Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Alan Jones Evans, Annwen Hughes, Huw Rowlands, Robert Glyn Daniels, Rheinallt Puw, Gwilym Evans, Huw Wyn Jones, Louise Hughes, Llio Elenid Owen, Beca Roberts a Dewi Owen. 

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 216 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2026 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar  2 Gorffennaf 2026 fel rhai cywir. 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol ar gyfer Eitem 7 gan y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones, Beth Lawton, Elfed Williams, Dyfrig Siencyn, Elwyn Edwards, Wendy Cleaver, Gruffydd Williams, Elwyn Jones, John Pughe Roberts a Dafydd Davies.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlodd yr Is-gadeirydd gyda’r Cadeirydd yn dilyn ei phrofedigaeth ddiweddar. Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu’n ei chefnogi yn ystod y cyfnod hwn ac i Hosbis Dewi Sant a fu’n darparu gofal diwedd oes tyner a pharchus i’w mham. Cydymdeimlwyd â’r Pennaeth Cyllid yn dilyn ei brofedigaeth ddiweddar. Rhannwyd dymuniadau gorau i holl drigolion Gwynedd sydd yn wynebu sefyllfaoedd tebyg, a mynegwyd cydymdeimladau  i bawb o fewn cymunedau’r Sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar

 

 

Croesawyd y Cynghorydd Rhys Parry i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Llawn. Eglurwyd ei fod yn cynrychioli Ward Llanrug, yn dilyn isetholiad diweddar.

 

Llongyfarchwyd pawb a fu’n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, gan gynnwys:

·       Dr Gareth Evans Jones, darlithydd Prifysgol Bangor, ar ennill y Fedal Rhyddiaith.

·       Dr Caroline Jones, Pennaeth Gwasanaeth Seicoleg Clinigol Plant yng Ngwynedd, ar gyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn.

·       Penri Williams, yn enedigol o Borthmadog, ar ennill medal R Alun, yn dilyn 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol yn cefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant o fewn ei ardal leol.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:

·       Holl athletwyr Gwynedd a oedd yn rhan o dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, gan gynnwys Ela Letton-Jones o’r Felinheli am ennill medel arian yn y gystadleuaeth paranofio.

·       Y Gwir Barchedig Dr Manon Ceridwen James ar gael ei sefydlu’n Esgob Bangor.

·       Morgan Mace, o Garmel, am ennill gwobr Arwr Ifanc yn seremoni gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC.

·       Leisa Gwenllian, sydd wedi cael ei dewis ar raglen Sêr Yfory Screen International.

·       Pawb fu’n cymryd rhan yn nigwyddiadau diwylliannol dros yr haf. Canmolwyd cynrychiolaeth o’r Sir yn y Sioe Frenhinol eleni gan gynnwys cyfranogiad ffermwyr, busnesau a phobl ifanc.

 

Mynegwyd dymuniadau gorau i Elfyn Evans wrth iddo gymryd rhan yn ras olaf Pencampwriaeth Ralio y Byd yn Sardinia.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 164 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

1.     Cwestiwn Y Cynghorydd Dawn Lynne Jones

 

Gan gyfeirio at y data diweddaraf ynghylch pobl ifanc 16-25 oed sy’n cysgu allan neu sydd wedi’u hasesu’n ddigartref yn fwriadol, pa asesiad y mae’r Aelod Cabinet wedi’i wneud o faint digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Ngwynedd? A yw’n fodlon bod polisïau a gwasanaethau presennol y Cyngor yn ddigonol, a pha gamau pellach sy’n cael eu cymryd i atal pobl ifanc rhag mynd yn ddigartref?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, y Cynghorydd Paul Rowlinson 

 

Nid oes unrhyw berson ifanc 16-25 oed wedi’i adnabod yn cysgu allan ar y stryd yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Mae’r Adran Tai ac Eiddo yn comisiynu ystod o wasanaethau cymorth tai sydd wedi eu hanelu’n benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed. Mae’r gwasanaethau yma yn ymestyn o brosiectau galw-i-mewn, i gefnogaeth symudol yn y gymuned, yna i gynnig llety dros dro â chefnogaeth ac wedyn yn gefnogaeth symudol mewn eiddo â chefnogaeth wasgaredig yn y gymuned. Mae’r ystod yma o wasanaethau yn rhoi cylch cyfan o gefnogaeth i bobl ifanc.

 

Mae’r Cyngor yn comisiynu gwasanaeth allgymorth (outreach) drwy Tai Gogledd Cymru i adnabod ac ymateb i unrhyw achosion o gysgu allan. Pe canfyddir unigolyn yn cysgu allan, bydd y gwasanaeth allgymorth yn cysylltu â'r person ac yn cynnig cymorth i'w helpu i gael mynediad at wasanaethau tai a chefnogaeth. Mae'r Cyngor hefyd yn defnyddio'r system StreetLink, sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unigolion y maent yn amau eu bod yn cysgu allan. Caiff pob atgyfeiriad StreetLink ei ystyried, a lle bo'n briodol bydd swyddogion neu'r gwasanaeth allgymorth yn cynnig cymorth.

 

Mae GISDA a Cyfle yn darparu gwasanaethau cefnogaeth symudol i bobl ifanc ar draws y sir. Mae’r gefnogaeth yma yn rhan bwysig o’r ddarpariaeth ehangach o geisio atal digartrefedd trwy fynd i’r afael â materion cyn cyrraedd argyfwng. Fodd bynnag, mae amgylchiadau yn codi lle mae angen llety dros dro â chefnogaeth a chomisiynir hynny gan GISDA mewn sawl lleoliad ar draws y sir. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys defnydd hosteli ac unedau unigol gwasgaredig o lety ac mae canlyniadau positif iawn i’w gweld o’r cynlluniau hynny.

 

Ar hyn o bryd mae Cyfle a GISDA yn darparu gwasanaethau galw-i-mewn, ond daethpwyd i’r penderfyniad bod hwn yn faes lle y gellir ehangu a datblygu’r ddarpariaeth ac felly comisiynwyd gwasanaeth galw-i-mewn llawer mwy eang a chynhwysfawr nag o’r blaen. Yn dilyn proses dendro ddiweddar roedd Cyfle yn llwyddiannus ac mi fyddant yn darparu gwasanaeth galw-i-mewn sirol o’r 1af o Ragfyr. Rhan o’r cytundeb yma fydd canfod gwell dealltwriaeth o anghenion cefnogi pobl ifanc ac adnabod cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu gwasanaethau ymhellach. Bydd y gwasanaeth galw-i-mewn hefyd yn cyflwyno ap newydd i ddefnydd pobl ifanc - “Showt” - sydd yn ddatblygiad cyffrous ac arloesol i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARDOLL TWRISTIAETH pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd  yr adroddiad.

 

Cytunwyd i dderbyn adroddiad cyflawn i benderfynu a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd a’i peidio unwaith y bydd y gwaith o ddadansoddi, ystyried ac ymateb i gynnwys yr Ymgynghoriad wedi ei gwblhau’n llawn a phriodol.

 

Cofnod:

Atgoffodd y Cadeirydd nad oes modd gwneud penderfyniad o blaid neu yn erbyn yr ardoll o fewn y cyfarfod hwn, gan nodi’r angen i rannu barn ar rinweddau’r ardoll yn unig. Pwysleisiwyd bydd cyfle yn y dyfodol i gynnal trafodaeth bellach.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Y Cynghorydd R Medwyn Hughes.

 

Atgoffwyd bod y Cyngor Llawen wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 14 Mai 2026 i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd. Ymhelaethwyd mai’r bwriad oedd casglu barn trigolion, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad. Cadarnhawyd bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal rhwng 20 Mai a 26 Gorffennaf eleni gan nodi bod y cyfnod ymgynghori wedi cael ei ymestyn 11 diwrnod yn ychwanegol yn Dilyn sylwadau a chais gan Bartneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035, yn ystod eu cyfarfod arbennig i drafod y mater ar 12 Mehefin 2026. Diolchwyd I bawb a gymrodd rhan o fewn yr ymgynghoriad cyhoeddus, gan ei fod yn caniatáu i ddeall yr effaith byddai unrhyw gefnogaeth neu wrthwynebiad yn ei gael ar gymunedau.

 

Cadarnhawyd bod 6,856 o ymatebion wedi ei gyflwyno i’r ymgynghoriad, sydd yn sylweddol uwch na nifer o ymatebion i awdurdodau lleol cyfagos, megis 2,000 o ymatebion ym Môn a 1,300 o ymatebion yng Nghonwy. Nodwyd bod cynnwys yr ymatebion yn gymysg a bod ystyriaethau cychwynnol yn awgrymu bod trigolion yn cefnogi’r bwriad, a busnesau ac ymwelwyr yn gwrthwynebu.

 

Diolchwyd i bob cyfrannwr am ddarparu barn a thystiolaeth ar:

·       Effaith economaidd bosibl ar fusnesau twristiaeth

·       Effaith ar ymwelwyr a phenderfyniadau teithio

·       Y defnydd mwyaf priodol o unrhyw incwm a gesglir

·       Effaith ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a’r Gymraeg

·       Sut y gellid gweithredu’r ardoll yn effeithiol yng Ngwynedd

·       Barn ar gefnogaeth I gyflwyno Cynnig Ardoll Ymwelwyr Gwynedd

 

Pwysleisiwyd yr angen i oedi cyn gwneud penderfyniad ar gyflwyno Ardoll Twristiaid yng Ngwynedd, er mwyn cael amser digonol i brosesu pob ymateb a chanfod y prif themâu sydd yn effeithio cymunedau. Nodwyd bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei wneud gyda gwybodaeth gyflawn ar gael.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mewn ymateb i ystyriaeth am amserlen benodol i ail-gyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn, eglurodd yr Aelod Cabinet nad oes amserlen bendant wedi cael ei lunio hyd yma, gan bwysleisio’r angen i sicrhau bod amser digonol yn cael ei roi i bwyso a mesur cynnwys pob ymatebiad. Ystyriwyd bod awdurdodau lleol cyfagos eisoes wedi dod i benderfyniad ar y mater, ond teimlwyd bod angen arafu’r broses yma er mwyn cael y darlun llawn. Derbyniwyd sylwad gan Aelod y byddai hyn yn gyfle da i edrych ar unrhyw arfer dda a phenderfyniadau o awdurdodau cyfagos, er mwyn sicrhau bod y penderfyniad a gweithdrefnau cywir yn cael eu mabwysiadu yng Ngwynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.   

 

Cytunwyd i dderbyn adroddiad cyflawn i benderfynu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2025-26 pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

Nodwyd y Polisi Diogelu diwygiedig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a Chadeirydd y Panel Strategol Diogelu, Y Cynghorydd Dewi Jones, gan gadarnhau mai pwrpas yr adroddiad yw darparu diweddariad ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn y Panel Strategol Diogelu yn ystod 2025/26, a chyflwyno adolygiad ‘r polisi diogelu, i holl aelodau’r Cyngor.

 

Atgoffwyd bod yr adroddiad blynyddol hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Gofal ym mis Mehefin.

 

Nodwyd bod Gwaith y Panel yn uno Adrannau Plant a Chefnogi Teuluoedd, Oedolion Iechyd a Llesiant, Addysg ac elfennau o’r Adran Gwasanaethau Corfforaethol, er mwyn trafod materion sydd yn ymwneud â diogelu a sut mae gwarchod plant ac oedolion yn y ffordd orau bosib.

 

Diolchwyd i holl staff y Cyngor sydd wedi bod yn weithgar iawn o few neu dimoedd a gwasanaethau er mwyn cyflawni’r gwaith allweddol hwn.

 

Cydnabuwyd digwyddiadau sydd wedi dod i’r amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf. Hyderwyd bod gweithdrefnau wedi cael eu haddasu, gan sicrhau bod sawl agwedd o’r maes diogelu yn fwy gwydn. Pwysleisiwyd ar yr angen i sicrhau bod yr addasiadau hyn yn gwreiddio ac yn cael dylanwad gwirioneddol ar weithrediad a diwylliant y Cyngor I’r dyfodol. Nodwyd bod y newidiadau hyn wedi deillio yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a datganwyd yr angen i sicrhau bod y newidiadau hyn yn llwyddo, er mwyn darparu cyfiawnder i’r unigolion hynny oedd wedi cael eu cam-drin dan ofal Pennaeth ysgol yng Ngwynedd. Credir byddai hyn yn sicrhau y byddai’n lleihau unrhyw risgiau y byddai achos cyffelyb yn digwydd eto yn y dyfodol.

 

Manylwyd ar rai o lwyddiannau sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn 2025/26 megis:

·       Mae 75.9% o staff y Cyngor wedi cwblhau’r Hyfforddiant Diogelu (cynnydd o 39.5%)

·       Mae 100% o ysgolion Gwynedd wedi cyflwyno Hyfforddiant diogelu i’r holl staff (cynnydd o 3%)

·       Mae 74.7% o staff y Cyngor wedi cwblhau’r Hyfforddiant VAWDASV (Violence Against Women, Domestic Assault and Sexual Violence) (cynnydd o 15.2%).

 

Fodd bynnag, cydnabuwyd bod cynnydd i weld mewn niferoedd o gyfeiriadau diogelu oedolion (792 - cynnydd o 42) a chyfeiriadau diogelu plant (8,069 - cynnydd o 284). Mynegwyd tristwch bod camdriniaeth yn parhau i fodoli o fewn Cymdeithas, ond amlygwyd ei fod yn amlygu pwysigrwydd yr hyfforddiant allweddol ac i godi ymwybyddiaeth o’r Cymorth sydd ar gael.

 

Mynegwyd balchder bod gwelliant mewn amseroedd ymateb i geisiadau, er bod cynnydd yn y galw am gefnogaeth. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod y cynnydd yn y galw am Adnoddau yn rhoi adnoddau’r gwasanaethau dan straen, gan egluro bod hyn yn her estynedig yn genedlaethol. Ymfalchïwyd bod Cyngor Gwynedd wedi Buddsoddi £600,000 ychwanegol i wasanaethau hollbwysig eleni, gan hefyd ddiolch I Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ychwanegol.

 

Tynnwyd sylw bod fersiwn hawn i’w ddeall o’r adroddiad, er mwyn cynnwys gwybodaeth mewn amrywiol dulliau er mwyn sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pawb.

 

Adroddwyd bod y polisi diogelu wedi cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2025-26 pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

Cofnod:

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar waith y Pwyllgorau Craffu, yn hytrach na manylu ar bynciau unigol a drafodwyd o fewn y Pwyllgorau hynny.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Fforwm Craffu ar gyfer 2025/26.

 

Atgoffwyd mai pwrpas Craffu yng Ngwynedd yw cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i drigolion Gwynedd. Nodwyd yr angen i’r Pwyllgorau Craffu fod yn ffrind beirniadol i’r Cabinet, gofyn cwestiynau anodd, gwrando ar brofiadau trigolion lleol a chyflwyno argymhellion a ellir arwain at newid.

 

Adroddwyd bod 43 o eitemau wedi eu Craffu yn ystod 2025/26. Nodwyd bod 44 o Aelodau yn rhan o’r gwaith Craffu hwnnw.

Darparwyd enghreifftiau i dystiolaethu’r gwahaniaeth mae Craffu yn ei gael yng Ngwynedd:

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi:

 

·       Wrth graffu Strategaeth Ysgolion, gofynnodd yr aelodau i gryfhau’r agweddau diogelu, tlodi, tegwch cymdeithasol, llais rhieni, llais staff, llywodraethant a’r Gymraeg.

·       Wrth graffu’r Cynllun Twf, mynegwyd pryder am gyflymder araf datblygiad cynlluniau yn ogystal â’r gwahaniaeth buddsoddiad rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Nodwyd bod yr aelodau wedi gofyn i adroddiadau’r dyfodol amlygu’n gliriach y niferoedd o swyddi sydd wedi eu creu yn benodol yng Ngwynedd.

·       Wrth graffu’r Gyfundrefn Addysg Drochi, gofynnodd yr aelodau am ystyriaeth bellach i hyd y ddarpariaeth, lles disgyblion a’r posibilrwydd o ddychwelyd ac 5 diwrnod yn y canolfannau.

·       Wrth graffu’r Ardoll Twristiaid, pwysleisiodd yr Aelodau’r angen am ymgynghori trylwyr ac eglurder ar sut bydd unrhyw incwm yn cael ei wario.

·       Ffurfiwyd Grŵp Tasg a Gorffen i graffu’n fanylach ar Bolisi Iaith Addysg Drafft. Cadarnhawyd bod y gwaith hwnnw wedi cyfrannu at ddiwygio geiriad y polisi, gan atgyfnerthu rôl y Gymraeg fel prif gyfrwng addysg ac amlygu’r disgwyliadau ar ysgolion.

 

Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

·       Wrth graffu’r Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, trafododd yr aelodau'r angen i wella perfformiad a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru./ Ystyriwyd hefyd pwysigrwydd addysgu a hysbysu pwysigrwydd ail-gychu er mwyn annog unigolion i ailgylchu’n effeithiol.

·       Wrth graffu Teithiau Llesol, holiwyd cwestiynau am gynnal a chadw’r llwybrau, eu diogelwch ac ymholiadau ar sut mae barn pobl leol yn cael ei ystyried.

·       Ymfalchïwyd bod Aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cais i graffu trefniadau ariannu'r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur. Yn dilyn hyn, bu i’r Aelodau graffu llywodraethant a thryloywder y Cynllun cyn argymell i sicrhau mwy o Ymgysylltu gyda’r cyhoedd ac am fwy o wybodaeth ynghylch gwariant o fewn yr adroddiad blynyddol.

 

Pwyllgor Craffu Gofal

 

·       Wrth graffu trefniadau rhyddhau o’r Ysbyty, tynnwyd sylw y dylid unrhyw ddarpariaeth gynnwys trigolion sydd yn dychwelyd adref o ysbytai y tu hwnt i Wynedd. Nodwyd bod yr Aelodau wedi gofyn am adroddiad cynnydd i amlygu unrhyw newidiadau.

·       Wrth graffu Strategaeth Cadw Teuluoedd Gyda’I Gilydd, amlygwyd gwerth Cymorth cynnar i blant a theuluoedd gan hefyd dynnu sylw at y risgiau o ddibynnu ar grantiau tymor byr.

·       Amlygwyd bod yr Aelodau wedi trafod heriau lletyau neu ddigartrefedd sydd yn wynebu pobl ifanc sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

11.

RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD CAI LARSEN

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor hwn:

 

Yn nodi’r cynnydd yn nifer y cartrefi modur a faniau gwersylla sy’n defnyddio lleoliadau ar draws Gwynedd i barcio ac aros dros nos, gan gynnwys cilfannau, meysydd parcio, ardaloedd arfordirol a mannau prydferth;

 

Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall ymwelwyr sy’n defnyddio cartrefi modur a faniau gwersylla ei wneud i economi Gwynedd, ac yn croesawu ymwelwyr sy’n defnyddio cyfleusterau priodol ac sy’n parchu ein cymunedau a’n hamgylchedd;

 

Yn mynegi pryder, fodd bynnag, ynghylch achosion lle mae cerbydau’n aros am gyfnodau estynedig mewn mannau nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer hynny, gan feddiannu mannau parcio, achosi problemau i drigolion a defnyddwyr eraill, a rhoi pwysau ar rai o ardaloedd mwyaf sensitif a phoblogaidd y sir;

 

Yn nodi bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu safleoedd Arosfannau pwrpasol ar gyfer cartrefi modur, ond bod problemau parcio ac aros dros nos amhriodol yn parhau mewn nifer o leoliadau;

 

Yn cydnabod bod cyfyngiadau ar gapasiti ac adnoddau dynol y Cyngor yn gallu ei gwneud yn anodd gweithredu ym mhob lleoliad ar yr un pryd, ond nid yw’n derbyn y dylai diffyg capasiti i weithredu ym mhobman olygu na ellir mynd i’r afael â phroblemau amlwg a pharhaus mewn lleoliadau penodol.

 

Felly, mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet a’r Aelod Cabinet perthnasol i fynd i’r afael â’r problemau sy’n deillio o barcio ac aros dros nos amhriodol gan gartrefi modur a faniau gwersylla ar draws Gwynedd, ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i ddod â gwell rheolaeth ar y sefyllfa.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

Mae’r Cyngor hwn:

 

Yn nodi’r cynnydd yn nifer y cartrefi modur a faniau gwersylla sy’n defnyddio lleoliadau ar draws Gwynedd i barcio ac aros dros nos, gan gynnwys cilfannau, meysydd parcio, ardaloedd arfordirol a mannau prydferth;

 

Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall ymwelwyr sy’n defnyddio cartrefi modur a faniau gwersylla ei wneud i economi Gwynedd, ac yn croesawu ymwelwyr sy’n defnyddio cyfleusterau priodol ac sy’n parchu ein cymunedau a’n hamgylchedd;

 

Yn mynegi pryder, fodd bynnag, ynghylch achosion lle mae cerbydau’n aros am gyfnodau estynedig mewn mannau nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer hynny, gan feddiannu mannau parcio, achosi problemau i drigolion a defnyddwyr eraill, a rhoi pwysau ar rai o ardaloedd mwyaf sensitif a phoblogaidd y sir;

 

Yn nodi bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu safleoedd Arosfannau pwrpasol ar gyfer cartrefi modur, ond bod problemau parcio ac aros dros nos amhriodol yn parhau mewn nifer o leoliadau;

 

Yn cydnabod bod cyfyngiadau ar gapasiti ac adnoddau dynol y Cyngor yn gallu ei gwneud yn anodd gweithredu ym mhob lleoliad ar yr un pryd, ond nid yw’n derbyn y dylai diffyg capasiti i weithredu ym mhobman olygu na ellir mynd i’r afael â phroblemau amlwg a pharhaus mewn lleoliadau penodol.

 

Felly, mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet a’r Aelod Cabinet perthnasol i fynd i’r afael â’r problemau sy’n deillio o barcio ac aros dros nos amhriodol gan gartrefi modur a faniau gwersylla ar draws Gwynedd, ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i ddod â gwell rheolaeth ar y sefyllfa.

 

Cofnod:

 

A.    Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Cai Larsen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd.

 

Gosododd yr Aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi-

·       Nodwyd bod rhag o garafanau teithiol yn defnyddio cilfannau a meysydd parcio fel llefydd i aros dros nos a chyfnodau estynedig.

·       Nid yw’r cynnig yn erbyn cartrefi modur nac ymwelwyr, gan eu bod yn cyfrannu i’r economi leol. Nodwyd bod y cynnig yn amlygu’r angen iddynt ddefnyddio adnoddau sydd ar eu cyfer gan barchu’r ardaloedd maent yn ymweld â hwy.

·       Gobeithiai byddai’r cynnig hwn yn gwarchod buddiannau’r Cyngor, ymwelwyr cartrefi modur, ymwelwyr eraill a phobl leol.

·       Amlygwyd bod y broblem hon yn effeithio ar gymunedau ledled y Sir. Datganwyd nad yw darparu cyfleusterau yn ddigon, gan nodi’r angen am reolaeth a gorfodaeth resymol i gadarnhau cydymffurfiaeth.

·       Arweinir y broblem hon at sgil effeithiau eraill megis gwastraff yn cael ei adael ar ôl, pobl yn camddefnyddio’r ardal a thoiledau cemegol yn cael eu gwagio i afonydd. Golyga hyn fod y broblem yn cael effaith amgylcheddol, iechyd cyhoeddus ac yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywyd trigolion.

·       Atgoffwyd bod y Cyngor eisoes wedi Buddsoddi mewn arosfannau pwrpasol gyda chyfleusterau priodol, ond mae’r diffyg rheolaeth mewn mannau cyhoeddus am ddim, yn tanseilio’r buddsoddiad hwnnw. Ymhellach, mynegwyd annhegwch i fusnesau preifat sydd yn darparu’r cyfleusterau hyn.

·       Cydnabuwyd nad oes gan y Cyngor y capasiti i weithredu rheolaeth ym mhob lleoliad yn y Sir yn ddyddiol, ond pwysleisiwyd nad yw hynny yn sail i beidio rheoleiddio’r sefyllfa o gwbl.

·       Nodwyd os yw trigolion yn torri rheolau parcio, mae’n debygol bydd camau gorfodaeth yn cael eu cymryd. Er y dylid gweithredu’r trefniadau hyn, mae’n amlygu’r angen i gyflwyno rheolaeth gyffelyb ar gyfer carafanau teithiol.

·       Dymunir cyflwyno cynllun i fynd i’r afael â’r her, gan flaenoriaethu ardaloedd amgylcheddol sensitive a sefyllfaoedd ble mae effaith gwirioneddol ar fywydau trigolion lleol.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau gan nodi:

·       Mynegwyd bod Aelodau yn rhannu pryderon Y Cynghorydd Cai Larsen

·       Nodwyd nad oes gan y Cyngor digon o rym o fewn y maes hwn gan fod talu ffi am gamwedd parcio yn gallu costio llai na chostau defnyddio maes gwersylla.

·       Gofyn i Aelodau a Swyddogion ystyried sut mae awdurdodau eraill yn mynd i’r afael a’r her hon.

·       Cytunwyd byddai’r hyn a nodwyd yn y cynnig yn arwain at gydbwysedd rhwng trigolion ac ymwelwyr.

·       Pwysleisiwyd bod yr Aelodau yn gefnogol iawn o dwristiaeth o fewn yr Ardal.

·       Cadarnhawyd nad yw’r cynnig na’r gefnogaeth yn bwriadu erlid ymwelwyr sydd yn defnyddio carafanau teithiol, dim ond i reoleiddio’r defnydd a sicrhau diogelwch a thegwch.

·       Trafodwyd y diffiniadau ynghylch parcio a gwersylla, gan ystyried gall amlygu’r gwahaniaeth hyn fod yn ddefnyddiol wrth ystyried unrhyw weithrediad.

·       Cytunwyd gyda’r cysyniad o dargedu rheoleiddio a gorfodaeth mewn ardaloedd penodol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Mae’r Cyngor hwn:

 

Yn nodi’r cynnydd yn nifer y cartrefi modur a faniau gwersylla sy’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD PAUL ROWLINSON

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor

  • yn pryderu am y nifer o blant a phobl ifanc sy’n reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd cyhoeddus;
  • yn credu bod hyn yn peryglu diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio a diogelwch cerddwyr, yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg;
  • yn nodi bod e-sgwteri yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn destun yr un gofynion ag sy’n ofynnol ar gyfer cerbydau modur eraill, megis eu trwyddedu a’u hyswirio a’r angen i fod â thrwydded yrru i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus. O ganlyniad, ni ellir eu defnyddio yn gyfreithlon heblaw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr;
  • yn nodi bod e-sgwteri yn cael eu treialu gan lywodraeth y DG ac fe’u caniateir ar ffyrdd o fewn rhai ardaloedd ond nid yw’r un o’r rhain o fewn Gwynedd;
  • yn credu nad yw llawer o rieni a phobl ifanc yn sylweddoli bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn anghyfreithlon ac y gall yr heddlu atafaelu’r e-sgwter a chyflwyno adroddiad trosedd traffig sef ‘gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti’, gan arwain at ddirwy o £300 a 6 phwynt ar drwydded yrru’r gyrrwr.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd / pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae’r Cyngor

  • yn pryderu am y nifer o blant a phobl ifanc sy’n reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd cyhoeddus;
  • yn credu bod hyn yn peryglu diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio a diogelwch cerddwyr, yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg;
  • yn nodi bod e-sgwteri yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn destun yr un gofynion ag sy’n ofynnol ar gyfer cerbydau modur eraill, megis eu trwyddedu a’u hyswirio a’r angen i fod â thrwydded yrru i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus. O ganlyniad, ni ellir eu defnyddio yn gyfreithlon heblaw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr;
  • yn nodi bod e-sgwteri yn cael eu treialu gan lywodraeth y DG ac fe’u caniateir ar ffyrdd o fewn rhai ardaloedd ond nid yw’r un o’r rhain o fewn Gwynedd;
  • yn credu nad yw llawer o rieni a phobl ifanc yn sylweddoli bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn anghyfreithlon ac y gall yr heddlu atafaelu’r e-sgwter a chyflwyno adroddiad trosedd traffig sef ‘gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti’, gan arwain at ddirwy o £300 a 6 phwynt ar drwydded yrru’r gyrrwr.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd / pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

 

Cofnod:

A.    Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Paul Rowlinson o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd.

 

Gosododd yr Aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi-

·       Pwysleisiwyd bod sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael hwyl y tu allan i’w cartrefi yn bwysig iawn, ond bod nifer o bryderon wedi amlygu bod e-sgwteri yn gallu bod yn beryglus.

·       Adroddwyd bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn anghyfreithlon.

·       Pryderwyd bod rhai  e-sgwteri yn gallu teithio mor gyflym â 70mya, a bod adroddiadau o fwy nag un person yn eu defnyddio ar unwaith, a defnyddwyr yn aml ddim yn gwisgo helmed. Er nad yw’r e-sgwteri yn debygol o deithio mor gyflym â hynny, maent yn parhau i fod yn berygl, yn enwedig yn nwylo pobl ifanc a defnyddwyr dibrofiad.

·       Tynnwyd sylw at risg o berygl i drigolion eraill wrth i’r e-sgwteri gael eu defnyddio ar balmentydd, gan roi cerddwyr a phobl fregus mewn risg.

·       Diffiniwyd e-sgwteri fel cerbyd modur/mecanyddol, a olygir bod angen trwydded i’w gyrru, bod wedi eich yswirio a thalu trethiant cerbyd. Nid yw’n bosib cael yswiriant a thrwydded e-sgwteri ar hyn o bryd ac o’r herwydd, ni ddylent gael eu defnyddio ar ffyrdd a llwybrau cyhoeddus. Pwysleisiwyd nad yw’n anghyfreithlon prynu, berchen neu werthu e-sgwteri.

·       Yr unig fodd o’u defnyddio yn gyfreithiol yw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr.

·       Adroddwyd y gallai’r heddlu atal y sgwteri os byddent yn cael eu dal yn gyrru ar y ffyrdd, yn ogystal â rhoi hyd at 6 pwynt ar drwydded gyrru a £300 am ddefnyddio cerbyd heb ei drwyddedu ar ffyrdd cyhoeddus. Ymhelaethwyd nad oes gan nifer o ddefnyddwyr e-sgwteri drwydded yrru, a arweinir at drosedd ychwanegol o yrru cerbyd ar ffordd gyhoeddus heb drwydded, a byddai unrhyw bwyntiau cosb yn cael ei ychwanegu i’w trwydded pan fyddent gydag un.

·       Cadarnhawyd bod yr heddlu yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ac addysgu am e-sgwteri drwy ddefnydd cyfryngau cymdeithasol a phosteri er mwyn sicrhau diogelwch ar y ffyrdd.

·       Mynegwyd dyhead i’r Cyngor drefnu ymgyrch cyhoeddusrwydd i amlygu peryglon e-sgwteri, a’r ffaith nad yw’n bosib eu defnyddio’n gyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus. Rhannwyd dyhead i gydweithio gydag ysgolion y Sir i ategu’r neges honno.

·       Gofynnwyd i’r Cyngor gynnal trafodaethau gyda llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU I ofyn iddynt fynd i’r afael a’r her, gan nad oes gan y Cyngor bwerau uniongyrchol i ddatrys yr her genedlaethol hon. Cynigwyd rhai datrysiadau megis gwell rheoliadau, sicrhau bod rhybuddion yn cael ei nodi wrth eu prynu

 

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan Aelodau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Mae’r Cyngor

·       yn pryderu am y nifer o blant a phobl ifanc sy’n reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd cyhoeddus;

·       yn credu bod hyn yn peryglu diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio a diogelwch cerddwyr, yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg;

·       yn nodi bod e-sgwteri yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn destun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 142 KB

Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 2 Gorffennaf 2026 o’r Cyngor ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – er gwybodaeth:-

Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 2 Gorffennaf 2026 o’r Cyngor ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.