod y cyhoedd. Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach: Bod
effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y
sir yn barod. Mae
23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo. Dros
y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m. Yn
barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob
blwyddyn. Mae
tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a
lliniaru llifogydd dŵr ffo. Felly, penderfyna’r Cyngor i: Wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn
parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein
plant am genedlaethau i ddod. Byddwn yn gwneud hyn drwy: Ddatgan Argyfwng
Hinsawdd Ymrwymo i gymryd camau
pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol di-garbon Chwilio am ffyrdd
arloesol o gyflawni targedau di-garbon
Adrodd yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i
leihau allyriadau carbon. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (3) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Bellach, mae’r dystiolaeth yn
argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae newid hinsawdd yn gysylltiedig
â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefelau’r môr, sychder a llifogydd.
Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn nhymheredd y byd mor eithafol fel bod
yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif flaenoriaeth. Mae canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym
mis Hydref wedi datgan fod gan ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar
newid hinsawdd. Mae dyletswydd ar bob
llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar effeithiau
negyddol Newid Hinsawdd. Mae goblygiadau
ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i ystyried effaith
unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod. Yn ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i
warchod y cyhoedd. Mae’r
Cyngor yn nodi ymhellach: ·
Bod
effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y
sir yn barod. ·
Mae
23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo. ·
Dros
y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m. ·
Yn
barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob
blwyddyn. ·
Mae
tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a
lliniaru llifogydd dŵr ffo. Felly,
penderfyna’r Cyngor i: Wneud
popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog,
hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod.
Byddwn yn gwneud hyn drwy: ·
Ddatgan
Argyfwng Hinsawdd. ·
Ymrwymo i
gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol
di-garbon. ·
Chwilio am
ffyrdd arloesol o gyflawni targedau di-garbon. ·
Adrodd
yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i leihau
allyriadau carbon. Nodwyd bod plant a myfyrwyr yn gwbl effro i’r sefyllfa a phwysleisiwyd y
dylai aelodau etholedig, fel arweinwyr gwleidyddol, chwarae eu rhan hefyd. Ar sail hynny, cynigiwyd ac eiliwyd i
ychwanegu’r geiriad a ganlyn at y cynnig gwreiddiol:- “Galw ar
Lywodraeth Cymru a San Steffan i ddarparu’r pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i
gyflawni’r targed o Wynedd ddi-garbon erbyn 2030.” Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y
Cyngor. Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig wedi’i ddiwygio gan aelodau a
nododd:- ·
Bod allyriadau carbon
yn cael effaith ar fioamrywiaeth a’r eco-system hefyd a bod plastigion yn
gwneud eu ffordd drwy’r gadwyn fwyd.
Tynnwyd sylw at ail weithdy amgylcheddol i’w gynnal ym Mhlas Tan y Bwlch
ar 17 Mai. ·
Hyd yn oed pe byddem
yn cymryd camau pendant ar newid hinsawdd o fewn 12 mlynedd, byddem yn dal i
weld yr hinsawdd yn newid am flynyddoedd y tu hwnt i hynny, a bydd plentyn sy’n
10 oed heddiw yn profi rhywbeth na fydd yr un ohonom ni byth yn ei brofi. · Mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i ddyfodol dynolryw a rhaid i ni chwarae ein rhan, fel awdurdod lleol, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18a |
|
YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymateb i Rybudd o Gynnig blaenorol y Cynghorydd Judith Humphreys Cyflwyno
– er gwybodaeth – llythyr gan yr
Adran Dros Adael yr Undeb
Ewropeaidd mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd Judith
Humphreys i gyfarfod 6 Rhagfyr, 2018 ynglŷn ag ymadawiad y DU o’r UE (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – llythyr gan yr
Adran Dros Adael yr Undeb
Ewropeaidd mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd
Judith Humphreys i gyfarfod
6 Rhagfyr, 2018 ynglŷn
ag ymadawiad y DU o’r UE. |
|
Dogfennau ychwanegol: |